Neidio i'r cynnwys

Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill/Yr Alltwen

Oddi ar Wicidestun
Craig Oedrannus Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill

gan Humphrey Jones (Bryfdir)

Murmur y Gragen

"YR ALLTWEN."

YR ALLTWEN wladgar, hygar Gymreigydd,
Eilun y llenor, mae'i law yn llonydd.
Er troi o gynnes fynwes Eifionydd,
Gwalia a'i hudai o bellder gwledydd,
Tra fo ser Tir-fesurydd—Penbedw
Ga' weld ei enw dan glod awenydd.


Nodiadau[golygu]