Bugail Geifr Lorraine/Rhagair
← Bugail Geifr Lorraine | Bugail Geifr Lorraine gan Émile Souvestre wedi'i gyfieithu gan R Silyn Roberts |
Pennod I → |
RHAGAIR
Byddai llên Ffrainc yn llawer tlotach pe tynnid ohoni athrylith Llydaw. Gŵr o Lydaw oedd Emile Souvestre, awdur stori'r Bugail Geifr. Ganwyd ef ym Morlaix, yn y flwyddyn 1806, a bu farw yng nghanol ei ddyddiau yn 1854. Llenyddiaeth a aeth â'i fryd o'i febyd, er iddo yn gynnar orfod troi allan i ennill ei damaid am fod ei rieni'n dlodion. Bu'n gweithio gyda llyfrwerthwr am ysbaid, ac wedi hynny bu'n athro ac yn newyddiadurwr.
Dechreuodd fel llenor gyda disgrifiadau rhamantus o fro ei enedigaeth, Llydaw, ei llynnau a'i hafonydd, ei chlogwyni a'i grug a'i heithin, ei gweddillion derwyddol a llên ei gwerin. Yn ddeg ar hugain oed aeth i Baris i fyw ac i ymroi'n llwyr i lenyddiaeth. Ei waith mwyaf adnabyddus, feallai, ydyw Un Philosophe sous les Toits (Athronydd y Nennawr). Enillodd y gyfrol hon iddo goron Academi Ffrainc. Teitl cyflawn y gyfrol yw "Athronydd y Nennawr, dyddiadur dyn dedwydd." Ynddi, mewn arddull swynol tros ben, disgrifia fywyd prifddinas Ffrainc. Gwaith arall enwog ac adnabyddus yw ei "Les Derniers Bretons." Ysgrifennodd hefyd doreth o bethau eraill, yn enwedig llên i'r ieuanc.
Yn ystori "Bugail Geifr Lorraine" nid yw'r awdur yn adrodd hanes dal Jeanne D'arc yn hollol gywir. Prin yr oedd yn Ffrainc, y mae'n wir, yr adeg honno, adyn mwy anfad na Guillaume de Flavi, llywodraethwr Compiêgne, ond ni wyddys am ddim mewn ysgrifen o'r cyfnod hwnnw i brofi bod ganddo law ym mradychu'r llances wlatgar hon. Ond gwyddai Souvestre, y mae'n amlwg, am y traddodiad ymhlith y werin fod a fynnai Flavi â'r ysgelerwaith, a gwyddai hefyd fod cnewyllyn o wir mewn hen draddodiad yn ei gadw yn fyw am ganrifoedd. Gwyddys i sicrwydd mai un o filwyr Lionel de Vendôme, o dir Bwrgwyn, a ddaliodd y llances wrol mewn ysgarmes y tu allan i fur y ddinas, ac i Lionel ei gwerthu i John de Luxembourg; ac yn y diwedd i'r Saeson ei phrynu a thalu deng mil o ffrancod am dani er mwyn cael dial eu llid arni am feiddio eu rhwystro hwy i dreisio ei gwlad. Wedi ei chael i'w dwylo, llosgasant hi'n fyw yn Rouen ar y degfed dydd ar hugain o Fai, 1431, cyn ei bod yn llawn ugain oed. Un o weithredoedd nerthol arfau Lloegr ydoedd hon, hafal i gamp Edward I yn amharchu corff marw Llywelyn ap Gruffydd, neu orchest anfarwol yr Arglwydd Kitchener ar weddillion y Mahdi yn ein hoes ni. Gwlatgarwch oedd pechod anfaddeuol pob un o'r tri. Gweithredoedd fel y rhai hyn sy'n esbonio ysbryd yr hen fardd yn canu i'w fwyell ryfel:
Torred ei syched ar sais,
Wtresed ar waed trisais.
Bid a fo am euogrwydd Guillaume de Flavi, y mae'r darlun a gawn yn y stori hon o fywyd cyfnod Jeanne D'arc yn gywir a byw iawn. Crefydd Rhufain oedd crefydd gorllewin Ewrob; a thebig yn ei brif nodweddion i fywyd Ffrainc oedd bywyd Cymru y pryd hwnnw. Ugain mlynedd cyn merthyrdod Jeanne D'arc yr oedd rhaib a gormes milwyr Lloegr yn drwm yng Nghymru, a chyflwr y wlad yn bur debig i'r portread o Ffrainc yn stori'r bugail geifr. O ran amser gallasai Owen Glyn Dŵr fod yn daid, neu yn wir yn dad, i Jeanne D'arc.
Fel y dengys Mr. G. Bernard Shaw yn rhagymadrodd "Saint Joan," ei ddrama fawr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dyma'r pryd y ganwyd syniad cenedlaetholdeb yn ystyr ddiweddar y gair; a gellir edrych ar Jeanne D'arc fel un o ragflaenoriaid Protestaniaeth. Ysgymunwyd hi gan Eglwys Rufain ar derfyn wythnosau o braw yn Rouen yn 1431 ar ddau gyhuddiad, yn gyntaf, ei bod yn gwrthod cydnabod yr Eglwys Filwriaethus ar y ddaear yn uwch awdurdod na'r Llais yn ei henaid hi ei hun; ac yn ail, am ei bod fel milwr yn mynnu gwisgo dillad gwryw. Ac am y camweddau enbyd hyn y llosgodd y Saeson hi, ac nid, wrth gwrs, am iddi hi eu gorchfygu hwy a'u hela a'u gyrru'n heidiau esgeirnoeth o bared i bost ac o bant i bentan. Bellach, y mae Eglwys Rufain hithau wedi ei gosod ymhlith y saint.
Ni honnir cywirdeb manwl a dysgedig yn y gwaith hwn; ceisiwyd trosi'r stori mor llythrennol ag y gellid heb amharu ystwythder y broddegau Cymraeg. Ni chyfieithwyd geiriau a broddegau Lladin syml a geir yma ac acw yn y llyfr; camgymeriad a fuasai gwneuthur hynny, am fod y Lladin mor naturiol a hanfodol yn y Gymraeg ag ydyw yn y Ffrangeg. Rhoddwyd ar y diwedd ychydig o nodiadau syml er hwylustod y darllenydd, a cheir yn y rhai hynny gymaint o eglurhad ag sydd yn eisiau ar y Lladin. Ni cheisiwyd newid dim ar y rhan fwyaf o'r enwau gwreiddiol, am fod enwau, yn anad unpeth, yn cadw yn y cyfieithiad lawer o flas a sawyr y gwreiddiol. Gwnaed un neu ddau o eithriadau, fodd bynnag, lle yr oedd wrth law ffurfiau a arferir mewn llenyddiaeth Gymraeg hŷn, fel Bwrgwyn am Bourgogne.
Os caiff y darllenydd bleser wrth ddarllen y stori, ac yn enwedig os cyfyd ei darllen ynddo awydd am wybod mwy am ryddiaith ddigymar Ffrainc, fe fydd cyhoeddi'r cyfieithiad wedi ei gyfiawnhau.
Dymunaf ddiolch i fy nghyfaill dawnus, Mr. David Thomas, awdur "Y Cynganeddion Cymreig," a chyfrolau eraill, am ddarllen y proflenni ac am fwy nag un awgrym gwerthfawr.
COLEG Y GOGLEDD, Awst, 1924.