Buched Dewi

Oddi ar Wicidestun

Yma y treythir o ach Dewi, ac o dalym o'e vuched.

[ACH DEWI]

Dauyd uab Sant, vab Keredic, vab Kuneda, vab Edyrn, vab Padarn Beisrud, vab Deil, vab Gordeil, vab Dwvyn, vab Gordwvyn, vab Amguoel, vab Amweryt, vab Omit, vab Perim, vab Dubim, vab Ongen, vab Auallach, vab Eugen, vab Eudoleu, vab chwaer Veir Wyry, vam Iessu Grist.

[SANT A'R DOFOD]

Keredic Vrenhin a wledychawd lawer o vlwynyded, ac o'e enw ef y kafas Keredigyawn y henw. A mab a vu idaw, ac enw y mab oed Sant. Ac y hwnnw yd ymdangosses angel yn y hun, a dywedut wrthaw : 'Auory,' heb ef, 'ti a ey y hely, a thi a geffy tri dyuot geyr llaw auon Deiui, nyt amgan, karw a gleissyat a heit o wenyn, y mywn prenn uch penn yr auon, yn y lle a elwir Henllan yr awr honn. Dyron dylyet y tri a gadw y vab ny anet etto: ef bieivyd deu le hyt Dyd Brawt, y rei a dywetpwyt uchot, Linenllan a Litonmaucan.

[PADRIG]

Odyna y doeth Padric hyt yng Glynn Rosin, ac y medylyawd dwyn yno y uuched. Ac angel a doeth att Badric, ac a gywedawt wrthaw: 'Adaw di,' heb ef, 'y lle hwnn y vab ny anet etto.' Sef a oruc Padric, llidiaw a dywedut, 'Paham y tremygawd yr Arglwyd y was, a uu yr yn uab yn gwassanaethu idaw drwy ovyn a charyat, ac ethol ohonaw ynteu yr awr honn mab ny anet, ac ny enir hyt ympenn deng mlyned ar hugeint? Ac ymbarattoi a oruc Padric y ymadaw ehun, ac adaw y lle hwnnw y'r Arglwyd Grist. a'r Arglwyd, eissyoes, a garei Badric yn uawr, ac a anuones angel attaw o'e duhudaw. A'r angel a dywawt wrthaw, 'Padric, byd lawen, kanys yr Arglwyd a'm anuones i attat ti, y dangos ytt Ynys Iwerdon o'r eistedua yssyd yng Glynn Rosin (ac a elwir yr awr honn Eistedua Badric). Kanys ti a vydy ebostl yn yr ynys a wely di, a thi a diodeuy lawer yno o garyat Duw, a Duw a vyd y gyt a thi, beth bynnac a wnelych.' Ac yna y llonydwyt medwl Padric, ac a gedewid Padric y Dewi y lle hwnnw. A pharatoi llong yn y porthloed idaw, a chyuodi o varw gwr a gladyssit yno ar y morua yr ys pymtheng mlyned; Cruchier oed y enw. A mynet o oruc Padric y Iwerdon, a'r gwr hwnnw y gyt ac ef. A hwnnw, gwedy hynny, a vu esgob.

[GENI DEWI]

Ac ympenn y deng mlyned ar hugeint gwedy hynny, ual yd oed y brenhin a elwit Sant yn kerdet ehun, nachaf leian yn kyfaruot ac ef. Sef a oruc ynteu, ymauael a hi a dwyn treis arnei. A'r lleian a gafas beichogi (enw y lleian oed Nonn), a mab a anet idi, a Dauyd a rodet yn enw arnaw. A gwr ny bu idi hi na chynt na gwedy : diweir oed hi o vedwl a gweithret.

[RHAI O WYRTHIAU DEWI]

Kyntaf gwyrth a wnaeth Dewi : o'r pan gafas hi veichogi, ny mynnawd hi vwyt namyn bara a dwfyr yn y hoes. Ac ny lewes Dewi vwyt, namyn bara a dwfyr. Eil gwyrth a wnaeth Dewi : a'e uam yn mynet y'r eglwys y wrandaw pregeth y gan Gildas Sant, Gildas a dechreuawd pregethu, ac nys gallei. Ac yna y dywedawt Gildas : 'Ewch oll o'r eglwys allann,' heb ef. Ac elchwyl profi pregethu a oruc, ac nys gallei. Ac yna y govynnawd Gildas a oed neb yn yr eglwys onyt efo ehun. 'Yd wyf i yma,' heb y lleian, 'y rwng y dor a'r paret.' 'Dos di,' heb y sant, ' odieithyr yr eglwys, ac arch y'r plwyf dyuot y mywn.' A phop vn a doeth y le y eisted, ual y buassei. Ac yna pregethu a oruc y sant yn eglur ac yn vchel. Ac yna y govynnawd y plwyd idaw, 'Paham na elleist di bregethu y ni gynneu, a ninneu yn llawen yn damunaw dy warandaw di?' 'Gelwch,' heb y sant, 'y lleian y mywn, a yrreis i gynneu o'r eglwys.' Heb y nonn, 'Llymma vyui,' Heb y Gildas yna 'Y mab yssyd yng kroth y lleian honn yssyd vwy y vedyant a'e rat a'e urda no myui, kanys idaw ef ehun y rodes Duw breint a phennaduryaeth holl seint Kymry yn dragywydawl, kynn Dyd Brawt a gwedy. Ac, am hynny,' heb ef, 'nyt oes fford y mi y drigyaw yma hwy, p achaws mab y lleian racko, y rodes Duw idaw bennaduryaeth ar bawp o'r ynys honn. A reit yw y mi,' heb ef, 'vynet y ynys arall, a gadaw y'r mab hwnn yr ynys honn.' Gwyrth arall a wnaeth Dewi : yn yr awr y ganet, ef a doeth taraneu a mellt. A charrec a oed gyferbyn a phenn Nonn a holltes yny uu deu hanner, ac a neidyawd y neill hanner idi dros benn y lleian hyt is y thraet, pan yttoed hi yn esgor. Gwyrth arall a oruc Dewi : pan vedydywyt, ef a ymdangosses fynnawn o'r daear, lle ny buassei ffynnawn eiryoet. A dall a oed yn daly Dewi wrth vedyd a gafas yna y olwc. Ac yna y dall a wybu vot y mab yd oed yn y daly wrth vedyd yn gyflawn o rat. A chymryt y dwfyr bedyd, a golchi y wyneb a'r dwfyr. Ac o'r awr y ganet, dall wynepclawr oed. Ac yna y olwc a gafas, a chwbyl o'r a berthynei arnei. Sef a wnaeth pawb yna, moli Duw ual y dylyynt.

[ADDYSG DEWI]

Y lle y dysgwyt Dewi yndaw a elwit Uetus Rubus, yng Kymraec yr Hennllwyn. Yno y dysgwyt idaw ef seilym yr holl vlwydyn a'e llithion a'r offerennau. Yno y gweles y gytdisgyblon ef colomen a gyluin eur idi yn dysgu Dewi, ac yn gware yn y gylch. Odyna yd aeth Dewi hyt att athro a elwit Paulinus, a disgybyl oed hwnnw y esgob sant a oed yn Rufein. A hwnnw y damchweinyawd colli o athro Dewi y lygeit, o dra gormod dolur yn y lygeit. A galw a oruc yr athro attaw y holl disgyblon ol yn ol, y geissyaw y ganthunt ganhorthwy am y lygeit ; ac nyt yttoed yr un yn y allel idaw. Ac yn diwethaf oll, galw Dewi a oruc. 'Dauyd.' heb yr athro, 'edrych vy llygeit, y maent y'm poeni.' 'Arglwyd athro,' heb y Dauyd, 'nac arch i mi edrych dy lygeit. Yr ys deng mlyned y doethum i attat ti y dysgu, nyt edrycheis etto y'th wyneb di.' Sef a oruc yr athro yna, medylyaw a ryuedu kewilyd y mab a dywedut  : 'Kanys uelly y mae,' heb ef wrth y man, 'dyro dy law ar vy wyneb i, a bendicka cy llygeit, a mi a vydaf holl iach.' A phan rodes Dauyd y law ar y lygeit ef, y buant holl iach. Ac yna y bemdigawd Pawlinus Dafuyd o bob bendith a geffit yn ysgriuennedic yn y dedyf hen, ac yn y newyd.