Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach/Pennod I

Oddi ar Wicidestun
At y Darllenydd Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach

gan Josiah Jones, Machynlleth

Pennod II

Bywyd a Gweithiau, &c.

PENNOD I.

O'r braidd y meddyliwn fod eisiau cysylltu enw Azariah Shadrach ag un lle penodol, er bod yn fwy adnabyddus. Nid bob dydd y cyfarfyddir â dyn o'r enw hwn; ac y mae hyny yn fantais i'n darllenwyr wybod at bwy y cyfeiriwn. Ac os ydym i gael enwau o gwbl, y mae yn ddiau y dylem gael enwau cymhwys i gyrhaedd yr amcan o'u rhoddiad, sef dynodi, neu wahaniaethu rhwng un dyn a dynion ereill. Mae y Cymry, fel cenedloedd ereill, yn rhoddi rhywfath o enwau i'w plant; eto, rywfodd, anfynych y cofir at beth y mae enwau da; ac felly rhoddir yr un enwau drosodd a throsodd, heb ofalu a fyddant yn dynodi ai peidio. Fe allai y bydd dwsin o blant yn yr un gymydogaeth heb fod ond un enw rhyngddynt oll; ac mae hyny mewn effaith yr un peth a phe na bai arnynt yr un. Os bydd pob un o'r dwsin yn John, yna y mae yn anmhosibl cael allan am bwy John y siaredir. Ac, i wneyd i fyny am y diffyg hwn, y mae gwahanol ffyrdd yn cael eu harfer. Weithiau ychwanegir enw y tŷ ac fe allai y plwyf, lle byddo'r dyn yn preswylio. Brydiau ereill ychwanegir enw ei dad, ac fe allai ei daid, ac weithiau ei hen daid, at enw priodol y dyn ei hun. Ond yn aml meddylir fod hyn yn ormod o drafferth, a chodir llysenw hynod ar y dyn; yr hwn a wasanaetha yr amcan a ddylai fod mewn golwg wrth roddi ei enw priodol iddo, sef i wahaniaethu rhyngddo ef a rhyw un arall. Gellir bod yn ffol wrth chwilio am enwau dyeithr, yn enwedig os cymerir gormod o ryddid ar enwau y rhai fuont yn enwog iawn yn eu dydd a'u cenedlaaeth ; ond o'r ddau, gwell genym y ffolineb hwn na'r un cyferbyniol o gyfyngu ein dewisiad i'r ychydig enwau sydd mewn arferiad cyffredin. Os rhoddir enw o gwbl, rhodder ef i ddynodi, ac nid i arddel perthynas â rhyw un sydd yn fyw, neu, fe allai, sydd wedi marw.

Y mae yn sicr genym nas gellir beio yn gyfiawn ar enw Azariah Shadrach ar y cyfrif hwn. Y mae hwn yn ddigon hynod i ddynodí: ac heblaw hyny, yr oedd y person a'i dygai mor hynod a'i enw. Nid bob dydd y cyfarfyddid â'i fath ; ac yr oedd hyny yn ei gwneud yn hawddach iddo fod yn adnabyddus. Er hyny, fel na byddai perygl i neb ei gamgymeryd, gofalai gwrthddrych ein cofiant ysgrifenu ei enw yn llawn "Azariah Shadrach, gweinidog yr Efengyl yn Nhalybont," ac wedi hyny, yn "Aberystwyth."

Gan fod enw ein gwron mor adnabyddus, meddyliasom y gallasem gael llawer mwy i'w ddywedyd am dano nag sydd genym, yn neillduol gan ein bod yn byw heb fod yn nepell o faes olaf ei lafur ; ond rhaid i ni gyfaddef i ni gael ein siomi. Er nad oes llawer o flynyddoedd er pan fu farw, eto, nid oes ond ychydig yn awr yn fyw yn cofio helyntion boreuol ei fywyd. Ac yn mysg y rhai hyny, nid pob un sydd yn barod i fyned i'r drafferth i roddi y cymhorth gofynol i gadw ei gymeriad, yn gystal a'i enw, mewn coffa. Y mae gormod o ddifaterwch o lawer yn ein plith am goffadwriaeth ein henwogion ; a chan fod coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig, y mae yn ddiau ein bod yn golledwyr yn gystal ag yn feius, wrth beidio ymdrechu sicrhau y bendigedigrwydd hwn. Yn fuan, fuan, bydd cymeriadau llawer o gedyrn yr oes ddiweddaf -dynion nad oedd y byd yn deilwng o honynt, wedi myned i annghofrwydd. Ac oni bai fod Shadrach ei hun wedi ysgrifenu ychydig o hanes ei fywyd ar ddiwedd ei "Gerbyd o Goed Libanus," ni fyddai genym ond ychydig i'w ddweyd yn hanesyddol am dano. Rhaid i ni hefyd ddychwelyd ein diolch cynhesaf i Mr. Robert Jones (Adda Fras,) Aberystwyth am yr hyn a wnaeth yntau i goffadwriaeth y cyfiawn hwn. Oni bai Mr. Jones fel ysgogydd, cawsai corff Azariah Shadrach orwedd yn dawel, heb gymaint a chareg i nodi allan ei fedd. 0 hyn allan cysyllter ei enw a'r hwn a gerid mor anwyl ganddo tra yn fyw, ac â berchir mor gynhes ganddo yn awr pan yn farw.

Ganwyd Azariah Shadrach Mehefin 24, 1774, mewn lle o'r enw Carndeifo-fach, yn mhlwyf Llanfair, yn agos i Abergwaun, yn sir Benfro. Enwau ei rieni oeddynt Henry ac Ann Shadrach, ill dau yn enedigol o blwyf Nyfern. Yr oedd ganddynt chwech o feibion, o'r rhai Azariah oedd y pumed. Tra nad oedd eto ond saith mlwydd oed, symudodd ei rieni i blwyf Borton, ar lan afon Penfro: "a bum i yno (ebe Shadrach,) yn chwareu gyda phlant bach y Saeson dros dair blynedd." Ac ni ryfeddem nad oedd gan Ragluniaeth lygad neillduol ar Azariah, ac ar y fantais a roddai chwareu gyda phlant bach y Saeson iddo, yn symudiad ei rieni. Mor bell ag yr ydym ni yn gweled, yma y bu fwyaf yn y "coleg;" a'r "plant bach," ys dywed yntau, oedd ei athrawon. Fodd bynag, nid oedd cylch ei efrydiaeth, y pryd hwn, yn myned yn mhellach na dysgu Saesonaeg; a chan iddo fod yno dros dair blynedd o amser, nid rhyfedd ei fod yn gallu dweyd iddo ddysgu siarad Saesonaeg yn lled rwydd. Pa le y gallasai gael gwell athrawon? Nid ydym yn gwybod am well cyfleusdra i blentyn ddysgu iaith benodol, nag ydyw iddo gael cyd-chwareu â phlant fyddont yn siarad yr iaith hono yn unig. Er nad oedd nac Athroniaeth, na Duwinyddiaeth, nac unrhyw aeth arall, yn cael ei phroffesu yn y "coleg" chwareuol hwn, eto, gan iddo ddysgu Saesonaeg yno, cafodd afael ar agoriad i fyned i mewn mor bell ag y mynai i'w dirgeloedd. Heb son am y Gymraeg, gallwn ddweyd ei bod yn gywilydd i unrhyw un sydd yn gwybod Saesonaeg fod yn anwybodus. Mae yn wir ddarfod i Saesonaeg y. llanc Azariah, neu, a chadw y ffugyr i fyny, ddarfod i'w agoriad ef, rydu ychydig wedi iddo gael ei symud ar ben tair blynedd i gymydogaeth Trewyddel, at fodryb iddo, chwaer ei dad, yr hon oedd yn byw yn Fagwyreinion-fawr ; eto, yr oedd hi yn ddiau yn llawer haws iddo i godi y rhwd hwn i ffwrdd nag a fyddai iddo gael agoriad o'r newydd i gyd. Ond i ni, y mae bys Rhagluniaeth yn amlwg yn y symudiad hwn eto, gan nad beth am ei Saesoneg ; oblegid ar ei dystiolaeth ef ei hun, "nid oedd yn gwybod gair ar lyfr, nac yn adnabod yr un lythyren, nac wedi clywed nemawr o bregeth na gweddi, hyd onid oedd dros ddeg oed;" ac felly, os danfonwyd ef gan Ragluniaeth i gymydogaeth Seisnig, yn yr oed cymhwysaf i ddysgu yr iaith hòno gan y "plant bach," gofalodd ei gymeryd oddiyno mewn pryd i gael ei ddysgu mewn crefydd yn nghymydogaeth Trewyddel. Na ddyweded ein darllenwyr nad oes gan Ragluniaeth law mewn pethau "bychain" fel hyn ; oblegid, mewn gwirionedd, nid pethau bychain ydynt. Yr oedd y ddau beth yn elfenau pwysig i wneud Azariah yr hyn, wedi hyny, y daeth ef i fod. Ac os ydym yn gwadu Rhagluniaeth mewn pethau bychain, rhaid i ni, ar yr un tir, ei gwadu hefyd mewn pethau mawrion. Y mae y pethau mwyaf yn fychain i Dduw. Yn nhŷ ei fodryb, yr oedd dyn ieuanc o gefnder iddo, "yn arferol o ddarllen a gweddio yn y teulu;" a chafodd ei weddiau taerion a difrifol argraff ar ei feddwl er da. Ac wrth geisio dysgu cân yr "Hen wr dall a'r Angau," wrth fugeilio ar lân y Fagwyreinion, ymbalfalodd ei ffordd i ddarllen Cymraeg. Yr amser hwn, yr oedd y Parch. John Phillips yn weinidog ar eglwys Trewyddel, ac o dan ei weinidogaeth ef dyfnhawyd argyhoeddiadau Azariah ieuanc. Yr oedd y saethau mor llymion, yn ol ei adroddiad ei hun, fel nas gallasai gysgu'r nos, rhag ofn mai mewn trueni y byddai yn agor ei lygaid tranoeth. Gallem feddwl mai fel y teimlodd y Salmydd, y teimlai yntau yn bresenol: "Gofidion angau a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm dâliasant: ing a blinder a gefais. Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd ; atolwg Arglwydd, achub fy enaid." Ond pan y clywodd ef. fod "gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn glanhau oddiwrth bob pechod," aeth ei faich i lawr, a dechreuodd brofi hyfrydwch yn ngwaith yr Arglwydd.

Wedi y profiad tanllyd hwn, ymwasgodd Azariah ieuanc at y dysgyblion yn Nhrewyddel, a derbyniwyd ef yn aelod gan y Parch. J. Phillips. Ac yn lle gwneud ei aelodaeth eglwysig yn fath o glustog i gysgu arni, ymroddodd Azariah i fod yn fwy diwyd nag erioed. Er nad oedd eto ond ieuanc ac anwybodus, yn ol ei addefiad ei hun, eto, teimlodd awydd yn fuan i bregethu yr efengyl. Gyrai yr awydd hwn ef i bregethu yn aml wrtho ei hun yn y caeau, ac ar ben y cloddiau ; a dywed wrthym yn ddiniwed iawn, ei fod "yn cael hyfrydwch mawr." Nid yw pob awydd i bregethu yn ddiau o Dduw, am y gall godi oddiar wreiddiau llygredig; ond, y mae yn anhawdd genym feddwl fod yr Arglwydd wedi bwriadu i neb ymaflyd yn y gwaith pwysig hwn, os nad yw yn meddu awydd neillduol ato. Y mae tuedd neu awydd at waith yn gymhwysder i'w gyflawni; ac nid ydym yn meddwl fod neb wedi ei fwriadu gan Dduw at waith penodol, os na bydd ynddo gymhwysder penodol ato. Gyrid Azariah gan yr awydd a deimlai i bregethu'r efengyl, yn gystal â chan yr hyfrydwch, debygem, a deimlai wrth ei phregethu i'r caeau a'r cloddiau, i fod yn ddyfal ddydd a nos i geisio ymgydnabyddu â'i Feibl Cymraeg; a dywed wrthym iddo, "drwy ymdrech a llafur, ddyfod i wybod ychydig am dano o ddechreu Genesis hyd ddiwedd y Dadguddiad." Gallem feddwl, hefyd, na adawodd ef ddim o'r llafur hwn a'r ymdrech o'r neilldu, drwy gydol ei fywyd; oblegid, fel y cawn achlysur i sylwi eto, daeth o ychydig i ychydig yn un o'r ysgrythyrwyr goreu yn ei ddydd. Ac yr oedd hi yn gryn bwnc i fod yn gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau y pryd hwnw ragor yn awr. Nid oedd ond ychydig o Feiblau yn y wlad; oblegid rhyw bymtheg neu, ragor o flynyddau wedi hyn y sefydlwyd y Feibl-Gymdeithas, yr hon sydd erbyn hyn, fel afon lifeiriol, wedi llenwi ein gwlad â Beiblau. Nid oedd Ysgolion Sabbothol ychwaith wedi eu sefydlu; ac, mewn canlyniad, nid yn unig yr oedd llai o fanteision, ac a ddysgu darllen yr Ysgrythyrau, ond hefyd, llai o gefnogaethau iddo i fyned yn mlaen ar ei ben ei hun. Fodd bynag, ymladdodd Azariah âg anhawsderau: ac yn hyn, dangosodd fod rhywbeth ynddo. Yn y cyffredin, y mae y rhai sydd i gyflawnu, gwaith mawr yn eglwys Dduw, yn cael eu caledu at hyny drwy anhawsderau yn eu dyddiau borëol: a diau fod dysgu ymladd âg anhawsderau a'u gorchfygu, yn un o'r cymhwysderau goreu i'r weinidogaeth. Yn ychwanegol at yr ymdrechion personol. hyn, cafodd, drwy garedigrwydd ei fodryb, ychydig yn rhagor o ysgol dan ofal un John Young, yr hwn oedd yn glochydd i'r offeiriad enwog hwnw, Mr. Griffiths, o Nyfern. Ac, mor bell ag yr ydym yn gweled, dyma i gyd o fanteison ysgoliol gafodd Azariah Shadrach. Ond os bydd rhywbeth mewn dyn, y mae yn dra sicr o ddyfod allan o hono ryw fodd neu gilydd.

Daw allan hefyd mewn modd diymgais a diseremoni. Nid oes genym ond y ffydd leiaf yn y bobl hyny sydd o dan orfodaeth i ddweyd wrth ereill yn barhaus fod rhywbeth ynddynt: ond dyna'r bobl y meddyliwn yn uchel am danynt, y rhai heb fwriadu hyny, a ddangosant i ereill fod rhywbeth ynddynt drwy weithredoedd. Un o'r cyfryw oedd Azariah Shadrach. Yn lle meddwl yn awr fod holl gylch dysgeidiaeth wedi ei gwmpasu ganddo: neu, yn y gwrthwyneb, yn lle gwangaloni wrth feddwl pa mor lleied a ddysgodd, ac wrth feddwl hefyd am yr anhawsderau oeddynt ar ei ffordd i ddysgu rhagor, safodd Azariah am ychydig, i ofyn iddo ei hun, Beth a wnaf? Gofyn iddo ei hun, feddyliwn, ddarfod iddo wneud, ac nid i ereill; a chan nad pa mor dda yw "gair yn ei bryd" oddiwrth ereill, eto, y bobl hyny sydd.yn ymgynghori llawer â hwynthwy eu hunain, ryw fodd, sydd yn dyfod yn mlaen. Y mae y gofyniad, Beth a wnaf? yn foddion i ddysgu iddynt i gynllunio drostynt eu hunain, yr hyn sydd yn un o elfenau anhebgorol llwyddiant; ac y mae yn eu cadw hefyd i ymddibynu mwy arnynt eu hunain nag ar ereill, yr hyn sydd yn elfen anhebgorol arall. Wedi gofyn fel hyn iddo ei hun, daeth yn fuan, debygem, i allu dweyd, "Mi a wn beth a wnaf." Ymgynygodd cynllun i'w feddwl, a chymeradwyodd ef. Yn weinidog ar eglwysi Trefgarn, Rhodiad, a Rhosycaerau, yr oedd y Parch. John Richards; gwr y tybid gan Azariah ei fod yn "dduwiol iawn—yn bregethwr call-yn ysgolhaig mawr, ac yn dduwinydd rhagorol;" ac ymddengys fod ei farn am dano yn o gywir. Mae yr anerchiad barddonol Saesoneg a ddanfonwyd ato gan y clodfawr Evans, o'r Drewen, gŵr o farn ar bwnc fel hwn, er ceisio ei luddias i fyned i America, yn dangos ei fod yntau o'r un farn ag Azariah am dano. A dywed Azariah wrthym fod gan y gwr hwn "lyfrgell o'r llyfrau goreu oedd yn bod." Yn awr, yr oedd y gwr parchedig hwn yn byw ar fferm, o'r enw Trelewellyn; ac yr oedd gan Azariah ddwylaw a fedrent weithio ar fferm, a chalon a fedrai ufyddhau. Meddyliodd Azariah, gan hyny, y gallai y tri pheth yma gyda'u gilydd fferm y Parch. John Richards, llafur ei ddwylaw, ac ufydd-dod ei galon yntau-roddi iddo y compound a ddymunai: sef, cyfleusdra i gynyddu mewn gwybodaeth. Aeth i lawr i roi tro at y Parch. John Richards, a gwnaeth iddo gynyg, yr hwn a roddwn i lawr yn ei eiriau ei hun—"Mi a ddywedais wrtho y gwnawn ei wasanaethu ef am flwyddyn, ac y byddwn ffyddlon yn mhob peth a fedrwn, ar yr amod y cawn ddarllen ei lyfrau ef bob tro y byddai cyfleusdra yn caniatau: ac felly y bu." Nid oedd yn gweled, ddarllenydd, fod llafur corfforol, a blwyddyn o amser, yn ormod i'w rhoddi am fenthyg llyfrau i'w darllen. Ac y mae dyn o'r ysbryd hwn yn sicr o ymgodi. Cof genym glywed am ddyn ieuanc, yr hwn a ddechreuai bregethu ryw wyth neu naw o flyneddau yn ol, yn dyfod ar ryw achlysur at weinidog yn ei gymydogaeth enedigol. Yn mhen ychydig, dechreuodd hwnw ofyn iddo sut yr oedd yn meddwl cael ychydig o ysgol? "O (ebe yntau), yr wyf yn meddwl myned at fy nhad i dori ceryg ar y ffordd, ac mi gynilaf gymaint ag a fedraf." Eithaf ysbryd, ddarllenydd, onidê? Ymgododd y dyn ieuanc hwn hefyd o ychydig i ychydig, nes yr ymaelododd yn y London University; ac y mae yn awr yn un o'r cenadau mwyaf gobeithiol ar gyfandir India. Caiff dynion o'r ysbryd hwn "fara o'r bwytâwr", cânt fantais o'r amgylchiadau fyddont yn ymddangos yn fwyaf anffafriol: ac nid edifarhaodd Azariah am y cynyg a wnaeth. Ei eiriau yn mhen blyneddoedd lawer, wrth adolygu y tro hwn, ydynt y rhai canlynol:—"Aethym ato, ac yr wyf dan rwymau mawr i ddiolch i'r Arglwydd am y tro hwn; oblegid efe a roddes o'm blaen sampl i fyw yn dduwiol, a chefais ganddo lawer o addysgiadau buddiol, a chyngorion difrifol, a chyfleusdra hefyd i ddarllen y llyfrau goreu oedd yn bod." Anogodd Mr. Richards ef yn fuan i ddechreu pregethu; yr hyn a wnaeth mewn lle o'r enw Caergowyl, yn agos i Rosycaerau. Felly, mewn cysylltiad âg eglwys Rhosycaerau, y dechreuodd Azariah Shadrach bregethu i ddynion. Ond fel y gwelsom yn barod, yr oedd wedi pregethu llawer i'r caeau a'r cloddiau yn flaenorol, yn ardal Trewyddel; ac yn sicr, ddarllenydd, mae dysgu pregethu i gloddiau yn gymhwysder anghyffredin i bregethu i ambell gynulleidfa: yn enwedig ar ambell i brydnawn trymaidd ddau o'r gloch yn yr haf. Rhoddwn o flaen y darllenydd, ddesgrifiad byr a dderbyniasom o'r pregethau parotöawl hyn, oddiwrth un oedd bron yn gyfoed ag ef—y Parch. Daniel Davies, Aberieifi. un olwg, gellir dweyd (meddai Mr. Davies) ei fod yn bregethwr cyn erioed iddo gael ei dderbyn yn aelod; oblegid cof genym y siarad cyffredin oedd am bregethau yr hogyn pan yn bugeilio'r praidd yn y maes. Safai ar ben y clawdd, a chymerai weithiau y môr, bryd arall, y mynydd, neu rywbeth arall, yn destyn: a bloeddiai c'uwch, nes y gellid ei glywed o bell. Ond nid llawer oedd yn meddwl y pryd hwnw fod gan y Pen-bugail gymaint iddo i'w wneud." Yn y modd hwn, ddarllenydd, o leiaf mewn rhan, y dysgodd Azariah Shadrach bregethu i gynulleidfaoedd anystyriol a gwrthwynebus yn Ngogledd Cymru.

Meddylir yn gyffredin mai yn Nhrewyddel y dechreuodd Shadrach bregethu; ond yr ydym wedi gweled eisioes, ar ei dystiolaeth ef ei hun, mai yn nghymydogaeth Rhosycaerau y gwnaeth hyny; oddieithr i ni gymeryd ei bregethau bugeiliol i'r cyfrif. Ond hen eglwys enwog, er hyny, ar gyfrif ei magwraeth o bregethwyr, yw Trewyddel. Yn yr ystyr yma, y mae wedi gadael dylanwad pwysig ar Gymru, ddeau a gogledd; ac nid rhyw eiddilod diddim ychwaith yw y rhai a fagwyd ganddi; ond pobl rymus a dylanwadol. Ac y mae yn hynod gymaint mwy cynyrchiol yw ambell eglwys na'u gilydd gyda golwg ar hyn. Y mae genym ambell eglwys henafol a lliosog heb godi erioed ond rhyw un neu ddau i bregethu Crist; ac yn ei hymyl, fe allai, y bydd eglwys o faintioli canolig wedi magu llu. Y mae cael gweithwyr i'r winllan yn ddiau yn beth y dylai pob eglwys amcanu ato. Gorchymynir yn bendant i ni wneud eu cael yn fater gweddi gerbron Duw. Mae y cynhauaf eto yn fawr, ac yn aeddfed, a dylid atolygu ar Arglwydd y cynhauaf anfon gweithwyr i'w gynhauaf. Ai tebyg, ynte, fod anamledd y pregethwyr a godant o ambell eglwys, yn dangos mor amddifad yw yr eglwys hòno o ysbryd gweddi? Neu ai prawf yw nad oes dim digon o laeth duwioldeb yn yr eglwys hòno i fagu meibion gwrol i Dduw. Y mae ymddygiadau ambell eglwys, hefyd, at bregethwr ieuanc fyddo hi ei hun wedi ei godi, yn gyfryw ag a fydd yn atalfa effeithiol iawn, o'i rhan hi, i unrhyw un arall i godi yno ar ei ol. Boed i'r eglwys brofi yr ysbrydion er gweled a ydynt o Dduw cyn beiddio rhoddi caniatâd iddynt bregethu; ond os caiff hi brawf digonol mai oddiwrth Dduw y maent yn dyfod; yna, er mwyn y Duw a'u danfonodd, rhodded bob cefnogaeth iddynt i fyned yn y blaen. Y mae eglwys Trewyddel yn sefyll yn anrhydeddus gyda golwg ar hyn. Ynddi hi y cododd y Parchedigion Daniel Evans, gynt o'r Mynyddbach; John Phillips, gynt o Drewyddel; James Phillips, gynt o Bethlehem, ei fab; James Morris, gynt o'r Wyddgrug; Llewelyn Rees, diweddar o Drewyddel; Daniel Davies, Aberteifi; Llewelyn Samuel, diweddar o Bethesda; David James, Rhosymeirch; Benjamin Rees, Llanbadarn; William James, diweddar o Lanybri; ynghyd â'r Parch. John Gwyn Jones, Fenstanton; heblaw nifer o bregethwyr cynorthwyol, a rhai o honynt yn ddefnyddiol iawn, er na chawsant alwad i weinidogaethu mewn un eglwys neillduol. Ac er mai yn Rhosycaerau y dechreuodd Azariah Shadrach bregethu, eto y mae yn hawdd iawn genym gredu na ddechreuai ef ddim yno, oni bai fod y marworyn wedi cyffwrdd â'i wefusau yn ardal Trewyddel. Os felly, pa fodd y cododd cynifer o bregethwyr yn olynol yn yr eglwys hon? Yn ffodus i ni, y mae llythyr y Parch. Daniel Davies atom, yn rhoddi i ni atebiad," Yr oedd eglwys Trewyddel yr amser hwn, (ebe fe,) yn un liosog a gwresog iawn; a'r Parch. J. Phillips, y gweinidog, fel tad tirion, yn magu yr aelodau yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd; ac os gwelai aelod â rhyw argoelion ynddo y gallai fod yn ddefnyddiol fel genau cyhoeddus, gwnai ei anog at hyny gyda y tynerwch mwyaf, a chymhellai yr eglwy's i roddi pob cefnogaeth iddo o fewn ei gallu." Dyna, ynte, ddarllenydd, y conditions anghenrheidiol i godi pregethwyr.—Rhaid i'r eglwysi fod yn wresog, ac i'r gweinidog, yn ystyr helaethaf y gair, fod yn fugail.

Yr oedd Shadrach (ebe fe) yn perthyn yn agos i nifer nid anenwog o weinidogion. Bu pedwar o'i berthynasau yn gweinidogaethu yn olynol yn Brynberian, sef y Parchedigion Dafydd Lloyd, Thomas Lloyd, Stephen Lloyd, a Henry George; ac yr oedd y Parch. B. Evans, Trewen, yn dal cysylltiad ag ef, o leiaf, drwy gyfraith. Ond hynod yw, nad aeth Azariah ieuanc, mor bell ag y gwelwn, at neb o'i berthynasau i ymofyn cynorthwy; ond at un oedd, mor bell ag y deallwn, yn estron iddo, Mr. Richards. A ydyw hyn yn profi ei bod hi yn well ganddo gael yr hyn a ddymunai drwy lafur ei ddwylaw, na thryw garedigrwydd ei berthynasau? Mae rhai yn meddu ar deimlad fel hyn: Dr. Livingstone er enghraifft.

Yn awr, wele Azariah Shadrach yn bregethwr. A pheth o bwys, ddarllenydd, yw gwisgo unrhyw gymeriad newydd; yn neillduol felly y cymeriad o bregethwr yr efengyl. Y mae hyn wedi bod yn ddinystr i lawer. Yr oedd rhyw lun arnynt o'r blaen; ond mor fuan ag y dechreuasant bregethu, nid oedd llun yn y byd arnynt—fel crefftwyr, fel aelodau eglwysig, nac fel PREGETHWYR ychwaith. Melldith i ambell un oedd iddo ddechreu pregethu erioed. Yr oedd yn gallu dal yn mysg y lluaws fel aelod cyffredin; ond pan y cyfodwyd ef i safle uwch, daeth i fod yn fwy darostyngedig i ystormydd profedigaethau a gwrthwynebiad; ac am nad oedd ei baladr yn gryf, na'i ddefnydd yn wydn, drylliwyd ef yn dost, a dweyd y lleiaf; ac os ail-impia eto, bydd ol y dryllio hyn arno byth. Daeth dyn ieuanc o grydd unwaith at y Parch. Lewis Rees, Llanbrynmair, i awgrymu fod arno chwant cynyg pregethu. Ond gan fod yr hen batriarch yn ofni na fyddai cael ei godi yn uwch yn un fantais iddo ef, nac i neb arall, dywedodd wrtho gyda phwyslais priodol, debygem, "Ni allaf ddywedyd ond ychydig, ond mi a wn un un peth, eich bod yn grydd da;" gan awgrymu, debygem, y byddai hi yn well iddo gadw ei gymeriad fel crydd da, na bod yn erthyl gyda phob peth. Ond daliodd Azariah ei godi, ac ymgododd hefyd wedi ei godi. Dychwelodd yn mhen blwyddyn oddiwrth y Parch. John Richards at ei fodryb i Drewyddel; ac ymddengys ei bod hi yn amser cynes iawn ar grefydd yno y pryd hwnw. Yr oedd yno. rai dynion ieuainc yn dechreu pregethu ar y pryd, ac yn eu plith yr oedd Daniel Evans, wedi hyny o'r Mynyddbach; ac ymddengys fod Azariah ac yntau yn gyfeillion neillduol. Yr oeddynt ill dau yn dygwydd bod yn Abergwaun pan diriodd y Ffrancod yno yn y flwyddyn 1797, a dywed Azariah wrthym fod ei ffydd ef yn wan iawn pan yn canfod byddin y gelynion yn dyfod i lawr i draeth Wdig, cyn iddynt daflu eu harfau i lawr.[1] Ac y mae yn hawdd iawn genym gredu ei bod; yr oedd hi yn amser tra difrifol yno. Nid peth dibwys oedd gweled nifer o ddynion arfog yn tirio i gymydogaeth ddiamddiffyn. Ond gan nad beth am Azariah a'i gyfaill, dangosodd preswylwyr y cymydogaethau cylchynol lawer o wroldeb ar y pryd. Yn lle ffoi o flaen eu gelynion fel creaduriaid gwylltion, darfu i luoedd ymgasglu ynghyd o bell ac agos, gan gymeryd yn eu dwylaw unrhyw arf fyddai yn gymhwys, yn ol eu tyb hwy, i ddinystrio y gelynion. Clywsom yn ein dyddiau borëol fod nifer o gymydogaeth Trewen wedi ymfyddino yn erbyn y gelyn; ac o ddiffyg arfau gwell, yr oedd rhai o honynt wedi unioni hen grymanau, ac ereill wedi gosod pladuriau ar goesau pigffyrch, gan droi proffwydoliaeth Esaiah yn y gwrthwyneb yn lle troi y gwaewffyn yn bladuriau, troi y pladuriau yn waewffyn oedd yma. Wedi myned am ran o'r daith fel hyn, clywsant er eu cysur fod y gelyn wedi ymostwng; a phan yn dychwelyd, pwy a'u cyfarfyddodd ond eu parchus weinidog, Mr. Evans, yr hwn oedd wedi bod oddicartref. Yr oedd y llawenydd yn fawr o'r ddau du; ac anerchai Mr. Evans hwynt gan ddweyd, "Wel, fy mhobl anwyl i, yr ydych wedi bod yn erbyn y gelyn." "Ydym," meddent hwythau. "Wel, (ebe yntau,) pe bawn i gartref, daethwn gyda chwi droed y'mhwll." Gallem feddwl y byddai ffydd Mr. Evans yn Nuw, y pryd hwnw, yn gryfach nag eiddo Azariah ieuanc. Amser difrifol, ddarllenydd, welodd ein tadau.

Erbyn hyn, y mae Azariah genym yn ddyn ieuanc parod ac awyddus am waith; ond, atolwg, pa le mae y maes iddo weithio ynddo? Y mae o bwys i ddyn gael y gymydogaeth fyddo yn ei daro, ac o bwys i'r gymydogaeth i gael y dyn fyddo yn ei tharo hithau. Ond sut y mae cael y naill at y llall? Digon, yn awr, yw dweyd, mai yr hen ddull ydoedd i'r ymgeisydd am faes i lafurio ynddo, fyned am daith bregethwrol, gan obeithio y gwnai Rhagluniaeth drefnu iddo gael ymsefydlu mewn rhyw fan. A chan nad faint a ddywedwyd am y teithiau pregethwrol hyny, y dull mae yn ddiau genym fod llawer o ragoriaeth ynddynt ar y tra-arglwyddaidd hwnw o benodi dyn, a'i ddanfon i le penodol drwy rym cyfraith, heb ymholi fawr, yn fynych, pa un a fydd y lle a'r dyn yn taro eu gilydd ai peidio? Mewn cydsyniad â'r arferiad hon, darfu iddo ef a'i gyfaill, Daniel Evans, gymeryd taith i bregethu drwy ranau o siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, Morganwy, a Mynwy; a dywed wrthym, eu bod yn gorfod myned o Felincwrt, ger Castellnedd, drwy Ferthyr-Tydfil, Dowlais, a Rumni, hyd Ebenezer, Pontypool, heb un lle i bregethu ynddo. Gŵyr y darllenydd fod gwaith mawr wedi cael ei wneud yma er y dyddiau hyny. Erbyn heddyw, nid yw yn debyg y gellid cael cynifer o gapeli mawrion, llawnion, a hardd, yn un ran arall o gyffelyb faintioli yn Nghymru ag a geir yn y parth crybwylledig. Ond, nid yn y parth hwn yr oedd Rhagluniaeth wedi bwriadu iddo ymsefydlu, na'i gyfaill ychwaith, y pryd hwnw. Yn y flwyddyn 1798, cymerodd daith arall ar ei draed i'r Gogledd, a phregethodd yn mhob capel perthynol i'r Annibynwyr, lle byddid arferol o bregethu Cymraeg. Diau y byddai hanes manwl o'r daith bregethwrol hon yn bur ddyddorol pe cawsai ei hysgrifenu yn fanwl. Gallwn gymeryd yn ganiataol fod llawer dygwyddiad chwithig, yn nghyda llawer helynt flin, wedi cymeryd lle cyn iddo ei gorphen. Ond er ein colled, nid oedd ysgrifenu hanes teithiau yn beth mor gyffredin y pryd hwnw ag ydyw yn awr. Erbyn hyn, mor wir a bod rhywun yn gadael ei dŷ i fyned ychydig oddicartref, y mae mor wir a hyny fod tebygolrwydd y ceir hanes ei daith mewn rhyw fisolyn neu bapyr newydd neu gilydd. A digrif, yn fynych,' yw sylwi ar yr hunanfoddhad a amlygir pan fyddo y teithwyr o un gymydogaeth i'r llall yn rhoddi adroddiad o'u teithiau. Y fath bethau pwysig a welsant! a'r fath fyfyrdodau a gylymir wrthynt! Ond er mor dda fyddai genym gael manylion y daith foreuol hon o eiddo Shadrach, eto ni chawsom ond ychydig o honi.. Clywsom, fodd bynag, ei fod un diwrnod yn myned heibio i efail gof: a dywedodd un o'n hawdurdodau mai yn Ngharno y bu'r peth, tra y tybia arall mai yn un o bentrefi erlidgar Arfon neu Ddinbych y bu. Gan ei fod yn teimlo ei feddwl yn isel, a'i galon yn ofnus, cyflymai heibio mor ddystaw ag y medrai. Ond cyn ei fod nemawr o ffordd, clywai rywun yn gwaeddi tu ol iddo; a chan ei fod yn tybio fod rhyw ddrwg yn agos, brasgamai yn mlaen yn gyflymach fyth. Parhäai y llef ar ei ol, a pharhäai yntau i gyflymu yn mlaen. Ond o'r diwedd trodd ei lygaid tros ei ysgwydd, ac er ei ddychryn, gwelai y gof â gwialen haiarn wenias o ganol y tân, yn rhedeg ar ei ol! Rhedai Shadrach ar hyn, a rhedai y gof ar ei ol; ac i wneud y drwg yn waeth, y gof oedd gyflymaf. Ond pan y disgwyliai Shadrach i'r haiarn poeth gael ei wthio i'w gefn, tarawodd y gof ei law ar ei ysgwydd yn garedig, a gofynai iddo, "Mr. Shadrach bach, be ydech chi yn rhedeg i ffwrdd fel ene? dowch i mewn atom ni i gael tamaid o fwyd." Yn lle ymosod yn erlidgar arno, fel yr ofnai Shadrach, trodd y gof hwn allan yn gyfaill caredig iddo, nid yn unig y pryd hwnw, ond hefyd dros ei oes. Aml y mae dyn yn cael ei siomi yr ochr oreu!

Ond i ddychwelyd, yr oedd yr eglwysi Annibynol yn y Gogledd y pryd hwnw yn wan ac anaml. Ar y daith hon, daeth Shadrach i gyffyrddiad â'r Dr. Lewis, o Lanuwchllyn, yr hwn a'i anogodd ef yn fawr i ddyfod i ymsefydlu yn y Gogledd, er cadw ysgol a phregethu'r efengyl, yr hyn a wnaeth yn nechreu y flwyddyn ganlynol. Ymsefydlodd gyntaf mewn lle o'r enw Hirnant, yn agos i Lanrhaiadr-Mochnant, lle yr oedd capel bychan, dan ofal y Parch Jenkin Lewis, Llanfyllin. Y mae cofion cynes gan yr hen bobl yn y gymydogaeth hono anı dano eto. Daeth amryw o blant ato i'r ysgol, ac yn ol ei dystiolaeth ei hun, "gwnaeth yntau ei oreu i'w dysgu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Pregethai lawer yn y cymydogaethau hyn: a dywed wrthym fod "llawer o'r trigolion yn dywyll iawn, ac yr oedd tuedd erlidigaethus mewn rhai o honynt, fel trigolion Llanfyllin." Fel trigolion Llanfyllin, ddarllenydd; gallem feddwl, yn ol ei farn ef, fod rhyw enwogrwydd erlidigaethol yn perthyn i'r rhai hyn; ac er dangos ysbryd erlidigaethus y trigolion cymydogaethol, digon ganddo oedd dweyd, eu bod "fel trigolion Llanfyllin." Nid ydym yn gwybod a oedd trigolion Llanfyllin yn waeth y pryd hwnw na thrigolion rhyw dref fechan arall gyffelyb iddi:—ond y mae trefydd bychain, yn gyffredin, yn rhai hawdd eu cyffroi; ac yr ydym yn meddwl fod efengylwyr Cymru wedi cael gwaeth triniaethau yn ei threfydd bychain, nag yn un lle arall. Saethwyd at Howell Harris pan yn pregethu yn Machynlleth; ac y mae y cyffredin yn gwybod am y driniaeth greulawn gafodd gan drigolion y Bala. Ac o'r braidd y meddyliwn fod nemawr i dref fechan yn Nghymru yn meddu ar gymeriad difrychau gyda golwg ar hyn. Y mae yr ymosodiad ffyrnig a wnaeth rhai o drigolion Llanfyllin ar y tŷ yn yr hwn yr oedd y Parch. Jenkin Lewis yn cadw cyfeillach, gyda'r bwriad i boenydio y cyfiawn hwnw, yn ysmotyn du ar eu cymeriad hyd heddyw. Ac fe allai fod y weithred hono mewn golwg gan Shadrach, pan yn gwneud trigolion Llanfyllin yn enghraifft o erlidwyr y cymydogaethau cylchynol. Paham ynte y mae trefydd bychain wedi bod yn fwy erlidgar na lleoedd ereill? Heb roddi rhesymau ereill yn awr, gosodwn hwn o flaen y darllenydd fel y penaf:—Yr oedd y pryd hwnw, fel yn awr hefyd i raddau gormodol, lawer o ysgarthion cymdeithas, neu rabble, yn byw ynddynt; a chan fod ysweiniaid ac offeiriaid erlidgar yr oes yn meddu ar dipyn o ddylanwad lleol, yr oeddynt yn gallu eu defnyddio i gyrhaedd eu dybenion eu hunain. Ond er pob gwrthwynebiad, pregethai Shadrach yn mhell ac yn agos. Yn niwedd y flwyddyn, symudodd i gadw ysgol yn Mhenal, ger Machynlleth; a dywed wrthym fod ganddo oddeutu triugain o blant y gauaf hwnw: "a gwnaethun fy ngoreu (meddai) i'w dysgu a'u cynghori, a'u hegwyddori yn egwyddorion sylfaenol y Grefydd Gristionogol." Ac yr ydym yn hyn yn cael cyfleusdra i weled y dyn. Nid cadw ysgol er cael tamaid o fara a wnai; o leiaf, nid hyny yn unig, ond er cael cyfleusdra i ddysgu y rhai oeddynt dan ei ofal yn egwyddorion crefydd. Dyma ydoedd yr amcan blaenaf. Pregethai yn fynych yn Mhenal ac Aberhosan, ac ymddengys fod diwygiad "lled dda," ys dywed yntau, yn. Aberhosan ar y pryd. Gallem feddwl ei fod yntau yn pregethu yn dra effeithiol; oblegyd clywsom i un o'i wrandawyr, wrth ei weled yn ymdynu at y terfyn, waeddi allan, ryw dro, yn Aberhosan, am iddo, er mwyn y nefoedd, barhau dipyn yn hwy. Yr oedd Aberhosan y pryd hwnw yn gysylltiedig âg eglwys y Graig, Machylleth, yn yr hon yr oedd y dychweledigion yn cael eu derbyn yn aelodau. Y Parch Edward Francis oedd y gweinidog yno ar y pryd; a dywed Shadrach am dano, yr un peth ag a glywsom gan bob un arall a wyddai rywbeth yn ei gylch yn ei ddweyd, sef, "ei fod yn ddyn, call iawn;" ac ychwanegir ganddo, "mi a ddysgais lawer ganddo, ac fe fu ei gyfeillach o les mawr i mi yn fy ieuenctyd." Onid yw hyn yn profi, ddarllenydd, ei fod yntau yn parhau i fod yn awyddus am ddysgu. Yr oedd yn awr yn ddyn ieuanc pump-ar-ugain oed; ond nid oedd eto yn tybied ei fod wydi dysgu'r cwbl; na, cadwai ei feddwl yn agored i dderbyn addysg pa le bynag y gallai ei gael. Yn mhen ychydig, symudodd i'r Dderwenlas, yr hwn sydd bentref bychan am afon Dyfi a Phenal, a phregethai yma eto mewn ystordŷ helaeth, yr hwn a fenthycwyd iddo gan un Mr. Evans, o'r Glasgoed, i gadw ysgol ynddo. Pregethai hefyd yn y cymydogaethau cylchynol,—yn y Gareg, "ac mewn tŷ cyfagos," yn yr ardal lle mae capel Soar yn awr, ac mewn tŷ o'r enw Cleiriau; a meddyliai mai efe oedd y cyntaf o'r Annibynwyr a bregethodd ynddynt. Am ryw reswm, symudodd o'r Dderwen i Benybont, Gelligoch—lle yn ymyl—a dywed wrthym fod Mr. Williams, Gelligoch, wedi bod yn ddigon caredig i roddi iddo fwyd a llety yn "rhad ac am ddim" yr holl amser y bu yno. Y mae yntau yn "dymuno i'r Arglwydd fendithio ei holl berthynasau â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd." Yr oedd y gŵr hwn yn dadcu i Mrs. Richard Cobden, A.S. Gwisgodd Shadrach yma gymeriad newydd—dechreuodd fod yn awdwr. Tra yn aros yma y cyhoeddodd ef ei "Allwedd Myfyrdod."

Cawsom hanesyn yn ddiweddar gan un o'i hen ysgolheigion, sydd yn gymhwys iawn i roddi cipolwg. arno fel ysgolfeistr.—Tra yn aros yn y Dderwenlas, yr oedd Shadrach wedi ymgymeryd âg addysgu mab i'r cymwynaswr uchod; a rhwymid ef gan y tad i beidio defnyddio y wialen tuag ato, ar unrhyw amgylchiad. Cymysgedd o dynerwch a ffolineb yn ddiau barodd i'r amod hon gael ei harosod; a thebyg iawn na fu y plentyn, yn anad neb arall, nemawr iawn ar ei fantais o honi. Y mae, tynerwch fol yn greulondeb yn y pen draw; a chreulondeb hefyd yw gwneud gwahaniaeth mawr rhwng plentyn a phlentyn. Yn ein golwg ni, hefyd, nid yw murio rhwng plentyn â chanlyniadau ei ddrygioni ond cefnogaeth iddo fod yn ddrycach nag o'r blaen. Ond gan fod Shadrach wedi cydsynio â'r amod, yr oedd ei chadw yn fater cydwybod ganddo. Ryw ddiwrnod, daeth y newydd i'w glustiau fod rhyw ysgelerwaith wedi ei gyflawni gan rai o'i ysgolheigion. Yn fuan, cafwyd allan pwy oedd yr euogion: ac, fel y gellid disgwyl, yr oedd y plentyn y soniwn am dano yn un o honynt. Penderfynodd Shadrach yn union beth oedd i'w wneud â'r lleill cospodd hwynt yn ol gofyniadau manylaf y gyfraith. Ond beth oedd i'w wneud â hwn oedd y pwnc? Byddai peidio cospi pechod yn neb, yn anghyfiawnder â llywodraeth yr ysgol; a byddai cospi ereill ac arbed hwn, heb ffordd briodol i wneud hyny, yn rhoddi lle i'r ysgolheigion gulfarnu uniondeb y llywydd. I ddangos pechod yn bechod, yr oedd yn rhaid cospi; ac i gadw at ei ymrwymiad â thad y plentyn hwn, yr oedd yn rhaid arbed yr euog. O'r diwedd, gwelodd drwy yr anhawsder:—er arbed yr euog yr oedd yn rhaid i'r diniwed ddioddef. Yr oedd yn rhaid i AZARIAH daro SHADRACH!—mewn geiriau eraill, ymaflai yn y wialent â'i law ddehau, ac yn ddiarbed tarawai ei law aswy ei hun! Gweinyddai yr ysgolfeistr gospedigaeth mor drymed arno ef hun ag ar y troseddwyr gweithredol. Yn y modd hwn cadwyd llywodraeth yr ysgol ar ei thraed, ac arbedwyd yr euog yr un pryd. Nid ydym yn gwybod pa fodd y gallai Shadrach wneud athrawiaeth yr Iawn yn fwy dealladwy. Nid oedd hyn ond yr Iawn a Maddeuant yn cael eu portreiadu o flaen llygaid y plant. Erbyn hyn, yr oedd ei gyfaill, Daniel Evans, wedi ymsefydlu yn Mangor, a phregethai yn achlysurol yn Llanrwst a'r gymydogaeth. Ac y mae yn dra thebyg iddo ddylanwadu ar ei gyfaill Shadrach i symud i'r ardaloedd hyny: yr hyn hefyd a wnaeth, sef, i Drefriw, oddeutu dwy filldir o Lanrwst. Nid oedd gymaint a thy rhad i'w gael yma, serch bwyd, fel yn Gelligoch; ond cymerodd Shadrach dŷ yno ar rent i gadw ysgol ac i bregethu ynddo. Ond nid oedd pregethu yn Nhrefriw yn ddigon ganddo, eithr pregethai hefyd yn Porthllwyd, Llanrwst, ac ardal Capel Garmon. Yr oedd eglwys fechan wedi ei sefydlu yn yr ardal hon gan Dr. Lewis, Llanuwchllyn, ac yr oedd y Parch. Mr. Griffiths, Caernarfon, wedi sefydlu eglwys yn Mhorthllwyd. Ymddengys fod ysbryd erlidigaethus yn y gymydogaeth hon eto. Dywed Shadrach wrthym, ddarfod i ryw diyhirod ddirwyo y Parch. W. Hughes, wedi hyny o'r Dinasmowddu, o ugain punt, am bregethu yn yr ardaloedd hyny; a gorfu arno o'i angen dalu deg o honynt. Ymddengys fod Shadrach, ar y cyntaf, yn dra digalon yn ei faes newydd yn Nhrefriw; ac nid rhyfedd ychwaith, gan ei fod am rai misoedd yn cadw cyfeillach yno, heb neb ond tair o hen chwiorydd crefyddol i uno âg ef. Yr oedd yr amser hwnw yn ei gwneud yn fater gweddi ar fod i ryw wrryw gael ei dueddu i ddyfod atynt: ac atebwyd ei weddi, drwy ddyfodiad rhyw hen wr parchus, o'r enw Rowland Hughes; a daeth ereill yn fuan ar ei ol. Yr oedd y cangenau yn y Porthllwyd, Trefriw, a Chapel Garmon, yn arfer dyfod i Lanrwst bob mis i gymuno. Yr oedd ei weinidogaeth yn dra derbyniol yma. Wedi iddo fod am ychydig Sabbothau yn y gymydogaeth, aeth adref i Drewyddel; ac yn ei absenoldeb daeth un o'r enw Jane Jones, Pantsiglen, i gyfarfod a gynelid yn y Bala, i ddymuno yn ngwydd y gweinidogion presenol, ar iddo ymsefydlu yn y gymydogaeth; a phan y gofynwyd iddi gan Dr. Lewis, "A oedd gobaith iddo gael tamaid o fara yno os deuai?" Atebodd "fod, tra fyddai ganddi hi damaid ar ei helw." Dengys hyn, mor bell ag y mae yn myned, y teimlad cynes oedd ato yn y gymydogaeth. Rhoddwyd galwad iddo gan yr eglwysi uchod, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn hen gapel Llanrwst, oddeutu diwedd y flwyddyn 1802. Bu yn llafurus iawn yn y cylchoedd hyn. Yr oedd yn pregethu, neu yn cadw cyfeillach, agos bob nos o'r wythnos. Ond er ei holl lafur a'i ludded, nid oedd ei gyflog addawedig, wedi'r cwbl, ond pum punt y flwyddyn! Barned y darllenydd a ddylid gosod addewid Jane Jones tu cefn i hyn ai peidio.

Arferai Dr. Chalmers ddweyd fod Cristionogaeth i fod yn ymosodol, yn gystal ag yn amddiffynol;—rhaid iddi fyned i'r prif ffyrdd a'r caeau, i gymhell rhai i ddyfod i mewn, yn gystal a cheisio cadw yr hyn sydd ganddi. Ac yn sicr, os na wna hyn, buan iawn y dirywia, neu y derfydd yn hollol. Y mae bod yn ymosodol, nid yn unig yn beth unol âg ysbryd Cristionogaeth, ond hefyd yn hanfodol er ei pharhad. Felly hefyd y teimlai Shadrach, debygem; oblegyd gwnai bob lle y byddai yn aros ynddo fel gorsaf Genadol i dori allan o honi ar y ddeheu ac ar yr aswy; neu, mewn iaith filwrol, ystyriai y lle y byddai yn byw ynddo fel basis of operations er darostwng y cymydogaethau cylchynol. Dywed wrthym iddo bregethu llawer yn agos i Lanrhochwyn, a Llanddoged, a thu cefn i dŷ tafarn yn yr Eglwysfach. Bu hefyd yn pregethu yn Nolyddelen; ac er nad oedd ei gyflog addawedig ond pum punt yn y flwyddyn, eto, yr oedd yn talu swllt i hen wraig yn y pentref hwn bob tro y deuai iddo, am gael pregethu yn ymyl drws ei thŷ. Bu hefyd yn pregethu yn Ngholwyn, a thalodd swllt yma hefyd i ryw hen -wraig, am gael pregethu yn ymyl ei drws hithau. Yn mhen amser wedi hyn, sefydlwyd eglwys yn nhŷ yr hen wraig hon, gan y Parch. T. Jones, Moelfro. Cawn hanes ei fod un prydnawn Sabboth yn pregethu yn Metwsycoed, mewn Gwyl-mabsant. Yr oedd yma yn dangos ei fod yn meddu ar ysbryd gwir apostolaidd. Y mae y desgrifiad a rydd efe ei hun o'r amgylchlad hwn yn dra effeithiol. "O! (ebe fe) y fath olwg wyllt a chellweirus oedd ar y bobl! Yr oedd hi fel ffair fawr, ac yr oedd y crwth a'r delyn yn chwareu, a minau yn pregethu allan yn nghanol y dorf wageddus." Dyna, ddarllenydd, ddesgrifiad o'r gynulleidfa oedd yn ei wrando y prydnawn Sabboth hwn; ond beth am deimladau y pregethwr? "Yr oedd arnaf beth ofn (meddai) y buaswn yn cael fy lladd ganddynt; ond drwy ddaioni yr Arglwydd, mi gefais fy niogelu." Yr oedd yn ymladdfa law-law, a`daeth y pregethwr allan yn fuddugoliaethus, er nad oedd ond un yn erbyn y lluaws. "Ond yr oedd Duw gydag ef," ac mewn canlyniad, cafodd y díafol, ys dywed Siencyn Penhydd, ei orchfygu ar ei dir ei hun. Yn mhen blynyddau wedi hyn, clywodd ddyn yn dweyd, iddo ef gael ei ddychwelyd at yr Arglwydd yr oedfa ryfedd hon; a phan wawrio y dydd mawr, y mae yn bosibl y caiff y pregethwr fwy o achos i lawenychu am yr ymosodiad hwn a wnaeth ar fyddin ei wrthwynebwr.

Dyma gipolwg ar fywyd Shadrach tra yn aros yn Nhrefriw, ac i wneud cyfiawnder âg ef, rhaid dal mewn cof ei fod yn gwneud yr holl ymdrechion hyn ar ei draed ei hun. Nid oedd llawer o geffylau benthyg i'w cael yr amser hwnw i bregethwyr: ac nid oedd yn bosibl iddo, o bum punt yn y flwyddyn, allu fforddio i gael ceffyl iddo ei hun. Ond os bydd gwir angen am beth, y mae Rhagluniaeth yn sicr o ofalu am dano. Ac felly, pan glywodd y gŵr da a haelionus hwnw, Mr. Jones, o Gaer, ei fod yn teithio cymaint ar ei draed, teimlodd ar ei galon i roddi ceffyl bychan a chyfrwy hefyd yn anrheg iddo.

Os oedd Shadrach, ynte, mor ymdrechgar fel gŵr traed, beth fydd ef yn awr fel marchog? Yr oedd eto rai ardaloedd heb eu meddianu: a thra yr oeddynt o fewn cyrhaedd gŵr a cheffyl, nis gallai eu hesgeuluso. Nid oedd gan yr Annibynwyr yr un lle i bregethu ynddo yn ardaloedd eang Pentrefoelas a Rhyd- lydan; ac yr oedd y trigolion, yn gyffredin, yn dywyll, a rhai o honynt yn erlidgar. Teimlai Shadrach anesmwythder wrth feddwl am y rhai hyn, a phenderfynodd wneud ymdrech er eu meddianu. Wedi tipyn o lafur blaenorol, cafodd genad i bregethu yn ochr tŷ bychan, o'r enw Ty'nygors, yn ngodrau y mynydd sydd uwchlaw Rhydlydan, yn agos i ffordd y Bala. Yn ochr y tŷ, cofier, ac nid o'i fewn, y cafodd ganiatâd; ond 'gan fod ei awydd mor fawr i gael meddiant o'r wlad, yr oedd yn dda ganddo gael caniatad yn rhywle. Ond enill y bobl fe geir lle. Wedi hyn, cymerodd dŷ bychan wrth bont Rhydlydan, er pregethu ynddo; a thalai o'i income bychan yr ardreth am dano, ei hun! Ac er fod oddeutu deng milldir o ffordd o Drefriw, eto, arferai fyned i Rydlydan bob nos Fawrth i bregethu. Ac er gwerthfawrogi ei ymdrechion rhaid i ni adfeddwl am yr amgylchiadau cysylltiedig â hwynt:—yr oeddynt yn ymdrechion dyn â llonaid ei freichiau o waith mewn lleoedd ereill—yn ymdrechion a ofynent lawer o lafur corfforol, heb son am groesau meddyliol; ac yn ymdrechion, nid yn unig heb ddod â dim i mewn i'w logell, ond o'r tu arall, yn myned a chryn lawer o honi. Er cael goleuni i bregethu "yn ei dŷ ardrethol ei hun," yr oedd yn gorfod cario canwyllau gydag ef am y deng milldir o Drefriw! Beth feddylia y darllenydd am hyn? Digwyddodd iddo weled mŵnwr neu lôwr, fe ddichon, lawer gwaith, yn cario ei ganwyll i'w lochesau tanddaearol; ond y mae yn debyg genym na chlywsant erioed o'r blaen am bregethwr dan orfodaeth i wneud rhywbeth fel hyn. Heblaw goleuni y gwir, yr oedd Shadrach yn cario gydag ef, hefyd, ddefnyddiau goleuni gwêr. Ac yr oedd rhagfarn y bobl mor fawr, fel nad oedd hi yn hawdd iddo gael goleuo ei ganwyllau wedi eu cario, ond yn nhŷ rhyw "hen ŵr serchog," medd efe, o dafarnwr, o'r enw Evan Jones. Daw rhyw ddaioni o Nazareth! Wele enghraifft, ddarllenydd, o dywydd llawer gwas i Dduw yn yr oes sydd wedi myned heibio.

Ac heblaw diffyg cefnogaeth fel hyn, y mae Shadrach yn rhoddi i ni dipyn o hanes gwrthwynebiad. Dywed wrthym ei fod yn pasio unwaith drwy bentref o'r enw Llanddulas, ryw foreu Sabboth, a gwnaeth ymchwiliad am le i bregethu yno; yr hyn, yn mhen ychydig, a gafodd gan ryw wraig dylawd oedd yn byw yno. Rhoddodd yntau swllt i was y tafarndŷ am ei gyhoeddi wrth ddrws y fynwent. Daeth llawer yn nghyd; a phan oedd yntau yn darllen ei destyn, daeth "dyn mewn dillad duon," ys dywed yntau, yn mlaen i geisio ei rwystro i bregethu. Ond aeth tymherau y gŵr hwn yn rhy wylltion i barhau i aflonyddu arno yn hir—aeth ymaith. Pan oedd ryw dro arall yn pregethu yn Rhydlydan, daeth "pendefig" heibio, ebe Shadrach;—ond dywed Mr. Morgan yn ei Hanes Ymneillduaeth, yn ddifloesgni, mai Mr. Humphreys, o Rydlydan, ydoedd, yr hwn oedd yn offeiriad ac ynad heddwch;—gan waeddi yn awdurdodol arno ddyfod allan ato ef. Aeth yntau ato yn ol ei gais, â'i drwydded bregethu yn ei law; "Oblegyd (ebe Shadrach) nid oeddwn yn arfer myned i unman yr amser hwnw heb fy nhrwydded genyf." Ffaith syml yw hona, ddarllenydd, ond y mae yn ddrych lled gywir i ni ganfod cymeriad yr oes ynddo. Mor fuan ag y daeth Shadrach yn ddigon agos at y "pendefig" hwn, cipiodd y drwydded o'i law, a gorfu ar Shadrach druan ei ddilyn am tua milldir o ffordd, yn swn bygythion yr adyn, cyn ei chael yn ol ganddo; a gorfu arno yn y diwedd gyfeirio ei feddwl "pendefigaidd" at gyfraith y wlad cyn ei chael o gwbl. Gallem gasglu na fyddai cyfeirio ei feddwl at gyfraith Crist o un dyben. Dywed Mr. Morgan i'r dyn erlidgar hwn farw dan arwyddion amlwg o farn Duw. Y mae Duw a farn ar y ddaear. Rhyw dro arall, wedi iddo fod yn pregethu yn Rhydlydan, cyfarfyddodd ef a'i gyfeillion wrth ddychwelyd, yn agos i Bentrefoelas, â "phendefig," ebe fe, eto, yn dyfod i'w herbyn o'r gwasanaeth prydnawnol, a golwg beryglus arno; a chan nad beth fu y "pendefig" hwn yn wneud yn y gwasanaeth prydnawnol cyn hyny, dywed Shadrach ei fod yn ei regu ef yn arswydus am ei fod yn dyfod i bregethu i'w ardal ef. Yr oedd gwraig clochydd Pentrefoelas wedi bod yn gwrando ar Shadrach; ac oblegyd, feddyliem, fod cysylltiad agos rhwng clochyddiaeth â'r pendefigion hyny oeddynt yn dyfod ar lwybr Shadrach mor aml, rhedodd o'r neilldu i ymguddio. Ond ar waethaf y gwrthwynebwyr, daliodd ef ei dir; a chafodd y pleser o sefydlu eglwys yno; a bu gwraig y clochydd hwn yn gymwynasgar iawn i'r achos yn ei wendid cyntaf. Dywed Shadrach wrthym mai hi roddodd y gymwynas gyntaf i'r achos Annibynol yn yr ardal, a phwys o ganwyllau oedd hyny; ac ymddengys iddi barhau i roddi y gymwynas hon yn awr ac yn y man tra fu hi byw. Yr oedd tywyllwch yn gordoi y bobl pan sefydlwyd yr achos yn y lle. Pan yn corffori yr eglwys yno, daliai Shadrach y Beibl yn ei law, a gofynai iddynt a oeddynt yn penderfynu ei gymeryd yn rheol iddynt? Atebent hwythau eu bod. Yr oedd yr ateb syml hwn yn peri syndod mawr i lawer, am y tybient eu bod yn ymrwymo i ganlyn Shadrach ei hun! Dyma, ddarllenydd, ryw fras linelliad o fywyd a helyntion Azariah Shadrach, o'i ddyddiau boreuol yn y Deheudir, hyd ei symudiad yn ol i'r Deheudir o Lanrwst, yr hyn a wnaeth yn y flwyddyn 1806.


Nodiadau[golygu]

  1. Yr ydym erbyn hyn wedi clywed mai nid o ddygwyddiad, ond o fwriad, oedd Shadrach a'i gyfaill yn Abergwaun. Aethent yno, fel lluoedd ereill, geisio gwrthwynebu y Ffrancod.