Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Y Rhosyn

Oddi ar Wicidestun
Cyfarchiad yn Eisteddfod Caergybi Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Hen Ysgol Llwynygell

Y RHOSYN.

TEYRN yr erwau lliwgar
Ydwyt rosyn prid,
Swynion nef a daiar
Chwarddant drwy dy wrid;
Offrwm teyrnged iti
Gais y gwlith a'r chwa,
Ar dy ruddiau gwisgi
Olud heulwen ha'.

Perarogli'r awel
Wnei heb dâl na chlod;
Wrth dy wefus gwrel
Car y gloyn fod;
Ennill serch a sylw
Wnei heb sibrwd gair:
Rhagfarn syrth yn farw
Wrth dy orsedd aur.

Byw i roi dy hunan
Wnei mewn gwrid a gwên;
Treulio'th fywyd allan
Gei heb fyn'd yn hen;
Aros wedi edwi
Yw dy hanes di;
Mwynder haf adewi
Yn fy nghalon i.


Nodiadau

[golygu]