Brut y Tywysogion (Ab Owen testun cyfansawdd)
← | Brut y Tywysogion (Ab Owen testun cyfansawdd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Brut y Tywysogion (Ab Owen) |
BRUT
y
TYWYSOGION.
CYF. 1.
Rhodri Mawr.
Hywel Dda
Llywelyn ab Seisyll.
Gruffydd ab Llywelyn.
Bleddyn ab Cynfyn.
Rhys ab Tewdwr.
Gruffydd ab Cynan
Gruffydd ab Rhys
Owen Gwynedd.
Owen Cyfeiliog.
Yr Arglwydd Rhys.
SWYDDFA "CYMRU." CAERNARFON.
RHAGYMADRODD
YSGRIFENNWYD Brut y Tywysogion tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ol pob tebyg yn mynachdy Ystrad Fflur yng Ngheredigion. Cronicl hanes y Cymry yw, o gwymp teyrnas y Brytaniaid, pan fu farw Cadwaladr Fendigaid yn 680, hyd fin cwymp tywysogaeth anibynnol y Cymry, pan laddwyd Llywelyn y Llyw Olaf, yn 1282.
Ceir cipolygon ar brif arwyr y Cymry,— megis Hywel Dda. Llywelyn ab Seisyll, Gruffydd ab Llywelyn, meibion Bleddyn ab Cynfyn. Gruffydd ab Cynan, Gruffydd ab Rhys. Owen Gwynedd, Owen Cyfeiliog, yr Arglwydd Rhys. Llywelyn Fawr, a Llywelyn y Llyw Olaf. Gwelir y gwahanol genhedloedd dyfod yn cyrraedd Cymru—y Saeson, y cynhedloedd duon, ac yn enwedig y Normaniaid a'r Ffleminiaid. A rhoir ambell air i ddweyd am ddyfodiad y mynachod gwynion i'r wlad. Ceir ambell drem, hefyd ar y werin a'i dioddef a'i hamynedd, yn enwedig yng Ngheredigion a Dyfed.
Cyfnod y tywysogion yn unig ddarlunnir yn y cronicl llawn a dyddorol hwn. Cyn hynny, yr oedd ysbryd ymherodraeth Rhufain megis yn teyrnasu arnynt o hyd; wedi hynny, cododd y werin i groesawu Owen Glyndŵr. Yn eu cestyll a'u hymladd a'u hela, rhai dyddorol oeddynt; tywysog, castell a mynachlog oedd tri hanfod bywyd llenyddol, llwyddiannus. difyr. Siaradent bron yr un Cymraeg drwy Gymru, anrhydeddid athrylith yn ogystal a grym. Gwelir nod uchaf eu gwareiddiad yn rhyddiaith y Mabinogion ac yng nghywyddau Dafydd ab Gwilym. Cedwir Brut y Tywysogion mewn cyfrol o lawysgrifau a elwir yn Llyfr Coch Hergest, eiddo Coleg yr Iesu, yn Llyfrgell y Bodleian, Rhydychen. Cyhoeddwyd ef yn 1860 gan y Master of the Rolls, dan olygiaeth Ab Ithel çyda dyfyniadau o lawysgrifau ereill,—dwy lawysgrif yr Hengwrt, llawysgrif Cotton a Llyfr Basing. Yn 1890 cyhoeddwyd ef drachefn, dan olygiaeth fwy manwl ac ysgolheigaidd Syr John Rhys a Dr. J. Gwenogfryn Evans. At yr argraffiad diweddaf yr a'r hanesydd a'r ysgolor.
A dyma argraffiad bychan newydd ar gyfer y llenor a'r werin, fel y gallo'r anysgedig ddarllen croniclau hynaf ei wlad. Newidiwyd ychydig ar yr iaith, er hynny nid cymaint ag a newidir ar lyfr Saesneg o'r un oed i'w wneud yn ddealladwy. Gadawyd ychydig hen eiriau da sydd erbyn hyn wedi cilio o Gymraeg ein dyddiau ni; ond esbonnir hwy ar ddiwedd yr ail gyfrol.
Cymer y gyfrol hon ni at yr Arglwydd Rhys, pan yn dywysog ieuanc yn dinistrio cestyll y Normaniaid, a'i haul ar godi. Yn y gyfrol nesaf[1] cawn weled tywysog Cymreig y canol oesoedd yn ei rym a'i urddas mwyaf yn Llywelyn Fawr. Yna gwelir achosion cwymp y tywysogion a chlirio lle i fywyd y werin rydd ddadblygu.
BRUT Y TYWYSOGION.
I.
Colli Teyrnas y Brytaniaid.
[i. Yr Eing! a'r Saeson oedd wedi goresgyn gwastadeddau Britannia yn ymosod ar fynyddoedd ei gorllewin. Offa rhwng Hafren a Gwy. ii. Y cenhedloedd duon yn ymosod o ochr y môr; marw Rhodri Mawr a Hywel Dda. iii. Diffyg undeb; ymdrech Llewelyn ab Seisyllt a Gruffydd ab Llewelyn. iv. Y Normaniaid yn dod.]
EDWAR ugain mlynedd a whechant oedd oed Crist pan fu y farwolaeth fawr drwy holl ynys Prydain. Ac o ddechreu byd hyd yna ydoedd blwydd yn eisieu o bedwar ugain mlynedd ac wyth cant a phum mil. Ac yn y flwyddyn honno y bu farw Cadwaladr Fendigaid, fab Cadwallon, fab Cadfan, brenin y Brytaniaid, yn Rhufain, y deuddegfed dydd o Fai, megis y proffwydasai Fyrddin cyn na hynny wrth Wrtheyrn Gwrtheneu. Ac o hynny allan y colles y Brytaniaid goron eu teyrnas, ac yr enillodd y Saeson hi.
Ac yn ol Cadwaladr y gwledychodd. Ifor, fab Alan frenin Llydaw, yr hon. a elwir Brytaen Fechan; ac nid megis brenin, namyn megis pennaeth neu dywysgog. A hwnnw a gynhelis lywodraeth ar y Brytaniaid wyth mlynedd a deugain; ac yna y bu farw.
Ac yna yn ol yntau y gwledychodd Rhodri Molwynog, Ac yn oes hwnnw y bu farwolaeth yn Iwerddon. Ac yna y crynodd y ddaear yn Llydaw. Ac yna y bu glaw gwaed yn Ynys Prydain ac Iwerddon. 690[2] oedd oed Crist yna. Ac yna y dymchwelodd y llaeth a'r ymenyn yn waed; a'r lleuad a ymchwelodd yn waedol liw.
700. Bu farw Elffryt, frenin y Saeson.
710. Bu farw Pipin Fwyaf, brenin. Ffreinc. Ac yna cyn oleued oedd y nos a'r dydd. Ac yna bu farw Osbric, brenin y Saeson. A chysegrwyd eglwys Llan Fihangel.
720. Yr haf tesog. Ac yna bu farw. Beli fab Elfin. A bu frwydyr Heilin yng Nghernyw, a gwaith Garthi Maelog, a chad Pencoed yn Neheubarth; ac yn y tair brwydr hynny y gorfu y Brytaniaid.
730. Bu frwydyr ym Mynydd Carn.
740. Bu farw Beda offeiriad. Ac yna bu farw Owen, brenin y Pictiaid.
750. Bu brwydyr rhwng y Brytaniaid a'r Pictiaid yng ngwaith Maesydog, a lladdodd y Brytaniaid Dalargan, brenin. y Pictiaid. Ac yna bu farw Tewdwr fab Beli. A bu farw Rhodri, brenin y Brytaniaid; ac Edbald, brenin y Saeson.
760. Bu brwydr rhwng y Brytaniaid a'r Saeson yng ngwaith Henffordd. A bu farw Dyfnwal fab Tewdwr.
770. Symudwyd Pasg y Brytaniaid, drwy orchymyn Elbod, gŵr i Dduw. Ac yna bu farw Ffernfail fab Idwal; a Chubert abad. A bu distryw y Deheubarthwyr gan Offa frenin.
780. Diffeithiodd Offa frenin y Brytaniaid yn amser haf.
790. Daeth y paganiaid gyntaf i Iwerddon. A bu farw Offa frenin; a Meredydd, brenin Dyfed. A bu frwydyr yn Rhuddlan.
800. Lladdodd y Saeson Garadog, brenin Gwynedd. A bu farw Arthen brenin Ceredigion. A bu diffyg ar yr haul. A bu farw Rhein frenin; a Chadell, brenin Powys; ac Elbod, archesgob Gwynedd.
810. Duodd y lleuad ddydd Nadolig. A llosged Mynyw. A bu farwolaeth yr anifeiliaid ar hyd ynys Prydain. A bu farw Owen fab Meredydd. A llosged Deganwy o dân myllt. A bu frwydyr rhwng Hywel a Chynan; a Hywel a orfu. Ac yna bu daran fawr; a gwnaeth lawer o losgfâu. A bu farw Tryflin fab Rhein; a llas Griffri, fab Cyngen, o dwyll Elise ei frawd. A gorfu Hywel o Ynys Fon, a gyrrodd Gynan ei frawd o Fon ymaith, gan ladd llawer o'i lu; ac eilwaith gyrrwyd Hywel o Fon. Bu farw Cynon frenin; a diffeithiodd y Saeson fynyddoedd. Eryri, a dygant frenhiniaeth Rhufoniog, A bu waith Llan Faes. A diffeithiodd Cenwlf frenhinaethau Dyfed.
PENMAEN MAWR.
820. Distrywiwyd castell Deganwy gan y Saeson. Ac yna dwg y Saeson frenhiniaeth Powys yn eu meddiant A bu farw Hywel.
830 Bu diffyg ar y lleuad yr wythfed. dydd o fis Rhagfyr. A bu farw Satubin, esgob Mynyw.
810. Gwledychodd Meurig esgob ym Mynyw. A bu farw Idwallon. A bu gwaith Cetyll. A bu farw Merfyn. A bu waith Ffinant. A llas Ithel, brenin Gwent, gan wyr Brycheiniog.
850. Llas Meurig gan y Saeson, a thagwyd Cyngen gan y cenhedloedd, a diffeithiwyd Mon gan y cenhedloedd duon. A bu farw Cyngen, brenin Powys, yn Rhufain. A bu farw Ionathal, tywysog Abergele.
860. Gyrrwyd Cadweitheu ymaith. A bu farw Cynan Fant Nifer. A diffaethiwyd Caer Efrog yng nghad Dubcynt.
870. Bu cad Cryn Onnen, a thorred. Caer Alclud gan y paganiaid. A boddes Gwgawn, fab Meurig, brenin Ceredigion. A bu waith Bangolau, a gwaith Menegyd ym Mon. A bu farw Meurig, esgob bonheddig a chymerth Lwmbert esgobaeth Fynyw. A boddes Dwrngarth frenin Cernyw. A bu waith duwSul ym Mon; a llas Rhodri a Gwriad ei frawd gan y Saeson. A bu farw Aedd fab Mellt.
880. Bu waith Conwy, i ddial Rhodri o Dduw.
890. Bu farw Subni, y doethaf o'r Ysgotiaid. Ac yna daeth y Normaniaid duon eilwaith i Gastell Baldwin. A bu farw Heinuth fab Bledri. Ac yna daeth Anarawd i ddiffeithio Ceredigion ac Ystrad Tywi. Ac yna diffeithiodd y Normaniaid Loegr, a Brycheiniog, a Morgannwg, a Gwent, a Buallt a Gwynllwg. Ac yna diffygiodd bwyd yn Iwerddon; canys pryfed o nef a ddigwyddodd, ar waith gwadd, a deu-ddant bob un, a'r rhai hynny a fwytaodd yr holl ymborth, a thrwy ympryd a gweddi y gwrthladdwyd. Ac yna bu farw Elstan frenin, ac Alfred frenin lwys.
900. Daeth Igmwnd i Ynys Fon, a chynhaliodd faes Rhos Meilon. Ac yna llas mab Merfyn gan y genedl, a bu farw Llywarth fab Hennyth, a llas pen Rhydderch fab Hennyth dduw-gwyl Bawl. A bu waith Dineirth, yn yr hwn y las Maelog Cam fab Peredur. Ac yna dilewyd Mynyw. A bu farw Gorchwyl esgob; a bu farw Corfog, brenin ac esgob holl Iwerddon, gŵr mawr ei grefydd a'i gardod. Mab i Gulenan a las o'i fodd mewn brwydr. A bu farw Cerwallt, fab Mureson frenin Lnangesy, o geugant ddiwedd. A bu farw Asser, arch esgob ynys Prydain, a Chadell fab Rhodri.
910. Daeth Other i ynys Prydain. Bu farw Anarawd fab Rhodri brenin y Brytaniaid. A diffeithiwyd Iwerddon a Mon gan bobl Dulyn. A bu farw Edelfilled frenhines. A las Clydog fab Cadell gan Feurig ei frawd. A bu farw Nereu esgob. A bu waith y Dinas Newydd.
920. Aeth Hywel Dda frenin, fab Cadell, i Rufain. A bu farw Elen.
930. Llas Gruffydd ab Owen gan wyr Ceredigion. A bu ryfel Brun. A bu farw Hennyrth fab Clydog a Meurig ei frawd. A bu farw Edelstan, brenin y Saeson.
940. Bu farw Abloyc frenin. A Chadell fab Arthfael a wenwynwyd. Ac Idwal fab Rhodri, ac Elised ei frawd, a las gan y Saeson. A bu farw Lwmbert, esgob Mynyw a fu farw. Ystrad Clwyd a ddiffeithiwyd gan y Saeson, A Hywel Dda fab Cadell frenin, pen a moliant yr holl Frytaniaid, a fu farw. A Chadwgan fab Owen a las gan y Saeson. Ac yna bu waith Carno, rhwng meibion Hywel a meibion Idwal.
950. Diffeithiodd Iago a Ieuaf, meibion Idwal, Ddyfed ddwy waith. Ac yna bu farw Dyfnwal a Rhodri, meibion Hywel. Ac yna bu lladdfa fawr rhwng meibion Idwal a meibion Hywel yng ngwaith Llanrwst. A llas Hir Mawr ac Anarawd gan y bobloedd; meibion oedd y rhai hynny i Wriad. Ac wedi hynny. diffeithiwyd Ceredigion gan feibion Idwal. A bu farw Edwyn fab Hywel, a boddes Haeardwr fab Merfyn. A las Congalch brenin Iwerddon, a Gwgawn fab Gwriad. A bu yr haf tesog. A bu dirfawr eira fis Mawrth, a meibion Idwal yn gwledychu. A diffeithiodd meibion Abloce Gaer Gybi a Lleyn.
960. Llas Idwal fab Rhodri. A llas meibion Gwynn. A diffeithiwyd y Tywyn gan y bobloedd. A bu farw Meurig fab Cadfan, a Rhydderch esgob, a Chadwallon fab Owen. Ac yna diffeithiodd y Saeson, ac Alfryd yn dywysog iddynt, frenhiniaethau meibion Idwal. A llas Rhodri fab Idwal, a diffeithiwyd Aberffraw. Ac wedi hynny delis Iago fab Idwal Ieuaf fab Idwal, ei frawd, a charcharwyd Ieuaf, ac wedi hynny ei croged. Ac yna diffeithwyd Gwyr gan Einion fab Owen; a diffeithiodd Marc fab Harold Benmon.
970. Diffeithiodd Gothrie fab Harold Fon, ac o fawr ystryw darostyngodd yr holl ynys. Ac yna cynhullodd Edward brenin y Saeson ddirfawr lynges hyd yng Nghaer Lleon ar Wysg. A gwrthladdwyd Iago o'i gyfoeth, a gwledychodd Hywel drwy fuddugoliaeth. A chlefychwyd Meurig fab Idwal, a bu farw Morgan. Ac yna bu farw Edgar, brenin y Saeson. Ac aeth Dwawallon, brenin Ystrad Clwyd, i Rufain. A bu farw Idwallon fab Einion. Ac eilwaith y diffeithiodd Einion Wyr. A diffeithiwyd Llwyn Celynog Fawr gan Hywel fab Ieuaf a'r Saeson. Ac yna daliwyd Iago. A gorfu Hywel fab Ieuaf, a goresgynwys Iago. A las Idwal. Ac wedi hynny diffeithiodd Cystenyn fab Iago a Gotbric fab Harold Leyn a Mon: ac wedi hynny llas Cystenyn fab Iago gan Hywel fab Ieuaf yn y frwydyr a elwir gwaith Hirbarth.
980. Diffeithiodd Gotbric fab Harold Ddyfed a Mynyw. A bu waith Llanwenog. Ac yna diffeithwyd Brycheiniog a holl gyfoeth Einon fab Owen gan y Saeson, ac Alfryd yn dywysog arnynt. A Hywel fab Ieuaf ac Einon a laddodd lawer o'i lu. Ac yna llas Einion fab Owen drwy dwyll gan uchelwyr Gwent. A bu farw bonheddig esgob. A lladdodd y Saeson Hywel fab Ieuaf drwy dwyll. A llas Ionafal fab Meurig, a Chadwallon fab Ieuaf a'i lladdodd. Cadwallon fab Ieuaf drwy fuddugoliaeth a oresgynnwys ei gyfoeth, nid amgen nag ynys Fon, a Meirionnydd a holl wladoedd Gwynedd o ddirfawr ystryw a challter a ddarestyngodd. Ac yna ysbeiliwyd Llywarch ab Owen o'i lygaid. A diffeithiodd Gotbric fab Harold, a'r llu du ganddo, ynys Fon. A dallwyd dwy fil o ddynion, a'r dryll arall onaddunt. a ddug Meredydd fab Owen gyd ag ef i Geredigion a Dyfed. Ac yna bu farwolaeth ar yr holl anifeiliaid yn holl ynys. Prydain. Ac yna bu farw Ieuaf fab Idwal, ac Owen fab Hywel. A diffeithiodd y cenhedloedd Lanbadarn a Mynyw a Llanilltyd a Llanforgan a Llandudoch. Ac yna llas mab Abloce. A thalodd Meredydd, yn deyrnged i'r cenhedloedd duon, geiniog o bob dyn. A bu dirfawr farwolaeth ar y dynion rhag newyn. Llas Owen fab Dyfnwal. Diffeithiodd Meredydd Faesyfed.
990. Diffeithiodd Edwin fab Einon ac Eclis fawr, tywysog y Seis oddiar foroedd y dehau, holl frenhiniaethau Meredydd, nid angeu Dyfed, a Cheredigion, a Gwyr, a Chydweli; ac eilwaith cymnerth wystlon o'r holl gyfoeth: a'r drydedd waith diffeithiodd Fynyw. A Meredydd a huriodd y cenhedloedd a ddaethant yn eu hewyllys gydag ef, a diffeithiodd wlad Forgan; a Chadwallon ei fab a fu farw. Yna dwg meibion Meurig gyrch byd yng Ngwynedd, a diffeithiwyd ynys Fon gan y cenhedloedd dduw-Iau Dyrchafael. Yna bu dirfawr newyn yng nghyfoeth Meredydd. A bu frwydr rhwng meibion Meurig a Meredydd yn ymyl Llangwm, a gorfu feibion Meurig: ac yno llas Tewdwr fab Einon. Ac yna diffeithiwyd Manaw gan Yswein fab Harold. A llas Idwal fab Meurig. A diffeithiwyd Arthmarcha. A llosged a dibobled Mynyw gan y cenhedloedd; a llas Morgeneu esgob ganddynt. A bu farw Meredydd fab Owen, y clodforusaf frenin y Brytaniaid.
1000. Diffeithiwyd Dulyn gan yr Ysgotiaid. A gwledychodd Cynan fab Hywel yng Ngwynedd. A diffeithiodd y cenhedloedd Ddyfed. A bu farw Morgan fab Gwyn, ac Ifor Porth Talarthi. Ac wedi hynny llas Cynan fab Hywel. A dallwyd Gwliach a Gwriad.
1010. Diffeithiwyd Mynyw gan y Saeson, nid amgen gan Eutris ac Ubis. A bu farw Haearndrud, mynach o Enlli. Ac yna daeth Yswein fab Harold i Loegr, a gyrrodd Eldryd fab Edgar o'i deyrnas, a gwledychodd yn ei gyfoeth, yn yr hwn y bu farw yn y flwyddyn honno. Ac yna cyffroes Brian, brenin holl Iwerddon, a Mwrchath ei fab, a lliaws o frenhinoedd ereill, yn erbyn Dulyn, y lle yr oedd Sitruc fab Abloce yn frenin. Ac yn eu herbyn daeth gwyr Largines, a Mael Mordaf yn frenin arnaddynt, ac ymarfoll a orugant yn erbyn Brian frenin. A huriodd Sitruc gant yn erbyn Brian frenin, ac yna huriodd Sitruc longau hirion arfog, yn gyflawn o wyr llurygog, a Derotyr yn dywysog arnaddynt. Ac wedi bod brwydyr rhyngddynt, a gwneuthur aerfa o bob tu, llas Brian a'i fab o'r naill du, a thywysog y llongau a'i frawd a Mael Morda
MYNACHLOG BASIN.
frenin o'r tu arall. Ac yna llas Owen fab Dyfnwal. Ac yna goresgynodd Cnut fab Yswein frenhiniaeth Loegr a Denmarc a Germania. Ac yna llas Aedan fab Blegywryd, a'i bedwar meib, gan Lywelyn fab Seisyll. A llas Meurig fab Arthfael.
Yna dychmygodd neb un Ysgot yn gelwydd ei fod yn fab i Feredydd frenin, a mynnodd ei alw ei hun yn frenin. A chymerth gwyr y deheu ef yn arglwydd ac i deyrnas, a henw un Rhein. Ac yn ei erbyn rhyfelodd Llywelyn fab Seisyll, goruchel frenin Gwynedd, a phennaf a chlodforusaf frenin o'r holl Frytaniaid. Yn ei amser ef y gnotai hynafiaid. y deyrnas ddywedyd fod ei gyfoeth ef, o'r môr bwygilydd, yn gyflawn o amlder da a dynion, hyd na thebygid bod na thlawd nac eisiwedig yn ei holl wladoedd, na thref wag na chyfle diffyg. Ac yna dug Rhein Ysgot lu yn ddilesg; a herwydd defod yr Ysgotiaid, yn falch syberw, annog a wnaeth ei wyr i ymladd, ac yn ymddiriedus addaw a wnaeth iddynt mai ef a orfyddai. Ac ymgyfarfod a orug yn eofn a'i elynion, ac hwyntau yn wastad ddiofn a orusant y chwyddedig drahaus anogwr hwnnw. Ac yntau yn hy ddiofn a gyrchodd y frwydyr, ac wedi gweithio y frwydyr a gwneuthur cyffredin aerfa o bobtu, a gwastad ymladd, drwy lewder y Gwyndyd, yna y gorfuwyd Rein Ysgot a'i lu. A herwydd y dywedir yn y ddibareb "Annog dy gi ac nac erlid," ef a gyrchodd yn lew eofn, ac a giliodd yn waradwyddus o lwynogol ddefod. A'r Gwyndyd yn llidiog a'i hymlynodd, drwy ladd ei lu a diffeithio ei wlad, ac ysbeilio pob man, a'u distryw hyd y Mars, ac nid ymddanghoses yntau byth o hynny allan. A'r frwydr honno a fu yn Aber Gwili.
Ac wedi hynny daeth Eilad i ynys Prydain, a diffeithiwyd Dyfed, a thorred Mynyw. Ac yna bu farw Llywelyn fab Seisyll; a chynhaliodd Rhyddereli fab Iestin lywodraeth y Deheu. Ac yna bu farw Morgeneu esgob. A llas Cynan fab Seisyll.
1030. Llas Rhydderch fab Iestin gan yr Ysgotiaid. Ac yna cynhaliodd Iago fab Idwal lywodraeth Gwynedd wedi Llywelyn fab Seisyll. A Hywel a Meredydd, feibion Edwin, a gynhalasant lywodraeth y Dehau. Ac yna bu waith Hiraethwy rhwng meibion Edwin gan feibion Cynan. A Charadog fab Rhydderch a las gan y Saeson. Ac yna bu farw Cnut fab Yswein, frenin Lloegr a Denmarc a Germania; ac wedi ei farw ef y ffoes Eilaf hyd yn Germania. Ac yna delis y cenhedloedd Feurig fab Hywel, a llas Iago frenin Gwynedd; ac yn ei le yntau gwledychodd Gruffydd fab Llywelyn ab Seisyll, a hwnnw, o'i ddechreu hyd y diwedd, a ymlidiodd y Saeson a'r cenhedloedd ereill, ac a'u lladdodd, ac a'u difaodd, ac o luosogrwydd o ymladdau a'u gorfu. Y frwydyr gyntaf a wnaeth yn Rhyd y Groes ar Hafren, ac yno y gorfu ef. Y flwyddyn honno y dibobles ef Lanbadarn, ac y cynhelis ef lywodraeth Deheubarth, ac y gwrthladdodd Hywel fab Edwin o'i gyfoeth. Ac yna bu farw Henrim, esgob Mynyw. Ac yna bu waith Pencader, a gorfu Ruffydd ar Hywel, a delis ei wraig, ac a'i cymerth yn wraig iddo ei hun.
1040. Bu frwydr Pwll Dyfach, ac yno y gorfu Hywel y cenhedloedd a oeddynt yn diffeithio Dyfed. Yn y flwyddyn delit Gruffydd gan genhedloedd Dulyn. Ac yna bu farw Hywel fab Edwin, brenin gwlad Forgan, yn ei henaint. Ac yna meddyliodd Hywel fab Edwin ddiffeithio Deheubarth, a llynges o genedl Iwerddon gydag ef, ac yn ei erbyn y gwrthwynebodd iddo Ruffydd ab Llywelyn. Ac wedi bod creulawn frwydr a dirfawr aerfa ar lu Hywel a'r Gwyddyl yn Aber Tywi, y digwyddodd Hywel ac y llas; ac yna gorfu Ruffydd. Ac yna bu farw Ioseff, esgob Teilo, yn Rhufain. A bu dirfawr dwyll gan Ruffydd a Rhys, meibion Rhydderch, yn erbyn Gruffydd fab Llywelyn. Ac yna digwyddodd amgylch saith ugeinwyr o deulu Gruffydd, drwy dwyll gwyr Ystrad Tywi, ac i ddial y rhai hynny y diffeithiodd Gruffydd Ystrad Tywi a Dyfed. Ac yna bu dirfawr eira duw-Calan Ionawr, a thrigodd hyd wyl Badrig. A bu ddiffaith holl Ddeheubarth.
1050. Pallodd llynges o Iwerddon yn dyfod i Ddeheubarth. Ac yna lladdodd Gruffydd fab Llywelyn Ruffydd fab Rhydderch. Ac wedi hynny cyffroes Gruffydd ab Llywelyn lu yn erbyn y Saeson, a chyweirio byddinoedd yn Henffordd; ac yn ei erbyn cyfodes y Saeson, a dirfawr lu ganddynt, a Rheinwlff yn dywysog arnynt: ac ymgyfarfod a orugant, a chyweirio byddinoedd, ac ymbarotoi i ymladd; a'u cyrchu a wnaeth Gruffydd yn ddiannod, a byddinoedd cyweir ganddo; ac wedi bod brwydyr chwerwdost, a'r Saeson heb allel goddef cynnwrf y Brytnaiaid, a ymchwelasant ar ffo, ac o ddirfawr laddfa y digwyddasant. A'u ymlid yn lud a wnaeth Gruffydd i'r gaer, ac i mewn y doeth, a dibobli y gaer a wnaeth, thorri, a llosgi y dref; ac oddyna, gyda dirfawr anrhaith ac ysbail, ymchwelodd i'w wlad yn hyfryd fuddugol. Ac yna daeth Magnus fab Harold, brenin Germania, i Loegr, a diffeithiodd frenhiniaethau y Saeson, a Gruffydd frenin y Brytaniaid yn dywysog ac yn gynhorthwy iddo. Ac yna bu farw Owen fab Gruffydd.
1060. Digwyddodd Gruffydd fab Llywelyn, pen a tharian ac amddiffynnwr y Brytaninid, drwy dwyll ei wyr ei hun. Y gŵr a fuasai anorchfygedig cyn na hynny, yr awr hon a adewid mewn glynnau difeithion, wedi dirfawrion anrheithiau, a difesuredigion fuddugolaethau, ac aneirif oludoedd aur ac ariant a gemau a phorfforolion wisgoedd. Ac yna bu farw Ioseff, esgob Mynyw. A bu farw Dwnchath fab Brian yn myned i Rufain. Ac yna meddyliodd Harold frenin Denmarc ddarostwng y Saeson; yr hwn a gymerth Harold arall, fab Godwin iarll, iarll a oedd frenin yna yn Lloegr, yn ddirybudd ddiarf, ac o ddisyfyd ymladd drwy wladol dwyll a'i trewis i'r llawr oni fu farw. A'r Harold hwnnw, a fuasai iarll yn gyntaf, trwy greulonder wedi marw Edward frenin a enillodd yn anyledus uchelder teyrnas Lloeger. A hwnnw a ysbeiliwyd o'i deyrnas a'i fywyd gan Wilym bastard, tywysog Normandi, cyd bocsachai a'r fuddugoliaeth cyn na hynny. A'r Gwilym hwnnw, drwy ddirfawr frwydyr, a amddiffynnodd deyrnas Loeger o anorchfygedie law a'i fonheddicaf lu. Ac yna bu waith Mechen, rhwng Bleddyn a Rhiwallon feibion Cynfyn, a Meredydd ac Ithel feibion Gruffydd. Ac yna digwyddodd meibion Gruffydd; Ithel a las yn y frwydyr, a Meredydd a fu farw o annwyd yn ffo. Ac yno llas Rhiwallon fab Cynfyn. Ac yna cynhelis Bleddyn fab Cynfyn Gwynedd a Phowys, a Meredydd fab Owen fab Edwin a gynhnelis Ddeheubarth.
1070. Llas Meredydd fab Owen gan Garadog fab Gruffydd fab Rhydderch o'r Ffreinc, ar lan afon Rymni. Ac yna llas Macmael Nimbo clodforusaf a chadarnaf frenin y Gwyddyl, o ddisyfyd frwydr; y gŵr a oedd aruthr wrth ei elynion, a hynaws i giwdawdwyr, a gwâr wrth bererinion a dieithriaid. Yna diffeithiodd y Ffreinc Geredigion a Dyfed, a Mynyw a Bangor a ddiffeithiwyd gan y cenhedloedd. Ac yna bu farw Bleiddud esgob Mynyw, a chymerth Sulien yr esgobawd. Yna eilwaith diffeithiodd y Ffreinc Geredigion. Ac yna llas Bleddyn fab Cynfyn gan Rys ab Owen, drwy dwyll drwg ysbrydolion benaethau ac uchelwyr Ystrad Tywi; y gŵr a oedd, wedi Gruffydd ei frawd, yn cynnal yn ardderchog holl deyrnas y Brytaniaid. Ac yn ei ol yntau gwledychodd Trahaearn fab Caradog ei gefnder ar deyrnas y Gwyndyd, a Rhys ab Owen a Rhydderch fab Caradog a gynhalasant Ddeheubarth. Ac yna ymladdodd Gruffydd fab Cynan wyr Iago a Mon, a lladdodd y Gwyndyd Gynwrig fab Rhiwallon. Ac yna bu frwydyr yng Nghamddwr rhwng Goronw a Llywelyn meibion Cadwgan a Charadog fab Gruffydd gydag hwynt, a Rhys fab Owen a Rhydderch fab Caradog gyda'r rhai hynny hefyd. Yn y flwyddyn honno y bu brwydr Bron yr Erw, rhwng Gruffydd a Thrahaearn. Ac yna llas Rhydderch fab Caradog gan Feirchion fab Rhys fab Rhydderch ei gefnder drwy dwyll. Ac yna bu frwydr Gwenotyll rhwng meibion Cadwgan a Rhys fab Owen a Rhydderch fab Caradog, y rhai a orfuant eilwaith. Ac yna bu frwydyr Pwll Gwdyg, ac yna gorfu Trahaearn, brenin Gwynedd, a dialodd waed Bleddyn fab Cynfyn drwy rad Duw, yr hwn a fu waraf a thrugarocaf o'r brenhinoedd: ac nid argyweddai i neb oni chodid; a phan godid, o'i anfodd y dialai yntau ei godiant; gwâr oedd wrth ei geraint, ac amddiffynnwr amddifaid a gweinion a gweddwon, a chadernid y doeth, ac anrhydedd a grwndwal yr eglwysau, a diddanwch y gwladoedd, a hael wrth bawb; aruthr yn rhyfel a hygar ar heddwch, ac amddiffyn i bawb. Ac yna y digwyddodd holl deulu Rhys, ac yntau yn ffoadur, megis carw ofnog ymlaen y milgwn drwy y perthi a'r creigiau. Ac yn niwedd y Awyddyn llas Rhys ap Hywel ei frawd gan Garadog ab Gruffydd. Ac yna gedewis Sulien ei esgobawd, ac y cymerth Abraham
UWCHBEN Y GELYN.
ii.
Y Barwniaid Normanaidd.
[Marw William I. a Rhys ab Tewdwr. Ymdrech rhwng y barwniaid Normanaidd oedd yn ceisio ennill tir yng Nghymru, y tywysogion Cymreig oedd yn amddiffyn eu gwlad ac yn ymladd â'u gilydd, a brenin Lloegr oedd yn coisio estyn ei deyrnwialen dros dywysog a barwn. Prin y daw Gruffydd ab Cynan i'r golwg, meibion Bleddyn ab Cynfyn wibia o'n blaenau yn y bennod hon. Ymadawiad Robert Belesmo a dyfodiad y Fflandrwys.]
1080. Gedewis Sulien ei esgobawd y drydedd waith, a chymerodd Wilffre hi. Ac yna bu farw Gwilym fastard, tywysog y Normaniaid a brenin y Saeson a'r Brytaniaid a'r Albanwyr, wedi digon o ogoniant a chlod y llithredig fyd yma, ac gogoneddusion fuddugoliaethau ac rhydedd o oludoedd; ac wedi ef y gwledychodd Gwilym Goch ei fab. Ac yna gwrthladdwyd Rhys fab Tewdwr o'i gyfoeth a'i deyrnas gan feibion Bleddyn fab Cynfyn, nid amgen Madog a Chadwgan a Rhirid; ac yntau a giliodd i Iwerddon. Ac yn y lle wedi hynny cynhullodd lynges ac ymchwelodd drachefn. Ac yna bu frwydyr Llych Crei, a llas meibion Bleddyn, a rhoddes Rhys ab Tewdwr ddirfawr swllt i'r llyngheswyr, Ysgotiaid a Gwyddyl, a ddaethent yn borth iddo. Ac yna dygpwyd ysgrin Dewi yn lladrad o'r eglwys, ac ysbeiliwyd yn llwyr yn ymyl y ddinas. Ac yna crynodd y ddaear yn ddirfawr yn holl ynys Brydain. Ac yna bu farw Sulien esgob Mynyw, y doethaf o'r Brytaniaid, ac ardderchog o grefyddus fuchedd, wedi clodforusaf ddysgeidiaeth ei ddisgyblion a chraffaf ddysg ei blwyfau, y pedwar ugeinfed flwyddyn o'i oes, a'r unfed eisieu o ugain o'i gysegredigaeth nos galan Ionawr. Ac yna torred Mynyw gan genedl yr ynysedd. A bu farw Cadifor fab Collwyn. A Llywelyn a'i fab a'i frodyr a wahawddasant Ruffydd fab Meredydd, ac yn ei erbyn yr ymladdodd Rhys ab Tewdwr ac a'i gyrrodd ar ffo, ac yn y diwedd ei lladdodd.
1090. Llas Rhys ab Tewdwr, brenin Deheubarth, gan y Ffreinc a oedd yn preswylio Brycheiniog. Ac yna digwyddodd teyrnas y Brytaniaid. Ac yna ysbeiliodd Cadwgan fab Bleddyn Ddyfed yr eilddydd o Fai. Ac oddyna, ddeufìs wedi hynny, amgylch calan Gorffenna, y daeth y Ffreinc i Ddyfed a Cheredigion, y rhai a'i cynhaliasant eto, ac a gadarnhaesant y cestyll ar holl dir y Brytaniaid. Ac yna llas y Moel Cwlwm ab Dwnchath, brenin y Pictiaid a'r Albaniaid gan Ffreinc, ac Edward ei fab. Ac yna gweddiodd Margaret frenhines, gwraig y Moel Cwlwm, ar Dduw drwy ymddiried ynddo, wedi clybod lladd ei gŵr a'i mab, hyd na bei fyw hi yn y farwol fuchedd yma; a gwrando a orug Duw ei gweddi, canys erbyn y seithfed dydd y bu farw.
Ac yna aeth Gwilym Goch, brenin, yr hwn cyntaf a orfu ar y Saeson o glodforusaf ryfel, hyd yn Normandi, i gadw ac i amddiffyn teyrnas Robert ei frawd, yr hwn a athoedd hyd yng Nghaersalem i ymladd â'r Sasiniaid a chenhedloedd ereill anghyfiaith, ac i amddiffyn y Cristionogion, ac i haeddu mwy o glod. A Gwilym yn trigo yn Normandi, y gwrthladdodd y Brytaniaid lywodraeth y Ffreinc, heb allel goddef eu creulonder, a thorri y cestyll yng Ngwynedd, a mynychu anrheithiau a lladdfâu arnynt. Ac yna dug y Ffreinc luoedd hyd yng Ngwynedd, a'u cyferbynnu a orug Cadwgan fab Bleddyn, a'u cyrchu a gorfod arnynt, a'u gyrru ar ffo a'u lladd o ddirfawr laddfa. A'r frwydyr honno a wnaethpwyd yng Nghoed Yspwys. Ac yn niwedd y flwyddyn honno y torres y Brytaniaid holl gestyll Ceredigion a Dyfed, eithr dau, nid amgen Penfro a Rhyd y Gors. A'r bobl a holl anifeiliaid Dyfed a ddygant ganddynt, a gadaw a wnaethant Ddyfed a Cheredigion yn ddiffaeth.
1092. Diffeithodd y Ffreinc Gwyr a Chydweli ac Ystrad Tywi, a thrigodd y gwladoedd yn ddiffaeth. A hanner y cynhaeaf y cyffroes Gwilym frenin lu yn erbyn y Brytaniaid, ac wedi cymryd o'r Brytaniaid eu hamddiffyn yn y coedydd a'r glynnedd, ymchwelodd Gwilym adref yn orwag heb ennill dim.
1093. Bu farw Gwilym fab Baldwin, yr hwn rwndwaliodd gastell Rhyd y Gors. Ac yna gwrthladdodd Brytaniaid Brycheiniog a Gwent a Gwenllwg arglwyddiaeth y Ffreinc. Ac yna cyffroes y Ffreinc lu i Went, ac yn orwag heb ennill dim yr ymchwelasant, ac eu llas yn ymchwelyd drachefn gan y Brytaniaid yn y lle a elwir Celli Carnant. Wedi hynny y Ffreinc a gyffroasant lu y Brytaniaid, a meddwl diffeithio yr holl wlad; heb allu cwblhau eu meddwl, yn ymchwelyd drachefn, eu llas gan feibion Idnerth fab Cadwgan, Gruffydd ac Ifor, yn y lle a elwir Aber Llech. A'r ciwdadwyr a drigasant yn eu tai yn dioddef yn ddiofn, er fod y cestyll eto yn gyfan, a'r castellwyr ynddynt Yn y flwyddyn honno y cyrchodd Uchtryd fab Edwin a Hywel fab Goronw, a llawer o benaethau ereill gyda hwynt, ac ymladd o deulu Cadwgan fab Bleddyn gastell Penfro, a'u hyspeilio o'u holl anifeiliaid, a diffeithio yr holl wlad, a chyda dirfawr anrhaith yr ymchwelasant adref.
1094. Diffeithiodd Geralt ystiwart, yr hwn y gorchymynasid iddo ystiwardiaeth castell Penfro, derfynau Mynyw. Ac yna yr eil waith cyffroes Gwilym frenin Lloegr aneirif o luoedd a dirfawr feddiant a gallu yn erbyn y Brytaniaid. Ac yna gochelodd y Brytaniaid eu cynnwrf hwynt, heb obeithio ynddynt eu hunain, namyn gan osod gobaith yn Nuw, creawdwr pob peth, drwy ymprydio a gweddio a rhoddi cardodau a chymryd garw bennyd ar eu cyrff. Gan ni lefasai y Ffreinc gyrchu y creigiau a'r coedydd, namyn gwibio yng ngwastadion feusydd. Yn y diwedd, yn orwag yr ymchwelasant adref, heb ennill dim. A'r Brytaniaid yn hyfryd ddigrynedig a amddiffynasant eu gwlad.
1095. Cyffroes y Ffreinc luoedd y drydedd waith yn erbyn Gwynedd, a dau dywysog yn eu blaen, a Hu iarll Amwythig yn bennaf arnynt. A phabellu a orugant yn erbyn ynys Fon. A'r Brytaniaid, wedi cilio i'r lleoedd cadarnaf iddynt o'u gnotedig ddefod, a gawsant yn eu cyngor achub Mon. A gwahodd atynt wrth amddiffyn iddynt, llynges ar for o Iwerddon, drwy gymryd eu rhoddion a'u gwobrau gan y Ffreinc. Ac yna gedewis Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Cynan ynys Fon, a chiliasant i Iwerddon, rhag ofn twyll eu gwyr eu hunain. Ac yna daeth y Ffreinc i mewn i'r ynys, a lladdasant rai o wyr yr ynys. Ac fel yr oeddynt yn trigo yno, daeth Magnus brenin Germania, a rhai o'i longau ganddo, hyd ym Mon; drwy obeithio caffel goresgyn ar wladoedd y Brytaniaid. Ac wedi clybot o Fagnus frenin y Ffreinc yn mynych feddylio diffeithio yr holl wlad, a'i dwyn hyd ar ddim, dyfrysio a orug i eu cyrchu. Ac fel yr oeddynt yn ymsaethu, y naill rai o'r môr a'r rhai ereill o'r tir, brathwyd Hu iarll yn ei wyneb,ac o law y brenin ei hun yn y frwydyr y digwyddodd. Ac yna gadewis Magnus frenin, trwy ddisyfyd gyngor, derfynau y wlad. A dwyn a orug y Ffreinc oll, a mawr a bychan, hyd ar y Saeson. Ac wedi na allai y Gwyndyt oddef cyfreithiau a barnau a thrais y Ffreinc arnynt, cyfodi a orugant eilwaith yn eu herbyn, ac Owen ab Edwin yn dywysog arnynt, y gŵr a ddygasai y Ffreinc gynt i Fon.
1096. Ymchwelodd Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Cynan o Iwerddon. Ac wedi heddychu â'r Ffreinc onaddynt, rhan o'r wlad a achubasant Cadwgan fab Bleddyn a gymerth Geredigion a chyfran o Bowys, a Gruffydd a gafas Fon.
Ac yna llas Llywelyn fab Cadwgan gan wyr Brycheiniog. Ac aeth Hywel fab Ithel i Iwerddon.
Y flwyddyn honno bu farw Rhychmarch Ddoeth, mab Sulien esgob, y doethaf o ddoethion y Brytaniaid, y drydedd flwyddyn a deugain o'i oes, y gŵr ni chyfododd yn yr oesoedd cael ei gyffelyb cyn nag ef, ac nid hawdd credu na thebygu cael ei gyfryw wedi ef; ac ni chawsai ddysg gan arall erioed eithr gan ei dad ei hun. Wedi addasaf anrhydedd ei genedl ei hun, ac wedi clodforusaf ac adnewyddusaf ganmol y cyfnesafion genhedloedd, nid amgen Saeson a Ffreinc a chenhedloedd
DYFFRYN EDEYRNION AC EGLWYS CORWEN.
ereill o'r tu draw i for, a hynny drwy gyffredin gwynfan pawb yn dolurio eu calonnau, y bu farw.
1097. Llas Gwilym Goch, brenin y Saeson, yr hwn a wnaethpwyd yn frenin wedi Gwilym ei dad. Ac fel yr oedd hwnnw ddyddgwaith yn hela gyda Henri, y brawd ieuaf iddo, a rhai o'r marchogion gyda hwynt, ei brathwyd â saeth gan Wallter Turel, marchog iddo, o'i anfodd; pan oedd yn bwrw carw, y medrodd y brenin ac a'i lladdodd. A phan welas Henri ei frawd yntau hynny, gorchymyn a orug corff ei frawd i'r marchogion a oedd yn y lle, ac erchi iddynt wneuthur brenhinol arwyliant iddo. Ac yntau a gerddodd hyd yng Nghaer Wynt, yn y lle yr oedd swllt y brenin a'i frenhinolion oludoedd. Ac achub y rhai hynny a orug. A galw ato holl dylwyth y brenin, a myned oddiyno hyd yn Llundain a'i goresgyn, yr hon sydd bennaf a choron ar holl frenhiniaeth Lloeger. Ac yna y cydredasant ato Ffreinc a Saeson i gyd, ac o frenhinol gyngor y gosodasant ef yn frenin yn Lloeger. Ac yn y lle cymerth yntau yn wraig briod iddo Fahallt ferch y Moel Cwlwm, brenin Prydain, o Fargaret frenhines ei mam. A honno drwy ei phriodi a ansodes ef yn frenhines; canys Gwilym Goch ei frawd ef yn ei fywyd a arferasai o ordderchadau, ac wrth hynny y buasai farw heb etifedd. Ac yna yr ymchwelodd Robert, y brawd hynaf iddynt, yn fuddugol o Gaersalem.
A bu farw Tomas, archesgob Caer Efrog. Ac yn ei ol yntau dynesodd Gerard, a fuasai esgob yn Henffordd cyn na hynny, a derchafodd Henri frenin ef ar deilyngdod a oedd uwch yn archesgob yng Nghaer Efrog. Ac yna cymerth Anselm archesgob Caint drachefn ei archesgobawd drwy Henri frenin, yr hwn a adawsai yn amser Gwilym Goch frenin, o achos anwiredd hwnnw a'i greulonder, gan na welai ef hwnnw yn gwneuthur dim yn gyfiawn o orchymynnau Duw, nac o lywodraeth frenhinol teilyngdod.
1098. Bu farw Hu Fras, iarll Caer Lleon ar Wysg, ac yn ei ol dynesodd Roger ei fab, cyn bei bychan ei oed. Ac eisoes y brenin a'i gosodes yn lle ei dad, o achos maint y carai ei dad. Ac yn y flwyddyn honno y bu farw Gronw fab Cadwgan ab Owen mab Gruffydd.
1100. Bu anghytundeb rhwng Henri frenin a Robert iarll Amwythig ac Ernwlff ei frawd, gŵr a gafas Ddyfed yn rhan iddo, ac a wnaeth gastell Penfro yn fawrfrydus. A phan gigleu y brenin eu bod yn gwneuthur twyll yn ei erbyn, megis y daeth y chwedl arnynt y galwodd ato i wybod gwirionedd am hynny; a hwythau, heb allel ymddiried i'r brenin, a geisiasant achos i fwrw esgus. Ac wedi gwybod onaddynt adnabod o'r brenin eu twyll ac eu brad, ni feiddiasant ymddangos gerbron ei genddrycholder ef. Achub a orugant eu cadernid, a galw porth o bob tu iddynt, a gwahodd atynt y Brytaniaid a oeddynt. darestyngedigion iddynt yn eu meddiant, ac eu penaethau, nid amgen Cadwgan, Iorwerth, a Meredydd, feibion Bleddyn fab Cynfyn, yn borth iddynt. Ac eu horfoll yn fawrfrydig anrhydeddus iddynt at orugant, ac addaw llawer o dda iddynt, at rhoddi rhoddion, a llawenhau eu gwlad o ryddid. Ac yng nghyfrwng hynny cadarnhau eu cestyll, a'u cylchynu o ffosydd a muroedd, a pharotoi llawer o ymborth, a chynnull marchogion, a rhoddi rhoddion iddynt. Robert a achubodd bedwar castell, nid amgen Arwndel, a Blif, a Bryg, ynglyn a'r hwn yr oedd yr holl dwyll, yr hwn a rwndwalasai yn erbyn arch y brenin, ac Amwythig. Eruwlff a achubodd Benfro ei hun. Ac wedi hynny cynnull lluoedd a orugant, a galw y Brytaniaid i gyd, a gwneuthur ysglyfaethau, ac ymchwelyd yn llawen adref. A phan oeddid yn gwneyd y pethau hynny, y meddyliodd Ernwlff heddychu â'r Gwyddyl, a derbyn nerth ganddynt. Ac anfon a wnaeth genhadau hyd yn Iwerddon, nid amgen Gerald ystiwart a llawer o rai ereill, i erchi merch Mwrchath frenin yn briod iddo. A hynny a gafas yn hawdd, a'r cenhadau a ddaethant i eu gwlad yn hyfryd. A Mwrchath a anfones ei ferch, a llawer o longau arfog gyda hi, yn nerth iddo. Ac wedi ymddyrchafel o'r ieirll mewn balchder o achos y pethau hynny, ni chymerasant ddim heddwch gan y brenin. Ac yna y cynhullodd Henri frenin lu bob ychydig, ac ynghyntaf cylchynodd gastell Arwndel drwy ymladd â hi. Ac oddyna y cymerth gastell Blif, a hyd yng nghastell Bryg, ac ymhell oddiwrtho y pabellodd. A chymryd cyngor a orug pa fodd y darostyngai ef y ieirll, neu y lladdai, neu y gwrthladdai o'r holl deyrnas. Ac o hynny pennaf cyngor a gafodd anfon cenhadau o'r Brytaniaid, ac yn wahanredol at Iorwerth fab Bleddyn, a'i wahodd a'i alw ger ei fron, ac addaw mwy iddo nag a gaffai gan y ieirll, a'r cyfran y perthynai ei gael o o dir y Brytaniaid. 'Hynny a roddes y brenin yn rhydd i Iorwerth fab Bleddyn tra fai byw y brenin, heb dwng a heb dâl. Sef oedd hynny, Powys a Cheredigion a hanner Dyfed,—canys yr hanner arall a roddasid i fab Baldwin,—a Gwyr a Chydweli. Ac wedi myned Iorwerth fab Bleddyn i gastell y brenin, anfon a oruc i anrheithio cyfoeth Robert ei arglwydd. A'r anfonedig lu hwnnw gau Iorwerth, gan gyflawni gorchymyn Iorwerth, a anrheithiasant gyfoeth Robert ei arglwydd drwy gribddeilio pob peth ganddynt, a diffeithio y wlad, a chynnull dirfawr anrhaith ganddynt o'r wlad. Canys y iarll cyn na hynny a orchymynasai roddi cred i'r Brytaniaid, heb debygu caffael gwrthwyneb ganddynt, ac anfon ei holl hafodydd a'i anifeiliaid a'i oludoedd i blith y Brytaniaid, heb goffau y sarhadau a gawsai y Brytaniaid gynt gan Rosser ei dad ef, a Hu brawd ei dad. A hynny oedd guddiedig gan y Brytaniaid yn fyfyr. Cadwgan fab Bleddyn a Meredydd ei frawd oeddynt eto gyda'r iarll, heb wybod dim o hynny. Ac wedi clybot o'r iarll hynny, anobeithio a oruc, a thebygu nad oedd dim gallu ganto o achos myned lorwerth oddiwrtho, canys pennaf oedd hwnnw o'r Brytaniaid, a mwyaf ei allu; ac erchi cynghrair a orug fel y gallai, ai heddychu â'r brenin, ai gado y deyrnas o gwbl.
Yng nghyfrwng y pethau hynny yr aeth Ernwlff a'i wyr yn erbyn y wraig a'r llynges arfog a oedd yn dyfod yn borth iddo. Ac yn hynny y daeth Magnus frenin Germania eilwaith i Fon; ac wedi torri llawer o wŷdd defnydd, ymchwelyd i Fanaw drachefn. Ac yna, herwydd y dywedir, gwneuthur a orug tri chastell, a'u llenwi eilwaith o'i wyr ei hun, y rhai a ddiffeithiasai cyn na hynny. Ac erchi merch Mwrchath o'i fab, canys pennaf oedd hwnnw o'r Gwyddyl, a hynny a gafas yn llawen, a gosod a orug ef y mab hwnnw yn frenin ym Manaw. Ac yno y trigodd y gaeaf hwnnw. Ac wedi clybod o Robert iarll hynny, anfon cenhadau a orug ar Fagnus; ac ni chafas ddim o'r negesau.
Ac wedi gweled o'r iarll ei fod yn warchaedig o bob parth iddo, ceisio cennad a ffordd gan y brenin i adaw ei deyrnas. A'r brenin a'i caniataodd. Ac yntau, drwy adaw pob peth, a fordwyodd hyd yn Normandi. Ac yna yr anfones y brenin at Ernwlff, i erchi iddo un o'r ddeupeth, ai gadaw y deyrnas a myned yn ol ei frawd ai ynte a ddelei yn ei ewyllys ef. A phan gigleu Ernwlff hynny, dewisaf fu ganto fyned yn ol ei frawd. A rhoddi ei gastell a orug i'r brenin, a'r brenin a ddodes warcheidwaid ynddo.
Wedi hynny heddychu a orug Iorwerth â'i frodyr, a rhannu y cyfoeth rhyngddynt. Ac wedi ychydig o amser y delis Iorwerth Feredydd ei frawd, ac ei carcharodd yng ngharchar y brenin. A heddychu a wnaeth â Chadwgan ei frawd, a rhoddi Ceredigion a rhan o Bowys. Ac oddyna myned a wnaeth Iorwerth at y brenin, a thebygu i'r brenin gadw ei addewid wrtho. A'r brenin, heb gadw amod ag ef, a ddug o ganddo Ddyfed, ac a'i rhoddes i neb un farchog a elwid Saer; ac Ystrad Tywi a Chydweli a Gwyr a roddes i Hywel a Gronw. Ac y cyfrwng hwnnw y delit Gronw fab Rhys, a bu farw yn ei garchar.
1101. Wedi dyrchafel o Fagnus frenin Germania hwyliau ar ychydig o longau, diffeithio a orug derfynau Prydain. A phan welas y Prydeinwyr hynny, megis morgrugion o dyllau gogofâu y cyfodasant yn gadoedd i ymlid eu hanrhaith. A phan welsant y brenin ac ychydig o nifer gydag ef, cyrchu yn eofn a orugant, a gosod brwydyr yn ei erbyn. A 'phan welas y brenin hynny, cyweirio byddin a orug, heb edrych ar amlder ei elynion a bychaned ei nifer yntau, oherwydd moes yr Albanwyr, drwy goffhau ei aneirif fuddugoliaethau gynt, cyrchu a orug yn anghyfleus. Ac wedi gwneuthur y frwydr, a lladd llawer o boptu; yna, o gyfarsagedigaeth lluoedd ac amider niferoedd ei elynion, y llas y brenin.
Ac yna y gelwit Iorwerth fab Bleddyn i Amwythig drwy dwyll cyngor y brenín, ac y dosbarthwyd ei ddadleuoedd a'i negesau. A phan ddaeth of, yna yr ymchwel- odd yr holl ddadleu yn ei erbyn ef, ac ar hyd y dydd y dadleuwyd ag ef, ac yn y diwedd y barnwyd yn gamlyrus. Ac wedi hynuy ci barnwyd i garchar y brenin, nid oherwydd cyfraith, namyn oherwydd meddiant. Ac yna y pallodd eu holl obaith a'u cadernid a'u hiechyd a'u diddanwch i'r holl Frytaniaid.
1102. Bu farw Owen fab Edwin drwy hir glefyd. Ac yna ystores Ricart fab Baldwin gastell Rhyd y Gors, a gyrrwyd Hywel fab Gronw ymaith o'i gyfoeth, y gŵr a orchymynasai Henri frenin geidwadaeth Ystrad Tywi a Rhyd y Gors. Ac yntau a gynhullodd anrheithiau, drwy losgi tai, a diffeithio haeach yr holl wladoedd, a lladd llawer o'r Ffreinc a oeddynt yn ymchwelyd adref. Ac yntau a gychwynnodd y wlad o bobtu, ac a'i hachubodd, a'r castell a drigodd yn ddigyffro a'i warcheidwaid ynddo.
Ynghyfrwng hynny y gwrthladdodd Henri frenhin Saer, marchog o Benfro, ac y rhoddes geidwadaeth y castell a'i holl derfynau i Erald ystiward, yr hwn a oedd dan Ernwlff ystiward.
Y flwyddyn honno llas Hywel fab Gronw drwy dwyll gan y Ffreinc a oeddynt yn cadw Rhyd y Gors. Gwgawn fab Meurig, y gwr oedd yn meithrin mab i Hywel, a wnaeth ei frad fel hyn. Galw at wnaeth Gwgawn Hywel i dy a'i wahawdd, ac anfon i'r castell a galw y Ffreinc ato, a mynegi iddynt eu terfynedig le, ac aros amser yn y nos. Ac hwyntau a ddaethont amser plygain, a chylchynu y dref a'r ty yr oedd Hywel ynddo, a dodi gawr; ac ar yr awr y dihunodd Hywel yn ddilesg, a cheisio ei arfau, a dihuno ei gymdeithion. A'r cleddyf ar y daroedd iddo ei ddodi ar ben ei wely, a'i waew is y traed, a ddygasai Gadwgawn tra yr oedd yn cysgu. A Hywel a geisiodd ei gymdeithas wrth ymladd, a thebygu eu bod yn barod. Ac neur daroedd iddynt ffoi ar yr awr gyntaf o'r nos, ac yna y gorfu arno yntau ffoi. A Gwgawn a'i hymlidiodd yn graff, oni ddelis ef megis yr addewis. A phan ddaeth cymdeithion Cadwgawn ato, tagu Hywel a orugant, a’r tagedig yn farw haeach a ddygant at y Ffreinc. Ac hwyntau, wedi lladd ei ben, a ymchwelasan't i'r castell.
Yn y flwyddyn honno y gwelad seren enryfedd ei gwelediad, yn anfon paladr ohoni yn ol ei chefn, ac o braffter colofn ei maint, a dirfawr oleuad iddi, yn darogan yr hyn a fai rhag llaw. Canys Henri, amherawdwr Rhufain, wedi dirfawrion fuddugoliaethau, a chrefyddusaf fuchedd i Grist, a orffwysodd; a'i fab wedi yntau, wedi cael llawer o anrhydedd ac eisteddfa amherodraeth Rufain, a wnaethpwyd yn amherawdwr.
Ac yna yr anfones Henri frenin Lloegr farchogion i ddarostwng Normandi. A chyhwrdd a hwynt a wnaeth Robert iarll o Fethlem, ac wedi gorfod arnynt eu gyrru ar ffo. Ac wedi na rymeint ddim, anfon a orugant at y brenin i geisio nerth. Ac yna y brenin ei hun, gydag amlder o farchogion a dirfawr lu, a fordwyodd drwodd. Ac yna y cyhyrddod â'r iarll yn ddilesg; ac ef a’i gynhorthwywyr, ac yn gywarsangedig o dra lluosogrwydd, a gymerth ei ffo; a'i ymlid o'r brenin oni ddelis ef a'i wyr. Ac wedi eu dala, a'u hanfones i Loeger i eu carcharu; a holl Normandi a ddarestyngwys wrth ei feddiant ei hun.
Yn y flwyddyn honno y llas Meurig a Griffri, feibion Trahaearn fab Caradog. Ac Owen fab Cadwgan.
1103. Diengis Meredydd fab Bleddyn o'i garchar, a daeth i'w wlad. A bu farw Edward, fab y Moel Cwlwm; ac yn ei le ef y cynhelis Alexander ei frawd y deyrnas.
1104. Anfoned neb un genedl ddiadnabyddus, herwydd cenhedlaeth a moesau, ni wyddid pa le yr ymguddiasent yn yr ynys dalm o flynyddoedd, gan Henri frenin i wlad Dyfed. A'r genedl honno a achubodd holl gantref Rhos ger llaw aber yr afon a elwir Cleddyf, wedi eu gwrthladd o gwbl. A'r genedl honno, megis y dywedir, a hannoedd o Fflandrys eu gwlad, yr hon sydd osodedig yn nesaf ger llaw mor y Brytaniaid; o achos achub o'r môr a goresgyn eu gwlad, hyd oni ymchweled yr holl wlad ar anghysondeb, heb ddwyn dim ffrwyth, gwedi bwrw o lanw o'r môr dywod i'r tir. Ac yn y diwedd, gwedi na chelfynt le i breswylio, canys y môr a ddineuasai ar draws yr arfordiroedd, a'r mynyddoedd yn gyflawn o ddynion hyd na allai bawb breswylio yno o achos amlder y dynion a bychaned y tir,—y genedl honno a ddeisyfodd Henri frenin, ac a adolygasant iddo gaffael lle y preswylient ynddo. Ac anfoned hyd yn Rhos, trwy wrthladd oddiyno y priodolion giwdawdwyr, y rhai a gollasant eu priod wlad a’u lle er hynny. Ynghyfrwng hynny, Gerald ystiwart Penfro a rwndwaliodd gastell Cenarch Bychan, ac ansoddi a wnaeth yno, a llehau yno ei holl oludoedd, a’i wraig, a’i etifeddion, a’i holl anwylyd, a’i gadarnhau a wnaeth o glawdd a mur.
III.
Owen ab Cadwgan.
[Rhoddir pennod i hanes rhamantus y gwibiwr dyddorol hwn. Y tu ol i'w fywyd cynhyrfus, gwelir meibion Bleddyn; a daw Gruffydd ab Cynan a Gruffydd ab Rhys yn fwy eglur yn raddol.]
1105. Parotoes Cadwgan fab Bleddyn wledd i benaduriaid ei wlad, a gwahodd i'r wledd a wnaethoedd Owen ei fab o Bowys. A'r wledd honno a wnaeth ef y Nadolig er anrhydedd i Dduw. Ac wedi darfod y wledd, a chlybod o Owen for Nest ferch Rhys ab Tewdwr, gwraig Gerald Ystiward, yn y dywededig gastell fry, myned a orug i ymweled â hi, ac ychydig o nifer gydag ef, megis â chares iddo. Ac felly yr oeddynt; canys Cadwgan fab Bleddyn, a Gwladus ferch Rhiwallon mam Nest, a oeddynt gefnder a chefnither; canys Bleddyn a Rhiwallon, meibion Cynfyn, a oeddynt frodyr i Angharad ferch. Feredydd frenin. Ac wedi hynny, o annog Duw. y doeth ef noswaith i'r castell, ac ychydig o nifer gydag ef, fel amgylch pedwar gwr ar ddeg. Ac wedi gwneuthur clawdd dan y trothau yn ddirgel heb wybod i geidwaid y castell, yna y daethant i'r castell yr oedd Gerallt a Nest ei wraig, yn cysgu ynddo. A dodi gawr a wnaethant ynghylch y castell, ac enynnu tân yn y tai wrth eu llosgi. A dihuno a orug Gerallt pan gigleu yr awr. Ac yna y dywed Nest wrtho,—"Na ddos allan," eb hi, i'r drws, canys yno y mae dy elynion i'th aros; namyn dyred i'm hol i." A hynny a wnaeth ef. A hi a'i harweddodd ef hyd y geudy a oedd gysylltiedig wrth y castell; ac yno, megis y dywedir, y dihengys. Ac wedi eu dyfod hwyntau i mewn, ei geisio a orugant ym mhob man; ac wedi nas cawsant, dala Nest a wnaethant, a'i dau fab a'i merch, a mab iddo yntau o gariadwraig, ac ysbeilio y castell a'i anrheithio. Ac wedi llosgi y castell a chynnull anrhaith, ymchwelyd a wnaeth i'w wlad. Ac nid oedd Cadwgan, ei dad ef, yn gynddrychol yna yn y wlad, canys ef a aethai i Bowys i heddychu y rhai a oeddynt yn anun, ac a aethent oddiwrth Owen. A phan gigleu Cadwgan y gweithred hwnnw, cymeryd y drwg arno gan sorri a orug ef, o achos y trais a wnaethid â Nest ferch Rys; ac hefyd rhag ofn llidio o Harri frenin am sarhad ei ystiward; ac yna ymchwelyd a orug, a choisio talu ei wraig, a'i anrhaith i Erald ystiward drachefn gan Owen, ac nis cafas. Ac yna, o ystryw y wraig oedd yn dywedyd wrth Owen fel hyn,—"O mynni fy nghael i'n ffyddlon it a'm cynnal gyda thi, hebrwng fy mhlant at eu tad," yna o dra serch a chariad y wraig, y gollyngodd ei blant i'r ystiward.
A phan gigleu Rickart esgob Llundain hynny, y gŵr a oedd yna ystiwart i Henri frenin yn Amwythig, meddwl a orug dial ar Owen sarhad Gerald ystiward. A galw ato a wnaeth Ithel a Madog, meibion Rhirid fab Bleddyn, a dywedyd wrthyn fel hyn, A fynnwch chwi regi bodd i Henri frenin, a chaffael ei gariad a'i gymdeithas yn dragwyddol, ac efe a'ch mawrha yn bennaf o'ch cytirogion, ac y cyngorfyna wrthych eich cyd-derfynwyr o'ch holl genedl Ac ateb a wnaethant—
"Mynnwn," eb hwynt. "Ewch chwithau," eb ef, "a delwch Owen fab Cadwgan os gollwch; ac onis gellwch, gwrthleddwch o'r wlad ef a'i dad. Canys ef a wnaeth gam a sarhad yn erbyn y brenin, a dirfawr golled i Erald ystiward, ei wahanredol gyfaill, am ei wraig a'i blant a'i gastell, ac ysbail ac anrhaith. A minnau a roddaf gyda chwi ffyddlonion. gymdeithion, nid amgen Llywarch fab Trahaeara, y gŵr y lladdodd Owen ei frodyr, ac Uchtryd fab Edwin." Ac hwyntau, wedi credu yr addewidion hynny, a gynhullasant lu, ac a aethant i gyd ac a gyrchasant y wlad. Ac Uchtryd a anfones genhadau i'r wlad i fynegi i'r ciwdawdwyr, pwy bynnag a giliai ato ef y caffai amddiffyn. A rhai a giliasant ato ef, eroill i Arwystli, ereill i Ystrad Tywi, a'r rhan fwyaf i Ddyfed yr aethant, i'r lle yr oedd Gerald yn feddiannus. A phan oedd ef yn mynnu eu difa hwynt, fe a ddamweiniodd dyfod Gwallter, uchelfaer Caer Loew, y gŵr a orchymynasai y brenin iddo lywodraeth ac amddiffyn Lloegr, hyd yng Nghaerfyrddin. A phan gigleu ef hynny, eu hamddiffyn a orug: a rhai onaddynt a giliodd i Arwystli, ac y cynhyrddodd gwyr Maelenydd ag hwynt ac a'u lladdasant; a'r rhai a giliodd at Uchtryd a ddihangasant; a'r rhai a giliodd i Ystrad Tywi, Meredydd fab Rhydderch a'u harfolles yn hygar.
Cadwgan ac Owen a ffoasant i long oedd yn Aber Dyfi, a ddaethai o Iwerddon ychydig cyn na hynny, a chyfnewid ynddi.
EGLWYS GADEIRIOL BANGOR.
(Lle'r huna Owen Gwynedd).
pabellu a orugant. Ac yn y diwedd y daeth Uchtryd atynt; ac wedi eu cynnull ynghyd, cerdded hyd nos a orugant, a diffeithio y gwladoedd oni fu dydd. Ac yna y dywed Uchtrya,—"O rhwng bodd i chwi, nid rhaid hynny; gan na ddylir tremygu Cadwgan ac Owen, canys gwyrda grymus ydynt, a dewrion, ac ysgatfydd y mae porth iddynt hyd nas gwyddom ni, ac wrth hynny ni wedda i ni ddyfod yn ddisyfyd am eu pen, namyn yn eglur ddydd gydag urddasog gyweirdeb nifer." Ac o'r geiriau hynny, bob yn ychydig heddychwyd hwynt, fel y gallai dynion y wlad. ddianc. A thrannoeth y daethant i'r wlad; ac wedi ei gweled yn ddiffaith, ymgeryddu eu hunain a wnaethant, a dywedyd, "Dyma weniaith Uchtryd." A chyhuddo Uchtryd a wnaethant, a dywedyd i neb ymgydymdeithocau a'i ystryw ef. Ac wedi gwibio pob lle yn y wlad, ni chawsant ddim ond gre i Gadwgan; ac wedi cael honno, llosgi y tai a'r ysguboriau a'r ydau a wnaethant; a dychwelyd a orugant i'w pebyll drachefn, a difa rhai o'r dynion a ffoisent i Lanbadarn, a gadael ereill heb eu difa. A phan oeddynt felly, clybod a wnaethant fod rhai yn trigo yn noddfa Dewi yn Llan Ddewi Brefi yn yr eglwys gyda'r offeiriad. Anfon a wnaethant yno ddrwg ysbrydolion anghyweithas, a llygru a wnaethant yr eglwys a'i diffeithio o gwbl. Ac wedi hynny yn orwag haeach yr ymchwelasant, oddieithr cael anfoliannus anrhaith o gyfleoedd seint Dewi a Phadarn.
Ac wedi hynny y mordwyodd Owen i Iwerddon gydag ychydig o gymdeithion, a'r rhai yr oedd achos iddynt drigo yn ei ol, canys buasent wrth losgedigaeth y castell. A chan Murtart, brenin pennaf yr Iwerddon, yr arfolled ef yn hygar; canys ef a fuasai gynt gydag ef, a chydag ef y magesid yn y rhyfel y diffeithiwyd Mon gan y ddau iarll, ne anfonasid ef gan ei frawd a rhoddion i Murtart.
Ac yna yr aeth Cadwgan yn ddirgel hyd ym Mhowys, ac anfon cenhadau a wnaeth i geisio heddychu â Rhicert, ystiward y brenin; a chael cynghrair ganddo a wnaeth i geisio heddychu â'r brenin pwy wedd bynnag y gallai. A'i arfoll a orug y brenin, a gadel iddo drigo mewn tref a gawsai gan ei wraig oedd Ffrances. merch Pictot Sage. Ac yna achubodd. Madog, ac Ithel, meibion Rhirid, ran Cadwgan ac Owen ei fab o Bowys, y rhai a lywiasant yn anfoliannus, ac ni buont heddychol rhyngddynt eu hunain. Yngnyfrwng hynny, wedi heddychu o Gadwgan, y cafas ei gyfoeth, nid amgen Ceredigion, wedi ei phrynnu gan y brenin er can punt. Ac wedi clybod hynny, ymchwelyd a wnaeth pawb ar a wasgaresid o gylch; canys gorchymyn y brenin oedd na allai neb gynnal neb o'r rhai a oedd yn preswylio Ceredigion, cyn na hynny, na gwr o'r wlad na gŵr dieithr fyddai. A'i rhoddi a orug y brenin i Gadwgan ar yr amod hynyma, na bei na chymdeithas na chyfeillach rhyngddo ag Owen ei fab, ac na adei iddo ddyfod i'r wlad, ac na roddai iddo na chyngor na nerth. Ac oddyna yr ymchwelodd rhai o'r gwyr a aethai gydag Owen i Iwerddon, a llechu yn ddirgeledig a wnaethant heb wneuthur dim argywedd.
Ac wedi hynny yr ymchwelodd Owen, ac nid i Geredigion y daeth, namyn i Bowys, a cheisio anfon cenhadau at y brenin. Ynghyfrwng hynny y bu anundeb rhwng Madog a'r Ffreinc, oherwydd y lladradau yr oedd y Saeson yn eu gwneuthur ar y tir, ac oddyno yr oeddynt yn gwneuthur camau yn erbyn y brenin, act yn dyfod at Fadog. Ac yna yr anfones. Ricert ystiward at Fadog i erchi dal y gwyr a wnaethent y cam yn erbyn y brenin ac yntau a wrthwynebodd i hynny, ac nis daliodd. Ac yn gamweddog, heb wybod beth a wnai namyn ceisio cyfeillach gau Owen fab Cadwgan, hynny a gafas: a gwneuthur heddwch rhwng y rhai a oeddynt yn elynion cyn na hynny; ac ymarfolli uwch ben creiriau a wnaethant, hyd na heddychai un â'r brenin heb eu gilydd, ac na fradychai un onaddynt eu gilydd. Ac yna y cerddynt ynghyd pa le bynnag y dygai eu tynghedfen hwynt; a llosgi tref neb un gwrda a wnaethant; a pha beth bynnag a ellynt ei ddwyn ganddynt, nac yn feirch nac yn wisgoedd, hwynt a'u dygasant, na neb rhyw ddim arall ar a geffynt.
1107. Coffhaodd Harri frenin garchar Iorwerth fab Bleddyn, ac anfon cennad ato i wybod beth a roddai er ei ollwng o'i garchar; canys blin yw bod yn hir garchar. Ac yntau a addewis fwy nag a allai ddyfod. iddo, a dywedyd y rhoddai bob dim ar a archai y brenin. Ac yn gyntaf yntau a erchis wystion o feibion goreugwyr ei wlad yr eilwaith yr erchis Ithel fab Rhirid ei frawd, a thri chan punt o arian, pa ffordd bynnag y gallai ddyfod iddynt, nac o feirch nac o ychen nac o neb ryw ffordd y gallai ddyfod iddynt. Ac yna y rhodded mab Cadwgan fab Bleddyn, yr hwn a anesid o'r Ffrances, yr hwn a elwid Henri, ac y talwyd can marc drosto. Ac yna rhodded y wlad iddo ef, a llawer a dalodd. Ac yna gollyngwyd mab Cadwgan.
Ac ynghyfrwng y pethau hynny gwnaeth Owen a Madog a'u cymdeithion lawer o ddrygau yng ngwlad y Ffreinc ac yn Lloegr. A pha beth bynnag a geffynt, nac o ladrad nac o drais, i dir Iorwerth y dygynt. Ac yno y preswylient. Ac yna anfon cenadwri a orug Iorwerth atynt yn garedig, a dywedyd wrthynt fel hyn,—Duw a'n rhoddes ni yn llaw ein gelynion, ac a'n darostyngodd yn gymaint ag na allem wneuthur dim ar a fyddai ewyllys gennym. Gwaharddedig yw inni neb o'r Brytaniaid byd na chyffredino neb ohonom â chwychwi, nac o fwyd nac o ddiod, nac o nerth nac o gynhorthwy, namyn eich ceisio a'ch hela ymhob lle, a'ch rhoddi yn y diwedd yn llaw y brenin, i'ch carcharu neu eich lladd, neu eich dienyddio neu yr hyn a fynnai a chwi. Ac yn bennaf y gorchymynwyd i mi a Chadwgan nad ymgredem chwi. Canys ni ddichon neb debygu na ddymuno tad neu ewythr dda i'w meibion a'u neuaint. Canys od ymgydymdeithiwn ni â chwi, neu fyned haeach yn erbyn gorchymynion y brenin, ni a gollwn ein cyfoeth, ac a'n carcherir oni fom feirw, neu ein lleddir. Ac wrth. hynny mi a'ch gweddiaf megis cyfaill, a mi a'ch gorchymynnaf megis arglwydd, ac a'ch eiriolaf megis car, nad eloch ffordd i'm cyfoeth i na ffordd i gyfoeth Cadwgan mwy, nag i gyfoeth gwyr ereill ein cylch. Canys mwy o annodigaethau a geisir yn erbyn ni nag yn erbyn ereill, yn bod yn gylus."
A thremygu hynny a wnaethant, a mwy-fwy eu cyfoeth a fynychent, a braidd y gochelent gynddrychiolder eu gwyr eu hunain. A Iorwerth a geisiodd eu hymlid, a chynnull llawer o wyr a orug, a'u hela. A hwyntau a'u gochelasant bob ychydig. Ac yn un dorf i gyd cyrchasant gyfoeth Uchtryd hyd ym Meirionnydd. A phan gigleu feibion Uchtryd hynny, a'u teulu, anfon a orugant i Feirionnydd i beri i bawb ddyfod atynt i wrthladd y gwyr o'u tir. Canys yn gyntaf daethant i Gyfeiliog, yn y lle yr oedd feibion Uchtryd. Ac ni alluasant eu gwrthladd. Ac yna ymgynhullodd gwyr Meirionnydd heb ohir, a daethant at feibion Uchtryd. Ac fel yr oedd Owen a Madog yn eu lletyau yng Nghyfeiliog, trannoeth y bore arfaethu a orugant fyned i Feirionnydd i letya, heb wneuthur dim drwg amgen. Ac fel yr oeddynt yn dwyn eu hynt, nachaf wyr Meirionnydd ynghyfrwng mynyddoedd ac anialwch yn dwyn eu byddin gywair i'w cyfarfod, yn eu rhuthro, ac yn dodi gawr arnynt. A hwyntau, heb dybio dim wrthynt, ar y cyrch cyntaf y ffoasant. A daeth Owen. A phan gwelas gwŷr Meirionnydd ef yn cyrchu yn wrol, ac yn barod i ymladd, ffoi yn ddisyfyd a orugant hwyntau a'u hymlidiasant hyd eu gwlad, a diffeithio y wlad a orugant, a llosgi y tai a'r ydau, a lladd yr ysgrubl gymaint ag a gawsant heb ddwyn dim ganddynt wedi hynny aeth Madog i Bowys.
Ac Owen a ymchwelodd, ef a'i wyr, i Geredigion, y lle yr oedd ei dad yn gwledychu ac yn preswylio; a thrigo a orug ef a'i gymdeithion yn y lle y mynnodd, a choffhau dyfodiad ei dad cyn na hynny i'r cyfoeth; canys ei gydymeith oeddynt yn Nyfed i ysbeilio y wlad ac i ddal y dynion a’u dwyn yn rhwym hyd y llongau a ddaeth gan Owen o Iwerddon. Ac yna yr oeddynt yn trigo yn nherfynau y wlad. Ac eilwaith yr aethant i alw ynfydion a chwanegu eu rhif, a chyrchu dros nos y a'i llosgi, a lladd pawb ar a gawsant ynddi, ac ysbeilio ereill, a dwyn ereill ganddynt yngharchar, a'u gwerthu i'w dynion neu eu hanfon yn rhwym i'r llongau. Ac wedi llosgi y tai a lladd cymaint ag a gawsant o’r anifeiliaid, a chymaint ag a gawsant a ddygant ganddynt, ymchwelasant ffordd i Geredigion, wrth letya a thrigo a myned a dyfod, heb edrych dim o achosion Cadwgan nac o wahardd y brenin. A rhai onaddynt, dreiglgwaith, a oeddynt yn cadw ffordd yr oedd hynafgwr o’r Fflemisiaid yn dyfod iddi, a elwid Wiliam o Frabant, a'i gyferbynnyd a wnaethant, a'i ladd. Ac yna myned o Gadwgan gyda Iorwerth i lys y brenin, i fynnu cael ymddiddan ag ef. Ac fel y buant yna, nachaf frawd i'r gwr a laddesid yn y lle, yn mynegi i’r brenin ladd o Owen a'i gymdeithion ei frawd. Pan gigleu y brenin hynny, gofyn a orug i Gadwgan,—"Beth a ddywedi am hynny ?" "Nis gwn i, arglwydd, ebe Cadwgan. Yna dywed y brenin, "Gan na elli di gadw dy gyfoeth rhag cymdeithas dy fab hyd na laddon fy ngwyr eilwaith, mi a roddaf dy gyfoeth i'r neb a'i cadwo; a thithau a drig gyda mi drwy yr amod hwnyma, na sethrych di dy briod wlad; a mi a'th borthaf di o'm hymborth i oni chymerwyf gyngor am danat." A rhoddi a orug y brenin bedair ar hugain iddo beunydd yng nghyfer ei draul. Ac yna y trigodd heb ddodi gefyn arno, namyn yn rhydd y ffordd y mynnai eithr i'w wlad ei hun.
Ac wedi clybod o Owen ysbeilio ei dad o'i gyfoeth, cyrchu Iwerddon a orug ef a Madog fab Rhirid. Ac wedi hynny anfon o orug y brenin at Gilbert fab Ricert,—yr hwn oedd ddewr moliannus galluus a chyfaill i'r brenin, a gŵr ardderchog oedd yn ei holl weithredoedd,—i erchi iddo ddyfod ato; ac yntau a ddaeth. A'r brenin a ddywed wrtho, "Yr oeddit yn wastad yn ceisio rhan o dir y Brytaniaid gennyf. Mi a roddaf it yr awr hon dir Cadwgan. Dos, a goresgyn ef." Ac yna ei cymerth yn llawen gan y brenin. Ac yna, gan gynnull llu, gyda'i gymdeithion daeth hyd yng Ngheredigion, ac a'i goresgynnodd; ac a adeilodd ddau gastell ynddi, nid angen gyferbyn a Llan Badarn yn ymyl aber yr afon a elwir Ystwyth a'r llall gerllaw aber Teifi, yn y lle a elwir Dingereint, y lle y grwndwalasai Roger iarll cyn na hynny gastell.
Ac wedi ychydig o amser yr ymchwelodd Madog ab Rhirid o Iwerddon heb allel goddef annynolion foesau y Gwyddyl. Ac Owen a drigodd yno yn ei ol dalm o amser A Madog a aeth i Bowvs; ac nid arfolled ef nag yn hygar nag yn drugarog gan Iorwerth ei ewythr, rhag ei gynnal yn gylus gan y brenin oherwydd cyfraith a drwg weithred od ymgyffredinni â'i nai o ddim. Ac yntau, yn wibiadur, a lechodd hwnt ac yma, gan ochel cynddrychiolder Iorwerth. Iorwerth a wnaeth gyfraith byd na bai a feiddiai ddywedyd dim wrtho am Fadog, na mynegi dim am dano, gwelid na welid. Ynghyfrwng hynny arfaethu a wnaeth Madog gwneuthur brad Iorwerth ei ewythr. A dal cyfeillach a orug a Llywarch fab Trahaearn. Ac ymarfoll i gyd a wnaethant yn ddirgeledig; ac eisoes 'r terfyn hwnnw y daethant.
1108. Paratoes Madog frad Iorwerth, a cheisio amser a chyfle a wnaeth i gyflawni ei ewyllys. A phan ymchwelodd Iorwerth i Gaer Einion y cyrchodd Madog, a chymdeithion Llywarch gydag ef yn borth iddo, gyrch nos am ben Iorwerth. A dodi gawr a orugant ynghylch y ty lle yr oedd Iorwerth; a dihuno a wnaeth Iorwerth gan yr awr, a chadw y ty arno ef a'i gymdeithion: a llosgi y ty a wnaeth Madog am ben Iorwerth. A phan welas cymdeithion Iorwerth hynny, cyrchu allan a orugant trwy y tân. Ac yntau, pan welas y ty yn digwydd, ceisio cyrchu allan a orug, a'i elynion a'i cymerth ar flaen gwewyr, ac yn atlosgedig ei ladd.
A phan gigleu Henri frenin ladd Iorwerth, rhoddi Powys a wnaeth i Gadwgan fab Bleddyn, a heddychu ag Owen ei fab, ac erchi i Gadwgan anfon cenhadau yn ol Owen hyd yn Iwerddon. Ac wedi gwybod o Fadog a'r rhai a laddasent Iorwerth gydag ef wneuthur anghyfraith onaddynt yn erbyn y brenin, llechu mewn coedydd a orugant, ac arfaethu gwneuthur brad Cadwgan.
A Chadwgan, heb fynnu agweddu i neb, megis yr oedd foes ganddo, a ddaeth hyd yn Nhrallwng Llywelyn; ar fedr trigo yno, a phreswylio lle yr oedd hyrwydd ac agos i Fadog. Ac yna anfon ysbiwyr a orug Madog i wybod pa le y byddai Gadwgan. A'r rhai hynny a ddaethant drachefn ac a ddywedasant, "Y neb yr oeddynt yn ei geisio, ymhell y mae hwnnw, ac yn agos." Ac yntau a'i wyr yn y lle a gyrchodd Carlwgan. A Chadwgan, heb dybio dim drwg, a ymwnaeth yn llesg heb fynnu ffo, a heb allel ymladd, wedi ffoi ei wyr oll, a'i gael yntau yn unig, a'i ladd.
Ac wedi lladd Cadwgan anfon cenhadau a wnaeth Madog at Ricert esgob Llundain, y gŵr a oedd yn cynnal lle y brenin ac yn ei lywio yn Amwythig i erchi iddo ef y tir y gwnaethid y cyflafanau hynny am dano. Ac wedi rhagfeddylio o'r esgob yn gynnil ei achosion ef, heb roddi mesur ar hynny ei oedi a orug, ac nid er ei gariad ef, namyn adnabod ohono ddefodau gwyr ei wlad, mai lladd a wnae bob un onaddynt eu gilydd. A'r gyfran a fuasai eiddo iddo ef ac i Ithel ei frawd cyn na hynny a roddai iddo. A phan gigleu Feredydd fab Bleddyn hynny, cyrchu y brenin a orug, i erchi iddo dir Iorwerth fab Bleddyn ei frawd.
A'r brenin a roddes gadwraeth y tir iddo hyd oni ddelai Owen fab Cadwgan i'r wlad. Ynghyfrwng hynny y daeth Owen, ac aeth at y brenin, a chymryd y tir ganddo trwy roddi gwystlon ac addo llawer o arian. A Madog a addewis lawer o arian a gwystlon ac amodau ger bron y brenin. Ac wedi cymryd noddiau, ymoglyd a orug pob un rhag eu gilydd yn y flwyddyn honno hyd y diwedd.
1109. Delit Robert iarll, fab Rosser o Fedlehem, gan Henri frenin, a charcharwyd. A rhyfelodd ei fab yn erbyn y brenin.
1110, Anfones Meredydd fab Bleddyn ei deulu i neb un gynnwrf i dir Llywarch fab Trahaearn i ddwyn cyrch. Yna damweiniodd, fel yr oeddynt yn dwyn hynt drwy gyfoeth mab Rhbirid, nachaf wr yn cyfarfod â hwynt. A dal hwnnw a orngant, a gofyn iddo pa le yr oedd Fadog fab Rhirid y nos honno. A gwadu yn gyntaf a wnaeth y gŵr nas gwyddai ef. Ac oddyna, wedi ei gystuddio a'i gymell, addef a orug ei fod yn agos. Ac wedi rhwymo hwnnw, ysbiwyr a aroisant yno, a lechu a wnaethant hyd oni oedd oleu dydd drannoeth. Ac wedi dyfod y bore, ar ddisyfyd gyngor y dygant gyrch iddo; a dal a orugant a lladd llawer o'i wyr, a'i ddwyn yngharchar at Foredydd; a'i gymryd yn llawen a orug, a'i gadw mewn gefyanau. Yna y daeth Owen ab Cadwgan, yr hwn nid ydoedd gartref. A phan gigleu Owen hynny, ar frys y daeth, a rhoddes Moredydd ef yn ei law; a'i gymryd a orug yn llawen, a'i ddallu. A rhannu rhyngddynt a wnaethant ei ran ef o Bowys, sef oedd hynny, Caereinion a thraean Deuddwr ac Aberiw.
1111. Cyffroes Henri frenin lu yn erbyn Gwynedd, ac yn bennaf i Bowys. Ac wedi barnu ar Owen wneuthur anghyfraith, ei gyhuddo a orug Gilbert fab Ricert wrth y brenin, a dywedyd fod gwyr Owen yn gwneuthur lladradau ar ei dir ef a'i wyr. A'r drygau a wnelai ereill a ddywedid ar wyr Owen. A chredu a orug y brenin fod pob peth ar a ddywedai y cyhuddwr yn wir.
Ynghyfrwng hynny, cyhuddo a wnaeth mab Hu, iarll Caerlleon, Ruffydd fab Cynan a Gronw fab Owen. Ac arfaethu o gytundeb mynnu dileu yr holl Frytaniaid o gwbl, hyd na cheffynt Frytanawf enw yn dragywydd. Ac wrth hynny y cynhullodd Henri frenin lu o'r holl ynys, o Benryn Pengwaed hyd ym Mheurhyn Blataon yn y Gogledd, yn erbyn Gwynedd a Phowys. A phan gigleu Feredydd fab Bleddyn hynny, myned a wnaeth i geisio cyfeillach gan y brenin. Ac wedi adnabod hynny o Owen, cynnull ei holl wyr a'i holl dda a wnaeth, a mudo hyd ym mynyddoedd Eryri; canys cadarnaf lle, a diogelaf i gael amddiffyn rhag y llu, oedd hwnnw. Ynghyfrwng hynny yr anfones y brenin dri llu,—un gyda Gilbert tywysog o Gernyw, a Brytaniaid y Deheu, a Fireinc a Saeson o Ddyfed a'r Deheu oll; a'r llu arall o'r Gogledd a'r Alban, a dan dywysog arnynt, nid amgen Alexander fab y Moel Cwlwm, a mab Hu iarll Caerlleon a'r trydydd gydag ef ei hun. Ac yna daeth y brenin, a'i deulu gydag ef, hyd y lle a elwir Mur Castell. Ac Alexander a'r iarll a aethant i Bennaeth Bachwy.
Ynghyfrwng hynny yr anfones Owen genhadau at Ruffydd ac Owen ei fab, i erchi iddynt wneuthur cadarn heddwch rhyngddynt yn erbyn y gelynion, y rhai oedd yn arfaeth eu dileu yn gwbl, neu eu gwarchae yn y môr, hyd nad enwid Brytanawl enw yn dragwyddawl. Ac ymarfoll ynghyd a wnaethant na wnelai un heb eu gilydd na thangnefedd na chyfundeb â'u gelynion. Wedi hynny, anfones Alexander mab y Moel Cwlwm, a'r iarll gydag ef, genhadau at Ruffydd fab Cynan, i erchi iddo ddyfod i heddwch y brenin, ac addaw llawer iddo, a'i dwyllo i gytuno â hwy. A'r brenin a anfones genhadau at Owen, i erchi iddo ddyfod i heddwch, a gadaw y gwyr ni aller caffael na phorth na nerth ganddynt. Ac ni chytunodd Owen â hynny. Ac yn y lle, nachaf un yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho—"Bydd ofalus, a gwna yn gall yr hyn a wnelych; dyma Ruffydd, ac Owen ei fab, wedi cymeryd heddwch gan fab y Moel Cwlwm a'r iarll, wedi rhoddi iddo onaddynt cael ei dir yn rhydd heb na threth na chyllid na chastell ynddo tra fydd byw y brenin." Ac eto ni chydsyniodd Owen â hynny. Ac eilwaith yr arfaethwys y brenin anfon cenhadau at Owen, a chydag hwynt Meredydd. ab Bleddyn ei ewythr, yr hwn, pan welas Owen, a ddywedodd wrtho,—"Edrych na hwyrheych ddyfod at y brenin, rhag rhagflaenu o eraill cael cymdeithas y brenin." Ac yntau a gredodd hynny, a dyfod a wnaeth at y brenin. A'r brenin a'i harfolles ef yn llawen, drwy fawr gariad ac anrhydedd. Ac yna dywedodd y brenin wrth Owen,—"Gan y daethost ti ataf fi
GWELED DIFRODI EI FRO.
o'th fodd, a chan y credaist fy nghenhadau, minnau a'th fawrhaf di, ac a'th ddyrchafaf yn uchaf ac yn bennaf o'th genedl di. Ac mi dalaf it yn gymaint ag y cynghorfynno pawb o'th genedl wrthyt. A mi a roddaf it dy holl dir yn rhydd."
A phan gigleu Gruffydd hynny, anfon cenhadau a orug at y brenin, i geisio heddwch ganddo. A'r brenin a'i cymerth ef i heddwch drwy dalu ohono dreth fawr iddo.
Ac ymchwelyd a orug y brenin i Loegr, ac erchi i Owen ddyfod gydag ef, a dywedyd y talai iddo a fyddai cyfiawn, a dywedyd wrtho, "Hyn a ddywedaf it. Mi a af i Normandi, ac o deui di gyda mi, mi a gywiraf it bob peth ar a addewais it, a mi a'th wnaf yn farchog urddol." A chanlyn y brenin a wnaeth drwy y môr. A'r brenin a gywirodd iddo bob peth ar a addewis iddo.
IV.
Gruffydd ab Rhys.
[i. Dychweliad Gruffydd ab Rhys i Gymru; y Cymry ieuainc yn ymdyrru ato, o chwant anrhaith y cestyll ac o gariad at eu gwlad. ii. Cwymp Owen ab Cadwgan, ac anrhefn ym Mhowys ar ei ol.]
1112. Ymchwelodd y brenin o Normandi, ac Owen fab Cadwgan gydag ef. A bu farw Ieffrei, esgob Mynyw, ac yn ei ol yntau y daeth gŵr o Normandi, yr hwn a elwid Bernard, yr hwn a ddyrchafwyd yn esgob ym Mynyw gan Henri frenin, o anfodd holl ddysgedigion y Brytaniaid, gan eu tremygu. Ynghyfrwng hynny y daeth Gruffydd fab Rhys Tewdwr, brenin Deheubarth, o Iwerddon, yr hwn a aethai yn ei fabol oedran gyda rhai o'i geraint hyd yn Iwerddon. Ac yna y trigodd oni bu wr aeddfed. Ac yn y diwedd, wedi diffygio o dra hir alltudedd, yr ymchwelodd i dref ei dad. A hwnnw a drigodd amgylch dwy flynedd, weithiau gyda Geralt, ystiward Castell Penfro, ei ddaw gan ei chwaer, a honno oedd Nest, ferch Rhys fab Tewdwr, gwraig Geralt. ystiward; weithiau ereill gyda'i geraint; weithiau yng Ngwynedd; weithiau yn absen o le i le. Yn y diwedd ei cyhuddwyd wrth y brenin, a dywedyd fod meddwl pawb o'r Brytaniaid gydag ef, drwy ei ryfygu o frenhinol feddiant Henri frenin. A phan gigleu Gruffydd y chwedlau hynny, arfaethu a wnaeth at fyned at Ruffydd fab Cynan i geisio amddiffyn ei hoedl. Ac wedi anfon cenhadau ef addewis, o deuai ato, ei arfolli yn llawen. Ac wedi clybod o Ruffydd fab Rhys. hynny, ef a Hywel ei frawd a aethant ato. Yr Howel hwnnw a fuasai yng ngharchar Ernwlff fab Rosser, iarll Castell Baldwin, yr hwn a roddasai Wilym frenin iddo cyfran o gyfoeth Rhys fab Tewdwr. Ac yn y diwedd y diangasai yr Hywel hwnnw yn anafus, wedi trychu ei aelodau, o'r carchar. Ac yna arfolled hwynt, ac eraill gydag hwynt, yn hygar gan Ruffydd ab Cynan.
Ac ynghyfrwng hynny, wedi clybod o'r brenin fyned Gruffydd ab Rhys at Ruffydd ab Cynan, anfon cenhadau a wnaeth at Ruffydd fab Cynan i erchi iddo ddyfod ato. Ac megis y mae moes y Ffreinc dwyllo dynion drwy addewidion, addaw llawer a wnaeth Henri frenin iddo o chymerai arno ddal Gruffydd fab Rhys, a'i anfon yn fyw ato ef; ac oni allai ei ddal, ei ladd ac anfon ei ben iddo. Ac yntau, drwy addo hynny, a ymchwelodd i'w wlad. Ac yn y lle gofyn a wnaeth pa le yr oedd Gruffydd fab Rhys yn trigo. A mynegi a wnaethpwyd i Ruffydd fab Rhys ddyfod Gruffydd fab Cynan o lys y brenin, a'i geisio yntau yn ewyllys. Ac yna y dywed rhai wrtho a oeddynt yn trigo gydag ef,—"Gochel ei gynddrychiolder, oni wyper pwy ffordd y cerddo y chwedl." Ac yntau yn dywedyd hynny, nachaf un yn dyfod ac yn dywedyd,—"Llyma farchogion yn dyfod ar frys." A braidd yr aeth ef drwy y drws, nachaf y marchogion yn dyfod i'w geisio. Ac ni allodd amgen na chyrchu eglwys Aberdaron ar nawdd. Ac wedi clybod o Ruffydd fab Cynan ei ddianc i'r eglwys, anfon gwyr a orug i'w dynnu ef o'r eglwys allan. Ac ni adawodd esgyb a henafiaid y wlad hynny, rhag llygru nawdd yr eglwys. Ac wedi ei ollwng o'r eglwys efe a ffoes i'r Deheu, a daeth i Ystrad Tywi. Ac wedi clybod hynny, llawer a ymgynhullodd ato o bob tu; ac yntau a ddug cyrch anhygar aniben ar y Ffreinc a'r Fflemisiaid oni ddarfu y flwyddyn honno.
1113. Cyrchodd y Gruffydd ab Rhys a ddywedasom ni uchod, yn ei frwydr gyntaf, y castell oedd yn ymyl Arberth, ac ei llosges. Oddyna daeth hyd yn Llanymddyfri, lle yr oedd castell neb un tywysog a elwid Ricert Pwnswn, y gŵr y rhoddasai Henri frenhin iddo y Cantref Bychan, a phrofes ei dorri a'i losgi, ac nis gallodd, canys ymwrthladd ag ef a wnaeth ceidwaid y castell, a chydag hwynt Meredydd fab Rhydderch fab Caradog, y gŵr a oedd yn cynnal ystiwardiaeth dan y dywededig Ricert. Y rhag gastell eisoes a losges; ac wedi ymsaethu o'r tŵr ag ef, a brathu llawer o'i wyr â saethau, a lladd ereill, yr ymchwelodd drachefn. Ac wedi hynny anfones ei gymdeithion i wneuthur cyrch a chynnwri ar gastell a oedd yn ymyl Aber Towy, a hwnnw a bioedd iarll a elwid Henri Bemwnd. Ac wedi llosgi y rhag gastell, ac amddiffyn o'r ceidwaid y tŵr, a lladd rhai o'i wyr, yr ymchwelodd drachefn. Ac wedi clybod hynny, ac ymgynnull ato lawer o ynfydion ieuainc o bob tu, wedi eu twyllo o chwant anrheithiau, neu o geisio adnewyddu Brytanawl deyrnas, ac ni thâl ddim oni bydd Duw yn borth iddo, gwneuthur a orug уsglyfaethau mawr yn ei gylch o gylch.
A'r Ffreinc yna a gymerasant gyngor, a galw penaethau y wlad atynt, nid amgen Owen fab Cradog fab Rhydderch, y gŵr y rhoddasai Henri frenin iddo ran o'r Cantref Mawr; a Meredydd fab Rhydderch, yr hwn a ddywedasom ni fry: a Rhydderch fab Tewdwr, a'i feibion Meredydd ac Owen, mam y rhai hynny, gwraig Rhydderch ab Tewdwr, oedd Hunydd, ferch Bleddyn ab Cynfyn, y pennaf o'r Brytaniaid wedi Gruffydd ab Llywelyn, y rhai oedd yn frodyr un fam; canys Angharad, ferch Feredydd frenin y Brytaniaid, oedd eu mam eill dau, ac Owen fab Caradog fab Gwenllian ferch y dywededig Fleddyn, y rhai, a llawer o rai ereill, a ddaethant ynghyd. A gofyn a orug y Ffreinc iddynt a oeddynt oll ffyddlonion i Henri frenin; ac ateb a wnaethant eu bod. A dywedyd a wnaeth y Ffreinc wrthynt,—"Od ydych fel y dywedwch, danghoswch ar eich gweithredoedd yr hyn ydych yn addaw ar eich tafod. Rhaid yw i chwi gadw castell Caerfyrddin, yr hwn a bie y brenin, pob un ohonoch yn ei osodedig amser, fel hyn, cadw y castell o Owen fab Cradog bythewnos, a Rhydderch fab Tewdwr pythewnos arall, a Meredydd fab Rbydderch ab Tewdwr pythewnos." Ac i Bledri fab Cadifor y gorchymynwyd castell Robert Lawgam yn Abercofwy.
Ac wedi ansoddi y pethau hynny, Gruffydd ab Rhys a bryderodd am anfon disgwyliaid am dorri y castell neu ei losgi. A phan gafas amser cyfaddas fel y gallai yn hawdd gyrchu y castell, yna y damweiniodd fod Owen fab Caradog yn cadw ynghylch y castell. Ac yna y dug Gruffydd ab Rhys gyrch nos am ben y castell. A phan gigleu Owen a'i gymdeithion gynnwrf y gwyr, a'u gewri yn dyfod, cyfod yn ebrwydd o'r ty lle yr oedd ef a'i gymdeithion a wnaethant. Ac yn y lle y clywai yr awr, ef ei hun a gyrchodd ym mlaen ei fyddin, a thebygu fod ei gymdeithon yn ei ol; hwyntau, wedi ei adaw ef ei hunan, a ffoasant; ac felly ei llas yna. Ac wedi llosgi y rhag-gastell, heb fyned i mewn i'r tŵr, ymchwelodd ag yspeilion. ganddo i'r notaedigion goedydd. Oddiyno ymgynhullasant ieuainc ynfydion y wlad o bob tu ato, o debygu gorfod ohono ar bob peth o achos y damwain hwnnw; canys castell a oedd yng Ngwyr a losgest ef o gwbl, a lladd llawer o wyr ynddo. Ac yna gadewis Gwilym o Lundain ei gastell rhag ei ofn, a'i holl anifeiliaid a'i oludoedd. Ac wedi darfod hynny,—megis y dywed Selyf "dyrchafel a wna ysbryd yn erbyn cwymp," yna yr arfaethodd, yn chwyddedig o falchder ac o draha yr anosparthus bobl a'r ynfyd giwdod, cyweirio ynfydion o Ddyfed i Geredigion, a chymeryd gwrthwynebedd i'r gyfiawnder; gwedi galw o Gedifor ab Gronw, a Howel fab Idnerth, a Thrahaearn ab Ithel, y rhai a oeddynt yn dynesau o gyfnesafrwydd gerennydd a chyfadfab, a dyuno arglwyddiaethau iddo. A'r rhai hynny a oeddynt gydag ef ym mlaen holl wyr Ceredigion; ac ni allai dim fod yn ddireitiach na'r Cadifor hwnnw i'r wlad a chyffredin cyn nag iddo adaw Dyfed yn llawn o amryfaelon genhedloedd, nid amgen Filemisiaid a Ffreinc a Sacson, a'i giwdawd genedl ei hun, y rhai, cyd beynt un genedl â gwyr Ceredigion, eisoes gelynion galonnau oedd ganddynt o achos eu hanesmwythdra a'u hanundeb cyn na hynny. Ac yn fwy na hynny, rhag ofn y tremyg a wnaethent i Henri frenin, y gŵr a ddofasai holl benaduriaid ynys Prydain a'i allu a'i feddiant, ac a ddarostyngasai lawer o wladoedd tramor wrth ei lywodraeth, rhai o nerth arfau, eraill o aneirif roddion aur ac arian; y gŵr nis dichon neb ymosgryn ag ef eithr Duw ei hun, y neb a roddes y meddiant iddo.
Ac wedi dyfod Gruffydd fab Rhys, yn gyntaf y daeth i Iscood. Ac yna cyrchodd y lle a elwir Blaen Porth Hodnant, yr hwn a adeilasai neb un Fflemiswr; ac yno y daeth y Fflemisiaid i drigo. Ac wedi ymladd dyddgwaith ar hyd y dydd, a lladd llawer o wyr y dref, a lladd un o'i wyr yntau, a llosgi y rhan fwyaf o'r dref, heb gael dim amgen na hynny ymchwelodd drachefn. Oddiyno y rhuthrodd gwyr y wlad ato, o ddieflig anogedigaeth, yn gyfun, megis yn ddisyfyd. A'r Saeson, a ddygasai Gilbert cyn na hynny i gyflenwi y wlad, yr hon cyn na hynny o anamlder pobloedd a oedd wag falch, a ddiffeithasant ac a laddasant, ac a yspeiliasant ac a losgasant eu tai. A'u hynt a'u cynnwrf a ddygant hyd ym Mhenwedig. A chylchynu a orugant gastell Razon ystiward, yn y lle a elwir Ystrad Peithyll, ac ymladd ag ef a orugant, a'i orchfygu; ac wedi lladd llawer ynddo, ei losgi a wnaethant. A phan ddaeth y nos, pabellu a wnaeth yn y lle a elwir Glasgrug, megis ar filltir oddiwrth eglwys Badarn. Anafrwydd a wnaethant yn yr eglwys, dwyn yr yscrubl yn fwyd iddynt o'r eglwys. A bore drannoeth ymarfaethu a wnaethant â'r castell a oedd yn Aberystwyth, gan debygu ei orfod; ac yna y danfones Razon. ystiward, gŵr a oedd gastellwr ar y castell hwnnw, ac y llosgasid ei gastell yntau cyn na hynny ac y lladdesid ei wyr, yn gyffoedig o ddolur am ei wyr ac am y golled, ac yn ergrynedig rhag ofn, (?) genhadau hyd nos i gastell Ystrad Meurig, yr hwn a wnaethodd Gilbert ei arglwydd cyn na hynny, i erchi i'r castellwyr oedd yno ddyfod ar ffysg yn borth iddo. A gwarcheidwaid y castell a anfonasant ato gymaint ag a allasent ei gaffael, ac hyd nos y daethant ato. Trannoeth y cyfodes Gruffydd fab Rhys, a Rhydderch fab Tewdwr ei ewythr, a Meredydd ac Owen ei feibion, yn ansynhwyrus o'u pebyll, heb gyweirio eu byddin, ac heb osod arwyddion o'u blaen; namyn bileinllu, megis cyweithas o giwdawd bobl ddigyngor, heb lywiawdwr arnynt, y cymerasant eu hynt parth a chastell Aberystwyth, yn y lle yr oedd Razon ystiward a'i gymhorthiaid gydag ef, heb wybod onaddynt hwy hynny oni ddaethant hyd yn Ystrad Antaron, a oedd gyferwyneb â'r castell. A'r castell a oedd osodedig ar ben mynydd, a oedd yn llithro hyd yn afon Ystwyth, ac ar yr afon yr oedd pont. Ac fel yr oeddynt yn sefyll yno, megis yn gwneuthur magnelau, ac yn meddylio pa ffurf y torrent y castell, y dydd a lithrodd haeach onid oedd brydnawn. Ac yna yr anfones y castellwyr, megis y mae moes gan y Ffreinc gwneuthur pob peth drwy ystryw, gyrru saethyddion hyd y bont i fiere â hwynt, megis, o delynt hwy yn ansynhwyrawl dros y bont, y gallai farchogion. llurugog eu cyrchu yn ddisyfyd, a'u hachub. A phan welas y Brytaniaid y saethyddion mor lew yn cyrchu y bont, yn ansynhwyrus y rhedasant yn eu herbyn, gan ryfeddu paham mor ymddiriedus y beiddient gyrchu y bont. Ac fel yr oedd y naill rai yn cyrchu a'r rhai ereill yn saethu, yna y cyrchodd marchog llurugog yn gynhyrfus y bont. A rhai o wyr Gruffydd a'i cyferbynodd ar y bont, ac yntau yn arfaethu eu cyrchu hwyntau. Ac yna eisoes y torres y march ei fwnwgl; ac wedi brathu y march, y digwyddodd. Ac yna arfaethodd pawb â gwewyr ei ladd yntau; a'i lurig a'i hamddiffynnodd oni ddaeth neb un o'r fyddin a'i thynnu. A phan gyfodes ynteu y ffoes. A phan welas ei gymdeithion ef yn ffoi, ffoasant hwyntau oll. A'r Brytaniaid a'u hymlidiodd hyd yng ngwrthallt y mynydd. Y dorf ol eisoes nid ymlidiodd, namyn, heb geisio na phont na rhyd, cymryd eu ffo a wnaethant. A phan welas y Ffreinc o ben y mynydd y rhai hynny yn ffoi, cyrchu y dorf flaen a wnaethant, a lladd cymaint ag a gawsant. Ac yna y gwasgarwyd y giwdod bobl ar draws y wlad o bob tu, rhai a'u hanifeiliaid ganddynt, rhai eraill wedi gado pob peth namyn ceisio amddiffyn eu heneidiau, oni adewid yr holl wlad yn ddiffaeth.
Ynghyfrwng hynny anfones Henri frenin genhadau at Owen fab Cadwgan, i erchi iddo ddyfod ato. Ac yntau yn y lle a ddaeth. Y phan ddaeth, dywedodd y brenin wrtho, "Fy ngharedicaf Owen, a adwaenost ti y lleidryn gan Ruffydd fab Rhys, y sydd megis yn ffoedig yn erbyn fy nhywysogion i? Ac achos canys credaf i ti ddyfod yn gywiraf gŵr i mi, mi a fynnaf dy fod di yn dywysog llu gyda'm mab i i wrthladd Gruffydd fab Rhys. A mi a wnaf Lywarch fab Trahaearn yn gydymaith it, canys ynnoch chwi eich dau yr ymddiriedaf. A phan ymchwelych drachefn, mi a dalaf bwyth it yn deilwng." A llawenhau a orug Owen o'r addewidion hynny, a chynnull llu, a Llywarch gydag ef, a mynd i gyd hyd yn Ystrad Tywi, lle y tybygid fod Gruffydd fab Rhys yn trigo, canys coetir oedd, ac yn anawdd ei gerdded, ac yn hawdd rhuthro gelynion ynddo. A phan ddaeth i derfynau y wlad, holl wyr Owen a mab y brenin a'u cymhorthiaid a anfonasant eu byddinoedd i'r coedydd, pawb dan yr amod hwn,—nad arbedai neb ei gleddyf, nac i wr nac i wraig, nac i fab nac i ferch; a phwy bynnag a ddelynt, nas gochelynt heb ei ladd neu ei grogi neu drychu ei aelodau. A phan gigleu giwawd bobl y wlad hynny, ceisio a wnaethant ffurf y gallent gael amddiffyn. Ac felly y gwasgarwyd hwynt,—rhai yn llechu yn y coedydd, eraill yn ffoi i wladoedd eraill, eraill yn ceisio amddiffyn o'r cestyll nesaf y daethont o honynt, megis y dywedir mewn Brytanawl ddihareb, Y ci a lyfa yr arf y brather ag ef. Ac wedi gwasgaru y llu dan y coedydd, fe ddamweiniodd i Owen, ac ychydig o nifer gydag ef, gyrchu y coed, o amgylch dengwyr a phedwar ugain, ac yn edrych a welynt oleu dynion. Nachaf y gwelynt oleu dynion yn cyrchu parth a chastell Caerfyrddin, lle y darfu iddynt wneuthur eu heddwch. A'u hymlid a wnaeth hyd yn agos i'r castell; ac wedi eu dal yno, ymchwelyd at ei gymdeithion a orug.
Ynghyfrwng hynny damweiniodd dyfod llu o Fflemisiaid o'r Rhos i Gaer Fyrddin yn erbyn mab y brenin, a Gerald ystiward gyda hwynt. Nachaf y rhai a ddiangasant yn dyfod dan lefain tua'r castell, ac yn mynegi eu hysbeilio o Owen fab Cadwgan, a'u hanrheithio. A phan gigleu y Fflemisiaid hynny, enynnu a wnaethant o gasawl gynhorfynt yn erbyn Owen, o achos y mynych goddiant a wnaethai cymdeithion Owen iddynt cyn na hynny Ac o anogedigaeth Gerald ystiward, y gŵr llosgasai Owen ei gastell ac y dygasai i drais Nest ei wraig a'i anrheithio, ymlid a orngant. Heb debygu fod gwrthwynebydd iddo, Owen a gymerth ei hynt yn araf. A hwyntau, gan ei ymlid ef, a ddaethant yn ebrwydd hyd y lle yr oedd ef, a'r anrhaith ganddo. A phan welas cymdeithion Owen ddirfawr luosogrwydd yn eu hymlid, dywedyd a wnaethant wrtho,—"Llyma luosogrwydd yn ymlid, heb allu o nebi ymwrthladd â hwynt." Ateb. iddynt a wnaeth,—"Nac ofnwch heb achos, byddinoedd y Fflemisiaid ynt." Ac wedi dywedyd hynny eu cyrchu a wnaeth. A dioddef y cynnwrf a wnaethant yn wrol; ac wedi bwrw saethau o bob tu y digwyddodd Owen yn frathedig. Ac wedi ei ddigwydd ef, ymchwelodd ei gymdeithion ar ffo. A phan gigleu Lywarch ab Trahaearn hynny, ymchwelyd, ef a'i wyr, a wnaeth drachefn i'w wlad.
Ac wedi ei ladd ef, cynhaliodd ei frodyr ei ran ef o Bowys oddieithr yr hyn a ddygasai Owen cyn na hynny gan Meredydd fab Bleddyn, nid amgen Caereinion, yr hwn oedd eiddo Madog fab Rhirid cyn na hynny. Ac enwau ei frodyr yw y rhai hyn, Madog ab Cadwgan, o Wenlian, ferch Gruffydd ab Cynan: ac Einion fab Cadwgan, o Sanan, ferch Dyfnwal; a'r trydydd oedd Wrgan fab Cadwgan, o Ellyw, ferch Cadifor fab Collwyn, y gŵr a fu bennaf arglwydd ar wlad Dyfed; pedwerydd fu Henri fab Cadwgan o'r Ffrances ferch Pictot, tywysog o'r Ffreinc, ac o honno y bu fab arall iddo a elwid Gruffydd; y wheched fu Meredydd, o Euron, ferch Hoedlyw ab Cadwgan ab Elstan.
Ac wedi hynny yr ymarfolles Einion fab Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Meredydd ab Bleddyn ynghyd i ddwyn cyrch am ben castell Uchtryd fab Edwin, a oedd gefnder i Fleddyn frenin. Canys Iwerydd, mam Owen ac Uchtryd feibion Edwin, a Bleddyn fab Cynfyn, oeddynt frawd a chwaer un dad ac nid un fam; canys Angharad ferch Feredydd fab Owen oedd fam Bleddyn, a Chynfyn ab Gwerstan oedd eu tad eill dau. A'r castell ddywedasom ni oedd yn y lle a elwid Cymer ym Meirionnydd. Canys Cadwgan fab Bleddyn a roddasai Feirionnydd a Chyfeiliog i Uchtryd fab Edwin, dan amod ei fod yn gywir iddo ac i'w feibion, ac yn gynhorthwy yn erbyn ei holl elynion. Ac yntau oedd wrthwynebwr ac ymladdgar yn erbyn Cadwgan a'i feibion. Ac wedi colli Owen, heb debygu gallu dim o feibion Cadwgan, y gwnaeth ef y dywededig gastell. Ac hwyntau a ddywedasom i fry, drwy sorr a gyrchasant y castell, ac a'i llosgasant. Ac wedi foi rhai o'r gwarcheidwaid, a dyfod ereill atynt hwyntau i heddwch, achub a wnaethant Feirionnydd a Chyfeiliog a Phenllyn, a'u rhannu rhyngddynt. Ac i Ruffydd fab Meredydd y daeth Cyfeiliog a hanner Penllyn a'r hanner arall o Benllyn i feibion Cadwgan fab Bleddyn.
Ynghyfrwng hynny y terfynodd y flwyddyn yn flin ac yn adgas gan bawb.
CASTELL ABERYSTWYTH.
v.
Gwynedd a Phowys.
[Ymladd am Ddyffryn Clwyd. Colli'r Llong Wen. Ymgyrch Harri II. i Bowys. Ymladd am Feirionnydd. Terfysg a marw heddychwr.]
1114. Bu farw Gilbert fab Ricert. A Henri frenin a drigodd yn Normandi, o achos bod rhyfel rhyngddo a brenin Ffrainc. Ac felly y terfynodd y flwyddyn honno.
1115. Magwyd anundeb rhwng Hywel fab Ithel, a oedd arglwydd ar Ros a Rhufoniog, a meibion Owen fab Edwin,— Gronw a Rhirid a Llywarch ei frodyr, y rhai ereill. A Hywel a anfones genhadau at Feredydd fab Bleddyn a meibion Cadwgan fab Bleddyn, Madoc ac Einion, i erfyn iddynt ddyfod yn borth iddo. Canys o'u hamddiffyn hwyntau a'u cynhaledigaeth yr oedd ef yn cynnal y gyfran o'r wlad a ddaethai yn rhan iddo. A hwyntau, pan glywsant ei orthrymu ef o feibion Owen, a gynhullasant eu gwyr a'u cymdeithion i gyd, cymaint ag a gawsant yn barod, yn amgylch pedwar can wr. Ac aethant yn ei erbyn i Ddyffryn Clwyd, yr hwn a oedd wlad iddynt hwy. A hwyntau a gynhullasant eu gwyr gydag Uchtryd eu hewythr, a dwyn gyda hwynt y Ffreinc o Gaerlleon yn borth iddynt. A hwyntau a gyfarfuant a Hywel, a Meredydd a meibion Cadwgan a'u cymhorthiaid; ac wedi dechreu brwydr, ymladd o bob tu a wnaethant yn chwerw. Ac yn y diwedd y cymerth meibion Owen a'u cymdeithion ffo, wedi lladd Llywarch fab Owen a Iorwerth fab Nudd, gwr dewr enwog oodd ac wedi lladd llawer, a brathu lliaws, yr ymchwelasant yn orwag drachefn. Ac wedi brathu Hywel yn y frwydr, y dygpwyd adref; ac ymhen y deugeinfed diwrnod, bu farw Ac yna ymchwelodd Meredydd a meibion Cadwgan adref, heb lyfasu goresgyn y wlad, rhag y Ffreinc cyd ceffynt y fuddugoliaeth.
1116. Bu farw Mwrcherdarch, y brenin pennaf o Iwerddon, yn gyflawn o luosogrwydd a buddugoliaethau.
1117. Arfaethodd Henri frenin ymchwelyd i Loegr wedi heddychu rhyngddo a brenin Ffrainc, a gorchymyn a orug i'r mordwywyr gyweirio llongau iddo. Ac wedi parotoi y llongau, anfon a wnaeth ei ddau fab yn un o'r llongau. Un ohonynt. a anesid o'r frenhines ei wraig briod. Ac o hwnnw yr oedd y tadawl obaith o'i fod yn gwladychu ar ol ei dad. A mab arall o ordderch iddo, a'i un ferch, a llawer o wyr mawr gydag hwyntau. Ac o wragedd arbennig oddeutu doucant, y rhai a debygynt eu bod yn deilyngaf o gariad plant y brenin. Ac fe roddwyd iddynt y llong oreu a diogelaf a oddefai y môr donnau a'r morolion dymhestloedd. Ac wedi eu myned i'r llong ddechreunos, dirfawr gyffroi a orug y môr donnau, drwy eu cymell o dymhestlawl fordwy drygdrwm. Ac yna cyfarfu y llong a chreigawl garreg a oedd yn ddirgel dan y tonnau heb wybod i'r llongwyr, a thorrest y llong ganddi yn ddrylliau, a boddes y meibion, a'r nifer oedd gyda hwynt, hyd na ddiengis neb onaddynt. A'r brenin a esgynasai i mewn llong arall yn eu hol. A chyd gyffroi o ddirfawrion dymhestlau y môr donnau, ef a ddiengodd i'r tir. A phan gigleu foddi ei feibion, drwg a ddaeth arno. Ac ynghyfrwng hynny y terfynnwys y flwyddyn honno.
1117. Priodes Henri frenin ferch neb un dywysog o'r Almaen, wedi marw merch y Moel Cwlwm ei wraig. A phan ddaeth yr haf, cyffroes Henri ddirfawr greulon lu yn erbyn gwyr Powys, nid amgen Meredydd fab Bleddyn, ac Einion a Madog a Morgan meibion Cadwgan fab Bleddyn. A phan glywsant hwyntau. hynny, anfon cenhadau a orugant at Ruffydd fab Cynan, a oedd yn cynnal Ynys Fon, i erfyn iddo fod yn gydarfoll a hwynt yn erbyn y brenin, fel y gallent warchadw yn ddiofn anialwch eu gwlad. Ac yntau, drwy gynnal heddwch â'r brenin, a ddywed, o ffoent hwy i derfynau ei gyfoeth ef, y parai eu hysbeilio a'u hanrheithio, ac eu gwrthwynebai. A phan wybu Meredydd a meibion Cadwgan hynny, cymryd cyngor a wnaethant. Ac yn y cyngor y cawsant gadw terfynau eu gwlad eu hunain, a chymeryd eu hamddiffyn ynddynt. A'r brenin a'i luoedd a ddynesasant i derfynau Powys. Ac yna y danfones Meredydd fab Bleddyn ychydig o saethyddion ieuainc, i gyferbynied y brenin mewn gwrthallt goeding anial ffordd yr oedd yn dyfod, fel y gallent â saethau ac ergydiau wneuthur cynnwrf ar y llu. Ac fe a ddamweiniodd, yn yr awr y daeth y gwyr ieuainc hynny i'r wrthallt, dyfod yno y brenin a'i lu. A'r gwyr ieuainc hynny a erbyniasant yno a brenin a'i lu; drwy ddirfawr gynnwrf gollwng saethau ymhlith y llu a wnaethant. Ac wedi lladd llawer a brathu ereill, un o'r gwyr ieuainc a dynnodd ei fwa ac a ollyngodd saeth ymhlith y llu. A honno a ddigwyddodd yng nghadernid arfau y brenin, gyferbyn a'i galon, heb wybod i'r gwyr a'i bwriodd. Ac nid argyweddodd y saeth i'r brenin rhag daed ei arfau, canys llurugog oedd; namyn treillio a orug y saeth drachefn o'r arfau. Ac ofnhau yn fawr a wnaeth y brenin, a dirfawr aruthder a gymerth ynddo yn gymaint haeach a phe'i brethid drwyddo. Ac erchi i'r lluaws a wnaeth babellu, a gofyn a orug pwy rai a oeddynt mor eofn a'i gyrchu ef yn gyn lewed a hynny. A dywedyd a wuaethpwyd iddo mai rhai o wyr ieuainc a anfonasid gan Feredydd fab Bleddyn a wnaethai hynny. Ac anfon a wnaeth atynt genhadau i erchi iddynt ddyfod ato drwy gynghrair. A hwyntau a ddaethant. A gofyn a wnaeth iddynt pwy a'u hanfonasai yno. A dywedyd a wnaethant mai Meredydd. A gofyn iddynt a wyddyat pa le yr oedd Feredydd yna. Ac ateb. a wnaethant y gwyddynt. Ac erchi a wnaeth yntau i Feredydd ddyfod i heddwch. Ac yna daeth Meredydd a meibion Cadwgan i heddwch y brenin. Ac wedi heddychu rhyngddynt ymchwelodd y brenin i Loegr trwy addo deng mil of wartheg yn dreth ar Bowys. Ac felly y terfynodd y flwyddyn honno.
1120. Lladdodd Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr Ruffydd fab Trahaearn.
1121. Bu farw Einion fab Cadwgan, y gwr a oedd yn cynnal rhan o Bowys a Meirionnydd, y wlad a ddygasai ef o gan Uchtryd fab Edwin; ac wrth ei angau a'i gymunrodd i Feredydd fab Bleddyn ei ewythr.
Ac yna gollyngwyd Ithel fab Rhirid o garchar Henri frenin. A phan ddaeth i geisio rhan o Bowys, ni chafas ddim. A phan gigleu Gruffydd ap Cynan wrthladd Meredydd fab Cynan o Feredydd fab Bleddyn ei ewythr, anfon a wnaeth Gadwaladr ac Owen ei feibion, a dirfawr lu ganddynt, hyd ym Meirionnydd. A dwyn a wnaethant holl ddynion y wlad ohoni, a'u holl dda gydag hwynt, hyd yn Lleyn. Ac oddyna cynnull llu a wnaethant ac arfaethu alldudio holl wlad Powys. Ac heb allu cyflewni eu harfeddyd, ymchwelasant drachefn. Ac yna ymarfolles Meredydd fab Bleddyn a meibion Cadwgan fab Bleddyn ynghyd, a diffeithiasant y rhan fwyaf o gyfoeth Llywarch fab Trahaearn, o achos nerthu ohono feibion Gruffydd ab Cynan, ac ymarfoll a hwynt.
1122. Lladdodd Gruffydd fab Meredydd ab Bleddyn Ithel ab Rhirid ab Bleddyn ei gefnder yng ngwydd Meredydd ei dad. Ac yn ol ychydig o amser wedi hynny y lladdodd Cadwallon ab Gruffydd ab Cynan ei dri ewythr, nid amgen Gronw a Rhirid a Meilir, meibion Owen ab Edwin. Canys Angharad ferch Owen ab Edwin oedd wraig Ruffydd ab Cynan, a honno oedd fam Cadwallon ac Owen a Chadwaladr, a llawer o ferched.
Yn y flwyddyn honno magwyd terfysg rhwng Morgan a Meredydd, meibion Cadwgan fab Bleddyn. Ac yn y terfysg hwnnw y lladdodd Morgan a'i law ei hun Feredydd ei frawd.
1123. Ymchwelodd Harri frenin o Normandi wedi heddychu rhyngddo â'r neb y buasai terfysg ag hwynt cyn no hynny.
1124. Gwrthladdwyd Gruffydd fab Rhys o'r cyfran o dir a roddasai y brenin iddo; wedi ei gyhuddo yn wirion, heb ei haeddu ohono, o'r Ffrainc a oeddynt yn cydbreswylio ag ef.
Yn niwedd y flwyddyn honno y bu farw Daniel fab Sulien esgob Mynyw, y gŵr a oedd gymodredwr rhwng Gwynedd a Phowys yn y terfysg a oedd rhyngddynt. Ac nid oedd neb a allai gael bai nag anghlod arno, canys tangnefeddus oedd, a charedig gan bawb. Ac archddiagon Powys oedd.
VI.
Rhwng dwy Genhedlaeth.
[1. Anrhefn Powys, a marw Meredydd fab Bleddyn, ii. Ymdaith Owen Gwynedd a Chadwaladr meibion Gruffydd ab Cynan. iii. Marw Gruffydd ab Rhys a Gruffydd ab Cynan. iv. Anghydfod rhwng Owen Gwynedd a Chadwaladr. v. Marw Sulien. vi. Dau wr ieuanc vii. Gofid a llawenydd Owen Gwynedd.]
1125 Bu farw Gruffydd fab Bleddyn. A dallwyd Llywelyn ab Owen gan Feredydd fab Bleddyn, ei ewythr frawd ei hendad, a hwnnw a'i rhoddes yn llaw Baen fab Ieuan, y gwr a'i hanfones yng ngharchar hyd yng nghastell Bruch.
Yn niwedd y flwyddyn bu farw Morgan ap Cadwgan yn Cipris, yn ymchwelyd o Gaersalem, wedi myned o hono a chroes i Gaersalem oherwydd iddo ladd cyn na nynny Feredydd ei frawd.
1126. Gwrthladdwyd Meredydd fab Llywarch o'i wlad, y gŵr a laddodd fab Meurig ei gefnder, ac a ddallodd feibion Griffri ei ddau gefnder arall. A Ieuaf fab Owen a'i gwrthladdodd, ac yn y diwedd a'i lladdodd.
1227.[3] Llas Iorwerth fab Llywarch gan Lywelyn fab Owen ym Mhowys. Ychydig wedi hynny yspeiliwyd Llywelyn fab Owen o'i lygaid gan Feredydd fab Bleddyn. A las Ieuaf fab Owen gan feibion. Llywarch fab Owen ei gefnder. Yn niwedd y flwyddyn honno llas Madog fab Llywarch gan Feurig ei gefnder fab Rhirid.
1128. Yn niwedd y flwyddyn ysbeiliwyd Meurig o'i ddau lygad.
1129. Llas Iorwerth fab Owen Cadwgan fab Gruffydd ab Cynan gan Gadwgan fab Gronw ab Owen ei gefnder, ac Einion fab Owen.
Ychydig wedi hynny y bu farw Meredydd ab Bleddyn, tegwch a diogelwch holl Bowys, a'i hamddiffyn; wedi cymeryd iachwyol benyd ar ei gorff, a gleindid edifarwch yn ei ysbryd, a chymun corff Crist, ac olew ac angen.
1130. Bu bedair blynedd ar un tu heb gael neb ystoriau ar a ellid eu gwarchadwi dan gof.
1134. Bu farw Henri fab Gwilym bastard, brenin Lloegr a Chymru a'r holl ynys oddiam hynny, yn Normandi, y trydydd dydd o fis Rhagfyr. Ac yn ei ol yntau y cymerth Estefyn o Blaes, ei nai, goron y deyrnas yn drais, a darostyngodd. yn wrol iddo holl ddeheu Lloegr.
1135. Llas Ricert fab Gilbert gan Forgan ab Owen.
Wedi hynny cyffroes Owen a Chadwaladr, feibion Gruffydd fab Cynan, ddirfawr lu i Geredigion, —y gwyr a oedd degwch yr holl Frytaniaid, a'u diogelwch a'u rhyddid a'u cadernid; y gwyr a oeddynt ddau ardderchog frenin, a dau haelion; dau ddiofn, dau lew dewrion; dau ddedwyddion, dau huodron, dau ddoethion; diogelwyr yr eglwysau a'u hardemylwyr, ac amddiffynwyr y tlodion: llofruddion y gelynion, heddychwyr y rhai ymladdgar dofiodron y gwrthwynebwyr; y diogelaf nawdd o bawb ar a ffoai atynt y gwyr a oeddynt yn rhagrymhau o nerthoedd eneidiau a chyrff, ac yn cydgynnal yn un holl deyrnas y Brytaniaid. Y rhai hynny ar y rhuthr gyntaf, a losgasant gastell Gwallter. Ac yna, wedi cyffroi eu hadanedd, yr ymladdasant â chastell Aberystwyth ac ei llosgasant. A chyda Hywell fab Meredydd a Madog fab Idnerth a deufab Hywel, nid amgen Meredydd a Rhys, llosgasant gastell Ricert de la Mere, a chastell Dinerth, a chastell Caerwedros. Ac oddyna ymchwelasant adref.
Yn niwedd y flwyddyn honno daethant eilwaith i Geredigion, a chyda hwynt amlder llu o ddetholedigion ymladdwyr, fel o amgylch chwe mil o bedyt addwyn a dwyfil o farchogion llurygog. Ac yn borth iddynt y daeth Gruffydd fab Rhys, a Hywel fab Meredydd o Frycheiniog, a Madog fab Idnerth a deufab Hywel fab Meredydd. A'r rhai hynny oll yn gyfun a gyweiriasant ou byddinoedd yn Aberteifi. Ac yn eu herbyn y daeth Ysteffyn Gwnstabl, a Robert fab Martin, a meibion Gerald ystiward, a'r holl Fflemisiaid, a'r holl farchogion, a'r holl Ffreinc o Aber Nedd hyd yn Aber Teifi. Ac wedi cyrchu y frwydr ac ymladd yn greulon o bob tu, y cymerth y Fflemisiaid a'r Normaniaid eu ffo oherwydd eu harferedig ddefod. Ac wedi lladd rhai onaddunt, a llosgi ereill, a thrychu traed meirch ereill, a dwyn ereill yng nghaethiwed, a boddi y rhan fwyaf megis ynfydion yn yr afon; ac wedi colli amgylch tair mil o'u gwyr, yn drist aflawen yr ymchwelasant i'w gwlad. Ac wedi hynny ymchwelodd Owen a Chadwaladr i'w gwlad yn llawen, wedi caffael y fuddugoliaeth, a chael dirfawr amlder o geith, ac anrheithiau, a gwisgoedd mawrwerth, ac arfau.
1136. Bu farw Gruffydd fab Rhys, lleufer a chadernid ac addfwynder y Deheuwyr.
Y flwyddyn honno bu farw Gruffydd ab Cynan, brenin a phenadur a thywysog ac amddiffynnwr a heddychwr holl Gymru, wedi lliaws o beryglon môr a thir, wedi aneirif anrheithiau a buddugoliaethau rhyfeloedd, wedi goludoedd aur ac arian a dillad mawrwerth; wedi cynnull Gwynedd, ei briod wlad, y rhai a darwyd eu gwasgaru cyn na hynny i amryfael wledydd gan y Normaniaid; wedi adeiladu llawer o eglwysau yn ei amser, a'u cysegru i Dduw wedi gwisgo am dano yn fynach, a chymryd cymun corff Crist, ac olew, ac angen.
Yn y flwyddyn honno bu farw Ieuan, archoffeiriad Llanbadarn, y gŵr a oedd ddoethaf o'r doethion; wedi arwain ei fuchedd yn grefyddus hyd angau yn y trydydd dydd o galan Ebrill.
Yn y flwyddyn honno hefyd, daeth meibion Gruffydd ab Cynan y drydedd waith i Geredigion, a llosgasant gastell Ystrad Meurig a chastell Llanstephan a chastell Caerfyrddin.
1137. Daeth yr ymherodes i Loegr i ddarostwng brenhiniaeth Loegr i Henri ei mab; canys merch oedd hi i Henri gyntaf, fab Gwilym fastard. A bu diffyg ar yr haul y deuddegfed dydd o galan Ebrill.
1138. Llas Cynwrig ab Owen gan deulu Madog fab Meredydd.
1139. Bu farw Madog fab Idnerth. A llas Meredydd fab Hywel gan feibion Bleddyn fab Cynfyn Gwyn.
1140. Llas Howel fab Meredydd fab i Rhydderch o'r Cantref Bychan drwy ddychymyg Rhys fab Hywel, ac ef ei hun a'i lladdodd.
1141. Las Hywel fab Meredydd ab Bleddyn gan neb un heb wybod pwy a'i lladdodd. A las Hywel a'i frawd, meibion Madog fab Idnerth.
1142. Llas Anarawd fab Gruffydd, gobaith a chadernid a gogoniant y Deheuwyr, gan deulu Cadwaladr, y gwr yr oeddynt yn ymddiried iddo yn gymaint ag a fynnai. Ac wedi clybod o Owen ei frawd hynny, drwg fu ganddo; canys amod a wnaethai roddi ei ferch i Anaraw. A mynnu Cadwaladr ei frawd a wnaeth. Ac yna achubodd Hywel fab Owen ran Cadwaladr o Geredigion, a llosges gastell Cadwaladr a oedd yn Aberystwyth.
Llas Milo, iarll Henffordd, â saeth. neb un farchog iddo ei hun, a oedd yn bwrw carw yn hela gydag ef.
1143. Pan welas Cadwaladr fod Owen ei frawd yn ei wrthladd o'i holl gyfoeth, cymerth lynges o Iwerddon a orug, a dyfod i Abermenai i'r tir. Ac yn dywysogion gydag ef yr oedd Otter, a mab Turkyll a mab Cherwlf, Yng nghyfrwng hynny cytunodd Owen a Chadwaladr, megis y gweddai i frodyr, a thrwy gyngor y gwyrda y cymodasant. A phan glywyd hynny, delis Germanwyr Gadwaladr; ac yntau a amodes iddynt ddwy fil o geith,. ac felly yr ymryddhaodd oddiwrthynt. A phan gigleu Owen hynny, a fod ei frawd yn rhydd, terfysgus gynnwrf a wnaeth arnynt, a'u cyrchu yn ddiennig a orug. A gwedi lladd rhai a dala ereill a'u caethiwo yn waradwyddus, y diangasant ar ffo hyd yn Dulyn.
Y flwyddyn honno dadgyweiriodd Hu fab Rawli gastell Gemaron, a goresgynnodd eilwaith Faelenydd. Ac yna adgyweiriwyd Colwyn, a darostyngwyd Elfael yr eilwaith i'r Ffreinc.
1144. Delis Mortemer Rys fab Hywel ac y carcharodd mewn carchar, wedi lladd rhai o'i wyr a dala ereill, Ac yna diffeithiodd Howel fab Owen a Chynan ei frawd. Ac wedi bod brwydr arwdost, a chael onaddynt y fuddugoliaeth, yr ymchwelasant drachefn, a dirfawr anrhaith ganddant. Ac yna daeth Gilbert iarll, fab Gilbert arall, i Ddyfed; a darostyngodd y wlad, ac adeiladodd gastell Caerfyrddin, a chastell arall ym Mab Udrut.
1145. Bu farw Sulien Richmarch, mab i Seint Padarn, mab maeth yr eglwys, a gwedi hynny athro arbennig. Gŵr oedd. aeddfed ei gelfyddyd, ymadroddwr dros ei genedl a dadleuwr cymedrodwyr, heddychwr amryfaelon genhedloedd, addurn o frodiau eglwysolion a'r rhai bydolion,—y deuddegfed dydd o galan Hydref,—gwedi iachwyawl benyd ar ei gysegredigaeth gorff, a chymun corff Crist, ac olew ac angen.
Ac yna llas Meurig fab Madog fab Rhirid, yr hwn a elwid Meurig Tybodiad, drwy frad, gan oi wyr ei hun. Ac yna llas Meredydd fab Madog fab Idnerth gan Hu o Mortemer.
YMOSOD AR GASTELL.
Goresgynnodd Cadell fab Gruffydd gastell Dinweileir, yr hwn a wnaethodd Gilbert iarll. Ychydig wedi hynny y gorfu ef a Hywel ab Owen Gaerfyrddin drwy gadarn ymryson, wedi lladd llawer o'u gelynion a brathu ereill.
Ychydig o ddyddiau wedi hynny y daeth yn ddisyfyd ddirfawr lu o'r Ffreinc a'r Fflemisiaid i ymladd â'r castell, ac yn dywysogion yn eu blaen feibion Gerald Ystiward a Gwilym ab Aedd. A phan welas Meredydd ab Gruffydd, y gwr y gorchmynasid iddo gadwraeth y castell a'i amddiffyn, ei elynion yn dyfod mor ddisyfyd a hynny, gyrru calon yn y gwyr a orug, a'u hannog i ymladd, a bod yn drech gantaw ei fryd na'i oed. Canys, cyn bei bychan ei oed, eisoes yr oedd gantaw weithred marchog, ac yn anghrynedig dywysog yn annog ei wyr i ymladd, ac yn cyrchu ei hun ei elynion yn arfau. A phan welas ei elynion fychaned oedd y nifer yn amddiffyn o fewn y castell, dyrchafel ysgolion wrth y muroedd a wnaethant. Ac yntau a oddefodd i'w elynion i esgyn tua'r bylchau. Ac yn ddilesg ef a'i wyr a ymchwelasant yr ysgolion, oni syrthiodd y gelynion yn y clawdd, gan yrru ffo ar y rhai ereill, a gado lliaws onaddynt yn feirw, yr hyn a ddanghoses iddo y ddedwydd dynghedfen rhag llaw, ar gaffael dawn ohono ar wladychu yn y Deheu. Canys gorfu, ac ef yn fab, ar lawer o wyr profedig yn ymladdau; ac yntau ag ychydig o nerth gydag ef.
Yn niwedd y flwyddyn y bu farw Rhun fab Owen, yn was ieuanc clodforusaf o genedl y Brytaniaid, yr hwn gawsai fonedd ei rieni yn ardderchog. Canys teg oedd o ffurf a drych, a hynaws o ymadroddion; a huawdr wrth bawb, rhag welawdwr yn rhoddion; ufudd ymhlith ei dylwyth, balch ymhlith ei estronion; a therwyn garw wrth ei elynion, digrif wrth ei gyfeillion; hir ei dyad, gwyn ei liw, pengrych, melyn ei wallt; goleision ei lygaid, llydain a llawen; mwnwgl hir praff, dwy fron lydan, ystlys hir; morwydydd preiffion, esgeiriau hirion, ac o du ucha ei draed yn feinion; traed birion a bysedd meinionoedd iddo. A phan ddaeth y chwedl am ei irad angeu ef at ei dad Owen, ef a gododd ac a dristhaodd yn gymaint ag na allai dim ei hyfrydhau ef, na thegwch teyrnas na digrifwch, na chlaear ddiddanwch gwyrda nac edrychedigaeth mawr-werthogion bethau.
Namyn Duw, rhagwelawdwr pob peth, a drugarhaodd, o'i arferedig ddefod, wrth genedl y Brytaniaid, rhag ei cholli, megis llong heb lywiawdwr arni, a gedwis iddynt Owen yn dywysog arnynt. Canys, cyn cyrchasai anioddefedig dristyd feddwl y tywysog, eisoes ef a'i drychafodd disyfyd lawenydd drwy ragweledigaeth Duw. Canys yr oedd neb un gastell a elwid yr Wyddgrug, y buesid yn aml yn ymladd ag ef heb dycio. A phan ddaeth gwyrda Owen a'i deulu i ymladd âg ef, ni allodd nag anian y lle na'i gadernid ymwrthladd ag hwynt, oni losged y castell ac onis diffeithiwyd, wedi lladd rhai o'r castellwyr, a dala ereill a'u carcharu. A phan gigleu Owen, ein tywysog ni, hynny, y gollyngwyd ef gan bob dolur a phob meddwl cwynfannus, ac y daeth yn rymus i'r ansawdd a oedd arno gynt.
VII.
Meibion y Dewrion.
[1. Meibion Gruffydd ab Rhys,—ysigo Cadell, marw Meredydd, gallu yr Arglwydd Rhys. 2. Meibion Owen Gwynedd, medr milwrol Hywel, terfysg Cynan. 3. Madog ab Meredydd o Bowys. 4. Yr ymladd rhwng Owen Gwynedd a Harri'r Ail]
1146. Daeth Lowys frenin Ffreinc, ac amherawdwr yr Almaen gydag ef, a dirfawr luosogrwydd o ieirll a barwniaid a thywysogion gydag hwynt, a chroes i Gaerusalem.
Cyffroes Cadell ab Gruffydd, a'i frodyr Meredydd a Rhys, a Gwilym ab Gerallt a'i frodyr gydag hwynt, lu am ben castell Gwys. Ac wedi anobeithio onaddunt yn eu nerthoedd eu hunain, galw Hywel ab Owen a orugant yn borth iddynt, Canys gobeithio yr oeddynt, o'i ddewrlow luosogrwydd ef, parotaf ei ymladdau a'u doethaf gyngor, gaffel onaddynt y fuddugoliaeth. A Hywel, megis yr oedd chwannog yn wastad i glod a gogoniant, a beris cynnull llu gloewaf a pharotaf yn anrhydedd eu harglwydd; cymryd hynt a orug tua'r dywededig gastell. Ac wedi ei arfoll yn anrhydeddus o'r dywededigion farwniaid yno, pabellu a wnaeth. A holl negesau y rhyfel a wneid o'i gyngor ef a'i ddychymyg. Ac felly yr oedd pawb ar a oedd yno i oruchel ogoniant a buddugoliaeth drwy orfod ar y castell o'i gyngor ef, gan ddirfawr ymryson ac ymladd. Ac oddyno yr ymchwelodd Hywel yn fuddugol drachefn.
Ni bu bell gwedi hynny oni fu terfysg rhwng Hywel a Chynan feibion Owen a Chadwaladr. Ac oddyna y daeth Hywel o'r naill tu, a Chynan o'r tu arall, hyd ym Meirionnydd; a'u galw a wnaethant i law gwyr y wlad a giliasant i noddfâu eglwysau, gan gadw ag hwynt y noddfâu ac anrhydedd yr eglwys. Ac oddyna cyweirio eu byddin a wnaethant tua Chynfael, castell Cadwaladr, yr hwn a wnaethoedd Cadwaladr cyn no hynny, yn y lle yr oedd Morfran abad y Ty Gwyn yn ystiwart, yr hwn a wrthodes roddi y wrogaeth iddynt, cyd ys profid weithiau drwy arwyddion fygythiau, gweithiau ereill drwy aneirif anrhegion a rhoddion a gynhygid iddo. Canys gwell oedd ganddo farw yn addfwyn na dwyn ei fuchedd yn dwyllodrus. A phan weles Hywel a Chynan hynny, dwyn cyrch cynhyrfus i'r castell a wnaethant, ac ennill a orugant y drais. Ac o fraidd y diengis ceidwaid y castell drwy nerth eu cyfeillion, wedi lladd rhai o'u cydymdeithion a brathu ereill.
Bu farw Robert iarll, fab Harri, gŵr a gynhalasai ryfel yn erbyn Ystefyn frenin. ddeuddeng mlynedd cyn na hynny.
1147. Bu farw Uchtrud esgob Llandaf, gŵr mawr ei foliant ac amddiffynnwr yr eglwysau, gwrthwynebwr ei elynion, yn ei berffaith henaint. Ac yn ei ol ynteu y bu esgob Nicol fab Gwrgant. Bu farw Bernard esgob Mynyw, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg ar hugain o'i esgobawd, gŵr rhyfedd ei foliant a'i ddwyfolder a'i sancteiddrwydd oedd, wedi dirfawrion lafuriau ar dir a môr; wrth beri i eglwys Fynyw ei hen ryddid. Ac yn ei ol yntau dynesodd yn esgob Dafydd fab Geralt archddiagon Ceredigion. Bu farw Robert esgob Henffordd gwr oedd, herwydd ein barnwriaeth ni, grefyddus a chyflawn o weithredoedd cardodau a hygar borthwr y tlodion, ac arbennig degwch yr eglwysau, yn gyflawn o ddyddiau da, hyd na lygrid. cader yr faint brelad hwnnw o anheilwng orlyniawdur. Yna yr urddwyd Gilbert, abad Caerloew, yn esgob Henffordd. Bu fawr farwolaeth yn ynys Prydain.
1148. Adeilodd Owen fab Gruffydd ab Cynan gastell yn Ial. Adeilodd Cadwaladr fab Gruffydd gastell Llanrhystud o gwbl, ac a roddes ei ran ef o Geredigion i Gadwgan ei fab. Ynghylch diwedd y flwyddyn honno adeiladd Madog fab Meredydd gastell Croesyswallt, a rhoddes Gyfeiliog Owen a Meurig feibion Gruffydd ab Meredydd, ei neiaint.
1149. Adgyweiriodd Cadell ab Gruffydd gastell Caerfyrddin er tegwch a chadernid ei deyrnas, a diffeithiodd Gydweli. Carcharodd Owen, frenin Gwynedd, Gynan ei fab. Delis Hywel fab Owen Gadfan fab Cadwaladr ei gefnder, ac achubodd y tir a'i gastell. Ni bu bell wedi hynny oni ddoeth meibion Gruffydd fab Rhys, Cadell a Meredydd a Rhys,—a llu ganddynt i Geredigion, a'i goresgyn hyd yn Aeron. Darparodd Madog, fab Meredydd frenin Powys drwy nerth Randwl iarll Caerlleon, cyfodi yn erbyn Owen Gwynedd. Ac wedi lladd pobl ei gynhorthwywyr ef, ymchwelodd y rhai ereill eu cefnau i ffoi.
1150. Dug Cadell a Meredydd a Rhys, feibion Gruffydd ab Rhys, Geredigion oll gan Hywel ab Owen, eithr un castell a oedd ym Mhen Gworn yn Llanfihangel. Wedi hynny goresgynasant gastell Llanrhystud o hir ymladd ag ef Wedi hynny cafas Hywel fab Owen y castell hwnnw o drais, ac ei llosges oll. Ni bu haeach wedi hynny pan adgyweiriodd Cadell a Meredydd feibion Gruffydd ab Rhys gastell Ystradmeurig.
Ac wedi hynny gadawyd Cadell fab Gruffydd yn lled farw, wedi ei ysigo yn greulon o rai o wyr Dinbych, ac ef yn hela. Ychydig wedi hynny, wedi cynnull o Feredydd a Rhys feibion Gruffydd ab Rhys eu cadernit, yn gyfun cyrchasant Whyr, ac ymladd a wnaethant a chastell Aberllychwr, a'i losgi, a diffeithio y wlad. Adgyweiriasant hwy ill dau gastell Diniweileir ac adgyweiriodd Hywel fab Owen gastell Hwmffre yn nyffryn Cletwr.
1151. Ysbeiliodd Owen Gwynedd. Gunedda fab Cadwallon, ei nai fab ei frawd, o'i lygaid. Lladdodd Llywelyn ab Madog ab Meredydd Ysteffyn fab Baldwin. Bu farw Simon, archddiagon Cyfeiliog, gwr mawr ei anrhydedd a'i deilyngdod.
1152. Cyweiriodd Meredydd a Rhys, feibion Gruffydd fab Rhys, i Benwedig. Ac ymladd a wnaethant â Chastell Hywel, a'i dorri. Ni bu fawr wedi hynny oni chyrchodd feibion Rhys gastell Dinbych: a thrwy frad nos, wedi torri y porth, goresgynasant y castell, a dodasant ef yng nghadwraeth Gwilym fab Geralt. Ac wedi darfod hynny, diffeithiodd Rhys fab Gruffydd, a dirfawr lu gydag ef, gastell Ystrad Cyngen Mis Mai wedi hynny eyrchodd Gruffydd a Rhys feibion Gruffydd i gyd i gastell Aberafan, ac wedi ladd y castellwyr a llosgi y castell, dirfawr anrhaith ac aneirif oludoedd a ddygant ganddynt. Oddyno eilwaith diffeithiodd Rhys Gyfeiliog drwy fuddugoliaeth.
Bu farw Dafydd fab y Moel Cwlwm brenin Prydain. Daeth Harri tywysog i Loegr. Bu farw Randwlff iarll Caerllion. Aeth Cadell mab Gruffydd i bererindod, a gadewis ei holl feddiant a'i allu yng nghadwraeth Meredydd a Rhys, ei frodyr, oni ddelei ef.
1153. Bu farw Ysteffyn frenin, y gwr a gynhaliodd frenhiniaeth Lloegr o drais yn ol Henri fab Gwilym Bastard. A gwedi hynny daeth Henri fab yr amberodres, a chynhaliodd holl Loegr.
Bu farw Griffri ab Gwynn.
1154. Bu farw Meredydd ab Gruffydd ab Rhys brenin Ceredigion ac Ystrad Tywi a Dyfed, yn y bumed flwyddyn ar hugain o'i oed, gŵr a oedd ddirfawr ei drugaredd wrth dlodion, ac ardderddog ei gadernid wrth ei elynion, a chyfoethog ei gyfiawnder.
Bu farw Geffrei, esgob Llandaf, ar offeren; a iarll Henffordd.
1155. Pan gigleu Rhys fab Gruffydd fod Owen Gwynedd ei ewythr yn dyfod a llu ganddo i Geredigion, yn ddilesg y cynhullodd yntau lu a daeth hyd yn Aber Dyfi; ac yno y gorffwysodd ar fedr ymladd a rhoddi brwydr i Owen Gwynedd a'i lu. Ac ni bu bell wedi hynny pan wnaeth yno gastell.
Gwnaeth Madog fab Meredydd, arglwydd Powys, gastell yng Nghaereinion yn ymyl Cymer. Diengis Meirig fab Gruffydd, nai i'r dywededig Fadog, o'i garchar. Ni bu bell wedi hynny oni chysegrwyd eglwys Fair ym Meifod.
Bu farw Terdeilach frenin Conach.
1156. Dug Henri fab yr amherodres, ŵyr oedd hwnnw i Henri fab Gwilym Bastard, lu hyd yn maesdir Gaerlleon ar fedr darostwng iddo holl Wynedd; ac yno pabellu a wnaeth. Ac yno, gwedi galw Owen Tywysog Gwynedd ato ei feibion a'i nerth a'i lu a'i allu, pabellu a orug yn ninas Basin y dirfawr lu gydag ef. Ac yno gosod oed brwydr a'r brenin a wnaeth. A peri dychafel cloddiau ar fedr rhoddi cad ar faes y brenin. Ac wedi clybod o'r brenin hynny, rhannu ei lu a orug, ac anfon ieirll a barwniaid, gyda chadarn luosogrwydd o lu arfog ar hyd y traeth tua'r lle yr oedd Owen; a'r brenin ei hun yn ddiergrynedig, ac arfog fyddinoedd parotaf i ymladd gydag ef, a gyrchasant drwy y coed a oedd rhyngddynt a'r lle yr oedd Owen. A'i gyferbynyd a orug Dafydd a Chynan, feibion Owen, yn y coed anial, a rhoddi brwydr chwerwdost i'r brenin. Ac wedi lladd llawer o'i wyr braidd y dihengis i'r maestir. A phan gigleu Owen fod y brenin yn dyfod iddo o'r tu drach ei gefn, a gweled ohono y ieirll o'r tu arall yn dynesu a dirfawr lu arfog ganddynt, gado y lle a orug, a chilio a orug hyd y lle a elwir Cil Owen. Ac yna cynnull a orug y brenin ei lu ynghyd yn greulawn. Ac yna pabellodd Owen yn nhal Llwyn Pina, ac oddyno yr angyweddai y brenin ddydd a nos. A Madog fab Meredydd, arglwydd Powys, a ddewisodd le i babellu rhwng llu y brenin a llu Owen, fel y gallai erbynied y cyrchu cyntaf a wnelai y brenin.
VIII.
Yr Arglwydd Rhys.
[1. GWYNEDD. Marw Angharad. Galar a phrudd-der Owen. Anrheithio Tegeingl. Undeb Cymru yng Nghorwen. Cymeryd Rhuddlan. Marw Owen Gwynedd. ii. Powys. Marw Madog fab Meredydd. Yasbilio Owen Cyfeiliog. iii DEHEUBARTH Yr Arglwydd Rhys yn uno'r Deheubarth yn erbyn y brenin. Darostwng ieirll Ceredigion a chestyll Dyfed. Ymdaith Harri II. trwy Gymru i Iwerddon; yr ymweliad â Thyddewi. Gallu'r Arglwydd Rhys.]
YNGHYFRWNG hynny y dyblygodd lynges y brenin i Fon. A gwedi gadaw yn y llongau y gwyr noethion a'r gwasanaethwyr, y cyrchodd tywysog y llongau a'r penlongwyr gydag ef, i ynys Fon, ac yspeilio a wnaethant eglwys Fair ac eglwys Bedr a llawer o eglwysau ereill. Ac am hynny y gwnaeth Duw ddial arnynt. Canys trannoeth bu brwydr rhyngddynt a gwyr Mon Ac yn y frwydr honno ciliodd y Ffreinc, oherwydd eu gnotaedig ddefod, gwedi lladd llawer onaddynt a dala ereill a boddi ereill; a braidd y diengis ychydig onaddynt i'r llongau, wedi lladd Henri fab Henri frenin a chan mwyaf holl benaduriaid y llongwyr.
A gwedi darfod hynny, heddychodd y brenin ac Owen, a chafas Cadwaladr ei gyfoeth drachefn. Yna ymchwelodd y brenin i Loegr. Ac yna ymchwelodd Iorwerth Goch fab Meredydd i gastell Ial a llosges ef.
Llas Morgan ab Owen drwy dwyll gan wyr Ifor fab Meurig, a chydag ef y llas y prydydd goreu, a hwnnw a elwid Gwrgan fab Rhys. Ac yna gwladychodd Iorwerth fab Owen, frawd Morgan, dir Caerlleon at holl gyfoeth Owen.
A gwedi gwneuthur heddwch o holl dywysogion Cymru a'r brenin, Rhys fab Gruffydd ei hunan a ddarparodd gwneuthur rhyfel ag ef. A dyuno a wnaeth holl Ddeheubarth, a'i holl anwyliaid, a'u holl dda ganddynt, hyd yng nghoedydd Ystrad Tywi. A phan gigleu y brenin hynny, anfon cenhadau a wnaeth at Rys, i fynegi iddo fod yn gryno iddo fyned i lys y brenin yn gynt nag y dygai Loeger a Chymru a Ffrainc am ei ben, ac nad oedd neb eithr ef ei hunan yn ymerbyniad â'r brenin. Ac wedi myned yn ei gyngor ef a'i wyrda ef a aeth i lys y brenin. Ac yno gorfu arno o'i anfodd heddychu a'r brenin, dan amod iddo gaffel y Cantref Mawr, a chantref arall o'r a fynnai y brenin ei roddi iddo, yn gyfan heb ei wasgaru. Ac ni chynhelis y brenin ag ef hynny, namyn rhoddi dryll o dir yng nghyfoeth pob barwn o amryfaelion farwniaid. A chyd deallai Rhys y dwyll honno, cymryd a wnaeth y rhannau hynny a'u cynnal yn heddychol.
Ac yng nghyfrwng hynny, cyd dyfrysai Rosser, iarll Clar, myned i Geredigion; eisoes nis beiddiai cyn heddychu Rhys a'r brenin. Ac wedi hynny, y dyddgwaith cyn calan Mehefin, y doeth i Ystrad Meurig a thrannoeth, duw calan Mehefin, yr ystores y castell hwnnw a chastell Hwmphre, a chastell Aberdyfi, at chastell Dineir, a chastell Rhystud.
Yng nghyfrwng hynny y dug Gwallter Clifford anrhaith o gyfoeth Rhys ab Gruffydd, ac y lladdodd o'i wyr y wlad nesaf iddo. Canys ef bioedd castell Llanymddyfri. Ac wedi darfod hynny y danfones Rhys genhadau at y brenin i beri iawn iddo am hynny. Ac yna yr ymchwelodd teulu Rhys. Ac i gastell Llanymddyfri y daeth Rys atynt, ac y goresgynnodd y castell. Yna y cyrchodd Einon fab Anarawd brawd yr arglwydd Rhys, ieuanc o oed a gwrol o nerth, ac achos gweled obono bod Rhys ei ewythr y rhydd o'r amod ac o bob llw a roddasai y brenin, ac o achos ei fod yntau yn dolurio cyfarsangedigaeth ei briod genedl gan dwyll y gelynion, yna y cyrchodd am ben castell Hwmphre, a lladdodd y marchogion dewraf a cheidwaid y castell o gwbl, a dug holl anrhaith y castell a'i holl ysbail oll ganddo. Ac yna, pan welas Rys fab Gruffydd na allai ef gadw dim gantaw or a roddasai y brenin iddo namyn yr hyn enillai o'i arfau, cyrchu a wnaeth am ben y cestyll a ddarostyngasai y ieirll a'r barwniaid yng Ngheredigion, a'u llosgi. Ac wedi clybod o'r brenin hynny, cyrchu Deheubarth a wnaeth, a llu ganto. Ac wedi mynych wrthwynebu o Rys a'i wyr iddo, ymchwelyd a wnaeth i Loegr. Ac oddyno yr aeth drwy y môr.
1158. Darostynges yr arglwydd Rys fab Gruffydd y cestyll a wnaethoedd y Ffreinc ar draws Dyfed, ac eu llosges, Yng nghyfrwng hynny yr arweddodd ei lu i Gaerfyrddin, i ymladd ag ef. Ac yna y doeth Rheinallt fab Henri frenin yn ei
CASTELL PENFRO.
erbyn, a chydag ef ddirfawr luosowgrwydd o Ffreinc a Fflemisiaid a Saeson a Chymry. A gado a orug Rys y castell, a chynnull ei wyr i gyd hyd ym mynydd Cefn Rhestyr. Ac yna y pabellodd yng nghastell Dinweilir Reinallt iarll Bryste a iarll Clar a deu iarll ereill, a Chadwaladr fab Gruffydd, a Hywel a Chynan feibon Owen Gwynedd, a dirfawr lu o farchogion a phedyt gydag hwynt. A heb feiddio cyrchu y lle yr oedd Rys, ymchwelyd adref a wnaethant yn llaw segur. Oddyna cynnyg cynghrair â Rhys a orugant, ac yntau a'i cymerth; a chaniatau ei wyr a wnaeth ymchwelyd i'w gwlad.
1159. Bu farw Madog fab Meredydd arglwydd Powys, y gwr a oedd dirfawr ei folianrwydd, yr hwn a ffurfiodd Duw o gymeredig degwch, ac a'i cyflawnodd o anhybygedig hyder, ac a'i haddurnodd o lewder a molianrwydd, ufudd a hygar a hael wrth y tlodion, huawdur wrth ufuddion, garw ac ymladdgar wrth ei alon, gwedi gwneuthur iachwyol benyd, a chymryd cymun corff Crist, ac olew, ac angen; ac ym Meifod, yn y lle yr oedd ei wylfa yn eglwys Tysilio sant, y claddwyd ef yn anrhydeddus.
Ni bu fawr gwedi hynny oni las Llywelyn ei fab, y gwr a oedd unig obaith i holl wyr Powys.
Ac yna y delis Cadwallon fab Madog fab Idnerth Einon Clud ei frawd, ac ei danfones yng ngharchar Owen Gwynedd. Ac Owen a'i rhoddes i'r Ffreinc; a thrwy ei gydymdeithion y diengis hyd nos o Wicew yn rhydd.
1160. Bu farw Angharad, gwraig, Ruffydd fab Cynan. Bu farw Meurig, esgob Bangor. Goresgynnodd Hywel fab Ieuaf o dwyll gastell Dafolwern yng Nghyfenog. Ac o achos hynny y syrthiodd Owen Gwynedd yng nghymaint o ddolur ag na allai na thegwch teyrnas na diddanwch neby rhyw ddim arall ei arafhau, na'i dynnu o'i gymeredig lid. Ac eisoes, cyd cyrchei anioddefedig dristyd feddwl Owen, disyfyd lawenydd o ragweledigaeth Duw a'i cyfodes. Canys yr un rhyw Owen a gyffroes unrhyw fui Arwystli hyd yn Llan Dinam; ac wedi caffael dirfawr anrhaith onaddunt, ymgynnull a orug gwyr Arwystli, amgylch tri chan wr gyda Hywel fab Ieuan eu harglwydd, i ymlid yr anrhaith. A phan welas Owen ei elynion yn dyfod yn ddisyfyd, annog ei wyr ymladd a orug, a'r gelynion a ymchwelasant ar ffo, gan eu lladd o Owen a'i wyr, oni bu braidd y dihengis y traean adref ar ffo. A phan gyflenwis y llawenydd hwnnw feddwl Owen, yna yr ymchwelodd ar ei gysefin ansawdd, wedi ei ryddhau o'i gymeredig dristyd, ac adgyweirio y castell a orug.
1162. Digwyddodd Caer Offa gan Owen ab Gruffydd ab Owen ab Madog, a Meredydd fab Hywel.
Cyffroes Henri frenin Lloegr lu yn erbyn Deheubarth, a daeth hyd ym Mhen Cader. Ac wedi rhoddi gwystlon a Rys iddo, ymchwelyd i Loegr a wnaeth.
Llas Einon fab Anarawd yn ei gwsg gan Wallter ab Llywarch, ei wr ei hun.
Lias Cadwgan ab Meredydd gan Wallter fab Rhirid.
Cymerth Rhys ab Gruffydd y Cantref Mawr a chastell Dinefwr.
Bu farw Cadifor fab Daniel archddiagon Ceredigion. Bu farw Henry ab Arthen, goruchel athro ar holl gyffredin yr holl ysgolheigion.
1163. Wedi gweled o Rys ab Gruffydd nad ydoedd y brenin yn cywiro dim wrtho a'r a addawsai, ac na allai yntau ufuddoghau yn addfwyn, cyrchu a wnaeth yn wrol am ben cyfoeth Rosser iarll Clar, y gwr y lladdesid Einon fab Anarawd ei nai o'i achos, a thorri castell Aber Rheidol a chastell mab Wynion a'u llosgi; ac adoresgyn holl Geredigion, a mynych laddfau a llosgfâu ar y Fflemise, a dwyn mynych anrheithiau o ganddynt. Ac wedi hynny yr ymarfolles yr holl Gymry ar ymwrthladd a cheidwaid y Ffreinc, a hynny yn gyfun i gyd.
1164. Diffeithiodd Dafydd fab Owen Gwynedd Degeingl, a mudodd y dynion a'u hanifeiliaid gydag hwynt gydag ef hyd yn Nyffryn Clwyd. Ac wedi tebygu o'r brenin y byddai ymladd ar y castell a oedd yn Nhegeingl, cyffroi llu a orug drwy ddirfawr frys, a dyfod hyd yn Rhuddlan, a phabellu yno deirnos. Ac wedi hynny ymchwelyd i Loegr, a chynnull dirfawr lu gydag ef, a detholedigion ymladdwyr Lloegr a Normandi a Flandrys ac Angiw a Gwasgwin a holl Brydain, a dyfod hyd y Groes Oswallt, gan ddarparu alltudio a difetha yr holl Frytaniaid. Ac yn ei erbyn yntau y daeth Owen Gwynedd a Chadwaladr, feibion Gruffydd ab Cynan, a holl lu Gwynedd. gyda hwynt; a'r arglwydd Rhys ab Gruffydd a'r holl Ddeheubarth gydag ef; ac Owen Cyfeiliog a Iorwerth Goch fab Meredydd a meibion Madog fab Meredydd a holl Bowys gydag hwynt; a deufab Madog fab Idnerth a'i holl gyfoeth gydag ef. Ac i gyd, yn gyfun ddiergrynedig, y daethant hyd yn Edeyrnion, a phabellu a wnaethant yng Nghorwen. Ac wedi trigo yn hir yn eu pabellau yno, heb arfeiddio o un gyrchu at eu gilydd i ymladd, lidio a orug y brenin yn ddirfawr, a chyffroi ei lu hyd yng nghoed Dyffryn. Ceiriog, a pheri torri y coed, a'u bwrw i'r llawr. Ac yno yr ymerbyniodd ag ef yn wrol ychydig o Gymry etholedigion, y rhai ni wyddynt oddef eu gorfod yn absent eu tywysogion. A llawer o'r rhai cadarnaf a ddigwyddodd o bob tu. Ac yno y pabellodd y brenin, a'r byddinoedd gydag ef. Ac wedi trigo yno ychydig o ddyddiau y cyfarsangwyd ef o ddirfawr dymhestl awyr, a thra llifeiriant glawogydd. Ac wedi pallu ymborth iddo yr ymchwelodd ei bebyll a'i lu i faestir Lloegr. Ac yn gyflawn o ddirfawr lid, peris ddallu y gwystlon a fuasai yng ngharchar ganddo, er ystalm o amser cyn na hynny, nid amgen dau fab Owen Gwynedd, Cadwallon a Chynwrig, a Meredydd fab yr arglwydd Rhys, a rhai ereill, Ac wedi cymryd cyngor symudodd ei lu hyd yng Nghaer Lleon, ac yno pabellu a orug lawer o ddyddiau, oni ddoeth llongau o Ddulyn ac o'r dinasoedd ereill o'r Iwerddon ato. Ac wedi nad oedd digon gantaw hynny o longau, rhoddi rhoddion a orug i longau Dulyn a'u gollwng drachefn, ac yntau a'i lu a ymchwelodd i Loegr.
Cyrchodd yr arglwydd Rys gaer Aber Teifi a'i chastell, ac ei torres, ac ei llosges, a dirfawr anrhaith a ddug Ac achub castell Cil Geran a orug, a dala Robert Ysteffyn, a'i garcharu.
Drwy gennad Duw ac annog yr Ysbryd Glân daeth cofeint o fyneich i Ystrad Fflur.
Bu farw Llywelyn fab Owen Gwynedd, y gwr a ragores modd pawb o ddewredd, a doethineb o ddoethineb ar ymadrodd a'r ymadrodd o foesau.
1165. Daeth y Ffreinc o Benfro a'r Fflemisiaid i ymladd yn gadarn â chastell Cil Geran. Ac wedi lladd llawer o'u gwydd, dychwelasant adref yn llaw wag.
Ac eilwaith yr ymladdasant â Chilgeran yn ofer, heb gaffel y castell.
Distrywiwyd dinas Basin gan Owen Gwynedd
Gwrthladdwyd Diermid fab Mwrchath o'i genedl, a daeth hyd yn Normandi at frenin Lloegr i erfyn iddo ei ddodi yn ei gyfoeth drachefn wedi cwyno wrtho.
Gwrthladdwyd Iorwerth Goch fab Meredydd o'i genedl ac o'i gyfoeth ym. Mochnant gan y ddau Owen. A'r ddau Owen hynny ranasant Fochuant rhyngddynt, a daeth Mochnant uch Rhaeadr i Owen Cyfeiliog, a Mochnant is Raeadr- i Owen Fychan.
1166. Cyfunodd meibion Gruffydd ab Cynan o Wynedd a Gruffydd ab Rhys ab Rhys o Ddeheubarth yn erbyn Owen Cyfeiliog y dygant ganddo Gaer Einion, a rhoddasant hi i Owen Fychan fab Madog fab Meredydd. Oddiyno enillasant Dafolwern, a honno a rodded i'r Arglwydd Rhys, canys o'i gyfoeth y dywedid ei hanfod.
Ni bu hir wedi hynny oni ddaoeth Owen Cyfeiliog, a llu o'r Ffreinc gydag ef, am ben castell Caer Einion, yr hwn a wnaethoedd Cymry cyn na hynny. Ac wedi ennill y castell ei dorri a wnaethant, a'i losgi, a lladd yr holl gastellwyr.
Yn niwedd y flwyddyn honno y cyrchodd Owen a Chadwaladr, tywysogion. Gwynedd, a'r Arglwydd Rhys tywysog o Ddebeubarth, a'u lluoedd gydag hwynt, am ben castell Rhuddlan yn Nhegeingl, ac eistedd wrtho drimis a orugant. Ac wedi hynny cael y castell a'i losgi, a chastell arall gydag ef, er moliant i Gymry,—yn hyfryd fuddugol pawb i'w gwlad.
1167. Llas Gwrgeneu abad a Llawdden ei nai gan Gynan ac Owen
1168. Rhyddhawyd Robert fab Ysteffyn o garchar yr Arglwydd Rhys ei gyfaill, a dug Diermid fab Mwrchath ef hyd yn Iwerddon gydag ef. Ac i'r tir y doethant i Lwch Garmon, ac ennill y castell a wnaethant.
1169. Llas Meirig fab Adam drwy dwyll yn ei gwsg gan Feredydd Bengoch ei gefnder. Yn niwedd y flwyddyn honno bu farw Owen Gwynedd fab Gruffydd ab Cynan, tywysog Gwynedd, gwr dirfawr ei foliant ac anfeidrol ei brudd-der a'i fonedd a'i gadernid a'i ddewredd yng Nghymru, wedi aneirif fuddugoliaethau, heb omedd neb erioed o'r arch a geisiai, wedi cymryd penyd a chyffes ac edifarwch a chymun rinweddau corff Crist ac olew act angen.
1170. Lladdodd Dafydd ab Owen Hywel ab Owen, y brawd hynaf iddo.
1171. Llas Thomas archesgob, gwr mawr ei grefydd a'i santeiddrwydd a'i gyfiawnder a'i gyngor, ac o annog Henri frenin Lloegr, y pumed dydd gwedi duw Nadolig, ger bron allor y Drindod yn ei gapel ei hun yng Nghaint, a'i esgobawl wisg am dano a delw y grog yn ei law y llas, ar ddiwedd yr offeren.
Mordwyodd Rhicert iarll Terstig fab. Gilbert Fwa Cadarn, a chadarn farchoglu gydag ef, i Iwerddon, Ac wedi gwneud. cyfeillach â Diermid frenin, ac erchi ei ferch yn briod, o nerth hwnnw y cafas ddinas Dulyn drwy wneuthur dirfawr aerfa. Bu farw Robert fab Llywarch. A bu farw Diermid frenin Largines, a chladdwyd yn y ddinas a elwid Fferna.
Magwyd terfysg rhwng brenin Lloegr a brenin Ffrainc am ladd yr archesgob. Canys brenin Lloegr a roddasai yn feichiau i frenin Ffrainc Henri tywysog Bwrgwin a Thibot ieuanc ei frawd, meibion oedd y rhai hynny i'r Tibod tywysog Bwrgwin, a iarll Flanders, a llawer o rai ereill, pan wnaeth gymod â'r archesgob hyd. na wnai argywedd iddo byth. Ac wedi clywed o Alexander bab ladd yr archesgob, anfon llythyrau at frenin Ffrainc a wnaeth, ac at y meichiau ereill, a gorchymyn iddynt drwy esgymundod gymell brenin Lloegr i ddyfod i lys Rhufain i wneuthur iawn am angau yr archesgob. Ac wrth hynny anesmwytho a wnaethant o bob arfaeth ar ei dremygu ef. A phan welas Henri frenin hynny, dechreu gwadu a orug hyd nad o'i gyngor el y llas yr archesgob, ac anfon cenhadau a wnaeth at y pab i fynegi na allai et fyned i Rufain drwy yr achosion hynny. Yng nghyfrwng hynny y ciliodd rhan fawr o'r flwyddyn.
A thra yr oeddid yn hynny tu draw i'r môr cynhullodd yr Arglwydd Rhys fab Gruffydd lu am ben Owen Cyfeiliog oi ddaw, ar fedr ei ddarostwng Canys y gynifer gwaith y gallai Owen wrthwynebu yr Arglwydd Rhys y gwrthwynebai. A Rhys a'i cymhellodd i ddarostwng iddo, a chymerth saith wystyl ganddo.
Ynghyfrwng hynny ofni a wnaeth y brenin yr apostolawl esgymundod, a gado gwledydd Ffrainc, dychwelyd i Loegr, a dywedyd y mynnai fyned i ddarostwng Iwerddon. Ac wrth hynny ymgynnull a orug ato holl dywysogion Lloegr a Chymru. Ac yna daeth ato yr Arglwydd Rhys, a'r lle yr ydoedd yn Llwyn Daned, yr wyl y ganed yr Arglwyddes Fair, ac ymgyfeillachu a wnaeth â'r brenin drwy addo tri-chan meirch, a phedair mil o ychen, a phedwar gwystl ar hugain. Ac wedi hynny y dynesodd y brenin i Ddeheubarth. Ac ar yr hynt honno, ar afon. Wysg, y dug ganddo Iorwerth fab Owen fab Cradog fab Gruffydd. Ac o achos hynny y distrywiodd Iorwerth, a'i ddau fab Owen a Hywel a anesid iddo o Angharad ferch Uchtrud esgob Llan Daff, a Morgan fab Seisyll fab Dyfnwal o Angharad ferch Owen chwaer Iorwerth fab Owen, gyda llawer o rai ereill, dref Caer Llion, ac ei llosged hyd y castell, ac y diffeithiwyd y wlad haeach o gwbl.
Ac yna daeth y brenin, a dirfawr lu ganddo, hyd ym Mhenfro, yr unfed dydd ar ddeg o galan Hydref, a rhoddes i'r Arglwydd Rhys Geredigion ac Ystrad Tywi ac Ystlwyf ac Efelfire. Ac yn yr haf hwnnw yr adeilasai yr Arglwydd Rhys gastell Aber Teifi o fein a morter, yr hwn. a ddistrywiasai cyn na hynny, pan ei dug oddiar iarll Clâr, ac y dileodd Robert, fab Ysteffyn o Nest a oedd fodryb i Rys, a Robert yn gefnder iddo. A brodyr Robert oedd Dafydd esgob Mynyw a Gwilim Bastard. Meibion oedd y rhai hynny i Erald Ystiward. Ac yna daeth Rhys o gastell Aberteifi hyd yng nghastell Penfro, i ymddiddan â'r brenin, y deuddegfed dydd of galan Hydref, a duw Sadwrn oedd y dydd hwnnw. Ac erchis Rhys gynnull y meirch oll, a addawsai i'r brenin, i Aber Teifi, fel y beunt barod wrth eu hanfon i'r brenin, A thrannoeth, duw-Sul, yr ymchweles Rhys, ac ethol a wnaeth chwe meirch a phedwar ugain, wrth eu hanfon drannoeth i'r brenin. Ac wedi dyfod hyd y Ty Gwyn, clybod a wnaeth fyned y brenin i Fynyw, i bererinio, ac offrwm a wnaeth y brenin ym Mynyw ddau gapan côr, ar fedr cantoriaid i wasanaethu Duw. Ac offrwm hefyd a wnaeth ddeg swllt. Ac. erfyn a orug Dafydd fab Gerallt, y gŵr a oedd yn esgob ym Mynyw yna, i'r brenin fwyta gydag ef y dydd hwnnw. gwrthod y gwahodd a orug y brenin, o achos gweglyd gormod traul i'r esgob. Dyfod eisoes a orug ef a'r esgob a thri channwr gydag hwynt, i ginio; a Ricert iarll, gŵr a oedd o Iwerddon i ymgyfeillio. â'r brenin (canys o anfodd y brenin y daethodd o Iwerddon); a llawer ereill a giniawsant o'u sefyll Ac yn ebrwydd wedi cinio, esgynnodd y brenin ar ei feirch Glaw mawr oedd yn y dydd hwnnw, a duw-gwyl Fihangel oedd. Ac yna dychwelodd i Benfro. A phan gigleu Rhys hynny, anfon y meirch i'r brenin a orug. Ac wedi dwyn y meirch rhag bron y brenin, cymryd a wnaeth un ar bymtheg ar hugain a etholes, a dywedyd nad er bid yn rhaid iddo wrthynt y cymerasai hwynt, namyn er talu diolch i Rys a fai fwy na chynt. Ac wedi rhegi bodd felly i'r brenin, dyfod a orug Rhys at y brenin, a chael dawn a wnaeth ger bron y brenin, a rhyddhau a orug y brenin iddo Hywel ei fab, a fuasai ganto yn wystyl yn hir cyn na hynny a rhoddi oed a orug y brenin iddo am y gwystlon ereill a ddylai Rhys ei dalu i'r brenin. Ac am y dreth a ddywedwyd fry, yn y delai y brenin o Iwerddon. Parotoi llynges a wnaethpwyd, ac nid oedd addas y gwynt iddynt. Canys amser niwliog oedd, a braidd y ceid yna yd aeddfed yn un lle yng Nghymru.
Ac wedi dyfod gwyl Galixtus bab, erchi a wnaeth y brenin gyrru y llongau o'r borthfa i'r môr. A'r dydd hwnnw esgyn y llongau a orugant. Ac eto nid oedd gymwynasgar y gwynt iddynt, Ac achos hynny, ymchwelyd a wnaeth drachefn i'r tir, ac ychydig o nifer gydag ef. A'r nos gyntaf wedi hynny yr esgynnodd y llongau, gan hwylio o hono ef ei hun ac o bawh o'i wyr. A thrannoeth, duw-Sul oedd, yr unfed dydd ar bymtheg o galan Rhagfyr, drwy hyfryd awel wynt, y dyblygodd ei longau i dir Iwerddon.
1172. Bu dirfawr farwolaeth ar y llu oedd gyda'r brenin yn Iwerddon, oherwydd newydd-der y diargrynedigion winoedd ac o achos cyfynder o newyn, am na allai y llongau a newidiau ynddynt fordwyo atynt y gaeaf, drwy dymhestlog gynddaredd Mor Iwerddon.
Bu farw Cadwaladr ab Gruffydd ab Cynan fis Mawrth.
Ymchwelodd brenin Lloegr o Iwerddon, gan adaw yno farwniaid a marchogion urddolion drosto, oherwydd y cenhadau a ddaeth ato gan y pab a Lowys frenin Ffrainc. A duw-Gwener y Groglith doeth hyd ym Mhenfro, ac yno y trigodd y Pasg hwnnw; a duw-Llun Pasg ymddiddanodd â Rhys yn Nhalacharn ar y ffordd. Ac oddiyno aeth i Loegr. Ac wedi myned y brenin o Gaer Dyf hyd y Castell Newydd ar Wysg, anfon a wnaeth i orchi i Iorwerth fab Owen ddyfod i ymweled ag ef, ac i ymddiddan am heddwch. A rhoddi cadarn gyngrhair a orug iddo ac i'w feibion. A phan oedd Owen fab Iorwerth, gwr ieuanc grymus hygar, yn parotoi, o gyngor ei dad a'i wyrda, i fyned gyda'i dad i lys y brenin, y cyfarfu wyr iarll Bryste ag ef ar y ffordd yn dyfod o Gaer Dyf, ac ei lladdasant. Ac wedi ei ladd ef, yna y diffeithiodd ei dad a Hywel ei frawd a llawer o rai ereill, heb ymddiried o'r achos hwnnw i'r brenin o neb un modd, gyfoeth y brenin hyd yn flenffordd a Chaer Loew, drwy ladd a llosgi ac anrheithio heb drugaredd.
Ac yna, heb odrig, y daeth y brenin i Ffrainc, wedi gosod yr Arglwydd Rhys yn ustus yr holl Ddeheubarth.
CAERNARFON:
CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF),
SWYDDFA "CYMRU,"
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.