Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Ei Ymweliad a'r Iwerddon ac America

Oddi ar Wicidestun
Price yn ei Berthynas a'r Bedyddwyr yn y Sir ac yn Gyffredinol Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Y Dr Fel Gwleidyddwr

PENNOD XIII.

EI YMWELIAD A'R IWERDDON AC AMERICA.

Ei ragfwriad i fyned—Gwahoddiadau taerion—Gwahoddiad Golygydd "Y Seren Orllewinol"— Atebiad y Dr.—Ei olygiad am y Rhyfel—Ei ymweliad a'r America—Ei ragbarotoadau ar gyfer y daith—Ei ymweliad â'r Iwerddon—Ei daith yno a'r gwaith a gyflawnodd—Dychwelyd adref—Cyfarfod ymadawol yn Nghalfaria—Cychwyn—Cwrdd Lerpwl—Ar fwrdd y llong—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei diriad a'i roesawiad— Cwrdd Hyde Park—Hanes y daith gan y Parch. Ddr. Fred Evans—Etto, Lewisburgh, gan L. M. Roberts, M.A., Glyn Ebbwy—Ei nodion gwasgaredig—Anerchiad croesawus Bedyddwyr Cymreig America—Dychwelyd adref—Welcome Home Aberdar—Anerchiad croesawus gan fasnachwyr y dref—Eglwys Calfaria—Y gweinidogion—Y côr canu—Ciniaw gyhoeeddus i'w anrhydeddu—Parch yn ddyledus iddo.

YR oedd y Dr. wedi hen arfaethu ymweled â gwlad YR eang a chyfoethog y Gorllewin, ac wedi cael gwahoddiadau mynych a thaerion oddiwrth Gymry America, yn ogystal ag oddiwrth gyfeillion personol o nod a bri; ond bu am hir amser yn methu cael ei ffordd yn glir i hyny. Gwnaethai addewidion sicr, ac edrychai yn mlaen am gyfnod ffafriol i'w gyflawnu. Yn y Seren Orllewinol am Medi, 1864, ysgrifena y golygydd, y Parch. Richard Edwards, Pottsville, America, fel hyn:—

"Yn ddiweddar, ysgrifenasom lythyr personol at y gweinidog enwog. llafurus, a pharchus, T. Price, M.A., Ph.D., Aberdar. Y dyben penaf oedd dymuno arno, dros luoedd o'i gyfeillion y tu yma i'r Werydd, ymweled â'r wlad hon ; ac hefyd, cyflwyno iddo Mr. Harry H. Davies, yr hwn a aethai drosodd yno er arddangos ei arluniau, panorama o'r rhyfel, &c. Y mae y Dr. yn cydnabod derbyniad ein llythyr, y darluniau, a'r llyfrau yn garedig a diolchgar drosto ei hun a'r lleill o'r teulu, sef ei fab dysgedig. Edward Gilbert Price, yr anwyl Emily, a Sarah siriol (ei chwaer), y rhai, fel y clywsom, ydynt yn fwy na dim arall yn swyno y Rose Cottage, gan wneyd pawb fyddo yn agos iddynt yn gysurus."

Yn Seren Cymru am Orphenaf 24, 1864, cawn atebiad y Dr. i'r llythyr crybwylledig, a chan ei fod yn dal perthynas agos â'r mater dan sylw, ac yn nodweddiadol iawn o'r Dr., dyfynwn ranau o hono yma. Ysgrifena:—

ANWYL FRAWD EDWARDS,

"Yr hwn, er nas gwelais, a garaf gyda chalon gywir a dirodres—mae eich bywyd dichlynaidd, eich gweithgarwch parhaus gyda y Wasg a'r pwlpud, a'ch ymlyniad diysgog gyda phob peth Cymreig, yn adnabyddus i mi er ys blynyddau; ac er fod Môr y Werydd rhyngom, gallaf eich cofleidio mewn serch Cristionogol, er mwyn eich llafur cariad, er gogoniant y Duw Mawr sydd uwchlaw pawb oll yn fendigedig yn oes oesoedd, lles eich cyd—ddynion yn gyffredin, a lles neillduol eich cydwlad. wyr mewn gwlad bell." * * *

Eich llythyr caredig.—Diolch am hwn. Mae ei gynnwysiad wedi rhoddi llawer o gysur i mi, a charwn fanylu arno oni bai ei fod yn rhy bersonol, ac mor barchus i mi fy hun. Er hyny, nodaf bedwar peth sydd ynddo:—Ymweliad Mr. H. H. Davis.—Fod eich gair chwi, a'r cymmeriad uchel a roddwch iddo, yn ddigon er iddo gael derbyniad calonog yn Nghymru; ac hyderaf y ca dderbyniad croesawgar yn Lloegr a pharthau ereill o Ewrop. Credwyf y gall ei ymweliad fod o fawr les. Mae yn Lloegr, yn mhlith llongwyr a dosparth o'r marsiand. wyr deimlad dros y Dehau, meddant hwy; ond nid gwir hyn. Nid oes dim gwir deimlad dros y Dehau, hyd y nod yn mhlith y fath ddynion ag adeiladwyr yr Alabama, perchenogion y llongau sydd yn rhedeg y blockade, a gwerthwyr arfau rhyfel a phylor, cig moch a saltpetre, a phethau ereill o'r natur yna; na, y ‘teimlad ' sydd am yr aur a'r arian, a'r elw dychrynllyd sydd ar y nwyddau hyn. Aur ac arian, elw a chyfoeth, yw duwiau y dynion hyn: dyma y delwau o flaen y rhai y plygant, gan nad b'le y ceir y pethau hyn, pa un ai yn y Dehau ai yn y Gogledd maent yn foddlon i beryglu pob peth er cael gafael arnynt. Mae y dynion hyn yr un mor barod i werthu arfau tân a phylor i'r Caffrariaid ac anwariaid Zealand Newydd, i ymladd yn erbyn coron Prydain. Yn wir, y maent wedi gwneyd hyn yn barod; a byddent yr un mor ewyllysgar i werthu y nwyddau hyn i'r cythraul, dim ond iddo agor marchnad ar gyffiniau Gehena. Dyma wraidd y ffug—deimlad sydd yma dros y Dehau. O'r tu arall, gallaf eich sicrhau fod gwir deimlad gorcuon y wlad, o Victoria ar ei gorsedd hyd modryb Magws yn Elusendy Aberdar, dros y Gogledd a rhyddid, o blaid Duw a Lincoln, ac o blaid Undeb Americanaidd heb gaeth was o'i fewn. Dyma ein teimlad a dyma ein gweddi. Mae ein teimlad ni fel gweinidogion ac eglwysi yn ddwys drosoch yn eich dydd hwn o drallod a gofid. Cymmerwch galon, mae dydliau gwell yn eich aros. Mae y cyfnewidiad tramor wedi myned yn ddychrynllyd o uchel—dros gant per cent—yn awr. Mae hyn o gwrs yn anfanteisiol iawn i chwi ar hyn o bryd; ond nis gall bara yn hir. Yr wyf fi yn gobeithio y bydd i chwi ail ethol Mr. Lincoln i'r gadair lywyddol. Os gwnewch felly, yr wyf yn credu y daw y rhyfel i derfynia buan. Dyna fy nghred I, o leiaf. Bydd i'r rhyfel gael ei chadw yn mlaen hyd nes byddo yr etholiadau drosodd, ond wedi hyny mae yn debyg i mi y daw y pleidiau i ryw ddealldwriaeth am heddwch

"Mae yn dda genyf glywed am farn y Cymry yn America am danaf. Diolch yn fawr iddynt am eu teimladau da, a diolch yn fawr i chwithau am gyfleu syniadau caredig y Cymry i mi. Dyma ddigon ar hyn, neu aiff yr hen ddyn yn rhy falch: mae yn rhaid ei gadw i lawr.

"Ymweliad ag America.—Derbyniwch chwi, a derbynied y lluoedd Cymry sydd drwyddoch chwi yn rhoddi i mi wahoddiad mor galonog i ymweled ag America, fy niolchgarwch gwresocaf. Os byw ac iach, yr wyf yn gobeithio cael derbyn y gwahoddiad calonog a charedig hwn. Yn mhen llai nâ dwy flynedd etto byddaf wedi treulio ugain mlynedd yn weinidog yn Aberdar, ac am y tymhor hwnw wedi bod yn lled gysson a difwlch yn y tresi. Erbyn hyny hefyd bydd Eglwys y Gadlys—yr olaf o ferched Calfaria—wedi ei chorffoli, ac o dan ofal ei gweinidog ei hun, a minau a dim ond Calfaria i ofalu am dani; ac erbyn tair blynedd i yn awr, byddaf wedi cyflawnu fy addewid i'r Cyfundeb Odyddol, trwy basio trwy y cadeiriau llywyddol, ac y mae yn fy mryd i ofyn am hamdden i ddyfod drosodd i'ch gweled. os yr Arglwydd a i myn. Mae eich cynnyg chwi. mewn ystyr arianol. yn bob peth a ddymunwyf; a'm gweddi yw, am ichwi a minau gael ein harbed i mi ei dderbyn yn galonog.

"Eich sefyllfa grefyddol. Nid wyf yn synu dim am y marweidd—dra ysprydol a deimlwch yn y tymhor cynhyrfus presenol. Yn wir, mae rhyfel America yn effeithio ar grefydd yn y wlad hon i lawer mwy o raddau nag y mae llawer yn feddwl. O! am weled yr adeg pan y byddo trais a gormes wedi gadael y tir, heddwch a thangnefedd yn teyrnasu, cariad yn rhwymo holl deulu dyn yn un frawdoliaeth, a Seion Duw yn mwynhau heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tonau y môr.

"Can' diolch i chwi, ac i Gymry America, am eich teimlad caruadd tuag ataf.

"Mae Edward, Emily, a Sarah yn uno â mi mewn serch a chariad Cristionogol atoch chwi, at Mrs. Edwards, ac at y plant oll.

Duw, ein Tad ni oll, a'ch arweinio i bob daioni yn y byd sydd yr awr hon, ac a'ch derbynio i'r trigfanau dedwydd yn y byd sydd etto yn ol.

THOMAS PRICE

Aberdar, Gorph 15, 1864.

Yr oedd cyssylltiadau ac ymrwymiadau lluosog ac amrywiol Price yn ei gwneyd yn anhawdd iddo ymryddhau, a chael amser i fyned am daith mor bell. Yr oedd ei gyssylltiadau â chynnifer o gymdeithasau cyfeillgar ac yswiriol fel trysorydd, ymddiriedolwr, a swyddi pwysig ereill—ei gyssylltiadau a'r Wasg Gymreig, yn neillduol fel golygydd Seren Cymru, yn nghyd a'i ofal gweinidogaethol am ei eglwys luosog yn Nghalfaria, fel y noda, yn rhwystrau mawrion ar y ffordd; ond trwy lawer o ragddarparu a threfnu, daeth yn alluog i fyned. Pennodwyd i ofalu am olygiaeth Seren Cymru, yn ei absenoldeb, y Parch. B. John (Periander). Neillduwyd ei fab, Mr. E. G. Price, i gyflawn waith y weinidogaeth, ac i ofalu am Galfaria yn y cyfamser, ac urddwyd ef gan ei dad trwy weddi ac arddodiad dwylaw, nos Fawrth, Chwefror 16eg, 1869, yr hwn hefyd a bennodwyd i gario yn mlaen lawer o'i orchwylion, a bod yn gyfrifol am ei holl drafodaethau arianol i'r gwahanol gymdeithasau, oblegyd yr oedd Price yn fanwl a gofalus iawn mewn materion o'r fath, fel y gwelir oddiwrth ei ol-nodiad i'w ysgrif yn Seren Cymru, Ebrill 9, 1869:

"D.S—Fel yr awgrymais o'r blaen, dymunaf etto ar i'r cyfeillion ddanfon pob arian, yn y drefn arferol, ddichon ddyfod i mi at Edward Gilbert Price Yr wyf wedi llawnodi gweithred reolaidd, yn rhoddi iddo bob gallu ac awdurdod i weithredu droswyf, ac yn ymrwymo hefyd i fod yn gyfrifol am yr oll a fydd iddo ef wneyd yn fy enw yn ystod fy absenoldeb. Y mae achosion y cymdeithasau oll yn eglur a rhwydd, fel na fydd i neb gael trafferth trwy fy absenoldeb.

"T.P."

Nid myned i'r America, fel llawer yn y blynyddau hyn, i weled a mwynhau ei hun yr oedd y Dr. Bu y daith yn bleserus iddo, ac ennillodd lawer o wybodaeth a phrofiad drwyddi; ond ei brif neges oedd myned ar gais taer a difrifol Pwyllgor y Gymdeithas Genadol yn Llundain dros Gymdeithas Genadol Wyddelig y Bedyddwyr, er ceisio ychwanegu at ei thrysorfa, yn ngwyneb y cyfnewidiadau pwysig oeddynt yn debyg o gymmeryd lle yn yr Iwerddon yn y ddwy flynedd ddylynol. Ond er mai hyna oedd ei brif neges, yr oedd wedi gwneyd ammod â'r Pwyllgor i gael misoedd Mai, Mehefin, a Gorphenaf iddo ei hun, i ymweled â'r sefydliadau Cymreig yn ngwlad y Gorllewin. Cyn ei ymadawiad i'r America, bu dair wythnos yn yr Iwerddon, er gweled maes llafur ein cenadon yno, a chynnal cynnadleddau brawdol gyda hwynt.

Boreu dydd Llun, Mawrth y 1af, 1869, cychwynodd i'r daith hon, ac yn ol ei ddyddiadur, cyrhaeddodd Gaergybi y noson hono. Cawn y crybwyllion canlynol yn ei "Nodion Gwasgaredig" yn Seren Cymru am Ebrill yr 2il, 1869, am y noson hon:—

"Cefais y fraint o dreulio noswaith o dan gronglwyd y Frondeg, lle yr oedd Mrs. Lewis wedi newydd anrhegu ei phriod anwyl â thlws hardd gwerthfawr, i fod yn ychwanegiad at y teulu gwerthfawr a dedwydd hwn. Yn y boreu cefais y fraint o dreulio ychydig amser ar ymweliad â'r Hybarch Ddr. Morgan. Mae ef yn wanaidd ei iechyd, ond yn para yn serchus a llon ei galon, a boddlon ei yspryd. Mae eglwys barchus Caergybi yn gofalu yn anrhydeddus am dano yn ei ddyddiau diweddaf."

Gan nad yw y daith i'r Iwerddon yn un faith, dichon mai nid annyddorol fydd cael gwybod am ei threfn, yn nghyd â'r gwaith a gyflawnodd y Dr. ar hyd—ddi. Wele yn canlyn ei hanes fel yr ysgrifenwyd ef ganddo ei hun yn ei ddyddiadur. Mae yn cychwyn yn awr wrth gwrs o Gaergybi:—

1869—Mawrth 2 Dublin
3 Agoriad Dafydd Dublin
4 Little Maid Bambridge
5 Address to hearers Do
" Address to the School Do
6 Mission Tandragee
7 Address Belfast
8 Great Commission Do
" Key of David Whiteabbey
" Little Maid Carrickfergus
9 Little Maid Portadown
10 Address to School Do
" The Widow Donoughmore
1869—Mawrth 11 Address on Mission Ballymena
" Address to School Do
12 Little Maid Coleraine
13 Address Grant Causeway
14 Address Magherfelt
15 Dry Bones Tubbermore
16 Going to Dublin
17 Crossing for home
18 Cyfeillach Calfaria

Gwelir na fu y Dr. enwog yn segur yn ngwlad y Gwyddel. Teithiodd lawer, a gweithiodd yn galed tra yno. Yn y Seren, a grybwyllasom, cawn erthygl ragorol wedi ei chyhoeddi ganddo, yn cynnwys hanes manwl o'r daith hon, a rhydd ynddi lawer o wybodaeth am y wlad a'i thrigolion, ac yn neillduol felly am yr achos Bedyddiedig yno, a'r teuluoedd parchus y daeth i gyssylltiad â hwy. Bu hyn yn ddiau yn fantais fawr iddo osod achos y Genadaeth Wyddelig yn effeithiol o flaen yr Americaniaid. Wedi cael ychydig ddyddiau gartref—bum bron â dweyd i orphwys—ar ol y daith hon, yr hyn a fuasai yn gamsyniad mawr, oblegyd nid oedd gorphwys llawer yn hanes y Dr., cychwynodd am Wlad y Gorllewin. Meddiannwyd eglwys Calfaria, ac yn wir tref Aberdar, â theimladau rhyfedd yr adeg hono. Nid annghofia y rhai oeddynt yn bresenol yn y "cwrdd gweddi hynod hwnw" (fel y gelwid ef gan yr hen batriarch o Langefni), a gynnaliwyd yn Nghalfaria, y teimladau dwys a hiraethus a godent, fel llanw y môr, yn eu calonau. Teimlent yn falch am yr anrhydedd a osodid ar eu gweinidog enwog, ond yn dra phryderus am dano ef a'i anwyl blentyn yn gwynebu ar y fath daith. Cyflwynasant ef yn anwyl mewn gweddiau gwresog ac mewn dagrau pur, i ofal yr Hwn a wnaeth nef a daear. I ddangos eu parch i'r Dr. a'u cydymdeimlad â'r eglwys, yr oedd tyrfa o frodyr parchus yn y weinidogaeth, a nifer mawr o leygwyr pwysig yr enwad, wedi dyfod yn nghyd o wahanol gyfeiriadau y sir. Yn mhlith ereill, yr oedd y rhai canlynol yn bresenol:—J. T. Jones (A.), Aberdar; J. Rees (W.), etto; W. Samuel, Cwmbach; R. A. Jones, Abertawy; H. C. Howells, Clydach; J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; N. Thomas, Caerdydd; J. Lloyd, Merthyr; W. Harries, Heolyfelin; D. Davies, Hirwain; T. Phillips, Blaenllechau; D. Davies (Dewi Dyfan), Gadlys; J. Roberts, Mumbles; W. Williams, Cendl; T. Humphreys, Cwmaman; T. John, Ynyslwyd; J. Jones, Abercwmboye; W. Williams, Mountain Ash; J. Williams (S.), etto; J. Lewis, Troedyrhiw; O. John, Treuddyn; Lewis ac Edwards, Llangollen; John Bowen, Ysw., Treforris; John Jones, Ysw., Clydach. Derbyniwyd llythyrau yn gofidio o herwydd eu hanallu i fod yn bresenol oddiwrth y Parchn. John Jones (Mathetes), J. G. Phillips, Builth; R. Prichard, Dinbych; E. Roberts, Pontypridd; J. Rufus Williams, Ystrad Rhondda; R. Williams, Hengoed; T. E. James, Glyn Nedd; D. Edwards, Pontardawe, yn nghyd ag Asaph Glyn Ebwy, a Henry Bowen, Ysw., Treforris. Cymmerwyd y gadair yn y cwrdd hwn gan y Parch. T. John, Ynyslwyd, a bu y gwasanaeth yn amrywiol mewn darllen, canu, ac anerchiadau. Gweddiwyd gan y brodyr y Parchn. W. Williams, Cendl; T. Humphreys, Dewi Dyfan, H. C. Howells, Clydach, a D. Davies, Hirwaun. Traddodwyd anerchiadau gan y Parchn. T. Phillips, Blaenllechau; Lloyd, Merthyr; Harris, Heolyfelin; Williams, Rhos; Samuel, Cwmbach; Jones, Abercwmboye; Gwerfyl James, Treforris; J. T. Jones (A.), W. Rees (W.), R. A. Jones, Abertawy. Gan fod y ddau siaradwr diweddaf yn y cyfarfod hwn yn gydfyfyrwyr â'r Dr. gosodwn ddyfyniad byr o'u hanerchiadau, yn nghyd ag araeth bwrpasol y Dr. i ddiweddu:—

"Anerchiad gan y Parch J. R. Morgan (Lleurwg). Adwaenai ef y Dr. er's 25 mlynedd, ac yr oeddynt yn gyfeillion cywir o'r munyd cyntaf y gwelsant eu gilydd hyd yn awr. Yr oedd yn bresenol yn sefydliad y Dr, ac wedi bod yn ei gapel bron yn mhob cyfarfod o bwys o hyny hyd yn awr. Yr oedd capeli i'r Bedyddwyr wedi neidio i fodolaeth fel mushrooms trwy holl gwm Aberdar, a hyny yn benaf trwy offerynoliaeth y Dr., ac yr oeddynt oll yn llawnion erbyn heddyw. Nad oedd ef yn galaru, eithr yn hytrach yn llawenhau am fod Dr. Price yn myned dros y mor, ac y carai yn ei galon fyned gydag ef. Celai weled llawer o ryfeddodau Duw ar y mor ar ei daith, nes ei wneyd yn fardd heb yn wybod iddo ei hun, ac y dysgwyliai ei glywed Yr oedd etto yn darlithio ar yr hyn a welai ar ei daith hirfaith hon ei ddewisiad ar y fath neges bwysig yn anrhydedd mawr iddo ef, ei eglwys, a'r enwad yo Nghymru.

"Anerchiad maith a galluog gan y Parch. N. Thomas, Caerdydd, ar bwysigrwydd yr Iwerddon fel maes cenadol i'r Bedyddwyr. Sylwai fod yr iau ar gael ei thori, ac y dylai fod darpariaeth genym ni ar gyfer angenrheidiau ysprydol y boblogaeth. Yr oedd Dr. Price the right man in the right place yn bresenol, a dymunai iddo ef a'i unig blentyn daith gysurus a llwyddiannus iawn.

“Yn awr, ar gais y Cadeirydd, a dymuniad y dorf fawr, daeth Dr. Price yn mlaen. Dywedai fod yn dda ganddo am yr idea o gwrdd gweddi ar ei ymadawiad, iddi gael ei bodolaeth tu allan i'r eglwys, ac fod yn dda gan ei enaid weled y fath dorf yn gwerthfawrogi a mwyn. hau cyfarfod gweddi. Diolchai i bawb am eu dymuniadau da ar ei ran. Ofnasai y byddai'r cyfarfod yn tueddbenu i wanychu ei yspryd; ond fod yn dda ganddo mai adgyfnerthiad yspryd y bu iddo. Yr oedd yr adeg bresenol yn un bwysig iawn yn hanes Iwerddon; yr Iwerddon oedd maes brwydr fawr y Dadgyssylltiad, lle yr oedd rhyddid i ennill y llawryf, a thrais i farw; ac y byddai y fuddugoliaeth hon yn cynnyrchu buddugoliaeth debyg etto yn Lloegr a Chymru. Dywedai fod gan y Bedyddwyr 100 o orsafoedd pregethu eisioes yn yr Iwerddon; ond fod yn rhaid cael 300 neu 400 yno ; ac fod y lleoedd i'w cael, ond fod eisieu arian i'w pwrcasu, a'u defnyddio, ac mai dyna oedd ei amcan ef a'i gyfaill yn myned i America. Yr oedd y Presbyteriaid wedi casglu £10,000 yn America, a'r Wesleyaid £12,000, er codi athrofa newydd yn Belfast. Dywedai iddo ef gael ei wahodd i'r America dair gwaith o'r blaen gan yr eglwysi Cymreig, gan gynnyg talu ei dreulion, a thalu am bregethwyr yn ei le gartref; ond wedi cael y cynnyg newydd hwn, nad allai ymattal yn hwy rhag myned. Dywedai fod ganddo lythyrau o gymmeradwyaeth oddiwrth gorff y Wesleyaid, yr Annibynwyr, y Presbyteriaid, oddiwrth Dr. Brook, Dr. Landels, y Barwn Falconer, &c.; felly y byddai pob pwlpud yn America yn agored iddo. Hefyd, fod ganddo lythyrau cymmeradwyol oddiwrth Gymmanfaoedd y Bedyddwyr yn y De a'r Gogledd, ac hefyd oddiwrth athrawon ein colegau; ac fod digon o waith wedi ei dori allan iddo gan ei gyfeillion yn America am 100 mlynedd! Dywedai hefyd fod y brodyr anwyl yn myned i gael cyfarfodydd gweddi ymadawol iddo yn Liverpool. Yna diolchodd i bawb am eu teimladau da tuag ato, gan ddymuno arnynt weddio drosto tra yn America. Cyflwynodd ei fab anwyl, y Parch. E. Gilbert Price, i nodded a chydymdeimlad yr eglwys tra y byddai ef yn absenol.

"Bydded Duw yn dyner o hono ef a'i blentyn, nes dyfod yn ol atom etto.

H. GWERFYL James.'[1]

"Treforris, Ebrill 8, 1869.

Boreu dydd Llun, Ebrill 5, 1869, cawn y Dr. a'i anwyl Emily yn cychwyn yn foreu o'r Rose Cottage. Mae torf aruthrol yn eu cyfarfod yn yr orsaf, wedi dyfod yno i ganu yn iach iddynt. Dyma y gerbydres yn ageru i fewn i'r orsaf, ac y mae calonau cyfeillion a chyfeillesau y Dr. a'i blentyn yn curo yn gyflymach, a'r cyffro yn myned yn fwy byw. Dacw'r Dr. yn cymmeryd ei sedd, a'i wyneb gwridgoch yn dysgleirio gan sirioldeb. Y mae ei ddwy law allan, ac yn cael eu hysgwyd braidd yn ddidrugaredd, a phob ysgydwad yn dynodi calonau pur yn llawn o serch a dymuniadau da ato. Dyna'r chwibanogl yn myned, a'r gerbydres yn cychwyn, ac wele y cadachau o bob lliw a llun yn cael eu hysgwyd fel baneri, a'r oll yn brofion fod person nodedig yn ymadael o Aberdar y diwrnod hwnw. Yn gynnar yn mhrydnawn yr un dydd wele Fedyddwyr Lerpwl ar eu dysgwyliad, a rhai o flaenoriaid yr enwad yn y ddinas yn awyddus edrych am y South Wales train yn dyfod i fewn, ac ar ei ddyfodiad i'r orsaf, wele y Dr. allan yn fywyd i gyd, ac yn derbyn gyda y sirioldeb mwyaf longyfarchiadau a groesawiad ei frodyr yn y ffydd ac ereill o'i hen gydnabyddion yn eu plith. Cychwynodd o Lerpwl dydd Mercher, y 7fed, ar fwrdd yr agerddlong, City of Antwerp. Cynnaliwyd cyfarfod gan eglwysi Bedyddiedig Lerpwl i ddymuno yn dda iddo ef ac Emily y nos Fawrth cyn hyny yn Great Cross Hall Street. Am yr arwydd hon o barch teimlai y Dr. yn dra diolchgar, fel y gwelwn oddiwrth y nodiad a ganlyn:—"

Mae rhwymau mawr arnaf yn mlaenllaw i ddiolch i'r Parch. A. J. Parry a chyfeillion anwyl Lerpwl am eu teimladau da, caruaidd, a hyfryd. Mae y pethau hyn oll yn fwy nag a allaswn byth freuddwydio am eu cael; ac am hyny, maent yn galw am uwch cydnabyddiaeth nag a allaf ei roddi. Ond yn wir, yn wir, yr wyf yn teimlo yn ddwys, ac yn annhraethol ddiolchgar i'r Arglwydd ac i ddynion." (Gweler Seren Cymru am Ebrill y 9fed, 1869.) Aeth amryw o gyfeillion Lerpwl i'w hebrwng i lan y dw'r, a rhai i fwrdd y llong. Yr oedd y Dr. yn forwr da, fel y dywedir. Teimlai efe a'i ferch yn nodedig o siriol a chalonog, a buont yn bur iach yr holl fordaith oddigerth y dyddiau cyntaf o honi. Cadwasant eu harchwaeth at ymborth, ac felly, bu y daith yn fwyniant perffaith iddynt. Cymmerai y Dr. ddyddordeb mawr, fel y mae yn naturiol i ni feddwl, yn mhobpeth a welai. Meddai ar lygad craff a meddwl parod, a gallai droi pob peth i ddefnydd da yn ddidrafferth, a thrwy hyny, y mae yn fuan yn tynu sylw pawb ar y bwrdd ato fel dyn nodedig ac uwchlaw y cyffredin, er ei fod yn gwneyd ei hun yn gyffredin gyda'i gyd-deithwyr er eu dyfyru, ac hefyd eu hadeiladu mewn pethau buddiol. Efe o ddigon mewn amser byr oedd y person mwyaf poblogaidd ar y bwrdd. Ffurfiodd adnabyddiaeth fuan a'r rhan fwyaf oedd ar y llestr, a daeth yn ffafrddyn gyda hwynt. Dywedai y cadben am dano un o'r dyddiau cyntaf, "That reverend gentleman is a wonderful man, he draws all to himself, and can do just as he likes with them;" ac wedi cael ei adnabod yn dda, cafodd sylw a pharch neillduol gan y cadben, John Mirehouse. A ganlyn yn unig ydynt ei nodion yn ei ddyddlyfr am ei fordaith i'r Americ:—

April 7 Sailed from Liverpool in the 'City of Antwerp'
8 Prayer meeting on board 'City of Antwerp'
9 ......do ....... do......
11 The Church Service read, with Welsh singing
" Short service on deck of the steamer
12 At sea, with a short prayer meeting nightly
13 to 17 The same as the 12th
18 Captive maid (Welsh) in the saloon of steamer
" English Service in the evening
19 A public prayer meeting in the steerage
20 ......do ....... do......
" This day, at 2 o'clock in the morning, got to New York, and landed all well at 9 o'clock a.m.
21 to 24 At W. B. Jones' in the City of Brooklyn

Bellach, Dr. Price yn America a welir, a dyna'r swn a glywir yn mhob cyfeiriad. Bu cyffro mawr mewn rhai parthau o Gymru ar ei ymadawiad. Mae cyffro mawr mewn parthau o'r Americ ar ei diriad. Yr oedd pobl Aberdar yn hiraethus ar ei ol. Mae miloedd yn ngwlad y Ianci yn falch cael ei fenthyg, megys, am ychydig fisoedd. Bu yn aros ychydig ddyddiau yn nghartref clyd W. B. Jones, Ysw., Brooklyn, a phregethodd deirgwaith y Sabboth cyntaf yn yr eglwysi mwyaf a phwysicaf yn New York, fel y gwelir etto. Yn mhen ychydig ddiwrnodau cawn ef yn Hyde Park, yn cael ei roesawi yno mewn cyfarfod cyhoeddus, adroddiad byr o'r hwn a osodwn yma:—

"CYFARFOD CROESAWOL Y PARCH. DDR. PRICE YN HYDE PARK.

Cynnaliwyd cyfarfod i'r dyben uchod yn nghapel y Bedyddwyr Hyde Park, nos Iau, Ebrill 29ain.

Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. P. Harris, Cattaraugus, a chanwyd pennill Etholwyd Ednyfed yn llywydd. Anerchwyd y Dr. a'r gwyddfodolion gan y Parchn J. W. James, Pittston, ar lwyddiant gweinidogaeth y Dr. yn Aberdar, o'r dechreuad—24 mlynedd yn ol; Thos. Jones, Mahony City, ar Gysyllt— iad y Dr. â Chymry America; R. Edwards, Pottsville, ar Gyssylltiad Cymry y ddwy wlad â'u gilydd; B. D. Thomas, Pittston, ar Gyssylltiad y Dr. a'r eglwysi Seisnig; M. A. Ellis, Hyde Park, ar Gyssylltiad y Dr. a'r Wasg Gymreig; W. Morgans, Plymouth, ar Wleidyddiaeth; y Dr. E. B. Evans, Hyde Park, Anerchiad Cyffredinol; J. Moses, Newark, Ohio, ar Ddylanwad y Dr. yn yr Hen Wlad, ac yn debyg o fod felly yn y wlad hon; J. P. Harris, Cattaraugus, y Dr. fel Cynnrychiolydd Bedyddwyr Cymru; J. Beavan, Scranton, ar Gyssylltiad y Dr. â'r Bedyddwyr Seisnig; J. Evans, Providence, ar Gyssylltiad y Dr. â'r Odyddion, yr Iforiaid, yr Alfrediaid, &c.; W. Morgans, Pottsville, â Bedyddwyr Cymreig America; P. L. Davies, Camden, ar Gyssylltiad y Dr. â Chymdeithas y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. "Yna darllenwyd rhes o gymmeradwyaethau i'r Dr. oddiwrth enwogion Cymru a Lloegr. Mae ganddo faich asyn o honynt. Yna cawsom y Dr. yn ei hwyl i dalu diolchgarwch gwresog am y derbyniad croesawus a gafodd efe a'i anwyl Emily yn Hyde Park. Dyna ddigon o gyssylltiadau, feddyliwn I.—Yr eiddoch, &c.,

"D. P. ROSSER."[2]

Gan i'r Dr. fod dros saith mis yn ngwlad fawreddog machludiad haul, ac wedi teithio a gweithio mor aruthrol, fel y gallai ac yr arferai efe wneyd am gyhyd o amser, teimlwn nas gallwn ei ganlyn yn fanwl i bob lle, nac ychwaith groniclo yr hanner a gyflawnodd. Yr ydym wedi ein gosod dan rwymau i deimlo byth yn ddiolchgar i ddau o frodyr da ac enwog oeddynt yn America yn yr adeg yr oedd y Dr. yno, ac wedi treulio cryn amser gydag ef, yn neillduol y blaenaf, sef y Parchn. Ddr. Fred Evans, Phil— adelphia, ac L. M. Roberts, M.A., Glyn Ebbwy, Mynwy, am eu hysgrifau galluog ar y Dr. yn America. Teithiodd y Dr. Fred Evans lawer iawn gydag ef drwy wahanol barthau o'r wlad; felly, meddai fantais neillduol i adrodd ei hanes yn ffyddlawn a dyddorol, megys y gwna. Yn awr, teimlwn hyfrydwch mewn cael yr anrhydedd o gyflwyno eu hysgrifau dyddorol, y rhai ydynt fel y canlyn:—

YMWELIAD Y PARCH. T. PRICE, M.A., PH.D., O ABERDAR, A'R TALAETHAU UNEDIG.

GAN Y PARCH. DDr. FRED EVANS, PHILADELPHIA.

Ymadawodd Dr. Price ag Aberdar ar y 5ed o Ebrill, 1869. a chychwynodd o Lerpwl yn y City of Antwerp ar y 7fed, a glaniodd yn iach a dyogel ar yr 20fed yn Efrog Newydd. Ei gwmni oedd ei anwyl ferch Emily, yr hon a deithiodd gydag ef rai miloedd o filldiroedd, a'r hon a fu o gysur a chefnogaeth iddo yn y wlad. Gydag ef hefyd y daeth y Parch. Mr. Henry o Belfast, Iwerddon. Gwaith y ddau oedd cynnrychioli Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. Y prif gynnrychiolydd oedd y Dr. Price, a disgynodd y rhan drymaf o'r gwaith arno ef. Ni fu yn Efrog Newydd ond ychydig oriau cyn iddo ddechreu yn ddifrifol ar ei waith: galwodd gyda swyddogion yr American Bible Union, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, a'r Gymdeithas Gyhoeddiadol. Yma cyfarfu â'r enwog Dr. Armitage, un o gewri y Pwlpud Bedyddiedig yn America, a buont yn gyfeillion mynwesol hyd angeu y Dr. Y Sul wedi iddo lanio pregethodd yn Saesneg yn nghapel Dr. Sarles, yn Brooklyn yn y boreu, yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn Efrog Newydd am ddau, ac yn nghapel eang H. M. Gallegher, Ll.D., yn yr hwyr.[3] Cafodd amser gogoneddus, a'r bobl yn hoeliedig wrth ei wefusau. Yr oedd Dr Gallagher yn un o'r gweinidogion mwyaf poblogaidd yn Brooklyn—y nesaf at Henry Ward Beecher. Yr oedd yn llawn arabedd a thân, a gwelai y gynnulleidfa enfawr debygrwydd neillduol rhwng y Doctor o Aberdar a'r Doctor o Brooklyn. Aeth y si am dano drwy y dinasoedd mewn amser byr, a mawr fel y ceisient ganddo bregethu yn y prif bwlpudau. Yn ystod yr wythnos hon gwelodd rai o brif ddynion New York, a gwnaeth argraff dda ar bob un o honynt.

Ar y 27ain cychwynodd am Hyde Park, Pennsylvania, a bu yma byd y 3ydd o Fai. Yr oedd ei gyfaill, y Parch. Fred Evans (Ednyfed), yn weinidog y pryd hwnw ar yr eglwys Gymreig yn y lle. Yr oedd y capel eang yn newydd, a chynnaliwyd y cyfarfodydd agoriadol ar yr adeg hon. Yr oedd yn bresenol fel pregethwyr y Parchn. William Morgan, Pottsville; Theophilus Jones, Wilkesbarre; John P. Harris (Ieuan Ddu), Cattaraugus; John James, Pittston; Richard Edwards, Pottsville; John Evans. Providence; a P. L. Davies, Camden, N.J. Mae tri o'r brodyr hyn wedi cyfarfod cyn hyn â Dr. Price yn ngwlad yr aur delynau. Pregethodd gyda hwyliau neillduol yn Hyde Park i gynnulleidfaoedd hynod o luosog. Nid annghofir am y tro hwn. Cychwynodd o Hyde Park a Scranton ar y 3ydd, a chawn ef o flaen cyfarfod y gweinidogion yn Efrog Newydd. Trwy ei sirioldeb naturiol, ei arabedd anwrthwynebol, a'i genadwri odidog, gwnaeth argraff annileadwy ar y gweinidogion, ac agorasant ddrysau eu pwlpudau iddo o led y pen. Wedi talu ymweliad â Philadelphia ac ymgomio â'r awdurdodau yno parthed ei waith, aeth i Boston i gyfarfodydd yr Undeb, ac yma gosododd gerbron y gwahanol gymdeithasau hawliau y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. Gwyddent wrth ei dân mai Cymro oedd, ond parod oeddent i gredu oddiwrth ei arabedd mai Gwyddel oedd. Nid gwaith hawdd yw i ddyeithrddyn gael caniatad i osod gerbron y cyfarfodydd blynyddol hyn bwnc na pherthyn yn uniongyrchol iddynt hwy, ond y fath oedd taerni a phenderfyniad Dr. Price fel y llwyddodd.

Ar y 1af a'r 2il o Fehefin, cawn ef yn Nghymmanfa Ddwyreiniol New Jersey. Efe a'r anfarwol Dr. Richard Fuller, o Baltimore, oeddynt y ddau ymwelydd, a phregethasant gyda dylanwad ac arddeliad neillduol; yn wir, yr oedd yn beth anhawdd cael gafael mewn dau bregethwr yn yr un cyfarfod o ddoniau y brodyr hyn.

"Aeth oddiyma i Richmond yn Virginia, ac yma gwelodd bethau a'u boddlonent ac a'u llanwent â digllonedd. Yr oedd teimlad y de yn gryf yn erbyn y gogledd, a chynddeiriogrwydd pobl y de yn fawr oblegyd diddymiad y gaethfasnach. Yr oedd Dr. Price yn elyn llym i'r gaethfasnach, a chas oedd ganddo yr enw caethiwed. Nid oedd hyn ond pedair blynedd wedi terfyniad y rhyfel a llofruddiad Lincoln. Mae yn Richmond, prifddinas y de, filoedd lawer o bobl yn dduon, ac yr oedd ei gydymdeimlad gyda hwy, a phregethodd iddynt. Cafodd filoedd i'w wrandaw, ac ni chafodd fwy o hwyl erioed yn Nghymru nag a gafodd yma. Wylent, chwerthinent, neidient a bloeddient, tra y pregethai efe iddynt, ac weithiau cymmaint oedd eu hwyl fel y gorfu iddo ddystewi am ychydig. Pregethodd yn nghapel eang y Parch. John Jasper, eglwys o bobl dduon o fwy na phedair mil o aelodau. Yr oedd yn wledd i wrando ar y Dr. yn adrodd hanes ei arosiad yn Rich- mond. Trodd ei gefn ar y de, a chawn ef yn Upland, Swydd Delaware, Pensylvania, ar y gfed o Fehefin. Yn Upland y mae Crozer Theological Seminary. Sylfaenwyd y coleg hwn trwy haelioni y boneddwyr Samuel, Lewis, George, a Robert Crozer—pedwar brawd. Dyma y cyfarfod blynyddol cyntaf, ac yn mhlith y myfyrwyr cyntaf a raddiwyd yma cawn Mr. J. T. Griffiths, un o fechgyn y Pyle a Mountain Ash. Mae yn awr yn weinidog yn Mhensylvania. Yr oedd yr enwog ysgolhaig, William R. Williams, D.D, o Efrog Newydd, i draddodi anerchiad yn y cyfarfod hwn; ond lluddiwyd ef oblegyd afiechyd, a chymmerodd y Parch. George Dane Braidman, llysfab yr enwog Judson, ei le. Traddododd Dr. Price amryw o anerchiadau yno, a chafodd hwyl uchel bob tro. Treuliodd beth amser yn Philadelphia, ac iechyd i'w galon oedd gweled olion yr hen Gymry gynt ar y ddinas enwog hon. Elai ar dân wrth weled enwau Cymreig rai o'r gorsafau ar y rheilffyrdd yn agos i Philadelphia, megys Brynmawr, Penllyn, Bala, Cynwyd, Berwyn, &c., &c.

Yn yr haf hwn ordeiniwyd y brawd serchog Mr. Llewelyn Llewelyn yn weinidog ar yr eglwys yn Frostburg, Maryland. Y ddau bregethwr oeddynt Dr. Price ac Ednyfed. Pregethodd y brodyr amryw droion yn Saesneg a Chymraeg, a thraddodasant ddwy ddarlith. Testyn darlith Dr. Price oedd "Y Beibl," a thestyn Ednyfed oedd "Garibaldi." Yr oedd y pryd hwn yn boeth iawn, a dyoddefodd y Dr. yn erwin ar brydiau oblegyd y gwres.

Cyrhaeddodd Pittston ar y 23ain o Orphenaf, a llettyodd yn nhy ei hen gyfaill mynwesol y Parch. B. D. Thomas, gynt o Gastellnedd, ac yn awr o Toronto, Canada. Ar y 24ain cawn ef yn nghyfarfodydd blynyddol Prif Ysgol Lewisburgh. Pregethodd yno foreu y Sul, ac fel hyn y dywed y National Baptist, papyr wythnosol yr enwad yn Mhennsylvania, "The sermon is highly spoken of, and will strengthen the impression already made by Dr. Price as a genial man and earnest Christian." Y dydd Llun canlynol traddodwyd anerchiad galluog iawn gan Theodore Tilton, hen elyn Beecher. Wedi bwyta y giniaw flynyddol, galwyd ar amryw i draddodi anerchiadau byrion, ond ni chafodd un gymmaint o hwyl â Dr. Price. Anhawdd oedd cael unrhyw un yn fwy hapus ar y fath achlysur nâ Price Penpound.

"Treuliodd ychydig o amser yn Utica, a mwynhaodd ei hun yn dda yno gyda'r cannoedd Cymry a'r Ianciod hefyd. Taflodd Dr. Corey ddrws ei gapel yn agored iddo, a chafodd dderbyniad tywysogaidd gan hil Gomer ac hil Jonathan. Ymwelodd ag Albany, Saratoga, ar ei ffordd tuag Utica, ac aeth o Utica i Hamilton, lle y mae Madison University. Cafwyd cyfarfod hynod o bwysig yma, a bu o ddaioni mawr i'w waith ef dros y Gwyddelod. Yn awr, teimlai yn lled galonog. Yr oedd yn awyddus iawn i weled Rhaiadrau Niagara; a mawr fel y dymunai Emily gael golwg ar y rhyfeddodau hyn; ac ar y 9fed o Awst edrychent yn syn ar y dyfroedd yn disgyn a'r berw i waered. Tynodd ei het ffwrdd pan y gwelodd y fath amlygiad o allu Jehovah. Ni flinai adrodd ei brofiad pan y syllodd gyntaf ar y Rhaiadrau, ac ar y dyfroedd berwedig a'r chwyrnbyllau cynddeiriog. Oddiyma aeth i Canada, ac ymwelodd â Hamilton, Toronto, Brookfield, Montreal, Quebec, ac amryw leoedd ereill. Treuliodd yn Canada dros ddwy wythnos, a siaradodd a phregethodd yn y prif leoedd, a theimlai i raddau yn gartrefol yno. Croesodd y St. Lawrence, ac ymwelodd â rhanau o Dalaethau Maine a Massachusetts. Yr oedd yn awyddus iawn i weled y ddaear a sangwyd gan yr anfarwol Roger Williams: cafodd ei ddymuniad, canys treuliodd beth amser yn Providence, Rhode Island, ac ymwelodd â Phrif Ysgol Brown. Er fod yr athrawon a'r myfyrwyr oddi yno ar y pryd, iechyd i'w galon oedd gweled yr adeiladau gwychion, a syllu ar ambell lyfr Cymreig. Yn mhen ychydig ddyddiau cawn ef etto yn Mhrif Ysgol Brown yn y cyfarfod blynyddol. Clywid ei lais yn fynych yn Massachusetts. Yn nghymmanfa Boston pregethodd gyda yr enwog Ddr. Weston, llywydd Coleg Crozer. Daeth yn ol i New York erbyn y dydd bythgofiadwy yr hwn a elwir Black Friday. Dyma eiriau y Doctor ei hun gyda golwg ar y dydd tywyll hwn: "Dydd Gwener cawsom New York yn y cynhwrf mwyaf a fu ynddi erioed. Yr oedd ar fin trancedigaeth fasnachol. Nid oedd neb yn fyw yn cofio y fath ddiwrnod yma â dydd Gwener diweddaf. Bu y byd masnachol yma ar fin dinystr hollol." Yn ddiau, dydd rhyfedd oedd. Methodd y banciau, aeth y masnachwyr yn wallgof, a du oedd y cyfan. Yn ddiau, dygwyd hyn oddiamgylch gan gamblers diegwyddor, a speculators creulawn. Y Sul ar ol hyn, pregethodd yn Eglwys Dr. Thomas Armitage Credai Armitage mai Thomas Jones, Dreforris gynt, wedi hyny o Lundain, Melbourne, ac Abertawe, oedd y pregethwr goreu yn y byd, ac mai Tom Price, Aberdar, oedd yr ail. Iechyd i'w galon oedd gwrandaw ar y Dr. yn pregethu. Pregethodd hefyd yn Brooklyn a Williamsburg.

"Dechreu mis Hydref glaniodd ei gyfaill mynwesol Dr. Todd yn Efrog Newydd, ac fel hyn y dywed y National Baptist am hyny:— 'Rev. J. W. Todd, Pastor of the Baptist Congregation at Sydenham, London, has just arrived in the United States. He comes for recreation and to cultivate the acquaintanceship of his American brethren, and to do something incidentally as the coadjutor of our excellent friends Price and Henry in behalf of Irish Baptist Missions."

“Tua diwedd mis Hydref, ymwelodd â Cincinnati, Ohio, a Louisville, Kentucky. Yn Cincinnati daeth i gysswllt ag amryw Gymry; yn wir, nis gwn am neb a gasglodd gymmaint o wybodaeth am y Cymry yn America mewn amser mor fyr. Ni phetrusodd i ddweyd lawer gwaith wrth yr Americaniaid eu bod yn fwy dyledus i'r Cymry nag i un genedl arall. Yr oedd yn berffaith gartrefol yn hanes y Cymry a ffurfiasant yr Eglwysi Bedyddiedig cyntaf yn Mhennsylvania. Soniai am yr hen frodyr o Rydwilym, Llanfyrnach, Dolau, &c., y rhai a ffurfiasant yr eglwysi yn Penypec, Dyffryn Mawr, Welsh Tract, &c., fel pe yn gyfarwydd â hwynt yn bersonol. Ar yr 2il a'r 4ydd o Dachwedd cawn ef yn St. Louis, prif ddinas Missouri: mae yno gyda y fath gewri â'r Doctoriaid Henson, Boardman, Manly, Spalding ac ereill. Y cyfarfod mawr hwn yw Cyfarfod Cenedlaethol yr Ysgol Sul; mae yma genadon o bob parth, ac un o'r anerchiadau mwyaf hyawdl, ffraeth a nerthol a draddodwyd ydoedd eiddo Dr. Price ar "Yr Ysgol Sul yn Nghymru." Argraffwyd yr anerchiad yn lled lawn yn amryw o'n papyrau, a chyfieithwyd yr adroddiad cyflawnaf o hono gan y Parch. J. T. Griffiths, Lansdale, Pa., ac ymddangosodd yn Y Wawr am fis Mai, 1888. Yn yr anerchiad rhagorol hwn rhoddodd lawer o'i brofiad ei hun. Wrth gefnogi athrawon yr Ysgol, dywedodd, 'Rhoddaf un enghraifft o ddosparth mewn cyssylltiad â'r eglwys yn yr hon y llafuriaf: allan o'r dosparth hwn o ddynion ieuainc, y mae saith yn awr yn weinidogion ac mewn sefyllfaoedd pwysig yn yr eglwysi. Gwelais un yn ddiweddar yn Nhalaeth Michigan, un arall yn Ohio, ac o'r lleill, y mae dau yn Lloegr, un yn Twrci, tra y mae yr wythfed yn Athrofa Crozer yn agos i Philadelphia, Pa.' Cafodd ei anerchiad y derbyniad mwyaf brwdfrydig.

"Treuliodd ychydig o ddyddiau yn Chicago, ac yma, fel yn y lleoedd ereill, gwnaeth ei neges yn hyspys. Yn awr, dychwela o'i daith Orllewinol, a geilw yn Cleveland a Pittsburgh ar y ffordd. Cafodd wledd yn nghwmpeini yr Hybarch William Owen, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog Eglwys Chatham St. Genedigol oedd William Owen o Landebie, Sir Gaer. Ni chafodd nemawr ysgol, ond yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf galluog; yr oedd yn enwog am ei arabedd, a mwyniant i bawb oedd gwrandaw ar y wit o Aberdar a'r wit arall o Pittsburgh yn ymddyddan â'u gilydd.

"Cyrhaeddodd New York erbyn rhan olaf Tachwedd, a phregethodd yn eglwysi Dr. Armitage a Dr. Evans (Ednyfed): ymadawodd Ednyfed â Hyde Park yn mis Tachwedd, a threuliodd y ddau frawd a chyfaill amser dyddan gyda'u gilydd. Ar yr adeg hon, ymwelodd Llew Llwyfo a'i barti ag Efrog Newydd, a chynnaliasant gyngherdd yn un o'r capeli Cymreig. Cadeiriwyd gan Ednyfed; ac ar ddiwedd y gyngherdd ragorol, galwyd ar Dr. Price i ddweyd gair. Dywedodd, 'Mae yn dda genyf weled cymmaint o bobl yn nghyngherdd y Llew: yr wyf yn ei adwaen er ys blynyddoedd, a gallaf eich sicrhau o un peth-nid oes wahaniaeth pa faint o arian a roddwch i'r Llew, y mae yn sicr o'u gadael ar ei ol yma i gyd.' Wrth bregethu am y tro cyntaf yn nghapel Armitage, defnyddiodd iaith goeth a chlasurol, a thebyg nad oedd yn meddu y rhyddid arferol. Ar ddiwedd yr oedfa aeth Dr. Armitage, a dywedodd wrtho, 'Don't they call you Tom Price, Aberdar, in Wales? Yes.' And you preach like Tom Price there?' 'Yes.' 'Now, friend Price, you tried to preach like Dr. Price this morning, and you did not enjoy the usual freedom, did you?' 'No, indeed.' 'Now, Dr. Price, let me give you a word of advice. While in this country be yourself, be Tom Price, Aberdar, and you'll carry everything before you.' Diolchodd Dr. Price iddo, a gwnaeth ei gynghor, a llwyddodd yn mhob man.

"Dywed yr American Baptist am dano yn Nghymmanfa East New Jersey, fel hyn: The other preacher was imported from beyond the Atlantic Rev. Dr. Price of Wales—who was listened to with the deepest interest on Wednesday evening, while he discoursed to us burning truths from Ezekiel's vision of the dry bones. Dr. Price made a telling address in advocacy of the cause he represents.' Gallem luosogi dyfyniadau fel yr uchod pe yn angenrheidiol. Cododd y Dr. genedl y Cymry yn ngolwg yr Americaniaid. Yn Brooklyn, yn nghyfarfod y gweinidogion. rhoddodd sketch o'r bregeth a draddododd y Sul blaenorol, ac wedi iddo derfynu, cododd yr enwog Dr. Wayland Hoyt ar ei draed a dywedodd, 'After all, it takes a Welshman to preach the Gospel.

"Daeth galwadau am ei lafur o wahanol fanau. Gweithiodd yn galed tra yn America, a gwnaeth argraffiadau ar feddyliau y bobl y bydd yn anmhossibl i amser eu dileu. Treuliodd oddicartref yn agos i ddwy ran o dair o'r flwyddyn 1869; teithiodd yn agos i dair mil ar ugain o filldiroedd; a phregethodd, darlithiodd, siaradodd dros dri chant a hanner o droion. Gwnaeth les dirfawr tra yma, a galarai y bobl oblegyd na arosasai yn barhaus yn eu gwlad. Bu arosiad ei anwyl Emily yn fwyniant mawr iddi hi ac i gannoedd o gyfeillion,—mae enwau y tad a'r ferch yn perarogli yno yn awr.

"Yr oedd dydd ei ymadawiad yn agoshau, a phenderfynodd ychydig o'i gyfeillion gael cyfarfod ymadawol iddo yn nhŷ yr enwog ysgolhaig a'r boneddwr pur W. B. Jones (Ap P. A. Mon), yn Livingston Street, Brooklyn. Cafwyd cyfarfod ardderchog,—llawn o hwyl, arabedd, a theimlad. A ganlyn yw hanes y cyfarfod fel yr ymddangosodd yn y New York Tribune, dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, 1869,—y mae yn amlygu natur y cyfarfod.

"The Rev. Dr. Price's Return to Wales.

""A very pleasant affair took place on Thursday Evening at the residence of Mr. William B. Jones, 150, Livingston Street, Brooklyn, on the occasion of the leave—taking of the Rev. Dr. Price. Addresses were made by the Rev. Mr. Thomas, Pa.; the Rev. R. Edwards, Pottsville, Pa. (both of whom had come from their homes to bid Dr. Price farewell); the Rev. Fred E. Evans, late of Hyde Park, Pa., recently appointed pastor of the Laight Street Baptist Church of this City; Messrs. John T. Davies, Henry Lussey, and William B. Jones. Dr. Price returns in the City of Brussels to day, after a sojourn of several months in this Country, during which time he has travelled through most of the States, South and West. His letters to his Paper in Wales—The Star of Wales—have been full of interest, giving his impression of matters and things in America; and he returns with enlarged views and more comprehensive knowledge of the greatness and future prosperity of this Country. Dr. Price, in the course of his remarks, condemned severely the judiciary system, but expressed his belief that this, as well as some other undesirable things, will gradually be rectified. He especially censured the apathy with which the better class of citizens allow political and municipal affairs to be regulated by too many inefficient and unworthy persons. But upon the whole he felt convinced that these things, which he regards as inevitable in a young country, will gradually pass away."

"Mae Ap P. A. Mon a Dr. Price wedi cyfarfod â'u gilydd yn awr yn ngwlad y gân. Daeth amryw i'w weled yn yr agerlong ar y 4ydd o Ragfyr, 1869. Dymunwyd iddo ef ac Emily fordaith gysurus a dyogel, a chawsant hi. Cyrhaeddasant Liverpool ar y 13eg ac Aberdar ar y 15fed, a chafodd dderbyniad tywysogaidd i'w hen gartref: yr oedd Aberdar i gyd yn fyw o roesaw iddo, ac aeth fel brenin yn cael ei foli gan y miloedd i'r Rose Cottage.

"Yr oedd ganddo barch mawr i America, a meddyliai yn uchel am ei hysgolion, ei hathrofeydd, a'i heglwysi. Hauodd had da yn yr Unol Dalaethau, ac ni hauodd yn ofer."

"DR. PRICE YN LEWISBURG, UNION CO., PENNA.

"GAN Y PARCH. L. M. ROBERTS, M.A., GLYN EBBWY, MYNWY.

"Yn mis Mehefin yn y flwyddyn 1869, yr oedd Dr. Price yn Lewisburg. Ei amcan yn dyfod yno yr amser hwnw ydoedd cael golwg ar symmudiadau pethau yn Ngholeg Lewisburg yn ystod y Commencement Week, ac hefyd i gael gweled llu mawr iawn o bob rhan o'r wlad, er ffurfio adnabyddiaeth â hwynt, a gwneyd amcan ei ymweliad â'r wlad yn adnabyddus iddynt. Yr oedd yr amcan hwnw ganddo yn mhob man yr ymwelai ag ef; a dywedodd wrthyf ei fod wedi llwyddo i raddau digonol i roddi boddlonrwydd iddo ei hun.

"Yr oedd yno hefyd amryw o'u hen gydnabod, brodyr a chyfeillion, rhai a barasant yn gyfeillion hoff ac anwyl hyd y diwedd, ac ydynt heddyw yn parchu ei goffadwriaeth. Cofus genyf weled yn eu plith y Parchedigion B. D. Thomas, Philadelphia, yn awr Dr. Thomas, Toronto, Canada; F. Evans, Franklin, yn awr Dr. Evans, Philadelphia; a F. L. Davies, M.A., ac eraill.

Da iawn oedd gan Dr. Price weled myfyrwyr Cymreig, neu yn hytrach Cymry yn fyfyrwyr yn y Coleg. Yr oedd y rhai canlynol yno yr adeg hono:-Charles Jones, Thomas Roger Evans, Jonathan James Nicholas, David Rhoslyn Davies, David John Williams, a William David Thomas.

Yr oeddwn I yn Lewisburg yr amser hwnw i wneyd ymgais am gael bod yn beneficiary, i gael addysg yn Ngholeg Lewisburg, dan nawdd y Pennsylvania Baptist Board of Education. Nid oedd y Board hwn yo gwneyd amgen cynnorthwyo myfyriwr; ond yr oedd ychydig gynnorthwy o werth mawr mewn awr gyfyng. Llawen iawn oedd genyf weled Dr. Price a'i hoffus ferch, Miss Emily Price; llawen hefyd oedd ganddynt hwythau fy ngweled inau, a da oedd ganddo fy ngweled yn gwneyd ymgais am fynediad i'r Coleg.

Yn yr wythnos hono, dydd pwysig ydyw y Commencement Sunday, a'r Sabbath hwnw, yr oedd Dr. Price yn pregethu; ei destyn oedd Eseciel xxxvii. 1-10, sef pregeth fythgofiadwy Yr Esgyrn Sychion.' Yr oedd yn ei wrandaw y pryd hwnw lawer o ddysgedigion, a chawsant eu llwyr foddloni a mawr oedd eu canmoliaeth i'r bregeth. Yr oedd yr Hybarch Dr Shadrach wrth ei fodd; ond i ba beth yr enwaf, yr oeddynt oll ar eu huchelfanau.

Boreu dydd Llun, yr oedd y Board of Education yn cydgyfarfod yn y capel a berthynai i'r Coleg, ac yr oedd ysgrifenydd hyn o linellau yn un o'r rhai oedd yn crynu wrth feddwl am ordeal yr arholiad. Cofus genyf fod amryw o'r cyfeillion wedi ceisio gan Dr. Price ddyfod am bleserdaith ar yr afon Susquehanna; ond dywedodd yn hyglyw na fuasai yr un bleserdaith wrth ei fodd hyd nes gweled un arall o feibion Calfaria, Aberdar, yn cael ei osod ar y ffordd i gael manteision addysg. Mawr oedd y cymhell fu arno; ond safodd yn benderfynol. Dywedodd wrthyf am fod yno mewn pryd y buasai yntau yno hefyd. Dywedodd hefyd y buasai yn rhaid iddo ofyn am ganiatad i fod yn bresenol, ond yr oedd hanner gair yn ddigon—yr atebiad uniongyrchol oedd Yes, certainly.

"Dr. Griffiths, Philadelphia, oedd cadeirydd y Bwrdd, a Dr. Spratt ydoedd yr ysgrifenydd gohebol. Yr oedd amryw o ymgeiswyr i fyned dan arholiad y dydd hwnw, ond yr oeddynt oll, ond fy hunan, yn Americaniaid. Yr oedd rhai ohonynt wedi pasio yr arholiad yn llwyddiannus, ac o'r diwedd wele fy enw inau yn cael ei alw, a Dr. Spratt yn darllen fy llythyr, neu yn hytrach lythyr oddiwrth y gweinidog yn appelio ar ran yr eglwys droswyf. Ond er fy mawr ofid, nid oedd yr appeliad ar fy rhan yn unol â'r hyn oedd llythyren eu cyfraith hwy yn ei ofyn. Dywedodd Dr. Griffiths ei fod yn ddrwg ganddo am y dyn ieuanc, ond eu bod hwy yn 'bound to the letter of the law.' 'The application must include the necessary words, and I am sorry that is not the case with the application of this young man.' Nid oedd dim i'w wneyd ond rhoddi lle i'r ymgeisydd nesaf. Buasai yn rhaid cael ail application, a than yr amgylchiadau yr oeddwn I ynddynt, gwyddwn yn dda pa anhawsderau oedd o fy mlaen. Yn y man goreu, buaswn allan o'r coleg am flwyddyn. Eisteddais ar un or seddau, trom oedd fy nghalon, trist oedd fy nhremwedd. Nid oedd ond diffyg yn ngeiriad yr application, ond yr cedd yn ddigon i mi gael fy nhroi o'r neilldu. Yr oedd Dr. Price yn eistedd a'i gefn ar y ffenestr, a Dr Spratt yn eistedd yn agos iddo. Gosododd Dr. Spratt fy llythyr i lawr yn ymyl sypyn mawr o bapyrau oedd ganddo, a chododd i ddarllen llythyr yr ymgeisydd nesaf. Ar ol y darlleniad hwn, ac i'r cadeirydd holi amryw ofyniadau fel y gwelai yn ofynol, yr oedd hawl gan unrhyw aelod o'r Bwrdd i roddi gofyniad i'r ymgeisydd; a gallaf eich sicrhau mai digrif a ffol oedd gofyniadau rhai o honynt.

"Yn awr, wele Dr. Price ar ei draed, a dywedodd, 'Dr. Spratt, I think that this letter is all right; it seems to me that the very words you were speaking of are here Will you, Sir, please read for yourself?" Cymmerodd Dr. Spratt y llythyr o'i law, darllenodd ef yr ail waith, a dywedodd mewn syndod, 'So they are, but really, Dr. Price, I did not see them before.' Yna dywedodd Dr. Griffiths, 'If the words are there, it is all right; call the young man up.' Ac felly y bu: cefais fy arholi gan y cadeirydd a chan yr aelodau; aethum drwy yr oll oedd ofynol yn llwyddiannus, a chefais fy rhestru yn mhlith y rhai oeddynt i ddechreu eu tymhor athrofaol yn y mis Medi canlynol.

"Wedi myned allan o'r coleg i'r Campus Grounds, safasom dan un o'r coed sydd o flaen yr adeilad eang, ac yn y fan hono bu ychydig ym. ddyddan rhyngom. Gofynais, 'Dr., beth wnaethoch chwi i'r llythyr? Atebodd gyda gwên ar ei wyneb hawddgar, 'Paid â blino dy ben; yr wyt ti i fewn—boddlona ar hyny.' Cynghorodd fi i aros yn y coleg am chwech mlynedd, ac felly y gwnaethum.

"Yr oedd yn arferiad gan Dr. Price alw y rhai a fedyddiwyd ganddo yn 'my boys,' neu 'one of my boys.' I amryw o Americaniaid y pryd hwnw yn y ceremony of introduction, dywedai, 'he is my boy,' neu 'he is one of my boys,' a throion wedi hyny gofynai rhai Americaniaid i mi, 'When is your father going to pay us another visit?"

"Aml dro y gwelais ef y dyddiau hyny yn eistedd dan un o'r coed ar lan yr afon Susquehanna, i ysgrifenu erthyglau i Seren Cymru. Ymddangosai fel pe yn mwynhau y golygfeydd ardderchog oedd o'i amgylch, ac hefyd ymddiddan â'r cyfeillion oedd o'i gylch, ac ar yr un pryd ysgrifenai yn ddiymaros ei erthyglau llithrig a darllenadwy oeddynt yn addurn y Seren, ac yn allu mor fawr yn y wlad hon.

"Yr oedd Dr. Price yn mwynhau ei hun yn holl gyfarfodydd y Commencement Week. Cymmaint oedd parch yr Americaniaid iddo fel yr ymddangosent fel pe yn ymgystadlu am dalu gwarogaeth iddo, ac yn nghanol yr oll yr oedd efe mor ddiymhongar ag erioed. Y nosweithiau hyn yr oedd Commencement Hall, adeilad eang perthynol i'r coleg, wedi ei orlenwi. Nos Lun yr oedd cyfarfod gan aelodau un o'r dosparthiadau ag oedd wedi graddio flynyddoedd yn ol. Buasai un yn rhoddi anerchiad ar ryw destyn dewisedig, ac arall yn darllen pryddest, ac fel rheol yr oedd y cyfarfodydd hyn yn rhai uwchraddol, gwir ddyddorol, buddiol ac adeiladol. Yr oedd Dr. Price yn mwynhau ei hun yn rhagorol ynddynt, a dywedai fod pethau felly yn intellectual treat.

'Dydd Mawrth yr oedd dosparth o ferched o'r Seminary Female Institute yn cael ei raddio. Mawr fwynhaodd Dr. Price ei hun yn y cyfarfod hwn, a sylwai fod dyfodol rhagorol o flaen y wlad oedd yn talu cymmaint o sylw i addysg uwchraddol y rhyw fenywaidd. Dywedai yn aml, 'Yn ddiau America yw gwlad y dyfodol.' Hefyd, dywedai y carai weled meibion a merched Cymru yn mwynhau manteision tebyg. Nos Fawrth yr oedd yr enwog Theodore Tilton yn traddodi darlith i'r College Literary Societies—hyny yw, y cymdeithasau hyn oeddynt yn ei ddewis, yn anfon am dano, ac yn talu iddo, ond yr oedd y mynediad i fewn yn rhad. Y testyn ydoedd, 'The Human Brain, and how to use it ;' ac yr oedd meddyliau beiddgar y darlithydd yn cael eu gollwng fel saethau mellt at hwn ac arall yn y gynnulleidfa. Ar ryw sylw neillduol o eiddo y darlithydd dywedodd Dr. Price, 'Hear, hear. Trodd Tilton ato yn y fan a dywedodd, 'Yes, friend, and everywhere, everywhere.' Dywedai Dr. Price wrthyf ar ol hyny fod sylw felly yn dangos genuine mother wit.

"Dydd Mercher, yr oedd y Class of 1869 yn cael ei raddio. Mawr y boddhad a gafodd yr hybarch Ddr. wrth glywed areithiau y graddedigion. Credwyf ei fod yn beth newydd iddo wrandaw ar araeth yn cael ei thraddodi yn y Lladinaeg. Araeth yn yr iaith hono ydyw y cyntaf a draddodir pan fyddo dosparth yn cael ei raddio. "Ymdrechodd yn fawr iawn i agor ffordd i rai o fechgyn Cymru gael eu haddysg yn Ngholegau America. Ni lwyddodd yn ei amcan yn hyn, er iddo greu cryn dipyn o dân yn Lewisburg yr adeg hono. Ni chafodd weled ond dau yn unig yn gadael Cymru am Goleg Lewisburg, sef Owen James, aelod y pryd hwnw yn eglwys Heolyfelin, a Iago W. James, aelod etto yn eglwys y Gadlys. Mae Owen James wedi cyrhaedd safle uchel yn America, a saif ei enw yn uchel ar roll of honour Coleg Lewisburg.

"Ni arosodd Iago W. James ond amser byr yn Ngholeg Lewisburg; derbyniodd alwad gan un o eglwysi Ohio, ac ymadawodd. "Nos Fercher, yr oedd y levee yn cael ei chynnal yn nhŷ Dr. Loomis, Llywodraethydd y Coleg. Yr oedd Dr. Price a Miss Emily yo wahoddedig iddo. Rhywfath o gyfarfod ymadawol i'r graddedigion ydoedd hwn. Boreu dydd Iau, yr oedd pawb yn gwynebu i'w cartrefloedd. Dr. Price yn gwynebu ar ei waith mawr a phwysig mewn gwahanol ardaloedd. Yr oedd y gwahoddiadau am dano yn aml a lluosog; ni fedrai gydsynio â'u hanner hwynt.

"Yn mis Tachwedd, 1869, gwelais fod Dr. Price yn St. Louis, Missouri. Yr adeg hono, ac yn y lle a nodwyd y cynnaliwyd 'The First National Baptist Sunday School Convention.' Yr oedd yn gyfarfod pwysig iawn; ac er cymmaint o Sunday School man oedd Dr. Price, cafodd well golwg ar yr hyn sydd alluadwy drwy yr Ysgol Sul yn y convention nag a gafodd erioed o'r blaen. Gwyr pobl Cymru yn dda pa fath weithiwr ydoedd Dr. Price wedi bod gyda'r Ysgol Sul, gwyddant hefyd pa beth a amcanodd gyda yr un pwnc pwysig ar ol ei ddyfodiad ya ol i'r wlad hon o America. Gwyddai Dr. Price fod dyfodol eglwys Iesu Grist i raddau mawr iawn yn gorphwys ar yr Ysgol Sul, a'r neb sydd am gael prawf o hyn, edryched i nifer a llwyddiant y Bedyddwyr ac enwadau ereill yn America. Cafodd Dr. Price ei alw i roddi anerchiad yn y cyfarfod hwn. Synwyd yr Americaniaid yn fawr iawn gan nifer yr eglwysi oeddynt wedi hanu o eglwys Calfaria, a'r nifer mawr iawn yr oedd efe wedi eu bedyddio."

Teimlwn nad oes eisieu i ni ddywedyd dim mewn ffordd o ganmoliaeth i'r llythyrau hyn, gan y dygant ynddynt eu hunain gymmeradwyaeth uchel i'w hawduron parchus. Yn ystod ei ymdaith yn yr America, ysgrifenodd y Dr. lawer iawn ar yr hyn a welodd, ac a glywodd, ac a deimlodd yn yr America. Anrhegodd hefyd ei ddarllenwyr yn Seren Cymru a'r llythyrau hyny, y rhai oeddynt yn cael eu dysgwyl yn aiddgar ganddynt, ac yn cael eu darllen gyda blas mawr. Cymmerasom y drafferth o gyfrif y llythyrau yn nghyd a nifer y colofnau a gynnwysent, er rhoddi enghraifft o'r hyn allai y Dr. wneyd o waith yn yr hyn a ystyriai efe ei "oriau hamddenol." O'r llythyr cyntaf sydd yn dwyn y dyddiad Mawrth 1af, 1869, a ysgrifenwyd ganddo pan yn cychwyn o Aberdar, hyd yr olaf, sydd yn dwyn y dyddiad Rhagfyr 24, 1869 (a ysgrifenodd wedi ei gyrhaeddiad gartref), cawn 27 o lythyrau, yn gwneyd gyda'u gilydd 71 colofn o Seren Cymru. Cymmerant i fewn nifer lluosog o wahanol ac amrywiol faterion, megys “Hanes dinasoedd mawrion y wlad," "Sefydliadau cyhoeddus,' Eglwysi a Chapeli," Golygfeydd natur—y mynyddoedd, yr afonydd, llynoedd, rhosdiroedd a choedydd," "Sefyllfa foesol a chrefyddol y wlad,” “Hen aelodau crefyddol a chyfeillion gyfarfyddai o Gymru yno, eu cyssylltiadau gwahanol yn yr hen wlad,” yn nghyd â llu ereill o bynciau allem nodi. Dyma gyfrol dda iawn, onite? Ie, gallwn anturio dweyd, gwerthfawr iawn, hefyd; oblegyd, yr ydym wrth eu darllen yn frysiog yn nglyn â'r gwaith hwn (er wedi cael mwynhad mawr wrth eu darllen pan gyhoeddwyd hwynt gyntaf) wedi cael ein taraw â syndod wrth feddwl gymmaint o wybodaeth hanesyddol, gyffredinol, a thra buddiol a gynnwysant. Yr ydym wedi ein temptio fwy nag unwaith i osod rhai o honynt i fewn yn enghraifft o allu mawr ac amrywiol eu hawdwr, ond yr ydym yn ymattal, yn y gobaith y cyhoeddir hwynt etto yn nglyn â gweithiau ereill o eiddo y Dr.

Tra yn yr America derbyniodd yr hybarch Ddr. yr anerchiad canlynol yn arwydd o serch a pharch ei frodyr ato:—

ANERCHIAD CROESAWUS

Cyflwynedig i'r Parch. Thomas Price, M.A., Ph D, Aberdar, Deheudir Cymru, gan bwyllgor neillduol o Fedyddwyr Cymreig, cynnulledig yn Youngstown, Ohio, Gogledd America.

BARCHEDIG SYR,—Yn gymmaint â chaniatau o'r Arglwydd yn ol ei radlawn diriondeb i chwi gael ymweled â ni, Genedl y Cymry yn y wlad hon:

1af, Penderfynwyd, Yn ol ein hadnabyddiaeth a'n gwybodaeth hanesyddol o honoch, eich groesawu a'ch derbyn fel prif gynnrychiolydd ein cenedl yn Nghymru, yn gymmaint â'ch bod bob amser yn amddiffynydd dewr i'n hiawnderau, yn wladgarwr trwyadl a didwyll, ac fel Rhyddfrydwr wedi treulio eich oes, a gwario llawer o feddiannau i ymladd brwydrau rhyddid yn erbyn cadarn ormes a thrawsarglwyddiaeth wladol; ac fel un na bu uchel swyddogaeth, cyfoeth, na gallu mawreddog y bendefigaeth yn Mhrydain Fawr, yn effeithiol i'ch gwangaloni na'ch attal rhag cyflawnu eich amcanion er lles a budd y genedl.

2il. Penderfynwyd, Eich cydnabod fel cynnrychiolydd neillduol o'r Cyfundeb parchus Cristionogol a elwir y Bedyddwyr Neillduol yn Nghymru, o herwydd eich bod bob amser wedi defnyddio eich gallu a'ch medrusrwydd diail er amddiffyn a lledaenu egwyddorion pur gwir Grefydd, yn ei gwahanol ddosparthiadau. Nid oes neb wedi rhagori arnoch mewn diwydrwydd a gweithgarwch gyda'r Cymdeithasau Cenadol a Chyfieithadol, yn Gartrefol a Thramor; ac y mae agwedd lewyrchus y Bedyddwyr yn Morganwg, yn neillduol Dosparth Aberdar, yn nhrefnusrwydd eu llywodraeth, yn amlder eu haddoliadau, yn lluosogrwydd eu haelodau, yn nghyd â nifer yr Ysgolion Sabbothol, &c., megys colofnau uchel ac eglur, a'ch enw chwi arnynt y blaenaf mewn gwaith da.

3ydd. Penderfynwyd, Dychwelyd i chwi y diolchgarwch mwyaf gwresog a chalonog am eich caredigrwydd hynaws yn ymweled â ni yn ein gwlad fabwysiedig, ac ymdrechwn wneyd ein rhan er eich cysur tra yn ein plith.

"Gweddiwn am i'r Duw a'ch llwyddodd yn Nghymru etto i goroni eich ymdrechion a'ch amcanion o blaid enw'r Iesu, a llwyddiant Teyrnas Nefoedd tra yn America.

Dymunwn hefyd i'r Ior, yn nhrefn ddoeth ei Ragluniaeth, noddi a chadw eich personau chwi a'ch anwyl ferch, Miss Emily Price, yn nghysgod ei law yma, ac ar eich dychweliad i Gymru.

A hyderwn y bydd yr ymweliad hwn o'r eiddoch â ni gynnyddu yr Undeb, a chreu mwy o gydweithrediad rhyngom ni a'n cydgenedl anwyl y tu draw i'r môr er ein llesoli a'n llwyddo yn dymhorol ac ysprydol.

Amen.

Yr eiddoch mewn undeb ffydd,

W. OWENS, E. JENKINS,
D. Probert, J. BEYNON,
D. C. THOMAS, J. JONES,
D. J. NICHOLAS, Ysg."

Tachwedd 12, 1869.

Ni ddygwyddodd dim o bwys ar ei daith gartref hyd ei ddyfodiad i Aberdar, ac nid oes un nodiad neillduol wedi ei ysgrifenu ganddo yn ei ddyddiadur ond a ganlyn:—

"Dec. 4th, 1869, sailed from New York for home. 4th to Dec. 13th is almost a religious blank.[4] Arrived in Liverpool early on Monday morning, the 13th."

Dydd Mercher, y 15fed, cyrhaeddodd Aberdar yn iach a dyogel, a chafodd dderbyniad tywysogaidd. Daeth miloedd i'r orsaf i'w gyfarfod a'i roesawu, ac i amlygu eu parch a'u teimladau da tuag ato. Yn ei fynegiad yn Seven Cymru am Ragfyr y 24ain, 1869, o'r amgylchiad hapus, dywed Dewi Dyfan fel hyn :" Tua hanner awr wedi dau o'r gloch, gwelid y bobl o bob cwr o'r dref yn tynu tua'r orsaf. Yn mhen ychydig, daeth Cor y Plant perthynol i Galfaria yno. Chwyddai y dorf yn barhaus, nes, o'r diwedd, yr oedd y dernyn tir helaeth wrth yr orsaf yn orlawn. 'Beth sydd yn bod?' gofynai ambell i bassenger mewn syndod. ' A oes rhyw dywysog yn cael ei ddysgwyl, dywedwch?' Am ychydig funydau i dri o'r gloch, daeth y train i mewn, ac mewn ychydig daeth gwyneb crwn, llon, ac iachus y Dr. i'r golwg yn mhlith y dyrfa, yn nghyd â Miss Emily, mor loyw ag y bu erioed. Edrychai y ddau yn rhagorol. Wedi cael pethau i drefn, darllenwyd dau anerchiad i'r Dr. wrth yr orsaf; y cyntaf gan T. Davies, Ysw., West of England Bank, yr hwn oedd oddiwrth drigolion tref Aberdar. Yr oedd yn anerchiad cariadus, destlus, a chaboledig. Darllenwyd y llall gan D. Davies, Ysw., Bryngolwg, dros yr Urdd Odyddol yn Aberdar. Wedi cael araeth wreichionllyd gan y Dr., ffurfiwyd yn orymdaith. Masnachwyr y dref yn flaenaf, y gweinidogion yn canlyn, a'r ysgol ar ol hyny, ac yna Dr. Price a'i gyfeillion mewn cerbyd yn dylyn. Chwareuai llumanau o amryw ffenestri, yn arwydd o'r croesaw roddai y bobl iddo ar ei ddychweliad. Gerllaw i Rose Cottage crogai bwa gwyrdd gyda llumanau, yn cynnwys yr arwyddair— Welcome Home to Dr. and Miss Emily Price.' Mewn gair, yr oedd y derbyniad yn deilwng o dywysog bob rhan o hono. Rhwng y dorf fawr, y saethu bywiog, y baneri chwifiedig, a'r anerchiadau canmoladwy, buom bron credu fod rhyw second Garibaldi neu Wellington wedi ymweled ag Aberdar. Bernid fod yn y man lleiaf chwech neu saith mil yn ei gyfarfod wrth yr orsaf. Teimlai pawb yn falch wrth weled Dr. Price unwaith etto yn Aberdar. Y nos Iau ganlynol, cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghalfaria, er croesawu y Dr. ar ei ddychweliad. Yr oedd 27 o weinidogion yn y cwrdd, yn nghyd â llawer o fasnachwyr cyfrifol a lleygwyr blaenaf a pharchusaf yr enwad yn y dyffryn a'r sir. Darllenwyd anerchiad caredig gan Mr. Jenkin Howell, arweinydd y cor, i Miss Emily Price, ar ran y cor; a chyflwynwyd work table iddi gan Mr. John Roberts, arweinydd y cor bach, dros y plant. Cyflwynodd Miss Jones iddi hefyd Feibl addurnedig oddiwrth ddosparth o wragedd da. Cyflwynwyd hefyd anerchiadau oddiwrth yr eglwys a'r gweinidogion i'r hybarch Ddr., ac yr oedd yr holl roddion a'r anerchiadau yn tystio fod yn dda gan yr eglwys yn Nghalfaria eu gweled wedi dychwelyd o'u teithiau meithion. Rhagfyr 22ain, 1869, cafodd Dr. Price ei anrhydeddu â chiniaw cyhoeddus, yn Music Hall y Cardiff Castle Hotel. Yr oedd y cwmpeini cynnulledig o'r fath fwyaf anrhydeddus, ac yn cynnwys rhai o brif foneddigion y lle. Addurnwyd yr ystafell yn ddestlus ar yr achlysur, ac o bob tu i'r gadair crogai llumanau Americanaidd a Brytanaidd. Llanwyd y gadair gan I. D. Rees, Ysw., yr is-gadair gan Dr. Davies, Bryngolwg. Ar yr ochr dde i'r cadeirydd eisteddai y Parchus Ddr. Price, guest y prydnawn, ac ar y tu arall yr eisteddai Richard Fothergill, Ysw., yn nghyd â Colonel H. Davies, yr American Consul. Cafwyd cyfarfod bywiog a dyddorol, ac anerchiadau tanllyd gan amryw o foneddigion parchus Aberdar a'r cylch, a'r oll yn llwythog o deimladau a dymuniadau da i arwr y cwrdd yr enwog. Ddr. Price." Dichon y bydd yr adroddiadau hyn am yr arwyddion o barch a wnaed i'r Dr. anwyl yn creu amheuaeth yn meddyliau y rhai nid adwaenent ef, a gallant dybio fy mod yn defnyddio gormodiaeth; ond nid felly, canys gwyr y rhai gawsant adnabyddiaeth bersonol o hono nad ydym ond yn rhoddi adroddiad syml o'r hyn a gymmerodd le yn mywyd y gwr enwog. Nid ydym yn gwybod am un gweinidog yn y Dywysogaeth gafodd anrhydeddau a pharch mwy na'r Dr., fel y cawn ddangos yn mhellach mewn cyssylltiadau ereill. Y mae y rheswm am hyn oll i'w gael yn y llafur a'r gwaith rhyfeddol gyflawnodd, a hyny gyda'r amcanion uchelaf, ac yn yr yspryd a'r teimladau mwyaf hunanymwadol. Dywedwn, nad oedd yr oll, wedi y cwbl, ond gweithiad allan gynghor yr apostol, "Talu parch i'r hwn yr oedd parch yn ddyledus iddo."

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel Seren Cymru Ebrill 16, 1869.
  2. Gwel Seren Cymru am Mai 21, 1869.
  3. Yn Seren Cymru am Mai yr 21ain, 1869, cawn y nodiad canlynol:— Yn yr hwyr yr oedd eglwys fawr y Parch. Mr. Galegher, Brooklyn, wedi ei llenwi, ac yr oedd yno amryw Gymry parchus hefyd yn mhlith y gynnulleidfa. Cyflwynwyd y Dr gan weinidog y lle yn ei ddull arabaidd ei hun: dywedai y byddai y doethion yn dyfod yn y cynoesoedd o'r Dwyrain, ac fod ymweliad Dr Price o Gymru i America yn profi nad oedd eu hiliogaeth wedi llwyr ddarfod etto."
  4. Yr oedd Cadben Kennedy, dan ofal yr hwn y dychwelodd, yn dra gwahanol ei gymmeriad i'r Cadben Morehouse: yr oedd yr olaf yn ddyn crefyddol iawn, tra yr oedd y blaenaf yn mhell oddiwrth hyny.