Bwthyn y Bardd

Oddi ar Wicidestun
Bwthyn y Bardd

gan Robert Roberts (Silyn)

Er lleted wyneb byd yr ocheneidiau,
Ystâd neu balas balch ni feddaf un;
Ond meddaf fwth mewn gardd ar fron Eryri
Sy'n eiddo llwyr a llawn i mi fy hun.

Nid moethus ac nid gwych mo hendre'r prydydd,
Syml a diaddurn yw ei bedwar mur;
Ni chlywir yno grechwen coeg fursendod,
Nac ochain calon drom dan lwyth o gur.

Ei awyr sydd yn llawn o bersawr blodau
A difyr gerddi adar mân y fro;
A rhesi meini mynor sydd o'i amgylch
A glesni ir y ddaear ar ei do.

Arweinia'r haf awelon i ymdonni
Ym mrig y glaswellt hir orchuddia'r gwrym;
A thaena'r gauaf fantell ei sancteiddrwydd
I'w guddio rhag dyrnodau'r corwynt llym.

Diogel a digyffro ei breswylwyr
Yng nghadarn ofal distaw lor yr ardd;
Gorffwysant a breuddwydiant am ardaloedd
Lle bydd yr hen yn ifanc ac yn hardd.

Blodeua'r ardd yng nglyn y dychryniadau
Dan gysgod llaes a syn hen ywen gam:
Y mynor nadd yw meini mud y fynwent,
A'r bwth yw'r bedd lle cwsg fy nhad a 'mam.