Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod XIV

Oddi ar Wicidestun
Pennod XIII Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod XV


PENNOD XIV

Mr. Gladstone yn Brif Weinidog—Etholiad Mr. Richard—Ei Areithiau, a'i amddiffyniad i'r Cymry—Y Mesur Claddu—Ei Areithiau yn y Senedd—Ei ymgais gael lleihad yn ein Darpariadau Milwrol—Helynt y Transvaal.— Barn Mr. Richard arno—Anerchiad iddo yn Leicester a Merthyr.

(1880) Ar ddechreu y flwyddyn 1880, yr oedd yn amlwg fod cwymp Gweinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield gerllaw. Nid oedd modd iddi ddal ymosodiadau Mr. Gladstone yn Midlothian. Blinodd y wlad ar yr Imperialism hwnnw y sonnid cymaint am dano y pryd hwnnw, fel yn awr. Yr oedd yr Etholiadau achlysurol yn troi yn ei herbyn, masnach ac amaethyddiaeth yn isel, y cyllid yn isel, y costau wedi cynhyddu, a'r wleidyddiaeth dramor yn blino teimladau a chydwybodau dynion goreu y deyrnas. Datgorfforwyd y Senedd ar y 24ain o Fawrth, 1880. Cymerodd Etholiad Cyffredinol le, a dychwelwyd y blaid Ryddfrydig gyda mwyafrif mawr. Etholwyd Mr. Richard drachefn dros Ferthyr Tydfil ar yr

ail o Ebrill, a gosodwyd ef ar ben y rhestr fel y gwelir isod,

Richard………………8,035
James ………………7,526
Lewis…………………4,415

Yr oedd yn naturiol i Mr. Richard deimlo yn llawen fod ei gydweithiwr aiddgar, Mr. James, wedi ei ddychwelyd trwy fwyafrif mor fawr. Am Mr. Lewis, ymgeisydd anibynnol ydoedd mewn enw; ond yr oedd yn dibynnu, er hynny, yn bennaf ar bleidleisiau perchenogion y Cloddfeydd Glo a'u goruchwylwyr. Yn anerchiad clir a gonest Mr. Richard at yr etholwyr, dywedai ei fod wedi eu cynrychioli am ddeu- ddeng mlynedd, ac felly, fod ei egwyddorion yn berffaith hysbys iddynt,—sef, Cydraddoldeb Crefyddol, Cyflafareddiad, Helaethiad yr Etholfraint, Diwygiad yn ein Cyfreithiau Tirol a'n Cyfreithiau Trwyddedol, Symleiddiad Deddfau Troseddau, Symud Cwynion rhesymol y Gwyddelod, Uniawni Trethiad India, ac, wrth gwrs, Heddwch.

Nid oedd yn credu fod llwyddiant Prydain yn debyg o gael ei sicrhau trwy dwyll, trais, a gwaed, ond trwy gerdded llwybrau Heddwch, a chofio yn ein holl drafodaeth mai "Cyfiawnder a ddyrchafa genedl." Yn yr Etholiad hwn profodd Cymru ei hun yn ffyddlon i'w hegwyddorion. Ni ddanfonodd ond dau Geidwadwr i'r Senedd, sef, Syr Watkin Wynn ac Arglwydd Emlyn; a mawr oedd y difyrwch ar y pryd pan ddywedid y gallent fyned i fyny gyda'u gilydd i Lundain mewn un cerbyd, a phe buasid wedi dod ag ymgeisydd arall yn Sir Gaerfyrddin, yn ol pob tebyg, buasai deurod yn ddigon i'r pwrpas. Hawdd credu fod hyn yn llonder mawr i Mr. Richard, yr hwn a fu mor ffyddlon yn cymhell y Cymry i lynnu wrth eu hegwyddorion fel Ymneillduwyr, ac yn arbennig hefyd am ei fod yn edrych ar yr Etholiad hwn fel condemniad ei gydwladwyr ar wladweiniaeth dramor Arglwydd Beaconsfield.

"Y cwestiwn, a'r unig gwestiwn," meddai Mr. Richard, mewn erthygl a ysgrifennodd ar yr achlysur, mewn effaith ydoedd hwn,—'A ydym ni i gael gwladweiniaeth dramor ryfelgar ynte un heddychol?' Trwy gydsyniad cyffredin yr oedd pob cwestiwn arall wedi ei roddi i fesur o'r naill du a'i ohirio. Yn ffodus y mae yr ateb wedi bod yn glir, yn benderfynnol, a digamsyniol, ac y mae hyn i mi yn destyn llawenydd dwfn a didwyll."

Llawenychai yn fawr hefyd fod dros gant o'r mwyafrif yn Anghydffurfwyr.

Ysgrifennodd Mr. Richard lythyr maith i'r Daily News, ar y 27ain o Ebrill, yn taflu golwg dros yr Etholiad hwn. Heblaw nodi y ffaith fod yr Etholiad yn dangos fod Cymru yn genedl o Anghydffurfwyr, ac yn cashau rhyfel, cyfeiriodd at y cyhuddiad a wnaed gan Arglwydd Penrhyn fod y Cymry wedi torri eu haddunedau fel etholwyr. Nid oedd yn credu fod llawer o sail i'r cyhuddiad, ond gwasgai adref yr ystyriaeth, ai nid oedd y cyhuddiad, os oedd yn wir, yn dangos mai cenedl o. Ryddfrydwyr oedd y Cymry, ac o ganlyniad, nad oeddent yn ffafriol i'r Toriaid? Gwnaeth sylwadau tarawiadol iawn hefyd ar y cyhuddiad fod y Gweinidogion Ymneillduol wedi arfer eu dylanwad; a gofynnai, yn enw pob rheswm, pam na chaent wneud hynny cystal a'r clerigwyr. Yr oedd eu dylanwad yn un moesol, ac o ganlyniad yn un iachus a gonest. Nid oedd y mawrion yn deall iaith y bobl, ac ni wyddent fawr am eu gwir syniadau. Dylasai y ffaith fod 26 o'r cyfnodolion yng Nghymru yn rhai Rhyddfrydig ac Anghydffurfiol ddysgu gwers i'r pendefigion hyn.

Traddododd Mr. Richard hefyd rai areithiau grymus yn yr Etholiad hwn. Mae yr un a draddododd yn Neuadd tref Llanidloes, yn yr hon y mae yn cymharu Gweinyddiaeth flaenorol Mr. Gladstone a Gweinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield a'i dilynodd, yn un o'r rhai mwyaf effeithiol o'i eiddo; ac y mae ei gondemniad o spirited foreign policy yr olaf, yn dangos fod Mr. Richard yn feistr perffaith ar holl helyntion tramor y Weinyddiaeth honno. Yr oedd yn diolch i Dduw, yn onest, meddai, fod dyddiau y fath Weinyddiaeth wedi terfynnu. Yr oedd y diweddar Barch. Thomas Evans, wrth gyflwyno diolchgarwch i Mr. Richard am ei araeth ragorol, yn ei alw "yr areithiwr aurennau hwnnw, John Bright Cymru, sef, Mr. Henry Richard."

Disgwylid llawer oddiwrth y Senedd newydd. Temlai Cymru ei bod wedi ennill ei rhyddid cenedlaethol, ac y gallai bellach ymddiried yn llwyr i ddiogelwch y tugel. Yna mis Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod mawr o Gymry yn y Palas Grisial, i ddathlu yr amgylchiad. Dywedir fod tua 4,000 o bobl yn bresennol. Yr oedd cerbydau rhad yn rhedeg i'r brif ddinas o wahanol barthau y Dywysogaeth. Siaradodd Mr. Richard yn y cyfarfod yn y ddwy iaith. Yn ystod y cyfarfod daeth Mrs. Gladstone a'i merch, a'i mab, Herbert, i mewn, ac aethant ar y llwyfan.

Danfonodd y Frenhines am Arglwydd Hartington i geisio ffurfìo Gweinyddiaeth, ac wedi hynny am Arglwydd Granville, ond nid oedd y naill na'r llall yn barod i ymgymeryd â'r gorchwyl. Gwyddent mai Mr. Gladstone oedd yr unig un a fyddai gymeradwy gan y Senedd a'r wlad, beth bynnag oedd teimlad ei Mawrhydi ei hun. Fel y gwyddis, bu raid danfon am "yr hen ŵr ardderchog," ac, ar ol llawer o drafferth, ffurfiodd Weinyddiaeth. Ymysg Aelodau y Cyfrin-Gyngor yr oedd y fath Ryddfrydwyr pendant a Mr. John Bright a Mr. Joseph Chamberlain. Y mae yn syn meddwl yn awr fod gwrthwynebiad mawr, gan rai o'r gwŷr mwyaf cymhedrol, i Mr. Chamberlain, am ei fod yn rhy Radicalaidd!

Gan fod Syr G. Osborne Morgan yn un o Aelodau y Weinyddiaeth newydd, ni fu yn hir cyn dwyn cwestiwn y Mesur Claddu i sylw, ac fe wyddis y bu Mr. Richard yn gynhorthwy mawr yn yr achos hwn. Cariwyd ef, ym mis Awst, trwy fwyafrif o 258 yn erbyn 79. Ceisiwyd llurgynio y Mesur yn y Tŷ Uchaf, ac anafwyd rhyw gymaint arno, ond pasiodd o'r diwedd. Nid oes eisieu dweud fod Mr. Richard wedi cymeryd rhan bwysig yn y dadleuon ar y cwestiwn hwn. Gwnaeth ymdrechion egniol hefyd i gael gwelliant yn Neddf y Claddfeydd Cyffredin, ac ymladdodd lawer i'w chael yn fwy cydweddol â dymuniadau Anghydffurfwyr, ond yr oedd y rhwystrau ar y pryd yn anorfod. Yr oedd Mr. Richard yn ffyddlon yn presenoli ei hun yn y Senedd, ac yn barod i wasanaeth bob amser y gelwid arno. Siaradodd yn gryf yn erbyn y mesur i gymeryd Cyfrif o Grefydd y bobl yn 1881, ac o blaid Mesur Cau y Tafarnau ar y Saboth. Wrth siarad ar y blaenaf, rhoes gystwyad i Mr. Beresford Hope a ddylasai fod yn wers iddo. Ar yr un pryd yr oedd gorchwylion Mr. Richard mor lluosog, ynglŷn â'r materion hynny yr edrychai arnynt yn brif waith ei fywyd, fel nad oedd am esgeuluso y rhai hynny i wrando ar bob math o siaradach, hyd yn oed yn y Senedd.

(1880) Ar y 15fed o Fehefin, cafodd gyfleustra i ddwyn o flaen y Tŷ gwestiwn ag oedd yn agos iawn at ei galon, ac un y bu efe, a phleidwyr Heddwch, yn gwneud darpariadau lawer ar ei gyfer. Cynhygiodd y penderfyniad pwysig canlynol,—"Fod anerchiad gostyngedig yn cael ei gyflwyno i'w Mawrhydi yn erfyn arni weled yn dda, yn rasol, i orchymyn i'w Phrif Ysgrifennydd Tramor i ymohebu â Galluoedd ereill i'r diben o gydleihau arfau milwrol yn Ewrob." Yr oedd yr araeth a draddododd ar yr achlysur hwn yn un o'r rhai mwyaf hapus, a chafodd wrandawiad astud a pharchus. Nis gallwn ond nodi ei sylwedd. Ar ol rhai sylwadau rhagarweiniol, dywedai mai nid y tir y safai arno oedd tir "heddwch am unrhyw bris," ond tir ag y gallai amddiffynnydd mwyaf aiddgar rhyfel sefyll arno. Gosodai i lawr, yn gyntaf, y ffaith fod arfau milwrol Ewrob ar y pryd yn arswydus o fawr a chostus, mor fawr fel y gellid tybied mai gwir atebiad i'r cwestiwn yn y Catecism,—"Beth yw prif ddiben creadigaeth dyn?" ddylasai fod, "Paratoi i ymladd." Olrheiniodd ddechreuad a chynnydd byddinoedd sefydlog, a'r modd yr oeddent yn cael eu chwanegu bob amser ar ol rhyfeloedd, a bod y pryd hwnnw tua 12,000,000 o wŷr yn cael eu hyfforddi yn Ewrob yn y gelfyddyd o ymladd, a bod tua 4,000,000 yn barhaus o dan arfau, a'r gost tua 500,000,000 o bunnau yn y flwyddyn. Danghosodd fel yr oedd y fath swm yn tlodi gwledydd, nid yn unig oherwydd yr arian a werid, ond hefyd y golled trwy fod cynnifer yn cael eu troi oddiwrth lafur enillgar. Difawyr oedd milwyr, ond nid cynyrchwyr. Y cwestiwn pwysig i'w ofyn ydoedd,—"A oedd y gwŷr arfog hyn yn diogelu heddwch gwledydd?" oblegid dyna a ddywedid oedd eu hamcan. I'r gwrthwyneb, yn ystod yr ugain mlynedd blaenorol yr oeddid wedi gwario y swm enfawr o 3,000,000,000 o bunnau ar ryfeloedd. Taflodd olwg dros brif wledydd Ewrob, a danghosodd, trwy ffigyrau diwrthbrawf, fel yr oeddent yn tlodi y teyrnasoedd hynny, ac yn eu gwasgu i'r llawr; ac yna daeth at y cwestiwn mawr, pwysig,—Ai nid oedd modd gwneud dim i roddi atalfa ar y gyfundrefn ffol hon. Dygodd dystiolaethau rhai o brif wladweinwyr y byd fod yn bryd gwneud rhywbeth yn y cyfeiriad hwnnw, neb amgen nag Arglwydd Derby, Mr. Gladstone, Mr. Bright, Syr Robert Peel, Arglwydd Beaconsfield, Duc Wellington, ie, a'r Times hefyd, yr hwn a ysgrifennai,—"Os pery pethau fel hyn, bydd yn warth i wladweinwyr Ewrob; ar eu hysgwyddau hwy y bydd y cyfrifoldeb yn gorffwys." Danghosodd hefyd fel yr oedd Seneddau, a phrif wyr y Cyfandir, y rhai y cyfarfu efe â hwynt, wedi datgan cymeradwyaeth i'r amcan hwn. Nid oedd heb wybod fod anhawsterau lawer i gario y peth allan, ond gofynnai, gyda phwyslais arbennig, os oedd gwladweinwyr Ewrob wedi gallu ychwanegu at eu harfau milwrol mewn ffordd o gydymgais, paham nad allent eu lleihau yn yr un modd. Wrth derfynnu, apeliodd at Mr. Gladstone, mewn geiriau hyawdl a theimladwy, i gymeryd y mater i ystyriaeth. Yr oedd wedi ennill llawer llawryf yn ei oes; ond os ymaflai yn y cwestiwn hwn o ddifrif, nid oedd un llawryf mwy gwyrdd a allai amgylchu ei dalcen na'r un a enillai trwy ddwyn y cenhedloedd i gydymgais i ostwng eu harfau milwrol.

Yr oedd yn amlwg fod yr araeth argyhoeddiadol hon wedi effeithio ar ddeall a theimlad Mr. Gladstone, oblegid pan gododd i siarad, ar ol i ereill gymeryd rhan yn y ddadl, danghosodd ei fod mewn llawn gydymdeimlad ag egwyddor araeth Mr. Richard; ni wadodd un o'i ffeithiau, yn hytrach gwnaeth rai o honynt yn gryfach. Ond, ar y cyfan, nid oedd yn barnu yn ddoeth pasio penderfyniad nad oedd y Tŷ yn barod i'w gario allan yn ymarferol. Yn y cyfwng hwn petrusai Mr. Richard ai doeth oedd rhannu y Tŷ, gan ei fod wedi cael araeth mor gefnogol gan y Prif Weinidog. Tra yn petruso fel hyn, galwodd Mr. Bright arno i ddod ato, a dywedodd yn ddistaw wrtho os boddlonai i newid rhyw gymaint ar ei gynhygiad ei fod yn credu y caniatai Mr. Gladstone iddo basio. Felly bu. Pasiodd y Tŷ, yn unfrydol, y cynhygiad canlynol,—"Fod y Tŷ hwn o'r farn mai dyledswydd Llywodraeth ei Mawrhydi ar bob achlysur, pan fyddai amgylchiadau yn caniatau, oedd cynghori llywodraethau tramor i leihau eu harfau milwrol." Er nad oedd cyfeillion Heddwch yn ystyried eu bod wedi cael eu hamcan, credent fod cam pwysig wedi ei gymeryd yng nghyfeiriad eu hegwyddorion. Ystyriai rhai o bapurau mwyaf dylanwadol y deyrnas fod Mr. Richard wedi gwneud gwaith mawr a phwysig. Dyna oedd llais y Daily News, y Daily Chronicle, a phapurau ereill; ond, wrth gwrs, yr oedd rhai o wŷr hunan-dybus y Wasg, fel arferol, yn gwawdio.

(1881) Ar y 29ain o Ebrill, 1881, dygodd Mr. Richard gwestiwn arall pwysig iawn o flaen y Ty, sef y modd yr oedd ein llyngeswyr, a'n cynrychiolwyr mewn parthau pellenig o'r byd, yn cweryla â gwledydd barbaraidd, ac yn ymosod arnynt, ac weithiau yn achosi rhyfel rhwng y wlad hon a'r gwledydd hynny, heb fod y Llywodraeth gartref wedi rhoddi un math o awdurdod iddynt. Traddododd araeth faith ar yr achlysur, a dygodd brofion allan o'r "Llyfrau Gleision" a osodid o flaen y Ty, y rhai, y mae lle i ofni, nad oes ond ychydig yn eu darllen, ag oedd yn peri syndod cyffredinol. Yr oedd yn amlwg fod yr araeth hon hefyd wedi ennill llawer o gydymdeimlad Mr. Gladstone, oblegid ei eiriau cyntaf yn ei atebiad ydoedd y rhai hyn,—

"Mae y maes a agorwyd gan fy nghyfaill anrhydeddus, fel y mae wedi sylwi yn bur briodol, yn un eang iawn. Nid wyf wedi gwrando ar areithiau fy nghyfaill anrhydeddus ar faterion fel hyn, un amser, heb lawer iawn o gydymdeimlad â'r rhan fwyaf o'r syniadau y maent yn eu cyfleu, ac yn enwedig â'r amcan a'r pwrpas cyffredinol sydd ganddo mewn golwg. Yr amcanion hynny bob amser yw,—cyfiawnder, dyngarwch, a thynerwch."

Addefodd fod gan y Senedd, yn yr amser a fu, lawer iawn mwy i'w ddweud ar gwestiynau o ryfel nag oedd ganddi yn awr.[1] Collodd cynhygiad Mr. Richard, pa fodd bynnag, trwy fwyafrif o wyth, sef 64 yn erbyn 72. Yn y flwyddyn hon, cododd helynt yn y Transvaal Nid ydym am ddadleu yr helynt hwnnw yn y fan hon. Gwyddis yn dda fod llawer yn ceisio haeru na ddylasai Mr. Gladstone adferu anibyniaeth y Transvaal ar ol i ni unwaith gymeryd meddiant o honi; ie, er ein bod wedi gwneud hynny ar y dybiaeth fod y Boeriaid yn dymuno bod dan iau Prydain, ac ein bod wedi cael allan wedi hynny fod hynny yn gyfeiliornad dybryd. Ond nid dyna oedd barn Mr. Richard, nid dyna oedd barn Mr. Gladstone, na barn Mr. Chamberlain—nac ychwaith farn mwyafrif Tŷ y Cyffredin ar y pryd y dadleuwyd y cwestiwn. Mae Mr. Richard, mewn erthygl glir a galluog yn yr Herald of Peace, yn trin y cwestiwn, a dywed, pe buasai y Tŷ wedi ymddwyn yn wahanol i'r modd y darfu, y buasai yn teimlo yn anobeithiol am ei wlad.

"Yn ol ein barn ni," meddai, "ni chyflawnwyd gweithred fwy ardderchog gan unrhyw Lywodraeth na'r un a gyflawnodd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn yr achos hwn. . . . un peth oedd derbyn llywodraeth gwlad o ddwylaw rhai oedd yn awyddus i'w rhoi i fyny, ond peth arall oedd cymeryd meddiant o honi a'i chadw â llaw gadarn. . . . Oddiwrth yr hyn yr ydym wedi ei gael allan trwy ymchwiliad, yr ydym yn credu fod ein gwaith yn cysylltu y Transvaal wrth ein Hymherodraeth ni, yn weithred o drawsfeddiant o'r natur fwyaf digywilydd ac anghyfiawn a ellir ei gael yn hanes y byd. Pe buasem wedi apelio at deimladau rhyfelgar y wlad hon, ac wedi penderfynnu cadw meddiant o'r Transvaal trwy ein nerth milwrol, mae yn ddiameu y buasem yn y diwedd wedi gorchfygu y Boeriaid; ond buasem am flynyddoedd, os nad am genedlaethau, wedi gorfod eu dal tanodd trwy nerth milwrol. Pan feddyliom ei fod wedi ei brofi wedi hynny fod 6,591 yn erbyn 587 wedi pleidleisio, er gwaethaf bygythiadau, o blaid anibyniaeth, nid rhyfedd fod Mr. Gladstone wedi dweud yn y Tŷ fod anrhydedd Prydain yn galw am i ni adferu iddynt eu hanibyniaeth heb ychwaneg o dywallt gwaed, ac wedi cyhoeddi dymuniad cryf i fyw yn heddychol â phobl ddewr, y rhai a brofasant eu hunain yn deilwng o fod yn arloeswyr ffordd gwareiddiad yn erbyn gormesdeyrniaid Affrica." Hawdd canfod oddiwrth y geiriau hyn fod Mr. Richard yn mawr gymeradwyo yr hyn a wnaeth Mr. Gladstone y pryd hwn, a'i fod ynhell o edrych arno yn un o gamgymeriadau mwyaf oes y gŵr mawr hwnnw, fel dadleuir gan lawer yn y dyddiau hyn.

Yn Hydref, 1881, cyflwynwyd anerchiad i Mr. Richard gan Gymdeithas Heddwch Leicester. Yn y cyfarfod gwnaeth gyfeiriadau dyddorol iawn at waith mawr ei fywyd, sef "ceisio parhau adsain anthem yr angylion,—'ar y ddaear tangnefedd, ac i ddynion ewyllys da." Yr oedd, meddai, wedi bod am 34 mlynedd a mwy, yn ceisio cario y genhadwri honno i bob parth bron o Loegr, Cymru, Ysgotland, a'r Iwerddon, ac yr oedd wedi talu cynnifer a 30 o ymeliadau a'r Cyfandir, a thrwy gyfarfodydd a chynhadleddau, wedi gwneud a allai i ddal i fyny adsain yr anthem ogoneddus honno.

Yn Eisteddfod Merthyr, yn 1881, cawn Mr. Richard yn llywyddu yn y prif gyfarfod. Cyflwynwyd anerchiad iddo yn nodi y gwahanol ffyrdd yr oedd wedi gwasanaethu ei genedl, ac yn ystod ei atebiad—yng Nghymraeg —dywedodd, er ei fod wedi bod am hanner can mlynedd yn Lloegr, nad oedd wedi anghofio Cymru; a phan aeth i Lundain gyntaf ei fod wedi penderfynnu tri pheth, sef nad anghofiai iaith ei wlad, nad anwybyddai bobl a sefydliadau ei wlad, ac y defnyddiai bob cyfleustra a gaffai i amddiffyn cymeriad a buddiannau ei wlad. Mae holl fywyd Mr. Richard ar ol hynny yn dangos gyda'r fath lwyredd y cadwodd at y penderfyniadau hyn. Pan oedd y gweithfeydd wedi sefyll yn ardaloedd Merthyr, gwnaeth Mr. Richard bob ymdrech i godi cronfa er cynorthwyo y gweithwyr, a chasglwyd yn agos i 5,000p., a threuliodd ddyddiau lawer yn y gymdogaeth er mwyn cael allan wir sefyllfa pethau.

Nodiadau[golygu]

  1. Dadl Mr. Gladstone oedd fod y rhan fwyaf o'r engreifftiau a nodwyd gan Mr. Richard wedi eu derbyu yn ffafriol gan y wlad wedi hynny; ond, fel y dywedai Mr. Richard ar ol hynny, un peth ydyw cyfiawnhau gweithred y bwriedir ei chyflawni, a pheth arall ydyw peidio ei chondemnio ar ol iddi gael ei chyflawni.