Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Aberdar Fel yr Oedd Ac y Mae

Oddi ar Wicidestun
Dechreuad Ei Weinidogaeth Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Parhad Aberdar

PENNOD VI.

ABERDAR FEL YR OEDD AC Y MAE.

Prydferthwch Dyffryn Aberdar—Aberdar yn bentref bychan— Aberdar yn ymddadblygu—Gweithiau glo yn cael eu hagor— Gweithfeydd haiarn—Y boblogaeth yn cynnyddu Y gwahanol fyrddau–Adeiladau cyhoeddus at wasanaeth y dref—Y gwahanol gymdeithasau cyfeillgar—Achos crefydd yn llwyddo—Price yn cymmeryd rhan flaenllaw yn mhrif symmudiadau y dref—Dynion o fri wedi bod yn Aberdar—Barn Tegai—Ei arwyddeiriau, &c.

FEL yr awgrymasom yn niwedd y bennod ddiweddaf, barnwn, gan fod yr enwog Ddr. Price wedi gwneyd cymmaint o waith, yn lleol, gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol, yn nyffryn poblog Aberdar yn ystod ei fywyd, mai nid anfuddiol i ni yma yw rhoddi ychydig o hanes y dref a'r cylchoedd, er cael ber olwg ar wrthddrych ein cofiant yn ei gyssylltiad â chyfodiad Aberdar a chynnydd y dyffryn mewn modd neillduol. Y mae amser, fel y nodasom mewn cyssylltiad arall, yn gwneuthur cyfnewidiadau mawrion. Ni chawn weled hyny yn fwy eglur nag yn nghynnydd rhyfeddol gyflym rhai o'n trefi, a chyfodiad sydyn pentrefi newyddion yn ngwahanol barthau ein gwlad. Felly y bu unwaith yn hanes dyffryn poblog Aberdar. Triugain mlynedd yn ol, ychydig amser cyn i Thomas Price wneyd ei ymddangosiad yma, gwisgai y dyffryn wedd hollol wahanol i'r hyn a wna yn bresenol. Yr adeg hono gwelid yr afon fechan risialaidd Cynon yn cymmeryd ei gyrfa ogledd—orllewinol i'r de-ddwyreiniol, i waered tuag afon Taf, trwy ganol dyffryn gwastad a ffrwythlawn. Ar ei glenydd ac yn ymestyn yn ol hyd wadnau y bryniau a'r mynyddoedd uchel o bob tu iddi, yr oedd eang feusydd a dolydd breision a thoreithiog—ïe, miloedd o erwau o dir gwrteithiedig, er fod yn fynych i'w gweled yma a thraw elltydd mawrion, coedydd amrywiol, a derw calongaled, yn estyn eu breichiau preiffion a nerthol, ac weithiau megys yn ymaflyd y naill yn y llall nes yr oeddynt, pan eu hysgydwid gan yr ystormydd brochus, fel cynnifer o filwyr cawraidd mewn ymgyrch â'u gilydd. Y rhai hyn oll oeddynt yn ychwanegu at amrywiaeth, ac felly yn mwyhau tlysni a gogoniant, y dyffryn. Gwelid ambell balasdy gorwych yma a thraw, yn ymddangos yn urddasol fel brenin anneddau gwasgarog y cwm. Yr amaethdai mawrion a welid yn gyffredin wrth wadnau y mynyddau a thraed y bryniau yn ngwahanol gyfeiriadau y dyffryn. Prydferth oedd yr olygfa ar y bythynod gwyngalchedig welid ar lechwedd y bryn, y pant, a'r uchelfan. Cestyll y gweithwyr oeddynt, ac er eu bod yn is eu penau ac yn llai eu maint nâ'r tyddynod a'r palasdai, etto, hoffent hwy, a chanai llawer un mewn alaw bêr iddynt yn ngeiriau y bardd:—

"Mae 'mwthyn fel yr eira gan fynych liwiad calch,
A'i gylchion oll yn daclus; wyf fyth o'i drefnu'n falch,
Mae o'r tu fewn yn gynhes, yn syber, glân, a syw,
Yn annedd hardd gysurus, gall brenin ynddo fyw."

Yn yr adeg hono yr oedd Aberdar yn bentref cymharol fychan, a thrysorau anmhrisiadwy y dyffryn a'r mynyddoedd i raddau yn guddiedig; llawer o'r trigolion yn amaethwyr bychain ond cyfrifol—amryw o honynt yn preswylio ar eu tiroedd eu hunain, tra yr oedd ereill yn dal rhwymysgrifau dros fywyd ar ardreth fechan—y peth nesaf i ddim. Ond yn fuan daeth cyfnewidiad ar bethau; mewn gwirionedd, yr oedd y cyfnewidiad wedi dechreu cymmeryd lle. Yr oedd Aberdar eisoes mewn cyflwr o draws—symmudiad. Yr oedd amryw weithiau glo wedi dechreu cael eu hagor. Er na chynnyddodd y gweithiau hyn fawr yn y plwyf oddieithr ychydig leflau a nifer bychan o byllau i ddiwallu angenrheidiau gweithfeydd haiarn Hirwaun hyd y flwyddyn 1837, pryd y dechreuodd T. a W. Wayne, Ysweiniaid, agor gwaith mawr yn Nghwm Nantygroes, yr hwn oedd y gwaith glo môr cyntaf yn y plwyf. Hyd yr adeg hono ni weithid y glo yn y cwm ond at wasanaeth y gweithiau haiarn. Y blynyddau canlynol agorodd Mr. Powell ei byllau ar ystâd y Dyffryn; ac ar ol hyny agorodd Mr. D. Davis, Ysw., Hirwaun y pryd hwnw, wedi hyny Blaengwawr, waith glo môr rhagorol ar dir Blaengwawr, a dechreuwyd anfon glo ymaith yn mis Hydref, 1844. Yn ganlynol i hyny agorodd Mr. Thomas, Waunwyllt, waith glo ar dir Lletty Siencyn; wedi hyny agorodd Nixon ei waith glo ar dir y Werfa, yn cael ei ddylyn gan Mr. D. Williams, Ynyscynon, gydag agoriad ei waith glo ar dir Ynyscynon: Mri. Sheppard, Evans, a Morris, yn Nghwmaman; a Mr. Thomas J. Joseph yn rhandir Llwydcoed. Yn Rhagfyr, 1844, dechreuwyd pwll glo arall gan Mr. Powell heb fod yn mhell oddiwrth weithiau y Gadlys, a daeth y glo cyntaf i fyny yn 1846. Ar y 15fed o Fawrth, 1845, dechreuodd Mr. Crawshay Bailey, Ysw. (A.S. dros y Casnewydd, Mynwy, y pryd hwnw), suddo pwll glo yn agos i'r lle y bwriedid codi gweithfeydd haiarn Aberaman. Gyda'r gweithiau glo mawrion a lluosog oeddynt yn cael eu hagor yn y dyffryn yn y cyfnod a nodwn, yr oedd hefyd weithiau tân ac alcan wedi ac yn cael eu codi. Yr oedd gweithiau haiarn Abernant a'r Llwydcoed wedi eu prynu gan Mr. Richard Fothergill a'i Gyf., y rhai a eangwyd yn raddol y naill flwyddyn ar ol y llall, hyd o'r diwedd y daeth y cwmni yn alluog i gyflogi dros 4,000 o weithwyr. Yr oedd gweithiau haiarn y Gadlys yn cael eu cario yn mlaen gan Mri. Wayne a'i Gyf., ac yn 1850 cychwynasom y gwaith Alcan, yn yr hwn y cyflogid nifer luosog o weithwyr. Mawrth y 14eg, 1845, dechreuwyd gwaith haiarn ar dir Aberaman gan Mr. Crawshay Bailey.

Gan fod Aberdar ar gynnydd mor ddirfawr yn masnach y glo môr, aeth y gamlas, yr unig gyfrwng trosglwyddiad nwyddau o Aberdar i Gaerdydd, y porthladd agosaf, yn rhy fach i wneyd y cludiad; ac yn y flwyddyn 1845 dechreuwyd gwneyd Cledrffordd Dyffryn Aderdar, ac ar y dydd cyntaf o Awst, 1846, yr agorwyd hi i drafnidiaeth. Cyrhaeddai hon o Heol Melin, Llwydcoed, hyd y Basin Isaf, tuag wyth milldir, lle y cyssylltai â'r llinell a redai o Gaerdydd i Ferthyr. Creodd y gledrffordd hon adfywiad mawr yn masnach y plwyf, ac yr oedd yn gyfleusdra rhagorol i deithwyr. Ar yr 28ain o Awst, 1847, dechreuwyd gwneyd Cledrffordd Cwm Nedd, yr hon a elwid yn Gledrffordd Dyffryn Nedd; a phrofodd wedi ei hagor, yn gystal a Chledrffordd y Taff, o ddefnyddioldeb a mantais annhraethadwy i'r cylchoedd yn gyffredinol, fel y gwelir oddiwrth y ffigyrau canlynol, y rhai a ddangosant yn eglur gynnydd enfawr trafnidiaeth yn y dyffryn. Yn y flwyddyn 1815, gwnaed o haiarn yn y plwyf i gyd 20,800 o dynelii; yn y Åwyddyn 1853, gwnaed gan yr Aberdare Works yn unig, 35,202 o dynelli; gwneuthuriad o haiarn yn yr holl blwyf yn y flwyddyn 1841 oedd, 25,000 o dynelli; yn y flwyddyn 1852, 82,000 o dynelli. Anfonwyd allan o lo yn 1841, 12,000 o dynelli; yn 1852, 500,000; cyfanswm 1860, 1,745,813 o. dynelli; yn 1866, 2,188,571. Codwyd yn Mhlwyf Aberdar o lo yn y blynyddau o 1870 hyd 1884 dros un filiwn ar ddeg ar hugain o dynelli, yn gwneyd ar gyfartaledd dros 2,000,000 yn flynyddol. Tra yn ymwneyd ag ystadegaeth, dichon na fydd ffigyrau yn dangos cynnydd poblogaeth Aberdar ddim yn annyddorol yma.

Blynyddau Poblogaeth
1841 . . . . . . . . 6,471
1851 . . . . . . . . 14,998
1861 . . . . . . . . 32,299
1871 . . . . . . . . 37,704
1881 . . . . . . . . 35,513


Oddiar y dyddiad diweddaf y mae y boblogaeth wedi cynnyddu amryw filoedd.

Y mae y ffeithiau a'r ffigyrau uchod yn ddigon, ni a gredwn, i ddangos y cynnydd rhyfeddol y rhaid fod wedi cymmeryd lle yn Aberdar a'r cylchoedd am y blynyddau cyntaf wedi dyfodiad y Dr. i'r dyffryn; ac o ran hyny ni fu ond cynnyddu yn hanes y cwm hyd yr ychydig flynyddau olaf yn ei fywyd. Hefyd, gellir casglu oddiwrth y ffeithiau a nodasom am agoriad cynnifer o weithfeydd mawrion gyda'u gilydd bron yn nghylch y cyfnod y daeth y Dr. i'r lle, pa mor gyflym y rhaid fod y cynnydd hwnw, ac nid yw yn rhyfedd i'r Dr. ysgrifenu y brawddegau arwyddocaol a chynnwysfawr, "Aberdar fel ardal yn myned i gynnyddu yn gyflym iawn—y trigolion yn amlhau—cymmydogaethau newyddion yn cyfodi—dieithriaid lawer yn tyru i'r lle," &c. Yn fuan aeth y pentref cymharol fychan yn dref fawr, a'r twyni meillionog y soniasom am danynt a gladdwyd dan bentrefi mawrion o anneddau gorwych, yn mhlith y rhai y gwelid capelau lluosog ac eglwysi yn dyrchu eu penau fel tyrau cyssegredig, yn brawfion o'r yspryd crefyddol oedd yn bodoli ac yn myned ar gynnydd gyda chynnydd y trigolion yn y pentrefi hyn. I fyny oedd cyfeiriad pob peth yn Aberdar, nid yn unig yn fasnachol ac mewn poblogaeth, ond hefyd mewn ystyron ereill,—i fyny yn ddinesol, cymdeithasol, gwleidyddol, ac yn grefyddol. Sefydlwyd yma Fwrdd Iechyd Lleol, a Bwrdd y Gwarcheidwaid yn gyssylltiedig ag Undeb Merthyr. Talwyd sylw neillduol i addysg, ac agorwyd yma Ysgolion Brutanaidd a Chenedlaethol, hyd syfydliad ysgolion y Bwrdd Addysg yn 1870. Adeiladwyd neuadd gyfleus at wasanaeth cyhoeddus y dref yn High Street, yr hon, yn herwydd cynnydd rhyfeddol gyflym y lle, a aeth yn rhy fychan, ac adeiladwyd un eangach yn Canon Street, a elwir yn Neuadd Ddirwestol. Yn 1853 adeiladwyd Marchnad-dy rhagorol yn nghanol y dref, yr hwn sydd lawer mwy o faintioli na'r hen Farchnaddy. Gellir dweyd am dano fel y dywedodd Athan Fardd:—

"Tŷ mawrwych, tô a muriau—osodwyd
Ar sywdeg golofnau
I ddynion drin meddiannau
O'r ych hyd y bresych brau."

Fel yr oedd y dref yn ymgynnyddu, yr oedd y Bwrdd Lleol yn ofalus gyda'r cynlluniau, fel y mae y lle wedi ei adeiladu, ar y cyfan, yn dra chyfundrefnol, a gellir dweyd fod Aberdar yn un o'r trefydd gweithfaol prydferthaf a glanaf yn y Dywysogaeth. Goleuir hi â nwy rhagorol, a chyflenwir y dref a'r dyffryn braidd gan ddyfroedd iachusol o'r dwfr-weithfaoedd mawrion perthynol i'r plwyf. Ceir yma hefyd Gladdfa Gyhoeddus eang a chyfleus; ac yn y flwyddyn 1869, agorwyd Parc Cyhoeddus Aberdar, yr hwn, dywedir, sydd un o'r rhai mwyaf godidog a phrydferth yn y Dywysogaeth. Mesura tua 49 o erwau o dir. Sefydlwyd yma hefyd nifer lluosog o gymdeithasau cyfeillgar a budd-gymdeithasau annybynol, yn mhlith y rhai y ceid yr Odyddion, Iforiaid, Derwyddon, Alffrediaid, Coedwigwyr, yn nghyd â llawer o glybiau arian, fel eu gelwir, y rhai ydynt wedi profi yn dda iawn i laweroedd o bryd i bryd. Cafodd achos crefydd, yn yr un modd, sylw boreuol a dyladwy yma. Mynodd yr Eglwys Sefydledig, fel arfer, le bras yn y pentref yn gynnar. Cawn yr Undodiaid, y Methodistiaid, y Bedyddwyr, yr Annybynwyr, y Wesleyaid, y Presbyteriaid, Mormoniaid a Phabyddion yn codi eu hallorau—yr oll yn egniol i ennill i'w rhengau, ac ychwanegu beunydd at eu nifer a'u nerth.

Yr ydym wedi codi y llen i gael cipdrem ar faes llafur y dyn ieuanc y dywedasom ei fod wedi dechreu ei weinidogaeth yn Aberdar. Yr ydym, mewn ystyr, wedi agor y porth, ac yn gwahodd y sylwgar i edrych ar y prif olygfeydd a gyfodant y naill ar ol y llall yn y cemmaes y bu un o feibion dewraf Cymru yn cyflawnu gorchestion clodus ynddo; ond wrth wneyd hyn, dymunwn eu hadgofio na allwn fynegu "dim o'r hanner," nac ychwaith gyfeirio ond at ychydig o'r gweithredoedd daionas a dyrchafol a gyflawnodd efe yn y cylchoedd hyn yn ystod ei lafur diflino a difwlch am ddeugain mlynedd. Teimlwn nad ydyw yn feiddgarwch ynom i ddywedyd na weithiodd neb yn Aberdar, a thros Aberdar a'r dyffryn yn mhob cylch, a chyda phob symmudiad, yn debyg iddo ef. Nid yn unig y cyflawnai ei waith yn onest ac effeithiol fel gweinidog yr Efengyl—yn ffyddlawn i'w swydd, i'w Feistr, i'w eglwys, ac i'w gyfenwad crefyddol—ond gwnaeth fwy na hyny: cafwyd ef yn ddinesydd godidog, yn gymdeithaswr rhagorol, yn arweinydd cywir, a phob amser yn amddiffynwr y gwirionedd yn mhob cylch y troai ynddo.

Cafodd Aberdar o bryd i bryd ddynion o nôd a dylanwad yn perthyn i bob dosparth. Cafodd berchenogion gweithfaol goludog ac urddasol, marsiandwyr a masnachwyr llwyddiannus a chyfoethog, dysgedigion gwych, beirdd a llenorion addfed, cerddorion enwog, pregethwyr poblogaidd a gweinidogion diwyd a gofalus oll yn cydlafurio i godi y dref yn gymdeithasol, gwleidyddol, moesol, a chrefyddol; ond gwyr y rhai a adwaenent yr enwog Ddr. yn anterth ei nerth, nad ydym yn gorddweyd wrth fynegu ei fod "wedi rhagori arnynt oll. Edrychai pawb ato ef. Cafodd yr arweinyddiaeth un adeg yn hollol yn ei law ei hun braidd yn mhob cyfeiriad, ac ystyrid ef, fel y dywedai y diweddar enwog Hugh Tegai mewn llythyr at ei hen gyfaill talentog Hwfa Môn, gan bawb braidd fel " brenin Aberdar." Ennillodd y safle hon drwy ei fod bob amser â'i lygad yn agored, ac yn gwylio symmudiadau pob peth braidd o bwys yn y dref a'r wlad. Pwy bynag fyddai yn ol, yr oedd efe yn sicr o fod yn mlaen, ac yn cymmeryd y rhan fwyaf blaenllaw gyda gwahanol symmudiadau. Nis gallai fod yn segur. Ffieiddiai ddiogi a musgrellni mewn unrhyw gyssylltiad. Yr oedd "Ymdrech" yn air mawr yn ngeirlyfr ei fywyd. Yr oedd "Llwyddiant" gyda phob achos yn un o'i brif arwyddeiriau; gwelid hwn bob amser yn amlwg ar faner ei weithrediad, ac i'w sicrhau, nid oedd bod yn ngrym y tân mewn brwydrau poethion yn ddim iddo ef. Brwydrodd lawer yn Aberdar a thros Aberdar.

Cafodd y dref ynddo ddyn bob amser yn gyfartal i'r dirangenion alwent am ei wasanaeth; cafodd y tlodion ynddo gyfaill tyner a charedig; cafodd y cymdeithasau cyfeillgar ef yn arweinydd cywir a ffyddlawn; cafodd Ymneillduaeth ynddo ef amddiffynydd diledryw. Lliwiodd yn ddiau wleidyddiaeth y dref a'r dyffryn yn uchel â rhyddfrydiaeth bur, yr hon a gafodd ynddo ef arwr diguro, bob amser a'i lef yn nerthol o'i phlaid, a holl bwysau dylanwad ei fywyd godidog drosti yn barhaus. Rhag meddwl a chredu o'r annghynnefin â hanes bywyd yr enwog Ddr. ein bod yn eithafol, ac yn priodoli iddo yr hyn na ddylem, galwn i'r bwrdd dystiolaethau diamwys niferi o'i weithredoedd clodwiw mewn ffordd o frwydrau tanllyd dros iawnderau gwahanol ddosparthiadau o fodolion yn Aberdar a'r cyffiniau, a chaiff

hyny ffurfio rhan bwysig yn ein pennod ddylynol.

PENNOD VII.

PARHAD ABERDAR.

Price ac Aberdar—Yn cydymddadblygu—Ymladd yn erbyn y Dreth Eglwys—Amddiffyn merched a gwragedd Cymru—Cableddau y Llyfrau Gleision—Tystiolaeth anwireddus y ficer—Cyfarfod cyhoeddus i ymdrin â'r mater—Ei araeth yn y cyfarfod—Ymosod ar y Rustic Sports—Derbyn tysteb—Pryddest o glod iddo—Y ficer yn gwrthod claddu plentyn Mr. John Lewis—Areithio tu allan i'r fynwent—Claddu y plentyn—Gorfodi y ficer i gynnal gwasanaeth boreuol yn yr Eglwys—Ymdrech o blaid addysg—Ei ysgrif yn "Seren Cymru" ar bwnc y Reform Bill—Yn derbyn diolchgarwch Derby a Bright—Ei gyssylltiad agos a'r glowyr a'r gweithwyr tân—Ei ysgrifau, &c.—Yn aelod o'r gwahanol fyrddau—Aberdar yn wahanol i'r hyn ydoedd ar ddyfodiad Price yno.

FEL y dangosasom yn barod yn y bennod flaenorol, yr oedd Aberdar yn ymagor, ac ar ei hesgynfa yn mhob ystyr pan ddaeth Price i'r dyffryn. Yr oedd yntau fel person yr un fath. Yr oedd ynddo blygion ar blygion i ymagor, a meddai allu diamheuol i gerdded yn gyfochrog ag amgylchiadau lleol, yn gystal a nerth a chyflymdra i redeg yn mlaen gyda diwygiadau yr oes. Un o'i ragoriaethau penaf ydoedd ei fod yn ymgyssylltu bob amser, fel yr awgrymasom yn barod, â materion cyhoeddus y dref a'r gymmydogaeth, a phrofai ei hun yn feistr yr amgylchiadau pan yn gwneuthur felly. Ond yr oedd, yn fynych, drwy hyny, yn gosod ei hun yn agored i erlidiau gelynion, a chyfeillion weithiau. Gallai ddweyd mewn rhai brwydrau y bu ynddynt, fel Paul, ei fod " Mewn blinderau yn helaethach, ac mewn gwialenodiau dros fesur;" ond gallai ddyoddef y cwbl yn amyneddgar, ac anwybyddu llawer o wrthwynebiadau er mwyn yr egwyddor neu yr egwyddorion y brwydrai drostynt. Meddai lawer iawn o annybyniaeth a phenderfynolrwydd di-ildio. Ei frwydr gyntaf oedd yn erbyn y Dreth Eglwys, yn yr hon ni fwriodd efe arfau hyd nes y cafodd y Parch. John Griffiths, M.A., ficer y plwyf, i benderfynu ei "chladdu am byth." Rhywbeth felly oedd ei addewid i'r Dr.

Wedi hyny, pan gyhoeddwyd cableddau y Llyfrau Gleision ar ferched a gwragedd Cymru, yn nghyd â chyflwr addysg a moesolrwydd Aberdar, daeth allan fel cawr i'w hamddiffyn gyda Ieuan Gwynedd ac ereill. Am hyn dywed un awdwr pan yn ysgrifenu ar Aberdar:—

"It should not be forgotten that here was cradled that spirit of national protest against misrepresentation of Welsh character which resulted in such complete refutation of the slight put upon Wales by that strolling company of Commissioners who were sent by the Government of the day to see what defects were socially visible in Wales, and who complacently reported upon which they did not see. Aberdare, with Dr. Price and Ieuan Gwynedd to the forefront, came to the rescue, and, with flinchless vigour, flung back the stigmas with which these Commissioners (called gentlemen) unjustly bespattered us as a nation. Ieuan Gwynedd sleeps at Groeswen; Dr. Price is yet a felt force in Welsh circles; the men and women whom they relieved of odium are grateful to them."

Rhoddwyd y wybodaeth gamddarluniol a chamarweiniol y cyfeirir ati uchod gan y Parch. J. Griffiths, Ficer y Plwyf, i Mr. Lingen, un o ddirprwyaeth y Llywodraeth. Nid anfuddiol fyddai i ni osod adroddiad y ficer yma, a rhoddi byr olwg ar y cwrs gymmerodd Price yn ei wyneb.

"My Parish, in its present uneducated condition, is certainly retrogading. Nothing can be lower, I would say more degrading, than the character in which the women stand relative to the men. The men and the women, married as well as single, live in the same house, and sleep in the same room. The men do not hesitate to wash themselves naked before the women; on the other hand, the women do not hesitate to change their under-garments before the men. Promiscuous intercourse is most common—is thought of as nothing and the women do not lose caste by it. Generally speaking, there is very little sobriety. The men drink in beershops, and are occasionally joined by the women; but on the whole, the women drink at home. Saturday night and Monday night, and also Sunday morning, are always spent in drinking if the times are good. If it be after pay the carousal is generally extended till Tuesday or even Wednesday. Nothing can be more improvident than the miners or colliers. These religious feelings are peculiar to the temperament of the Welsh. They are very excitable—have nothing like what is considered elsewhere a disciplined religious mind. They go to the meeting at six, come out at eight, and spend the remainder of the evening in the beershop. There is no religion whatever in my parish, at least, I have not yet found it.

"Signed, JOHN GRIFFITHS, Vicar."

Yn ngwyneb y fath gyhuddiadau pwysig, penderfynodd Price roddi hèr i'r ficer i'w profi. Yn y Principality, papyr ein hen gyfaill, Mr. Tudor Evans, yn awr o Gaerdydd, am Mawrth y 7fed, 1848, cawn hanes y cyfarfod mawr a gynnaliwyd mewn perthynas i'r drafodaeth, yr hwn, yn ol yr adroddiad, oedd y cyfarfod mwyaf brwdfrydig a lluosog a gynnaliwyd yn Aberdar erioed cyn hyny. Bernid fod ynddo tua 2,500 o bobl. Yr oedd y cyfarfod wedi ei alw drwy ei hyspysu yn y modd mwyaf cyhoeddus possibl. Dywedir yn y mynegiad fod y Parch. Thomas Price wedi gwahodd y ficer i ddadleu yr achos yn gyhoeddus; ac ymgymmerodd â gwrthbrofi holl adroddiadau Griffith i'r Ddirprwyaeth. Ar noson y 23ain o Chwefror, 1848, y cynnaliwyd y cyfarfod dywededig. Derbyniodd hèr Price yr atebiad byreiriog canlynol oddiwrth y ficer:—"I will never give you that honour." Yn gweled fod y ficer yn osgoi y gorchwyl anhawdd iddo amddiffyn ei gyhuddiadau, awd yn mlaen â'r cyfarfod dan lywyddiaeth yr enwog D. Williams (Alaw Goch), Ysw., yr hwn wrth gymmeryd y gadair a sylwodd fod y ficer yn berson hollol anaddas i roddi tystiolaeth ar Aberdar, gan ei fod yn gymharol ddyeithr i'r lle. Yna aeth Price, arwr y cwrdd, yn fanwl ar ol y cyhuddiadau wnaed gan y ficer, ac a'u gwrthbrofodd un ac oll. Gan fod eu nodiadau i raddau yn ddarluniadol o hono, gosodwn ychydig o honynt yma:—

"Nid wyf yn gwadu nad oes gormod o feddwdod yn Aberdar; y mae llawer, mae yn wir, yn hoff o yfed yn ormodol, ond nid oedd meddwdod yn nodweddiadol o weithwyr Aberdar (clywch). Nid oedd y Sabbath yn cael ei dreulio i yfed; nid oedd un o 800 yn mynychu y tafarndai. Gyda golwg ar y merched a'r gwragedd yn yfed, galwa am dystiolaeth Sais o'r enw Samuel Garret ar y mater. Gwada Garrett yr adroddiad disail fod y gwragedd i gyd yn dueddol i ymyfed. Nid oedd meddwdod yn nodweddiadol o wragedd a merched Cymru. I gyfarfod â'r cyhuddiad o wastraff ein mwnwyr a'n glowyr, dywedaf fod pobl Aberdar wedi sefydlu yn y 40 mlynedd diweddaf ddim llai nag o 40 i 45 o gymdeithasau oedd a'u hamcan arbenig i ddarparu ar gyfer cystudd ac angeu. Yr oedd eu cyfraniadau i'r cymdeithasau hyn yn £200 yn fisol, ac yn £2,400 yn flynyddol. Hoffwn gael arwain Mr. Griffiths o Hirwaen i Aberdar, mewn trefn i ddangos iddo o 1,500 i 1,800 o dai ydynt wedi eu codi gan y gweithwyr yn unig yn yr ychydig flynyddau diweddaf. Nid oedd y ffaith hon yn siarad llawer yn erbyn arferion darbodus y dosrarth gweithgar. Yr oedd pobl Aberdar at eu rhyddid i addoli Duw yn ol eu tueddiadau a chyfarwyddiadau eu cydwybodau eu hunain. Yr oedd yn rheol sefydlog gan yr eglwysi Ymneillduol i ddiarddelu pawb elent o'r cymundeb i'r dafarn. 46 mlynedd yn ol, nid oedd ond un capel yn y lle, ond yn awr yr oedd 15. 40 mlynedd yn ol 1 Ysgol Sabbothol oedd yn y lle, ond yn awr yr oedd ganddynt o 20 i 25. Am foesolrwydd, daliai efe y safai gwragedd a merched Aberdar mor uchel gyda golwg ar burdeb moesol ag unrhyw ddosparth o wragedd a merched yn y deyrnas. Cyfeiriai y gynnulleidfa er prawf o hyny at y ffigyrau gyhoeddwyd ar y mater gan ei gyfaill, Mr. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar."

Wedi sylwi yn fanwl ar holl gyhuddiadau y Ficer (nid ydym yn gosod ond talfyriad o honynt yma), a'u gwrthbrofi bob yn un ac un, gosodwyd gerbron y cyfarfod amryw benderfyniadau pwysig, y rhai, er rhoddi mantais i'r darllenydd i ffurfio rhyw syniad am y teimladau gynhyrfwyd yn nhrigolion Aberdar am ymddygiad annheilwng y Ficer, a osodwn yma yn yr iaith Saesneg:— — "The Rev. Thomas Price moved, and D Davis. Esq., seconded:—

"I. That this meeting, having read the evidence of the Rev. John Griffiths, Vicar, contained in the Report of the Commissioners on Education in Wales respecting the state of education and morals in the Parish of Aberdare, feels surprised that he, being then a stranger, having resided but a few days amongst us, should have deemed himself competent to furnish the information requested by the Commissioners; while at the same time it begs most distinctly to deny the whole of his statements, if they are intended as a description of the character, position, knowledge, habits. and general deportment of the inhabitants of this place, they being as general statements utterly void of truth. And this meeting begs to express its decided disapproval of his conduct. "Moved by the Rev. W. Edwards, seconded by Mr. W. Lewis, miner:—

"II. That this meeting, while anxious for a better system of education in the place, still considers the report of Mr. Lingen incorrect, unfair. and sectarian, it being founded on the evidence of persons adverse to the feeling and wishes of the vast majority of the inhabitants of the Parish, and strongly prejudiced in favour of one particular church, while statements made by others have been entirely suppressed.

"Moved by Mr. W Thomas, seconded by the Rev. D. Price, Siloa:—

"III. That should the contents of these reports be brought under the notice of Parliament, this meeting respectfully but earnestly desires that Sir John Guest, the worthy representative of this place, in his place in the House of Commons, give a direct contradiction to the statements made therein concerning the people of Aberdare.

"Moved by W. Williams, seconded by E. Richards:—

"IV. That this meeting is of the opinion that the evidence of the Rev. John Griffith, together with that of Thomas W. Booker, Esq, Melingriffith, should be printed in the Welsh Language, and circulated in the Parish, it being but fair that Mr. Griffith should tell his parishioners in their own language what he has already told the Government respecting their state of morals, and it being but fair that Welshmen should know of the excellent character given them by Mr. Booker, he being an Englishman, and an extensive employer of labour in the County

"Moved by Rev. B Evans, seconded by Mr. David Williams:—

V. That a copy of these Resolutions be sent to the Committee of the Council on Education, to Lord John Russell, to the Principality, to the Cardiff and Merthyr Guardian, and to the Times."

Gwasanaetha yr uchod i ddangos cyfeiriad meddwl a thueddiadau naturiol Thomas Price; ond nid yw hyn amgen swn awchlymiad ei gleddyf. Y mae gyda y fyddin yr ymhyfrydai fod gyda hi ac yr ymddiriedai iddi, sef y dosparth gweithgar. Eisteddai pob peth yn bur naturiol ond cael Price i'r gweithwyr, a'r gweithwyr i Price.

Brwydr arall a ymladdodd yn ddewr yn Aberdar oedd brwydr y "Rustic Sports," fel ei gelwid hi. Yn y Gwron, papyr a gyhoeddid yn Aberdar (yr hwn a olygid gan y Dr.), am Ionawr y 30ain, 1858, cawn hanes cyflawn o honi mewn erthygl ddoniol gan Price, dan y pennawd, "Y Briodas Freninol a Ffolinebau Aberdar." Cynnaliwyd y Sports i ddathlu dydd priodas Victoria Adelaide Maria Louisa, merch hynaf ein Brenines dirion Victoria. Gwnaed hyn gan ychydig bersonau a ffurfient, a defnyddio iaith Price, Clique bychan, crebachlyd, ceintachlyd, hunan- grëedig," ac er ateb eu dybenion, oeddynt yn chwyddedig iawn yn galw eu hunain "The Trade of Aberdare," dan nawdd grefyddol y Ficer a'i churchwarden, fel y dengys yr hyspyslen a gynnwysai y prwygraifft, yr hon oedd fel y canlyn:—

RUSTIC SPORTS.

Suported by the Vicar, Churchwarden, Curates, Gentry. Patrons: The Trade of Aberdare.

Wedi rhoddi enwau y swyddogion a'r pwyllgor cawn y programme, yr hwn a osodwn yma, yn nghyd ag ychydig o nodiadau Price ar yr ymdrafodaeth.

RUSTIC SPORTS, cynwysedig o redegfeydd o amryw gymeriadau. Mae y Trade' wedi gyru allan ddwy hysbyslen bwysig iawn—y naill yn galw ar y masnachwyr oll i gau eu masnachdai am un o'r gloch. gan eu bod hwy, y 'Trade,' yn myned i gael rhedegfeydd ar Heol Caerdydd, o dan nawdd y Trade. Mae yr ail hysbyslen yn cynwys y Programme Mae hwn yn wir deilwng o'r 'Trade;' ac y mae yn ddyogel genym nad oes yr un dosbarth arall yn mhlwyf Aberdar yn feddianol ar dalent a dwlni digonol i gyfansoddi Programme fel hwn. Hysbysir ni fod y 'Trade' yn myned i wobrwyo y buddugoliaethus yn y gorchestion pwysig canlynol: Gyrfa Asynod—yr asyn diweddaf i mewn i enill y wobr.' Talentog dros ben. Gyrfa Asynod, a'r marchogwr i fod a'i ben at gynffon yr asyn—y cyntaf i mewn i enill.' Doniol ac asynaidd iawn. 'Gyrfa o ddynion mewn ffetanau.' Buasai yn fendith fawr pe buasai Superintendent Wrenn yn gosod y 'Trade' mewn ffetan, a'u danfon i Lansawel. Gyrfa o fechgyn o dan 15 oed.' Cynllun y Trade' i ddysgu 'The young idea.' 'Gyrfa o wyr.' Dyma ddull y 'Trade' i wella moesau eu cyd-ddynion. Mewn ffordd o newid—Darn o gig mochyn am ddringo i fyny i drostan wedi ei seimio, er i'r 'Trade' gael testun i chwerthin. Gyrfa o asynod mewn wageni.' Mae hwn yn ddrychfeddwl campus iawn o eiddo y 'Trade,' cael gyrfa o'r natur hyn mewn heol gul, yn cynwys rhyw ddwy fil a haner o ffoliaid wedi eu tynu yno gan y 'Trade.' 'Gyrfa gan ddynion a'u llygaid wedi eu rhwymo, yn gyru o'u blaen ferfa drol.' Prawf o dalent neillduol yma eto. 'Gyrfa rhwng merched o dan 15 oed.' Gyrfa rhwng menywod uwchlaw 15 oed.

'O ddifrif, ddarllenydd, nis gallwn ddilyn y Programme yn mhellach. Onid ydyw peth fel hyn yn ddigon i beri i dy waed di ferwi,—meddwl fod nifer o ddynion yn galw eu hunain y 'Trade of Aberdare,' yn ymdrechu cael gan fenywod y lle i redeg gyrfa er boddio teimlad anifeilaidd y creaduriaid distadl hyn. Yr oedd y fath gynyg yn warth ac yn ddirmyg iw awdwyr. Beth? A oedd eisieu testun newydd ar ein Vicar i ysgrifenu eto yn erbyn ein merched a'n gwragedd? Mae yn ofid genym feddwl fod Vicar Aberdar, a'i Churchwarden, a'i Guardiaid, yn gallu ymddarostwng i gefnogi y fath gynyg gwarthus i ddiraddio ein merched a'n gwragedd. Mae yn wir na chafwyd gan yr un ferch na'r un wraig i redeg, ond beth am hyny? Nid oes achos i ni ddiolch i'r 'Trade' am hyny; yr oedd eu hamcan hwy yr un; ac nis gellir condemnio y fath gynyg bwystfilaidd mewn iaith rhy lem na syniadau rhy gedyrn.

Yr ydym hefyd yn tystio yn enw llawer o ddynion da, sydd yn dymuno yn dda i Aberdar, nad yw y dyrnaid yna erioed wedi bod, nid ydynt yn awr, ac nid ydynt byth yn debyg o gynrychioli masnachwyr Aberdar. Mae dynion yn mhlith masnachwyr Aberdar, ag sydd yn meddwl yn uwch am eu cymeriadau, na gwneyd y fath asynod o honynt eu hunain ag a wnaeth y 'Trade' dydd Llun diweddaf. Llwyddodd y 'Trade' i gael lluoedd mawr o ffyliaid fel eu hunain yno, a buont yn difyru eu gilydd am ryw oriau, ond cafodd y 'Trade' eu siomi yn niffyg chwaeth y menywod yn peidio rhedeg yn ol y Programme. Mawr barch i'r menywod! Nid ydynt cynddrwg ag y myn rhai i ni gredu eu bod. Paham na fuasai y 'Trade' yn dwyn allan eu gwragedd eu hunain er difyru y dorf. Diddad y buasai yn chwerthingar iawn i weled Mrs. Gawn a Mrs. Nicholas yn ymdrechu am y dorch; a Mrs. Larke a Mrs Samuel. The proof of the pudding is in the eating.' meddai y Sais, a charem ninau i'r 'Trade,' cyn dirmygu gwragedd dynion ereill, dreio'r experiment ar eu gwragedd eu hunain. Ac os yw y fath beth yn rhy isel i'w gwragedd hwy, mae hefyd yn ddirmygedig i wragedd ein gweithwyr gonest. Wedi i'r 'Trade' fod yn chwerthin o glust i glust, ac yn gwhyru fel ceffylau Sir Aberteifi, ac wedi i lawer gael eu hanafu yn druenus a pheryglus, dygwyd y 'Rustic Sports' i derfyniad tua brig yr hwyr, ac aeth y 'Trade' tua thre, i eilliaw eu barfau, ac i lanhau eu danedd, fel rhagymadrodd i'r BALL, a gynelid yn y nos gan y 'Trade' a'u gwragedd a'u merched, am yr hwn bydd genym rywbeth i'w ddywedyd dro ar ol hyn.

"Mae yn ddrwg genym orfod ysgrifenu fel hyn am neb o'n cymydogion; ond gan fod rhyw ddosbarth o ddynion yn honi peth nad yw yn perthyn iddynt, ac yn dewis gwneyd eu hunain yn destun gwawd a dirmyg, rhaid iddynt ddysgwyl y canlyniadau. A pha un a fydd y 'Trade' yn digio neu beidio, tra bydd genym lais i'w ddyrchafu. a phin i ysgrifenu, bydd i ni arfer ein dylanwad yn erbyn y fath weithredoedd a'r rhai a gyflawnwyd dydd Llun diweddaf. Pan fydd y 'Trade' am fyned yn mlaen a gwneyd daioni, bydd yn hoff genym eu cynorthwyo; ond pan geisiant ein llusgo yn ol gan mlynedd, bydd i ni geisio gosod y Sprag yn yr olwyn, gan ymestyn at adael Aberdar yn well nag y cawsom ef; o leiaf, peidiwn er dim a'i wneyd yn waeth.

Yn y brwydrau godidog hyn, ennillodd Price sylw a pharch mawr, nid yn unig drigolion Aberdar a'r cylchoedd, ond hefyd ei gydwladwyr yn dra chyffredinol; oblegyd edrychid arnynt nid fel brwydrau lleol, eithr fel ymdrechion clodwiw i amddiffyn cymmeriad y genedl, cadw a dyogelu urddas y rhyw fenywaidd, a dyrchafu'r wlad yn ngwyneb yr ymgais fwyaf waradwyddus i'w darostwng. Gwelid ynddo y dyngarwr twymgalon, a'r gwladgarwr anwyl a diffuant. Cafodd drwy ei wroldeb le cynhes yn serch y dosparth gweithgar, a sedd urddasol yn nghalonau tyner a serchgarol merched a gwragedd Aberdar, am ei ddewrder yn eu hamddiffyn. Ac er rhoddi prawf ymarferol o'u serch a'u teimladau da ato, gwnaethant dysteb werthfawr iddo, yr hon a gyflwynasant iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ebrill, 1848. Yn y Gweithiwr, newyddiadur a gyhoeddid y pryd hwnw gan y Parch. J. T. Jones, am Ebrill 16eg, 1859, daethom o hyd i bryddest odidog o glod i'r Parch. Thomas Price, Rose Cottage, Aberdar, am ei amddiffyniad i ferched Aberdar, buddugol yn eisteddfod flynyddol Llanelli. Carwn allu ei gosod yn gyflawn i mewn yma, ond nis gallwn yn herwydd ei meithder; eithr dyfynwn ddarnau o honi, gan ei bod mor ddesgrifiadol o'r amgylchiadau ac mor nodweddiadol o'r gwrthddrych. Am Price fel gwladgarwr dywed:—

"Ei enaid mewn digter a ga ei gynhyrfu,
Diffyna hyd angeu holl ferched mwyn Cymru.
Fe gablwyd y Cymry fel rhai annysgedig
Gan un, wrth ei dysgu, a wnaed yn foneddig;
Darluniwyd plant Gwalia wrth was y Llywodraeth
Yn ail i farbariaid yn mhob rhyw ystyriaeth:
Ni theimlai y bradwr fod hyny yn ddigon,
Rhaid ydoedd rhoi ergyd a glwyfai y galon.
Rhaid taro ar benau anrhydedd ein broydd,
A drygu cymmeriad ein merched heb gywilydd;
Ond ah! os tarawodd, ca'dd yntau ei daro—
Derbyniodd archollion a lynant byth wrtho!
Cyhoeddodd fad ferched hen Walia'n anfoesol,
Yn ail i'r anifail, yn warthus andwyol;
Yn ymddwyn yn hollol anweddaidd a diras,
A'u bod ger y meibion yn ffiaidd ac atgas.

Daeth Gwynedd dwymgalon a Price mawr ei ddoniau
Fel cewri i brofi nad gwir y dywedai;
Ger gwlad hoff eu tadau hwy a ddangosasant
Mai achos eu chwerwedd oedd llid at eu llwyddiant.
Er cymmaint y dirmyg a daflwyd ar Gymru,
Y ficer ni theimlai yn foddlon ar hyny ;
Er iddo ddarostwng ein merched diniwaid,
A'u rhesu yn mhlith y ffieiddiaf farbariaid.
Rhaid oedd diystyru eu treiddgar feddyliau,
A'u gosod i redeg fel nwyfus geffylau.
Cyhoeddwyd priodas rhwng Tywysog hardd Prwssia
A'r hawddgar Louisa, merch hynaf Victoria.
*****
Yn Aberdar dirion fe deimlid gorfoledd
Gan lu o'r trigolion, yn wreng ac yn fonedd,
Ond ni all'sai'r Ficer arddangos ei deimlad
Heb geisio darostwng trigolion ein mamwlad;
Ni all'sai roi clod i ferch hynaf Victoria
Heb gynnyg difwyno holl ferched mwyn Gwalia.
Cynnygid gwobrwyon am redeg gyrfaoedd,
Rhoid gwobr i'r plantos a phenau teuluoedd;
Mwgwdid rhai hefyd fel ffyliaid yn ddeillion,
A ftyliaid a chwarddent am ben eu cyfeillion;
Gwneid gyrfa asynod-rhoid asyn yu union
I farchog ei gyfaill, â'i ben at ei gynffon.
A chyn i'r ben asyn a'i farchog ddychwelyd,
P'un mwyaf asynaidd anhawdd oedd dywedyd;
A dyrus oedd dirnad pwy ydoedd y doethwyr,
Y rhai a farchogent neu'r masw wobrwywyr.
Cai rhai eu gwobrwyo am ddringo y poliau,
Ac ereill am redeg mewn mawrion ffetanau;
Ac er gosod coron o warth ar y gwagedd,
Cynnygiwyd gwobrwyon i'r merched a'r gwragedd.
Khoid gwobr i'r fenyw dan bymtheg a redai,
Un arall i'r ferch mewn llawn oed a orchfygai;
'Roedd cynnyg gwobrwyon o'r fath yn gywilydd,
Eu hail ni chlybuwyd hyd eithaf y gwledydd.

"Gosod benyw, perl y cread,
Er mwyn boddio dynion gwael,
I gydredeg fel anifail,
O'r fath brawf o feddwl hael!
Gesyd argraff ar ei bleidwyr,
O drueni trist eu bron,
Na foed parch i'r rhai gynlluniodd
Yr ymdrechfa atgas hon.

"Yn lle cael eu llithro o flaen y demtasiwn
(Er clod i holl ferched ein gwlad y dywedwn),
Ni chafwyd yn unman un wraig mor benchwiban
Na meinir am eiliad ddibrisiai ei hunan.

"Nis gallasai'n gwron oddef
I elynion ddrygu'i wlad,
Cablu urddas gu ei frodyr,
Diystyru'r gwragedd mad;
Treiddiai'i lais fel taran nerthol
Drwy y cymoedd ar bob llaw,
Y dirmygwyr oll a grynent,
Parodd iddynt aeth a braw.

"Ymresymai'n gryf â'r Ficer
A'i gyfeillion drwy y plwy',
Os o'ent am i'r gamp i ddechreu,
P'am na redai'u gwragedd hwy;
Os gwnai les i wraig y glowr,
Gwnaethai les i'r gwragedd chweg
Ddaethant yno fel edrychwyr,
Ymresymai'n eithaf teg.

"Hyf ddangosodd y drygioni
A ddynoethodd ger y byd,
Ni ofalai am y mawrion,
Diystyrai'u gwawd a'u llid;
Ysgrifenodd a dadleuodd
Er amddiffyn Cymru gu
Nerthol oedd ei ymadroddion,
Y gwirionedd oedd o'i du.

"Nid ei les ei hun oedd ganddo,
Lles ei frodyr oedd ei nod,
Codi enw gwlad ei dadau
Fry i'r man y dylai fod;
Treuliai'i aur a'i amser gwerthfawr
Yn ngwasanaeth Gwalia fad,
Boddlon ydoedd i'r holl erlid,
Ond adennill clod ei wlad.

"Ni dderbyniai wyneb undyn,
D'wedai'r gwir heb ofni gwawd,
Ni effeithiai dirmyg arno,
Mae e'n gyfaill i'r tylawd;
Pe bai pawb yn ellyll duon,
Safai ef yr un bob pryd—
Dros yr hyn sydd yn wirionedd
'Does ei ddewrach yn y byd.

"Saif dros burdeb a diwygiad,
Arwr rhinwedd yw'n mhob man,
Fe ymgeisia drwy ei fywyd
I ddyrchafu'r eiddil, gwan;
Llwyr gasâ y meddwl gwammal,
Penderfyna—ymaith ffy
Pob rhyw ansefydlog duedd,
Nid oes dim yn hawdd a'i try.


[PEN. VII.

"Coder enw Price i fyny,
Teilwng yw o barch y wlad,
Myn i ddynion eu hiawnderau,
A diffyna'r merched mad;
Uned Gwent a holl Forganwg,
Ceredigion gyda hwy,
Aed ei glod trwy Gymru'n gyfan,
Price fo'n uchel yn mhob plwy'.
"Ferched Cymru, De a Gogledd,
Rhoddwch glod i'r gwron gwiw,
Amddiffynodd eich cymmeriad,
Amddiffyna tra bo byw;
Boed i chwithau oll amddiffyn
Ei gymmeriad yn mhob man,
Mae yn gyfaill i'r angenus
Ac yn gymhorth gwir i'r gwan.

Llanelli

"CYMRO DU."

Ein hunig ymddiheurad am osod cymmaint o'r bryddest yma yw ei bod, fel y nodasom, yn gyflawn o'r gwrthddrych. Nid ydym yn gwybod pwy oedd Cymro Du, Llanelli, ei hawdwr; ond ymddengys i ni ei fod ef yn gwybod pwy oedd y Parch. Thomas Price, a llwyddodd i dynu darlun tra chywir o hono. Gwnaed ymosodiadau llechwraidd gan rai o'r "Trade" ar y Dr. am eu gwrthwynebu, a chyhoeddasant bapyrau dienw i'w ddiraddio. Cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghalfaria i wrthdystio yn erbyn yr ymddygiadau gwarthus hyny, pan y rhoddwyd anerchiad i'r Dr., ac i'r Parch. J. Davies, Aberaman, yr hwn oedd yn gydolygydd ag ef ar y Gwron, a dystawodd y "Trade" am byth. Y mae yr anerchiad hwnw wedi ei gadw yn Rose Cottage, mor barchus ag unrhyw un a gafodd erioed.

Cymmerodd brwydrau lawer le rhwng offeiriaid a ficeriaid Aberdar a Thomas Price o bryd i'w gilydd. Dichon eu bod hwy, yn herwydd ei ymosodiadau beiddgar a dynol ef arnynt yn yr amgylchiadau a nodasom, yn teimlo yn eiddigeddus wrtho, yn ei wylio ac yn ei dalu yn ol pan gaffent gyfle; ond yr oedd efe yn mhob achos yn dyfod allan yn fuddugoliaethus arnynt.

Gwrthodai yr offeiriaid weithiau gladdu Ymneillduwr, yn enwedig plant, os meddylient eu bod heb eu bedyddio, fel y dywedent. Ond yr oedd efe yn gallu eu trin yn lew, ac yn fynych yn dysgu gwersi pwysig iddynt yn yr ymrysonau hyn. Yn ei ddyddiadur am dydd Mawrth, y 17eg o Ionawr, 1860, cawn hanes un o'r amgylchiadau a nodwn wedi ei gofnodi ganddo, yr hwn fydd yn ddigon i ni ddyfynu i ddangos cwrs Price yn ei wyneb. Darllena fel y canlyn:—

"Dydd rhyfedd oedd hwn. Mae y Parch. Evan Lewis wedi dyfod yn ficer i Aberdar. Yr oedd mewn angladd heddyw am y waith gyntaf. Mab i John Lewis oedd yn cael ei gladdu. Gwrthododd y ficer; ond claddwyd y plentyn, ac areithiwyd genyf oddifaes i'r fynwent. Mae yma deimlad iawn. Pregethu y nos yn nhy Nancy Parry, Rhestr Fawr."

Dywedir fod Price yn amser y ficer blaenorol, y Parch. J. Griffith, wedi bod mewn ffrwgwd gyffelyb amryw droion, a'i fod wedi dweyd wrth y Ficer y dangosai iddo mai gwas y plwyfolion ydoedd, ac nid eu meistr. Hefyd, y dangosai iddo nad oedd yn cyflawnu ei ddyledswyddau megys y dylasai, ond y buasai efe o hyny allan yn mynu gweled y gwaith yn cael ei gyflawnu yn llwyrach, ac felly y bu. Yr oedd Price yn hyn, fel yn mhob peth arall braidd, wedi chwilio dirgelion allan a mynu gweled pethau i'w gwaelodion. Tebyg ei fod wedi cael o hyd i hen weithredoedd eglwys y plwyf, y rhai a ddangosant fod yn rhaid cynnal gwasanaeth ynddi bob dydd o'r flwyddyn. Galwodd sylw y ficer at hyn, a mynodd ei weled yn cael ei gario allan yn llythyrenol. Y mae y gwasanaeth, yn ol y weithred, mae yn debyg, wedi ei barhau yn gysson a rheolaidd, dywedir, o'r adeg hono hyd yn bresenol. Cynnelir y gwasanaeth yn awr ynddi bob boreu am 7.30, er fod yma ddwy Eglwys arall i'w cael yn y dref yn fwy cyfleus. Fel hyn y cawn Price yn brwydro yn galed a dewr â'r Eglwyswyr dros Ymneillduaeth ac hawliau Ymneillduwyr hyd y sicrhaodd lawer o'u hiawnderau iddynt, a thrwy wneuthur felly cerid ef gan y bobl, ac aeth yn boblogaidd iawn yn mhlith trigolion y plwyf, a'r wlad yn gyffredinol.

Price oedd yr yspryd symmudol cyntaf gydag addysg rydd yn Aberdar. Costiodd sefydlu ysgol yma lawer o lafur, amser, ac arian iddo ef. Yn ol y mynegiadau sydd yn ein meddiant, yn nghyd â'r llyfrau a gynnwysant (yn llawysgrif Price), gofnodion ac hanes cyflawn o weithrediadau y pwyllgor, cawn ei fod yn gweithio yn galed ac yn egniol iawn. Cafodd gydweithiwr rhagorol yn mherson y Parch. W. Edwards, Ebenezer, Trecynon. Yr oedd efe o galon yn gefnogydd mawr i addysg, a gwnaeth lawer drosti yn Aberdar; ond nid oedd cymmaint o fyn'd yn Edwards ag oedd yn Price. Felly efe yn gyffredin oedd yn arwain, ac ar ei ysgwydd ef y gosodid y baich trymaf bob amser. Dichon mai nid annyddorol yma fyddai i ni ganiatau i Price roddi, yn ei ddull doniol ei hun, hanes byr o gychwyniad addysg rydd yn Aberdar. Mewn ysgrif ganddo yn Seren Cymru am Tachwedd y 4ydd, 1864, edrydd a ganlyn, dan y penawd—

"ABERDAR AC ADDYSG RYDD.

"Llawer tro ar fyd sydd wedi cymeryd lle er pan y cynnaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Carmel, capel y Methodistiaid Calfinaidd ar odre'r commin, fel y dywedid gynt, o dan lywyddiaeth yr hybarch E. Griffith, tywysog crefyddwyr Aberdar y pryd hwnw, er ceisio esponio beth oedd Ysgol Frytanaidd. Yr oedd yno gyfarfod llawn wedi dyfod at eu gilydd er gweled yr anifail newydd, oedd Edwards a Price wedi ei ddwyn i'r lle, o dan yr enw British School; yr oedd awydd mawr am weled sut greadur oedd y British School. Yr oeddem wedi llwyddo i gael gwr boneddig haelfrydig o le pellenig —mae bron cywilydd arnom nodi y ffaith i ni ei gael o Talgarth, Sir Frycheiniog—a dau neu dri o fechgyn bach ieuainc gydag ef, er mwyn dangos i drigolion Aberdar beth oedd British School Daethom i adnabod y creadur newydd trwy ganfod ei ddull o gyfranu addysg i blant y gweithwyr; ac erbyn diwedd y cyfarfod cyhoeddus, deallasom mai math o beiriant addysgol oedd y British School. Yr oedd hyn, cofied y darllenydd, tua dwy flynedd ar bymtheg yn ol; yr ydym yn gallach yn awr. Mae ysgol y Commin a'r British School erbyn hyn fel geiriau teuluaidd gan gannoedd o honom. Yn y flwyddyn 1846 yr oedd Ysgol Frytanaidd i Aberdar yn gorwedd yn meddyliau y Parch. W. Edwards, Ebenezer, a'r Parch. Thomas Price. Llawer gwaith y bu y ddau hyn yn siarad, yn cynllunio, ac os nad ydym yn camsynied, yn gweddio uwchben y pwnc o gael ysgol dda i Aberdar, mewn lle cyfleus i'r trigolion, yn y "pentref," fel y dywedid, a Heolyfelin. Daeth yr adeg i'r ddau frawd deimlo pulse ereill; ac awd ati yn araf bach, nes ennill blaenoriaid y cynnulleidfaoedd yn lled gyffredin. Derbyniasant gynnorthwy parod y Parch. David Price, Siloa; y Parch. Josuah Thomas, o Saron y pryd hwnw; ac yn absenoldeb gweinidog trigiannol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cafwyd pob cefnogaeth gan y diweddar Mr. Evan Griffiths, yr hwn oedd yn llu ynddo ei hun, ac a fu gyda ni tra y bu byw; a diolch i'r Arglwydd, y mae ei blant parchus gyda'r ysgol hon law a chalon o ddyddiau eu tad patriarchaidd hyd yn awr. Yn nesaf, ennillwyd y diweddar Alaw Goch, a'r teulu oll, Mrs. Williams, Gwilym, Gomer, a Gwladys, oll yn gyfeillion calon i addysg rydd. Bu Alaw Goch yn gadeirydd i ni o sefydliad yr ysgol hyd ei fedd, a gadawodd i ni y swm o £100 ar ei ol at wasanaeth yr ysgol; a da genym allu dweyd fod y plant fel y tad, yn gyfeillion anwyl i'r sefydliad.

"Wel, ar ol llawer iawn o bryder, traul, a thrafferth, gwelsom yr ysgoldy hardd, hardd y pryd hwnw cofier, a thy i'r meistr wedi ei orphen; ac ar y nawfed dydd o Hydref, 1848, agorwyd yr ysgoldy drwy i'r pwyllgor wahodd ychydig o'u cyfeillion i ddyfod i gyduno â hwy i yfed cwpanaid o dê ar brydnawn dydd gwaith. Daeth y cyfeillion yn nghyd i'r nifer o 2,614. a thalodd pob un ei swllt yn serchus, gan mai math o gyflwyno y plentyn newydd oedd genym mewn golwg y pryd hwnw. Trwy hyn, wedi talu pob treulion, cliriwyd yn mhell dros gant punt o ddyled yr adeilad. Buom ychydig yn anffortunus am rai blynyddau yn yr athrawon fuont genym, ond yn awr er ys blynyddoedd mae yr ysgol o dan ofal Mr. D. Isaac Davies, B.S., yr hwn sydd un o'r ysgolfeistri goreu oddiyma i wlad yr Aifft; nid oes yno ei well i'w gael. O dan ei ofal ef, y mae yr ysgol wedi myned ar gynnydd mewn rhif, dylanwad, a chyfoeth Mae genym hefyd bwyllgor rhagorol, sef Mri. Phillip John, John Lewis, Lewis Griffiths, Lewis, Draper, a Pardoe. Hefyd, mae y ddau frawd anwyl Thomas a John Williams a'u holl galon yn y gwaith.

Mae Mr. John Jones, Fferyllydd, ein cadeirydd presenol, yn un o'r cyfeillion cyntaf a ffyddlonaf. Mae genym yn awr tua phedwar cant o blant dan ddysgeidiaeth, ond y mae y lle yn llawer rhy fach. Mae y pwyllgor yn ffyddiog yn cyfarfod â'r angen cynnyddol drwy godi adeilad mawreddog, digon i gynnal 600 yn ychwanegol o blant, ar draul o ryw £1,300 Mae swm mawr o'r arian mewn llaw genym. Mae eisieu £300 i orphen talu y cwbl oll ar unwaith; a da genym ddeall fod amryw o gynnulleidfaoedd yn Aberdar wedi penderfynu rhoddi gwyl Nadolig eleni at gynnorthwyo y pwyllgor yn yr amcan daionus hwn. Mae yr Independiaid, y Methodistiaid, yr Undodiaid, a'r Bedyddwyr wedi rhoddi heibio bobpeth er mwyn helpu am unwaith. Mae y pwyllgor o'u tu hwy wedi argraffu 8,000 o gardiau er gwahodd cyfeillion i dê atom dydd Llun. Rhag. 26, 1864 Dyna i chwi family party fyddwn, pan gydgyferfydd y pwyllgor a'r 8,000 ymwelwyr! Gwatwar yr ydych. Gwatwar! Nage, yn wir; fuom ni erioed yn fwy difrifol. Diolchwn i'r corau ydynt wedi addaw bod gyda ni y prydnawn a'r hwyr i roddi i ni gyngherdd na chafwyd ei bath yn Aberdar.

Bydd genym ar ol y Nadolig le i naw cant o blant yn gysurus, a staff o ddysgawdwyr nad oes eu gwell o fewn terfynau Victoria. O blant Aberdar! braf yw eich byd chwi!"

Teimlai Price yn ddedwydd, a llawenychai yn ddirfawr wrth weled manteision addysg yn cynnyddu i blant Aberdar, yn y rhai y teimlai ddyddordeb neillduol bob amser; ond nid oedd yr hyn a roddir uchod ond toriad gwawr at a gafodd weled cyn gorphen ei yrfa ar y ddaear. Ni orphwysodd yn segur (ni allai wneyd hyn), eithr gweithiodd yn galed dros ac o blaid addysg yn Aberdar a manau ereill. Y fath oedd ei ymdrechion a'i sel gyda phwnc addysg, fel yr ystyriwyd ef yn addas i'w benodi i ddadlu ei hawliau yn Siroedd Morganwg a Mynwy. Tua'r flwyddyn 1848, pennodwyd ef gyda yr enwog Hybarch John Thomas, D.D., L'erpwl, i fyned am daith am fis trwy y siroedd a nodwn, er cynnal cyfarfodydd ar "Addysg," a chasglu at sefydlu Coleg Normalaidd yn Nghymru. Cymmerwn fantais i gyfeirio at y daith hon etto yn mhellach yn mlaen.

Cymmerodd Price ran flaenllaw iawn gyda y dosparth gweithgar yn Aberdar, gan eu harwain yn mrwydr fawr Reform Bill y diweddar enwog John Bright, yn y flwyddyn 1859, ac ysgrifenodd lawer atynt yn y Gweithiwr ar y mater. Mynychai eu cyfarfodydd, taflai ei enaid mawr a'i yspryd tanllyd i'w areithiau pan siaradai am y diwygiadau a hawlient fel gweithwyr, yn gystal a'r breintiau oedd yn ddyledus iddynt. Gweithiodd i fyny ddeisebau i'w hanfon i'r Senedd, ac ysgrifenodd ar y materion at Arglwydd Derby a John Bright, y rhai a ddiolchent iddo am y dyddordeb a'r rhan flaenllaw a gymmerai yn mhrif bynciau y dydd. Bu hefyd mewn llawer gornest galed a thanllyd dros y glowyr. Efe oedd bob amser yn cymmeryd eu plaid, ac yn dadleu eu hawliau. Gwnaethai hyny drwy siarad ac ysgrifenu. Yr oedd yn hynod o lygadgraff, ac yn deall cwrs trafnidiaeth yn hynod o dda. Proffwydai weithiau gyda llawer o gywirdeb am ddynesiad dyddiau celyd, tywydd garw, ac ystormydd blin i'r "gweithiwr gonest", fel y galwai ef; a chyhoeddai bryd arall â llais clir o bell, "The good times coming, boys." Ysgrifenodd lawer ar bynciau perthynol i'r glowyr, a gwnai hyny yn gyffredin, fel pe buasai yn lowr profiadol ac ymarferol. Yr oedd fel pe gartref gyda phob dosparth. Dywedai ei feddwl yn eglur a difloesgni. Ni ofalai am dramgwyddo meistr mwy na gweithiwr. Mewn gair, byddai yn fwy dibwys ganddo i ddigio y blaenaf na'r olaf; oblegyd meddai barch neillduol at y gweithiwr. Ac er ei fod yn fynych, drwy y rhan flaenllaw a gymmerai yn symmudiadau gweithwyr Aberdar, yn gwrthdaro yn erbyn y meistriaid; etto, edmygid a pherchid ef yn fawr ganddynt, oblegyd teimlent a gwyddent fod ganddynt ddyn gonest yn Price. Dywedai y Dr. yn gryf yn erbyn y gweithiwr heb ofni ei wg pan fyddai amgylchiadau yn galw am hyny; ond camddeallid a chamfernid ef yn fynych ganddynt, a rhoddent iddo y wialen yn drom; etto, ni allent oddef i neb arall ei rhoddi iddo. Ni allent oddef i neb ddweyd na gwneyd dim yn ei erbyn. Mewn amgylchiadau croes a chynhyrfus weithiau yn gyssylltiedig â'r gweithfeydd, suddai y Dr. fel llong yn rhyferthwy yr ystorm o dan donau mynyddig o anmhoblogrwydd. Bryd arall gwelid ef yn ddyrchafedig yn eu plith, ei lestr yn ei lawn hwyliau. Gosodid ef nid yn yr ail gerbyd, fel Joseph gynt, eithr c'ai ganddynt y cerbyd blaenaf, a llefent o'i flaen ef, "Abrec." Ysgrifenodd lu mawr o ysgrifau galluog ar wahanol bynciau dyddorol a phwysig yn dwyn perthynas â'r gweithwyr ac â'r gweithfeydd yn ystod ei fywyd yn Aderdar, yn neillduol yr ugain mlynedd cyntaf o'i fywyd yno. Ysgrifenodd yn alluog ar y pynciau canlynol, y rhai yn unig a nodwn yn enghraifftiol o'r cyfeiriadau gymmerai yn ei berthynas olygyddol â'r gweithwyr:— "Glowyr Aberdar eu sefyllfa a'u hawliau;" "Richard Fothergill, Ysw., a'r Puddlers;" "Y Glowyr;" "Strikes;" "Glowyr Aberdar a'r Meistri;" "Y Gweithwyr Tân a'u Cyflogau;" "Moesoldeb y Truck System;" "Sefyllfa y Gweithwyr yn y Blaenau;" " Ymddygiad Cynghorfa Genedlaethol y Mwnwyr; "Beth am yr Undeb (y gweithwyr);" "Ein Gweithwyr: eu barn am natur yr Undeb ddylai fod;" "Trecha treisied, ond trech gwlad nag arglwydd;" "Undeb y Glowyr yn Aberdar;" "Glowyr Aberdar a'r Cyfyngiad (restriction);" "Sefyllfa Masnach y Gweithiau Cotwm;" "Beth am y Dyfodol?" "Y Gweithiau Cotwm: Beth ydyw y Dysgwyliad?" "Y Double Shift;" yn nghyd â lluaws ereill o'r un natur allem eu nodi. Gellir dweyd ei fod yn awdurdod ar y materion hyn, ac yn dra dyogel i'w ddylyn, er ei fod weithiau yn gwneyd rhai camsyniadau, ac felly yn cael ei feirniadu yn dra llym, a gorfodid ef mewn rhai achosion i groesi cleddyf, hyd y nod â'r dosparth gweithiol, y rhai a garai mor fawr, ac yr ymladdai gymmaint drostynt. Weithiau derbyniai gam oddiar eu dwylaw, yn herwydd eu bod yn ei farnu yn rhy frysiog. Gwelai ef yn mhell yn mlaen. Deallai droad amgylchiadau, a gallai ragfynegu gyda gradd helaeth o gywirdeb ganlyniadau naturiol yr amgylchiadau hyny. Ond yn aml codai cwmmwl uwch ei ben, hyd y cyflawnid ei broffwydoliaethau, yna gwasgarai y tew gymmylau, a chodai y Dr. yn uwch yn marn a theimlad y bobl. Cafodd fantais droion i egluro iddynt am eu hwyrfrydigrwydd i'w gredu, ac amddiffynai ei hun yn wrol yn ngwneb eu hymosodiadau annheg arno. Dywedai ei feddwl yn eglur a di-dderbyn-wyneb wrthynt, fel y cawn enghraifft yn a ganlyn. Ysgrifena dan y penawd awd "Y Glowyr," i Seren Cymru, am Mehefin 10fed, 1864, a dywed:—

"Nid ydym yn gwneyd ymddiheurad am gyflwyno ysgrif yn awr a phryd arall i sylw ein gweithwyr ar faterion ag ydynt yn dwyn cysylltiad arbenig â hwynt eu hunain. Yr ydym bellach yn gwybod trwy brofiad, mai gorchwyl anhyfryd yw hyn, gan ein bod wedi derbyn triniaeth arw—ac i'n tyb ni anhaeddiannol—am wneyd hyn. Mae yn wir fod storm yr Hydref wedi myned heibio: ond y mae yn ffaith alarus i feddwl, ei fod yn anhawdd i gyffwrdd â phwnc y gweithiwr a'r gwaith heb ir ysgrifenydd gael ei ddrwgdybio, a chael rhai i ddywedyd mai ochr y meistr sydd genym. Ond yn y cyffredin y mae yr hen esboniwr, Amser, yn dyfod a phethau yn iawn, ac yn dangos nad ydym wedi bob yn mhell o'n lle pan yn cynghori ein gweithwyr. Yr ydym ni yn gallu dywedyd yn ddigon eglur nad yw ein meistri yn ein dyled ni o ddim. ac nad ydym ninau yn nyled ein meistri o ddim. Yr ydym yn byw er lles a gwasanaeth y cyhoedd, ac yr ydym yn cael ein cynnal yn benaf gan y gweithiwr. Gyda y gweithwyr y byddwn yn llafurio gyda chrefydd, addysg, a'r cymdeithasau dyngarol. Os bydd rhagfarn yn ein meddwl, y mae o angenrheidrwydd i fod o du y gweithiwr. Yna pan fyddom yn ysgrifenu pethau croes i olygiadau y gweithwyr, yr ydym yn gwneyd hyny yn onest yr ydym yn credu, ac am hyny yr ydym yn llefaru. Mae yn wir y gallem fyw bywyd mwy tawel pe na byddai i ni gyffwrdd â materion ein gweithwyr; ond a fyddem ni yn gwneyd yn onest drwy ymddwyn felly? Na, credwn mai ein dyledswydd yw gosod ein barn o flaen ein gweithwyr, gan nas gall fod unrhyw niwed yn hyn, am y rheswm digonol y gall pob gweithiwr daflu ein barn a'n dywediadau oll i'r gwynt pan y myno."

Gyda hyn o arweiniad i'w ysgrif, ymafla y Dr. yn egniol yn y mater oedd ganddo ef dan sylw, sef "Cyfyngiad swm y gwaith gyflawnir gan bob glowr." Yn Seren Cymru am Rhagfyr y 16eg, 1864, cawn enghraifft arall i'r un cyfeiriad dan y penawd, "Seren Cymru a'r Glowyr":—

"Y mae dros flwyddyn wedi myned heibio er pan ddarfu i ni dynu gwg llawer o'r glowyr, yn herwydd i ni yn mis Medi, 1863, roddi ein Gair o Ocheliad' o berthynas i flaenoriaid y mudiad o sefydlu Cymdeithas Genedlaethol i lowyr Prydain Fawr. Darfu i ni, mewn iaith eglur a digamsyniol, gondemnio y blaenoriaid fel dynion anaddas i arwain corff mawr ein gweithwyr. Am hyn cawsom ein trin yn arw ac anfoneddigaidd gan ddynion nad oeddym erioed wedi gwneyd un niwed iddynt. Gofynasom am i'n gweithwyr i aros deng mlynedd, ac yna i'n condemnio ni neu ein plant y pryd hwnw, os nad oeddem wedi llefaru y gwirionedd yn 1863, o berthynas i'r mudiad ag oedd y pryd hwnw ar droed. Yn lle hyn, dywedwyd anwiredd arnom, ysgrifenwyd anwiredd am danom, a chyhoeddwyd anwiredd arnom; a daethom, trwy rai o lowyr Cymru, yn destyn gwawd a dirmyg ar faes y Miner and the Workman's Advocate. Cawsom yr anrhydedd o fod yn destyn ysgrifau arweiniol golygydd y papyr hwnw am ein gonestrwydd yn gosod y glowyr ar eu gocheliad trwy ddarlunio gyda chywirdeb ddynion dichellgar a drwg, aeth y glowyr yn elynion i ni. Gallasem ddefnyddio geiriau Paul at y Galatiaid, 'Aethum yn elyn i chwi trwy ddywedyd i chwi y gwir.' Wel, mae blwyddyn wedi myned heibio— un o'r deg y buom yn gofyn am danynt. Mae y flwyddyn hon wedi mwy na gwireddu pob gair a ysgrifenwyd genym yn Seren Cymru; ac er prawf o hyn, caiff ein gelynion fod yn farnwyr, ïe, y dynion fuont mor ddiwyd yn ein cablu flwyddyn yn ol, y rhai hyn yn awr a gant lefaru am y dynion a gondemniwyd genym ni cyn iddynt hwy agor eu llygaid."

Ymddangosodd yr ysgrif yn y Miner and Workman's Advocate, am dydd Sadwrn, Rhagfyr 3ydd, 1864; y teitl oedd, "Y diweddar gasbeth cenedlaethol y glowyr. ' Gellid ychwanegu llawer yn y cyfeiriadau hyn, ac i bob enghraifft a ddyfynem fod yn dra darluniadol o'r Dr. yn ei frwydrau gyda a thros weithwyr Aberdar a'r cylchoedd; ond ymataliwn, gan gredu y gwasanaetha yr uchod i ddangos ei wroldeb digyffelyb, ei benderfyniad diysgog, a'i allu i ddeall "arwyddion yr amserau,” ac i adnabod yn drwyadl y dynion oeddynt am fod yn arweinwyr y dosparth gweithgar, ac yn proffesu cyfeillgarwch atynt tra nad oeddynt ond bleiddiaid yn nghrwyn defaid."

Nid yn y cyfeiriadau a nodasom yn unig y gweithiodd Price yn Aberdar, eithr gyda sefydliadau gwahanol yn y dref a'r gymmydogaeth, a chyda phob symmudiad dueddai at ddyrchafu y dosparth gweithgar, a chodi dynion yn foesol, cymdeithasol, a chrefyddol. Dywedai un o hen drigolion y plwyf (Aberdar) wrthym yn ddiweddar nad oedd dim o bwys wedi cymmeryd lle yn Aberdar, nac un sefydliad wedi cael ei fodolaeth yno, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, heb fod Price a'r llaw flaenaf wrtho, a'r baich trymaf yn gyffredin yn cael ei gario ganddo, er fod dynion rhagorol wedi bod yn cydweithredu ag ef yn y dref a'r cylchoedd. Bu ef nid yn unig yn arwain gyda sefydliad yr Ysgol Frytanaidd, fel y cyfeiriasom yn barod; eithr bu yn ddiwyd gyda sefydliad y Bwrdd Lleol, a bu yn aelod gweithgar a ffyddlon o hono am flynyddau meithion. Cymmerodd ran flaenllaw yn nygiad y nwy i oleuo y dref a'r dyffryn. Fel aelod o'r Bwrdd Lleol bu yn wasanaethgar gyda gweithiad allan gynlluniau a gorpheniad y dwfr-weithfeydd mawrion perthynol i'r plwyf. Bu yn ymarferol ei gynghorion a doeth ei gyfarwyddiadau yn sefydliad y Bwrdd Addysg, a chafodd yr anrhydedd o fod yn aelod o hono am flynyddau, ac o ran hyny hyd ei ymddiswyddiad yn herwydd henaint a dihoeniad ei iechyd. Bu yn boblogaidd iawn am lawer o flynyddau fel aelod ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, ac ni chafodd y tlodion erioed burach a gwell cyfaill nâ'r Dr. Cymmerodd ran bwysig hefyd yn ffurfiad a sefydliad Bwrdd Claddu Aberdar, a bu yn aelod o hono hyd ei farw.

Dywedai y Parch. W. Morris (Rhosynog), Treorci, dydd claddedigaeth Dr. Price, yn ei anerchiad pwrpasol o flaen y Rose Cottage, cyn cychwyn o'r cynhebrwng: "Ni ellir byth (meddai) ysgrifenu hanes Aberdar a'r cylchoedd heb hefyd ysgrifenu hanes bywyd Dr. Price. Yr oedd ei fywyd a'i enw yn gydwëedig â chynnydd a thyfiant Aberdar. Nid oedd monument wedi ei godi i Syr Christopher Wren, os am weled hwnw rhaid edrych ar ei waith yn adeilad ardderchog St. Paul. Gyda llawer o briodoldeb y gellid dweyd, os am gael golwg ar fywyd gweithgar a llafur diflino Dr. Price, nid oedd eisieu ond edrych o gwmpas Aberdar a'r dyffryn. Yr oedd wedi bod yn flaenllaw gyda holl symmudiadau cyhoeddus y dref, ac wedi argraffu ei enw yn ddwfn ar bob peth braidd o bwys yn y lle." Y mae llawer o deithi godidog i'w cael etto yn nghymmeriad y dyn mawr hwn, nad ydym hyd yma wedi eu cyffwrdd, ddeuant i'r golwg yn ei gyssylltiad ag Aberdar, y rhai a geisiwn eu harddangos etto o safbwyntiau ereill. Yr ydym yn gadael Aberdar yn awr yn hollol wahanol i'r hyn yr edrychem arno yr adeg y daeth Price i'r dyffryn. Felly, wrth ddychwelyd at ei eglwys a'i gyssylltiadau crefyddol yn y dref a'r dyffryn, gallwn ddysgwyl cael golwg dra gwahanol arnynt i'r hyn a ymddangosent i ni pan gymmerasom ein cenad i edrych ar a thraethu am gyfodiad a chynnydd Aberdar mewn gwahanol foddau yn ystod bywyd llafur-fawr Dr. Price. Teimlwn fod y maes yn eang a'r tir yn gyssegredig. Ni feiddiwn fyned iddo na'i dramwyo wrthym ein hunain; eithr anturiwn yn wylaidd yn mraich garedig y Dr., oblegyd bydd yn rhaid i ni, gyda rhan luosog o'r ffeithiau cyssylltiedig â'r eglwys barchus yn Nghalfaria a'i changenau lluosog, ymgynghori â'r Dr. yn ei Jubili a'i Drem ar eglwys Calfaria. Cymmerwn fras olwg yn ein pennodau nesaf ar Dr. Price yn ei berthynas neillduol â'i eglwys yn Nghalfaria, a gwnawn hyny drwy ystyried dau gyfnod o'i hanes, fel y gwna efe yn y Jubili, sef yr ugain mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth hyd 1866, ac yna hyd ei farwolaeth. Wedi hyny cymmerwn ein cenad i ddychwelyd at y cangenau, gan ddangos ei berthynas â'r enwad yn y dyffryn.

Nodiadau[golygu]