Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price/Nodiadau ar y Doctor

Oddi ar Wicidestun
Ei Ffraeth-Eiriau Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

gan Benjamin Evans (Telynfab)

Fel Dyn, Cristion, a Bugail

PENNOD XIX.

NODIADAU AR Y DOCTOR.

Gan y Parchn. W. Harris—Dl. Davies—W. Williams, Rhos—J. George—Y diweddar Rufus Williams—Y diweddar F. Morgan, Cwmbach—Dr. Thomas, L'erpwl—W. Morris, Treorci—Mynegiad Coleg Pontypwl—Proffeswr Edwards—Dr. Todd—R. E. Williams (Twrfab), Ynyslwyd—Mr. D. R. Lewis, Aberdar.

MEDDYLIASOM mai nid anmhriodol oedd gwahodd nifer o hen gyfeillion y Dr., y rhai a gawsant lawer o gyfleusderau i gymdeithasu ag ef, ac i'w adnabod yn dda, i ysgrifenu ychydig o'u hadgofion am dano; ac er ein bod wedi derbyn addewid oddiwrth amryw y buasai yn dda genym fod wedi cael eu hysgrifau, am y rhoddai hyny olwg gyflawnach ar wahanol agweddau cymmeriad Price, rhaid i ni foddloni ar a theimlo yn ddiolchgar am adgofion dyddorol y brodyr canlynol, yn nghyd â'r nodiadau buddiol gawsom o gyfeiriadau ereill. Gan fod cyfeiriadau yr ysgrifenwyr at y manau y daethant i gyssylltiad â'r Dr., yn nghyd â'r amgylchiadau neillduol a gymmerasant le, yr ydym yn eu rhoddi i mewn yn agos yn gywir fel y derbyniasom hwy. Bydd fod pob un yn dywedyd yr hanes yn ei ffordd ei hun yn ei wneyd yn llawer mwy dyddorol a swynol i'r darllenydd. Rhoddwn y llythyrau fel y daethant i'n llaw gan nad oes genym reol neillduol i'w dylyn:—

GAN Y PARCH. W. HARRIS, HEOLYFELIN.

"Y cof cyntaf genyf fi am Dr. Price, pan oeddwn yn lled ieuanc, yw iddo ef ac Evan Thomas, Casnewydd, gael galwad i ddyfod yn gydweinidogion i Nebo, Penycae, a'r cylch. Perthynai i Nebo y pryd hwnw amryw gangenau eglwysi ar hyd y dyffryn, megys Cendl, Brynhyfryd, (Cymraeg a Saesneg), a Victoria; golygai y frawdoliaeth yn Nebo gymmeryd y Cwm rhag blaen, a'r brodyr hyn i gydweinidogaethu a chyd-lafurio yn a thrwy y gwahanol leoedd. Yr oedd amcan yr eglwys yn dda, ond ni fuont lwyddiannus i'w gyrhaedd. Dywedwyd y pryd hwnw fod y Dr. yn foddlawn derbyn yr alwad, ond nad oedd Mr. Thomas yn cydweled yn hollol yn y peth, ac felly syrthiodd y cynllun i'r llawr. Mr. Thomas, yn ddiamheuol, oedd yn barnu yn iawn ac yn gweled y mater oreu. Llawer gwell oedd iddynt hwy ill dau gael bob un ei faes ei hun i lafurio ynddo, ac felly y bu. Yr oedd y brodyr mor wahanol i'w gilydd, fel nad oedd yn debyg y gallasent gydlafurio yn ddedwydd yn hir yn yr un eglwysi; felly, yn ol trefn ddoeth Rhagluniaeth Ddwyf. ol, ymwanhasant i gylchoedd gwahanol. Ymsefydlodd Evan Thomas yn weinidog ar Nebo yn unig, ac aeth y Dr. drosodd ac ymsefydlodd yn Aberdar. Yr oedd Nebo, Pencae, yn ateb Mr. Thomas yn dda, ac yntau yn ateb Nebo, a gwnaeth waith yno ag y cofir am dano ddyddiau lawer. Yr oedd Aberdar, hefyd, yn ateb Dr. Price, ac yntau yn ateb Aberdar yn rhagorol, ac yma y bu hyd derfyn ei daith. Wedi i'r Dr. fyned i Aberdar aeth blynyddoedd heibio heb i mi wybod ond ychydig am dano; ond yn Mawrth, 1858, pan aethum o Bantycelyn i'r Cwmbach, daethum yn gymmydog agos iawn iddo ; ac yn Chwefror, 1862, pan ddaethum i Heolyfelin, yr oeddwn yn agosach drachefn. Buom yn gymmydogion dedwydd iawn am 29 o flynyddau, a chefais ddigon o gyfleusderau a manteision i'w adnabod yn dda. Yr oedd yn hynod ddymunol, dyfyr, ffraeth, a doniol; byddai yn fywyd a llawenydd yn mhob cylch; ac nid oedd un amser yn honi rhyw fawredd ac uwchafiaeth ar ei frodyr. Bydd rhai felly weithiau, gwaethaf y modd, edrychant i lawr gyda dirmyg ar rai annhraethol amgenach na hwy eu hunain; nis gellir myned yn agos atynt, a dysgwyliant i'w brodyr deimlo rhyw gryndod a gwyleidd-dra wrth agoshau atynt. Nid oedd y Dr. yn perthyn o'r nawfed âch i'r tylwyth hyn-teimlai pawb yn gartrefol yn ei gyfeillach, ac yr oedd yntau yn gartrefol gyda phawb. Yr oedd yn wastad fel brawd yn mysg ei frodyr, ac ymddygai yn aml fel pe bua sai yn llai nâ'r lleiaf o honynt. Yr oedd ei siarad siriol, ei ffraethebion digrif, a'i nodiadau doniol, yn gwneyd ei gymdeithas yn ddymunol, dedwydd a llawen. Pan ddaethum i Ddyffryn Aberdar yr oedd y Dr. yn ei fan uchelaf mewn defnyddioldeb a phoblogrwydd; ond nid oedd hyny yn peri iddo annghofio ei hunan na diystyru ei frodyr. Y mae ambell frawd na all ddal ond ychydig o anrhydedd, clod, a phoblogrwydd, heb iddo ymchwyddo a myned yn fawr, gwyntog, a hunanol; ond yr oedd y Dr. yn dra gwahanol. Byddai ef bob amser yn ostyngedig, diymongar, a hunanymwadol. Yr oedd y Dr. yn llawn bywyd a gweithgarwch. Barna llawer iddo weithio gormod, ac y buasai yn dda iddo weithio llai, er iddo allu byw yn hwy. Pa fodd bynag am hyny, efe a weithiodd lawer 'mewn amser ac allan o amser.' Gallai wneyd llawer o waith, a hyny mewn gwahanol gylchoedd. Cafodd gyfansoddiad cadarn, bywiog, ac iach; ond gormod gwaith a'i niweidiodd yn fawr. Gwelid hyny yn amlwg yn ei flynyddau olaf. Gweithiodd ei hun allan yn llwyr o ran nerth corff, meddwl, a defnyddioldeb, cyn iddo farw. Bydd rhai farw yn nghanol eu nerth, bywiogrwydd, a defnyddioldeb—cymmerir hwynt ymaith megys â llifeiriant; ond ereill ydynt yn byw ar ol i'w gallu a'u defnyddioldeb ddarfod. Llafuriodd y Dr. yn fawr gydag achos crefydd.

Pan ddaeth efe i Aberdar yr oedd y dyffryn yn ymagor ac yn ym. ddadblygu yn mhob cyfeiriad—gweithfeydd newyddion yn cychwyn drwy y cwm, a'r bobl wrth y cannoedd o bob man yn dylifo i'r lle. Yn eu mysg yr oedd torfeydd o ddynion crefyddol, fel yr oedd yr achosion crefyddol yn cynnyddu ac yn myned rhagddynt gyda chyflymdra rhyfeddol: yr oedd y fechan yn myned yn fil a'r wael yn genedl gref,' megys ar unwaith. Yr oedd yr amgylchiadau hyn yn Rhagluniaeth Duw yn peru llwyddiant mawr yr achosion crefyddol, fel yr oedd galw mawr am gapeli a lleoedd newyddion i addoli Duw; a'r Dr., yntau, yn llawn bywyd a gwaith, yn cyfateb y lle a'r amgylchiadau yn rhagorol; ac felly, aeth y gwaith rhagddo yn fawr.

Yr oedd y Dr o dymher boeth, wyllt, danllyd, a bu hyny yn ddiau yn achos gofid iddo mewn rhai amgylchiadau; ond er yn boeth a gwyllt, deuai i'w le yn fuan: byddai yn ystorom sydyn ac enbyd weithiau, ond buan y byddai tawelwch mawr. Gwnai gamsyniadau pwysig ambell waith, fel Pedr: torai glust a gofynai dân, ond buan y gwelai y bai, a gofidiai am dano. Yr oedd o yspryd maddeugar: ni chadwai deimlad câs ac annymunol yn ei fynwes; ni roddai ‘le i ddiafol,' ac ni fachludai yr haul ar ei ddigofaint. Rhoddai driniaeth enbyd weithiau, wedi hyny byddai y cwbl drosodd; pan gyfarfyddai â'r cyfaill hwnw dranoeth, gellid meddwl na fu erioed ddim rhyngddynt. Yr oedd yn gyfryw ddyn ag nas gallai neb teilwng deimlo yn anngharedig tuag ato. Yr oedd yn rhagori yn mhell, yn ei ddiffygion, ar lawer iawn yn eu rhagoriaethau. Yr oedd yn hynod barod ac ewyllysgar i wneyd daioni, a daioni mewn llawer ffordd. Nid oedd eisieu ei gymhell i ddaioni—yr oedd yn awyddus iddo: gwnai yn rhwydd, llawen, heb rwgnach na dannod. Yr oedd y nodwedd hon yn un neillduol ac amlwg iawn ynddo. "Yr oedd yn un o barch a dylanwad mawr unwaith yn Nghymmanfa Morganwg, ac yn un o werth mawr a gwasanaeth neillduol yn ei chynnadleddau. Byddai ei ddylanwad weithiau yn dra pheryglus, ac yn agored i wneyd cam dirfawr ag ambell frawd neu achos, pan na fyddai efe wedi ei ddeall yn iawn, neu wedi ei gamarwain gyda golwg arno. Ond y rhan amlaf byddai ei ddylanwad er daioni, a phob amser felly, os byddai efe yn deall y mater yn briodol. Os teimlodd rhai ei ddylanwad weithiau yn anffafriol, teimlodd rhai ei ddylanwad yn fendithiol. Ni waaeth niwed o fwriad i neb; ond gwnaeth ddaioni i luoedd o galon iach. Bellach, y mae wedi ein gadael. Teimlwyd yn chwithig ar ei ol, a theimlir gan lawer etto. Huned mewn heddwch hyd yr adgyfod. iad mawr. Nawdd ac amddiffyniad Dwyfol fyddo ar ei anwyl ferch a'i chwaer alarus.


BY THE REV. DANIEL DAVIES.

I was very pleased when I heard that you were about to write a memoir of the late Dr. Price. My recollections of him go so far back as the time when he settled in the ministry at the old Penypound Chapel, Aberdare. My impressions of him are that he was a very remarkable man in every position he occupied. He was so as a preacher, eloquent and powerful; and as such his fort was the historical. He pictured the narratives of the Bible very vividly to his audience. Once he was preaching on Christ feeding the five thousand men with the five loaves and two fishes; in the midst of the sermon he said, 'I imagine I see the disciples with their baskets going among the multitude. Peter, when he saw the miraculous manner the bread was being multiplied, called out loudly, 'John, how are you getting on? my basket is as full as ever.' What a grand master we have.' Once, he was preaching on the limitation of Satan's knowledge. He said that some people say that Satan cannot see further than his nose, 'But,' said the Dr., 'that nose is rather long sometimes.' He was a most successful preacher, and may be designated the 'Spurgeon of Wales,' for the first 25 years of his ministry especially. This may be seen in the Aberdare Valley in the many memorials of his life. There are other evidences, viz., the noble band of men he rose to the Christian ministry, who are popular and useful at home and abroad. He was also a wise disciplinarian; he showed this in the manner he managed the churches. One time, when the English church (Carmel) was without a pastor, there was a difficult case to deal with in the church meeting there was one unruly member who would partake of the communion against the will of the church. The members felt they could not proceed with the case. I was asked by the deacons to go over to the society at Calvaria, to request Dr. Price to come over and help us. I went, and told him my message. He stood on his feet and said, 'Please go on with the meeting for a short time; I will be back soon. The devil is in the English church, and they want me to cast him out.' He came, and asked the unruly man, who was lame, if he did partake of the bread and wine against the will of the church He replied in the affirmative. Then,' the Dr. said, 'the devil must be in you.' He pointed to the door, and said, 'Please to go out.' He was reluctant to go. Now go,' said the Dr., 'or I'll use my foot to you.' Then the man went limping out. After he had closed the door, the Dr. rose to his feet and said to those at the meeting, 'There, now, the devil is gone: you will have peace,' and he went back to his own people at Calvaria."


GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, RHOS, MOUNTIAN ASH.

"Yn yr Haf, 1845, y cwrddais â'r enwog Ddr. Price gyntaf erioed. Yr oedd yn pregethu a chasglu yn Llysfaen ar noswaith tuag at Athrofa Pontypwl, lle yr oedd yn fyfyriwr ar yr adeg hono. Brawd ieuanc gwyneb agored, gwresog ei galon, serchog a hawddgar ei gyfeillach, y cefais ef, ac felly y parhaodd i mi hyd derfyn ei oes. Cyfarfuom ar ol hyny mewn cyrddau a chymmanfaoedd lawer tro ar hyd y blynyddoedd wedi ei urddo ef yn weinidog yn Aberdar yn nechreu 1846.

"Nid hir y bu cyn dyfod yn boblogaidd gartref ac oddicartref fel pregethwr, cynnadleddwr, a gwleidyddwr. Rhedodd ei glod fel mellten drwy yr holl eglwysi a'r wlad. Edmygid ef yn fawr fel pregethwr eglur, hawdd i bawb ei ddeall, gwresog iawn ei yspryd, ac ymarferol nodedig ei syniadau. Yr oedd ar ei ben ei hun, a byddai dysgwyliad am dano yn nghyrddau mawrion y sir, ac yr oedd yn ffyddlon iawn i gyrchu iddynt. Yr oedd yn gynnadleddwr medrus a deheuig, yn meddu gwybodaeth a deall clir o'r materion a drinid. Yr oedd fel gwr gartref yn y gynnadledd am beri ac i gwmpasu gwaith. Rhaid cydnabod ei fod yn feistrolgar yma fel rheol, ond byddai gwres ei yspryd weithiau yn ei gario yn rhy bell, res bod yn ormod o feistr a tharo lle yr oedd eisieu olew. Pwy nad yw yn agored i roddi ergydion camsyniol? Cynlluniwr hynod o fedrus ydoedd mewn llawer o amgylchiadau, fel y mae olion ei law yn aros i brofi hyny.

"Yr oedd yn wleidyddwr o ran medr a gwroldeb penderfynol, Y swn cyntaf a glywais am dano braidd wedi iddo gael ei urddo yn Aberdar, ydoedd ei ornest â'r offeiriad yn y lle o herwydd celwyddau y Llyfrau Gleision, yn iselu cymmeriad gweithwyr a menywod yr ardal. Gwnaeth yr ymgiprys hwnw, trwy wroldeb hyfaidd a medrusrwydd Dr. Price, les dirfawr i ddofi tafodau ensyniadol yr Eglwyswyr hunandybus, a deffroi y wlad i droi anwireddau melldigedig Toriaid beilchion yn ol mewn hunan-amddiffyniad croew, clir, a gonest. Amser hynod ydoedd hwnw am dduo yr Ymneillduwyr Cymreig yn ngolwg yr yspïwyr Seisnig rhagfarnllyd gan haid o offeiriaid diffydd, rhagrithiol, a'u cwsmeriaid cynffonol. Er hyny, cododd Rhagluniaeth Ddwyfol ddynion enwog hynod i gyfarfod â'r adeg hynod hono, yn mhersonau Dr. Price a Ieuan Gwynedd, a gwyr dewrion a gonest ereill, fel amddiffynwyr yr Ymneillduwyr a'r werin Gymreig, yn ngwyneb ffrydiau o gyhuddiadau maleisus a bradychus can dywylled â'r dyfroedd a lifant allan o weithfaoedd y Stroud. Yr oedd Dr. Price yn ddarn o fur cadarn fel amddiffynwr ei wlad yn ei chymmeriad ac yn ei hiawnderau. Saif ei enw yn uchel am oesau ar groniclau Cymru fel un o'i hamddiffynwyr dewraf yn ei ddydd. "Yr oedd y Dr. hefyd yn wr o wybodaeth gyffredinol helaeth iawn, a deallai gryn swm o gyfraith y wlad. Bu fel cyfarwyddwr a chynghor. wr i luaws mawr ar lawer amgylchiad go ddyrus.

"Yr oedd yn neillduol o fedrus i fywiogi, trefnu, a hyfforddi'r Ysgol Sabbothol, a'i pherffeithio mewn gwybodaeth a threfn. Ei ddyfais ef ydoedd cael holl Ysgolion Sabbothol Bedyddwyr Dyffryn Aberdar—o Hirwaun i lawr i Mountain Ash—i gyfarfod ar ddydd Nadolig yn un o'r capeli ar yn ail mewn eisteddfod. Byddai gwaith i gyfansoddwyr, cantorion, ac adroddwyr. Bu yr un gyntaf yn Hirwaun, Nadolig, 1856. Parhaodd y sefydliad hwn am flynyddoedd ac er lles. Yr oedd hefyd yn hynod am ei yni a'i weithgarwch i sefydlu ysgolion ac eglwysi yn ardal Aberdar, ac hefyd i fagu a chodi pregethwyr, y rhai a ddaethant gan mwyaf yn weinidogion defnyddiol enwog.

Yr oedd Dr. Price yn athronydd go dda: gwelai drwy fater dyrus yn lled glir ar unwaith, a medrai ei ddadansoddi mewn byr eiriau i eglurdeb digamsynied y rhan fynychaf.

"Yr oedd hefyd yn wr mawr am garedigrwydd ac yspryd tadol. Yr oedd yn gymmwynaswr parodlaw iawn gyda'r pleser mwyaf. Bu yn gweini yn ffyddlon iawn i'w gangen—eglwys wan yn Mountain Ash, am tua deg mlynedd wedi ei sefydlu yn Aberdar. Cyrchai yn fisol i dori bara, ac i'w chyfarfodydd, a bu o ddefnydd a llwyddiant yno i luosogi a chadarnhau yr eglwys yn y ffydd. Yn Ionawr, 1855, ysgrifenodd alwad caredig eithaf, dros y gangen hono, i mi ddyfod yn weinidog iddi. Rhoddai y cymhelliad taeraf a'r annogaeth gryfaf a mwyaf brawdol i mi ddyfod. Ar ei gais taer ef a'r eglwys yma y derbyniais yr alwad, ac ni chefais achos i edifarhau. Cefais ef yn gymmydog anwyl, ffyddlon, a diddichell, ac ymddygodd ataf yn frawdol a thadol iawn hyd ddiwedd ei oes. Credaf iddo fyned i dangnefedd; hiraethaf ar ei ol."


BY THE REV. J. GEORGE, UNITARIAN MINISTER, ABERDARE.

"By a terrible calamity, a heavy cloud was thrown over the County of Glamorgan, in November, 1867. Scores of human lives were lost and hundreds of women and children were deprived of their breadwinners by the disastrous explosion at Ferndale Colliery. The heart of the community was moved with horror and stirred with pity. Public meetings were held and a relief fund was established. To distribute this fund according to certain regulations, a committee was appointed, of which the Rev. Dr. Thomas Price, pastor of Calvaria Baptist Church, was appointed Chairman, and the writer, succeeding the Rev. D. M. Jenkins, Secretary. The duties were for years arduous. In this connexion Dr. Price and the writer were brought into close and friendly contact. With pleasure does the latter bear witness to the generosity, sympathy, and tenderheartedness, manifested by the former in alleviating the sorrows and distress of the unfortunate sufferers. Notwithstanding his manifold engagements, Dr. Price was punctually at his post of duty, unless unavoidably from home. The claims of applicants necessitated great caution and patient inquiry to avoid imposition, but neither he nor his associates ever wearied in listening to the sorrowful appeals of the widow and orphan. His sympathies were deep and broad. He seemed to yearn for opportunities for comforting the distressed. Words of consolation, of hope, and of encouragement he had for all, and often succeeded in calming the troubled spirit. While cautious in action, he preferred to err, if error there was, on the side of leniency. Often has it been the privilege of the writer to hear the outpourings of grateful hearts for the genial, tender compassion exhibited in voice and manner in cases of special affliction. Yet, he did not hesitate to rebuke sternly the few who attempted to impose upon or to deceive himself and his associates. Happily, such incidents were few. (He held strongly the opinion that the fund had been collected for a special purpose and for particular persons, and ought to be used for that purpose and those persons, and no other. Greatly was he grieved when the fund was partly diverted into other channels). The writer may add that he has evidence of Dr. Price's liberality of soul towards his neighbours and others with whom he came in contact. This however is outside the purpose with which he began this notice."


GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. RUFUS WILLIAMS, YSTRAD.

Y Parch. Thomas Price, A.M., Ph.D., Calfaria, Aberdar.—Dyma frawd sydd yn adnabyddus drwy yr oll o'r Dywysogaeth, ac ni chyfeiliornem pe y dywedem ei fod yn fwy adnabyddus mewn gwledydd ereill nâ neb yn Nghymru. Mae yr enw, Price Aberdare,' yn household word. Y mae wedi enwogi ei hun mewn llawer dull a modd—gyda chymdeithasau dyngarol a chrefyddol, yn yr areithfa ac ar yr esgynlawr, yn y gadair lywyddol a'r un olygyddol. Mae wedi enwogi ei hun fel amddiffynydd moesau, cymmeriadau, o iawnderau y gweithwyr a'r tlodion, pan y byddai ymosodiadau annheg a maleisus yn cael eu gwneyd arnynt. Y mae o feddwl cyflym a pharod tu hwnt i'r cyffredin, o barabl rhwydd a derbyniol hynod, ac o galon ddewr a gwresog. Mae wedi derbyn ar. wyddion amryw weithiau o barch a chydnabyddiaeth mewn ffordd o roddion ac anrhegion am ei lafur mawr a diflin, gan ei eglwys ei hun ac eglwysi ereill yn y dref y mae yn byw ynddi. Y mae yn gwneyd cymmaint o waith, a chymmeryd pob peth gyda'u gilydd ag un deg yn y Dywysogaeth. Diolch i Dduw am gymmaint o nerth a iechyd iddo.

* * Graddiwyd ef yn ddiweddar yn A.M., Ph.D., gan un o brif Athro— feydd Germani, sef yr University yn Leipsic, Saxony." (Gweler Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr, &c., yn y flwyddyn 1863, tudalen 70—71.)


GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. MORGAN, CWMBACH.

Marwolaeth Dr. Price, Aberdar.—Hwn oedd ddyn a gerid gan bawb yn y lle. Dyn a wnaeth lawer o ddaioni yn Aberdar oedd y Parch. Ddr. Price, gweinidog enwog gyda'r Bedyddwyr yn Nghalfaria, ac yn adnabyddus drwy holl Gymru, Lloegr, a llawer o'r America. Er y gwroldeb oedd ynddo, a'r egni di-ildio i gario ei amcanion i ben, darfu iddo yntau ildio i angeu hwyr ddydd Mercher, Chwefror 29ain diweddaf, yn ei dy ei hun, Rose Cottage, yn y dref hon. Nid oes neb yn gallu cofio nifer y brwydrau ymladdodd o blaid Ymneillduaeth yn y lle hwn flynyddoedd yn ol. Nid enwad, ond cyfiawnder, cydraddoldeb, a chwareu teg i bawb, oedd ei brif nod drwy ei oes. Gosodir yntau dydd Mawrth nesaf, y 6ed cyfisol, yn ei fedd—y ty rhagderfynedig i bob dyn byw. Heddwch i lwch ein hanwyl frawd."

Bu Mr. Morgan yn gymmydog agos i'r Dr. am flynyddau meithion, ac felly, yr ydym yn gosod pwys ar ei farn uchel ef am dano. Ymddangosodd yr uchod yn mhlith pethau ereill yn ngohebiaeth Mr. Morgan yn y Tyst a'r Dydd am Mawrth y 8fed, 1888.

Yn y Tyst am yr wythnos ganlynol ysgrifenodd y Parch. Ddr. J. Thomas, L'erpwl, yn ei nodion, "Ymylon y Ffordd," am y Dr. fel y canlyn :—

Nos Sadwrn, Mawrth 10fed.

"Yr oedd yn chwith genyf weled yn y Tyst am yr wythnos hon, gan fy hen gyfaill dyddan Gohebydd Aberdar, y grybwylliad am

FARWOLAETH DR. PRICE, ABERDAR.

Gwyddwn ei fod wedi gwaelu yn fawr y blynyddau diweddaf; ond pan welais ei fod wedi marw, daeth tòn o hiraeth drosof. Deugain mlynedd yn ol, bu ef a minau ar daith am fis trwy Forganwg a rhan o Fynwy yn cynnal cyfarfodydd ar addysg, ac yn casglu at sefydlu Coleg Normalaidd yn Nghymru. Ysgrifenais hanes y daith i'r Diwygiwr ar y pryd, a gallwn yn hawdd yn awr ysgrifenu fy adgofion o honi. Yr oedd Dr. Price ar y pryd yn ddyn ieuanc iach a chryf, o dymher fywiog a llawen, ac yn un o'r cymdeithion mwyaf hapus. cywir, a diwenwyn y daethum erioed i gyffyrddiad ag ef. Llettyem yn nghyd mewn teuluoedd o wahanol enwadau, ac ni bu digter na dadl rhyngom yr holl amser. Yr oedd yn lled rydd a mentrus yn yr hyn a ddywedai; ond cefais ef yn nodedig o gywir a dihoced. Ar ol hyny y cyssylltodd ei hun ag achosion gwleidyddol a chyhoeddus, ac y daeth i ddylanwad yn ei enwad; ond yr oedd yn eglur y pryd hwnw fod ynddo gymhwysder at bethau o'r fath, er fod yn bossibl nad oedd y cyssylltiadau hyny ddim y mwyaf ffafriol iddo fel gweinidog yr Efengyl. Ychydig iawn, os oes neb, yn wir, a all gymmeryd rhan amlwg mewn cwestiynau cyhoeddus heb i hyny effeithio er gwanychdod iddynt fel gweinidogion a phregethwyr; ac etto, llwyddodd Dr. Price, tra y daliodd ei nerth a'i iechyd, i gadw yn nghyd gynnulleidfa fawr. Nid yn aml y ceid gweinidog yn fwy yn serch pobl ei ofal, ac nid ä yn annghof gan y genedlaeth bresenol y gwasanaeth cyhoeddus a wnaeth i Aberdar ar y gwahanol fyrddau.


GAN Y PARCH. W. MORRIS, TREORCI

"Nid ydym yn gwneyd un ymddiheurad am ddwyn i fewn i'n cyhoeddiad cenadol fywyd a llafur y diweddar Barch. Thomas Price, M.A., Ph.D., Aberdar. Haedda le yma fel un o'n cenadon mwyaf gweithgar yn nhre', ac fel un o gyfeillion ffyddlonaf y Genadaeth Dramor. Mewn modd neillduol, cenadwr Cristionogol ydoedd. Cymhellid ef gan yspryd cenadol brwdfrydig, a llwyddai i daflu ysprydiaeth genadol i'w eglwys ac i bawb ddelent i gyffyrddiad ag ef. Am ei fod yn genadwr mor selog a gweithgar yn nhre' yr oedd mor selog a gweithgar dros y Genadaeth Dramor: ac am fod ei galon ef yn llosgi o ymawydd am weled yr Efengyl yn lledu a llwyddo mewn gwledydd tramor yr oedd mor ymdrechgar i helaethu terfynau ei achos yn ei gylch cartrefol. Safai Dr. Price ar y gwrthbwynt pellaf oddiwrth yr yspryd a'r ymarferiad ceidwadol mewn cyssylltiad â'r achos crefyddol. Mewn un ystyr, yr oedd yn Geidwadwr di-ildio: mynai gadw holl egwyddorion a gwirioneddau y Grefydd Gristionogol. Nid oedd efe yn mhlith y rhai a ymffurfient mewn rhyddfrydigrwydd beiddgar fel ag i chwareu â sylfeini yr Efengyl. Nid dyn ar y ddisgynradd beryglus mewn pethau crefyddol oedd. O na: un o gredwyr mwyaf diffuant ein gwlad oedd; teyrngarwr yn nheyrnas nefoedd ydoedd; ymorweddai ar ei hyd ar Graig yr Oesoedd; iaith ei enaid ac argyhoeddiad dyfnaf ei fodolaeth oedd, Mi a wn i bwy y credais.' Er hyny, nid oedd am gadw yr Efengyl y tu fewn i furiau culion capel; nid oedd am gyfyngu ei bendithion i Jerusalem. Teimlodd nerth anwrthwynebol yr 'Ewch' awdurdodol, ac hyd y gallodd. aeth â'r Efengyl i lawer lle nad enwid Crist

"Ennillodd safle enwog yn Nghymru fel planwr eglwysi. Nid ydym yn gwybod am un yn Nghymru a wnaeth gymmaint ag ef yn y modd hwn. Gwyddom am amryw a weithiasant yn ardderchog yn y cyfeiriad hwn, ond saif ef yn dywysog yn eu plith. 'Llawer un a weithiodd yn rymus, ond efe a ragorodd arnynt oll.' Bendith fawr i Aberdar oedd cael Dr Price yno yn ngwawr ei ddydd. Y person amlycaf yno am ddeugain mlynedd oedd. Bu yno ser, ond dyma'r haul; bu yno gor. nentydd, ond dyma'r afon; bu yno weithwyr, ond hwn oedd 'y gweithiwr' Efe fu y gallu symmudol yn mhob mudiad yn Aberdar. Yn mhob bwrdd a sefydlwyd yno. bu ef yn aelod ac yn amlwg ynddynt. Nis gallai efe fod yn guddiedig mwy nâ'i Feistr

Yn nghylch mawr ei enwad hoff yn Nghymru, llanwodd ef y lle amlycaf yn mhob cangenwaith. Yn ei gymmanfa, undeb, colegau, cym- deithasau. a llengoedd symmudiadau yr enwad yn Nghymru, gellir bod yn sicr iddo ef am 30 mlynedd gario pen trymaf y gwaith. Gweithiwr oedd, a gweithiwr annghymharol-gweithiwr yn mhob cyfeiriad possibl. Fel trefnwr, dinesydd, gwleidyddwr, llenor, cymdeithaswr, cynnadleddwr, darlithiwr, gweinidog. pregethwr, ac ochrau ereill ei gymmeriad, nid ydym yn gwybod am un dyn yn hanes y Genedl Gymreig yn yr hwn y cydgyfarfyddai cynnifer o ragoriaethau a Dr. Price.

Bu am flynyddoedd lawer yn unig gynnrychiolydd Cymreig ar bwyllgorau ein Cymdeithas Geñadol, y Gymdeithas Genadol Gartrefol a Gwyddelig, y Gymdeithas Gyfieithadol, Bwrdd Addysg y Bedyddwyr, Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, &c.; ac yn ddiddadl, nis gallesid cael un mwy cymhwys i'n cynnrychioli nag ef. Yr oedd ei barodrwydd llafar, ei graffder darganfyddol, ei ddoethineb naturiol, ei ymarferolrwydd meddyliol, yn ei gymhwyso mewn modd uchraddol i fod yn gynnorthwy mawr i'r genadaeth a'r pwyllgorau hyn. Safai yn uchel iawn yn marn pawb o'i gydweithwyr yn y cyfryw gylchoedd. Enghraifft o hyny oedd y rhan a gymmerodd yn nghyfarfodydd cy. hoeddus Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon. Mae areithiau Dr Price yn amryw o'r cyfarfodydd hyn yn Llundain, Liverpool, Bristol, &c., yn sefyll yn mhlith y pethau ardderchocaf ynddynt yn nghof pawb gawsant y fraint o fod yn bresenol.

Ac nid oedd ei areithiau tanbaid ond cynnrychioliad amlwg o'i yspryd a'i waith yn nhre'. Dengys adroddiadau deng mlynedd ar hugain cyntaf hanes Dr. Price a'r eglwys yn Nghalfaria, Aberdar, na wnaeth un eglwys yn well, os cystal, yn y Dywysogaeth at y Genadaeth Dramor. Saif yn arwireb mai yr eglwysi sydd yn gwneyd oreu at y genadaeth ydynt yr eglwysi mwyaf byw a gweithgar eu hunain. Eglwys fyw fu Calfaria. Aberdar, tra yno y bu Dr. Price. Teimlai cylch eang y dyffryn ei nerth Taenwyd ei hyspryd hi yn mhell ac yn agos. fel y mae un o'r groups gogoneddusaf o eglwysi yn y dyffryn hwn. O honi hi, dan arweiniad y gweinidog enwog, y tarddodd eglwysi ar bob llaw yn Aberaman, Capcoch, Carmel, Abernant, Ynyslwyd, a'r Gadlys. Rhydd y rhifnodau canlynol syniad am lwyddiant y Dr : Yn ystod y cyfnod o 1845 hyd Nadolig, 1885, derbyniodd trwy fedydd, llythyron, ac adferiad, 3,847, a chafodd y fraint o fedyddio yn yr un tymhor, 1,596.

Ganwyd ef yn Llanamlwch. Brycheiniog, Ebrill 19, 1820, a bu farw yn ei Rose Cottage, yn Aberdar, dydd Mercher, Chwefror 29, 1888. Rhwng y rhifnodau hyn y gorwedda rhagymadrodd bywyd Dr. Price. Mae yn rhagymadrodd ysplenydd mewn llawer ystyr i'w dragwyddoldeb mawr. Ei destyn cyntaf erioed oedd 'Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.' Hwn oedd ei sylfaen pan yn marw. Ni fu yn ddibechod; ond credodd mewn Ceidwad allodd dynu ymaith ei holl bechodau. Ni fu heb bechod, ond breichiodd Waredwr a allai wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. Wrth roddi yr ysgrif—bin o'n llaw y waith hon, ein gobaith ydyw y cyfyd yr Arglwydd weithwyr tebyg iddo etto yn Nghymru. Angen y dydd yw gweithwyr; am hyny, atolyged yr eglwysi am i Arglwydd y cynauaf anfon gweithwyr i'w gynauaf. Pan y mae amddiffynwyr glewion hawliau y Genadaeth yn syrthio, coded yr Arglwydd ereill i lanw eu lle, a phan y mae cyfranwyr haelionus yn myned, a gweithwyr ffyddiog yn dystewi, na chaed y Genadaeth Dramor na Chartrefol fod heb eu gwroniaid."—Or Herald Cenadol am Ebrill 1af, 1888.


GAN FYNEGIAD COLEG PONTYPWL.

During the year some of the old Students have fallen on sleep One of the foremost men in the Principality for the last 40 years, one who possessed unbounded energy, burning zeal, undaunted courage, and who at the same time was characterised by a most kind and generous disposition, tender nature, and affectionate heart—such a man was Dr. Price, of Aberdare, whose recent departure we still acutely feel and mourn. He was a giant amongst the mighty men that this College was hoooured in training ; and his altna inater had no truer friend, no more loyal and generous supporter, or more regular and welcome attendant at its gatherings than he. For a long time to come, his business tact and knowledge, his wise counsels, his social qualities, his kind encouraging words, and his ready practical sym- pathy and help will be missed in this place. At the same time, we cannot forget his invaluable services to the denomination, the noble self-sacrifice he always displayed, and the uncompromising attitude he ever assumed in the face of injustice, oppression, and wrong. May the Lord comfort his family and care for his church.

(Gweler Mynegiad 1888, tudalen 12).


GAN Y PROFFESSWR EDWARDS, PONTYPWL.

" Aberdare. — The funeral of the late Rev. T. Price, M.A., Ph.D., of Calvaria Chapel, took place on Thursday, the 8th inst. A large number of ministers took part in the successive services which were held. Professor Edwards, of Pontypool College, delivered the funeral address. He said, amongst other things, ' We have lost an extraordinary man— a very chief leading the army of the Lord of hosts. He was a born leader of men, one who took the fìrst rank in virtue of his inherent worth and undoubted capacity. He did not push his way to the high position he occupied, but his all-consuming energy and brilliant talent secured it for him without an eöort or a show. It i sdifficult to describe him in a few words. He was. a many-sided and an all-round man, possessing so many qualifications for serving the secular community and the religious world that we are afraid that in Wales for some time we shall not soon see his like again. These stars of the first magnitude are not ofteu seen in our lower sky. Look we at him in his work as a citÌ2en, in his services as a philanthropist, in his labours as an educationalist, in his achievements as a minister of the Gospel, there is much on every hand at which we must marvel. His was the philosopher's stone which turned everything to gold. Everything seemed to burst into new life and flourish under his magic touch. We cannot begin to enumerate the services he rendered to the denomination. In raany respedts he was our archbishop, yea, in some respeéts a very apostle. Nothing less than a calamitous earthquake would obliterate the outward signs of his energy and power in the Aberdare Yalley, and on account of the work he has done, his name is a household word throughout the Principality. The English Baptist Union felt his power, and in wide America he was well-known. He was about the worthiest representa- tive of Wales and Welshmen we ever had.""—O'r Freeman am Mawrth 16, 1888.


GAN DR. TODD.

"No one who knew our departed friend could fail to discover in him pecularities that pointed in the direction of peril, and he was not unconscious of their existence and force. Against their sway there is every reason to believe he set up the energy of a divinely renewed will, and 'warred a good warfare. Had he not done so, they must have 'swept him away as with a flood.' Intermingled with them, however, and contravening them were noble attributes, for lack of which many a lauded character is poor; and amongst them were prominent his unselfish interest in the welfare of others, his generous readiness to render help when needed and not deserved, his detestation of all that he deemed unjust or unfair, and his unaffected joy in the success of righteousness and truth. A man of larger and warmer sympathies I have never known. To me it will ever be a grateful reflection to look back upon the distant days we spent together-to think of the bright promise then given and since grandly redeemed-to trace his public life, which was simply the outcome of our early anticipations-to think of his untiring toil for the benefit of man and the glory of God-to realize the position which he won and the power that he wielded in England and Wales and on the Western shores of the Atlantic, and in my poor way to sing,

Servant of God, well done;
Rest from thy loved employ:
The battle's fought, the victory won,
Share now thy Master's joy.


GAN Y PARCH. R. E. WILLIAMS (TWRFAB), YNYSLWYD.

"Wrth gyflwyno i chwi draethiad o'm hadgofion am y diweddar enwog Ddr. Price, o edmygol a pharchus goffadwriaeth, dygir fi yn ol i ddyddiau boreu oes, pan yr arferwn fynychu hen addoldy cyssegredig Great Cross, L'erpwl. Y cof cyntaf sydd genyf am y Dr. ydyw yn un o Gymmanfaoedd y Pasg, yn pregethu yn nghapel Great Cross ar y 'Widw Fach o Sarepta,' fel y cyfenwai efe hi yn fynych yn nghwrs y bregeth. Yr wyf fel pe byddwn y fynud hon yn ei ei weled yn mhwlpud yr hen gapel, ac yn adgofio llithrigrwydd ei barabl, naturioldeb ei eglurebau, nwyfusrwydd ei ddesgrifiadaeth, gogleisrwydd ei ffraethineb, a'i ddylanwad gwefreiddiol ar y gynnulleidfa. Cofiwn iddo ddywedyd yn nghwrs ei bregeth fod ganddo olwg fawr ar wragedd gweddwon, iddo briodi gwidw, ac os byth y priodai drachefn, mai gwidw a fynai eilwaith; a pharodd y sylw i'r bobl wenu yn siriol.

"Dro arall gwasanaethai y Dr. yn nghyfarfod blynyddol Capel Hall Lane, ar y Sabbath, ac ar brydnawn y dydd canlynol cynnaliwyd gwyl dê yn festri Capel Birrell, Pembroke Place, yr hon a fenthyciasid i'r frawdoliaeth yn Hall Lane ar yr achlysur a nodir. Yn gymmaint a bod y plant yn lled aflonydd, ceisiodd y gweinidog ieuanc, y Parch. David Howells, i mi fyned gyda hwynt i un o anti-rooms y festri i'w cadw yn dawel. Gwnaethum fel y ceisiodd, ac ymaith a ni i un o'r ystafelloedd; ac wedi cau y drws, dechreuais eu holi parthed pwy a sylfaenodd yr Ysgol Sabbothol yn Lloegr ac yn Nghymru. Pan yn yr act o hyspysu y plant mai Charles o'r Bala a'i sylfaenodd yn Nghymru, cafodd drws yr ystafell ei agoryd yn sydyn gan y Dr., a chan edrych yn gynhyrfus gwaeddodd yn hyglyw, 'Taw a dy gelwydd, y d—-l bach!' ac yn mlaen ag ef, gan hyspysu y plant fy mod yn cyfeiliorni yn enbyd, ac mai Bedyddiwr o'r enw Morgan John Rhys, o Hengoed, oedd sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru, ac nid Charles o'r Bala. Hawddach ydyw i ddarllenwyr yr adgofion hyn ddychymygu fy nheimladau nag i mi allu eu desgrifio. Caraswn allu ffoi o wydd fy ngheryddwr llym. Un noswaith, dygwyddodd y Dr. fod yn bresenol yn festri Capel Great Cross ar adeg cyfarfod, a chofiaf yn dda i amgylchiad neillduol gymmeryd lle, yr hwn a achosodd i mi ac ereill lygadrythu yn siomedig. Wedi gorphen y gwasanaeth, aeth y Dr. yn mlaen at foneddiges a adwaenai yn dda, ac yn ngwydd pawb rhoddodd iddi gusan serchus a chalonog oedd yn swnio dros y lle.

"Yn y flwyddyn 1866, cynnaliwyd cyfarfodydd blynyddol Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon yn Llynlleifiad, yn nghapel yr anfarwol Hugh Stowell Brown. Er fod y capel yn un eang, yr oedd yn rhy fychan ar yr achlysur y soniwn am dano i gynnwys y bobl a ddaethant yn nghyd, ac felly, cynnaliwyd overflow meeting yn y Philharmonic Hall, yr ochr arall i'r heol, i'r hwn yr aeth C. H. Spurgeon, ac ereill, i anerch y gynnulleidfa; ond yr oedd yn ddealledig fod Mr. Spurgeon i anerch y bobl yn Nghapel Brown cyn fod y cyfarfod yn dybenu. Credwn nas annghofiwn byth hyawdledd annghyffredin a thanbaid y Dr. ar yr achlysur hwn. Ei bwnc oedd cynnydd enwad y Bedyddwyr o ddechreu y ganrif hyd at y flwyddyn hono. Ein hargraff ar y pryd ydoedd fod dawn ac hyawdledd Dr. Price wedi hyd y nod llwyr lyncu yr adgof fod y bydenwog Spurgeon i anerch y cyfarfod. Ni chlywsom neb erioed yn llawio ystadegaeth gyda'r fath ddeheurwydd ac eneiniad. Anadlai fywyd i esgyrn sychion ystadegaeth, ac ymddangosai yn ddedwyddolach gydag amsereg a rhifnodau nag a wna llaweroedd gydag adnodau y Beibl. Pan yr oedd yn tynu tua therfyn ei araeth, ymddangosodd Spurgeon ar un o rodleoedd y capel ; canfydd- odd y Dr. ef, a gwaeddodd mewn llais clir a chlochaidd, 'The great sun has made his appearance; the star must go into the shade.' Gwaeddodd Spurgeon yn ol, fel yr oedd yn gweithio ei ffordd tua'r pwlpud, ' Go on, go on, brother Price.' 'I am with brother Oncken at Hamburg; I shall not be long before I fìnish,' meddai y Dr. mewn atebiad. 'Go on, go on, brother,' atebai Spurgeon eilwaith, a chan belled ag yr oeddem yn gallu deall, nid oedd 'Go on' Mr. Spurgeon ond adlais o deimlad cyffredinol y dorf fawr.

Tro hynod arall adgofir genym ydyw un a gymmerodd le yn un o gynnadleddau cyfarfodydd blynyddol Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, a gynnahwyd yn Nghapel Dr. Maclaren yn Manchester, yn 1872. Siaradodd amryw o brif bregethwyr yr enwad yn y gynnadledd hon, megys Nathaniel Haycroft a Chown; ond pan oeddynt yn llefaru, yr oedd cryn lawer o sisial yn myned yn mlaen. Pan gododd y Dr. ar ei draed, llonyddodd y cwbl, a gallesid, ys y dywedir, glywed pin bach yn disgyn, ac yr oedd pawb megys wedi cael eu hoeho wrth ei wefusau. Y pwnc dan sylw ar y pryd oedd hawliau y Baptist Union Education Fund ar gyfraniadau helaethach oddiwrth yr eglwysi yn gyfifredinol, ac yr oedd rhai o'r siaradwyr wedi achwyn ar gan lleied a gyfrenid at y drysorfa o Gymru, ac wedi awgrymu na ddylasai Cymru gael cymmaint o gynnorthwy, os dim, yn ngwyneb ei chyfraniadau bychain. Twymodd gwaed Cymreig y Dr. gymmaint wrth glywed y pethau a ddywedwyd am Gymru, nes iddo draddodi un o'r areithiau mwyaf angerddol a boddus i galon Cymro ag oedd yn bossibl i gael ei gwrando, ac un a effeithiodd i ennill cydymdeimlad sylweddol i 'Little Wales.' Gwnaeth y Dr. lawer yn ei oes yn y cyfeiriad hwn, a llwyddodd i gael cynnorthwy i laweroedd o'r drysorfa uchod i'w cynnorthwyo i roi addysg i'w plant.

"I Dduw y byddo'r clod am godi y Dr. ddinodedd cymharol i'r fath enwogrwydd, ac am ei wneuthur o gymmaint gwasanaeth i Aberdar, i'w enwad, ei gi.ned!, a'i wlad."


GAN MR. D. R. LEWIS, ABERDAR.

Llawer ac amrywiol yw yr adgofìon sydd genyf am fy niweddar hoffus frawd a chyfaill, Dr. Price. Gan y deallaf fod amryw foneddigion yn ysgrifenu nodiadau arno o wahanol gyfeiriadau, cyfyngaf fy hun yn fwyaf neillduol i ychydig sylwadau arno fel cymdeithaswr neu aelod o'r gwahanol gymdeithasau cyfeillgar. Cefais gyfleusderau lawer i'w adnabod yn dda yn y cyfeiriad hwn, a theimlaf yn ddedwydd i ddwyn tystiolaeth ei fod yn un o'r aelodau mwyaf galluog a pharchus a fuont yn dal perthynas â'r cymdeithasau cyfeillgar yn ein gwlad erioed. Nis gwn am neb a wnaeth fwy iddynt a throstynt. Yr oedd bob amser yn arwain, yn neillduol gyda materion pwysig, y gwahanol urddau y perthynai iddynt, ac yn cymmeryd y rhan drymaf o'r gwaith fyddai â'i amcan at ddiwygio a llesoli ein hurddau anrhydeddus. Yr oedd ganddo lygad craff i weled peryglon yn ymddangos megys o bell, a meddai gymhwysder neillduol a medr dihafal i fyned drwy a gorchfygu anhawsderau. Rhedai pawb ato am gyfarwyddiadau, ac yn gyffredin byddai pob achos yn ddyogel yn ei law. Ystyrid ef yn rhagori fel cyfreithiwr yn nglyn ag achosion y cymdeithasau cyfeillgar. Ymgynghorai cyfreithwyr ymarferol ag ef yn nghylch y rheolau, ac ar rai pwyntiau dyrus a phwysig, a byddai yn alluog braidd yn ddieithriad i gyfeirio allan y llwybr priodol i'w ddylyn.

Gallem yn hawdd nodi amryw enghreifftiau o'i weithrediadau yn y cyfeiriadau a nodwn. Cofus genym am gyfrinfa unwaith ag iddi wraig y gwestty (gweddw) yn drysoryddes, ac yn ei llaw £42 o arian y gyfrinfa. Aeth y drysoryddes i anhawsderau, a 'thorodd,' fel y dywedir. Yn ffodus i'r gyfrinfa, yr oedd dau foneddwr yn rhwymedig fel meichnïon iddi am £20; ond sut i sicrhau y £42 oedd y cwestiwn. Aeth dau frawd o'r gyfrinfa at Mr. Davies, Maesyffynnon, i ofyn ei gyfarwyddyd. Atebodd yntau na allai eu helpu yn yr achos, ac na wyddai am neb allai eu cyfarwyddo yn ddyogel yn y mater ond Dr. Price, Aberdar. Aethant at y Dr., ac wedi adrodd yr helynt wrtho, ysgrifenodd nodyn i'w gymmeryd i gyfreithiwr enwog yn Merthyr, Mr. Frank James. Gweithredodd hwnw yn ol cyfarwyddyd Price, a llwyddwyd i gael yr holl arian i'r gyfrinfa.

Yr oedd cyfrinfa arall mewn amgylchiadau cyffelyb—y gwesttywr wedi myned yn fethdalwr, ac yn cael ei werthu allan. Ymgynghorwyd â Price yn nghylch arian y gyfrinfa oedd yn meddiant y gwesttywr fel ei thrysorydd. Rhoddodd y Dr. ei farn a'i gyfarwyddyd, ond gwrthodai y trysorydd dalu am, meddai efe, nad oedd y gyfrinfa wedi ei chofrestru. Aeth Price ar unwaith i'w fyfyrgell, cafodd hyd i reol y dosparth, a dangosodd ynddi mewn llythyrenau breision enw ac ardystiad J. Tidd Pratt. Dangoswch yr enw hwn i'r trysorydd,' meddai Price, 'ac os na thâl, rhaid iddo ddyoddef y canlyniadau. Gwnawd fel y cyfarwyddai y Dr., a thalwyd yr arian yn ddioedi.

"Yr oedd dau foneddwr yn Aberdar wedi myned yn feichnion i drysorydd cyfrinfa, yr hwn a ddygwyddodd yn yr un modd fyned yn fethdalwr. Yn eu gofid am eu perygl o golli yn agos i £20, aethant at Dr. Price fel yr unig berson tebyg i'w cynnorthwyo yn yr amgylchiad. Gosodasant eu hachos yn eglur o'i flaen, ac hyspysasant ef fod dodrefn y gwesttywr yn cael eu gwerthu y diwrnod hwnw. Anfonodd Price hwynt at yr arwerthydd i ofyn am arian y gyfrinfa cyn dechreu gwerthu. Rhegodd yr arwerthydd, a gofynodd yn wawdus, 'Pwy yw Dr. Price, mi garwn wybod?' er ei fod yn ei adwaen yn dda) Gwrthododd dalu. Awd eilwaith at y Dr., ac adroddwyd yr hanes iddo. Ysgrifenodd Price nodyn at yr arwerthydd, yn ei hyspysu y buasai efe ac heddgeidwad yn cydio ynddo ac yn ei osod yn y carchar can gynted ag y dechreuai werthu, os gwnelai hyny cyn talu yr arian dyledus i'r gyfrinfa. Dychrynwyd yr arwerthydd, a thalodd yr arian yn y man.

"Mewn achos arall yr oedd cyfrinfa yn gwrthod talu gofynion y chwarter arni yn y dosparth. Gwrthodai ar y ddadl nad oedd wedi ei chofrestru. Aeth yn gyfraith rhwng y dosparth a'r gyfrinfa. Ymddiriedwyd achos yr adran i ofal Dr. Price. Fodd bynag, aeth y ddedfryd yn yr helynt yn erbyn yr adran, a chollodd y Dr. y dydd. Wedi myned allan o'r llys, gwelid Dr. Price yn edrych yn dra diflas a siomedig; ond pan oedd efe ac ychydig frodyr oeddynt gydag ef yn yr achos yn cym. meryd ychydig luniaeth, neidiodd y Dr. yn sydyn ar ei draed, fflamiai ei lygaid treiddgar, a gwisgai ei wyneb, oedd ychydig cyn hyny yn arddangos y pryder mwyaf, y sirioldeb a'r bywiogrwydd a'i nodweddent yn gyffredin, a dywedodd. 'Fechgyn, gwelaf hi yn awr: rhaid ail-godi yr achos hwn; y mae pob peth yn iawn etto.' Gwnaeth hyny ar egwyddor wahanol i'r tro cyntaf; a phan yn y llys gofynodd ganiatad y barnwr i arwain ei achos ei hun. Caniatawyd y ffafr iddo. Yr oedd y gyfrinfa wedi cyflogi Mr. Simons, un o'r cyfreithwyr galluocaf yn Merthyr, yn ei erbyn. Dygid yr achos yn mlaen gerbron y Barnwr Faulkner, ac wrth godi i amddiffyn y gyfrinfa, dywedodd Mr. Simons, 'I must admit, your honour, that I am now going to argue with the Solicitor-General of the Friendly Societies: he knows all about them.' Ennillodd y Dr. yr achos, a chafodd glod ac enw am ei wrhydri.

"Nid yw yr enghreifftiau hyn ond ychydig o lawer allem nodi am dano fel un galluog a medrus fel cyfreithiwr y cymdeithasau cyfeillgar. Mewn gwirionedd, pan oedd Price yn anterth ei nerth ac yn nghanol ei bobl. ogrwydd, nid ystyrid y pwyllgorau, y cyfarfodydd chwarterol, a'r cynnadleddau blynyddol, yn llawnion os na fyddai yr enwog Ddr. yn bresenol. Trwy ei gyssylltiad â'r cymdeithasau cyfeillgar, ennillodd lawer o brofiad a dylanwad. Teimlid parch cyffredinol ato, a cherid ef yn fawr gan ei frodyr yn y gwahanol urddau. Pan syrthiodd yn angeu, teimlid fod un o'r cedyrn wedi cwympo yn rhengau y cymdeithasau cyfeillgar, ac nad hawdd oedd cael neb i lanw ei le. Gweithiodd yn galed arn flynyddoedd lawer. Cafodd anrhydeddau uwch a lluosocach nag un Cymro fel aelod o'r cymdeithasau cyfeillgar, a bydd ei enw yn perarogli yn eu plith am flynyddau lawer i ddod."

Nodiadau[golygu]