Bugail Geifr Lorraine/Pennod III
← Pennod II | Bugail Geifr Lorraine gan Émile Souvestre wedi'i gyfieithu gan R Silyn Roberts |
Pennod IV → |
PENNOD III
Dygai gorchwylion y brawd Cyrille ef i drafnidiaeth barhaus â llysieuwyr a chyffyrwyr Vassy, a Remy, gan amlaf, a fyddai'r negesydd i gludo archebion, prynu defnyddiau a benthyca offerynnau. Âi ar neges hefyd weithiau at y llawfeddygon a geisiai gyfarwyddyd y mynach mewn achosion anodd; ond nid âi cyn amled at y ffysigwyr; cashau Cyrille a wnaent hwy, a'i gyhuddo ar goedd o ffafrio meddygiaeth Arabia[1]; a chwynent yn ddistaw yn ei erbyn am ddwyn y rhan fwyaf o'u cleifion oddiarnynt. Yn wir, tynnai enwogrwydd y brawd rifedi mawr o gleifion i'r fynachlog; ac âi'r rheiny ymaith bron bob amser wedi eu cysuro a'u hiachau.
Un diwrnod, fel y dychwelai Remy o Vassy, canfyddai wrth borth y fynachlog filwr a adnabu'n union fel saethydd oddiwrth ei wisg o groen a'i helm ddi-grib. Ond yn wahanol i arfer ei gymrodyr, yr oedd ar farch ac yn ddi-arf, namyn cleddyf wedi ei fachu o'r tu ôl i'w bais.
Fel y dynesai ato, gwelai'r llencyn ei fod wedi ei glwyfo yn ei goes.
"Ai ceisio'r tad Cyrille yr ydych chwi?" gofynnai i'r milwr.
"Chwilio yr wyf am ryw fynach sy'n gwella pob clwyfau," atebai yntau.
"Dyma lle mae o, dowch i mewn."
Disgynnodd y saethydd oddiar ei farch, a herciodd ar ôl Remy.
Arweiniodd yr olaf ef i laboratori'r parchedig; yno y cawsant ef yn plygu tros badell gopr a llysiau wedi eu cynaeafu yn berwi ynddi.
"Duw a'm damnio i! Cell swynwr sy'n y fan yma," meddai'r milwr, wedi sefyll yn stond wrth ddrws y laboratori, a math ar ffieidd-dod yn ei lenwi wrth fwrw golwg ar y taclau rhyfedd a'i dodrefnai.
Cododd y brawd Cyrille ei ben.
"Pwy ydyw hwn?" gofynnai mewn syndod mawr.
"On'd ydych chwi'n gweld yn burion mai saethydd rhydd wyf fi?" atebai'r clwyfedig.
"A beth sydd arnoch chwi ei eisio?"
Dangosodd y milwr ei goes.
"Dyna!" ebr ef, "y mae chwe mis er pan ges i godwm, a byth er hynny y mae'r clwyf yn mynd o ddrwg i waeth."
"O, o'r goreu!" ebr y mynach, erbyn hyn yn llawn diddordeb. Parodd i'w ymwelydd eistedd er mwyn datod y rhwymyn oddiam ei goes. "Hen glwyf ydyw hwn, felly?"
"Llawer iawn rhy hen," atebai'r saethydd; "ofer fu pob ymgynghori â'ch cymrodyr, y pum can diawl a'u cipio nhwy; y mae'r clwyf yn mynd beunydd yn waeth."
"Mi ddalia i mai mynd at y barbwyr[2] a wnaethoch chwi," ebr y tad Cyrille, dan bara i ddatod y rhwymyn, "neu at rai o gwaceriaid y cyllyll cerrig. Y mae anwybodaeth clwyfedigion yn anghredadwy! Ant ar eu hunion i unrhyw siop lle y gwelant ffleimiau, heb ymdrafferthu i edrych ai potyn eillio ai blwch meddyg a fydd ei harwydd."
"Sôn am arwyddion, 'wnes i ddim â neb ond â'r sawl sy'n crogi tusw o iorwg," atebai'r milwr. "Ond beth feddyliwch chwi o 'nghoes i?"
"O'r goreu," meddai'r mynach, dan archwilio'n ofalus y briw a ddadorchuddiasai . . . . "Enyniad . . . . chwydd crawnllyd . . . . cornwyd pur ddifrifol."
"Ydych chwi'n meddwi bod rhywbeth i'w wneud?"
"Y mae rhywbeth i'w wneud bob amser," meddai'r mynach, gan chwilota yn ei flychau plwm. "Dyma falm o'm heiddo i fy hun a rydd waith siarad i chwi am ei rinweddau. . . . . Golchwch y briw, Remy. . . . . Gwneud busnes â'r anwybodusion y buoch, fy mab, â rhyw wneuthurwyr eli neu fferyllwyr cwac. . . . . Paratowch y rhwymynnau, Remy. . . . . Cyn pen mis mi fynna i weld yn y fan yma graith glws, goch a glân. Estynnwch eich coes a pheidiwch a symud."
Taenasai'r brawd Cyrille ei falm ar glustog o lint, ac yn awr plygai i'w gymhwyso at y briw; ond ataliodd y saethydd ei law.
"Un eiliad," gwaeddai, "yr ydych chwi'n addo i mi wellhad llwyr a buan?"
"Yr wyf yn addo hynny i chwi," meddai'r mynach.
"Dyna oeddan nhw'n ddweyd wrthyf," meddai'r milwr. "Y mae pawb yn dweyd nad oes raid i chwi ond cyffwrdd â'r drwg i'w wella; ond tyngwch wrthyf nad ydych yn defnyddio i'r pwrpas hwnnw na swynion na dewiniaeth?"
Cododd y mynach ei ysgwyddau.
"Tyngwch," meddai'r milwr yn fywiog. "Myn y pum can diawl, 'rydwy'n gristion cywir; a llawer gwell gen i yw colli 'nghoes na cholli f'enaid."
Unig ateb y brawd Cyrille oedd gwneud arwydd y groes â'r glustog eli a dechreu adrodd y Credo mewn llais clir. Arhosodd y saethydd nes iddo orffen, yna rhoddodd ochenaid o ollyngdod, a heb un sylw pellach, estynnodd ei goes i'w thrwsio.
Yr oedd y milwr hwn yn amlwg o natur siaradus tros ben, a thra yr oeddys yn trin ei glwyf, dechreuodd ddweyd ei hanes wrth y brawd Cyrille. Richard oedd ei enw; ond yn ôl arfer milwyr yr oes honno, newidiasai'r enw hwn am ymadrodd o'r Salmau, ac felly galwai ei hun yn Exaudi Nos.[3] Newydd gyrraedd i Vassy yr oedd, ac yn ei frys i ymgynghori â'r brawd Cyrille, rhedasai i'r fynachlog ar ei gythlwng. Deallodd y mynach nod y gyfrinach hon, ac anfonodd Remy i'r bwtri i gyrchu "rhan dieithrddyn" a photyn o win y cleifion.
Llwyr enillodd y gymwynas hon galon y saethydd, a daeth yn fwy siaradus fyth. Dechreuodd adrodd sut y deuthai i Lorraine gydag un o genhadon y brenin, o'r enw Collet de Vienne, a gludai genadwri i arglwydd Baudricourt, llywodraethwr dinas Vancouleurs.
Gofynnodd Remy iddo a oedd newyddion da.
"Da i'r Saeson, malltod Satan fo arnynt!" atebai'r saethydd. "Daliant i warchae Orleans, ac y maent wedi codi gwarchgloddiau o'i chwmpas, sy'n gwneud trafnidiaeth â hi'n amhosibl; ac mor drwyadl eu gwaith nes bod pobl y ddinas yn trengi o newyn wrth ddisgwyl am gael eu lladd."
"Oni ellir dwyn rhyw swcwr iddynt?" gofynnai'r bachgen.
"Er mwyn cael gweled ail ddechreu diwrnod y Penwaig?"[4] atebai Exaudi Nos. "Na, na, y mae'r Drindod a'i holl lu ar ochr y godemiaid.[5] Orleans yw rhagfur olaf y deyrnas; unwaith y syrthio hi i ddwylo'r Saeson, ni bydd dim i'w wneud ond encilio i Dauphiné, a dyna ddywedir yw bwriad y brenin Siarl VII."
"Dyma newyddion trist i'w dwyn i Lorraine," sylwai'r brawd Cyrille; er ei holl lafur gwyddonol, parhai ef yn wlatgarwr uniawn a chywir.
Llanwodd Exaudi Nos ei wydr, a gwacâodd ef ar un gwynt; cleciodd ei dafod ar daflod ei safn, ac ysgydwodd ei ben yn ddiofal.
"Pw," ebr ef yn chwyddedig ei dôn, "wedi'r cyfan, nid yw hi'n ddrwg iawn ond ar y gwreng a'r taeogion. Am danom ni, ryfelwyr, ennill i ni yw'r cwbl, ac fel y dywaid ein capten ni, y defaid nad oes iddynt na chŵn na bugeiliaid yw'r hawsaf i'w cneifio."
"O, dyna ydyw barn eich capten, aie?" ebr y mynach wrth dynnu at orffen trwsio'r briw. "A pheth, tybed, yw enw'r Ffrancwr rhagorol hwn?"
"Pardieu! fe ddylech ei adnabod," ebr y saethydd, y gwin yn ei wneud yn fwyfwy cartrefol. "Ar ôl bastard Vaurus, y fo ydyw'r ysgelerddyn pennaf yn Ffrainc a Lloegr. Fe fyddwn ni yn ein plith ein hunain yn ei alw yn Dad y Saith Bechod Marwol, am ei fod yn eu meddu i gyd; ond yr arglwydd de Flavi yw ei enw iawn."
"A ydych chwi yn ei wasanaeth o?" gofynnai Remy mewn syndod.
"Wel, myfi yw ei yswain cyfrinachol," atebai Exaudi Nos yn bwysig iawn. "Mi wn i ei holl fusnes cystal ag y gwn i fy musnes fy hun."
"Ac y mae hynny'n talu'n dda i chwi?"
"Canolig iawn; y mae pwrs yr arglwydd de Flavi wedi ei gau â dau glo clap anodd eu hagor, sef tlodi a chybydd-dod; ond cyn hir fe'i gwaredir oddiwrth y cyntaf."
"Y mae eich meistr, felly, yn disgwyl ffawd dda o'r rhyfel?"
"Gwell na hynny. Y fo yw perthynas nesaf yr arglwyddes de Varennes, ac ni bydd hi'n hir eto heb ado'i chyfoeth iddo. . . . . Buasai wedi gwneud hynny eisys, onibai am dystiolaeth rhyw ddyhiryn o grwydryn."
"Beth?"
"O, y mae hi'n gryn stori," ebr Exaudi Nos, a gorffen y llestr gwin. "Rhaid i chwi ddeall yn gyntaf na fu i'r arglwyddes de Varennes ond un mab, ac iddi golli hwnnw pan oedd o 'n fychan iawn, a'i bod hi'n ddiweddar wedi ei gadael yn weddw; ac felly, wedi diflasu ar y byd, dymunai adael y llys lle y mae'n forwyn anrhydedd, a gadael ei thir i'w chefnder, yr arglwydd de Flavi. Yr oedd ar fedr ymneilltuo i leiandy tua deufis yn ôl pryd y dywedwyd wrthi fod ei mab yn fyw."
"Ei mab?"
"Ie, diflanasai tua deng mlynedd yn ôl heb i neb wybod beth a ddeuthai ohono. Yn unig tybid mai'r Iddewon[6] a'i lladratasai i bwrpas eu rheibiaeth.
"A chamgymeriad oedd hynny?" gofynnai'r brawd Cyrille, yn amlwg yn llawn diddordeb.
"Feallai," atebai'r saethydd, "oblegid wrth farw yn ddiweddar yng nghartre'r gwahangleifion yn Tours, tystiodd sipsiwn mai ef a'i lladratasai ym mhorth Notre Dame."
Rhedodd ias tros y mynach a Remy.
"Ym mhorth Notre Dame?" meddynt gyda'i gilydd.
"Ar Ddydd y Pentecost," ebr Exaudi Nos.
Methodd y llanc a pheidio a gwaeddi.
"Y mae hyn yn eich synnu," meddai'r saethydd, yn camgymryd achos ei deimlad; "peth digon cyffredin yw hyn. Y mae lladron plant cyn amled ym Mharis â pherchyll Antwn Sant."
"Ac wedi ei ladrata, oni ddygwyd mab yr arglwyddes de Varennes i Lorraine?" gofynnai'r tad Cyrille.
"Yn hollol felly," atebai Exaudi Nos.
"Ac yno fe'i rhowd i fagwr geifr?"
"Do siwr."
"Sipsiwn oedd y lleidr, a gelwid ef y brenin Horsu?"
"O ble ddiawl yr ydych chwi'n gwybod hyn i gyd, fy mharchedig?" gwaeddai'r saethydd mewn syndod.
"O, y mae gen i fam, felly," llefai Remy, dan don o deimlad na ellir ei disgrifio.
Ymddangosai Exaudi Nos fel dyn wedi ei syfrdanu.
"Beth?" gwaeddai, "a oes bosibl . . . . ai tybed mai'r llanc hwn yw . . . ."
"Y plentyn y chwilir am dano," ebr y tad Cyrille ar ei draws, "mab cyfreithlon yr arglwyddes de Varennes."
Rhoes y milwr ebwch, a neidiodd ar ei draed.
"Ie," meddai'r mynach, "mae'r dynghedfen wedi ei raghysbysu: newyddion pwysig ar ymuniad y lleuad a'r pysgod, a digwydd hynny heddyw. Galwaf chwi'n dyst, meistr saethydd, i ardderchowgrwydd ac anffaeledigrwydd gwyddor sêr-ddewiniaeth."
Ond yn lle ateb, gofynnodd Exaudi Nos gwestiynau newyddion i'r mynach a Remy; a chadarnhai popeth a ddywedent wrtho ddilysrwydd y darganfyddiad yr oeddys newydd ei wneuthur; ac ni allai mwy ameu mai'r newyddian ifanc oedd gwir ddisgynnydd olaf y Vareniaid. Dug y sicrwydd hwn gwmwl tros ei wyneb.
"Y mil diawliaid, dyma anffawd," murmurai wrtho'i hun.
"Anffawd!" ebr y brawd Cyrille, "oni welwch chwi mai peth rhagluniaethol . . . ."
Ond newidiodd ei feddwl yn sydyn.
"O, o'r goreu," ychwanegai mewn tôn fwy difrif. "Yr wyf yn deall . . . . y mae ail ymddangosiad y plentyn yn dwyn oddiar yr arglwydd de Flavi ei hawl i'r etifeddiaeth."
"Mi geir gweld," atebai Exaudi Nos yn sarrug, "fe elwir am brofion."
"Fe'u rhoddwn nhwy," ebr y tad Cyrille gyda gwres; "y mae arwydd y Forwyn trosom. Mi af gyda Remy i geisio'r arglwyddes de Varennes . . . . ond nid ydych wedi ein hysbysu pe le i'w chael."
"Ewch i chwilio," ebr y saethydd gan droi i ffwrdd. "Ond myn Satan, cymerwch ofal rhag cyfarfod â'r arglwydd de Flavi ar y ffordd."
Mynnai'r tad Cyrille ddal y milwr yn ôl, ond cyrhaeddodd y porth, neidiodd ar ei farch, a diflannodd gan adnewyddu ei rybudd.
Nid oedd angen am y rhybudd i beri i'r mynach ddeall yr anawsterau a'r peryglon y byddai'n rhaid i'w gyfaill ifanc eu gorchfygu; ond nid oedd hwnnw yn meddwl am danynt; eithr yn ei frwysgedd mynnai gychwyn ymaith yn y fan. "Y mae gen i fam." Yr oedd y gri hon a godasai o'i fynwes dan ias gyntaf syndod a llawenydd yn awr yn ei hail adrodd ei hun yn ddibaid yn ei galon. Nid oedd, mwyach, yn amddifad, nid oedd, mwyach, yn dlawd, nid oedd, mwyach, yn ddinod! Gallai obeithio bodloni'r greddfau o dynerwch ac egni a deimlai o'i fewn; cymerai ei le yn y teulu dynol ymhlith y sawl a feddai hawl i ewyllysio, i weithredu! Yn ofer y ceisiai'r brawd Cyrille farwhau'r awydd tanllyd hwn, a gohirio'r ymchwiliadau; tystiai Remy na allai oedi, ei fod yn teimlo ynddo fath ar rym anweledig a'i gwthiai ymlaen.
"Ond ystyr, was truan, na wyddost ti fwy am dy fam na'i henw hi!" ebr y mynach.
"Mi af i bobman, gan adrodd yr enw nes i ryw wraig fy ateb i," meddai Remy yn ei frwdfrydedd.
"A beth pe bai yn dy wrthod di?"
"Dangosaf brofion iddi."
"Ond beth am flinderau'r daith, y peryglon a'r maglau a ddichon godi o'th flaen?"
"Yr ydych chwi'n anghofio, fy nhad, fod y Forwyn a Mawrth o'm tu."
Gorchfygodd y rheswm olaf hwn y brawd Cyrille.
"O'r goreu, fe gei gychwyn ymaith," ebr ef o'r diwedd, "ond nid ar dy ben dy hun! Ymddiriedodd Jérôme di i mi; yr wyt wedi byw gyda mi flwyddyn gyfan; ni'th fwriaf di ymaith heb na chynghorydd na noddwr ynghanol yr heldrin; fe awn gyda'n gilydd, ac ni'th adawaf nes i ni ddod o hyd i'r arglwyddes de Varennes."
Caed caniatad y prior heb drafferth; oblegid yn y dyddiau chwildroadol hynny nid oedd rhwymau'r mynachod eu hunain yn agos mor gaeth ag yn y canrifoedd cynt. Tynnai buddiannau, nwydau ac angenrheidiau hwy yn aml o'u hencilfeydd i ymgymysgu yn nadleuon dynion; chwifiai mantell y mynach ym mhobman, yn y llys, ar feysydd brwydrau, yng nghyngor tywysogion. Parhâi i fod yn amddiffyn, ond peidiasai, bellach, a bod yn rhwystr.
Gwnaed byr waith ar y paratoadau, a gadawodd y brawd Cyrille y fynachlog gyda Remy.
Cyfeiriasant eu camre tua Touraine, lle y cynhelid y llys, a lle y gobeithient gael yn haws y cyfarwyddyd a geisient.