Bydd canu yn y nefoedd
Gwedd
← Bydd gweld gogoniant Iesu | Y peraidd dir hyfrydlon gan Peter Williams (Pedr Hir) |
Pryd y caf, O! Arglwydd Iesu → |
672[1] Sychu'r Dagrau
76. 76. D.
BYDD canu yn y nefoedd,
Pan ddêl y plant ynghyd,
Y rhai fu oddi cartref
O dŷ eu Tad cyhyd;
Dechreuir y gynghanedd,
Ac ni bydd ŵylo mwy,
Ond Duw a sych bob deigryn
Oddi wrth eu llygaid hwy.
2 Mae Iesu yn darparu
Trigfannau yn y nef,
I wneuthur croesaw helaeth
I'w holl ddilynwr Ef.
Dechreuant fod yn llawen,
Ac ni bydd gofid mwy,
Ond Duw a sych bob deigryn
Oddi wrth eu llygaid hwy.
3 Pan ddelo'r pererinion
I gwrddyd yn y nef,
Rhyw ganu mawr diddiwedd
A glywir "Iddo Ef";
Pob un â'i dannau'n dynion
Yn seinio marwol glwy';
A byth ni chlywir diwedd
Ar eu caniadau hwy.
1-2, Peter Williams (Pedr Hir)
3, Ahysbys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 672, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930