Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Profiad Morwr wedi'r Storm

Oddi ar Wicidestun
Y Gragen Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Hiraeth am Gymru

PROFIAD MORWR WEDI'R YSTORM.

WEDI'R ing, codi'r angor—a fwynhaf
Yn hedd prydferth oror;
Daw'r gwynfyd o'r eigionfor,
A llwyni mill yn y môr.


Nodiadau[golygu]