Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Trwsio'r Tô
Gwedd
← Hen Brofiad | Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill gan Humphrey Jones (Bryfdir) |
Llwybrau Mebyd → |
TRWSIO'R TO.
DAETH storom ddi-drugaredd
Dros Brydain ar ei hynt,
A rhuthro fel dialedd
Yn wallgof wnai y gwynt.
'Roedd miloedd o deuluoedd
Dros oriau'r nos yn drist;
A phawb yn son am nefoedd
A Duw ac Iesu Grist!
Caed llawer ty golygus
A'i dô yn deilchion mân;
A llawer bwth oedrannus
Yn ddellt, heb gorn na thân.
A thrannoeth pan ostegodd
Y gwynt fu'n siglo'r fro,
Ymroddai pawb arswydodd
Y storm i drwsio'r to.
Am "gysgod gwell "pa nifer
Bryderai 'dwn i ddim;
Rhy fyrr i ddweud ei phader
Yw hamdden oes mor chwim.
Yn nhreigl ein blynyddau
P'le bynnag byddo'n bro;
Mae'n ddoeth i bawb ar brydiau
Ymroi i drwsio'r tô.