Bywyd a Llafur John Wesley

Oddi ar Wicidestun
Bywyd a Llafur John Wesley

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

HANES BYWYD A LLAFUR

JOHN WESLEY

  MAE JOHN WESLEY yn un o'r dynion mwyaf hynod mewn duwioldeb a llafur a ymddangosodd ar y ddaear er dyddiau Paul yr Apostol, ac nis gall byr hanes ei fywyd lai na bod yn fendithiol i'n darllenwyr. Ni chaniatâ gofod i ni roddi ond crynodeb byr ac amberffaith o'i hanes, a hyny yn benaf o'i lafur a'i erlidigaethau. Mab ydoedd i'r Parch. Samuel Wesley, a Susanah ei wraig. Llafuriai ei dad yn mhlwyf Epworth, fel gweinidog perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Disgynai ei rieni, yn ochr ei dad a'i fam, o fonedd uchelfri. Ganed iddynt bedwar-ar-bymtheg o blant, a'n gwrthddrych ydoedd eu pymthegfed plentyn. Ganed ef Mehefin 17eg, 1703, yn mhersondy Epworth, a bedyddiwyd ef yn mhen ychydig oriau yn John Benjamin. Yn gynar iawn dropiwyd Benjamin o'i enw. Magwyd ef yn y modd mwyaf rheolaidd a gofalus. Yr oedd ei fam yn un o'r mamau rhagoraf, a'i dad yn wr o dalent, dysg, a duwioldeb diffuant.

Yn y flwyddyn 1709, pan nad ydoedd John Wesley ond chwe' mlwydd oed, llosgwyd y persondy am yr ail waith; a bu agos iawn i'w fywyd fyned yn ysglyfaeth i'r fflamau echryslawn. Un noson, pan oedd y teulu oll wedi myned i dawel hûn, deffrowyd y clerigwr gan lais o'r heol yn gwaeddi Tân, tân!" Pan ddeallodd efe ystyr y waedd, cyfododd ac agorodd ddrws ei ystafell wely, a gwelai fod y ty ar dân, a'r to ar syrthio i mewn. Yn ddiatreg, galwodd ei deulu i fyny, ac ar unwaith i ddiange allan am eu heinioes; ac yn mhen ychydig funudau, wedi diange o honynt, rhai drwy y ffenestri, a'r lleill drwy ddrws yn yn nghefn y tŷ, wele y tad a'r fam, y plant a'r morwynion, allan o gyrhaedd y perygl. Ond wedi ymbwyllo ac edrych, och yr oedd John bach ar ol! Ymddengys fod Charles, y baban dau fis oed, tair chwaer bach, John eu brawd, a'r fagwraig, oll yn cysgu yn yr un ystafell pan dorodd y tân allan. Yn ei dychryn a'i brys, wedi cipio y baban yn ei breichiau, a gorchymyn i'r plant ereill i'w dylyn, rhuthrodd y llangces allan, gan adael John ar ol, heb gofio ei ddeffro. Pan welwyd ei golli, yr oedd eu braw yn ddirfawr! Ar hyn clywyd gwaedd plentyn yn nghanol y tân. Rhuthrodd y tad drwy y mŵg a'r tân i mewn drwy y drws, gan geisio dringo y grisiau i achub ei blentyn; ond torodd y grisiau llosgedig o dan ei draed. Pan welodd hyn penliniodd yn y cyntedd tanllyd i gyflwyno ei blentyn i ofal Gwaredwr y tri llange. Yn y cyfamser, deallodd y bachgen ei berygl, dringodd ar y ffenestr, a thaflodd hi n agored. Yna gwelwyd ef ond pa fodd y gellid ei achub Nid oedd ysgol yn agos, nac amser i gyrchu un o bell. Angenrhaid yw mam dyfais. Mor gyflym ag ymdaith y fellten, safodd un dyn cryf wrth y pared dan y ffenestr, dringodd dyn arall i fyny ar ei ysgwyddau; a phan oedd y to ar syrthio, a'r gwyddfodolion yn dal eu hanadl, achubwyd y plentyn, "fel pentewyn o'r tân!" Arweiniwyd y fam feddylgar gan yr amgylchiad hwn i gasglu fod gan Dduw waith o bwys i'w mab achubedig i'w gyflawni; a gwnaed argraff ddofn o ddifrifwch ar ei feddwl yntau hefyd, yr hon a barhaodd am weddill ei oes.

Dygwyd ef i fyny yn ofalus a deheuig, a dechreuodd ymddadblygu yn fore mewn dealltwriaeth a chrefyddolder. Yn ei wythfed flwyddyn, derbyniodd y cymun o law ei dad; a phan oedd yn ddeng mlwydd a haner, efe a anfonwyd oddi cartref i'r ysgol. Fel ei holl frodyr a'i chwiorydd, addysgwyd John Wesley yn elfenau addysg gan ei fam. Yn y flwyddyn 1714, anfonwyd ef i Ysgol y Charterhouse, yn Llundain. Yn yr ysgol hono yr addysgwyd Addison a Steele, a Barrow a Blackstone, ac amryw enwogion ereill. Er fod John Wesley yn derbyn ei ddillad a'i addysg yn rhad yno, dyoddefodd gryn galedi a cham oddiar law y bechgyn mawr, ac ofnai y buasai ei iechyd wedi pallu oni bai am yr arferiad oedd ganddo o redeg dair gwaith o gwmpas yr ardd bob bore, yn or gorchymyn pendant ei dad. Tra yr ydoedd efe, a Charles ei frawd, yn y, Charterhouse, mawr flinid eu teulu yn Epworth gan rywbeth a aflonyddai ar y persondy. Cyfeirir at hyn gan ei holl fywgraffwyr, a chynygia y naill a'r llall at esbonio y dirgelwch. Dywedir y clywid yn ac oddeutu y ty ryw swn dyeithriol—yn awr fel gruddfanau trymion, ac yna fel curiadau uchel, a thrachefn yn debyg i swn traed dyn yn disgyn ac yn esgyn y grisiau. Clybuwyd pethau o'r fath yma gan holl deulu y tŷ, y dydd fel y nos, drachefn a thrachefn, am oddeutu dau-fis, a pharodd anghysur dirfawr iddynt.. Ond pa gyfrif oedd i'w roddi am dano? Priodolai Isaac Taylor y cwbl i ofergoeledd y teulu. Ond credai Wesley ei hun ei fod yn rhyw beth gwrthddrychol a goruwchnaturiol; ac amddiffynir ei olygiad yn fedrus gan y brenin- fardd Southey, a chan Tyreman, ei fywgraffydd diweddaraf a rhagoraf. Modd bynag gwnaeth "Old Jeffrey," fel y gelwid y bwgan, argraff annileadwy ar ei feddwl ef a'i deulu o barth i fodolaeth ac agosrwydd y byd ysprydol. Wedi treilio wyth mlynedd yn y Charterhouse—y tymhor mwyaf y gellid aros yno—etholwyd ef i Goleg Eglwys Crist yn Rhydychain, lle y bu hyd ar ol ei ordeiniad yn y flwyddyn 1725. Nid ydoedd ond ieuange pan aeth yno. Cynyddodd yn gyflym mewn gwybodaeth a dysg; a phan yn dair mlwydd ar hugain oed, etholwyd ef yn gymrawd o Goleg Lincoln, yr hyn oedd yn anrhydedd iddo, ac yn ffynonell o elw arianol blynyddol iddo tra y parhaodd yn ddibriod. Llonwyd ei dad yn ddirfawr pan glywodd am hyn. Ar ol enill ei gymrodoriaeth, bu yn gurad i'w dad am ddwy flynedd mewn lle o'r enw Wroote; ond ar gais Dr. Morely, rector Coleg Lincoln, cefnodd ar y guradiaeth, a dychwelodd i Rydychain, lle y daeth yn athraw ac yn gymedrolwr y dadleuon a gynelid yn y neuadd chwe' gwaith yn yr wythnos. Ac yno y bu nes yr ymfudodd i Georgia yn 1735. Dylid manylu ychydig yma, oblegyd fod yr wyth mlynedd dylynol i'w etholiad i gymrodoriaeth Lincoln yn un o'r cyfnodau pwysicaf yn mywyd ein gwrthddrych, yn ogystal ag yn hanes crefydd yn y deyrnas hon. Dyma y pryd y ffurfiwyd y "Gymdeithas Sanctaidd," fel y gelwid hi, o'r hon yr ymddadblygodd y Methodistiaid; ac yn fuan, y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr. Cyfansoddwyd y gymdeithas hono gan gynifer o fyfyrwyr ieuainge duwiolfrydig a ymwasgent ynghyd i anog eu gilydd i gynyddu yn ngras a gwybodaeth yr efengyl, ac i ymarfer gyda dyfalwch neillduol ddefosiynau yr Eglwys. Boreu—godent, gan neillduo oriau penodol i ymarferion dirgelaidd. Cyfranogent o'r cymun yn rheolaidd bob Sabbath, ymprydient bob dydd Mercher a dydd Gwener, ac ymgyfarfyddent bob prydnawn i efrydu y Testament Groeg, ac i gyfoethogi eu hunain mewn gwybodaeth grefyddol trwy gyd-ddarllen llyfrau da ereill. Ymgysegreat gyda sêl i weithredoedd o gymwynasgarwch ymarferol trwy ymweled â charcharorion, egwyddori plant yn y Catecism, cyfranu elusenau i'r tylodion, ceisio lleshad ysprydoly myfyrwyr ereill, ac achub pob cyfleusderau i dderbyn a gwneuthur daioni. Oherwydd fod cynllun, cysondeb, a rheol i'w gweithrediadau, galwyd hwy oddiar wawd yn Drefnyddion (Methodists), yr hwn enw a lynodd hyd y dydd heddyw wrth ddysgyblion Wesley a Whitfield. Pedwar oedd nifer yr "Holy Club" ar y cyntaf; wedi hyny chwyddodd eu rhifedi i naw. Heb roddi enwau yr oll honynt, dylid nodi fod James Harvey, George Whitfield, a Charles Wesley yn aelodau amlwg; ond enaid a llywydd y gymdeithas oedd John Wesley. Achlysur ei sefydliad ydoedd sefyllfa isel y brifysgol mewn moesoldeb. Teimlai gwyr ieuaingc cydwybodol nad oedd modd iddynt fyw yn y fath le, yn agos fel y dylid, heb ymneillduo oddiwrth arferion a chymdeithas y myfyrwyr ereill. Cafodd ei sylfaenu ar egwyddor gaeth Eglwysaidd a sacramentaidd. Buasai yn cyd—daraw yn hollol â golygiadau Keble a Pusey; a phe na buasai cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle ar ol hyny yn marn a chyflyrau ei aelodau, diau mai diwerth, os nad niweidiol fuasai dylanwad y Methodistiaid hyny ar y byd. Ond ynglŷn a'r gwaith da a wnaed ar y cyfiyrau ar ol hyny, profodd ffurfiad a dylanwad y gymdeithas yn rhagbarotoad gwerthfawr iddynt hwy at waith eu hoes, ac o fendith fawr i grefydd. Yn y cyfnod yma, effeithiwyd ar feddwl John Wesley gan lyfrau dau neu dri o awdwyr oedd yn cario cryn ddylanwad ar ddosparth o ddarllenwyr y pryd hyny. Pan yn ddwy ar hugain oed, daeth dan ddylanwad Thomas à Kempis a Jeremy Taylor, trwy ddarllen "Dylyniad Crist" o waith y cyntaf, a "Byw a marw yn sanctaidd" gan yr olaf. Yn fuan wedi hyny, daeth i gyffyrddiad a llyfrau William Law, yn enwedig yr "Alwad Ddifrifol", a'i "Berffeithrwydd Cristionogol;" a chydweithiai yr holl ddylanwadau hyn i wneuthur o hono Uchel-Eglwyswr defodol, cyfriniol, a hunan-gyfiawn!

Yn mis Ebrill, 1735, bu farw ei dad; ac aeth yntau yn y cyflwr a nodwyd, 'a'i frawd Charles yn genadon i Georgia, gyda'r amcan penaf o ddychwelyd yr Indiaid Americanaidd. Dyddorol yw cofio mai yn yr adeg yma y daeth George Whitfield i gydnabyddiaeth âg ef gyntaf, ac y rhestrwyd ei enw yn mhlith Methodistiaid Rhydychain. Derbyniasid Whitfield fel gweinydd (servitor) i Goleg Pembroke dair blynedd cyn hyn; ac yr oedd er's peth amser wedi dechreu gweddio a chanu salmau bum' gwaith yn y dydd, yn mawr edmygu y Wesleys, ac ereill, ac yn awyddus iawn i ffurfio cydnabyddiaeth âg aelodau y "Gymdeithas Sanctaidd." Ond gan nad oedd ond gwas bach i'r myfyrwyr, ac yn ieuange, pallai ymwthio i'w sylw. Modd bynag, ynglŷn â rhyw helynt a fu yn y tloty cyfagos, mewn canlyniad i ymgais rhyw wraig oedd yno i gyflawni hunanladdiad, cafodd Whitfield gyfleusdra i ddyfod i sylw Charles Wesley. Gwahoddwyd ef i frecwesta gyda'r brodyr; ac mewn canlyniad i hyny, derbyniwyd ef i'r cylch a fawr ddymunasai.

Pan oedd John Wesley yn ewyllysgar i adael Rhydychain, ac Epworth wedi cau yn ei erbyn, daeth iddo ymwared e le arall. Y pryd hyny, yr oedd ymdrech ar droed yn y deyrnas hon i sefydlu trefedigaeth yn America, a alwyd ar enw y brenin yn Georgia. Cymerid dyddordeb mawr yn y symudiad gan ein dyngarwyr, yn enwedigol felly gan Dr. John Burton, o Rydychain. Ymddengys fod y wasgfa a oddiweddasai y wlad hon mewn canlyniad i fethiant y South Sea Bubble yn galw am ryw ddarpariaeth o'r fath rhag suddo i fethdaliad cyffredinol. Cynllun Dr. Burton ydoedd sefydlu trefedigaeth Georgia i dyfu llin, a chywarch, a sidan. Caniatawyd breinlen gan Sior II.; penodwyd ymddiriedolwyr i ddal y lle mewn ymddiried i'r tylodion am un mlynedd ar hugain, a ffurfiwyd cronfa o £36,000 mewn amser byr osod y cynllun mewn gweithrediad. Yn mhen pum' mis ar ol arwyddiad y freinlen, yr oedd y fintai gyntaf o ymfudwyr, yn cynwys chwech ugain o eneidiau, yn hwylio tua'r gorllewin, gyda James Edward Oglethorpe fel eu llywydd bwriadedig, a'r Parch Henry Herbert, clerigwr, fel eu gweinidog. Yn fuan ar ol tirio, gwelodd Oglethorpe, fel y tybiai, fod y drws yn agor i efengyleiddio yr Indiaid brodorol, os gellid sicrhau cenadwr i lafurio yn eu plith fyddai yn abl i ddysgu eu hiaith. Cyn hir dychwelodd y llywydd i Loegr, gan ddwyn i'w ganlyn un Tomo-Chici, ac Indiaid ereill, gyda'r bwriad o enill cydymdeimlad Cristionogion â'r amcan a goleddai i'w hefengyleiddio. Cafodd ei ddymuniad yn hyn, canys cymerodd "Cymdeithas Lledaeniad yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor y pwngc mewn llaw, ac anfonwyd y Parch S. Quincy drosodd i Georgia fel cenadwr. Yn ngwyneb dymuniad y cenadwr hwnw i ddychwelyd, ceisiwyd gan John Wesley gymeryd le. Wedi ymgynghori a'i gyfeillion, a chael cydsyniad ei fam, efe a aeth yno. Rhoddodd ei fam ateb nodweddiadol iawn ar yr achos hwn, trwy ddatgan "Pe buasai genyf ugain o feibion, llawenychaswn wrth weled pob un o honynt yn dylyn gwaith mor dda" (llafurio fel cenadon mewn gwledydd tramor). Ar y 14eg o Hydref, 1735, ar fwrdd llong hwyliau o'r enw "Simmonds," wele ef yn y cymeriad o genadwr, yn nghyda Charles ei frawd yn y nodwedd o ysgrifenydd i Oglethorpe, yn cychwyn am Georgia. Yn mhlith y teithwyr yr oedd mintai fechan o Forafiaid; ac i'r dyben o fedru ymddiddan â hwynt, ymgymerodd yn ddiatreg â dysgu yr Almaenaeg, yn yr hon y daeth, yn mhen blwyddyn ar ol hyny, yn ddigon cyfarwydd i gyfieithu emynau o honi i'r Saesneg, ac i ymgydnabyddu cryn lawer â llenyddiaeth Germany. Chwech ar hugain oedd nifer y Morafiaid hyn, rhwng Mr. D. Nitscham, eu gweinidog. Buont bedwar mis yn croesi y Werydd. Pan oeddynt tua thaith pythefnos i'r làn ar yr ochr draw, y môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. Waeth-waeth yr elai, torai y tonau dros y bwrdd, drylliwyd yr hwylbren, a rhuthrai y môr yn afonydd i mewn trwy ffenestri y caban. Parhaodd y dynhestl am ddyddiau yn olynol, gan gynyddu mewn gerwindeb. Ar y chweched dydd, torodd ton dros ben Wesley a dihangfa gyfyng a gafodd am ei fywyd ym mhen wyth niwrnod, ymgynddeiriogodd y dymhestl i gyflwr dychrynllyd. Rhuodd y gwynt, gan rwygo yr hwyliau, mygai y môr fel pe buasai ar dân, flamiai yr awyr gan fflachiadau y mellt, a chwyrndefid y llestr gyda'r fath rym hyd nes ofnid bob eiliad iddi ymollwng yn ysgyrion. Ond y pryd yma, pan yr oedd y dwylaw mewn braw, y teithwyr Saesonig yn gwaeddi ac yn llewygu gan ofn, a John Wesley ei hunan yn crynu gan ofn mawr, yr oedd y Morafiaid duwiol yn canu salmau yn uwch na holl chwiban y drycin, gan ymddangos yn berffaith ddedwydd a hunan-feddiannol. Synwyd y clerigwr ieuange gan hyn; ac mor fuan ag y gostegodd y dymhestl, prysurodd atynt, gan ofyn, "A oedd arnych ddim ofn?" Atebasant, "Nac oedd, diolch i Dduw." "A oedd ar y gwragedd a'r plant ddim ofn?" gofynodd yntau eilwaith. "Nac oedd (meddai), ac nid oes arnynt hwythau chwaith ddim ofn marw," oedd yr atebiad a gafodd. Synodd yn fwy pan glywodd hyn, a gwnaeth ymholiadau pellach, pryd y cafodd allan mai y dirgelwch o hyn oll oedd yr adnabyddiaeth brofiadol a feddai y bobl o ffufr Duw. Effeithiodd hyn yn ddwys ar ei feddwl, a chyfranodd ryw gymaint tuag at greu ynddo anesmwythder a arweiniodd i gyfnewidiad mawr yn ei feddwl a'i olygiadau crefyddol. Yn ddioed ar ol glanio yn Georgia, ar y 5ed o Chwefror, 1736, sefydlwyd ein gwrthddrych mewn tref a elwid Savannah, i breswylio yn y persondy coed, ac i fugeilio y trefedigaethwyr. Hon oedd y dref Saesonig fwyaf yn y sefydliad, er nad oedd yn cynwys namyn deugain o dai coed; ac yn mhen oddeutu dwy flynedd ar ol hyn, nid oedd yno ond rhyw haner dwsin o trefydd Saesonig yn Georgia, un o'r rhai mwyaf o ba rai oedd Frederica, yr hon a safai gan' milldir i'r dehau o Savannah. Nid oedd ond ychydig o'r tir wedi ei arloesi: oedd y gweddill o'r sefydliad yn goedwigoedd, corsydd, a phrairie, a feddiennid gan yr Indiaid cochion a bwystfilod gwylltion. Dyma faes llafur John Wesley yn y byd gorllewinol. Dydd Sabbath, Mawrth 7fed, dechreuodd ar ei waith, gan gynal gwasanaeth am naw yn y bore, yna am ddeuddeg, ac un arall yn y prydnawn; ac ar derfyn y dydd, cyhoeddodd ei benderfyniad i fynychu hyny bob Sabbath rhag llaw, ynghyd â gweinyddu y cymun unwaith bob Sabbath, a phob dydd gwyl. Llafuriodd yn ol y drefn uchod fel gweinidog i'r trefedigaethwyr am oddeutu blwyddyn a haner. Fel y nodwyd eisoes, amcan John Wesley yn croesi y môr oedd llafurio fel cenadwr yn mhlith y brodorion; a dylid nodi yn y fan hyn y rhesymau a'i lluddiodd i gario allan yr amcan hwnw. Ar un llaw, yr oedd gweinidog penodedig y Saeson wedi ymadael o'r diriogaeth, a'r plwyfolion fel defaid heb fugail arnynt: ac ar y llaw arall, yr oedd y Ffrangcod a'r Yspaeniaid yn peri cymaint o flinder i'r Indiaid, fel mai hollol ofer oedd i ddyn gwyn geisio cymhell yr efengyl arnynt y pryd hyny. Yn ngwyneb hyn, cydsyniodd Wesley â chais yr awdurdodau i dreulio yr holl amser y bu yn Georgia i fugeilio y trefedigaethwyr, yn hytrach na llafurio fel cenadwr yn mhlith y paganiaid brodorol. Ymroddodd o ddifrif, yn ol y goleuni a feddai, i lafurio yn ei blwyf, er na bu ei lwyddiant ond bychan.

Yr oedd sefyllfa iechyd Charles wedi ei orfodi ef i ddychwelyd rai misoedd cyn hyn. Ymddengys fod meddwl John Wesley y pryd hwn mewn cyflwr o anesmwythder mawr am weled goleuni, a byw. Ysgrifenodd yn ei ddyddlyfr, "Aethum i America i ddychwelyd yr Indiaid—ond Och! pwy am dychwel i? Pwy yw efe a'm gwared i oddiwrth fy nghalon ddrwg o anghrediniaeth?...Y mae hi yn awr yn ddwy flynedd, ac agos i bedwar mis, er pan adewais wlad fy ngenedigaeth i ddysgu Cristionogaeth i Indiaid Georgia—ond pa beth a ddysgais i yn y cyfamser? Hyn (y peth olaf a feddyliaswn o ddim)—sef, fy mod i, yr hwn a aeth i America i ddychwelyd ereill, heb gael fy nychwelyd at Dduw erioed." Dyma ei eiriau a'i gyflwr yn yr argyfwng pwysig yma. Yn ddiatreg ar ol cyrhaedd Lloegr, cyfarfu â Peter Böhler, gweinidog y Morafiaid oedd newydd gyrhaedd Llundain o Germany, yr hwn yn garedig a "agorodd iddo ffordd Duw yn fanylach." Er cael mwynhau cyfeillach a chyfarwyddyd y bobl hyn, a'u gweinidog, efe a ymsefydlodd yn Llundain, a bu yn cyfarfod gyda'r Morafiaid yn Fetter Lane am oddeutu dwy flynedd, yr hyn a brofodd yn fuddiol i'w hyfforddi yn dda yn egwyddorion crefydd fewnol. Buan y daeth yn ymofynydd pryderus amdani, er y bu am lawer o amser heb brofi gollyngdod. Yn yr ystyr yma, yr oedd Charles, ei frawd, yn Nghrist o'i flaen efe. Mai 24ain, 1738, aeth i gyfarfod a gynaliai y Morafiaid yn heol Aldersgate, gyda chalon drom a phryderus; ond pan oedd un or brodyr yn darllen rhagdraeth Luther i'w Esboniad ar y Rhufeiniaid, profodd yntau ddarfod ei symud o farwolaeth i fywyd. "Oddeutu chwarter cyn naw," ebe fe, "teimlais fy nghalon yn gwresogi yn hynod; teimlais fy mod yn ymddiried yn Nghrist yn unig am iachawdwriaeth; a derbyniais sicrwydd ei fod ef wedi cymeryd ymaith fy mhechodau!—Ie, yr eiddof fi!—ac iddo fy 'rhyddhau oddiwrth ddeddf pechod a marwolaeth." Dechreuodd hyn gyfnod newydd yn hanes ei fywyd fel Cristion a phregethwr. Arweiniai fywyd diargyhoedd a phregethai lawer o'r blaen. Ar ei ddychweliad o America, gwahoddid ef i bregethu mewn amryw eglwysydd yn Llundain a'r cyffiniau, ac ymgasglai y bobl i wrandaw arno; ac ar gyfrif y son oedd am dano fel cenadwr a fu yn pregethu i'r Indiaid gwylltion, yn ogystal a'i dalent fel pregethwr. daeth yn boblogaidd ar unwaith. Cynygiwyd bywioliaeth iddo yn swydd Lincoln, yr hon (gyda llaw) a wrthododd, a thelid gradd dda o barch iddo yn y brifddinas. Ond ar ol y cyfnewidiad ysprydol a nodwyd, "wele, gwnaethpwyd pob peth o'r newydd." Gwnaed ef yn ddyn o yspryd arall, a phregethai gyda nerth cwbl ddyeithr a newydd. Yn mhen naw mis ar ol hyn, efe a ymwelodd a'r Morfiaid yn Germany. Byth ar ol eu cyfarfod ar y fordaith yn Georgia, mawr ddymunai gael golwg ar y sefydliad oedd Yr oedd ganddynt yn eu gwlad eu hunain. Ond nis gallwn yma ddysgrifio yr hyn a welodd ac a glywodd yno. Digon yw nodi iddo dderbyn cryfhad i'w ffydd yno, a symbyliad newydd i ymroddiad Cristionogol. Pan ddychwelodd i Lundain, enynai ei enaid gan sêl Duw, a phregethai dan arddeliad mawr, gan amcanu adfywio Cristionogaeth ysgrythyrol yn yr Eglwys Sefydledig. Ar yr adeg yma, nid oedd ganddo un amcan pellach. Glynai mewn cymundeb i'r Eglwys Sefydledig hono, a pharhaodd i gyfyngu ei weinidogaeth i'w hadeiladau cyhyd ag y cadwyd ei drws yn agored iddo. Charles, ei frawd, a Whitfield, dan yr un bedydd ysprydol, ac yn cydlafurio yn egnïol gyda golwg ar yr unrhyw amcan—i adfywio crefydd bur yn yr Eglwys. Cyn hir, cauwyd llawer o'i phulpudau i'w herbyn, fel nad oedd ganddynt ddim i'w wneuthur namyn pregethu yn yr awyr agored. Y cyntaf i gymeryd y cam beiddgar, ond gwerthfawr, hwn oedd Whitfield. Yn y flwyddyn 1739, yn ol esiampl a thrwy anogaeth Whitfield, torodd John Wesley hefyd drwyddi, a phregethodd allan yn Bristol i dair mil o wrandawyr. Creodd hyn gyfnod newydd yn hanes y Methodistiaid, fel eu gelwid. Cyn hyny, dygid hwy yn gaeth gan y syniad defodol o sancteiddrwydd lleol; ac addefodd Wesley y golygai y pryd hyny y buasai braidd yn bechod achub enaid, os na wnelsid hyny tu fewn i furiau cysegredig. Ond rhoddwyd terfyn bythol ar yr ofergoeledd hwn pan ddechreuasant bregethu allan; ac oni buasai yr oruchafiaeth hon, diamheu genym na fuasai eu llwyddiant fel diwygwyr yn agos y peth yw, na Threfnyddiaeth Wesleyaidd, fel y mae, erioed wedi dechreu bodoli. Bellach, ar ol cael ei hyfforddi gan y Morafiaid yn ffordd iachawdwriaeth, cafodd adnabod yr iachawdwriaeth hono yn bersonol, yn nghyda bwrw ymaith un o erthyglau sylfaenol ei ucheleglwysyddiaeth; a dechreuodd John Wesley ar waith mawr ei oes gyda dwylaw rhyddion, a gweithiodd o ddifrif. Er nad oedd ganddo y bwriad lleiaf i sylfaenu sect 'r tu allan i gyffin yr Eglwys Wladol, eto, fel canlyniad naturiol, os nad anocheladwy, i'w lafur a'i lwyddiant, daeth enwad felly i fodolaeth yn mron er ei waethaf. Dan nerth ei weinidogaeth ef a Whitfield, cynhyrfwyd y deyrnas; ac yn eithaf naturiol, ymwasgodd y bobl a ddwysbigwyd yn eu calonau at y diwygwyr am ymgeledd ysprydol; ac ar gais y bobl hyn, ffurfiodd Wesley gymdeithas grefyddol yn y flwyddyn 1741, o'r hon y tyfodd yr enwad lluosocaf o Ymneillduwyr sydd ar wyneb y ddaear. Dechreuwyd yr achos yn Bristol, a chyfodwyd yno gapel, a phrynwyd hen foundry yn Llundain, i'r gymdeithas oedd yn y brifddinas i ymgartrefu ynddi. Fel y lluosogai y dychweledigion, amlheid y cymdeithasau hyn, a dosparthwyd hwynt yn rhestrau dan ofal blaenoriaid. Darfu ymeangiad y gwaith greu angenrheidrwydd am drefniad pellach a manylach. Bu raid penodi swyddogion cyllidol, a sefydiu llysoedd eglwysig; adeiladu addoldai, a rhanu y maes yn gylchdeithiau; galw allan, ac yn y man ordeinio cynorthwywyr, cynal cynadleddau blynyddol, a thynu allan weithredoedd cyfreithiol; ac yn ganlynol, ffurfiwyd y cyfundeb sydd yn aros hyd heddyw. Ac wedi dechreu fel hyn ar ei waith fel efengylwr, gan ddylyn cyfarwyddyd rhagluniaeth Duw yn ei drefniadau, a chymhelliad cariad Crist yn ef brofiad, efe a ymhelaethodd mewn llafur, gan deithio, pregethu, ysgrifenu, dysgyblu, a chyfundrefnu fwy na mwy am 65 mlynedd. Bellach, ar ol rhoddi i'r darllenydd syniad am deulu a manylion gyrfa bywyd ein gwrthddrych, ni a ymdrechwn fanylu ychydig gyda'r ymgais o gyfleu rhyw drem ar helaethrwydd ei lafur, meithder a lluosogrwydd ei deithiau, yn nghyda'r amharch a'r erlidiau a ddyoddefodd fel Cristion oddiwrth gaseion crefydd a brodyr gau yn mlynyddoedd cyntaf ei oes; ac yna rhoddwn grynodeb o'i wasanaeth i lenyddiaeth fel awdwr a chyhoeddwr, hanes ei ddadleuon, teithiau, ei gymeriad, cyrchnod terfynol ei fywyd, yn nghyda chrybwyllion am ei safle, ei yni, a'i brofiad yn niwedd ei oes. Dygwyddodd dau amgylchiad yn lled fuan ar ol iddo dori allan fel efengylydd y dylid eu nodi; ac hwyrach mai doeth fyddai gwneuthur hyny yn y fan yma. Cyfeiriasom at fam rinweddol a thalentog ein gwrthddrych. Cafodd hi fyw i weled dechreuad y Diwygiad Methodistaidd, a dwfn oedd y dyddordeb a gymerai ynddo. Yn 1739, pan brynwyd ac y neillduwyd yr hen foundry yn Llundain i bwrpas crefyddol, symudwyd hi yno, i fyw yn y tŷ oedd yn gysylltiol a'r capel, a mynychai y moddion a gynelid ynddo hyd ddiwedd ei hoes. Ond dydd ei hymddatodiad hithau a nesaodd. Gorphenaf y 23ain, 1742, pan oedd ei phump merch, a'i mab John, o amgylch ei gorweddle, bu farw mewn tawelwch mawr; ac yn ol ei chais diweddaf, canasant Salm mor gynted ag yr ehedodd ei hyspryd ymaith. Y Sabbath canlynol, claddwyd ei gweddillion yn nghladdfa enwog Bunhill Fields, yn mhresenoldeb tyrfa fawr o bobl. Darllenwyd y gwasanaeth claddu gan ei mab; a phan y defnyddiodd'efe y geiriau "fy mam," yn lle y chwaer ymadawedig," torodd y dorf allan mewn wylofain mawr. Pregetbodd yn y capel ar yr achlysur i gynulleidfa yn hynod ddifrifol. Yn mhen deuddeng mis ar ol hyn, ymwelodd âg Epworth, ei hen gartref, a mynai y plwyfolion iddo bregethu. Ond gan na chaniatâi y curad yr eglwys at ei wasanaeth, gwasgai y bobl arno i bregethu ar y fynwent; ac am chwech o'r gloch un prydnawn Sabbath, efe a safodd ar feddfaen ei dad, ac a bregethodd yr efengyl gyda dylanwad mawr ar y pryd; a dylynwyd yr oedfa hono gydag effeithiau bendigedig.

Wedi planu cymdeithasau crefyddol yn Llundain, Bristol, a Kingswood, fel y prif orsafon cenhadol, efe a ymroddodd i amdeithio yr holl deyrnas, gan bregethu, ffurfio cymdeithasau, a chyfundrefnu, i ba le bynag yr elai. Pregethai ar gyfartaledd, yn ystod yr haner can' mlynedd dylynol, oddeutu ugain o weithiau yr wythnos, a theithiai yn ol pum' mil o filldiroedd yn y flwyddyn. Fel hyn, a thynu allan o'r cyfrif swm da ar gyfer ei arafwch yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, bernir iddo bregethu oddeutu deugain mil o weithiau, theithio yn agos i chwarter miliwn o filldiroedd yn y deyrnas hon yn ystod ei lafur fel efengylwr. A dylid cadw mewn côf ddarfod iddo bregethu gynifer a hyny o weithiau dan amgylchiadau anfanteisiol yn fynych, a phan oedd ganddo lawer o bethau ereill i'w cyflawni-a theithio y cyfanswm enfawr o filldiroedd a nodwyd cyn i'r agerlong a'r ager-gerbyd gael eu dyfeisio, pryd yr oedd ffyrdd goreu y deyrnas yn anhygyrch a drwg, ac heb gymaint a stage coach yn teithio yn uwch tua'r gogledd na dinas York; ie, a darfod iddo deithio y rhan fwyaf ar gefn ei geffyl; ac y byddai y rhan amlaf, yn maint ei benderfyniad i brynu yr amser, yn darllen with farchogaeth. Un o'i deithiau cyntaf a wnaed yo 1742, i ogledd Lloegr, ar gais John Nelson a'r Arglwyddes Huntingdon, pryd y dechreuwyd yr achos yn Newcastle. Yn y flwyddyn 1743, efe a dreuliodd oddeutu pedair wythnos ar ddeg yn Llundain, deng wythnos yn Bristol, tair wythnos ar ddeg yn Newcastle, tair wythnos yn Cornwall, a deuddeng wythnos yn ngogledd Lloegr. Yr oedd yn ddyn aeddfed, oddeutu deugain oed, y pryd yma, ac yn dechreu o ddifrif ar ei lafur amdeithiol. Yn ystod y flwyddyn hono, ceir ei hanes hefyd yn ymweled â rhanau o Gymru. Gofod a ballai i'w ddylyn gyda math yn y byd o fanylwch o flwyddyn i flwyddyn, er y buasai yn angenrheidiol gwneuthur hyny cyn y gellid cyfleu syniad cyflawn i'r darllenydd am helaethrwydd ei lafur a'i deithiau; ond ceir rhyw drem arnynt pan nodir mai ei arferiad am y rhan fwyaf o'i oes ydoedd ymweled a'r holl eglwysi unwaith yn y flwyddyn, ac na byddai byth yn dychwelyd o'i deithiau heb sefydlu rhai gorsafau newyddion. Am yr un mlynedd ar bymtheg cyntaf, teithiai ei frawd Charles gryn lawer i'w gynorthwyo; ond o 1757 hyd derfyn ei oes, yn 1788, cyfyngodd efe ei wasanaeth i Bristol a Llundain. Yn 1747 y talodd John Wesley ei ymweliad cyntaf â'r Iwerddon. Croesodd yno o Bristol, a glaniodd yn Dublin. Gwnaeth hyn ar gais un o'r enw Thomas Williams, yr hwn a lwyddasai i ffurfio cymdeithas yn y ddinas oedd yn rhifo 280 o aelodau. Glaniodd yn ninas Dublin yn mis Awst, a chroesawyd ef yn nhŷ Mr. Lunell, y banker, yr hwn a gyfranodd wedi hyny £400 at adeiladu capel Whitefriar street. Treuliodd bythefnos yno, cychwynwyd achosion yn yr ynys yn ddiatreg, dechreuwyd cydnabyddiaeth ddymunol rhwng ein gwrthddrych a'r Gwyddelod. Aeth yn hoff neillduol o honynt, a chroesodd y Cyfyngfor ddwy a deugain o weithiau er eu mwyn; a phe y gosodid ei holl ymweliadau ynghyd, treuliodd dros chwe' blynedd oi fywyd prysur yn yr Iwerddon. Yn 1751, ymwelodd y waith gyntaf ag Ysgotland. Ni fwriadai bregethu yno o gwbl y tro hwnw; ond ar gais tyrfa o bobl a ymgasglent at dy y cyfaill a'i lletyai, efe a bregethodd droion iddynt, gan adael Mr. Hopper, un o'i gynorthwywyr, yno ar ei ol, a'r hwn a lafuriodd yno am bythefnos. Fel y mae yn hysbys, ni chafodd Wesleyaeth nemawr o afael yn mhlith yr Ysgotiaid o gwbl oddigerth yn Edinburgh a Glasgow, felly ni theithiodd John Wesley yn agos gymaint yno ag yn rhanau ereill y Deyrnas Gyfunol, er na pheidiodd efe ymweled âg Ysgotland drachefn a thrachefn.

Gyda maes mor eang i'w lafurio, a'r fath anghyfleusderau ac annybendod i deithio ar for a thir, a mynychder yr oedfaon a gynaliai, y mae yn anhawdd ffurfio dirnadaeth am faint ei lafur mewn blwyddyn o amser. Cymerer un er engraifft. Efe a dreuliodd ddau fis cyntaf y flwyddyn yn Llundain. Yna, ddechreu Mawrth, cychwynodd am yr Iwerddon. Marchogodd o Lundain i Gaergybi, gan bregethu dair neu bedair o weithiau bob dydd ar hyd y ffordd. Hwyrach y cedwid ef yn Nghaergybi, naill ai i ddysgwyl am long neu am hindda, am lawer o ddyddiau, pa rai a dreuliai goreu y gallai i bregethu yn y dref, ac yma a thraw yn Ynys Môn. Wedi cael cyfleusdra i groesi y mor, treuliai rai misedd i deithio, pregethu, a chyfundrefuu yn yr Iwerddon. Oddiyno cyfeiriai am Bristol, gan dreulio, hwyrach, bedair wythnos yno mewn llafur

diball. Yna elai i lawr i Cornwall am fis, ac oddiyno trwy y siroedd deheuol yn ol i Lundain. Yna dringai i fyny trwy siroedd Bedford a Northampton a chanolbarth y wlad i sir York yn eithafoedd y gogledd, ac weithiau croesai y Tweed i Ysgotland. Yna dychwelai i Lundain erbyn y gauaf, gan wneuthur pump neu chwech o deithiau wythnosol oddiallan i'r brifddinas i wahanol gyfeiriadau. Ac fel hyn, nid oedd nemawr i eglwys, neu "gymdeithas," fel y dewisai efe ei galw, nad ymwelai â hi unwaith yn y flwyddyn o ddydd ei sefydliad hyd o fewn ychydig i ddiwedd ei oes. Yr oedd ei arolygiaeth dros yr holl waith yn bersonol a thrwyadl. Os gogwyddai yr achos yn rhywle at benrhyddid, ymrafaelion, neu farweidd—dra, cyn y gallai adfeilio llawer trwy ddiofalwch swyddogion neu ymgecraeth aelodau, galwai John Wesley heibio, gan rybuddio a dysgyblu, neu os byddai raid, diarddel yr afreolus; a thrwy y ddysgyblu aeth a weinyddai, a'r pregethau miniog a nerthol a draddodai, efe a gasglai gynulleidfa, a lluosogai yr eglwys, ac yn gyffredin adferid trefn a brawdgarwch, purdeb, a bywyd i'w plith cyn eu gadael. A diau mai i'w ymdrechion diflino i ymweled a'r eglwysi, ai lafur mawr personol yn eu mysg, y dylid priodoli cyfran helaeth o lwyddiant y cyfuneb mawr a sefydlwyd trwyddo. Ond pwy ond efe a allasai ymgynal dan y fath lafur? Eto, nid oedd ei weinidogaeth amdeithiol ond rhan o'i lafur ef.

Aeth trwy lafur dirfawr, a chyflawnodd wasanaeth amhrisiadwy fel awdwr, cyhoeddwr, a threfnydd. Yn ngoleuni dysglaer ei sêl fel efengylydd, a'i fedrusrwydd fel trefnydd, collir golwg ar ei gyrhaeddiadau a'i wasanaeth fel llenor. Fel y dengys ei nodiadau yn ei ddyddlyfr, yr oedd John Wesley yn ddarllenwr mawr. Darllenai lawer ar bron bob cangen o wybodaeth, a gwnelai hyny yn drwyadl a beirniadol. Ceir cyfeiriadau yn ei ddyddlyfr at brif weithiau Locke, Peter Browne, Bolingbroke, Reid, Leibnitz, a Butler, a'r rhan fwyaf o awdwyr goreu y cyfnod ar athroniaeth naturiol, feddyliol, a moesol, yn nghyda'r prif weithiau a geid y pryd hwnw ar athroniaeth crefydd. Darllenai lawer o farddoniaeth glasurol a diweddar. Mawr edmygai arwrgerdd Fingal gan Ossian. Ceir enw bron bob awdwr o bwys ar restr y llyfrau a ddarllenodd ar hanes yr eglwys. Rhoddodd gryn lawer o'i sylw i feddygiaeth. Ymgydnabyddodd yn helaeth a bywgraffiadau cymeriadau cyhoeddus, yn nghyda hanes teithiau ar dir a dwfr. Hoffai hynafiaethau a hanesiaeth yn fawr. Wrth gwrs, efrydiai weithiau duwinyddol, yn enwedig yr adran ddadleuol. Arferai ddarllen wrth farchogaeth, a darllenodd gannoedd o gyfrolau felly ar ei deithiau. Ac nid yn arwynebol, anghofus, a darniog y darllenai efe; ond yn ddeallus, yn drwyadl, ac i bwrpas. Yr olaf oedd ei ffordd gyda phobpeth. Cadwai ei lygad yn agored, ac edrychai lyfr drwyddo cyn ei ollwng o'i law. Ceir llawer o nodiadau beirniadol, miniog, a gwerthfawr ar lyfrau yn ei Journals.

Pan feddylir am ei deithiau, ei lafur gweinidogaethol, a chylch ei ddarllenyddiaeth, y syndod yw, pa fodd y cafodd amser i ysgrifenu dim; ac o'r tu arall, pan olygir swm ei ysgrifeniadau, y syndod yw pa fodd y cafodd amser i wneyd dim arall. Prin y gallem gredu fod y fath beth yn bosibl i unrhyw ddyn, hyd nes y deuwn i wybod am ei gyflymder a'i ddiwydrwydd. Codai am bedwar o'r gloch yn bore, treuliai ei amser ai waith yn y modd goreu, a gwnelai y goreu o ddeunaw awr allan o'r pedair ar hugain. "Leisure and I have taken leave of one another," meddai. Yr oedd ei ddiwydrwydd yn ddihafal; a rhaid ei fod yn meddwl ac yn ysgrifenu yn gyflym, fel y ceir gweled, ond ystyried byrdra yr amser a gymerai i barotoi ei lyfrau i'r wasg. Pan yn haner can' mlwydd oed, pallodd ei iechyd, a bu yn analluog i bregethu am bedwar mis—yr unig fwlch yn ei oes. Ond yn ei gystudd, pan y gwellhaodd ychydig, dechreuodd ysgrifenu ei nodiadau ar y Testament Newydd. Treuliai un awr ar bymtheg arno bob dydd; ac yn mhen deng wythnos, yr oedd yn barod ar y pedair efengyl; a rhyw— bryd yn ystod y flwyddyn ddylynol (1755), dygodd allan ei holl Esboniad ar y Testament Newydd, yn gyfrol bedwarplyg, 762 tudalen. Buasai gorchwyl fel hyn yn llawn ddigon o waith i'r cyffredin o ddynion yn nghanol iechyd a nerth; ond aeth efe drwyddo, o leiaf y rhan fwyaf o hono, yn ei waeledd a'i wendid. Ac yn ychwanegol at ei Esboniad ar y Testament, chwe' blynedd a gymerodd i dalfyru hen gyfrolau unplyg mawrion, eu hadysgrifenu oll, a'u cyhoeddi mewn ffurf gryno a destlus, dan yr enwad o "Christian Library," mewn haner cant o gyfrolau deuddegplyg. Nid ychydig oedd y gwaith o ysgrifenu yn unig yn y fath ymgymeriad, heb sôn am y gwaith meddwl a threfnu a gynwysid ynddo. Cyhoeddodd lawer iawn o lyfrau yn ei oes, rhai o honynt of awduriaeth ei hun, a'r lleill yn dalfyriadau neu yn argraffiadau newyddion waith awdwyr ereill, a ddygid allan dan ei olygiaeth, ac ar ei draul ef. Yn y flwyddyn 1774, cyhoeddodd ei waith ei hun mewn 32 o gyfrolau deuddegplyg, yn BYWYD A LLAFUR JOHN WESLEY. cynwys traethodau, a chant a deugain ac un o bregethau. Cyhoeddodd nodiadau ar yr Hen Destament yn dair cyfrol pedwarplyg; ei waith ar athroniaeth naturiol mewn pum' cyfrol deuddegplyg; ac yn y flwyddyn 1778, cychwynodd gyhoeddiad misol—yr Arminian Magazine—yr hwn a ddaeth allan yn rheolaidd a difwlch tra bu Wesley byw. Arno ef ei hun y disgynai y rhan fwyaf o'r llafur mewn ysgrifenu a golygu y cyhoedd— iad hwn. Ysgrifenai a chyhoeddai ei Journals o bryd i bryd, sydd yn cynwys cof— nodau manwl am waith a helyntion pob dydd yn ei ddydd, o adeg ei ymfudiad i Georgia, yn 1735, hyd fis Hydref, 1790, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Wedi eu casglu ynghyd, cyfansoddant bedair cyfrol mor ddyddorol i'w darllen a dim o'r fath sydd yn yr iaith Saesonig. Dygai ymlaen ohebiaeth gyfrinachol eang, a llafurus weithiau, ar hyd ei oes; ac ysgrifenai bob llythyr a'i law ei hun. Cymerodd ran helaeth yn nadleuon ei oes, ac ysgrifenodd lawer yn mhob modd i amddiffyn ei olyg— iadau athrawiaethol, yn ogystal a'r cwrs a gymerai mewn materion o ffurflywodraeth eglwysig. Bu mewn cryn ddadl gyda'r Morafiaid yn nechreuad ei ffordd; ac yn fuan wedi hyny, aeth yn ymwahaniad rhyngddo a'i gyfaill mynwesol Whitfield, oblegyd eu hanghytundeb mewn barn ar etholedigaeth. O'r un ffynonell, tarddodd dadleuon rhyngddo â Hervey, a Toplady, ac ereill.

Ac nid bychan oedd y gwaith oedd ganddo i amddiffyn Methodistiaeth yn ngwyneb yr ymosodiadau tanllyd a wneid arni gan glerigwyr yr Eglwys Wladol. Ac at yr oll, ysgrifenodd draethawd maith a galluog ar "Bechod Gwreiddiol," mewn gwrthwynebiad i waith Taylor, o Norwich, ar y pwngc. Gwnaeth ddefnydd mawr o'r wasg hefyd i ryfela yn erbyn pechod, anwybodaeth, a chyfeiliornadau. Efe oedd un o'r rhai cyntaf i gyhoeddi llyfrau yn rhifynau, i gyfarfod amgylchiadau y werin; a mynych y bu hefyd yn casglu arian oddiwrth y cyfoethog i bwrcasu llyfrau i'r tylawd.

Ond beth am ei fedr a'i ymroddiad fel trefnydd? Addefir ar bob llaw fod ei fedr at hyn yn ddihafal, a'i ymroddiad iddo yn ddiflino; ac y mae y cyfundeb a adawodd ar el ol yn arddangosiad o'r llwyddiant a ganlynodd. Ac nid wedi ei ymadawiad y bu yr holl lwyddiant chwaith; canys yn y flwyddyn 1790, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, ceir yr ystadegau canlynol:—pregethwyr teithiol, 541; cylchdeithiau, 240; aelodau eglwysig, 134,549. Yn y flwyddyn 1744, gwysiwyd y Gynadledd gyntaf i eistedd; ond o hyny allan, cynelid hi yn flynyddol; ac am wyth mlynedd a deugain bu ef yn llywyddu yn bersonol. Yn 1739, chwanegwyd ei ofal yn fawr trwy adeiladu ysgolion Kingswood. Whitfield oedd wedi sylfaenu yr adeilad hono, ac wedi dechreu casglu at ei hadeiladu; ond Wesley a'i cwblhaodd, ac a gasglodd yr holl arian i dalu y draul, oddieithr y swm o £60. Mawr ydoedd ei gyfrifoldeb arianol ynglŷn â dyledion y capeli. Yr oedd mwyafrif o'r aelodau yn weithwyr tylodion, fel nad allent hwy eu hunain gyfranu nemawr; a chan fod cynydd y diwygiad mor gyflym, rhaid oedd codi addoldai eang ar hyd a lled y deyrnas gyda'r brys mwyaf, serch benthyca arian ar log i wneuthur hyny. Ac ato ef yr edrychai yr holl ofynwyr am y llogau a'r hawl; a bu agos i'r baich ei lethu fwy nag unwaith. Ond trwy ei fedr i lunio mesurau cyfaddas, ei ddiwydrwydd diymod i'w cario allan, a bendith Pen yr eglwys ar yr oll, llwyddodd i gyfarfod pob gofynion o'r fath yn yr adeg, ac i ddwyn ei feichiau trymion i'r lan heb dynu y gwaradwydd lleiaf arno ei hun, na pheri ceiniog o golled i neb arall. Wedi cael cymhorth gan Dduw, aeth trwy y llafur enfawr a nodwyd, ac ymgynaliodd dan ei gyfrifoldeb a'i ofal pan yn wrthddrych anhunedd yn fynych, amharch a gwrthwynebiadau, erlidigaethau a pheryglon, a phob math o anhawsderau. Prudd yw meddwl mai un o brofedigaethau chwerwaf ei fywyd oedd priod ei fynwes. Bu yn hynod o anhapus yn ei briodas. Yr oedd fel pe wedi ymddyrysu yn y mater yma. Bu ar fedr priodi fwy nag unwaith cyn cyfarfod Mrs. Vazeille, ond lluddiwyd ef trwy ymyriad annoeth cyfeillion. Gwraig weddw ydoedd hon i fasnachwr cyfoethog, gyda phedwar plentyn, a gwaddol o £10,000, ac o ddiwylliant uwchraddol; ac yn ol pob ymddangosiad ar y pryd, yn un eithaf cyfaddas i'w sefyllfa newydd. Erbyn hyn, yr oedd efe yn 48ain oed, ac wedi ffurfio arferion anghydnaws â bywyd priodasol. Cafwyd cyd—ddeall perffaith rhyngddynt cyn eu hymuniad priodasol, nad oedd y cysylltiad i leihau dim ar ei ddefnyddioldeb cyhoeddus ef, nac i ymyraeth mewn un modd drefniadau amdeithiol. Ar y cyntaf, teithiai Mrs. Wesley gyda'i gwr i'r gogledd, ac i Cornwall, &c.; ac am gyfnod byr, gellid tybied y buasai yn gymhorth ac yn gysur iddo. Cyn hir, cyfnewidiodd yn hollol, a daeth yn bob peth ond hyny iddo. Oddiar dymher afrywiog, ddilywodraeth, a drwgdybus, dangosodd pob angharedigrwydd tuag ato, a dywedodd bob drygair am dano. Cynyrchai ddrwgdeimlad rhyngddo â'i berthynasau a'i gyfeillion hyd y gallai, a chynghreiriai i'w erbyn gyda'r elynion. Drwgliwiai ei lythyrau cyfrinachol, a ffugiodd lythyrau yn ei enw ef i'r wasg, o bwrpas i'w ddarostwng yn marn y cyhoedd. Pentyrai eiriau câs ar ei deimladau yn ei adegau mwyaf anghenus am gydymdeimlad a chysur cartref; ac yn nghynddaredd dieflig ei chalon, gosododd ei dwylaw ar ei berson, gan ei daflu i lawr ai lusgo gerfydd ei hirwallt o amgylch yr ystafell; a dyoddefodd yntau yr holl gamdriniaeth fel Cristion! Bu ei enw da mewn enbydrwydd mwy nag unwaith trwy ei chreulondeb ynfyd hi; ond puredd a gaed ynddo, a gofalodd Duw Daniel am dano yntau. Wedi ei boenydio, ei ddynoethi, a'i faeddu am ugain mlynedd yn adeg prysuraf ei fywyd, hi a'i gadawodd ef; a bron na themtir ni i ysgrifenu mai dyna y caredigrwydd mwyaf a ddangosodd y ddynes anhydrin a chreulawn hon yn ei hoes. Y mae pob gwaith da yn sicr o gyfarfod â gwrthwynebiadau. "Anghenrhaid yw dyfod rhwystrau." Heblaw yr anhunedd teuluol hwn oedd mor anghysurus iddo, cyfranogodd Wesley yn lled helaeth o erlidigaethau crefyddol ei oes. Dyma oedd rhan Howell Harries a'i gyd—weithwyr yn Nghymru, a Whitfield a Wesley yn Lloegr, yn enwedig yn nechreuad eu ffordd. A phan ystyrir mor isel oedd crefydd ysprydol yn yr eglwysi gyda phob cangen, ac mor anfoesol a llygredig oedd y byd annuwiol o'r tu allan, nid oedd hyn yn rhyfedd. Gofod a ballai i roddi manylion yr erlidigaethau a ddyoddefodd ein gwrthddrych. Mynych y bu ei fywyd mewn perygl—yr archollwyd ef â cheryg—y baeddwyd ac y llusgwyd ef gan fileiniaid anwybodus a phenboeth ar hyd heolydd cyhoeddus a chafodd ei ddwyn ger bron ynadon, a'i wahardd bregethu mewn trefi yn y wlad, a'i ddifenwi gan offeiriaid ac esgobion. Nid anfynych yr arweinid y dorf a ymosodai arno gyda llwon a dyrnodiau gan ŵr urddedig, fyddai bron mor anwybodus ac annuwiol a hwythau; ac nid anaml y difyrai yswain gwledig ei hun trwy yru ei feirch a'i gŵn hela i ganol ei gyfarfodydd crefyddol, neu hwyrach mai minteioedd o weithwyr anhywaith fyddai yn cynllwyn ar ochrau y ffyrdd i osod eu dwylaw ar yr efengylwr, a'i lusgo drwy y llaid i'w daflu i'r afon. Yn 1748, mewn lle o'r enw Oakhill, ac mewn lle arall o'r enw Roughlee, cafodd efe a'i ddylynwyr driniaethau creulawn. Llogasid ysgubion y bobl i'w dderbyn i'r dref gydag wyau pydredig, a phob amharch, ac i'w arwain drwy yr heolydd gan heddwas meddw o flaen mintai arfog gyda fyn yn eu dwylaw, a diod gadarn yn eu cylla. Lluchid ei ddylynwyr â chawodydd o geryg; a flusgid rhai honynt drwy y llaid gerfydd gwallt penau, heb arbed na rhyw nac oedran; gollyngwyd cynddaredd yr erlidigaeth ar hen wyr a hen wragedd, gwyryfon gweiniaid a phlant; curid rhai â ffyn yn ddidrugaredd, a gorfodwyd un o'r dychweledigion i neidio oddiar graig uchel i'r afon! Yn Bolton, ger Manchester, ymgasglodd torf frochus, gan waeddi a chablu o amgylch y tŷ y lletyai. Taflasant gyfaill iddo a aethai allan i ymliw â hwy i'r llaid, gan ei sathru dan eu traed; torasant ddrws y tŷ, a rhuthrasant i mewn; ac y mae yn anhawdd dyfalu pa beth fuasai y canlyniad, oni buasai iddo ef eu gwynebu gyda dewrder a'u daliodd â syndod, a'u tawelu gyda'i atebion parod a'i bresenoldeb parchedig. Mewn lle arall, tarawyd ef â chareg yn ei dalcen pan yr oedd ar ganol pregethu; ond gyda nerth goruwchddynol, ar ol sychu y gwaed o'i lygaid, aeth yn mlaen gyda'i bregeth. Yn Wednesbury, amgylchwyd ei lety gan y terfysglu a waeddent, "Dewch â'r pregethwr allan: rhaid i ni gael y pregethwr allan!" A rhag iddynt losgi neu ddinystrio ty ei gymwynaswr, aeth allan atynt, fel cen i ganol bleiddiaid; ac och! y driniaeth a gafodd! Llusgwyd ef yn amharchus am filldir ffordd trwy wlaw trwm, ar noson dywyll, at dy yr ynad heddwch. Ar y ffordd, yr oedd terfysglu Walsall yn ymosod ar derfysglu Darlaston; ac aethan ymladd am dano fel bwystflod rheibus am ysglyfaeth, a chariwyd ef i ddwylaw yr ymosodwyr newyddion hyn. "Ofer," meddai, "oedd ceisio siarad â hwynt, canys yr oedd y sŵn ar bob llaw fel rhuad y môr." Llusgasant ef yn ol i'r dref; a phan amcanodd ddiangc oddi arnynt trwy droi i mewn i ddrws tŷ mawr a pharchus oedd yn agored ar fin yr heol, daliwyd ef gan ryw ddyhiryn wrth wallt ei ben, gan ei lusgo yn ol i'w dwylaw. Ar hyn, tarawyd ef yn ei enau nes y ffrydiodd y gwaed allan, a chariwyd ef dros bont, gerllaw afon ddofn, gan ofni bob munud gael ei daflu iddi a'i foddi: ond cyfryngwyd ar ei ran, a diangodd yn fyw o'r enbydrwydd yno, fel pob un arall cyffelyb cyn ac ar ol hyny! A dywedir fod ei hunanfeddiant, ei ddewrder diymollwng, ai yspryd maddeugar ac efengylaidd, yn nodedig yn ngwyneb y triniaethau creulawn hyn oll. Gwelwyd hyfdra annuwiol ymosodwyr yn gwywo dan awch ei eiriau parod a chyfeiriadol, ac nid unwaith y diffrwythwyd eu dwylaw gan ei hunanfeddiant a'i ddewrder. Bu yn cerdded trwy ganol terfysglu brochus, gan ddangos y fath wroldeb fel na feiddiai neb ei gyffwrdd, er eu bod wedi ymgasglu o bwrpas i'w ddal a'i ddyfetha. A llawer gwaith y dychwelodd erlidwyr o'r oedfaon dan weddio.

O ran ei berson, nid oedd gan John Wesley ond corph bychan—ychydig byrach na'r taldra canolig, ond fod hwnw o'r defnyddiau goreu, ac o'r gwneuthuriad mwyaf hylaw a chymesurol i'w alluogi i gyflawni gwaith mawr ei oes yn y modd esmwythaf iddo ei hun. Yr oedd ei lywethau fel gwiail haiarn o ran gwydnwch; nid oedd ganddo ronyn o gnawd afreidiol o'i gwmpas, ac yr oedd adnoddau ei yni anianyddol yn —ddihysbydd. A diau fod ei arferiad o foreu—godi, newid awyr, teithio ar geffyl, a phregethu yn bore, ynghyda'i reoleidd—dra perffaith mewn llafur, ymborth, a chwag, wedi caledu ei gyfansoddiad i'r fath raddau, a sefydlu ton uchel o iechyd iddo, i fesur anhygoel. Ac fel y mae yn hysbys, bu fyw i fyned yn hen, ac yn anarferol hoyw a llafurus yn ei hen ddyddiau. Arfaethodd i ymweled âg America yn ei 67ain mlwydd oed; a buasai wedi cyflawni ei fwriad oni bai fod yn amhosibl iddo adael yr holl eglwysi oedd dan ei ofal yn y deyrnas hon. Ysgrifenodd air yn ei ddyddlyfr i'r perwyl "nad oedd wedi colli un noson o gwsg yn ystod y 70ain mlynedd." Ymwelodd â Holland ddwy waith ar ol pasio ei 80ain oed. Pan yn 82ain, cawn ei hanes yn cychwyn am yr Iwerddon. Pregethai ar hyd y ffordd o Lundain i Liverpool, a phregethai ddwy neu dair gwaith yn y dydd yn yr Ynys Werdd tra y bu yno. Dychwelodd i Lundain yn mhen dau fis, ar ddydd Gwener; a'r Sabbath canlynol, pregethodd ddwywaith yn City Road, a chyfarfyddodd A chynulleidfa aruthrol o blant yn yr un lle am bump o'r gloch y bore dranoeth. Cyfansoddai bregethau newydd gyda chywirdeb neillduol pan yn 86ain. A phan yn 87ain, tynodd allan iddo ei hun blan pregethu am dri mis, a chadwodd bob cyhoeddiad oedd arno, a chryn lawer o oedfaon achlysurol heblaw hyny. Dywedir fod llyfinder a gloywder dyn deugain oed yn prydferthu ei rudd, a dysgleirdeb a bywiogrwydd llengcyn ugain oed yn gwreichioni yn ei lygad, pan yr oedd eira pedwar ugain gauaf yn gorphwys ar ei ysgwyddau! Goroesodd brydles yr hen foundry, a phregethodd yn Kings wood dan gysgod coed a blanwyd yno â'i law ei hun! Pan fu farw, deuddeng mlynedd oedd rhyngddo a bod yn fab can' mlwydd! Rhaid fod gan ddyn a lafuriodd mor galed, a ddyoddefodd mor fynych, ac er pob peth, a fu byw mor hir, gorph o'r defnyddiau a'r gwneuthuriad goreu. Yn y corph bychan hwnw, preswyliai enaid uwchraddol a choeth. Tra na ddylid rhestru John Wesley gyda Francis Bacon, Isaac Newton, a Joseph Butler, yn y dosparth uchaf â roddwyd iddo gan rai o'i fywgraffwyr. Y mae yn amheus a oes neb o'i flaen mewn teilyngdod yn y dosparth olaf. Meddai athrylith o radd uchel, yn yr hon y cyfarfyddai llawer o alluoedd mewn cymesuredd rhagorol. Yr oedd athrylith mawr yn ei deulu, ar du ei dad a'i fam, er's cenedlaethau lawer; a diau ei fod yntau yn berchenog athrylith gref ac amrywiaethog, a nodweddid gan graffder, treiddioldeb, a chyflymdra. Dichon nad oedd ei grebwyll ond cyffredin, er nad oedd yn amddifad o'r gallu gwerthfawr hwnw; ond nid yn hyn y llechai ei ragoriaeth. Y mae y dyb fod trefniadau eang a manwl y cyfundeb a sefydlodd yn ffrwyth dychymyg rymus oedd wedi tori cynllun yn mlaen llaw, yn seiliedig ar syniad hollol gyfeiliornus am nodwedd meddwl John Wesley. Nid un felly oedd efe mewn un modd. Rhagwelai i'r dyfodol yn mhellach na llawer, a hyny mewn goleuni clir iawn; ac yr oedd yn ddihafal o fedrus i adnabod y ffordd oreu ar y pryd i droi pethau sydyn ac anocheladwy yn wasanaethgar i amcanion ei alwedigaeth nefol. Ond cyfodai hyn oll oddiar graffder a chyflymdra ei feddwl i ddirnad pa fodd yr oedd pethau yn sefyll yn eu perthynas â'u gilydd ar y pryd, a pha fodd i weithredu ddoethaf yn eu gwyneb, yn fwy nag oddiar allu creadigol uchelryw a chyrhaedd bell i dynu allan gynlluniau cyfrwys a phellgyrchol flynyddau yn mlaen llaw. Ni feddai Wesley y cymhwysder lleiaf oll i wneuthur y dydd—freuddwydiwr Utopaidd a ffrwythlawn. Ond mewn craffder i weled i mewn i bwngc, ei ddosparthu i'w elfenau cyntaf, a'i adnabod yn ei burdeb syml a'i berthynasau troellog, a hyny mewn amser byr, saif John Wesley yn arbenig a diguro. Gan nad beth fyddai natur y pwngc, neu ei ddyeithrwch— pa un bynag ai cyfrinion y Mystics, Principia Newton, neu Plays Shakspeare, fyddai testyn el ymchwiliad yr oedd llygad ei feddwl mor loyw, ei gyllell arddansoddol mor finiog, ei afael mor sicr, a'i ergydion mor gywir, cyflym, a diarbed, fel na ddiangai dim a syrthiai i'w ddwylaw cyn cael ei chwilio yn llwyr a'i adnabod yn drwyadl. Meddai gof cyflym a gafaelgar, fel y dywedir fod testyn gwreiddiol y Testament Newydd ar benau ei fysedd. Arddengys gryn lawer o alluoedd a thueddfryd y beirniad; ymddengys fod anianawd ei feddwl yn tynu at yr athronyddol. Ceir gweithiau Locke,. Reid, a Browne yn mhlith ei lyfrau dewisol. Blinwyd et ar adegau gan ryw amheuon meddyliol, na wyr ond dynion meddylgar ddim am danynt; a da fod ei angor o'r tu fewn i'r llen. Ac at y cwbl, yn yr oll o'i weithrediadau, yr oedd ei feddwl yn gwbl ymarferol.. Nid y damçanwr awyrol a dibwrpas ydoedd ef; ond ceisiai yn wastad ddarostwng ei ymchwiliadau i olygiadau ereill, yn ogystal a'i fyfyrdodau ei hun, i ffurfiau ymarferol. Fel aml i ddyn mawr, amlochrog ei athrylith, ceid rhai teithiau croesymdynol yn nghymeriad ei feddwl; megys amheuyddiaeth ac efergoeledd, yr athronaidd a'r ymarferol, hoffder at yr eglur ac at y cyfriniol. A dichon y ceir esboniad ar hyn, ond ymofyn am rai o honynt yn ngogwyddiadau ei galon, a'r lleill yn maes cynhenid ei. ddealltwriaeth. Diau na saif neb o'i flaen yn yr ail ddosparth o feddylwyr. Derbyniodd addysg dda, o ran cylch a chyflwyredd. Dechreuwyd cwrs ei addysg gan ei fam yn yr adeg a'r modd goreu yn bosibl. Treuliold saith mlynedd a haner dan addysg yn y Charter House, yn Llundain; ac yna bu am chwe' blynedd fel myfyriwr, a blynyddau lawer fel athraw, yn Mhrifysgol Rhydychain. Ac y mae ei lwyddiant i enill ysgoloriaeth, a'i radd o Athraw y Celfyddydau, ynghyda chymrodoriaeth yn Oxford, ei hyddysgedd mewn cynifer o iethoedd, a'r feistrolaeth a feddai dros resymeg a meintonaeth, yn dangos ddarfod iddo werthfawrogi ei fanteision, a dyfod yn ysgolhaig da. Yn Lladin y byddai efe a'i frawd Charles yn ymddiddan pan wrthynt eu hunain. Cyhoeddodd ramadegau at wasanaeth ysgolion Kingswood yn yr ieithoedd Saesonig, Ffrangcaeg, Hebraeg, Groeg, a Lladin. Cyfieithodd wyth ar hugain o hymnau o'r iaith Germanaeg; a dywedir y gallai ddarllen a siarad yr ieithoedd Yspaenaeg, Italaeg, a'r Isellmynaeg. Ystyrid ef yn gyffredin yn feirniad da yn yr ieithoedd clasurol. Bu yn athraw mewn rhesymeg, yn Greek lecturer, ac yn gymedrolwr y dosparthiadau yn Rhydychain am rai blynyddau. Cydnabyddid ef yn un o resymwyr goreu y brifysgol y tymhor hwnw. Mewn gair, trefnodd Rhagluniaeth fod i John Wesley gael yr addysg oreu y gallai y byd ei rhoddi i ddyn ieuangc yn y canrif diweddaf; a gwnaed ef yn ystyr priodol y gair yn ysgolhaig.

O ran ei ddaliadau athrawiaethol, coleddai Wesley yr hyn y gellir ei alw yn "Arminineth Efengylaidd." Dysgai ef yn groyw fod cadwedigaeth pechadur o ras, tra y gwasgai ar y dyn i weithio allan ei iachawdwriaeth "trwy ofn a dychryn." Nodwedd amlycaf ei weinidogaeth a'i gyfundrefn dduwinyddol ef oedd crefydd y galon—megys cyfiawnhad trwy ffydd, tystiolaeth yr Yspryd, adenedigaeth, a pherffeithrwydd Cristionogol. Dichon nad oes neb wedi traethu yn fwy pendant ar y pyngciau hyn nag efe. Dygasid ef i fyny yn Eglwyswr selog; ac yn moreu ei oes, diau ei fod yn Uchel—Eglwyswr, o ran barn ac ymarferiad; a choleddai barch mawr i'r Eglwys, ac ymlyniad proffesedig wrthi hyd ei fedd. Ond camsyniad dybryd yw golygu y coloddai yr un syniadau am dani, ac y safai yn yr un berthynas â hi ar ol ei droadigaeth yn 1738, ag a wnelsai cyn hyny. Dengys ei waith yn pregethu ar dir anghysegredig, yn gweinyddu y sacrament mewn capeli, yn ordeinio lleygwyr i waith y weinidogaeth, ac yntau heb fod yn esgob, yn cynal cynadleddau blynyddol, ac yn tynu allan weithred gyfreithiol i ddyogelu nawdd llywodraeth y wlad dros y cyfundeb yn ei hanfodiad gwahaniaethol, fod cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle yn ei feddwl; herwydd bu adeg pan y buasai yn ei ystyried bron yn bechod achub enaid, os na chymerai le mewn eglwys. Os mynir ei hawlio fel Eglwyswr, canfyddir y gwneir hyny ar draul ei wneuthur yr Eglwyswr mwyaf anghyson âg ef ei hun y clybuwyd am dano erioed. Ar y llaw arall, hollol anghywir fyddai sôn am John Wesley yn rhwygo yr Eglwys er mwyn ffurfio sect o ddylynwyr iddo ei hun. Yr oedd hyny mor bell o fod yn amcan ganddo ag ydyw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Nid yn hyn y ceir yr agoriad i'w fywyd cyhoeddus, ond yn hytrach yn ei gwbl ymroddiad i "efengylu ir tylodion." iachawdwriaeth y werin ydoedd arwyddair ei fywyd. Dewisodd yr amcan yma yn gynar, ac ymwerthodd iddo— hyd derfyn ei oes. Hyn sydd yn cyfrif am symledd ei arddull, nodwedd ei gyhoeddiadau, a helaethrwydd ei elusenau. A chanlyniad ei lwyddiant yn hyn a roddodd fodolaeth i Drefnyddiaeth Wesleyaidd. Ymddegys fod ei olwg hyn cyn ei droadigaeth. Dyma a'i cymhellodd i ymweled â charcharorion pan yn Rhydychain, yn gystal ag i groesi y môr gyda'r bwriad o lafurio fel cenadwr yn Georgia. Yn apostol y werin y treuliodd ei fywyd cyhoeddus. Yn gyson â'r amcan hwn, ceir fod nodwedd y llyfrau a gyhoeddodd, o ran maintioli, pris, ac arddull, yn iswasanaethgar i'r un amcan. Trefnai ei oriau pregethu am bump o'r gloch yn y bore, ac am saith yn yr hwyr; ac i'r un perwyl y cynaliai yr holl sefydliadau elusengar a feddai yn Llundain, a manau eraill. Sefydlodd Dispensary a poorhouse, ysgol ddyddiol, a thrysorfa fenthycol; a chynaliai apothecari a llawfeddyg yn Llundain at wasanaeth y tylodion.

Ond dylid cofio mai sylfaen ei holl allu a'i lwyddiant fel trefnydd a diwygiwr ydoedd ei ddoniau pregethwrol. Nid oedd mor enwog a'i gyfaill Whitfield; a pha ryfedd, oblegyd yr oedd hwnw yn un o bregethwyr goreu Cred. Mewn cymhariaeth iddo collai Wesley mewn llais, dull, a nwyd; ond tybiai llawer y rhagorai arno o ran defnyddiau, trefnusrwydd, dillynder, a chyfeiriad ei bregethau. Mynych y byddai Wesley yn cyfarch miloedd, gan siarad mewn llais cryf, treiddgar, yn hyglyw iddynt oll. Os byddai amser yn caniatâu, pregethai yn faith a llafurus, fel dyn yn methu gollwng y dyrfa ymaith; ac ni byddai neb yn blino arno. Agor yr Ysgrythyrau trwy eu hesbonio, a delio gyda deall ei wrandawyr trwy ymresymu, gan gymhwyso y cyfan at y gydwybod mewn apeliadau cyfeiriadol a grymus, y byddai efe wrth bregethu; a mynych ddylynid ei weinidogaeth â difrifwch ofnadwy a derfyhai mewn argyhoeddiadau dwysion a dychweliadau lawer. Cerddai ei eiriau miniog fel saethau trwy y tyrfaoedd aruthrol a ymgasglent i wrandaw arno; ac er na chodai efe ei lais, ac nad oedd ei ddull yn ddrychebel (dramatic) i'r mesur lleiaf, cwympai dynion cryfion megys meirwon, fel pe wedi eu taraw âg ergyd magnel; a theimlid oddiwrth yr oedfaon a gynaliai am flynyddoedd, gan mor ddwfn oedd yr argraffiadau a wneid.. Y mae yn anhawdd barnu oddiwrth ei bregethau argraffedig beth oedd min, grym, ac awdurdod ei weinidogaeth gyhoeddus, os na cheir awgrymiad yn niweddglo ei bregeth ar "Rad Ras." Prin y credwn fod rhai o'i fyfyrwyr wedi cyfleu syniad cywir am dano fel pregethwr. Hwyrach mai y brenin-fardd Southey a wnaeth fwyaf o degwch ag ef yn hyn. Yr oedd y tyrfaoedd a ymdyrent i'w wrandaw, meithder y pregethau a draddodai heb flino y bobl, yr effeithiau dwysion, ofnadwy ddwysion, a ddylynent ei weinidogaeth yn yr awyr agored, a'r gwaith mawr bendigedig a gwblhawyd trwy ei offerynoliaeth, yn dangos y rhaid ei fod yn bregethwr rhagorol.

Cafodd dreulio blynyddoedd olaf ei oes yn nghanol parch ac edmygedd cyffredinol. Taflwyd drysau eglwysig, a gauwyd unwaith i'w erbyn, yn agored o'i flaen; cyrchai llenorion a seneddwyr i wrando arno yn pregethu, a llenwid drysau y tai âg edrychwyr pan glywid fod "John Wesley yn myned heibio." Estynwyd ei nerth, a gwasanaethodd ei synwyrau a'i gyneddfau meddyliol iddo yn rhyfedd hyd o fewn ychydig ddyddiau i'w farwolaeth. Llywyddodd y gynadledd (un 1790) a gynaliwyd yn Bristol o fewn chwe' mis i'w ymddatodiad. Treuliodd dair wythnos ar ol y gynadledd yn Nghymru, gan bregethu yn fynych. Pregethodd droion ar ei daith i Lundain, a chymerodd rai teithiau byrion allan o'r brifddinas cyn terfyn y flwyddyn, gan drefnu a phregethu yn mhob man yr ymwelai. Erbyn hyn, teimlai fod ei fywyd bron rhedeg i ben, a threfnodd ei dy gogyfer â hyny. Tynodd allan "Deed Poll" i ddyogelu nawdd dros y cyfundeb, a gwnaeth ei "ewyllys olaf" ar ei eiddo personol. Ysgrifenodd amryw lythyrau tra dyddorol yn ystod dau fis olaf ei oes; aï. lythyr diweddaf oll oedd ar "Gaethwasiaeth," yn gyfeiriedig at Wilberforce, i'w gefnogi yn ei ymgais i ddileu y fasnach felldigedig hono. Pregethodd am y waith olaf yn nhŷ anedd heddynâd, o fewn saith niwrnod i'w farwolaeth. Yn mhen deuddydd ar ol hyn, cyflym wanychai. Galwyd am y meddyg, ond yn ofer; canys yr oedd olwynion ei gyfansoddiad bron sefyll, a'i nerth wedi ei dreulio allan. Cyfododd i'w gadair bore Sabbath y 27ain; edrychai yn siriol, ac adroddai un o benillion ei frawd, Charles. Dydd Llun, cynyddai ei wendid, a threuliodd y rhan fwyaf o'r dydd mewn cwsg. Yr ychydig a siaradodd oedd mewn tôn isel, am "waed Iesu Grist, fel yr unig ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf." Ar ol noson anesmwyth, pan ofynwyd iddo bore dydd Mawrth, a oedd yn dyoddef poen, torodd allan i ganu. Wedi hyny, gofynodd am bapur ac ysgrif-bin-fod arno eisiau ysgrifenu. Ond wedi eu cael, yr oedd ei olwg yn rhy bŵl, a'i law wedi anghofio ei medr, fel nas gallai efe ysgrifenu. "Gadewch i mi ysgrifenu i chwi," ebai Miss Ritchie; "dywedwch wrthyf pa beth a fynech ei roddi i lawr." "Dim," atebai yntau, "ond hyn, Y GOREU OLL YW, Y MAE DUW GYDA NI." Torodd allan drachefn i ganu, a chododd unwaith eto i'w gadair. Ond buan y pallodd ei nerth, a rhoddwyd ef yn ol ar y gwely—byth i godi drachefn! Ac wedi cynghori, a chanu, a gweddio, a ffarwelio â'i gyfeillion, pan yr oedd un ar ddeg ohonynt ar eu gliniau o gwmpas ei wely, tynodd Wesley ei draed i'r gwely, a bu farw, heb ochenaid, am ddeg o'r gloch bore dydd Mercher, Mawrth yr 2il, 1791, yn 88ain oed! Claddwyd ei weddillion yn mynwent City Road, Llundain, ar y 9fed o'r mis, yn ngwydd torf aruthrol, am bump o'r gloch yn y bore, mewn gwir ddyogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragwyddol.

Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.