Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun/Fy Mam

Oddi ar Wicidestun
Ardal Mebyd Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun

gan Ieuan Gwynedd

Bore Oes

II. FY MAM.

I. RHIENI FY MAM.

CALED ydyw calon, a rhewllyd ydyw mynwes y plentyn a eill edrych ar fedd ei fam yn ddigyffroad. Trom yw sefyllfa yr hwn nas hebgor rhyw gyfran o'i enaid i drysori coffadwriaeth yr hon a'i hymddug, ac a oddefodd holl bangau merthyrdod mamolaidd er ei fwyn cyn iddo agor ei lygaid ar oleu dydd. Anfynych iawn y mae un fam heb gyflawni miloedd o weithredoedd serchus, y rhai a deilyngant i'w henw gael ei ddwfn gerfio ar lechau cnawdol y galon. Hanes y fam i raddau helaeth ydyw hanes y plentyn. Yn y cyffredin, hi sydd yn ffurfio y tueddiadau, y rhai a ddadblygir mewn blynyddoedd dyfodol. Yn sefyllfa bresennol Cymru, y mae pob peth perthynol i'r cymeriad mamaidd o bwys; a hyderir y gall rhai o ferched a mamau ein gwlad dderbyn ychydig lesâd oddiwrth y crybwyllion canlynol am fy mam; ac efallai na bydd y cofion eglwysig y cyfeirir atynt yn anerbyniol i'r cyffredin.

Yr oedd rhieni fy mam yn dlodion. Nid oedd ganddynt ddim i fyw arno ond llafur eu breichiau. Priodasant yn ieuanc, a bu iddynt lawer o blant. Y maent ill dau yn gorwedd yn agos i fedd Llywarch Hen, ym mynwent Llanfor, gerllaw y Bala, lle y ganwyd hwynt, y priodwyd hwynt, y buont fyw, ac y buont feirw. Hunant yn dawel gyda'u tadau.

Fy mam oedd eu cyntafanedig. Ganwyd hi Mawrth 18, 1773—Gwneid cymaint o groesaw i'r ddyeithres fach ar y pryd ag a allai teulu y dyn tlawd ganiatau. Yr oedd Dafydd Zaccheus mor hoff o'i eneth fechan a phe buasai yn iarll neu ardalydd, ac nid llai oedd llawenydd ei wraig Gwen na phe y gwisgasai goron duces ar ei grudd. Ni roddodd Duw gyfoeth i'r holl hil ddynol, ond rhoddodd serch i bawb. Amser lled isel ar grefydd oedd dyddiau boreol fy mam. Yr oedd Dafydd Zaccheus yn Fethodist gwresog, ac yn ddyn da, arafaidd, a duwiol. Yr oedd ei wraig yn myned i'r Eglwys Wladol y pryd hwnnw, ac felly y parhaodd drwy ei bywyd. Felly yr oedd ei mam o'i blaen; ac nid oedd lle i ddisgwyl iddi ymadael heb deimlo nerthoedd y byd a ddaw, gan eu bod yn byw o dan nodded teulu y Rhiwlas, y rhai sydd wedi bod yn nodedig, er dyddiau Siarl II., am eu hymlyniad wrth Eglwys y Llywodraeth, a'u gwrthwynebiad i'r eglwys ysbrydol. Yn y flwyddyn 1774. galwyd fy nhaid gyda y meiwyr lleol (local militia) i Ddolgellau. Beth a arweiniodd y gŵr da i wisgo y dillad cochion sydd anhysbys i mi. Tebyg mai ei dynnu a gafodd, a'i fod fel dyn tlawd yn rhwym o sefyll, gan nas gallai dalu i neb am sefyll yn ei le. Gwyddom, pa fodd bynnag, nad oedd ar delerau da ag arferion milwraidd. Er fod y meiwyr yn gorfod gwisgo dillad cochion, yr oeddynt dan yr angenrheidrwydd o wynlychu (to powder) eu gwallt nes y byddai eu pennau yn berffaith wynion. Nid oedd y driniaeth hon yn cydweddu mewn un modd ag arferion a theimladau fy nhaid. Yr oedd y llwch yn disgyn i'w lygaid, a'i glustiau, a'i war, nes peri iddo deimlo yn dra anghysurus. Un diwrnod ym Mai, pan yn dra lluddedig ar farian Dolgellau, rhwbiai ychydig ar ei glust yn erbyn coler ei grys. Sylwodd un o'r swyddogion arno, a gwaharddodd ef; ond ymhen ychydig achlysurodd llwch y gwallt iddo anghofio y gwaharddiad, yr hyn a enynnodd ddigofaint y swyddog; ac wrth ollwng y gatrawd o flaen y lle y saif neuadd bresennol y dref, tarawodd ef ar ei gefn â'i ffon, nes cododd y cig oddiwrth yr esgyrn. Mewn helbulon fel hyn y treuliodd Dafydd Zaccheus, druan, ei fywyd milwraidd.

Un canol dydd, anturiodd gŵr dyeithr o'r Deheudir gynnyg pregethu ar y garreg feirch ar ganol yr heol. Cynhyrfodd hyn y werin yn ddychrynllyd, a bu gorfod i'r llefarwr gipio ei geffyl ar frys gwyllt, a gwneud y goreu o'i ffordd tua'r Bont Fawr: ond erbyn cyrraedd yno, yr oedd Eglwyswyr selog Dolgellau wedi cymeryd meddiant o'r bont, gyda'r bwriad, mae'n debyg, o'i faeddu yn greulon, neu ei anfon drosti i ffrydiau Wnion. Yr oedd un o'r tylwyth a thryfer fawr yn ei law yn rhedeg ar ei ol. Wrth weled y bont yn gauedig, nid oedd ganddo ond troi i'r cae lle y saif y neuadd, a nofio yr afon. Wrth weled fod llidiart cauedig o'i flaen yr ochr arall, rhedai fy nhaid ei oreu er ei agor; ond cafwyd y blaen arno gan wraig eglwyswr y dryfer, yr hon, yn ei charedigrwydd a'i ffwdan, a gollodd ei modrwy aur, ac ni chafodd hi mwyach. Anfonodd fy nhaid y gŵr dyeithr drwy Wtra y Llwyn, ac i fyny Rhiw Carreg Feurig, nes oedd o gyrraedd ei erlidwyr. Yr oedd pobl Dolgellau yn ffol iawn y pryd hwnnw; hyderwn nad oes llawer o honynt yn ddigon ffol i gymeryd eu hudo gan yr un Eglwys yn awr. Yr oedd eu sel y pryd hwnnw yn ddigon tanbaid i ddringo Rhiw Fronserth tua Phant y Cra, er lladd Thomas Foulkes o'r Bala, a'i gladdu yn y pwll mawnog; a phan fethasant a'i gael, nid oedd ganddynt ond tynnu rhan o'r ty i lawr. Efallai i Dduw. esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hwnnw; ond y mae goleuni Efengyl am un mlynedd ar bymtheg a thriugain yn ychwanegu yn ddirfawr at rwymedigaeth trigolion pob ardal a'i mwynhao. Na fydded i Dolgellau fod yn ddibris o'r goleuni byth mwyach.

II. TRADDODIADAU'R BALA.

Nid oedd fy nhaid yn debyg o beidio adrodd pethau fel hyn i'w ferch fechan. A byddai yn eu hadrodd wrth fyned a dyfod ar foreuau Sabbath o Lanfor i'r Bala, a darfu iddi hithau eu cofio. Dechreuodd Ymneillduaeth yn lled fore yn y Bala, a pherthynai i'r dref luaws o adgofion cynhyrfus y dyddiau gynt. Lled debyg i'r achos Ymneillduol gael ei sefydlu yn nyddiau Cromwell, os nad yn foreuach. Pwy oedd offeryn ei gychwyniad nis gwyddom. Nid oedd Gwrecsam, lle bu Walter Cradoc yn gweinidogaethu, yn bell iawn; a dichon iddo dalu ymweliad â'r lle. Beth bynnag am hynny, y mae traddodiad i Vavasor Powell bregethu yn ysgubor y Bryn Hynod, ym mhlwyf Llangower. Dywedir iddo ddechreu ei bregeth pan oedd yr haul yn tywynnu ar un ochr i'r ysgubor, ac na ddiweddodd nes oedd yn machludo ar yr ochr arall. Yr ydym yn sicr fod Powell wedi ymweled â Meirionnydd, ond dichon fod yn anhawdd penderfynu yr amser.

Tebyg i'w helyntion yn y gogledd ddigwydd pan oedd yn byw yn y Goetref, ym mhlwyf Ceri, yn swydd Drefaldwyn, yr hyn a wnaeth o'r flwyddyn 1648 i 1653. Gan ei fod yn teithio bron yn wastadol, nid anhebyg nad dyma yr adeg yr ymwelodd â'r Bala, a rhannau eraill o Feirionnydd. Cadarnheir ni yn y dyb mai naill ai Cradoc neu Powell a sefydlodd yr achos yn y gymydogaeth hon, drwy y ffaith fod cryn nifer o Grynwyr ym Mhenllyn yn y flwyddyn 1662, pryd yr ymwelwyd â hwy gan y llafurus Richard Davies o'r Cloddiau Cochion, gerllaw y Trallwm, yr hwn a sefydlodd "gyfarfod rheolaidd yn eu mysg trwy allu Duw." Yn gyffredin, yr oedd y Crynwyr, ar y cyntaf, yn encilwyr oddiwrth enwadau eraill, a digon tebyg y gallai fod felly yma. Ac wrth ystyried nad oes un hanes yn crybwyll fod yn Eglwys Ymneillduol y Bala Fedyddwyr, cynydda y tebygolrwydd iddi gael ei ffurfio gan Cradoc, neu ynte yn flaenorol i'r flwyddyn 1654 neu 1655, yn y gyntaf o'r rhai y dechreuodd Powell newid ei farn am fedydd, ac yn yr olaf y bedyddiwyd ef drwy drochiad. Parhaodd y cymysgedd hwn o daenellwyr a throchwyr yn eglwys Llanbrynmair, y Scafell, ac eraill am hir flynyddoedd; ac och! na feddianasai yr eglwysi ar ddigon o ras i ymgadw hyd yma yn undeb y ffydd. Gan ein bod ar dir tebygolrwydd, gallwn grybwyll eto fod yn debyg iawn i eglwys fechan y Bala fwynhau gweinidogaeth Hugh Owen o Fron y Clydwr, yn ei gylchdeithiau apostolaidd am y tymor hirfaith rhwng 1662 a 1699, pryd yr hunodd yr athraw parchedig. Beth a ddaeth o'r ychydig braidd yn yr anialwch am y deugain mlynedd dyfodol, nis gwyddom; ond yn fuan ar ol hynny yr ydym yn cael y llafurus Lewis Rees o Lanbrynmair, yn rhwymo y gorsen ysig, ac yn tywallt olew ar y llin oedd yn mygu; ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon, mae "y berth yn llosgi, ond heb ei difa."

Mewn perthynas i'r Crynwyr, yr oeddynt yn dra lluosog ym Mhenllyn, ac yn 1675, erlidid hwy yn drwm. Yn y flwyddyn hon, cedwid rhai o'r cyfarfodydd yn nhy Thomas Cadwaladr o'r Wern Fawr. Rhoddid gwarantau allan yn eu herbyn gan y Milwriad Price o'r Rhiwlas, a'r Milwriad Salisbury o Rug. Dyn o'r enw Robert Ifan oedd cyhuddwr y brodyr y pryd hwnnw. Ymhen amser ar ol hyn, llwyddodd Richard Davies, drwy Iarll Powys, i gael gan Duc Beaufort, Arglwydd Lywydd Cymru, ysgrifennu llythyr at y Milwriad Price i'w wahardd i erlid mwyach. Yr oedd yr eiddo a gymerid oddiar y Crynwyr yn cael ei rannu rhwng y brenin a'r achwynwr; a phan ddarfu gwaith Robert Ifan, aed i edrych dros ei gyfrifon; ond yr oedd Robert, druan, wedi gwario rhan y brenin, fel nad oedd ganddo ddigon braidd i dalu, drwy yr hyn y syrthiodd i'r tlodi y buasai mor awyddus i wthio eraill iddo. Yn fuan ar ol hyn, erlidiwyd hwy gan Price, offeiriad Llanfor, am y degwm; ond llwyddodd medrusrwydd cyfreithiol Richard Davies i drechu mab Lefi, er hired dannedd ei gigwain. Yn 1677, darfu i'r Barnwr Walcott fygwth crogi y Crynwyr yn y Bala, a llosgi eu gwragedd am deyrnfradwriaeth, oherwydd eu bod yn gwrthod cymeryd llwon ufudd-dod a breinioliaeth. Trwy ymdrechion R Davies, Thomas Lloyd o Dolboran, a'r Dadleuydd Corbett o'r Trallwm, diddymwyd y ddeddf drwy yr hon y bwriadai Walcott gael ei wynfyd arnynt yn yr eisteddfod honno o'r Senedd. Gan fod y Crynwyr wedi darfod o gymydogaethau y Bala a Dolgellau, lle y buont unwaith yn dra lluosog, mae yn ddiau i hynny gael ei brysuro drwy ymfudiad rhifedi mawr o honynt at William Penn a'i olynwyr i dalaeth Pennsylvania, yn niwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg.

Yn y cyfwng o 1740, pan yr ymwelodd Lewis Rees a'r Bala, hyd enedigaeth fy mam, yr oedd dyfodiad Methodistiaeth wedi gwneyd cyfnewidiad mawr yn y dref. Yr oedd eu hachos wedi dyfod yn gryf, a'u dylanwad wedi sobri yr ardaloedd i raddau helaeth. Cyrchai fy mam yn llaw ei thad i wrando arnynt am flynyddoedd, ac nis gallaf roddi cyfrif manwl am yr hyn a'i harweiniodd i wrando ar yr Anibynwyr. Byddai ar achlysuron yn dilyn ei nain i'r Eglwys; ond nid da y cydunai y ddwy am yr athrawiaeth. Arferai yr hen wraig ddywedyd, ar ol dychwelyd o'r llan, "Wel, moliant i Dduw, ni a gawsom bregeth dda; pe gwnaem yr hanner, byddai o'r gorau arnom." "Ie, fy nain," meddai fy mam, "pwy sydd i wneyd yr hanner arall?" Byddai y gofyniad hwn bob amser yn difa amynedd a rhesymeg yr hen wraig; ac os rhoddid un ateb iddo, gweinyddid ef drwy fonclust lled hawdd ei deimlo, er nad mor hawdd ei oddef. Peth digon naturiol i blentyn craffus oedd holi pwy oedd i wneyd yr hanner yr oedd fy hen nain yn ei osod o'r neilldu mor ddiddefod yn wastadol. A pheth digon dyryslyd i gyneddfau plentynaidd oedd derbyn cernod cil-ddwrn i esbonio gofyniad mor naturiol a phwysig.

III. ADDYSG FY MAM.

Nid oedd dim neillduol yn yr addysg gartrefol a dderbyniodd fy mam oddiwrth fy nain. Nis gallai yr hen wraig ddarllen; ond yr oedd yn ofalus i argraffu ar feddyliau y plant y pwys o fod yn eirwir a gonest. Gwreiddiodd y ddwy egwyddor hon yn meddwl fy mam; a chyfansoddent ran bwysig o'i haddysg hithau i'w phlant. Dull fy nain o bregethu gonestrwydd oedd pwyso ar feddwl y rhai ieuainc eu dyledswydd o "adael pob peth fel y caent ef." Bu fy mam unwaith mewn cryn ffwdan o herwydd cyflawni y ddyledswydd yn rhy lythyrennol. Yr oedd yn myned ar neges un diwrnod i dy cymydog, lle yr arferai gael croesaw gan feistres y tŷ. Yr oedd llidiart y ffordd fawr yn agor i'r cae yd, a chafodd fy mam ef yn llydan agored ar yr achlysur hwn. Er mwyn gadael pob peth fel y cafodd ef, cymerodd ofal i beidio cau y llidiart. Wedi iddi gyrraedd y tŷ, dechreuwyd ei holi a oedd wedi cau y llidiart; i'r hyn yr atebodd nad oedd, gan adrodd athrawiaeth ei mam er cyfiawnhau ei hymddygiad. Taflodd hyn hi allan o lyfrau arglwyddes y tŷ yn erchyll; ac nid oedd dim yn sefyll rhyngddi ac esgymundod, ond ei bod wedi cyfaddef y gwir. Er nad oedd addysg fy nain mewn moesoldeb a chrefydd yn eang, eto yr oedd yn werthfawr. Yr oedd fy rhaid yn rhagori ar ei briod; ei addysg ef a weithiodd ar feddwl fy mam. Llawenhai yr hen wr wrth weled ei bod yn derbyn ei eiriau; ac hyd derfyn ei oes teimlai yn serchus iawn at ei "eneth fawr," fel yr arferai ei galw.

Ni bu addysg ddyddiol fy mam ond byr iawn. Holl swm ei hysgolheigiaeth dyddiol fu deuddeg diwrnod i ddysgu Cymraeg. Ei hathraw oedd yr hybarch bererin Dafydd Cadwaladr. Digon tebyg na buasai Dafydd Cadwaladr yn un o etholedigion athrawol yr oes oleu hon. Ond byddai Dafydd yn gweddio yn daer fore a hwyr yn yr ysgol, a soniai fy mam am ei weddiau ymhen triugain mlynedd ar ol eu hoffrymu. Yr oedd yr hen wr yn cadw gwialen fawr yn yr ysgol; nid at gefnau y plant, ond at gefnau y meinciau y byddid yn ei chymhwyso, wrth i Dafydd Cadwaladr redeg ar eu holau drwy yr addoldy er mwyn iddynt gael ymdwymno. Dyma ddull yr hen wr o ymarfer corfforol.

IV. Y BEIBL COCH.

Wedi pymthegnos o ysgol, chwilio am le oedd gorchwyl nesaf geneth henaf y gŵr tlawd. Bu fy mam mewn amryw. Mewn rhai cafodd driniaeth ddigon caled; ond yn eraill, yr oedd pethau ychydig yn well. Bychan oedd yr ennill ymhob man. Er prawf o hyn gallwn nodi nas gallai dalu am Feibl ar unwaith. Cafodd goel gan Mr. Charles am dri mis, a thalodd am dano ar yr amser penodedig. Beibl wythplyg ydoedd; ac argraffesid ef yn y flwyddyn 1769. Dydd pwysig yn y Bala oedd y dydd y derbyniodd Mr. Charles y sypyn hwnnw o Feiblau. Yr oedd ei dy yn llawn o ymgeiswyr am danynt. Gwnaeth gymwynas fawr â fy mam, ac eraill, drwy adael iddi dalu am y Beibl bob yn ychydig. Gwisgodd ef mewn brethyn coch. Parchai y Beibl yn fawr. Ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon, y Beibl Coch" ydyw yr enw a ddygir ganddo. Byddai ysgrifennu hanes defnyddioldeb y "Beibl Coch" yn orchwyl anhawdd. Darllennodd fy mam ef ugeiniau o weithiau drosodd. Trodd lawer ar y cyfeiriadau ar waelod y ddalen, y rhai oeddynt yr unig esboniad yn y tŷ. Darllennodd ef fore a hwyr. Darllennodd ef yng Nghymru a Lloegr; a chyn iddi ddysgu Saesoneg, efe oedd ei "chysegr" bychan yn y wlad olaf. Darllennodd ef i feddyg ieuanc afradlon ar ei wely angeu, nes tawelu i raddau ei gydwybod anesmwyth. Darllennodd ef gannoedd o weithiau yn y weddi deuluaidd. Darllennodd ef i'w phlant. Darllennodd ef wrth eu ceryddu, ac wrth eu cysuro, ac wrth eu cynghori. Darllennodd ef drwy ei bywyd, a darllennodd ef hyd angeu. Yn y" Beibl Coch" y dysgodd fy nhad ffordd yr Arglwydd yn fanylach. O hono ef y dysgodd eu dau blentyn y Salm gyntaf, y deg gorchymyn, ac "Yn y dechreuad yr oedd y Gair," &c. Efe oedd brenin y llyfrau: ac o'i flaen ef yr ymgrymai y plant gyda gwylder a pharchedig ofn, canys gweinyddid cosb drom am yr amharch lleiaf i'r "Beibl Coch.' Mae fy nhad, a'i ddau fab, yn parchu y "Beibl Coch" yn fawr eto; a diau os byw fydd y plant ar ol yr hen ŵr, na welant un peth a edy o'i ol mor werthfawr a'r "Beibl Coch." Rhy anhawdd i'r un o honom fynegu ein rhwymedigaethau i'r "Beibl Coch." Beth bynnag ydym i'n teuluoedd, i'r byd, ac i'r eglwys, yr ydym felly i raddau helaeth drwy y "Beibl Coch," fy mam, a charedigrwydd tynergalon Thomas Charles o'r Bala. Nid anhebyg na bydd rhan helaeth o dragwyddoldeb y gŵr da hwn yn cael ei gymeryd i fyny mewn gwrando am ddefnyddioldeb y Beiblau a ledaenodd. Y mae rhoddwr y Beibl yn fynych, fel offeryn, yn rhoddwr bywyd a thragwyddoldeb.

Pan oedd fy mam o gylch un mlwydd ar bymtheg oed, torrodd Diwygiad grymus allan yn y Bala. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, yr oedd yn gwrando gyda'r Anibynwyr y pryd hwn. Gweinidog y Bala ar yr adeg hon oedd y Parch. William Thomas, gynt o Hanover Yr oedd Mr. Thomas yn ŵr dysgedig, ac yn gyfieithydd amryw lyfrau i'r iaith Gymraeg. Dichon ei fod bron yn rhy ryddfrydig i'w amser, ac ni bu ei weinidogaeth yn rhydd oddiwrth ofidiau chwerwon. Gallwn feddwl nad oedd arferion a theimladau Mr. Thomas yn ei gyfaddasu yn neillduol at y fath ddiwygiadau ag a gymerent le yn yr amseroedd hynny.

V. YN Y DIWYGIAD.

Ym mysg plant y Diwygiad, rhifid fy mam. Teimlodd nerthoedd byd a ddaw. Ymaflodd rhywbeth" rhyfeddol ynddi. Llanwodd hi ag anobaith, nes y penderfynodd roddi terfyn ar ei hoedl. Aeth allan gyda'r bwriad o daflu ei hun i'r afon ryw noswaith. Nid oedd, yn ei thyb hi, ddim trugaredd iddi gyda Duw, a phenderfynai beidio dangos dim iddi ei hun. Yn yr artaith meddwl hwn, gorweddodd rhwng dwy garreg fawr ar ganol cae cyn cyrraedd ceulan yr afon. Bu yn y sefyllfa hon am hir amser, nes y clywodd, neu y tybiodd glywed rhyw lais yn dywedyd wrthi, "Deffro di yr hwn wyt yn cysgu; a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a oleua i ti." Ysgafnhaodd hyn ei baich yn uniongyrchol. Aeth tua'r tŷ dan wylo yn drwm, ac ymdrechai ymguddio dan y bwrdd nes i'r teulu fyned i orffwys. Cafodd foddlonrwydd i'w meddwl yn raddol; ac yn Tachwedd, 1790, derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gan Mr. Thomas. Os gofynnir i mi roddi cyfrif am y teimladau a ddesgrifir uchod, rhwydd gyfaddefaf nas gallaf wneyd dim o'r fath. Dywedwyd. wrthyf am ormod o bersonau a deimlodd yn gyffelyb i mi anturio gwadu eu bodolaeth; ond gan na theimlais ddim yn gyffelyb fy hunan, nis gallaf eu hesbonio. Nis gallaf farnu eu bod yn angenrheidiol er gwir droedigaeth; eto, gall y cyfryw droedigaeth fod yn gydfynedol â hwy. Dichon mai amgylchiadau yr oes ydyw yr allwedd a'u hegyr yn oreu ger ein bron. Yr oedd yr oes honno yn anwybodus ac yn ofergoelus. Mae pobl anwybodus ac ofergoelus bob amser yn hawdd eu dychrynu. Ofn ydyw un o'r cynhyrfiadau grymusaf yn eu mynwes. Os deffroir ofn, deffroir lleng o deimladau dychrynllyd ar ei ol. Yn y dyddiau hynny, nid "cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda," oedd y weinidogaeth. Mwg, mellt, a tharanau ydoedd. Ni byddai un oedfa yn arddeledig heb "sain udgorn, a llef geiriau." Pregeth sychlyd oedd honno pryd na byddai "y mynydd yn llosgi gan dân," ac yn crynnu yn ofnadwy iawn. Hawdd rhoddi cyfrif am hyn. Cafodd Howell Harris a Rowlands a'u cydoeswyr y bobl yn ymdroi mewn anwybodaeth echrys, ac anuwioldeb dychrynllyd. Rhybuddiasant hwy i ffoi am eu heinioes tua Soar, cyn y byddai dinas distryw yn wenfflam. Atebodd hyn y diben. Ymdrechodd olynwyr y gwŷr da ddwyn y gwaith ymlaen drwy yr un moddion. Gwisgasant yr un arfogaeth. Dechreuasant daranu, pob un yn ol y gallu a roddwyd iddo. Dygai gwŷr dieithr y Deheubarth eu taranau gyda hwy, ac os methent daranu, nid uchel y bernid am danynt. Bron na wrthododd y Methodistiaid Mr. Charles am nad oedd ganddo daranau. Ond yr oedd ganddo bethau gwell. Yr oedd ganddo ddysg yn ei ben, gras yn ei galon, a Beiblau ar goel i blant tlodion. Mae oes y taranau, a chenedlaeth y taranwyr, wedi myned; eithr y mae enaid ac ysbryd Charles ymhob Ysgol Sabbothol trwy Gymru, ac o fewn braidd bob bwthyn trwy y byd lle y ceir Beibl ynddo. Gweinidogaeth cariad yw yr Efengyl, ac y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn. Ni effeithia y weinidogaeth daranllyd ond ar oes anwybodus ac ofergoelus, ofnau yr hon sydd yn hawdd eu cynhyrfu. Llawer gwell i fy mam fu y "Beibl Coch" na'r dyddiau a'r nosweithiau a dreuliodd ar derfynau anobaith. Dymunwn siarad yn barchus am ei theimladau, ond ni ddymunwn annog neb i ewyllysio na disgwyl eu cyffelyb. Achubwyd un lleidr ar y groes, ond nid oes croes i achub pob lleidr.

Wedi ymuno â'r eglwys, dygodd fawr sel dros foddion gras. Ystyriai hwy yn rhy bwysig i'w hesgeuluso, ac yn rhy werthfawr i'w colli. Fel morwyn, yr oedd anhawsderau ar ei ffordd, ond symudai lawer o honynt ymaith drwy lafur ac ymdrech ychwanegol. Pan mewn gwasanaeth gydag amaethwr, bu am dymor yn rheoli wyth o fuchod, ac yn cerdded wyth milldir erbyn oedfa hanner awr wedi naw yn y bore. Ymhen blynyddoedd ar ol hynny, teithiai tua saith milldir erbyn y cyfarfod deg o'r gloch, a byddai yno yn brydlawn. Ni bydd llawer o lewyrch ar grefydd proffeswyr esgeulus o foddion gras. Cyfododd amgylchiadau yn ddiweddarach mewn bywyd a arweiniasant fy mam i esgeuluso y moddion, a bu yr esgeulusdod hwnnw yn niweidiol iawn iddi. Ond ym more ei hoes ni bu hyn yn fai arni; bu yn ffyddlon ac ymdrechgar gyda holl weinyddiadau crefydd.

VI. MEWN GWASANAETH.

Ni wneir digon o ystyriaeth o sefyllfa gweision a morwynion yn gyffredin. Rhy fynych y gwneir caethion ymarferol o honynt, ac y cedwir hwy mewn anwybodaeth. O bump yn y bore hyd ddeg yn yr hwyr, llafur yw eu rhan. Ni chaniateir iddynt amser i ddar- llen, nac i gyrraedd un gangen o wybodaeth. Anfynych y gofala y penteulu am ddysgu ffordd yr Arglwydd iddynt yn fanylach. Trinir nwy fel creaduriaid israddol o ran cyrff a meddyliau. Bu fy mam yn ffodus iawn mewn dau le. Derbyniodd garedigrwydd, tynerwch, a hyfforddiad. Bu yn ddiolchgar am y caredigrwydd, a gwnaeth ddefnydd o'r addysg. Y lleoedd hyn oeddent Coed y Foel, gyda'r hynaws a'r dduwiol Dorothy Jones; ac yn y Bala, gyda Mr. Evan Evans, llawfeddyg, tad y diweddar Barch. William Evans o Stockport. Yr oedd Dorothy Jones yn wir fam yn Israel. Yr oedd yn hynaws, siriol, a llariaidd gyda'i gweinidogion, a thriniai ei holl amgylchiadau yn fedrus a phwyllgar. Dwywaith yn y dydd yr ymneillduai i'w hystafell ddirgel, a bore a hwyr y gofalai na byddai allor Duw yn ei theulu heb arogldarth. Bu farw y wraig rinweddol hon yn y flwyddyn 1846, ar ol proffes anrhydeddus o bymtheg mlynedd ar hugain o barhad. Gŵr dysgedig, gwybodus, a synwyrol oedd Mr. Evan Evans. Ei dŷ oedd noddfa cyfeillion rhyddid gwladol yn y Bala, yn amser chwyldroad Ffrainc. Yr oedd yn lle manteisiol a dymunol i ddynes ieuanc drigo ynddo.

Wedi gadael ei bro enedigol, treuliodd fy mam rai blynyddoedd yn ardal Gwrecsam a Chaerlleon. Cafodd gyfle drwy hyn i weled ychydig mwy o'r byd nag sydd yn digwydd i ran llawer o ferched Cymru. Ymhen amser dychwelodd yn ol i'w gwlad, ac at ei phobl ei hun. Yn fuan ar ol hynny, symudodd i Ddolgellau, lle y treuliodd amryw flynyddoedd yng ngwasanaeth Francis Roberts, Ysw., a'i briod, yr hon oedd yn un o hiliogaeth yr hybarch Edmund Prys, Archddiacon Meirionnydd. Nid wyf yn meddwl fod gan yr Anibynwyr wasanaeth rheolaidd yn Nolgellau y pryd hwnnw. Tua'r Brithdir, Rhyd y Main, a Llanelltyd yr oedd raid myned i ymofyn am fara y bywyd. Yr oedd yn Nolgellau amryw gyfeillion ffyddlon. Yn yr adeg hon yr oedd Pugh o'r Brithdir yn ei flodau," yn llafurio mewn amser ac allan o amser. Yr oedd Mr. Pugh yn bregethwr hyawdl a galluog, yn serchog o ran ei deimladau, ac yn gyfaddas iawn ym mhob ystyr i fod yn efengylwr ei fro enedigol. Mae yn wir y byddai ei fam, yr hybarch Mary Pugh, yn ei ddisgyblu yn dost ambell dro am wyro yn yr "athrawiaeth;" ond gyda fy holl barch i goffadwriaeth Mary Pugh, a'm hadgofion hyfryd am bob brechdan fêl a gefais ganddi, credaf ei bod braidd yn rhy brysur yn y gorchwyl yma, ac y gallai y mab fod yn well duwinydd na'i fam.

VII. PRIODAS.

Symudodd fy mam o Ddolgellau i'r Hengwrt Uchaf, yn ymyl Rhyd y Main, ac yno y priododd. Fy nhad oedd fab hynaf dau hen bererin a fuont yn aelodau yn Rhyd y Main am flynyddoedd meithion, John a Margaret Evans o'r Esgeiriau. Gorffennodd ef ei yrfa yn 1827, a hithau yn 1845, ill dau mewn oedran teg. Buont ddiwyd gyda phethau y byd hwn, a buont yn ffyddlon yn eu hymwneyd â moddion gras. Anfynych, tra y gallodd ymsymud, er fod ei golwg wedi pallu, y byddai fy nain yn absennol o Ryd y Main; a phan oedd ei chnawd a'i chalon yn pallu, hoffus iawn oedd ganddi gael cyfarfod gweddi yn y tŷ. Tangnefedd i'w llwch! yn ol eu gwybodaeth buont ffyddlon. Nid oedd fy nhad yn grefyddwr pan y priododd. O herwydd hyn ymneillduodd fy mam o gymundeb yr eglwys. Anhyall'i mi ddywedyd i ba ddiben, oblegid dychwelodd yn ei hol yn ddioed. Y prawf cadarnaf ei bod wedi "ieuo yn anghymarus " oedd fod yn agos i bymtheg mlynedd o wahaniaeth oedran rhyngddi hi a fy nhad. Yr oedd hyn yn wall mewn barn, yn enwedig gan fod yr henaint o'i thu hi. Pa mor ddedwydd bynnag y dichon amgylchiadau teuluaidd fod, teimlir hyn i ryw raddau. Y mae undeb teimlad a chydymdrech yn ddiffygiol. Gwywa un tra mae y llall yng nghryfder ei nerth, a'i fronnau yn llawn llaeth. Ond yr wyf yn methu a deall gwerth adferiad eglwysig o drosedd ag y parheir ynddo, ac nas gellir edifarhau am dano. Pe y gellid edifarhau, byddai rheswm mewn adferiad o dan ddysgyblaeth. Ar yr un pryd, caniateir i mi grybwyll fy mod yn credu yn gadarn nad oes nemawr rwystr mwy effeithiol i rym a llwyddiant crefydd na phriodasau rhwng y credadyn a'r anghredadyn. Nis gall crefydd deuluaidd flaguro, ac nis gall y penteulu rodio ynghyd i gynteddoedd Arglwydd y lluoedd. Bydolir meddwl y proffesedig y rhan fynychaf. Yn anffodus i ewyllys dyn, gwirionedd perffaith ydyw nas gellir "gwasanaethu dau arglwydd." Arbedwyd i fy mam y trallodion hyn drwy i fy nhad ymuno â chrefydd yn fuan. Os nad wyf yn camgymeryd, efe oedd y cyntaf a dderbyniwyd yn Nolgellau yn yr oes hon. Nid oedd dim o ddisgyblion yr "athraw parchedig" Hugh Owen o Fron y Clydwr, y rhai gynt a ymgasglent yn y "Ty Cyfarfod," yn aros. O'r Brithdir a Rhyd y Main yr ail ddygwyd ei egwyddorion i'w hau yn Nolgellau—ar y cyntaf ym Mhenbryn Glas, ac wedi hynny yn yr addoldy presennol. Y mae yn awr ffrwyth lawer iawn.

Ni bu amgylchiadau teuluaidd fy mam ond siomedig a thrallodus. Bu farw tri o bump o blant. Buont feirw yn eu hieuenctid, Ganwyd yr hynaf yn Nolserau, yn 1810, ac wedi ei fedyddio gan Mr. Williams o'r Wern, efe a ehedodd

"Ar edyn boreu adeg
I aros fry, o'r oes freg."

Mae yr ail eto yn fyw, yr hwn oedd gobaith a dymuniad llygaid fy mam. Y trydydd baban, fel y cyntaf, a hunodd ar ddydd ei enedigaeth, a

"Rhoed y bach yn nghryd y bedd,
Yn Beuno, oer-wlyb annedd."

Yn yr un modd, diangodd y pedwerydd baban, merch fechan, o freichiau gobaith. Huna hi a'i brawd hynaf yn Nolgellau, tra y gorwedd yr ail yn Llanecil. Ganwyd y pumed plentyn yn 1820, ac er fod ei einioes o hynny hyd y pryd hwn yn esboniad ymarferol ar y geiriau, "Wedi ein bwrw i lawr, ond heb ein llwyr ddyfetha," y mae yn aros hyd yr awrhon, gan rodio mewn petrusder rhwng bywyd ac angeu, a beunyddiol ddisgwyl am awr ei ymadawiad. Y mae yn teimlo ei hun fel carcharor, i'r hwn y rhoddir cennad i rodio yn y llannerch las o flaen drws y carchar. Nis gall fyned ymhellach, ac ni wyr pa mor fuan y rhaid iddo roddi i fyny yr ychydig a fwynheir ganddo.

VIII. ADDYSG YR AELWYD.

Yr oedd gofal fy mam am ei phlant yn fawr, a'i serch tuag atynt yn wresog. Yr oedd ei hawydd am iddynt fod yn "blant da" yn cael ei ddangos yn ddyddiol, drwy y gwaharddiadau llymaf rhag ymgymysgu â "phlant drwg." Mynych atelid hwy drwy hyn o chwareuaethau diniwaid ieuenctyd. Ond nid oedd ei thriniaeth o honynt bob amser yn ddoeth. Ceryddai yn llym, a hynny mewn nwyd, ac nid mewn cariad, y rhan fynychaf. Yr oedd hyn yn gadael argraff o greulonder ar y meddwl, yn enwedig pan y byddai priodoldeb y gosp braidd yn amheus, fel y digwyddai fod ambell dro. Ond yr oedd hi yn meddwl yn gryf fod curo ei phlentyn â gwialen yn foddion lled debyg o gadw ei enaid rhag uffern. Dichon fod y dduwinyddiaeth gosbawl hon yn gywir, ond nid llawer o gredinwyr ynddi sydd ymysg plant ieuainc. Beth bynnag am hynny, nis gellir beio yn ormodol yr arferiad o guro plant am ddamweiniau, ac am weithredoedd nas gallant fod yn hysbys o'u natur a'u tueddiadau. Nid yw pethau o'r fath yn tarddu oddiar arferion meddwl, ffurfiad priodol y rhai a ddylai fod unig ddiben cerydd. Os llithra troed plentyn ar y llawr nes iddo drwy hynny dori llestr gwerthfawr, creulondeb barbaraidd yw ei gernodio am hynny, neu ei ysgwyd nes y byddo ei asennau yn siglo. Gwyddai fy mam pa fodd i geryddu yn ysbryd yr ysgrythyr, a gwnelai hynny yn achlysurol. Sancteiddiai y cerydd drwy air Duw a gweddi.

Yr oedd awydd fy mam yn fawr am i'w phlant gael addysg. Dysgasant ddarllen yn ieuainc, a gwneid hwy yn fwy hylithr yn hyn drwy ei bod yn eu gosod i ddarllen iddi pan fyddai seibiant. Yr oedd gan ei mab hynaf gof da, a thrysorodd lawer o'r Beibl yn ei gof. Yr oedd wedi ei fedyddio gan Dr. Lewis, a mawr oedd hyder fy mam y buasai yn troi allan yn bregethwr. Gall llawer ddiystyrru teimlad fel hyn mewn dynes dlawd, ac edrych arno fel balchder. Ond beth sydd yn fwy ardderchog na gweled mam yn aberthu anwylyd ei henaid ar allor Duw? Mae yn olygfa fil-fil mwy gogoneddus na phe y dymunai iddo goron ymerodraeth eangaf y ddaear. Ond yn hyn. siomwyd fy mam. Ni throdd ei mab hynaf allan yn bregethwr; a phan yn y diwedd y bwriodd ei goelbren ymysg y Wesleyaid, bu yr hen fam am gryn amser mewn cryn amheuaeth am ddiogelwch ei enaid. Credai, beth bynnag, rai blynyddoedd cyn ei marw, ei fod yn "fachgen duwiol," er mai prin y gallai faddeu y Wesleyaeth. Mor bell y mae rhagfarn ac anwybodaeth yn arwain pobl dda o'u lle! Pe y gwrandawai Crist ar yr ysbryd hwn, byddai cawodydd tân ar y ddaear yn llawer amlach na chawodydd gwlaw. "Nid ydynt yn dilyn gyda ni:" nac ydynt, y mae yn wir, ond y maent yn dilyn yr Athraw, ac y mae iddynt, o ganlyniad, Arweinydd gwell na "NI."

Nid lleoedd nodedig am addysg ac ysbryd darllen oedd Rhyd y Main a'r Brithdir, bump a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol. Nid oedd ysgolion dyddiol ond afreolaidd a diwerth. Yr oedd y dyn a dderbyniai y Seren Gomer neu y Dysgedydd, yn oracl; ac os meddai rhywun fwy o lyfrau na'r Beibl, yr Holwyddoreg, llyfr Hymnau heb ei rwymo, sypyn o hen Almanacau wedi eu gwnio ynghyd, a nifer o gerddi yn yr un gadwraeth, yr oedd ganddo "lawer iawn o lyfrau." Yr oedd presenoldeb "Corff Duwinyddiaeth" Dr. Lewis agos yn rhoddi cwbl urddau i dŷ.

Yr oedd tŷ fy rhieni yn llawn o'r tlodi llenyddol hwn. Cynhwysai dri Beibl, Testament Newydd, un llyfr Hymnau, "Taith y Pererin," "Llyfr y Tri Aderyn," "Ffynhonnau yr Iechydwriaeth," (gan Mr. Jones, Pwllheli,) dau rifyn o Drysorfa Mr. Charles, amryw bregethau, diwedd neu ddechreu y rhai oedd ar goll yn gyffredin, ac ychydig o fân-draethodau eraill. Ychwanegwyd at y rhai hyn rywbryd gan fy mrawd yr "Ysgerbwd Arminaidd," a'r "Bardd Cwsg." Yn eu dyddiau plentynaidd, yr oedd y mab hynaf yn bysgotwr campus, a'r ieuengaf bob amser yn hoffi llyfr. Fel y bu oreu y ffawd, yr oedd teulu caredig yn byw yn Esgairwen, lle y derbynnid Seren Gomer, a lle yr oedd amryw lyfrau gwerthfawr eraill, megys Esboniad Dr. Gill, a Hanes Prydain Fawr gan Titus Lewis. Drwy gael benthyg y rhai hyn, a'r Dysgedydd o leoedd eraill, yr oedd, yn gyffredin, ddigon o waith i'r darllennydd ieuanc. Daeth hefyd ar draws y "Blodeu-gerdd," "Gorchestion Beirdd Mon," "Drych y Prif Oesoedd," a "Helyntion y Byd a'r Amseroedd." Darllennodd y rhan fwyaf o'r llyfrau hyn cyn bod yn naw mlwydd oed; ac oni buasai hwy, buasai yn amddifad o'r ychydig wybodaeth gyffredinol a gasglodd yn ei ddyddiau boreol. Rhoddai fy mam bob cefnogaeth 'r awydd hwn am ddarllen.

IX. GWERTH ADDYSG.

Ond o hyn allan, yr oedd tymhestl i gyfodi. Barnai fy nhad y dylasai y bachgen erbyn hyn ddechreu meddwl am ennill ei fara. Nid oedd ei syniadau ef am ddarllen mor uchel a'r eiddo fy mam. Gwyddai hi mai trwy ddarllen y cesglid gwybodaeth, ac mai trwy wybodaeth yr oedd dyrchafiad; a gwyddaí fy nhad mai "trwy chwys dy wyneb y bwytai fara." Ymrwymaf nad oedd dyn yn y wlad yn deall nac yn cofio yr ysgrythyr hon yn well. Yr oedd perthynasau, a phobl dda ddiwyd y Brithdir hefyd, yn hollol o'r un farn; a byddai fy mam, ambell dro, bron o'r un syniadau, wrth gofio, mae yn debyg, mai "yn amlder cynghorwyr y mae diogelwch." Ond, ar y cyfan, gwnai ymdrechion canmoladwy i hyfforddi ac i geisio llyfrau i'r "bachgen bach." Parhau a wnaeth yntau i ddarllen; a phan y dechreuodd feddwl y gallai brydyddu, barnodd fy nhad fod diwedd am dano, ac y dygai ei benwyni i'r bedd mewn tristwch. Credai nad oedd yn ei aros, os dilynai y fath fywyd segurllyd, ond y carchar a'r crogbren.

Ond wedi hir dymhestloedd, wedi parhau o honynt am bump neu chwe' blynedd, canodd yr efrydydd ieuanc yn iach i dŷ ei dad; ac o radd i radd, argyhoeddwyd yr hen wr fod ei fab wedi gweithio iddo ei hun gymeriad gwerth ei gadw; ac o hynny allan, ei gyngor ymadawol bob amser fyddai, —" Edrych atat dy hun; mae dy gymeriad ar dy law dy hun, ac os na ofeli di am dano, ni wna neb arall." Cyngor da, llawn o'r doethineb puraf; a mynych y rhoddwyd ef wrth sefyll ar y ffordd, neu ael y mynydd, neu eistedd ar y dorlan, yn adeg yr ymadawiad.

Ond y fam, wedi y cyfan, oedd wedi ffurfio y meddwl. Oni buasai hi, nis gallasai y meddwl ieuanc lai na suddo. Cauesid ef mewn cylch bychan tywyll a buasai yn alltud bythol i bleserau melusion gwybodaeth, ac yn anwybodus am eangder cyfoeth llenyddiaeth. Ysgrifennir hyn er addysg i famau Cymru. O flaen pob peth, bydded iddynt roddi addysg i'w plant. Gallant eu gadael heb arian, ac heb gyfoeth; ond hwy a agorant y Nefoedd a'r ddaear o'u blaen trwy hyn. Bydded iddynt ychwanegu, fel y gwnaeth fy mam, esiampl dda, a gofal am eu moesoldeb, a'u mynych gyflwyno i ofal y Nef, a'u "plant a gyfodant ac a'u galwant yn ddedwydd."

X. Y TY CROES.

Ni wenodd y byd ar fy rhieni. Er dechreu yn dda, eto, drwy golledion anffodus ar anifeiliaid, a gorfod gwerthu eu heiddo ar symudiad anisgwyliadwy o dyddyn, pan yr oedd prisiau uchel y rhyfel Ewropeaidd wedi gostwng, ni flagurasant fel y lawryf gwyrdd. Er mai llaw y diwyd a gyfoethoga," eto, "nid yw y post aur yn tyfu wrth ddrws pawb." Trefnodd Rhagluniaeth iddynt fywyd isel dros y chwe' blynedd ar hugain diweddaf o einioes fy mam, mewn tyddyn bychan, lle y porthwyd hwy â digon o fara, er na chawsant nemawr o ddanteithion bywyd. Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a mân amaethwyr Cymru. Ni buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na'r pistyll gloew gris- ialaidd o flaen y drws, drwy yr amser. Yn henaint a gwendid fy mam, dangoswyd iddi fawr garedigrwydd a chydymdeimlad gan amryw gyfeillion a chymydogion. Hedd, dedwyddwch, a llwydd- iant iddynt hwy a'r eiddynt oll.

XI. Y DADLEUON.

Fel y crybwyllwyd yn barod, ymunodd fy mam â chrefydd pan yn ieuanc, ac ymlynodd wrthi hyd ei hen ddyddiau. Bu yn addurn ei hieuenctyd, ac yn goron ei phenllwydni. Yr oedd ei sel dros yr achos bob amser yn wresog. Ei barnau athrawiaethol oeddynt uchel-Galfinaidd. Tebyg i'r syniadau hyn gael eu mabwysiadu ganddi yn amser ymraniad eglwysig a gymerodd le yn y Bala, yn fuan ar ol iddi ymuno â'r eglwys yno. Nis gallaf lai nag ystyried rhwygiadau eglwysig yn felldithion crefyddwyr. Crebachant eneidiau dynion, fel na aliant oddef dim, na theimlo dim, ond eu shiboleth gredoawl eu hunain. Llanwant y meddwl â rhagfarn, a thueddant braidd bob creadur bychan i gymeryd arno fod agoriadau pyrth Paradwys yn ei law. Darllennir llyfr Arfaeth mor llithrig a'r llyfr corn. Y mae dirgelion etholedigaeth ar bennau y bysedd. Deallir cyfamod y Prynedigaeth yn well na thaflen pen-llanw y môr yn yr Almanac. Nid oes dim dirgelwch mewn prynedigaeth neillduol. Nid yw esbonio cyfiawnhad yn fwy anhawdd na phlethu gwden llidiart. Mae parhad mewn gras yn athrawiaeth mor hawdd ei deall ag yw teimlo oerfel ar wyliau Nadolig. Nid oes lle i ddadl am danynt. Ynfyd yw y dyn a'u hamheuo. Nid yw yn iach yn y ffydd; mae y gwahanglwyf arno. A'r un modd mae gyda y blaid wahanol. Mae eu hathrawiaethau hwythau fel yr haul, a'r haul fel ei Greawdwr, ac am hynny yn berffaith; a dyna ben ar y mater. Anhawdd i mi ofidio yn rhy ddwys, er mai ofer yw, i rwygiad eglwys Llanuwchllyn niweidio ysbryd crefyddol fy mam. Trwy hyn treuliais flynyddoedd boreuaf fy mywyd yn swn brwydrau duwinyddawl, ac yn cael ar ddeall fod bron holl weinidogion Gogledd Cymru wedi cyfeiliorni yn ddirfawr. Enciliodd fy rhieni o gymundeb yr eglwys yn y Brithdir, gan ystyried eu hunain yn aelodau gyda'r "Hen Bobl," er mai anfynych yr elent i Lanuwchllyn o herwydd pellder y ffordd. Cynyrchodd hyn oerfelgarwch crefyddol. Esgeuluswyd moddion gras i raddau, ac aeth y gwrandawiad yn afreolaidd. Eto, cynhelid yr addoliad teuluaidd i fyny gyda mesur dymunol o reoleidd-dra. Wedi i holl helyntion cyfreithiol Llanuwchllyn fyned drosodd, ac i'r cyfeillion yno gael prawf fod cyfeiliornad mewn buchedd yn llawer mwy dinistriol yn ei effeithiau na chyfeiliornad tybiedig mewn barn, ymunodd fy rhieni drachefn â'r eglwys yn y Brithdir; ond treuliasant fel hyn flynyddoedd gwerthfawr i ennill dim-ond chwerwder ysbryd. Bendith i fyd ac eglwys fuasai heb glywed erioed am derfysg nodedig Llanuwchllyn.

XII. CYFARFODYDD GWEDDI CYMRU.

Yr oedd fy mam yn gallu darllen yn dda, a thrwy hynny dygai holl rannau yr addoliad teuluaidd ym mlaen yn rhwydd. Yr oedd ei galluoedd i weddio yn rhagori ar y cyffredinolrwydd o feibion a merched. Ei bai pennaf mewn gweddi oedd meithder. Clywais ambell weddi deuluaidd dri chwarter awr o hyd. Yr oedd hyn bedair gwaith rhy hir, beth bynnag; ac o'm rhan fy hun, ni ofalwn ddywedyd ei bod yn fwy na hynny. Y mae meithder mor anferthol yn lladd y sylw, ac yn creu mwy o ddymuniad am yr Amen nag am y fendith ofynedig. Arferai fy mam hefyd weddio yn gyhoeddus. Pan oedd yn byw yn Ty'n y Graig, yn agos i'r Arennig, nid oedd ond ychydig foddion gras mewn cyrraedd, heblaw y cyfarfodydd gweddi a gynhelid yn gylchynol yn nhai gwasgaredig y gymydogaeth. Nid oedd nifer y gweddiwyr ond ychydig, ac amryw o'r ychydig hynny yn lled anfedrus. Parodd hyn i'w gwasanaeth fod yn dra derbyniol a chymeradwy. I fy meddwl i, y mae crefydd yn y mynyddau fel yn gwisgo Cymru â gogoniant mwy ysblenydd na phe bai y mynyddau yn oreuredig âg aur coeth. Dacw hwy, ychydig lafurwyr ac amaethwyr tlodion, ar ol hir-ddydd o waith blinderus, yn gadael eu cartrefi ym mrig yr hwyr, ac yn myned dros ffosydd, ac ar hyd y sarn drwy gorsydd, a thros bontbrenau creginllyd, am ddwy neu dair milldir yn yr hwyr i addoli Duw yn rhai o'u tai bychain. Mae y bwthyn wedi ei ysgubo yn drefnus, y tân yn loewach nag arferol, a chanwyll wêr yn barod yn rhyw ran neu gilydd o'r tŷ. Mae Beibl a'r Llyfr Hymnau ar y bwrdd; a chyn hir, darllennir y bennod, rhoddir allan yr emyn, cenir y mawl, ac aberthir y weddi. Nid yw yr addolwyr yn gyfarwydd â llawer o donau, ac ni ddefnyddiant amrywiaethau mawr o fesurau. Mae "Talybont" a'r "Hen Ganfed" ymysg y rhai mwyaf arferol. A phan wrandewir arnynt yn canu

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau
Nid oes neb a ddeil fy mhen,"

neu,

"Mae nghyfeillion wedi myned,
Draw yn lluoedd o fy mlaen,"

mynych y gellir meddwl eu bod wedi cael benthyg

"Swn telynau'r saint,"

neu eu bod am ennyd wedi eu cipio i fyny hyd ym Mharadwys. Ac wedi i'r ban olaf gael ei ddyblu a'i dreblu yn yr emyn, hwy a droant bawb i'w ffordd ei hun, weithiau yn nhywyllwch y ddunos, ac weithiau is pelydr y lloer. Ni ymdrafferthant hwy i esbonio deddfau anian pan ruo y daran uwchben, ond gwyddant y "gwna efe daranu â'i lais yn rhyfedd." Gall y fellten wau o'u hamgylch heb iddynt feddwl am ddim ond yr Hwn sydd yn "gwneuthur ffordd i fellt y taranau." Pan siglo y corwynt eu bythod, meddyliant am yr Hwn sydd yn "marchog ar ei adenydd." A phan ddisgynna y curwlaw yn bistylloedd llifeiriol, eithaf nôd eu hathroniaeth ydyw meddwl am "wlaw mawr ei nerth ef." Gwened y neb a ewyllysio ar y bywyd hwn, y mae yn fywyd dedwydd. Bywyd ydyw sydd yn gloewi cyneddfau, ac yn llonni ysbryd ei feddianwyr. Hebddo buasai gwlad fynyddig fel Cymru yn druenus. Ni buasai pobl Blaen y Cwm na theulu Ty'n y Mynydd nemawr uwch taw barbariaid. Ond y mae Cymru, gyda'i Beibl, ei salmau, hymnau, ac odlau ysbrydol, yn meddu ar elfennau gwir wareiddiad ac enwogrwydd, er ei holl anfanteision a'i diffygion. Hir, hir, mor hir ag einioes y ddaear, y blaguro crefydd ym mynyddoedd Cymru

XIII. WRTH DRAED DR. LEWIS.

Saith milldir oedd taith Sabbathol fy rhieni yn yr amser hwn. Ac eto, byddent yn yr Hen Gapel yn brydlawn i glywed Dr. Lewis yn rhoddi allan ei hoff emyn,—

"Unwaith yn rhagor, fy enaid prudd,
Y gweli'r dydd yn olau;
Unwaith eto cei foliant roi,
I'r hwn sy'n troi'r wybrennau."

Ac ar ol gwrando y bregeth olau ysgrythyrol a ddilynai, ymlwybrent drachefn eu saith milldir yn ol. Ond yr oedd Dr. Lewis yn werth cerdded pedair milldir ar ddeg i'w wrando. Y mae ef, yn ei Esboniad a'i "Ddrych Ysgrythyrol," yn llefaru eto; ac ni wn am un esboniad na chorff o dduwinyddiaeth yn y Gymraeg a ragora arnynt. Y mae mor gynwysfawr ac ysgrythyrol, nes y gellir yn briodol eu galw yn "afalau aur mewn gemwaith arian." Yr oedd golygiadau Dr. Lewis yn Galfinaidd: ac felly yr oedd fy mam, fel yr awgrymwyd yn barod, yn hoff o'r un syniadau. Rhoddodd yr Athrawiaeth Newydd," "Sefyllfa Prawf," a "Gallu Dyn," lawer o boen iddi. Ond drwy y cyfan, ymorweddai ei henaid ar Iawn mawr y Gwaredwr. "Gwaed yr Oen" oedd testyn ei chân yn nhŷ ei phererindod. Goddefodd lawer o gystudd ym mlynyddoedd olaf ei hoes, ond ei hiaith arferol oedd,—

"A raid i gystudd garw'r gro's
Ddilyn fy ysbryd ddydd a nos?
Os rhaid, gwna fi yn toddlon iawn."


AT EI FAM, AR EI DYDD GENEDIGOL.

Mawrth 18fed, 1846.

Fy Mam!—pa fodd y teimlwch chwi,
Os canig fer anfonaf fi,
I'ch annerch, yn lle llythyr rhydd,
Ar hwn, eich genedigol ddydd?
Eich plentyn ie'ngaf ydwyf fi,
A mab eich henaint gerwch chwi:


Eich cofio pan ymhell fel hyn,
Wna'm llygad glas yn ddyfrllyd lyn.
Na thybiwch, er fy mod ymhell,
Nad wyf yn fynych yn fy nghell,
Yn meddwl am fy anwyl fam,
A'm cadwai gynt rhag cur a cham.
Na! agos i fy meddwl i
A'm calon dyner, ydych chwi:
Nis gall ond angau beri nam
I fy serchiadau at fy mam.

Anghofio 'Mam!-nis gallaf hyn,
Tra b'wyf yn teithio yn y glyn;
Ond ati hi, o ddydd i ddydd,
Fy meddwl yn ehedeg sydd.
Er rhaid oedd gadael mam a thad,
Er mwyn yr hon adawai'i gwlad,
Mewn llwyr ymddiried ynnof fi,
Ni pheidiaf byth a'ch cofio chwi.
Fel teg angyles, buoch chwi,
Trwy nos a dydd i'm gwylio i;
Ac, yn eich cofio, gwnaf fy rhan,
Pan ydych hen, a llesg, a gwan.
Yr ydych, Mam, yn mynd yn hen,
Mwy trymaidd yw eich siriol wên,
Nag yn y dyddiau dedwydd fu,
Pan oeddych ieuanc, cref, a chu.
Saith deg a thair o flwyddau'ch oes
Ddarfuant; ac yn ol nid oes
Ond gyrfa fer hyd lan y bedd,
Ac oddiyno fry i Hedd.

FY MAM, da gennyf weld eich bod,
Er dyddiau blin, yn gallu dod,
Rai prydiau, i rodfeydd eich Duw,
At ffrydiau pur y dyfroedd byw.

Cwyd hyn eich meddwl ar eich taith,
Sydd wedi bod yn flin a maith:
Cewch olwg ar y Wlad sydd well,
Cyn esgyn i'r ardaloedd pell.
Ffarwel, FY MAM!-i chwi a'm tad
Cyflwynwn ein hanerchion mad :
Os na chawn byth eich gweld yn nhref,
Cawn gydgyfarfod yn y Nef.

XVI. DYDD ANGLADD FY MAM.

Ac fel hyn, o don i don, ac o nerth i nerth, hi deithiodd ddyffryn adfyd, hyd nos Lun, Ion. 29, 1849, pan y safodd peiriant natur, ac y gadawodd yr enaid yr hen gartref y trigasaí ynddo am 76 o flynyddoedd ond ychydig o wythnosau. Bu farw yn dawel ac yn orfoleddus, meddant i mi. Ond ni chefais yr hyfrydwch trymllyd o ganu yn iach iddi. Yn y munudau yr oedd hi yn gadael pob gofid, yr oeddwn i a chyfaill iddi yn gwneud rhyw drefniadau bychain er ei chysur dyfodol; ond nid oedd eu heisieu. Yr oedd erbyn hyn yn etifedd pob peth. Ar y Mercher canlynol, ar ol dychwelyd o'r swyddfa yn siriolach nag arferol, y peth cyntaf a dderbyniwn oedd llythyr caredig fy hen athraw hybarch, Mr. Jones o Ddolgellau, yn fy hysbysu nad oedd i mi fam mwyach. Nid oedd gennyf bellach ond ymdrechu talu y gymwynas olaf iddi; a thrwy gymhorth ager a cherbydau, dygwyd fi mewn ugain awr i ben taith o wythnos ychydig flynyddoedd yn ol. Yr oedd fy nhad yn weddw, eto, yn hyfrydach ganddo fy ngweled, efallai, nag erioed o'r blaen. Am fy mam, yr oedd hi yn ddistaw iawn,-y waith gyntaf i mi ei gweled yn ddistaw ar fy ymweliad â chartref. Ond nid oedd yn awr na gair na deigryn fel y bu Yr oedd y prydweddau yn lled. debyg fel arferol, ond eu bod yn oerion iawn. Nid oedd llinell o'r wynepryd o'i le, ond y bennaf-bywyd. Ac y mae yn deimlad crynllyd, synllyd, a dychrynllyd i blentyn edrych ar yr hon a roddes fywyd iddo, heb fywyd ei hunan.

Ond y mae yn bryd dechreu yr ŵylnos. Mae y "Beibl Coch" ar y bwrdd, a'r Llyfr Hymnau. Daw yr hen gymydogion i mewn o un un nes oedd y ty yn llawn. Mae Mr. Jones o Ddolgellau wedi dyfod, a'r addoliad wedi dechreu. Bum mewn llawer ŵylnos, gwelais blant yn wylo ar ol rhieni, ond ni theimlais o'r blaen beth oedd wylnos mam. Ond yr oedd yr hen wynebau, yr hen acenion, yr hen donau yn cael effaith ryfedd arnaf. Teimlwn y gallaswn ganu gyda hwy, er fod fy llais ar bob adeg arall yn dra aflafar. Ond ymddangosai y cwbl i mi yn sylwedd. Pan gyfeirid at yr Iorddonen, yr oedd fy mam wedi ei chroesi. Os sonnid am yr Archoffeiriad mawr, yr oedd wedi ei chyfarfod. Os dywedid am wynfyd, yr oedd hi wedi ei gyrraedd. Yr oedd cystudd a galar wedi ffoi ymaith, a llawenydd tragwyddol wedi ei oddiweddyd. Hoff i mi oedd gwrando drachefn ar fy hen athraw, yr hwn er ys mwy na naw mlynedd ar hugain cyn hynny, a offrymasai drosof, ar ddydd fy ngenedigaeth, y weddi gyhoeddus gyntaf, pan y disgwyliai pawb o'm hamgylch i mi farw. Gyda diwedd y gwasanaeth, cyrhaeddodd fy mrawd o'i daith hirbell yntau. Blwyddyn a chwe' mis, cyn y noswaith honno, ymadawem â'n gilydd ar lan Menai, heb dybied mai yn wylnos ein mam y cyfarfyddem nesaf. Ond dyna gyfnewidiadau amser.

A daeth drannoeth, dydd angladd fy mam. Ymgasglai y cymydogion: elai hwn a'r llall "i edrych y corff;" cymerid yr olygfa olaf; cauid yr arch; darllennid a gweddiai William Richard, (un o weddiwyr goreu yr oes,)[1] gyda'i holl ddwysder arferol, a chychwynem i addoldy Rhyd y Main, lle yr addolasai fy mam am lawer blwyddyn. Yno, pregethai cyfaill hoff i fy mam, Mr. Roberts o Lanuwchllyn; ac ar lan y bedd areithiai Mr. Jones. Araf ollyngem y gweddillion marwol i'r gwaelod, eneiniem hwynt â'n dagrau, a chodem ein llygaid tua chymylau y nef, o'r hwn le y disgwyliwn yr Arglwydd a'r Iachawdwr, Iesu Grist, i'w galw ato ei hun yn nydd yr ymweliad. Creulawn ac aniwalladwy yw y bedd! O fewn dwy flynedd a thri mis, gorfododd fi i hebrwng i'w fynwes blentyn, priod, a mam; ond rhyddheir ei holl garcharorion yn nydd dadgload tiriogaeth angeu. "Os ydym yn credu farw Iesu a'i adgyfodi, felly hefyd y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef." Yn yr hyder hwn y gadawem lan y breswylfa lonydd, ac y dychwelem i'r Ty Croes, yr hwn le nid oedd mwyach i adwaen fy mam. Yr oedd ei lle yn wâg a'i llais yn ddistaw. Gwawriasai bore anfarwoldeb ar ei henaid, a gorffwys ei chnawd mewn gobaith am adgyfodiad gwell. Y mae weithian wedi gorffwys blwyddyn ym mro llygredigaeth, a dichon yr erys yno eto fyrddiynau o flynyddoedd; ond gofala yr Hwn sydd yn gwylio ei llwch am "i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb."

Wedi hir fwynhad ei hoes—a gweled
Mai gwaeledd yw einioes;
Hi, drwy ffydd, o'n daear ffoes,
Ar alwad Rhoddwr eiloes.


Huna yn dy ddistaw wely, blinaist ar helbulon oed,
Uwch dy ben y cân yr adar gerdd dy gwsg, o frigau'r coed,
Llithra ffrydiau Iddon heibio, er dy sio yn dy hûn;
Pery honno'n dawel ddedwydd, hyd foreuddydd Mab y dyn.

Mwy ni swyna llais dy glustiau, nes cyhoedda udgorn Nen
Alwad hyfryd i ail fywyd, gwynfyd na ddaw byth i ben;
Trwy fy nagrau gwelaf forau pan gyfodi heb un clwy';
Henflych forau yr ymweliad—ni bydd blin ysgariad mwy!


["Byth nid anghofiwn yr olwg ar Ieuan ar lan y bedd, uwchben gweddillion marwol ei fam, pan yr oedd ei dad ysbrydol yn annerch y dorf,—ei wyneb mor deneu a gwelw, yn edrych i fyny tua'r nef, ei ruddiau rhychiog yn ffrydio o ddagrau, tra yr oedd ei lygaid llymion, treiddgar, yn pelydru o sirioldeb, fel pe yn gweled, trwy ei ddagrau ei hun a'r cymylau uwchben, ysbryd gogoneddedig ei fam yng nghanol Paradwys Duw.

"Buasai yn fam ddyblyg iddo, naturiol ac ysbrydol. Pa wasanaeth bynnag a gyflawnasai i Dduw a'i wlad, a pha safle bynnag a gyrhaeddasai yn eglwys Crist ac yn y byd, o gychwyniad ei yría gyhoeddus hyd lan y bedd hwnnw, teimlai ei fod yn fwy dyledus am y cyfan ag ydoedd i'r cychwyniad rhagorol a gawsai yn blentyn gan yr un a orweddai yn farw i lawr yn ei waelod, nag i neb arall o'i gyd-farwolion. Yr oedd i Catharine Jones, ar lan y bedd y prydnawn hwnnw, y gofgolofn fwyaf priodol a ddymunasai byth gael o'r hyn ydoedd ac a wnaethai hi yn ei bywyd—IEUAN GWYNEDD.

"Nod uchaf uchelgais ei fam oedd i Ifan bach' fod yn bregethwr, i dreulio ei alluoedd a'i fywyd i gyhoeddi y Gwaredwr a'i cadwodd hi yn Waredwr i golledigion ei wlad. Ond i'w phlentyn hi gael yr anrhydedd hwn, boddlawn iawn yr edrychaí ar holl anrhydedd a chyfoeth y ddaear yn myned i'r sawl a'u carent. Ei syniad uchaf hi am urddas daearol, a nod uchaf ei llafur yn addysgu ei dau blentyn, oedd iddynt gael gwasanaethu Duw yn efengyl ei Fab ef. Cafodd argoelion boreuol iawn yn yr ieuengaf fod yr Arglwydd yn debyg o foddhau ei dymuniadau a gwobrwyo ei llafur yn hyn. Pan yn pobi, nyddu, neu wau, neu ynghylch rhyw orchwyl arall wrth y bwrdd mawr' neu ar yr aelwyd, gwnai i'r plentyn, pan nad oedd eto ond tua phump neu chwech mlwydd oed, eistedd gyferbyn, i ddarllen iddi rannau o'r Beibl yn uchel, er mwyn ei addysgu i ddarllen a phwysleisio yn gywir fel pregethwr.' Brydiau eraill cymerai ei destyn, codai ei bennau, a phregethai iddi —nid fel pechadures, ond fel beirniad, i'w hyfforddi yn y gwaith; a hawdd y gellir dychymygu y farn lle yr oedd y fam yn feirniad. Pan nad allai ei fam wrando arno, ai i ben carreg fawr—y garreg olchi—wrth y drws, a phregethai oddiar honno i'r dderwen fawr a'r pistyll bychan gyferbyn gyda brwdfrydedd a boddhad mawr. Mae y pulpud carreg wrth ddrws y Ty Croes, a'r dderwen uchelfrig a'r pistyll bychan gloew gyferbyn ag ef eto; ond y pregethwr plentynaidd ei le nid edwyn ddim o hono ef mwy.'" "R. O. REES."]

Nodiadau[golygu]

  1. Dichon i grybwylliad fel hyn daro yn chwithig ar rai clustiau, er yr hyderaf na thynnaf ddwfr o un llygad. Yr ydwyf wedi gweled rhyw gymaint o Loegr a Chymru yn y deuddeg mlynedd diweddaf o'm heinioes. Clywais lawer o weddiau gan weinidogion ac aelodau. Ond am briodoldeb ymadrodd, priodoldeb erfyniadau, syniadau mawreddig am y Duwdod, hyder ffyddlawn yn aberth y Gwaredwr, ac amgyffred cynwysfawr am ddylanwadau Ysbryd Duw, ni chlywais eto amgenach William Richard. Pa bryd bynnag yr huna, gellir ysgrifennu ar ei fedd,—

    "Yn y graian yma gorwedd un allasai fod yn llawn—
    O wir rywiog fflamau'r awen, a phrydyddol ddenol ddawn;
    Dwylaw all'sent lywio teyrnas, a theyrnwialen wych ei gwawr,
    Ond iselder rewodd ffrydiau swydd—gyneddfau'r enaid mawr."