Neidio i'r cynnwys

Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach (testun cyfansawdd)

gan Josiah Jones, Machynlleth

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Azariah Shadrach
ar Wicipedia






BYWYD A GWEITHIAU


AZARIAH SHADRACH.


GAN Y


PARCH. JOSIAH JONES,

MACHYNLLETH,


"Ystyr y perffaith , ac edrych ar yr uniawn : canys diwedd y gŵr hwnw Fydd tangnefedd."—PSALMYDD.


MACHYNLLETTH:

ARGRAFFWYD GAN EVAN JONES

MDCCCLXIII.

AT Y DARLLENYDD.

Nid oedd gan awdwr y llyfryn hwn yr un meddwl yn y byd, ar y cyntaf, i'w gyhoeddi yn ei ffurf bresenol. Ar gais un o Olygwyr y BEIRNIAD y darfu iddo ymgymeryd â'r gorchwyl o ysgrifenu ychydig o hanes Bywyd a Gweithiau Awdurol Azariah Shadrach o gwbl, heb un amcan pellach mewn golwg ar y pryd nag iddo ymddangos yn y cyhoeddiad hwnw. Ar graffwyd yr hyn a ysgrifenwyd ganddo, mewn cydsyniad â'r cais hwn, mewn tri o Rifynau, sef yn y rhai am Ion. a GORPH., 1861, yn nghyd ag yn yr un am Hyd. 1862. Wedi gweled o honynt y rhifynau hyn, tybiai rhai cyfeillion mai peth dymunol fyddai cael yr hyn a ysgrifenwyd am Shadrach a'i Weithiau ar ei ben ei hun; ac anogent yr awdwr i'w gyhoeddi felly. Gan ei fod yntau yn teimlo y carai gael cyfleusdra i ddiwygio rhai pethau, ac i ychwanegu pethau eraill, darfu iddo, drwy gydsyniad cynhes perchenogion y BEIRNIAD, ymgymeryd â'r gorchwyl. Wrth wneyd hyn, yr oedd yn llawen ganddo hefyd ei fod yn cael lle, nid yn unig i foddhau cydnabyddion a chyfeillion Shadrach, ond hefyd i wneyd ei ran i drosglwyddo i'r plant a enir ychydig o hanes hunanymwadiad dirfawr, a llafurus gariad, y tadau. Dymuna yr awdwr ddychwelyd ei ddiolchgarwch calonog i berchenogion y BEIRNIAD, nid yn unig am ganiatau iddo ddefnyddio yr hyn & ymdılangosodd yn y cyhoeddiad hwnw, ond hefyd am y parodrwydd a'r hynawsedd a amlygasant wrth wneud hyny.

Teimla yr awdwr fod gwerth bywgraffiad yn ymddibynu ar y gwersi ellir dynu oddiwrtho. Pan yn olrhain ac yn cofnodi hanes Bywyd a Gweithiau Azariah Shadrach, gan hyny, amcanai fachu wrthynt y gwersi a'r gwirioneddau hyny y meddent gymhwysder i'w gosod allan. Oblegyd hyn, ceir yn y llyfryn hwn rywbeth mwy na chofnodiad syml o ffeithiau hanesyddol.

Dymuna yr awdwr hysbysu mai nid oblegyd un teimlad o anmharch i enw na choffadwriaeth Azariah Shadrach y peidiwyd ei alw yn "Barchedig," ar y wyneb-ddalen na thrwy gorff y gwaith. Teimlid yn hytrach fod enw Shadrach yn rhy adnabyddus a theuluaidd i'w barchedigo fel hyny.

HEOL MAENGWYN,

Ionawr, 1863.

Bywyd a Gweithiau, &c.

PENNOD I.

O'r braidd y meddyliwn fod eisiau cysylltu enw Azariah Shadrach ag un lle penodol, er bod yn fwy adnabyddus. Nid bob dydd y cyfarfyddir â dyn o'r enw hwn; ac y mae hyny yn fantais i'n darllenwyr wybod at bwy y cyfeiriwn. Ac os ydym i gael enwau o gwbl, y mae yn ddiau y dylem gael enwau cymhwys i gyrhaedd yr amcan o'u rhoddiad, sef dynodi, neu wahaniaethu rhwng un dyn a dynion ereill. Mae y Cymry, fel cenedloedd ereill, yn rhoddi rhywfath o enwau i'w plant; eto, rywfodd, anfynych y cofir at beth y mae enwau da; ac felly rhoddir yr un enwau drosodd a throsodd, heb ofalu a fyddant yn dynodi ai peidio. Fe allai y bydd dwsin o blant yn yr un gymydogaeth heb fod ond un enw rhyngddynt oll; ac mae hyny mewn effaith yr un peth a phe na bai arnynt yr un. Os bydd pob un o'r dwsin yn John, yna y mae yn anmhosibl cael allan am bwy John y siaredir. Ac, i wneyd i fyny am y diffyg hwn, y mae gwahanol ffyrdd yn cael eu harfer. Weithiau ychwanegir enw y tŷ ac fe allai y plwyf, lle byddo'r dyn yn preswylio. Brydiau ereill ychwanegir enw ei dad, ac fe allai ei daid, ac weithiau ei hen daid, at enw priodol y dyn ei hun. Ond yn aml meddylir fod hyn yn ormod o drafferth, a chodir llysenw hynod ar y dyn; yr hwn a wasanaetha yr amcan a ddylai fod mewn golwg wrth roddi ei enw priodol iddo, sef i wahaniaethu rhyngddo ef a rhyw un arall. Gellir bod yn ffol wrth chwilio am enwau dyeithr, yn enwedig os cymerir gormod o ryddid ar enwau y rhai fuont yn enwog iawn yn eu dydd a'u cenedlaaeth ; ond o'r ddau, gwell genym y ffolineb hwn na'r un cyferbyniol o gyfyngu ein dewisiad i'r ychydig enwau sydd mewn arferiad cyffredin. Os rhoddir enw o gwbl, rhodder ef i ddynodi, ac nid i arddel perthynas â rhyw un sydd yn fyw, neu, fe allai, sydd wedi marw.

Y mae yn sicr genym nas gellir beio yn gyfiawn ar enw Azariah Shadrach ar y cyfrif hwn. Y mae hwn yn ddigon hynod i ddynodí: ac heblaw hyny, yr oedd y person a'i dygai mor hynod a'i enw. Nid bob dydd y cyfarfyddid â'i fath ; ac yr oedd hyny yn ei gwneud yn hawddach iddo fod yn adnabyddus. Er hyny, fel na byddai perygl i neb ei gamgymeryd, gofalai gwrthddrych ein cofiant ysgrifenu ei enw yn llawn "Azariah Shadrach, gweinidog yr Efengyl yn Nhalybont," ac wedi hyny, yn "Aberystwyth."

Gan fod enw ein gwron mor adnabyddus, meddyliasom y gallasem gael llawer mwy i'w ddywedyd am dano nag sydd genym, yn neillduol gan ein bod yn byw heb fod yn nepell o faes olaf ei lafur ; ond rhaid i ni gyfaddef i ni gael ein siomi. Er nad oes llawer o flynyddoedd er pan fu farw, eto, nid oes ond ychydig yn awr yn fyw yn cofio helyntion boreuol ei fywyd. Ac yn mysg y rhai hyny, nid pob un sydd yn barod i fyned i'r drafferth i roddi y cymhorth gofynol i gadw ei gymeriad, yn gystal a'i enw, mewn coffa. Y mae gormod o ddifaterwch o lawer yn ein plith am goffadwriaeth ein henwogion ; a chan fod coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig, y mae yn ddiau ein bod yn golledwyr yn gystal ag yn feius, wrth beidio ymdrechu sicrhau y bendigedigrwydd hwn. Yn fuan, fuan, bydd cymeriadau llawer o gedyrn yr oes ddiweddaf -dynion nad oedd y byd yn deilwng o honynt, wedi myned i annghofrwydd. Ac oni bai fod Shadrach ei hun wedi ysgrifenu ychydig o hanes ei fywyd ar ddiwedd ei "Gerbyd o Goed Libanus," ni fyddai genym ond ychydig i'w ddweyd yn hanesyddol am dano. Rhaid i ni hefyd ddychwelyd ein diolch cynhesaf i Mr. Robert Jones (Adda Fras,) Aberystwyth am yr hyn a wnaeth yntau i goffadwriaeth y cyfiawn hwn. Oni bai Mr. Jones fel ysgogydd, cawsai corff Azariah Shadrach orwedd yn dawel, heb gymaint a chareg i nodi allan ei fedd. 0 hyn allan cysyllter ei enw a'r hwn a gerid mor anwyl ganddo tra yn fyw, ac â berchir mor gynhes ganddo yn awr pan yn farw.

Ganwyd Azariah Shadrach Mehefin 24, 1774, mewn lle o'r enw Carndeifo-fach, yn mhlwyf Llanfair, yn agos i Abergwaun, yn sir Benfro. Enwau ei rieni oeddynt Henry ac Ann Shadrach, ill dau yn enedigol o blwyf Nyfern. Yr oedd ganddynt chwech o feibion, o'r rhai Azariah oedd y pumed. Tra nad oedd eto ond saith mlwydd oed, symudodd ei rieni i blwyf Borton, ar lan afon Penfro: "a bum i yno (ebe Shadrach,) yn chwareu gyda phlant bach y Saeson dros dair blynedd." Ac ni ryfeddem nad oedd gan Ragluniaeth lygad neillduol ar Azariah, ac ar y fantais a roddai chwareu gyda phlant bach y Saeson iddo, yn symudiad ei rieni. Mor bell ag yr ydym ni yn gweled, yma y bu fwyaf yn y "coleg;" a'r "plant bach," ys dywed yntau, oedd ei athrawon. Fodd bynag, nid oedd cylch ei efrydiaeth, y pryd hwn, yn myned yn mhellach na dysgu Saesonaeg; a chan iddo fod yno dros dair blynedd o amser, nid rhyfedd ei fod yn gallu dweyd iddo ddysgu siarad Saesonaeg yn lled rwydd. Pa le y gallasai gael gwell athrawon? Nid ydym yn gwybod am well cyfleusdra i blentyn ddysgu iaith benodol, nag ydyw iddo gael cyd-chwareu â phlant fyddont yn siarad yr iaith hono yn unig. Er nad oedd nac Athroniaeth, na Duwinyddiaeth, nac unrhyw aeth arall, yn cael ei phroffesu yn y "coleg" chwareuol hwn, eto, gan iddo ddysgu Saesonaeg yno, cafodd afael ar agoriad i fyned i mewn mor bell ag y mynai i'w dirgeloedd. Heb son am y Gymraeg, gallwn ddweyd ei bod yn gywilydd i unrhyw un sydd yn gwybod Saesonaeg fod yn anwybodus. Mae yn wir ddarfod i Saesonaeg y. llanc Azariah, neu, a chadw y ffugyr i fyny, ddarfod i'w agoriad ef, rydu ychydig wedi iddo gael ei symud ar ben tair blynedd i gymydogaeth Trewyddel, at fodryb iddo, chwaer ei dad, yr hon oedd yn byw yn Fagwyreinion-fawr ; eto, yr oedd hi yn ddiau yn llawer haws iddo i godi y rhwd hwn i ffwrdd nag a fyddai iddo gael agoriad o'r newydd i gyd. Ond i ni, y mae bys Rhagluniaeth yn amlwg yn y symudiad hwn eto, gan nad beth am ei Saesoneg ; oblegid ar ei dystiolaeth ef ei hun, "nid oedd yn gwybod gair ar lyfr, nac yn adnabod yr un lythyren, nac wedi clywed nemawr o bregeth na gweddi, hyd onid oedd dros ddeg oed;" ac felly, os danfonwyd ef gan Ragluniaeth i gymydogaeth Seisnig, yn yr oed cymhwysaf i ddysgu yr iaith hòno gan y "plant bach," gofalodd ei gymeryd oddiyno mewn pryd i gael ei ddysgu mewn crefydd yn nghymydogaeth Trewyddel. Na ddyweded ein darllenwyr nad oes gan Ragluniaeth law mewn pethau "bychain" fel hyn ; oblegid, mewn gwirionedd, nid pethau bychain ydynt. Yr oedd y ddau beth yn elfenau pwysig i wneud Azariah yr hyn, wedi hyny, y daeth ef i fod. Ac os ydym yn gwadu Rhagluniaeth mewn pethau bychain, rhaid i ni, ar yr un tir, ei gwadu hefyd mewn pethau mawrion. Y mae y pethau mwyaf yn fychain i Dduw. Yn nhŷ ei fodryb, yr oedd dyn ieuanc o gefnder iddo, "yn arferol o ddarllen a gweddio yn y teulu;" a chafodd ei weddiau taerion a difrifol argraff ar ei feddwl er da. Ac wrth geisio dysgu cân yr "Hen wr dall a'r Angau," wrth fugeilio ar lân y Fagwyreinion, ymbalfalodd ei ffordd i ddarllen Cymraeg. Yr amser hwn, yr oedd y Parch. John Phillips yn weinidog ar eglwys Trewyddel, ac o dan ei weinidogaeth ef dyfnhawyd argyhoeddiadau Azariah ieuanc. Yr oedd y saethau mor llymion, yn ol ei adroddiad ei hun, fel nas gallasai gysgu'r nos, rhag ofn mai mewn trueni y byddai yn agor ei lygaid tranoeth. Gallem feddwl mai fel y teimlodd y Salmydd, y teimlai yntau yn bresenol: "Gofidion angau a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm dâliasant: ing a blinder a gefais. Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd ; atolwg Arglwydd, achub fy enaid." Ond pan y clywodd ef. fod "gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn glanhau oddiwrth bob pechod," aeth ei faich i lawr, a dechreuodd brofi hyfrydwch yn ngwaith yr Arglwydd.

Wedi y profiad tanllyd hwn, ymwasgodd Azariah ieuanc at y dysgyblion yn Nhrewyddel, a derbyniwyd ef yn aelod gan y Parch. J. Phillips. Ac yn lle gwneud ei aelodaeth eglwysig yn fath o glustog i gysgu arni, ymroddodd Azariah i fod yn fwy diwyd nag erioed. Er nad oedd eto ond ieuanc ac anwybodus, yn ol ei addefiad ei hun, eto, teimlodd awydd yn fuan i bregethu yr efengyl. Gyrai yr awydd hwn ef i bregethu yn aml wrtho ei hun yn y caeau, ac ar ben y cloddiau ; a dywed wrthym yn ddiniwed iawn, ei fod "yn cael hyfrydwch mawr." Nid yw pob awydd i bregethu yn ddiau o Dduw, am y gall godi oddiar wreiddiau llygredig; ond, y mae yn anhawdd genym feddwl fod yr Arglwydd wedi bwriadu i neb ymaflyd yn y gwaith pwysig hwn, os nad yw yn meddu awydd neillduol ato. Y mae tuedd neu awydd at waith yn gymhwysder i'w gyflawni; ac nid ydym yn meddwl fod neb wedi ei fwriadu gan Dduw at waith penodol, os na bydd ynddo gymhwysder penodol ato. Gyrid Azariah gan yr awydd a deimlai i bregethu'r efengyl, yn gystal â chan yr hyfrydwch, debygem, a deimlai wrth ei phregethu i'r caeau a'r cloddiau, i fod yn ddyfal ddydd a nos i geisio ymgydnabyddu â'i Feibl Cymraeg; a dywed wrthym iddo, "drwy ymdrech a llafur, ddyfod i wybod ychydig am dano o ddechreu Genesis hyd ddiwedd y Dadguddiad." Gallem feddwl, hefyd, na adawodd ef ddim o'r llafur hwn a'r ymdrech o'r neilldu, drwy gydol ei fywyd; oblegid, fel y cawn achlysur i sylwi eto, daeth o ychydig i ychydig yn un o'r ysgrythyrwyr goreu yn ei ddydd. Ac yr oedd hi yn gryn bwnc i fod yn gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau y pryd hwnw ragor yn awr. Nid oedd ond ychydig o Feiblau yn y wlad; oblegid rhyw bymtheg neu, ragor o flynyddau wedi hyn y sefydlwyd y Feibl-Gymdeithas, yr hon sydd erbyn hyn, fel afon lifeiriol, wedi llenwi ein gwlad â Beiblau. Nid oedd Ysgolion Sabbothol ychwaith wedi eu sefydlu; ac, mewn canlyniad, nid yn unig yr oedd llai o fanteision, ac a ddysgu darllen yr Ysgrythyrau, ond hefyd, llai o gefnogaethau iddo i fyned yn mlaen ar ei ben ei hun. Fodd bynag, ymladdodd Azariah âg anhawsderau: ac yn hyn, dangosodd fod rhywbeth ynddo. Yn y cyffredin, y mae y rhai sydd i gyflawnu, gwaith mawr yn eglwys Dduw, yn cael eu caledu at hyny drwy anhawsderau yn eu dyddiau borëol: a diau fod dysgu ymladd âg anhawsderau a'u gorchfygu, yn un o'r cymhwysderau goreu i'r weinidogaeth. Yn ychwanegol at yr ymdrechion personol. hyn, cafodd, drwy garedigrwydd ei fodryb, ychydig yn rhagor o ysgol dan ofal un John Young, yr hwn oedd yn glochydd i'r offeiriad enwog hwnw, Mr. Griffiths, o Nyfern. Ac, mor bell ag yr ydym yn gweled, dyma i gyd o fanteison ysgoliol gafodd Azariah Shadrach. Ond os bydd rhywbeth mewn dyn, y mae yn dra sicr o ddyfod allan o hono ryw fodd neu gilydd.

Daw allan hefyd mewn modd diymgais a diseremoni. Nid oes genym ond y ffydd leiaf yn y bobl hyny sydd o dan orfodaeth i ddweyd wrth ereill yn barhaus fod rhywbeth ynddynt: ond dyna'r bobl y meddyliwn yn uchel am danynt, y rhai heb fwriadu hyny, a ddangosant i ereill fod rhywbeth ynddynt drwy weithredoedd. Un o'r cyfryw oedd Azariah Shadrach. Yn lle meddwl yn awr fod holl gylch dysgeidiaeth wedi ei gwmpasu ganddo: neu, yn y gwrthwyneb, yn lle gwangaloni wrth feddwl pa mor lleied a ddysgodd, ac wrth feddwl hefyd am yr anhawsderau oeddynt ar ei ffordd i ddysgu rhagor, safodd Azariah am ychydig, i ofyn iddo ei hun, Beth a wnaf? Gofyn iddo ei hun, feddyliwn, ddarfod iddo wneud, ac nid i ereill; a chan nad pa mor dda yw "gair yn ei bryd" oddiwrth ereill, eto, y bobl hyny sydd.yn ymgynghori llawer â hwynthwy eu hunain, ryw fodd, sydd yn dyfod yn mlaen. Y mae y gofyniad, Beth a wnaf? yn foddion i ddysgu iddynt i gynllunio drostynt eu hunain, yr hyn sydd yn un o elfenau anhebgorol llwyddiant; ac y mae yn eu cadw hefyd i ymddibynu mwy arnynt eu hunain nag ar ereill, yr hyn sydd yn elfen anhebgorol arall. Wedi gofyn fel hyn iddo ei hun, daeth yn fuan, debygem, i allu dweyd, "Mi a wn beth a wnaf." Ymgynygodd cynllun i'w feddwl, a chymeradwyodd ef. Yn weinidog ar eglwysi Trefgarn, Rhodiad, a Rhosycaerau, yr oedd y Parch. John Richards; gwr y tybid gan Azariah ei fod yn "dduwiol iawn—yn bregethwr call-yn ysgolhaig mawr, ac yn dduwinydd rhagorol;" ac ymddengys fod ei farn am dano yn o gywir. Mae yr anerchiad barddonol Saesoneg a ddanfonwyd ato gan y clodfawr Evans, o'r Drewen, gŵr o farn ar bwnc fel hwn, er ceisio ei luddias i fyned i America, yn dangos ei fod yntau o'r un farn ag Azariah am dano. A dywed Azariah wrthym fod gan y gwr hwn "lyfrgell o'r llyfrau goreu oedd yn bod." Yn awr, yr oedd y gwr parchedig hwn yn byw ar fferm, o'r enw Trelewellyn; ac yr oedd gan Azariah ddwylaw a fedrent weithio ar fferm, a chalon a fedrai ufyddhau. Meddyliodd Azariah, gan hyny, y gallai y tri pheth yma gyda'u gilydd fferm y Parch. John Richards, llafur ei ddwylaw, ac ufydd-dod ei galon yntau-roddi iddo y compound a ddymunai: sef, cyfleusdra i gynyddu mewn gwybodaeth. Aeth i lawr i roi tro at y Parch. John Richards, a gwnaeth iddo gynyg, yr hwn a roddwn i lawr yn ei eiriau ei hun—"Mi a ddywedais wrtho y gwnawn ei wasanaethu ef am flwyddyn, ac y byddwn ffyddlon yn mhob peth a fedrwn, ar yr amod y cawn ddarllen ei lyfrau ef bob tro y byddai cyfleusdra yn caniatau: ac felly y bu." Nid oedd yn gweled, ddarllenydd, fod llafur corfforol, a blwyddyn o amser, yn ormod i'w rhoddi am fenthyg llyfrau i'w darllen. Ac y mae dyn o'r ysbryd hwn yn sicr o ymgodi. Cof genym glywed am ddyn ieuanc, yr hwn a ddechreuai bregethu ryw wyth neu naw o flyneddau yn ol, yn dyfod ar ryw achlysur at weinidog yn ei gymydogaeth enedigol. Yn mhen ychydig, dechreuodd hwnw ofyn iddo sut yr oedd yn meddwl cael ychydig o ysgol? "O (ebe yntau), yr wyf yn meddwl myned at fy nhad i dori ceryg ar y ffordd, ac mi gynilaf gymaint ag a fedraf." Eithaf ysbryd, ddarllenydd, onidê? Ymgododd y dyn ieuanc hwn hefyd o ychydig i ychydig, nes yr ymaelododd yn y London University; ac y mae yn awr yn un o'r cenadau mwyaf gobeithiol ar gyfandir India. Caiff dynion o'r ysbryd hwn "fara o'r bwytâwr", cânt fantais o'r amgylchiadau fyddont yn ymddangos yn fwyaf anffafriol: ac nid edifarhaodd Azariah am y cynyg a wnaeth. Ei eiriau yn mhen blyneddoedd lawer, wrth adolygu y tro hwn, ydynt y rhai canlynol:—"Aethym ato, ac yr wyf dan rwymau mawr i ddiolch i'r Arglwydd am y tro hwn; oblegid efe a roddes o'm blaen sampl i fyw yn dduwiol, a chefais ganddo lawer o addysgiadau buddiol, a chyngorion difrifol, a chyfleusdra hefyd i ddarllen y llyfrau goreu oedd yn bod." Anogodd Mr. Richards ef yn fuan i ddechreu pregethu; yr hyn a wnaeth mewn lle o'r enw Caergowyl, yn agos i Rosycaerau. Felly, mewn cysylltiad âg eglwys Rhosycaerau, y dechreuodd Azariah Shadrach bregethu i ddynion. Ond fel y gwelsom yn barod, yr oedd wedi pregethu llawer i'r caeau a'r cloddiau yn flaenorol, yn ardal Trewyddel; ac yn sicr, ddarllenydd, mae dysgu pregethu i gloddiau yn gymhwysder anghyffredin i bregethu i ambell gynulleidfa: yn enwedig ar ambell i brydnawn trymaidd ddau o'r gloch yn yr haf. Rhoddwn o flaen y darllenydd, ddesgrifiad byr a dderbyniasom o'r pregethau parotöawl hyn, oddiwrth un oedd bron yn gyfoed ag ef—y Parch. Daniel Davies, Aberieifi. un olwg, gellir dweyd (meddai Mr. Davies) ei fod yn bregethwr cyn erioed iddo gael ei dderbyn yn aelod; oblegid cof genym y siarad cyffredin oedd am bregethau yr hogyn pan yn bugeilio'r praidd yn y maes. Safai ar ben y clawdd, a chymerai weithiau y môr, bryd arall, y mynydd, neu rywbeth arall, yn destyn: a bloeddiai c'uwch, nes y gellid ei glywed o bell. Ond nid llawer oedd yn meddwl y pryd hwnw fod gan y Pen-bugail gymaint iddo i'w wneud." Yn y modd hwn, ddarllenydd, o leiaf mewn rhan, y dysgodd Azariah Shadrach bregethu i gynulleidfaoedd anystyriol a gwrthwynebus yn Ngogledd Cymru.

Meddylir yn gyffredin mai yn Nhrewyddel y dechreuodd Shadrach bregethu; ond yr ydym wedi gweled eisioes, ar ei dystiolaeth ef ei hun, mai yn nghymydogaeth Rhosycaerau y gwnaeth hyny; oddieithr i ni gymeryd ei bregethau bugeiliol i'r cyfrif. Ond hen eglwys enwog, er hyny, ar gyfrif ei magwraeth o bregethwyr, yw Trewyddel. Yn yr ystyr yma, y mae wedi gadael dylanwad pwysig ar Gymru, ddeau a gogledd; ac nid rhyw eiddilod diddim ychwaith yw y rhai a fagwyd ganddi; ond pobl rymus a dylanwadol. Ac y mae yn hynod gymaint mwy cynyrchiol yw ambell eglwys na'u gilydd gyda golwg ar hyn. Y mae genym ambell eglwys henafol a lliosog heb godi erioed ond rhyw un neu ddau i bregethu Crist; ac yn ei hymyl, fe allai, y bydd eglwys o faintioli canolig wedi magu llu. Y mae cael gweithwyr i'r winllan yn ddiau yn beth y dylai pob eglwys amcanu ato. Gorchymynir yn bendant i ni wneud eu cael yn fater gweddi gerbron Duw. Mae y cynhauaf eto yn fawr, ac yn aeddfed, a dylid atolygu ar Arglwydd y cynhauaf anfon gweithwyr i'w gynhauaf. Ai tebyg, ynte, fod anamledd y pregethwyr a godant o ambell eglwys, yn dangos mor amddifad yw yr eglwys hòno o ysbryd gweddi? Neu ai prawf yw nad oes dim digon o laeth duwioldeb yn yr eglwys hòno i fagu meibion gwrol i Dduw. Y mae ymddygiadau ambell eglwys, hefyd, at bregethwr ieuanc fyddo hi ei hun wedi ei godi, yn gyfryw ag a fydd yn atalfa effeithiol iawn, o'i rhan hi, i unrhyw un arall i godi yno ar ei ol. Boed i'r eglwys brofi yr ysbrydion er gweled a ydynt o Dduw cyn beiddio rhoddi caniatâd iddynt bregethu; ond os caiff hi brawf digonol mai oddiwrth Dduw y maent yn dyfod; yna, er mwyn y Duw a'u danfonodd, rhodded bob cefnogaeth iddynt i fyned yn y blaen. Y mae eglwys Trewyddel yn sefyll yn anrhydeddus gyda golwg ar hyn. Ynddi hi y cododd y Parchedigion Daniel Evans, gynt o'r Mynyddbach; John Phillips, gynt o Drewyddel; James Phillips, gynt o Bethlehem, ei fab; James Morris, gynt o'r Wyddgrug; Llewelyn Rees, diweddar o Drewyddel; Daniel Davies, Aberteifi; Llewelyn Samuel, diweddar o Bethesda; David James, Rhosymeirch; Benjamin Rees, Llanbadarn; William James, diweddar o Lanybri; ynghyd â'r Parch. John Gwyn Jones, Fenstanton; heblaw nifer o bregethwyr cynorthwyol, a rhai o honynt yn ddefnyddiol iawn, er na chawsant alwad i weinidogaethu mewn un eglwys neillduol. Ac er mai yn Rhosycaerau y dechreuodd Azariah Shadrach bregethu, eto y mae yn hawdd iawn genym gredu na ddechreuai ef ddim yno, oni bai fod y marworyn wedi cyffwrdd â'i wefusau yn ardal Trewyddel. Os felly, pa fodd y cododd cynifer o bregethwyr yn olynol yn yr eglwys hon? Yn ffodus i ni, y mae llythyr y Parch. Daniel Davies atom, yn rhoddi i ni atebiad," Yr oedd eglwys Trewyddel yr amser hwn, (ebe fe,) yn un liosog a gwresog iawn; a'r Parch. J. Phillips, y gweinidog, fel tad tirion, yn magu yr aelodau yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd; ac os gwelai aelod â rhyw argoelion ynddo y gallai fod yn ddefnyddiol fel genau cyhoeddus, gwnai ei anog at hyny gyda y tynerwch mwyaf, a chymhellai yr eglwy's i roddi pob cefnogaeth iddo o fewn ei gallu." Dyna, ynte, ddarllenydd, y conditions anghenrheidiol i godi pregethwyr.—Rhaid i'r eglwysi fod yn wresog, ac i'r gweinidog, yn ystyr helaethaf y gair, fod yn fugail.

Yr oedd Shadrach (ebe fe) yn perthyn yn agos i nifer nid anenwog o weinidogion. Bu pedwar o'i berthynasau yn gweinidogaethu yn olynol yn Brynberian, sef y Parchedigion Dafydd Lloyd, Thomas Lloyd, Stephen Lloyd, a Henry George; ac yr oedd y Parch. B. Evans, Trewen, yn dal cysylltiad ag ef, o leiaf, drwy gyfraith. Ond hynod yw, nad aeth Azariah ieuanc, mor bell ag y gwelwn, at neb o'i berthynasau i ymofyn cynorthwy; ond at un oedd, mor bell ag y deallwn, yn estron iddo, Mr. Richards. A ydyw hyn yn profi ei bod hi yn well ganddo gael yr hyn a ddymunai drwy lafur ei ddwylaw, na thryw garedigrwydd ei berthynasau? Mae rhai yn meddu ar deimlad fel hyn: Dr. Livingstone er enghraifft.

Yn awr, wele Azariah Shadrach yn bregethwr. A pheth o bwys, ddarllenydd, yw gwisgo unrhyw gymeriad newydd; yn neillduol felly y cymeriad o bregethwr yr efengyl. Y mae hyn wedi bod yn ddinystr i lawer. Yr oedd rhyw lun arnynt o'r blaen; ond mor fuan ag y dechreuasant bregethu, nid oedd llun yn y byd arnynt—fel crefftwyr, fel aelodau eglwysig, nac fel PREGETHWYR ychwaith. Melldith i ambell un oedd iddo ddechreu pregethu erioed. Yr oedd yn gallu dal yn mysg y lluaws fel aelod cyffredin; ond pan y cyfodwyd ef i safle uwch, daeth i fod yn fwy darostyngedig i ystormydd profedigaethau a gwrthwynebiad; ac am nad oedd ei baladr yn gryf, na'i ddefnydd yn wydn, drylliwyd ef yn dost, a dweyd y lleiaf; ac os ail-impia eto, bydd ol y dryllio hyn arno byth. Daeth dyn ieuanc o grydd unwaith at y Parch. Lewis Rees, Llanbrynmair, i awgrymu fod arno chwant cynyg pregethu. Ond gan fod yr hen batriarch yn ofni na fyddai cael ei godi yn uwch yn un fantais iddo ef, nac i neb arall, dywedodd wrtho gyda phwyslais priodol, debygem, "Ni allaf ddywedyd ond ychydig, ond mi a wn un un peth, eich bod yn grydd da;" gan awgrymu, debygem, y byddai hi yn well iddo gadw ei gymeriad fel crydd da, na bod yn erthyl gyda phob peth. Ond daliodd Azariah ei godi, ac ymgododd hefyd wedi ei godi. Dychwelodd yn mhen blwyddyn oddiwrth y Parch. John Richards at ei fodryb i Drewyddel; ac ymddengys ei bod hi yn amser cynes iawn ar grefydd yno y pryd hwnw. Yr oedd yno. rai dynion ieuainc yn dechreu pregethu ar y pryd, ac yn eu plith yr oedd Daniel Evans, wedi hyny o'r Mynyddbach; ac ymddengys fod Azariah ac yntau yn gyfeillion neillduol. Yr oeddynt ill dau yn dygwydd bod yn Abergwaun pan diriodd y Ffrancod yno yn y flwyddyn 1797, a dywed Azariah wrthym fod ei ffydd ef yn wan iawn pan yn canfod byddin y gelynion yn dyfod i lawr i draeth Wdig, cyn iddynt daflu eu harfau i lawr.[1] Ac y mae yn hawdd iawn genym gredu ei bod; yr oedd hi yn amser tra difrifol yno. Nid peth dibwys oedd gweled nifer o ddynion arfog yn tirio i gymydogaeth ddiamddiffyn. Ond gan nad beth am Azariah a'i gyfaill, dangosodd preswylwyr y cymydogaethau cylchynol lawer o wroldeb ar y pryd. Yn lle ffoi o flaen eu gelynion fel creaduriaid gwylltion, darfu i luoedd ymgasglu ynghyd o bell ac agos, gan gymeryd yn eu dwylaw unrhyw arf fyddai yn gymhwys, yn ol eu tyb hwy, i ddinystrio y gelynion. Clywsom yn ein dyddiau borëol fod nifer o gymydogaeth Trewen wedi ymfyddino yn erbyn y gelyn; ac o ddiffyg arfau gwell, yr oedd rhai o honynt wedi unioni hen grymanau, ac ereill wedi gosod pladuriau ar goesau pigffyrch, gan droi proffwydoliaeth Esaiah yn y gwrthwyneb yn lle troi y gwaewffyn yn bladuriau, troi y pladuriau yn waewffyn oedd yma. Wedi myned am ran o'r daith fel hyn, clywsant er eu cysur fod y gelyn wedi ymostwng; a phan yn dychwelyd, pwy a'u cyfarfyddodd ond eu parchus weinidog, Mr. Evans, yr hwn oedd wedi bod oddicartref. Yr oedd y llawenydd yn fawr o'r ddau du; ac anerchai Mr. Evans hwynt gan ddweyd, "Wel, fy mhobl anwyl i, yr ydych wedi bod yn erbyn y gelyn." "Ydym," meddent hwythau. "Wel, (ebe yntau,) pe bawn i gartref, daethwn gyda chwi droed y'mhwll." Gallem feddwl y byddai ffydd Mr. Evans yn Nuw, y pryd hwnw, yn gryfach nag eiddo Azariah ieuanc. Amser difrifol, ddarllenydd, welodd ein tadau.

Erbyn hyn, y mae Azariah genym yn ddyn ieuanc parod ac awyddus am waith; ond, atolwg, pa le mae y maes iddo weithio ynddo? Y mae o bwys i ddyn gael y gymydogaeth fyddo yn ei daro, ac o bwys i'r gymydogaeth i gael y dyn fyddo yn ei tharo hithau. Ond sut y mae cael y naill at y llall? Digon, yn awr, yw dweyd, mai yr hen ddull ydoedd i'r ymgeisydd am faes i lafurio ynddo, fyned am daith bregethwrol, gan obeithio y gwnai Rhagluniaeth drefnu iddo gael ymsefydlu mewn rhyw fan. A chan nad faint a ddywedwyd am y teithiau pregethwrol hyny, y dull mae yn ddiau genym fod llawer o ragoriaeth ynddynt ar y tra-arglwyddaidd hwnw o benodi dyn, a'i ddanfon i le penodol drwy rym cyfraith, heb ymholi fawr, yn fynych, pa un a fydd y lle a'r dyn yn taro eu gilydd ai peidio? Mewn cydsyniad â'r arferiad hon, darfu iddo ef a'i gyfaill, Daniel Evans, gymeryd taith i bregethu drwy ranau o siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, Morganwy, a Mynwy; a dywed wrthym, eu bod yn gorfod myned o Felincwrt, ger Castellnedd, drwy Ferthyr-Tydfil, Dowlais, a Rumni, hyd Ebenezer, Pontypool, heb un lle i bregethu ynddo. Gŵyr y darllenydd fod gwaith mawr wedi cael ei wneud yma er y dyddiau hyny. Erbyn heddyw, nid yw yn debyg y gellid cael cynifer o gapeli mawrion, llawnion, a hardd, yn un ran arall o gyffelyb faintioli yn Nghymru ag a geir yn y parth crybwylledig. Ond, nid yn y parth hwn yr oedd Rhagluniaeth wedi bwriadu iddo ymsefydlu, na'i gyfaill ychwaith, y pryd hwnw. Yn y flwyddyn 1798, cymerodd daith arall ar ei draed i'r Gogledd, a phregethodd yn mhob capel perthynol i'r Annibynwyr, lle byddid arferol o bregethu Cymraeg. Diau y byddai hanes manwl o'r daith bregethwrol hon yn bur ddyddorol pe cawsai ei hysgrifenu yn fanwl. Gallwn gymeryd yn ganiataol fod llawer dygwyddiad chwithig, yn nghyda llawer helynt flin, wedi cymeryd lle cyn iddo ei gorphen. Ond er ein colled, nid oedd ysgrifenu hanes teithiau yn beth mor gyffredin y pryd hwnw ag ydyw yn awr. Erbyn hyn, mor wir a bod rhywun yn gadael ei dŷ i fyned ychydig oddicartref, y mae mor wir a hyny fod tebygolrwydd y ceir hanes ei daith mewn rhyw fisolyn neu bapyr newydd neu gilydd. A digrif, yn fynych,' yw sylwi ar yr hunanfoddhad a amlygir pan fyddo y teithwyr o un gymydogaeth i'r llall yn rhoddi adroddiad o'u teithiau. Y fath bethau pwysig a welsant! a'r fath fyfyrdodau a gylymir wrthynt! Ond er mor dda fyddai genym gael manylion y daith foreuol hon o eiddo Shadrach, eto ni chawsom ond ychydig o honi.. Clywsom, fodd bynag, ei fod un diwrnod yn myned heibio i efail gof: a dywedodd un o'n hawdurdodau mai yn Ngharno y bu'r peth, tra y tybia arall mai yn un o bentrefi erlidgar Arfon neu Ddinbych y bu. Gan ei fod yn teimlo ei feddwl yn isel, a'i galon yn ofnus, cyflymai heibio mor ddystaw ag y medrai. Ond cyn ei fod nemawr o ffordd, clywai rywun yn gwaeddi tu ol iddo; a chan ei fod yn tybio fod rhyw ddrwg yn agos, brasgamai yn mlaen yn gyflymach fyth. Parhäai y llef ar ei ol, a pharhäai yntau i gyflymu yn mlaen. Ond o'r diwedd trodd ei lygaid tros ei ysgwydd, ac er ei ddychryn, gwelai y gof â gwialen haiarn wenias o ganol y tân, yn rhedeg ar ei ol! Rhedai Shadrach ar hyn, a rhedai y gof ar ei ol; ac i wneud y drwg yn waeth, y gof oedd gyflymaf. Ond pan y disgwyliai Shadrach i'r haiarn poeth gael ei wthio i'w gefn, tarawodd y gof ei law ar ei ysgwydd yn garedig, a gofynai iddo, "Mr. Shadrach bach, be ydech chi yn rhedeg i ffwrdd fel ene? dowch i mewn atom ni i gael tamaid o fwyd." Yn lle ymosod yn erlidgar arno, fel yr ofnai Shadrach, trodd y gof hwn allan yn gyfaill caredig iddo, nid yn unig y pryd hwnw, ond hefyd dros ei oes. Aml y mae dyn yn cael ei siomi yr ochr oreu!

Ond i ddychwelyd, yr oedd yr eglwysi Annibynol yn y Gogledd y pryd hwnw yn wan ac anaml. Ar y daith hon, daeth Shadrach i gyffyrddiad â'r Dr. Lewis, o Lanuwchllyn, yr hwn a'i anogodd ef yn fawr i ddyfod i ymsefydlu yn y Gogledd, er cadw ysgol a phregethu'r efengyl, yr hyn a wnaeth yn nechreu y flwyddyn ganlynol. Ymsefydlodd gyntaf mewn lle o'r enw Hirnant, yn agos i Lanrhaiadr-Mochnant, lle yr oedd capel bychan, dan ofal y Parch Jenkin Lewis, Llanfyllin. Y mae cofion cynes gan yr hen bobl yn y gymydogaeth hono anı dano eto. Daeth amryw o blant ato i'r ysgol, ac yn ol ei dystiolaeth ei hun, "gwnaeth yntau ei oreu i'w dysgu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Pregethai lawer yn y cymydogaethau hyn: a dywed wrthym fod "llawer o'r trigolion yn dywyll iawn, ac yr oedd tuedd erlidigaethus mewn rhai o honynt, fel trigolion Llanfyllin." Fel trigolion Llanfyllin, ddarllenydd; gallem feddwl, yn ol ei farn ef, fod rhyw enwogrwydd erlidigaethol yn perthyn i'r rhai hyn; ac er dangos ysbryd erlidigaethus y trigolion cymydogaethol, digon ganddo oedd dweyd, eu bod "fel trigolion Llanfyllin." Nid ydym yn gwybod a oedd trigolion Llanfyllin yn waeth y pryd hwnw na thrigolion rhyw dref fechan arall gyffelyb iddi:—ond y mae trefydd bychain, yn gyffredin, yn rhai hawdd eu cyffroi; ac yr ydym yn meddwl fod efengylwyr Cymru wedi cael gwaeth triniaethau yn ei threfydd bychain, nag yn un lle arall. Saethwyd at Howell Harris pan yn pregethu yn Machynlleth; ac y mae y cyffredin yn gwybod am y driniaeth greulawn gafodd gan drigolion y Bala. Ac o'r braidd y meddyliwn fod nemawr i dref fechan yn Nghymru yn meddu ar gymeriad difrychau gyda golwg ar hyn. Y mae yr ymosodiad ffyrnig a wnaeth rhai o drigolion Llanfyllin ar y tŷ yn yr hwn yr oedd y Parch. Jenkin Lewis yn cadw cyfeillach, gyda'r bwriad i boenydio y cyfiawn hwnw, yn ysmotyn du ar eu cymeriad hyd heddyw. Ac fe allai fod y weithred hono mewn golwg gan Shadrach, pan yn gwneud trigolion Llanfyllin yn enghraifft o erlidwyr y cymydogaethau cylchynol. Paham ynte y mae trefydd bychain wedi bod yn fwy erlidgar na lleoedd ereill? Heb roddi rhesymau ereill yn awr, gosodwn hwn o flaen y darllenydd fel y penaf:—Yr oedd y pryd hwnw, fel yn awr hefyd i raddau gormodol, lawer o ysgarthion cymdeithas, neu rabble, yn byw ynddynt; a chan fod ysweiniaid ac offeiriaid erlidgar yr oes yn meddu ar dipyn o ddylanwad lleol, yr oeddynt yn gallu eu defnyddio i gyrhaedd eu dybenion eu hunain. Ond er pob gwrthwynebiad, pregethai Shadrach yn mhell ac yn agos. Yn niwedd y flwyddyn, symudodd i gadw ysgol yn Mhenal, ger Machynlleth; a dywed wrthym fod ganddo oddeutu triugain o blant y gauaf hwnw: "a gwnaethun fy ngoreu (meddai) i'w dysgu a'u cynghori, a'u hegwyddori yn egwyddorion sylfaenol y Grefydd Gristionogol." Ac yr ydym yn hyn yn cael cyfleusdra i weled y dyn. Nid cadw ysgol er cael tamaid o fara a wnai; o leiaf, nid hyny yn unig, ond er cael cyfleusdra i ddysgu y rhai oeddynt dan ei ofal yn egwyddorion crefydd. Dyma ydoedd yr amcan blaenaf. Pregethai yn fynych yn Mhenal ac Aberhosan, ac ymddengys fod diwygiad "lled dda," ys dywed yntau, yn. Aberhosan ar y pryd. Gallem feddwl ei fod yntau yn pregethu yn dra effeithiol; oblegyd clywsom i un o'i wrandawyr, wrth ei weled yn ymdynu at y terfyn, waeddi allan, ryw dro, yn Aberhosan, am iddo, er mwyn y nefoedd, barhau dipyn yn hwy. Yr oedd Aberhosan y pryd hwnw yn gysylltiedig âg eglwys y Graig, Machylleth, yn yr hon yr oedd y dychweledigion yn cael eu derbyn yn aelodau. Y Parch Edward Francis oedd y gweinidog yno ar y pryd; a dywed Shadrach am dano, yr un peth ag a glywsom gan bob un arall a wyddai rywbeth yn ei gylch yn ei ddweyd, sef, "ei fod yn ddyn, call iawn;" ac ychwanegir ganddo, "mi a ddysgais lawer ganddo, ac fe fu ei gyfeillach o les mawr i mi yn fy ieuenctyd." Onid yw hyn yn profi, ddarllenydd, ei fod yntau yn parhau i fod yn awyddus am ddysgu. Yr oedd yn awr yn ddyn ieuanc pump-ar-ugain oed; ond nid oedd eto yn tybied ei fod wydi dysgu'r cwbl; na, cadwai ei feddwl yn agored i dderbyn addysg pa le bynag y gallai ei gael. Yn mhen ychydig, symudodd i'r Dderwenlas, yr hwn sydd bentref bychan am afon Dyfi a Phenal, a phregethai yma eto mewn ystordŷ helaeth, yr hwn a fenthycwyd iddo gan un Mr. Evans, o'r Glasgoed, i gadw ysgol ynddo. Pregethai hefyd yn y cymydogaethau cylchynol,—yn y Gareg, "ac mewn tŷ cyfagos," yn yr ardal lle mae capel Soar yn awr, ac mewn tŷ o'r enw Cleiriau; a meddyliai mai efe oedd y cyntaf o'r Annibynwyr a bregethodd ynddynt. Am ryw reswm, symudodd o'r Dderwen i Benybont, Gelligoch—lle yn ymyl—a dywed wrthym fod Mr. Williams, Gelligoch, wedi bod yn ddigon caredig i roddi iddo fwyd a llety yn "rhad ac am ddim" yr holl amser y bu yno. Y mae yntau yn "dymuno i'r Arglwydd fendithio ei holl berthynasau â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd." Yr oedd y gŵr hwn yn dadcu i Mrs. Richard Cobden, A.S. Gwisgodd Shadrach yma gymeriad newydd—dechreuodd fod yn awdwr. Tra yn aros yma y cyhoeddodd ef ei "Allwedd Myfyrdod."

Cawsom hanesyn yn ddiweddar gan un o'i hen ysgolheigion, sydd yn gymhwys iawn i roddi cipolwg. arno fel ysgolfeistr.—Tra yn aros yn y Dderwenlas, yr oedd Shadrach wedi ymgymeryd âg addysgu mab i'r cymwynaswr uchod; a rhwymid ef gan y tad i beidio defnyddio y wialen tuag ato, ar unrhyw amgylchiad. Cymysgedd o dynerwch a ffolineb yn ddiau barodd i'r amod hon gael ei harosod; a thebyg iawn na fu y plentyn, yn anad neb arall, nemawr iawn ar ei fantais o honi. Y mae, tynerwch fol yn greulondeb yn y pen draw; a chreulondeb hefyd yw gwneud gwahaniaeth mawr rhwng plentyn a phlentyn. Yn ein golwg ni, hefyd, nid yw murio rhwng plentyn â chanlyniadau ei ddrygioni ond cefnogaeth iddo fod yn ddrycach nag o'r blaen. Ond gan fod Shadrach wedi cydsynio â'r amod, yr oedd ei chadw yn fater cydwybod ganddo. Ryw ddiwrnod, daeth y newydd i'w glustiau fod rhyw ysgelerwaith wedi ei gyflawni gan rai o'i ysgolheigion. Yn fuan, cafwyd allan pwy oedd yr euogion: ac, fel y gellid disgwyl, yr oedd y plentyn y soniwn am dano yn un o honynt. Penderfynodd Shadrach yn union beth oedd i'w wneud â'r lleill cospodd hwynt yn ol gofyniadau manylaf y gyfraith. Ond beth oedd i'w wneud â hwn oedd y pwnc? Byddai peidio cospi pechod yn neb, yn anghyfiawnder â llywodraeth yr ysgol; a byddai cospi ereill ac arbed hwn, heb ffordd briodol i wneud hyny, yn rhoddi lle i'r ysgolheigion gulfarnu uniondeb y llywydd. I ddangos pechod yn bechod, yr oedd yn rhaid cospi; ac i gadw at ei ymrwymiad â thad y plentyn hwn, yr oedd yn rhaid arbed yr euog. O'r diwedd, gwelodd drwy yr anhawsder:—er arbed yr euog yr oedd yn rhaid i'r diniwed ddioddef. Yr oedd yn rhaid i AZARIAH daro SHADRACH!—mewn geiriau eraill, ymaflai yn y wialent â'i law ddehau, ac yn ddiarbed tarawai ei law aswy ei hun! Gweinyddai yr ysgolfeistr gospedigaeth mor drymed arno ef hun ag ar y troseddwyr gweithredol. Yn y modd hwn cadwyd llywodraeth yr ysgol ar ei thraed, ac arbedwyd yr euog yr un pryd. Nid ydym yn gwybod pa fodd y gallai Shadrach wneud athrawiaeth yr Iawn yn fwy dealladwy. Nid oedd hyn ond yr Iawn a Maddeuant yn cael eu portreiadu o flaen llygaid y plant. Erbyn hyn, yr oedd ei gyfaill, Daniel Evans, wedi ymsefydlu yn Mangor, a phregethai yn achlysurol yn Llanrwst a'r gymydogaeth. Ac y mae yn dra thebyg iddo ddylanwadu ar ei gyfaill Shadrach i symud i'r ardaloedd hyny: yr hyn hefyd a wnaeth, sef, i Drefriw, oddeutu dwy filldir o Lanrwst. Nid oedd gymaint a thy rhad i'w gael yma, serch bwyd, fel yn Gelligoch; ond cymerodd Shadrach dŷ yno ar rent i gadw ysgol ac i bregethu ynddo. Ond nid oedd pregethu yn Nhrefriw yn ddigon ganddo, eithr pregethai hefyd yn Porthllwyd, Llanrwst, ac ardal Capel Garmon. Yr oedd eglwys fechan wedi ei sefydlu yn yr ardal hon gan Dr. Lewis, Llanuwchllyn, ac yr oedd y Parch. Mr. Griffiths, Caernarfon, wedi sefydlu eglwys yn Mhorthllwyd. Ymddengys fod ysbryd erlidigaethus yn y gymydogaeth hon eto. Dywed Shadrach wrthym, ddarfod i ryw diyhirod ddirwyo y Parch. W. Hughes, wedi hyny o'r Dinasmowddu, o ugain punt, am bregethu yn yr ardaloedd hyny; a gorfu arno o'i angen dalu deg o honynt. Ymddengys fod Shadrach, ar y cyntaf, yn dra digalon yn ei faes newydd yn Nhrefriw; ac nid rhyfedd ychwaith, gan ei fod am rai misoedd yn cadw cyfeillach yno, heb neb ond tair o hen chwiorydd crefyddol i uno âg ef. Yr oedd yr amser hwnw yn ei gwneud yn fater gweddi ar fod i ryw wrryw gael ei dueddu i ddyfod atynt: ac atebwyd ei weddi, drwy ddyfodiad rhyw hen wr parchus, o'r enw Rowland Hughes; a daeth ereill yn fuan ar ei ol. Yr oedd y cangenau yn y Porthllwyd, Trefriw, a Chapel Garmon, yn arfer dyfod i Lanrwst bob mis i gymuno. Yr oedd ei weinidogaeth yn dra derbyniol yma. Wedi iddo fod am ychydig Sabbothau yn y gymydogaeth, aeth adref i Drewyddel; ac yn ei absenoldeb daeth un o'r enw Jane Jones, Pantsiglen, i gyfarfod a gynelid yn y Bala, i ddymuno yn ngwydd y gweinidogion presenol, ar iddo ymsefydlu yn y gymydogaeth; a phan y gofynwyd iddi gan Dr. Lewis, "A oedd gobaith iddo gael tamaid o fara yno os deuai?" Atebodd "fod, tra fyddai ganddi hi damaid ar ei helw." Dengys hyn, mor bell ag y mae yn myned, y teimlad cynes oedd ato yn y gymydogaeth. Rhoddwyd galwad iddo gan yr eglwysi uchod, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn hen gapel Llanrwst, oddeutu diwedd y flwyddyn 1802. Bu yn llafurus iawn yn y cylchoedd hyn. Yr oedd yn pregethu, neu yn cadw cyfeillach, agos bob nos o'r wythnos. Ond er ei holl lafur a'i ludded, nid oedd ei gyflog addawedig, wedi'r cwbl, ond pum punt y flwyddyn! Barned y darllenydd a ddylid gosod addewid Jane Jones tu cefn i hyn ai peidio.

Arferai Dr. Chalmers ddweyd fod Cristionogaeth i fod yn ymosodol, yn gystal ag yn amddiffynol;—rhaid iddi fyned i'r prif ffyrdd a'r caeau, i gymhell rhai i ddyfod i mewn, yn gystal a cheisio cadw yr hyn sydd ganddi. Ac yn sicr, os na wna hyn, buan iawn y dirywia, neu y derfydd yn hollol. Y mae bod yn ymosodol, nid yn unig yn beth unol âg ysbryd Cristionogaeth, ond hefyd yn hanfodol er ei pharhad. Felly hefyd y teimlai Shadrach, debygem; oblegyd gwnai bob lle y byddai yn aros ynddo fel gorsaf Genadol i dori allan o honi ar y ddeheu ac ar yr aswy; neu, mewn iaith filwrol, ystyriai y lle y byddai yn byw ynddo fel basis of operations er darostwng y cymydogaethau cylchynol. Dywed wrthym iddo bregethu llawer yn agos i Lanrhochwyn, a Llanddoged, a thu cefn i dŷ tafarn yn yr Eglwysfach. Bu hefyd yn pregethu yn Nolyddelen; ac er nad oedd ei gyflog addawedig ond pum punt yn y flwyddyn, eto, yr oedd yn talu swllt i hen wraig yn y pentref hwn bob tro y deuai iddo, am gael pregethu yn ymyl drws ei thŷ. Bu hefyd yn pregethu yn Ngholwyn, a thalodd swllt yma hefyd i ryw hen -wraig, am gael pregethu yn ymyl ei drws hithau. Yn mhen amser wedi hyn, sefydlwyd eglwys yn nhŷ yr hen wraig hon, gan y Parch. T. Jones, Moelfro. Cawn hanes ei fod un prydnawn Sabboth yn pregethu yn Metwsycoed, mewn Gwyl-mabsant. Yr oedd yma yn dangos ei fod yn meddu ar ysbryd gwir apostolaidd. Y mae y desgrifiad a rydd efe ei hun o'r amgylchlad hwn yn dra effeithiol. "O! (ebe fe) y fath olwg wyllt a chellweirus oedd ar y bobl! Yr oedd hi fel ffair fawr, ac yr oedd y crwth a'r delyn yn chwareu, a minau yn pregethu allan yn nghanol y dorf wageddus." Dyna, ddarllenydd, ddesgrifiad o'r gynulleidfa oedd yn ei wrando y prydnawn Sabboth hwn; ond beth am deimladau y pregethwr? "Yr oedd arnaf beth ofn (meddai) y buaswn yn cael fy lladd ganddynt; ond drwy ddaioni yr Arglwydd, mi gefais fy niogelu." Yr oedd yn ymladdfa law-law, a`daeth y pregethwr allan yn fuddugoliaethus, er nad oedd ond un yn erbyn y lluaws. "Ond yr oedd Duw gydag ef," ac mewn canlyniad, cafodd y díafol, ys dywed Siencyn Penhydd, ei orchfygu ar ei dir ei hun. Yn mhen blynyddau wedi hyn, clywodd ddyn yn dweyd, iddo ef gael ei ddychwelyd at yr Arglwydd yr oedfa ryfedd hon; a phan wawrio y dydd mawr, y mae yn bosibl y caiff y pregethwr fwy o achos i lawenychu am yr ymosodiad hwn a wnaeth ar fyddin ei wrthwynebwr.

Dyma gipolwg ar fywyd Shadrach tra yn aros yn Nhrefriw, ac i wneud cyfiawnder âg ef, rhaid dal mewn cof ei fod yn gwneud yr holl ymdrechion hyn ar ei draed ei hun. Nid oedd llawer o geffylau benthyg i'w cael yr amser hwnw i bregethwyr: ac nid oedd yn bosibl iddo, o bum punt yn y flwyddyn, allu fforddio i gael ceffyl iddo ei hun. Ond os bydd gwir angen am beth, y mae Rhagluniaeth yn sicr o ofalu am dano. Ac felly, pan glywodd y gŵr da a haelionus hwnw, Mr. Jones, o Gaer, ei fod yn teithio cymaint ar ei draed, teimlodd ar ei galon i roddi ceffyl bychan a chyfrwy hefyd yn anrheg iddo.

Os oedd Shadrach, ynte, mor ymdrechgar fel gŵr traed, beth fydd ef yn awr fel marchog? Yr oedd eto rai ardaloedd heb eu meddianu: a thra yr oeddynt o fewn cyrhaedd gŵr a cheffyl, nis gallai eu hesgeuluso. Nid oedd gan yr Annibynwyr yr un lle i bregethu ynddo yn ardaloedd eang Pentrefoelas a Rhyd- lydan; ac yr oedd y trigolion, yn gyffredin, yn dywyll, a rhai o honynt yn erlidgar. Teimlai Shadrach anesmwythder wrth feddwl am y rhai hyn, a phenderfynodd wneud ymdrech er eu meddianu. Wedi tipyn o lafur blaenorol, cafodd genad i bregethu yn ochr tŷ bychan, o'r enw Ty'nygors, yn ngodrau y mynydd sydd uwchlaw Rhydlydan, yn agos i ffordd y Bala. Yn ochr y tŷ, cofier, ac nid o'i fewn, y cafodd ganiatâd; ond 'gan fod ei awydd mor fawr i gael meddiant o'r wlad, yr oedd yn dda ganddo gael caniatad yn rhywle. Ond enill y bobl fe geir lle. Wedi hyn, cymerodd dŷ bychan wrth bont Rhydlydan, er pregethu ynddo; a thalai o'i income bychan yr ardreth am dano, ei hun! Ac er fod oddeutu deng milldir o ffordd o Drefriw, eto, arferai fyned i Rydlydan bob nos Fawrth i bregethu. Ac er gwerthfawrogi ei ymdrechion rhaid i ni adfeddwl am yr amgylchiadau cysylltiedig â hwynt:—yr oeddynt yn ymdrechion dyn â llonaid ei freichiau o waith mewn lleoedd ereill—yn ymdrechion a ofynent lawer o lafur corfforol, heb son am groesau meddyliol; ac yn ymdrechion, nid yn unig heb ddod â dim i mewn i'w logell, ond o'r tu arall, yn myned a chryn lawer o honi. Er cael goleuni i bregethu "yn ei dŷ ardrethol ei hun," yr oedd yn gorfod cario canwyllau gydag ef am y deng milldir o Drefriw! Beth feddylia y darllenydd am hyn? Digwyddodd iddo weled mŵnwr neu lôwr, fe ddichon, lawer gwaith, yn cario ei ganwyll i'w lochesau tanddaearol; ond y mae yn debyg genym na chlywsant erioed o'r blaen am bregethwr dan orfodaeth i wneud rhywbeth fel hyn. Heblaw goleuni y gwir, yr oedd Shadrach yn cario gydag ef, hefyd, ddefnyddiau goleuni gwêr. Ac yr oedd rhagfarn y bobl mor fawr, fel nad oedd hi yn hawdd iddo gael goleuo ei ganwyllau wedi eu cario, ond yn nhŷ rhyw "hen ŵr serchog," medd efe, o dafarnwr, o'r enw Evan Jones. Daw rhyw ddaioni o Nazareth! Wele enghraifft, ddarllenydd, o dywydd llawer gwas i Dduw yn yr oes sydd wedi myned heibio.

Ac heblaw diffyg cefnogaeth fel hyn, y mae Shadrach yn rhoddi i ni dipyn o hanes gwrthwynebiad. Dywed wrthym ei fod yn pasio unwaith drwy bentref o'r enw Llanddulas, ryw foreu Sabboth, a gwnaeth ymchwiliad am le i bregethu yno; yr hyn, yn mhen ychydig, a gafodd gan ryw wraig dylawd oedd yn byw yno. Rhoddodd yntau swllt i was y tafarndŷ am ei gyhoeddi wrth ddrws y fynwent. Daeth llawer yn nghyd; a phan oedd yntau yn darllen ei destyn, daeth "dyn mewn dillad duon," ys dywed yntau, yn mlaen i geisio ei rwystro i bregethu. Ond aeth tymherau y gŵr hwn yn rhy wylltion i barhau i aflonyddu arno yn hir—aeth ymaith. Pan oedd ryw dro arall yn pregethu yn Rhydlydan, daeth "pendefig" heibio, ebe Shadrach;—ond dywed Mr. Morgan yn ei Hanes Ymneillduaeth, yn ddifloesgni, mai Mr. Humphreys, o Rydlydan, ydoedd, yr hwn oedd yn offeiriad ac ynad heddwch;—gan waeddi yn awdurdodol arno ddyfod allan ato ef. Aeth yntau ato yn ol ei gais, â'i drwydded bregethu yn ei law; "Oblegyd (ebe Shadrach) nid oeddwn yn arfer myned i unman yr amser hwnw heb fy nhrwydded genyf." Ffaith syml yw hona, ddarllenydd, ond y mae yn ddrych lled gywir i ni ganfod cymeriad yr oes ynddo. Mor fuan ag y daeth Shadrach yn ddigon agos at y "pendefig" hwn, cipiodd y drwydded o'i law, a gorfu ar Shadrach druan ei ddilyn am tua milldir o ffordd, yn swn bygythion yr adyn, cyn ei chael yn ol ganddo; a gorfu arno yn y diwedd gyfeirio ei feddwl "pendefigaidd" at gyfraith y wlad cyn ei chael o gwbl. Gallem gasglu na fyddai cyfeirio ei feddwl at gyfraith Crist o un dyben. Dywed Mr. Morgan i'r dyn erlidgar hwn farw dan arwyddion amlwg o farn Duw. Y mae Duw a farn ar y ddaear. Rhyw dro arall, wedi iddo fod yn pregethu yn Rhydlydan, cyfarfyddodd ef a'i gyfeillion wrth ddychwelyd, yn agos i Bentrefoelas, â "phendefig," ebe fe, eto, yn dyfod i'w herbyn o'r gwasanaeth prydnawnol, a golwg beryglus arno; a chan nad beth fu y "pendefig" hwn yn wneud yn y gwasanaeth prydnawnol cyn hyny, dywed Shadrach ei fod yn ei regu ef yn arswydus am ei fod yn dyfod i bregethu i'w ardal ef. Yr oedd gwraig clochydd Pentrefoelas wedi bod yn gwrando ar Shadrach; ac oblegyd, feddyliem, fod cysylltiad agos rhwng clochyddiaeth â'r pendefigion hyny oeddynt yn dyfod ar lwybr Shadrach mor aml, rhedodd o'r neilldu i ymguddio. Ond ar waethaf y gwrthwynebwyr, daliodd ef ei dir; a chafodd y pleser o sefydlu eglwys yno; a bu gwraig y clochydd hwn yn gymwynasgar iawn i'r achos yn ei wendid cyntaf. Dywed Shadrach wrthym mai hi roddodd y gymwynas gyntaf i'r achos Annibynol yn yr ardal, a phwys o ganwyllau oedd hyny; ac ymddengys iddi barhau i roddi y gymwynas hon yn awr ac yn y man tra fu hi byw. Yr oedd tywyllwch yn gordoi y bobl pan sefydlwyd yr achos yn y lle. Pan yn corffori yr eglwys yno, daliai Shadrach y Beibl yn ei law, a gofynai iddynt a oeddynt yn penderfynu ei gymeryd yn rheol iddynt? Atebent hwythau eu bod. Yr oedd yr ateb syml hwn yn peri syndod mawr i lawer, am y tybient eu bod yn ymrwymo i ganlyn Shadrach ei hun! Dyma, ddarllenydd, ryw fras linelliad o fywyd a helyntion Azariah Shadrach, o'i ddyddiau boreuol yn y Deheudir, hyd ei symudiad yn ol i'r Deheudir o Lanrwst, yr hyn a wnaeth yn y flwyddyn 1806.

PENNOD II.

Y MAE gwahaniaeth mawr rhwng ambell i fywyd a'i gilydd: Nid ydym yn cyfeirio yn gymaint at y cymeriad moesol fyddo, bywydau yn ei ddwyn; ond at y defnyddiau, neu'r stuff, sydd yn gwneud y bywyd i fyny. Cyfansoddir ambell i fywyd o ryw olyniaeth ddidor o amgylchiadau a gweithredoedd cyffelyb. Gellwch, oddiwrth yr hyn fyddoch yn ei wybod eisoes am dano, ffurfio drychfeddwl go gywir am y gweddill o hono. Fel y mae yr afon sydd yn rhedeg trwy y doldir, yn dawel a digynhwrf, felly hefyd y mae yntau. Ond dynodir un arall gan ryw newydd—der diddiwedd. Y mae pob gweithred ac amgylchiad fel yn eich hèrio i ragddywedyd pa fath rai fydd y nesaf. Mae gwreiddiolder yn nodwedd ar y cyfan; ac ar. ddiwedd pob cyfnod, gellwch fentro dyweyd,—Yr hyn a fu ni fydd. Os yw y blaenaf yn debyg i afon mewn doldir, y mae hwn yn debycach i lifeiriant gorwyllt o ben mynydd, yn disgyn ar hyd y llethrau a thros y clogwyni yn mhob ffurf a llun. Yn gyffredin, y bath blaenaf o fywyd sydd yn fwyaf defnyddiol;—hwn sydd yn gadael yr argraff dyfnaf ar y rhai fyddant o fewn cylch ei ddylanwad. Gyda golwg ar fywyd, gallwn ddyweyd yn benodol yn ol yr hen ddiareb Gymreig, "Dyfal gnoc a dyr y graig." Ond os hwn yw y mwyaf. defnyddiol, y llall yw y goreu i'r bywgraffydd. Mae y newyddder didor a nodwedda y bywyd yn rhoddi swyn i'r desgrifiad o hono. Teflir y darllenydd i ganol amgylehiadau nad oedd ganddo yr un disgwyliad o'r blaen am danynt; ac felly hudir ef yn y blaen yn ddiarwybod iddo ei hun. Yn awr, y mae bywyd Azariah Shadrach yn perthyn i'r dosbarth blaenaf, yn hytrach na'r olaf—i'r defnyddiol, yn hytrach nag i'r hynod. Nid am nad oedd ei fywyd yn hynod oddiwrth eiddo pobl ereill; ond am fod cymaint o gyffelybrwydd rhwng gwahanol ranau ei fywyd ei hun, fel nas gallwch ddyweyd fod y naill ran o hono yn hynod oddiwrth y llall. Yr ydym eisoes wedi rhoddi un darn o hanes ei fywyd; a chan y bydd y gweddill yn lled debyg, nid ydym heb radd o ofn nas gallwn gadw i fyny ddyddordeb y darllenydd.

Yn mis Tachwedd, 1806, symudodd Shadrach i Dalybont, Ceredigion, i arolygu yr eglwys ieuanc oedd newydd gael ei sefydlu yno, yn nghyd a'r eglwys a sefydlasid ychydig yn flaenorol i hyny yn Llanbadarn; wedi bod yn llafurio yn Llanrwst a'r cymydogaethau oddeutu pedair blynedd. Cam pwysig i weinidog ydyw symud: a cham ydyw na ddylid ar un cyfrif ei gymeryd heb lawer o ystyriaeth. Wrth aros yn yr un man, y mae ar ffordd deg i ddyfod i fedi mewn amser o'i lafur ei hun, drwy fod yr eglwys yn dyfod i fyny yn raddol at yr hyn yr amcanodd ei chael, mewn duwioldeb a threfn. Daw ef i adnabod yr eglwys yn well; ac felly bydd ar dir mwy manteisiol i wneud daioni iddi. Daw yr eglwys hefyd i feddu adnabyddiaeth gywirach o hono yntau; ac os yn ddyn da, ac yn weinidog teilwng, bydd yn hawddach ganddi ymddiried ynddo. Ond gan nad beth ellir ddweyd yn erbyn symudiadau, mae yn ddiau fod amgylchiadau weithiau yn bodoli ydynt, 'nid yn unig yn eu cyfreithloni, ond hefyd yn galw am danynt. Mae yn bosibl fod dyn yn cael allan mewn amser, drwy brofion diymwad, nad yw yr eglwys ac yntau yn taro eu gilydd. Ac y mae amgylchiadau, weithiau, nad oes gan ddyn yr un reolaeth arnynt, yn cyfyngu ar fesur ei ddefnyddioldeb, ac yn blwm i wneud ei ymdrechion mwyaf egniol yn ddieffaith. A chan nad yw galluoedd a chymhwysderau dyn yn cael eu dadblygu ar unwaith, y mae llawer un ar y cyntaf yn ymsefydlu mewn lle gwan, ac mewn ardal gyfyng ac anmhoblogaidd, ac erbyn iddo, drwy ddiwydrwydd ac ymroddiad, dyfu i'w gyflawn faintiolaeth, y mae dyledswydd yn galw yn awdurdodol arno i gymeryd ei safle mewn cylch eangach. Nid ydym yn sicr ein bod yn gwybod paham y cymerwyd y cam hwn gan Shadrach; ond, a barnu y weithred wrth ei chanlyniadau, gallem feddwl iddo wneuthur yn ddoeth. Mae rhyw bobl o feddyliau culion yn y dyddiau presenol yn gwybod yn mlaenllaw, cyn chwilio dim i'r amgylchiadau, paham y mae pob gweinidog yn symud. Onid cariad at arian sydd yn eu cymhell? Rhaid i'r chwilen fod bob amser yn y baw! Ond oddiwrth yr hyn a welsom eisoes, os bu symud er mwyn arian yn gyfreithlon i neb erioed, y mae yn ddiau ei fod felly i Shadrach. Gorchwyl lled anhawdd oedd cael "dau pen y llinyn" yn nghyd ar y gyflog addawedig o bum' punt yn y flwyddyn. A ydyw y darllenydd yn gofyn faint addawyd iddo yn ei le newydd? Wel, er ei foddhau, caiff y llen ei thynu, yn atebiad iddo. Dyma eiriau Shadrach ei hun:—"Dwy bunt y chwarter oedd yr eglwys yn addaw í mi ar y cyntaf; ond os gwnawn gasglu digon o arian i dalu dyled y capel, y cawswn dair punt y chwarter." Dyna'r addewid, a dyna fu'r cyflawniad. Ond, i fod yn fanwl yn y mater arianol yma, cofier mai addewid eglwys Talybont oedd hona; ac yr oedd eglwys Llanbadarn ganddo heblaw, (nid yr eglwys blwyfol yn Llanbadarn, cofier— byddai tipyn o frasder oddiwrth hono—ond yr eglwys Annibynol yn y lle,) yr hon oedd eto mewn babandod ac eiddilwch. Tarawsom yn ddiweddar wrth hen lyfr cyfrifon yr eglwys hon, a mawr oedd yr hyfrydwch a gawsom wrth edrych dros y cofnodion o'i thaliadau i Shadrach fel ei gweinidog. A'u rhoddi yn yr iaith yr ysgrifenwyd hwynt, yr oeddynt ryw fodd fel hyn:—" Pd. Mr. Shadrach for the 1st. quarter, £1 15s.; do. 2nd quarter, £1 7s.," ac felly yn y blaen, weithiau yn fwy, ac weithiau yn llai, nes y cyrhaeddent mewn dull tra Gwyddelig, the 8th and the 9th quarter. Ond, cofied y darllenydd, nid oedd yr holl chwarteri hyn, a'r symiau perthynol iddynt, yn cael eu gwasgu i'r un flwyddyn ychwaith.—Cymaint a hyna ar gysylltiadau arianol y symudiad. Ond teimlwn fod dyledswydd yn galw arnom i ddweyd, mai nid fel y gwnelai yr eglwysi hyn yn eu babandod y gwnant heddyw.

Yr oedd Shadrach erbyn hyn yn ŵr priod ac yn benteulu; ac yr oeddym yn teimlo, ddarllenydd, fod galwad arnom i fod yn fanwl gyda'r ffeithiau uchod, fel y gellid cael cyfleusdra i ganfod ei galedi, ac mewn canlyniad ei hunanymwadiad, yn well. Thomas Carlyle, onide, sydd yn dweyd fod yn rhaid i'r dosbarth blaenaf o ddiwygwyr cymdeithasol debygoli i'r milwyr blaenaf yn y fyddin Rwsiaidd, sef, gorwedd yn y ffos, fel y gallo y rhai fyddo yn dyfod ar eu hol gael cerdded drostynt. Onid fel hyny, i raddau helaeth, y mae wedi bod gyda gweinidogion ffyddlawn yr oes ddiweddaf? Bendith fyddo ar eu henwau a'u coffadwriaeth! a throsglwydder gwybodaeth o'u hymdrechion, eu caledí, a'u hunanymwadiad, fel cymunrodd werthfawr i'r oesau dyfodol, fel y byddont fel symbylau i'w cyffroi i berffeithio y gwaith a ddechreuwyd yn wyneb cynifer o anfanteision.

Ugeiniau lawer o flynyddoedd yn ol, yr oedd cryn bwysigrwydd yn perthyn i ardaloedd Talybont, am fod yno weithiau plwm pwysig yn cael eu cario yn mlaen. Dywedwyd wrthym mai yn y gweithiau hyn y darfu i Syr Hugh Myddleton gasglų y cyfoeth a'i galluogodd i orphen y New River, er dyfrhau dinas Llundain. Ac erbyn heddyw y mae y cymydogaethau hyn yn enwocach nag erioed, ar gyfrif eu cyfoeth a'u gweithiau mwnawl. Ond golwg lled ddigalon oedd ar bethau oddeutu yr amser yr ymsefydlodd Shadrach yn y lle. Yn lle nifer liosog o dai golygus, fel sydd yno heddyw, nid oedd yn y pentref y pryd hwnw ond ychydig o dai llwydion a gwael. Ac ystyrid yr hen dŷ pridd dilun ddarfu i Shadrach adeiladu iddo ei hun wedi ei ddyfodiad yno, a'r hwn ddichon i'r darllenydd ei weled eto yn ymyl yr ysgoldy Brytanaidd, yn adeilad godidog. Ac yr oedd sefyllfa grefyddol y cymydogaethau hyn yn cyfateb yn lled dda i'w sefyllfa gymdeithasol. Nid oedd ond oddeutu tair blynedd wedi myned heibio er pan ddechreuwyd pregethu yno. A'r hybarch a'r hynod Rhys Davies, o Saron, yr hwn oedd y pryd hwnw yn cadw ysgol yn Mhenal, oedd y pregethwr cyntaf. Cymerwyd meddiant o'r maes yn fuan gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd; ond gan fod ei esgobaeth eisoes mor eang, nis gallai, wrth reswm, wneud cyfiawnder â'r gymydogaeth hon. Oddeutu yr amser hwn nid oedd ond tri o weinidogion gan yr Annibynwyr yn sir Aberteifi i gyd: a rhanent hi cydrhyngddynt. Gofalai y Parch. B. Evans, Drewen, am y rhan dde—orllewin iddi, yn cyrhaedd o Castell— newydd—Enlyn i'r Ceinewydd.[2] Gofalai Dr. Phillips am y rhan ogledd—orllewin iddi, o'r Ceinewydd i Bont Llyfnant, pedair milldir o Fachynlleth. A gofalai y Parch. Phillip Morris, Ty'nygwndwn, am y rhan ddwyreiniol o honi, gan gymeryd ei safle oddeutu cymydogaeth Llanbedr. Fel yr oedd gweinidogion cymhwys yn lliosogi, a'u llafur hwythau yn llwyddo, yr oedd yr esgobaethau hyn yn cael eu rhanu a'u hadranu drachefn, nes y mae nifer y gweinidogion erbyn heddyw oddeutu tri-ar-ugain. Y rhaniad cyntaf ar esgobaeth Dr. Phillips ydoedd, pan roddodd y rhan ogleddol o honi i ofal Shadrach, ar ei ddyfodiad i Dalybont; ac yn ol golygiadau y dyddiau presenol, yr oedd hon yn anferthol fawr. Cyrhaeddai o Ddyffryn Paith at Bont Llyfnant, ac o Benybont i odreu Plynlymon—rhyw barth o wlad yn cynwys oddeutu cant a haner o filldiroedd ysgwâr. Dywed Shadrach am y trigolion, eu bod yn hynod o dywyll; ond er ei gysur ef, a'u hanrhydedd hwythau, nid oeddynt yn erlidigaethus. Er nad oedd yn cael fawr o'u harian, eto dywed wrthym eu bod yn gymwynasgar iawn. Yr oedd y gwrthwynebiadau a gafodd o'r blaen yn ei gymhwyso ef yn ddiau i werthfawrogi y cymwynasgarwch hwn.

Yr oedd gwaith mawr i'w wneud ar y maes eang hwn; ac ymddengys i ni fod Shadrach yn un o'r rhai cymhwysaf ato, Y mae yn ddiau nad yw pob un cymhwys ddim yn gymhwys at yr un peth. Nid mater o ddigwyddiad oedd fod Paul yn planu, ac Apolos yn dyfrhau. Diau fod y Gwinllanydd mawr, nid yn unig yn codi dynion cymhwys i'r winllan, ond hefyd yn eu harwain i'r rhan hono o'r winllan y byddont yn fwyaf cymhwys ati. Os ydym yn deall cymeriad Shadrach yn iawn, yr oedd cyfansoddiad ei feddwl, poblogrwydd ei ddull o bregethu, a'i weithgarwch diflino, yn ei gymhwyso yn neillduol at faes fel hwn, Yr un ydoedd Shadrach yma ag ydoedd yn Llanrwst; a'r un modd y gweithredai. Gan fod y wlad heb haner gael ei meddianu, torai allan ar bob llaw, a phregethai pa le bynag y cai dderbyniad. Am oddeutu pedair blynedd ar ddeg, bu yn llafurio yn galed, "mewn amser ac allan o amser," nid yn unig y dydd, ond hefyd y nos, i geisio gyru y gwaith yn y blaen. Pregethai pa le bynag y cai gyfleusdra; ac yr oedd yn ei gwneud yn fater cydwybod i wneud cyfleusdra iddo ei hun, drwy geisio ymddwyn yn y fath fodd ag a'i cymeradwyai i fynwesau trigolion yr ardaloedd, fel y gallai drwy hyny gael pregethu yn eu tai. Er enghraifft, yr oedd wedi gosod ei galon ar gael pregethu yn Nghoedgruffydd—ffermdy mawr yn ymyl y fan lle saif capel Salem yn bresenol—ond pa fodd yr oedd cael myned i mewn nis gwyddai, am fod perchenog y lle, sef yr un a breswyliai yno, yn glamp o Eglwyswr. Nid oedd dolen. gydiol rhyngddo â'r lle yn ymddangos yn un man. Yn ffodus, cafodd wyr i'r gŵr hwn ei eni yn Nhalybont, a Shadrach oedd y gŵr i'w fedyddio. Wrth reswm yr oedd y tadcu i fod yn bresenol yn y bedydd; a phan ddaeth y dydd oddiamgylch, fel hyny yr oedd hi Gwelodd Shadrach ei fantais yn union, a phenderfynodd anelu at galon y gŵr da; ond yr oedd gochelgarwch, a thipyn o ragfarn, fe allai, yn ei gadw draw. Yn ngwyneb pob anfantais, fodd bynag, darfu iddo, drwy gallineb ac unplygrwydd, wneuthur argraff go ddwfn ar ei galon; ac nid hir y bu y gŵr hwn heb ofyn i Shadrach pa bryd y deuai i bregethu i'w dŷ yntau. Fel yna, y clywsom ddarfod iddo gael derbyniad i Goedgruffydd; ac y mae yn debyg iawn fod cysylltiad agos rhwng hyn a bodolaeth yr eglwys yn Salem. Dengys hyn y pwys sydd o fod yn gall yn gystal ag yn selog. A phe byddai pob gweinidog yn ymdrechu cadw ei lygad yn ei ben, fel y dywedir, i ddal ar bob cyfleusdra roddo Rhagluniaeth o fewn ei gyrhaedd, a'i ddefnyddio, y mae yn ddiau y byddai achos crefydd yn llawer mwy blodeuog mewn llawer man nag yw heddyw. Heblaw Talybont a Llanbadarn, yr oedd Dyffryn Paith a Chlarach yn lleoedd sefydlog i ofalu am danynt; ac am yn agos i bedair blynedd ar ddeg, pregethai tua chwe' gwaith yr wythnos. Mae yn ddiau fod hyn yn gofyn llafur mawr. Ond nis gallai Shadrach fod yn ddedwydd heb lafur. Yr oedd ei gyfansoddiad a'i grefydd yn gwneud caledwaith yn elfen anhebgorol yn ei gysur. Ac heblaw y llafur hwn, yr oedd, drwy fod yn llygadog ac effro, yn cael cyfleusdra i bregethu mewn llawer o leoedd ereill. Dywed wrthym iddo bregethu llawer yn y Foelgolomen, Nantyperfedd, Cwmsymlog, Lluest- newydd, Ty'nycoed, Coedgruffydd, Pentrebach, Penybont, Cwmygeulan, Penybanc, Bryngwyn-bach, Ceulan, Caregestynllath, a'r Cwmerebach; a bu rai troion yn pregethu yn, Nhre'rddol, y Borth, ac Aberdyfi.

Pan ymsefydlodd Shadrach yn Nhalybont gyntaf, er nad oedd y trigolion yn erlidgar, eto, fel y gwelsom eisoes ar ei dystiolaeth, ef ei hun, yr oeddynt yn dywyll iawn; ac, fel y cyfryw, yr oedd cryn dipyn o goelgrefydd yn perthyn iddynt. Os oedd rhai o honynt yn meddwl am grefydd o gwbl, ystyrient eu hunain yn Eglwyswyr. Fel y cyfryw, gosodent gadwedigaeth pob plentyn a fyddai farw yn ei fabandod i ymddibynu yn gwbl ar y ffaith a fuasai wedi cael ei fedyddio ai peidio. Gan nad faint o niwed ymarferol oedd yn y dyb yna, gwnaeth, Shadrach ddefnydd go dda o honi. Dan ei dylanwad yr oedd y bobl yn awyddus i gael bedydd ar eu plant, yn neillduol felly os buasai arwyddion na fyddai y plentyn byw yn hir. A chan nad oedd un gweinidog ond Shadrach o fewn milltiroedd i'r lle, yr oeddynt yn gyru ato o bob cyfeiriad, ac ar bob amser o'r nos fel y dydd. Pryd bynag y deuai yr alwad, yr oedd yntau yn barod i'w derbyn. Heb ddim ond ei lawffon yn unig, yn gwmni iddo, prysurai ar bob amser, ac ar bob tywydd, i'r man y gelwid ef iddo, am y tybiai fod yno gyfleusdra i wneud daioni. Heb yngan gair yn erbyn y dyb oedd yn achos i'r cyffro, gan y byddai hyny o bosibl yn eu rhagfarnu yn ei erbyn, gweinyddai yr ordinhad yn ei ddull effeithiol ei hun. Ond wedi gorphen a'r bedydd, cymerai ei hamdden a'i gyfleusdra ei hun i ddiwreiddio y dyb o'u meddyliau, ac i siarad â hwynt yn ddifrifol am fater eu heneidiau; ac mor sicr a'i fod wedi cael derbyniad i deulu ar amgylchiad o'r fath, byddai y tebygolrwydd yn fawr y deuai rhywun neu rywrai, yn dra buan, i ymofyn eu lle yn yr eglwys o'r teulu hwnw. Os cofiwn ei ddyfalwch, yn nghyd a'r ffaith ei fod wedi bedyddio dros chwe' chant o blant yn yr ardaloedd hyn, y mae yn ddiau ei fod wedi gwneud llawer o ddaioni yn y llwybr hwn. Try dyn call ac ymroddgar y pethau mwyaf annhebyg i fod yn ffafriol i'w amcanion ei hun. Yr un modd y gwnai gydag angladdau. Ai i godi y corff, fel y dywedir, i ba le bynag y cawsai gyfleusdra, a phregethai yn ddiffael ar yr amgylchiad. Trwy hyn cafodd gyfleusdra i gario yr efengyl i lawer o dai fuasent heb hyn yn gauedig yn ei erbyn. Ymgasglai tyrfaoedd lliosog yn nghyd ar yr amgylchiadau hyn, fel y mae yn arferol eto yn y Deheudir, ac yn sir Aberteifi yn enwedig; ond nid rhyw awydd mawr oedd ar lawer o honynt i gael clywed y bregeth. Ar y cyntaf, byddent yn wasgaredig yma ac acw, ar hyd y buarth a'r caeau cyfagos. Ond os na ddeuent hwy ato ef, gyrai Shadrach ei lais cyrhaeddgar atynt hwy. Yn fuan tynid eu sylw; cyffroid eu teimlad o ddyddordeb; ac o ychydig i ychydig byddai y gynulleidfa wasgaredig wedi ymwasgu yn gryno o'i ddeutu. Gan nad faint o ddaioni fyddai wedi wneud i ereill, yr oedd tebygolrwydd mawr ei fod wedi enill serchiadau y teulu a'r perthynasau agosaf; ac, yn gyffredin, gwelid hwynt yn fuan ar ol hyny yn cymeryd eu lle yn y capel fel gwrandawyr rheolaidd, o leiaf, os nad yn aelodau hefyd. Dydd Llun y Pasg, yr oedd wedi bod yn arferiad gan drigolion y cymydogaethau hyn i ymdyru yn lluoedd mawrion, o'r wlad a'r dref, i gadw Gwyl Mabsant, neu rywbeth tebyg; a mawr oedd y rhialtwch a'r llygredigaeth fyddai yno. Llanbadarn oedd y prif gyrchfan. Teimlodd Dr. Phillips, ac ereill, ar eu calonau i gynyg troi yr Wyl Fabsant i fod yn gyfarfod mawr, a llwyddasant yn eu hamcan. Tranoeth, yr oedd cyfarfod yn cael ei gynal yn Nhalybont, yn amser Shadrach, i holi ysgolion Sabbothol, a mawr y tyru fyddai yno. Ac y mae yn ddiau genym fod llawer o ddaioni yn cael ei wneud. Cynllun godidog oedd hwn; ac y mae yn bur ddrwg genym ei fod i raddau yn colli ei ffafr, yma ac acw, gyda'r oes hon. Mae yn bosibl fod rhyw gyfnewidiadau dibwys yn angenrheidiol er cyfaddasu y cynllun yn fwy at amgylchiadau y dyddiau presenol; ond ni ddylid er dim ei adael o'r neilldu, o leiaf hyd nes ceir ei berffeithiach. Mae holwyddori yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i addysgu; nid yn unig oblegyd yr adeiladaeth a geir ar y pryd, ond hefyd, oblegyd y llafur blaenorol i hyny. Drwy y llyfrau pynciau a'r holwyddori, yr oedd pobl yn dyfod yn dra hyddysg yn yr ysgrythyrau; a chyfoeth anmhrisiadwy i ddyn ieuanc yw fod llawer o Feibl yn ei feddwl. Ac yn lle pregethu i'r un bobl Sabboth ar ol Sabboth, fel y gwneir yn y dyddiau presenol, a hyny fe allai ddwywaith neu dair y dydd, yr ydym yn cwbl gredu y byddai yn llawer mwy adeiladol i gael un oedfa bob pythefnos, o leiaf, i holwyddori yn gwbl. Yr ydym yn meddwl fod y Parch. B. Evans, Drewen, yn arfer holwyddori bob Sabboth. Ac ni ddymunem well peth i ni ein hunain, na chael gweled ambell i ysgoegyn sydd yn barod i daeru fod y cynllun hwn yn rhy isel i'r oes bresenol, yn gorfod dal pen rheswm, fel y dywedir, ar ryw un o bynciau sylfaenol crefydd â rhai o'r hen bobl gafodd eu holwyddori felly ganddo pan yn blant. Os nad ydym yn camsynied yn fawr, y mae cyfnewidiadau cymdeithasol buan y dyddiau presenol, a'r cyffro dilynol i hyny, yn peri fod athrawiaethau crefydd yn cael llai o sylw pobl ieuainc yr oes hon na rhai yr oes o'r blaen; ac nid ydym yn gwybod am un peth i dynu eu sylw yn fwy at y gair ac at y dystiolaeth, na holwyddori doeth. Dywed Shadrach wrthym mai dechreu oedd yr Ysgol Sabbothol pan aeth efe i Dalybont gyntaf, ac nid oedd ond un proffeswr yn myned iddi; oblegyd hyny anrhydedder ei enw ar dudalenau cofiant ei weinidog—John Jones, o Lwyn Adda, oedd y gŵr. Ond cyn pen pedair blynedd ar ddeg, yr oedd saith o ysgolion yn perthyn i eglwys Talybont yn unig.

Nid rhyfedd gan y darllenydd yn ddiau fod llwyddiant yn dilyn llafur mor fawr. Llaw y diwyd sydd yn llwyddo mewn crefydd yn gystal ag yn mhethau y byd hwn. Nid am fod ei law ef ei hun yn ddigon i beri llwyddiant yn y naill yn fwy nag yn y llall; ond am fod bendith yr Arglwydd yn gyffredin yn dilyn diwydrwydd. Wedi llafurio yn galed, mewn amser ac allan o amser, fel y gwelsom, darfu i'r Arglwydd roddi seliau gweledig ar ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1815. Yn y flwyddyn hono bu diwygiad mawr yn Nhalybont, a chafodd Shadrach yr hyfrydwch o dderbyn llawer i'r eglwys. Am gyhyd a haner blwyddyn, yr oedd y pregethwr yn gorfod rhoddi i fyny cyn gorphen yr oedfa, am fod y gynulleidfa yn tori allan i ddiolch a molianu; ac yr oedd y bryniau moelion yn diaspedain gan sain cân a moliant y gynulleidfa wrth fyned adref y nos o'r addoliad. Mewn canlyniad i hyny aeth y capel cyntaf yn rhy fach, a bu raid ei helaethu drwy adeiladu darn mawr ato. Er cyfarfod â'r treuliau, bu raid i Shadrach fyned oddicartref i gasglu. Y mae genym ryw gymaint i'w ddweyd am dano yn y cymeriad o gasglwr; ond gan y cawn gyfleusdra. eto ni a ymataliwn yn awr.

Cyn ei symud o Dalybont, yr oedd gan Shadrach bedwar o blant; a chan fod ei dderbyniadau arianol mor lleied, buom yn rhyfeddu pa fodd yr oedd yn bosibl iddo gael cynaliaeth iddo ei hun a'i deulu. Dichon fod y darllenydd hefyd yn barod i ryfeddu at yr un peth. Er mai nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, eto y mae yn rhaid cael bara; a daw pob penteulu i wybod yn brofiadol, yn dra duan, fod llawer o bethau heblaw bara yn angenrheidiol. Er cynal teulu nid â penadur ond ychydig o ffordd. Ond pa fodd yr oedd Shadrach yn gallu dyfod i ben â hi? Cymered y darllenydd y ffeithiau canlynol yn atebiad. Fel y gwelsom eisoes, yr oedd trigolion Talybont a Llanbadarn yn garedig a chymwynasgar iddo; a buont yn. neillduol felly pan fu farw ei wraig. A lle byddo gwir garedigrwydd a chymwynasgarwch yn y galon, gwelir llawer o gyfleusderau i roddi cynorthwy. Ac yn gyffredin y mae preswylwyr parthau amaethyddol, lle nad oes rhyw lawer o drafnidiaeth arian, ac yn neillduol felly preswylwyr rhai parthau o Geredigion, yn llawer mwy parod i roddi rhywbeth mewn eiddo nag mewn arian. Ac ar lawer amgylchiad y mae rhoddion mewn eiddo felly yn werthfawr iawn, nid yn unig i'r derbynydd, ond hefyd i'r rhoddydd o honynt. Dywed y Beibl wrthym mai "gwell yw rhoddi na derbyn;" a chan nad sut y bydd haelioni yn dylanwadu ar y derbynydd, dywedir yn bendant wrthym y bydd yr enaid hael yn cael ei frashau. Y mae cyfansoddiad y meddwl dynol yn gyfryw, fel y mae yr aelodau hyny sydd yn arfer y cymwynasgarwch y soniwn am dano, yn dyfod i feddwl yn uwch am eu gweinidogion, ac yn dyfod i deimlo yn gynhesach atynt, oblegyd y rhoddion fyddont hwy eu hunain yn eu dwyn. Ao y mae yn fantais i enaid aelod po gynhesaf y byddo ei deimladau at yr hwn fyddo yn gweini iddo mewn pethau ysbrydol, a pho uchelaf y byddo ei` farn am dano. Gan nad pa mor effeithiol y byddo gweinidog yr efengyl yn cyflawni ei swydd o dori bara y bywyd, y mae barn gul am dano, a theimladau oerion ato, yn ddigon i beri i'r eneidiau a'u coleddant newynu. Ond gan nad faint o frashad fyddo rhoddion fel hyn yn beri i enaid y rhoddydd o honynt, a chan nad pa mor dderbyniol bynag fyddont gan y gweinidog, iddo ef y mae yn ddiau y byddai eu cyfwerth mewn arian yn fwy defnyddiol. Rhaid i'r meistr tir gael ei ardreth ganddo, ac i'r siopwr, y dilledydd, a'r crydd gael yr hyn sydd ddyledus iddynt hwythau, mewn arian sychion, ac nid mewn blawd ceirch. Da genym feddwl fod eglwysi sir Aberteifi yn dechreu dyfod i deimlo hyn.—Ond wele ni wedi cael ein harwain, gan gysylltiad meddylddrychau, yn dra phell oddiwrth gynaliaeth Shadrach a'i deulu. Heblaw hyny, yr oedd Shadrach yn gwneud ambell i lyfr er ei werthu, fel y cawn siarad yn helaethach mewn pennod arall. Ac os na fyddai ei felin ei hun mewn cywair priodol i falu meddylddrychau er gwneud llyfrau o honynt, tröai ei law i rwymo cynyrchion pobl ereill. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd wedi cael un o'r gwragedd "rhinweddol" ddesgrifir mor odidog gan Solomon:—"Hi a geisiai wlan a llin, gweithiai â'i dwylaw yn ewyllysgar." Mewn geiriau ereill, gwniai ychydig mor bell ag y byddai helyntion teuluaidd yn caniatau; a pheth bynag fyddai yr elw, rhoddai ef yn ewyllysgar i gynal pregethiad yr efengyl yn mharthau Talybont. A chan nad beth fyddo barn pobl ereill am danom, yn ngwyneb ein bod yn disgyn i fanylion teuluaidd fel hyn, y mae yn dda iawn genym ni gael y cyfleusdra hwn i dalu parch cyhoeddus i enw Mrs. Shadrach, ac i drosglwyddo ei henw i'r dyfodol mewn cysylltiad â'r hwn a gynorthwywyd ganddi mor effeithiol mewn bywyd. Nid ydym yn gwybod am nemawr o ddosbarth sydd yn cael cymaint o anmharch, ac hyd yn nod o annghyfiawnder, â gwragedd teilwng gweinidogion. Mae llawer o lygaid arnynt mewn bywyd; a llawer iawn o feirniadu, ac fe allai o gondemnio, ar eu dull o wisgo ac o fyw; ac wrth reswm disgwylir iddynt ddyoddef y cyfan. Llawer o bryder ac o dristwch sydd yn chwerwi eu cwpaneidiau, oblegyd y cysylltiad agos a ddaliant â'r weinidogaeth; ac ar lawer amgylchiad, rhoddant lafur eu dwylaw, fel yn yr amgylchiad hwn, neu gynyrch eu cynysgaeth priodasol, ac o bosibl y ddau gyda'u gilydd, yn dawel a dirwgnach i gynal gweinidogaeth mewn lleoedd neillduol er hyny, pan fyddont feirw, caiff eu henwau yn gyffredin eu claddu mewn annghofrwydd, mor sicr ag y cleddir eu cyrff yn y pridd. Mae yn bosibl y gwneir rhyw sylw o lafur ac ymdrechion eu gwŷr; ond caiff eu llafur, a'u hunanymwadiad, a'u hymdrechion hwy, i ba rai y mae y gwŷr hyny yn ddyledus am haner eu defnyddioldeb, fod yn ddisylw ac yn ddigoffa. Yn y dydd y datguddia Duw ddirgeloedd dynion, y mae yn ddiau genym y bydd y Meistr mawr yn anerch llawer gwraig a annghofiwyd yn fuan, hyd yn nod gan y rhai a dderbyniasant ddaioni ysbrydol drwy ei llafur a'i hunanymwadiad, fel un wedi gwneud yr hyn a allodd—fel un a "weithiodd yn dda." Ond bu farw Mrs. Shadrach cyn i'r plant gael ond haner eu magu; a gellir casglu fod y golled yn fawr ar ei hol; ond gofalodd Rhagluniaeth am forwyn ofalus ac ymdrechgar i Shadrach. Sengai hon yn ol traed ei meistres mor bell ag y gallai, ac enillai wrth ei hedau a'i nodwydd ambell i swllt neu chwe' cheiniog i gynorthwyo ei meistr. Arosodd gydag ef am gymaint a deunaw mlynedd, nes oedd y plant i gyd wedi eu magu; a chan fod cysylltiad mor bwysig rhyngddi â theulu ac amgylchiadau ei meistr, cysyllter ei henw âg ef eto—Mrs. Ann Herbert, Talybont, ydoedd; ac y mae y darllenydd yn ddyledus iddi am nid ychydig o ffeithiau y cofiant hwn.[3]


Ond y mae un ffynonell eto heb ei nodi—Rhagluniaeth. Onid oedd yn gweithio gwaith yr hwn a'i danfonodd? ac ai tebyg y gwnai Duw ei ddanfon i gyflawni ei waith heb drefnu fod cynaliaeth iddo? Na, bu llaw Rhagluniaeth yn amlwg yn ei ddyddiau boreuol, fel y gwelsom; a'r un modd pan ydoedd tua chymydogaeth Llanrwst; ac nid tebyg y gwnai Rhagluniaeth ei adael yn y diwedd. Clywsom ei fod unwaith yn myned oddicartref i bregethu i ryw gyfarfod mawr neu gilydd; ond er crafu, nid oedd ganddo yr un ddimai yn ei logell i gyfarfod â'i dreuliau ef a'i geflyl; a'r hyn oedd yn llawer pwysicach na hyny, nid oedd yr un ddimai i'w gadael ar ol i'r wraig a'r teulu ymgynal arni nes y dychwelai. Pa beth oedd i'w wneud, nis gwyddai; ond penderfynodd fyned i ddarllen a gweddio, yn ol ei arfer, eyn gadael y teulu. Aethpwyd at y gorchwyl, a diau iddo gyflwyno ei deulu i ofal y Duw a allai ofalu am danynt. Erbyn codi oddiar eu gliniau, dyma lythyr yn dyfod iddo, yn cynwys digon o arian i gyfarfod â'i angenion ef a'r teulu, ac nis gwyddai yn y byd pwy oedd wedi ei ddanfon. Nid yw ein hawdurdodau yn cyd-ddyweyd gyda golwg ar ei gynwysiad; dywed un mai punt oedd ynddo, tra y dywed arall fod ynddo bump o honynt.

Wedi iddo ddyfod i Dalybont, bu raid iddo adeiladu tŷ i breswylio ynddo; ac er nad oedd ef ond yr hen dŷ pridd y cyfeiriasom ato eisoes, eto yr oedd hi yn gryn orchwyl iddo godi hwnw heb arian. Gyrodd yn mlaen arno yn egniol; ond er cyniled oedd, gwaghawyd yr exchequer';--mewn geiriau ereill, ddarllenydd, gosodwyd ef yn y cyffion gan bwrs gwâg. Beth oedd i'w wneud? A raid gadael y tŷ pridd ar ei haner? Pe felly, gallai cawod neu ddwy o wlaw olchi cryn lawer o hono i ffwrdd. Ond y mae Rhagluniaeth yn amserol, ddarllenydd;—nid oes mynyd yn cael ei golli ar ei hawrlais hi. Yn annisgwyliadwy, dyma lythyr yn dyfod i Shadrach oddiwrth ei hen gyfaill Mr. Jones, o Gaer-gŵr y ceffyl a'r cyfrwy, cofier—yn cynwys rhodd o ddeg punt iddo. Trwy hyny, gorphenwyd yr adeilad, yn mha un y bu yn byw gan mwyaf tra yn Nhalybont. Yn hyn, caiff y darllenydd gipolwg ar ffynonellau eynaliaeth Shadrach a'i deulu. Ac fel ffrwyth oddiar ei brofiad ei hun, arferai gynghori pregethwyr ieuainc i beidio byth gwrthod galwad i eglwys wan am ei bod hi yn wan.

Mae yn ddiau mai cynghor tra phriodol ydyw hwn; ac y mae yn iechyd i galon dyn glywed rhywun fyddo wedi gwneud yn ol y cynghor ei hun yn ei roddi i ereill. Ymddengys i ni fod peidio gwneud yn ol y cynghor hwn yn sarhad ar ein Meistr, gan ei fod yn cynwys anymddiried ynddo fel un yn gofalu am ei weision. Os bydd lle iddo weithio mewn eglwys wan, ac nid i guddio ei dalentau megys mewn napcyn, aed yno gan ymddiried yn Nuw. Mae yr Arglwydd wedi bod yn ffyddlon yn mhob oes i'r rhai a'i gwasanaethant. Mae yn bosibl na chânt lawnder, ond cânt ddigon. Mae yn dra thebyg na lenwir dim o'u byrddau "â phob rhyw beth;" er hyny bydd eu bara a'u dwfr yn sicr. Onid yw ffeithiau yn dangos hyn?

Pwy welodd y cyfiawn—y gŵr sydd yn ffyddlawn i Dduw. "wedi ei adu?" Bu yn lled gyfyng ar Elias; ond daeth cigfrain âg ymwared iddo. A dywed Phillip Henry wrthym nad oedd ef yn gwybod am gynifer ag un engraifft o'r ddwy fil Annghydffurfwyr, yn ein gwlad ein hunain, wedi dyoddef gwir eisieu, heb son am farw o rewyn. Ac os bu amgylchiadau dyfodol neb erioed o weision Duw yn dywyll, bu amgylchiadau y rhai hyny felly. Trowyd hwynt o'u sefyllfaoedd yn hollol ddiddarpariaeth; er hyn, cawsant eu cynal. Ac yn ddiweddarach, yn ein dyddiau ein hunain, cafodd ffyddlondeb yr Arglwydd ei amlygu yn neillduol pan y trodd oddeutu pum' cant o weinidogion teilwng a da o'u cartrefi cysurus yn Scotland, yn hytrach na bod yn anffyddlon i'w Harglwydd, heb ddim ar y pryd ganddynt ond eu hymddiried ynddo Ef i gadw eu meddyliau rhag diffygio. Cyfododd goleuni i'r cyfiawnion hyny hefyd yn y tywyllwch. Mae yn ddiau na ddylai neb ond gweithwyr ddisgwyl gael eu cynal; ac y mae yn ddiau na ddylai neb ryfygu drwy ddisgwyl cael eu cynal, a hwythau yn esgeuluso gwneud y goreu o foddion ordeiniedig Duw at hynyma; ond o'r tu arall, tra fyddont yn gwneud y goreu o'r moddion ordeiniedig hyn, mae yn ddiau na ddylai neb o honynt fod yn ddiymddiried mewn Rhagluniaeth. Os ydyw rhyfyg yn dra phechadurus o un tu, y mae yn ddiau fod diffyg ffydd yn Nuw yn bechadurus o'r tu arall. Ond rhaid i ni ddychwelyd yn fwy uniongyrchol at Shadrach.

Dylai fod gan bregethwr lyfrgell yn gystal ag areithfa; ac er cyflawni ei ddyledswydd yn iawn yn yr olaf, rhaid iddo beidio bod yn esgeulus o'r flaenaf. Gyda golwg ar bynciau penodol yr areithfa, gallwn ddyweyd yn debyg i'r apostol Paul, fod yn rhaid i ddyn fyfyrio yn y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros, cyn y bydd ei gynydd fel pregethwr yn eglur i bawb. Rhaid taro craig y gwirionedd â gwialen myfyrdod, cyn y daw llawer o ddwfr o honi. Ac nid bob amser y mae llafur yr areithfa ac eiddo'r fyfyrgell yn cael eu cyfartalu yn briodol; ac y mae hyny, fel pobpeth arall, yn dwyn y ffrwythau sydd yn naturiol iddo. Onid yw llawer pregeth yn fasw o ran ei theimlad, ac yn henaidd o ran yr arogl sydd arni; tra mae pregeth arall yn gyforiog o ddrychfeddyliau hen, newydd, a phwysig, ond fod pob un o honynt yn cael ei lurgunio gan draddodiad annaturiol ac annyben? A chyfrif fod pethau ereill yn gyfartal, nid ydyw hyn ond yr effeithiau sydd yn canlyn yn naturiol o fod yr areithfa yn gwasgu gormod ar y lyfrgell yn y naill achos, neu fod y lyfrgell yn gwasgu gormod ar yr areithfa yn y llall. Os ydyw rhai yn rhy anaml yn eu llyfrgell, y mae yn ddiamheuol genym fod ereill ynddynt yn rhy aml ac yn rhy hir. Er meithrin y meddwl y maent yn lladd y corff; ac y mae corff iach a chryf o bwys annhraethol i bregethwr. Er gwneud pregethwr effeithiol, y mae yn ofynol nid yn unig fod gan ddyn yr hyn a ddywedo, ond hefyd fod ganddo fedr a gallu corfforol i'w ddywedyd. Ac yn awr, wedi bod yn edrych ar Shadrach yn ei ddiwydrwydd a'i ymdrechion diarbed i gyflawni rhanau cyhoeddus ei weinidogaeth, y mae yn dra thebyg fod y darllenydd yn barod i gasglu ei fod yn dra dyeithr i'w lyfrgell. A phe meddyliem, heblaw hyn, ei fod yn un o bregethwyr poblogaidd ei ddydd, ac fel y cyfryw yn cael ei alw yn aml i gyfarfodydd mawrion, yn agos a phell, byddai casgliad felly yn ymddangos yn fwy naturiol fyth. Mae yn dda genym allu dyweyd er hyny, mai nid dyeithr i'w lyfrgell a'i lyfrau ydoedd ef. Mae yr holl lyfrau a gyhoeddwyd ganddo, at y rhai y bwriadwn alw sylw y darllenydd eto, yn ddigon i brofi hyny. Ac er yr holl lafur cyhoeddus y darfu i ni alw sylw ato eisoes, eto, dywed ef ei hun wrthym ei fod wedi darllen llawer yr holl flynyddau y bu yn Nhalybont. Dywed wrthym ei fod" lawr weithiau drwy y nos, yn darllen, yn gweddio, ac yn ysgrifenu;" ac ychwanega ei "fod yn cael hyfrydwch mawr yn y gwaith." A chan ein bod yn credu fod cymeriad Shadrach fel myfyriwr wedi cael ei ddiystyru i raddau, a hyny yn hollol afresymol a diraid, ni a roddwn gerbron y darllenydd rês o'r llyfrau a ddarllenwyd fwyaf ganddo. Dywed wrthym mai y llyfrau cyntaf fuont yn gynorthwy iddo ef ddeall ychydig o'r Beibl oeddynt esboniadau Mathew Pool, Henry, Scot, Gill, Doddridge, Guise, Manton, a Durham, ac esboniad "rhagorol" Dr. Lewis ar y Testament Newydd. Bu Cyrff Duwinyddiaeth Brown, Lewis, Gill, Dwight, Watson, Leigh, Usher, a Witsius, yn ddefnyddiol iawn iddo. Darllenodd lawer hefyd o waith Flavel, Goodwin, Esgob Hall, Hervey, Blair, Witherspoon, Edwards o America, Bellamy, Baxter, Dr. Owen, Charnock, Dr. Watts, Erskine, Ambrose, a Strong. Darllenodd hefyd weithiau Howe, Stennett, Simeon, Boston, Preston, Jackson, Beveridge, Burroughs, Doolittle, Weemse, Keach, Taylor, Dr. Evans, Mason, Buck, a Wilson. Am yr holl rai hyn, dywed fod eu darllen wedi bod o lawer o leshad ac adeiladaeth iddo. Heblaw hyn, darllenodd weithiau Dr. Whitby, Tillotson, a Fuller, yn nghyd a gwaith Dr. Williams, Rotherham. Dywed am y rhai hyn, fod ynddynt oll lawer o bethau da; ond ychwanega yn awgrymiadol iawn, " Ond y mae gan bob dyn hawl i farnu drosto ei hun: diolch byth am hyny." Diolch byth am hyny, dywedwn ninau hefyd, ac yr ydym "drosom ein hunain" yn barnu fod yma ryw gymaint o annghymeradwyaeth yn yr "ond" arwyddocaol hon. Darllenodd lawer o lyfrau Cymraeg a Saesonaeg heblaw y rhai hyn; ac yn ei ddyddiau diweddaf darllenai lawer ar esboniad ei hen gydfilwr, Dr. Phillips, ar y Testament Newydd. Yn awr, y mae yn ddiau fod ei ymborth meddyliol wedi bod yn dra maethlon; ond diau hefyd y buasai yn llawer gwell pe bai yma fwy o amrywiaeth nag y sydd. Y mae llawer o bethau heblaw duwinyddiaeth yn angenrheidiol ar ddyn cyhoeddus. Ond hyd yn nod ag addef y coll hwn, er nad oes genym yr un' sicrwydd pa mor bell yr oedd yn euog o hono, eto ein barn ddiysgog yw, ei fod wedi darllen llawer iawn mwy na deg o bob dwsin o'r rhai sydd wedi bod yn siarad yn ddiystyrllyd am dano. Y mae yn syndod annghyffredin genym pa fodd y gallodd ddyfod i ben a darllen mor helaeth.

Nid oes nemawr o hynodrwydd yn perthyn i Dalybont fel pentref. Y peth mwyaf yno sydd yn tynu sylw dyeithriaid yn gyffredin, yw y ddau gapel hardd sydd tua chanol y lle, mor amlwg, ac mor agos at eu gilydd. Perthyna'r naill i'r Annibynwyr, a'r llall i'r Bedyddwyr. Y maent yn adeiladau golygus -llawer gwell na'r cyffredin; ac yn llawer o glod i'r sawl a'u codasant. Ond, rywfodd, blin yw eu bod mor agos at eu gilydd. Anffafriol iawn yw'r argraffiadau ar feddwl dyeithriaid wrth edrych arnynt. Y mae y ddwy fynwent yn ffinio â'u gilydd; ond fod mur isel yn eu rhanu; ac nid yw y ddau gapel ond ychydig droedfeddi o bellder. Gellid meddwl wrth edrych ar bethau, fod llawer o wahaniaeth barn neu wrthwynebrwydd teimlad rhwng y cyfeillion sydd yn arfer addoli yn y ddau gapel hyn â'u gilydd, gan eu bod yn ymgadw mor benderfynol ar eu penau eu hunain, er mor agos ydynt o ran lle. Ond pell iawn oddiwrth y gwir ydyw hyn. Gallai dyeithriaid gael eu twyllo yn fawr pe barnent berthynas y cyfeillion hyn â'u gilydd oddiwrth ymddangosiad y claddfeydd a'r capeli. Y mae y rhai hyn, rhaid addef, yn ymddangos yn "sectarol" iawn, chwedl ein cyfeillion Eglwysig, ac o'r braidd yn fygythiol. A chymharu pethau mawr i bethau bach—parvis componere magna, ys dywed Virgil—y mae y capeli hyn yn debyg i ddau hwrdd direidus, pan fyddont yn edrych yn gilwgus ar eu gilydd, a'r naill ar fin taro y llall yn y man lle dylai fod ymenydd, Y mae y gymhariaeth yn ymddangos yn gartrefol, ni a addefwn, ond ni a. hyderwn y cawn faddeuant y darllenydd pan ddywedwn wrtho nas gallwn, ar y pryd, gael un arall mwy urddasol a chymwys i osod allan yr argraff y mae y ddau gapel hyn yn adael ar ein meddwl. Er hyny, y mae yn dda genym feddwl fod y cyfeillion mewn teimladau pur frawdol tuagat eu gilydd. Gwnai y naill, mor bell ag y gwyddom, un peth rhesymol i wasanaethu y llall. Ac eto, fel y gellid dysgwyl, y mae rhai ysgarmesoedd wedi bod rhyngddynt. Nid bob amser y cydunid i adael bedydd, yn ei ddeiliaid a'i ddull, yn bwnc agored. Rhyw balance of power crefyddol ydyw hwn, sydd wedi bod yn achos ymrafaelion dirif yn mhob oes a gwlad. A chan fod y pleidiau yma mor agos i'w gilydd, o'r braidd y gellid disgwyl iddynt hwythau ymgadw. rhag rhoddi aml i bergwd y naill i'r llall; yn enwedig os cofiwn y gwirionedd diamheuol mai dynion yw dynion yn mhob man. Pan oedd Shadrach yn gweinidogaethu yn Nhalybont, yr oedd gwron pur aiddgar dros drochi yn fugail ar eglwys y Bedyddwyr yno. Ac yn aml iawn, deuai rhai o'r bobl at Shadrach i ddweyd wrtho, "O Mr. Shadrach bach, yr oedd Hwn a Hwn yn ei rhoddi adref i chwi'r taenellwyr ddydd Sul." Am dro dywedai yntau, "Gadewch iddo fe." Ond gan fod adroddiadau cyffelyb yn dyfod i'w glustiau dro ar ol tro, penderfynodd o'r diwedd ymbarotoi i'r frwydr: ymosododd ar amddiffynfeydd ei wrthwynebydd mor egniol ag y medrai; a gallem feddwl iddo yntau hefyd ddyfod o'r frwydr hon yn debyg i'r rhan fwyaf fu yn ei hymladd o'i flaen-wedi cael cyflawn fuddugoliaeth ar ei wrthwynebydd, yn ol ei farn ei hun. Fodd bynag, yr oedd Shadrach yn teimlo yn ddigon gwrol, fyth er ei ymosodiad cyntaf, i ddychwelyd i'r frwydr oddeutu unwaith yn y flwyddyn, tra fu ei gyfaill yn Nhalybont.

Ond er pob ymdrafodaeth, y mae golygiadau y ddwy blaid yn para yr un fath ag 'o'r blaen. Y mae y naill a'r llall o honynt yn teimlo yn berffaith sicr yn ei meddwl ei hun. Erbyn hyn, fodd bynag, y mae y naill blaid a'r llall, feddyliem, wedi gallu dysgu y wers anhawdd hono o "oddef eu gilydd mewn cariad" yn well na'r pryd hwnw. Gan fod y naill yn ewyllysio myned i'r afon, y mae iddi bob groesaw i fyned gan y llall, ond iddi ymgadw rhag myned yn rhy ddwfn i fod yn ddiogel. A chan fod y blaid arall yn tybied y gwna glan yr afon y tro yn llawn cystal, goddefir iddi hithau gymeryd ei llwybr ei hun. Yn fyr, y mae y ddwy blaid yn ymgytuno i'r naill a'r llall o honynt gymeryd gymaint o ddwfr ag a welo yn dda. Ac onid ydyw yn drueni meddwl na bai pleidiau crefyddol wedi dyfod i'r penderfyniad hwn yn gynt? i beth y mae yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn enwedig, yn byw ar ysgar o gwbl?

Gan 'fod eu trefniadau eglwysig yn gyffelyb, paham nas gallent fyw yn gysurus mewn undeb a chydfod? Ie, gofynwn eto, paham? Ai tebyg fod yr ychydig sydd yn eu gwahaniaethu yn ddigon hefyd i'w gwahanu? Yn ein byw nis gallwn weled ei fod yn ddigon. A'r unig reswm, debygem ni, eu bod ar ysgar, ydyw fod mwy o bwys yn cael ei osod ar y mintys a'r anis mewn crefydd nag ar bethau trymach y gyfraith.

Nid ydym yn cymeryd arnom i benderfynu pa le y mae y bai, ond gwyddom fod bai, ie, a phechod, yn rhywle. Mater dadl ar y goreu yw bedydd-mater yw ag y mae Eglwys Dduw er's canrifoedd lawer wedi bod yn rhanedig iawn yn ei barn am dano. Nid oes ond pobl o deimlad anffaeledig a ddywedant nad ydyw hwn, fel llawer ereill o bynciau crefydd, yn ddadleuadwy. Ond nid mater dadleuadwy yw goddef ein gilydd mewn cariad. Y mae hyn yn ddyledswydd amlwg ac addefedig. Ac nid ydym yn gweled y byddid yn gofyn gormod oddiwrth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn neillduol, iddynt ddysgu goddef eu gilydd yn ddigonol i beidio gadael i bwnc mor ddadleuadwy ac ailraddol a bedydd, yn ei ddeiliaid a'i ddull, eu cadw ar ysgar. Onid ydyw undeb teimlad a chydweithrediad yn fwy pwysig nag unoliaeth barn am beth ailraddol—pob peth nad yw cadwedigaeth enaid yn ymddibynu arno? Hyd yn nod pe teimlai rhywrai fod yn rhaid iddynt fod yn ffyddlon i'w golygiadau ar y pwnc hwn, paham, wedi'r cyfan, y byddai eisieu i'r undeb gael ei dori serch hyny? Onid ydyw aelodau o'r un enwad, yn awr, yn gwahaniaethu llawn cymaint oddiwrth eu gilydd ar bynciau ereill? Ac er eu bod hwy yn ffyddlon i'w golygiadau neillduol, y maent yn gallu cydfyw mewn tangnefedd yn ddigon hawdd. Y mae yn dda genym weled arwyddion fod y ddau enwad yn dynesu at eu gilydd yn Lloegr. Paham y rhaid iddynt fod yn wahanol yn Nghymru?

Ond y mae terfyn i bob peth yn y byd hwn; ac felly y bu terfyn ar hoedl a llafur Shadrach. Y mae haul ei fywyd eisoes wedi croesi ei eithafnod, ac y mae prydnawn ei fywyd wedi dechreu; ond fel yr oedd yr arwyddion o ddyfodiad y nos yn cynyddu, fel hyny, tebygem, y teimlai yntau fod rhaid iddo gyflawni gwaith yr Hwn a'i hanfonodd tra yr ydoedd hi yn ddydd. Y mae un ran o'i esgobaeth eang eto heb ei meddianu, ac nis gallai marw fod yn beth boddhaol ganddo tra fyddai hyny heb ei wneud. Awn rhagom, yn awr, i edrych arno yn sefydlu yr achos Annibynol Aberystwyth.

Y mae nodwedd trefol Aberystwyth yn rhy adnabyddus i'r darllenydd i alw am ddesgrifiad manwl o honi oddiar ein llaw. Digon yw dyweyd ei bod erbyn heddyw yn un o'r trefydd mwyaf dymunol o ran adeiladwaith a sefyllfa. Y mae yr ystrydoedd wedi eu cynllunio yn dda, ac yn cael eu cadw yn lân. Y mae ei hagosrwydd i'r mor, ac iachusrwydd ei hawyr, yn peri iddi fod yn gyrchfan dewisol gan ymwelwyr o bell ac o agos, yn neilduol felly y rhai ydynt o'r radd flaenaf. Ас wedi iddynt ddyfod, y mae godidogrwydd ac amrywiaeth y golygfeydd cylchynol iddi yn cadw eu meddyliau rhag diflasu. Y mae y trigolion yn foneddigaidd, heb fod yn goegfalch; ac yn gymdeithasol, heb fod yn ëofn a haerllug; ac o ran eu golygiadau gwleidyddol, y maent yn fwy rhyddfrydig na thrigolion nemawr i dref yn y dywysogaeth. Y mae yn ddiau genym fod eu rhyddfrydedd yn ddyledus am lawer o feithriniaeth a nodded i hen deulu urddasol Gogerddan. Y mae agosrwydd a dylanwad y teulu hwn wedi bod yn wrth weithydd i ddylanwad torïaidd teuluoedd cymydogaethol ereill. Gallem ddisgwyl, gan hyny, y byddai egwyddorion rhyddfrydig Annibyniaeth yn bur dderbyniol yn y dref hon, ac y cawsai eglwys Annibynol ei sefydlu ynddi yn foreu. Ac er ys blynyddoedd yn ol, yn neillduol felly cyn i reilffordd yr Amwythig gael ei hagor, yr oedd Aberystwyth a Machynlleth fel dau borth rhwng y gogledd a'r deheudir; ac yr oedd pob gweinidog a phregethwr, wrth fyned i efengylu o'r naill ran o'r dywysogaeth i'r llall, yn bur debyg o basio drwy y ddwy dref fel eu gilydd; ac y mae hyn yn ychwanegu ein syndod fod y dref hon wedi cael ei hesgeuluso cyhyd. Ond beth dal siarad; er fod rhai o weinidogion yr Annibynwyr wedi bod yn pregethu yma yn achlysurol rai blynyddau cyn i'r achos gael ei sefydlu, weithiau yn nghapel y Bedyddwyr, brydiau ereill yn nghapel y Trefnyddion, ac yn awr ac eilwaith mewn tai anedd, eto ni wnaed un ymdrech effeithiol i gael meddiant parhaol o'r maes. Yn y cyfamser, achubodd enwadau eraill y cyfleusdra, yn neillduol felly y Methodistiaid Calfinaidd. Tra yr oedd yr enwad parchus hwn yn ei fabandod, yr oedd Aberystwyth yn un o'r lleoedd penodol hyny y byddai ei aelodau cyntaf yn ymdyru iddynt bob mis, er cael cyfleusdra i wrando un o'r gweinidogion offeiriadol, ac i dderbyn elfenau y cymundeb o'i law: oblegyd hyn cafodd y Methodistiaid afael ar y trigolion yn lled foreu. Ac oni bai mai tref yw Aberystwyth, nid ydym yn sicr y byddai doethineb na chrefydd, gan hyny, yn cyfiawnhau Shadrach yn ceisio rhoddi ei droed i lawr ynddi pan y gwnaeth. Yn ol ein barn ni, y mae yn fwy o bechod nag o grefydd i un enwad crefyddol geisio ymwthio i mewn i gymydogaeth gyfyng fyddo wedi cael ei meddianu bron yn hollol gan enwad uniongred arall o'r blaen. Ond ar lawer o olygiadau, dylid gwneud eithriad o drefydd: nid yn unig ar gyfrif eu poblogrwydd, ond hefyd ar gyfrif y ffaith fod llawer iawn o aelodau eglwysig y wlad yn dyfod i aros ynddynt; ac os na fydd lleoedd priodol i'w derbyn, ymunant efallai am eu hoes âg enwadau ereill, neu fel y mae yn digwydd yn fynych, gadawant eu crefydd yn hollol. Yr ydym, gan hyny, yn edrych ar ymgais Shadrach yn ceisio sefydlu eglwys Annibynol yn Aberystwyth fel peth angenrheidiol yn gystal a chyfreithlon. Wedi rhyddhau ein ffordd fel hyn, ni a geisiwn arwain y darllenydd i edrych arno yn dwyn amcan ei galon oddiamgylch. Ein cynllun presenol fel enwad, yn Llundain, a threfydd mawrion ereill, ydyw cael capel yn gyntaf, a theimlir yn dra hyderus y gellir casglu cynulleidfa; ond anaml y gwnai y cynllun hwn y tro yn Nghymru. Yn gyffredin, rhaid cael cnewullyn go dda o eglwys a chynulleidfa yma, cyn beiddio codi capel; a dyna ydoedd cynllun Shadrach. Bu ef ei hun ac Edward Mason, un o'i ddiaconiaid yn Llanbadarn, yn chwilio am dymhor yn aflwyddianus am dŷ i bregethu ynddo; ond yn ffodus, o'r diwedd, darfu i dorïaeth diblygu un David Jenkins fod o wasanaeth iddo. Yr oedd hwn wedi bod yn aelod gyda'r Methodistiaid, ac wedi cymeryd yn ei galon i ffraeo â hwynt, am iddynt ryfygu tybied y gallai neb ond offeiriad esgoburddedig wasanaethu ar y cymundeb. Gan nad faint fyddai eu duwioldeb, eu dysgeidiaeth, a'u medrusrwydd, ïe, a'u llwyddiant gweinidogaethol;—gan nad pa un a fyddent wedi cael eu heneinio gan yr Ysbryd Glân ai peidio,—nid oeddynt yn gymhwys, yn ol barn y gwr hwn, at y gorchwyl pwysig o dori bara, os na fyddent wedi eu cysegru at hynyma gan law esgob. Yn gwbl sicr ganddo fod aberthu o'i feddianau ar allor y dorïaeth hon yn wasanaeth i Dduw, darfu i'r gŵr hwn benderfynu adeiladu capel bychan ar ei draul ei hun, at wasanaeth y bobl hyny oeddynt am i bob peth fod fel yr oeddynt. Wedi adeiladu y capel, fodd bynag, gwelodd er ei siomedigaeth nad oedd pobl eraill ddim yn gosod cymaint o werth ar ei ymdrechion ag a wnai ef ei hun. Ni ddeuai neb o'r Methodistiaid i bregethu ynddo! Ah! yr oedd y llanw wedi ymgodi yn llawer uwch na'r hen wely offeiriadol, ac nid oedd y capel bychan hwn yn ddigon i'w atal. Yn ngwyneb hyn, rhoddodd Jenkins y gair allan y gwnai ei osod i'r Annibynwyr, ac felly y bu. Aeth Shadrach ato, a chymerodd ef ganddo am naw punt y flwyddyn—"Ac yr oeddwn i yn atebol am dalu yr ardreth am dano fy hun," meddai Shadrach, "yr hyn a'm gwasgodd yn fawr wrth geisio magu fy mhlant bychain yn y blynyddoedd celyd hyny." Yr hen was ffyddlon, y mae yn bur hawdd genym dy gredu! ac am y gallent ragweled y wasgfa hon, byddai llawer pe byddent yn dy le, yn "tosturio wrthynt eu hunain," fel na byddai hyn iddynt. Pregethodd yn y capel hwn gyntaf am ddau o'r gloch prydnawn Sabboth, Ionawr 21, 1816, oddiwrth Esaiah xxxiii. 20, "Gwel Sion, dinas ein cyfarfod," &c., ac ar ddiwedd y cyfarfod cymerodd gyfleusdra i alw y tŷ yn Gapel Sion, yr hyn yw enw addoldy yr Annibynwyr hyd heddyw. Fe allai mai buddiol fyddai nodi yma fod Mr. Morgan, Llanfyllin, yn dyweyd fod pregethu sefydlog wedi bod yn flaenorol i hyn am ryw dymhor, mewn rhyw hen ystordy perthynol i'r gwaith llongau, oeddid wedi gymeryd at y gorchwyl.

Rhwng y darllenydd a ninau, y mae lle cryf iawn i dybied mai nid crefydd i gyd oedd yn dylanwadu ar feddwl torïaidd hen frawd y capel. Wedi i Shadrach fod yn pregethu am ddwy flynedd yn ei gapel ardrethol ei hun, gorfu arno ymadael o hono, oblegyd fod ei adeiladydd yn gofyn gymaint ddwy waith o ardreth am dano; a chafodd y "Capel Sion" hwn ei droi gan ei berchenog i fod yn arsenal i gadw arfau milwyr y dref ynddo. Y fath ryfyg, onide, ddarllenydd! Ond, o ran hyny, onid oedd yr ardreth gymaint arall oddiwrth ganlynwyr Mars, duw rhyfel, ag oddiwrth ganlynwyr Tywysog Heddwch? Ac heblaw hyny, onid ysbryd rhyfelgar a'i dechreuodd? a pha beth allai fod yn fwy naturiol nag iddo gael ei droi at ddybenion rhyfelgar yn y diwedd? Mae yn bur debyg fod Shadrach mewn teimladau lled barod yn ngwyneb hyn i bregethu oddiar y geiriau "Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch." Ond, er iddo gael ei siomi y mae yn ddiau, eto ni ddigalonwyd ef. Am chwe' phunt a chwe' swllt y flwyddyn o ardreth, cymerodd hen ysgubor helaeth yn Heol-y-Frenines, i bregethu ynddi; ac wrth reswm, efe ei hun oedd yn gyfrifol am bob gofynion am dani. Dywed wrthym fod cryn draul wedi myned arno i wella llawr y tŷ hwn, ac i roddi meinciau ac areithfa ynddo. Agorwyd y tỳ hwn i bregethu ynddo Ebrill 12fed, 1818, a thestyn ei bregeth gyntaf ynddo oedd 2 Cron. iii. 1-testyn priodol iawn, nid yn unig am fod yma gyfeiriad at lawr dyrnu Ornan, ond hefyd am fod yma gyfeiriad at adeiladu tŷ yr Arglwydd. Nid oedd ond ychydig o arwyddion llwyddiant ar ei lafur yn y dref, ac oblegyd hyny, darfu i hen gyfeillion Llanbadarn flino ar ben dwy flynedd i ddyfod yno ragor. Ond, chwareu teg iddynt hefyd, yr oeddynt yn foddlon i Shadrach bregethu yn y dref pryd bynag y cawsai gyfleusdra, "ond idod gadw yn gyson yn Llanbadarn at eu hamser penodol hwy." Er dyfod i fyny â phob telerau, yr oedd Shadrach yn arferol o bregethu bedair gwaith ar y Sabboth, unwaith yn y mis, y blynyddau hyn. Yr oedd

y yn dyfod o Dalybont i Lanbadarn erbyn naw,-elai yn ei flaen i'r dref erbyn un-ar-ddeg,-dychwelai i Dalybont erbyn tri, ac elai yn ei flaen i'r Gareg, neu i Goedgruffydd, erbyn yr hwyr. Yr oedd Edward Mason yn parhau i gynal ei freichiau yn egniol gydag achos y dref; ond cyn diwedd y flwyddyn hon, bu y gwas ffyddlon hwn farw, ac erbyn hyn nid oedd neb yn aros i agor y " tŷ cwrdd" yn Aberystwyth ond dyn ieuanc o grydd, o'r enw Richard Hughes; ac yn fuan iawn, aeth hwnw a'i deulu i Liverpool. "Erbyn hyn," meddai Shadrach," nid oedd genyf un gwrryw proffesedig yn byw yn y dref; ac yr oedd pob peth yn ymddangos yn hynod ddigalon i mi, gyda golwg ar godi achos yn Aherystwyth." Ond os oedd pethau yn ddigalon, ni ddigalonwyd ef;-os oedd y gwynt yn wrthwynebus, "ni lwyr fwriwyd ef i lawr." Ha! nid yn awr y gwelodd Shadrach amgylchiadau digalon gyntaf.

Erbyn y flwyddyn 1819, yr oedd pethau yn dechreu gwisgo agwedd mwy llewyrchus; ac ar y 30ain o Fai yn y flwyddyn hon, cafodd Shadrach yr hyfrydwch o gorffori eglwys yma, a chafodd rhyw wraig, ac un o'r enw Abraham Evans, eu derbyn ar y pryd. Yr oedd rhyw nifer o aelodau Llanbadarn wedi rhoddi eu presenoldeb ar yr achlysur. Yr ydym yn deall mai milwr oedd yr Abraham Evans hwn yn ei ddyddiau boreuol; ac oblegyd hyny, ni ddylid disgwyl cymaint oddiwrtho, a phe bai wedi cael gwell manteision. Ond dywed Shadrach wrthym iddo fod yn ffyddlon iawn; ac heb fod yn hir daeth ereill i ymuno âg ef. Ac o ddiffyg un cymhwysach, fe allai, y gŵr hwn oedd yn arfer cyhoeddi i Shadrach; a chan nad pa enwogrwydd a enillodd iddo ei hun fel milwr cyn hyn, y mae yn ddiau genym, iddo enill llawer iawn rhagor o hono ar un stroke ryw dro wrth gyhoeddi.—Os ydym yn cofio yn gywir, fel hyn y dywedodd, "Mae y gwr dyeithr i fod yn y capel hwn heno am chwech, a Mr. Shadrach yn Nghlarach—a'r gloch yn llefaru." Go lew'r gloch! ond dylai lefaru o ran hyny, gan fod ganddi 'dafod'.?

Yn awr, dyma'r eglwys wedi cael ei ffurfio;-y peth nesaf ydyw cael capel. Yn y byd hwn, rhaid cael y plisgyn yn gystal a'r cnewullyn; ond gorchwyl annghyffredin ydyw adeiladu capel, a dim llun arno, lle byddo yr eglwys yn wan. Nid llawer o goed a cheryg ddaw at eu gilydd, hyd yn nod at gapel, ond trwy nerth arian. Ond pa fodd y mae cael arian yw y pwnc. Peth anhawdd yw hyn ar y goreu. Hyd yn nod pan fyddo arian i'w cael, y mae yn ddigon anhawdd eu cael allan o'r llochesau yn mha rai yr ymguddiant. Fel y mae arian dyn yn ei bwrs, fel hyny, lawer gwaith, y mae ei bwrs yn ei galon; mewn canlyniad, rhaid agor ei galon cyn y gellr cael gafael ar y trysor a guddiwyd ynddi: ac y mae pob un sydd yn gwybod tipyn am y peth yn brofiadol, yn gwybod mai un o'r pethau mwyaf anhawdd i'w agor o bob peth a berthyn i ddyn yw ei galon. Ond gorchwyl mwy anhawdd na hyny ydyw cael arian lle na byddont i'w cael; a dyna, ddarllenydd, ydoedd sefyllfa Shadrach yn bresenol.—Yr oedd arno eisieu arian, ond nid oedd arian i'w cael; ac yn ngwyneb hyn, nid ydym yn gweled fod ond un llwybr yn agored iddo, sef myned oddiamgylch i'w ceisio pa le bynag y tybiai y gallai gael gafael arnynt. Yr oedd ef ei hun yn gyfrifol am yr holl dreuliau; ac fel y byddai ganddo rywbeth i gyfarfod â hwynt, elai oddiamgylch i gasglu tra fyddai yr adeiladwyr yn gweithio, a gobeithiai, drwy gynildeb a dyfalwch, i allu casglu digon i dalu huriau y gweithwyr. Gan nad oedd neb yn gyfrifol am un ddimai ond efe, yr oedd o bwys ymgadw rhag dyledion; a chyda'r amcan hwn, teithiodd lawer drwy Gymru a Lloegr. Diau genym mai nid ychydig o groesau a gafodd yn y gwaith o gasglu. Mae yn ddiamheu fod trymder croesau yn ymddibynu cymaint ar ystâd neu deimlad yr enaid fyddo yn eu dwyn, ag ar yr hyn fyddo yn groesau iddo. Ond, a barnu teimladau pobl ereill oddiwrth ein heiddo ein hunain, gallem feddwl mai nid croesau ysgafn mo honynt, oedd y rhai cysylltiedig â hir deithiau casglyddol y tadau. Mae llawer o siarad genym am garchariadau a chyffion; ond erbyn y gwneir pob peth yn amlwg gan yr Hwn sydd yn fwybod am flinder ac ymynedd y saint, mae yn bosibl iawn yr ymddengys llawer o'r croesau casglyddol yn llawer mwy anhawdd eu dwyn na'r rhai hyny. Nid poenydiau corfforol yw y rhai anhawddaf eu dyoddef. Ni ryfeddem na fyddai yn llawer gwell gan lawer hen was ffyddlon fu yn casglu at ein capeli, gael ffonodiad neu ffrewylliad go dda, yn hytrach na'r sarhad a'r dirmyg a daflwyd lawer gwaith i'w wyneb. Erbyn heddyw, y mae yn dda genym feddwl fod amgylchiadau crefydd yn Nghymru yn ei gwneud yn ddiangenrhaid i neb fyned lawer oddiamgylch i gasglu. Y mae eglwysi yn ei chael yn llawer hawddach peth i dalu am eu capeli eu hunain nag y meddyliasant. A chan fod yr angenrheidrwydd am y teithiau casglyddol yn darfod, darfydded yr arferiad hefyd, o leiaf mor bell ag sydd bosibl. Heblaw achlysuru croesau i feddyliau y casglwyr, y mae yr arferiad hon wedi bod yn dra gorthrymus ar ein heglwysi. Y mae wedi bod yn achlysur i ambell eglwys i aros yn ddiog a diwaith, tra yr oedd yr eglwysi bywiog a llafurus, nid yn unig yn casglu i gyfarfod â threuliau uniongyrchol ein capeli, ond hefyd y treuliau cysylltiedig â chasglu atynt heblaw.

Dywedwyd wrthym fod Shadrach wedi casglu yr holl arian angenrheidiol at adeiladu y capel, mewn symiau yn amrywio o ugain punt i ffyrling. Bu allan am lawer o'r flwyddyn 1822 yn casglu y symiau hyn. Fel y rhan fwyaf o gasglwyr y dyddiau hyny, darfu i Shadrach, wrth reswm, gyfeirio ei gamrau tua Llundain. Cychwynodd tuag yno Ion. 26ain, 1823, "A bum yno dros fis o amser ar dori fy nghalon," meddai, "yn methu casglu fawr o arian." Nid rhyfedd chwaith ei fod "ar dori ei galon," oblegyd ychwanega i ddyweyd wrthym, " fod y gair allan yn y brif ddinas fod yno ddeugain o weinidogion yr un amser ag ef." Ac er fod Llundain yn anferthol fawr, hyd yn nod y pryd hwnw, eto, diau genym fod yr holl weinidogion hyn yn debyg i wartheg Pharaoh, yn bwyta eu gilydd mewn ffordd. Ond, er nad yw Shadrach yn son dim am hyny ei hunan, eto, clywsom gan un a ddylai fod yn gwybod, gan ei bod yn bur gyfarwydd â'i amgylchiadau a'i helyntion, fod Rhagluniaeth wedi gwenu arno y tro hwn eto. Rai blynyddoedd cyn hyn, yr oedd boneddiges ieuanc wedi dyfod i Aberystwyth ar ymweliad. Fel yr oedd hon ryw ddiwrnod yn rhodio ar un o heolydd y dref, canfyddai Shadrach yr ochr arall iddi; ac yn hollol ddiseremoni, aeth ato, a gofynodd iddo, " Onid efe oedd gweinidog yr Annibynwyr yn y dref? " Dywedodd yntau," Ie, Felly, o ychydig i ychydig, ffurfiwyd cydnabyddiaeth rhyngddynt; a galwodd y foneddiges ieuanc fwy nag unwaith yn ei dŷ. Yr oedd y foneddiges ieuanc hon yn nîth i un Mrs. Morley, o Hackney, Llundain, mam (fel y tybia yr ysgrifenydd) i Samuel Morley, Ysw. Yn mhen amser, dychwelodd i Lundain, a dywedodd wrth ei modryb am Shadrach yr hyn oedd agosaf at ei meddwl. Wrth ei chlywed yn siarad, mae yn ddiau genym i hono deimlo cryn ddyddordeb ynddo; oblegyd yn dra buan, ysgrifenodd lythyr cyfeillgar ato. A'r hyn sydd yn dra hynod, ffurfiwyd math o gyfeillgarwch rhyngddynt, a pharhausant i ymohebu am amser hir, er nad oeddynt wedi gweled eu gilydd erioed. Pan ddaeth trafferthion casglyddol Shadrach arno, bu yn hwy nag arferol cyn ysgrifenu at Mrs. Morley; a phan oedd ef yn Llundain, anfonwyd llythyr ganddi ato i Aberystwyth, yn ei ddwrdio yn arw am fod mor esgeulus o honi. Anfonwyd ef ar ei ol i Lundain. Wedi gweled y llythyr, penderfynodd fyned i alw ar Mrs. Morley, yr hyn hefyd a wnaeth. Mawr oedd ei llawenydd i'w weled; a gallwn gasglu mai mawr oedd ei boddhad ynddo, oblegyd ysgrifenodd iddo res o enwau ei chyfeillion, ei chyfeillesau, a'i chydnabyddion, fel y gallai alw gyda hwynt. Gorchymynodd hefyd i'r gwas roddi y carriage yn barod erbyn amser penodol; a dywedwyd wrthym fod y gwas, a'r cerbyd, a'r list, wedi bod at wasanaeth Shadrach fel casglwr. Yn ngwyneb hyn, nid rhyfedd genym iddo fod yn ddigon llwyddianus, ar waethaf ei holl gydymgeiswyr, i gasglu y swm anrhydeddus o gan' punt yn Llundain.

Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, aeth ar ei daith gasglyddol i Yorkshire: " Ond methais gasglu fawr yno," yw yr unig gofnodiad a wneir ganddo. Clywsom, fodd bynag, gan awdurdod dda, hanesyn go hynod am dano ar y daith hon. Wrth deithio o hono yn y blaen, daeth ryw le neu gilydd at dŷ pur foneddigaidd yr olwg arno. Wedi y curo a'r cyfarch arferol, ceisiwyd ganddo ddyfod i mewn, a gosodwyd ef i eistedd yn ystafell y gwasanaethwyr. Yr oedd merch y tŷ yn digwydd bod yno ar y pryd; ac wedi iddi ddeall ei fod yn dyfod o Gymru, gofynodd iddo, a allai efe ddim canu tôn Gymreig iddi? Dywedodd yntau y gallai, a dechreuodd osod ei hun mewn trefn i wneud, er nad oedd ond ychydig o ganwr. Yr oedd ganddo gyfiawnder o lais, a gwnaeth ddefnydd da o hono. Canodd dôn ar yr hen bennill godidog, "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," &c., gydag effaith annghyffredin. Cyffrowyd teimladau y ferch i'r fath raddau, fel y galwodd ar ei thad a'i mam i ddyfod rhag blaen i'r gegin, "am fod angel o'r nefoedd wedi dyfod yno." Ar gais y ferch, brysiasant yno, ac o ychydig i ychydig dechreuasant hoffi Shadrach; ac yn dra buan, gofynasant iddo a ddeuai ef ddim i'r parlour. Aeth yno ar eu cais; a pharhaodd yr ymddyddan rhyngddynt dro hir. Gofynent iddo am ei wraig-pa un a oedd hi byw ai peidio, ac am rifedi ac enwau ei blant. Gofynent iddo, hefyd, am achos crefydd yn Aberystwyth. O'r diwedd, wele wr y tŷ yn tynu nifer o bunoedd allan o'i boced, ac yn rhoddi iddo bum punt at y capel, punt iddo ei hun, a phunt yr un i'w bedwar plentyn-Eliacim a David, Johanna ac Efa. Nid sŵn heb sylwedd yn dilyn ydoedd y dôn yna, beth bynag, ddarllenydd.

Yr oedd yn dra chydwybodol wrth gasglu. Nid'yn unig yr oedd yn galw pa le bynag y gallai, ond yr oedd yn arfer cynildeb, ïe, hyd at wasgu ei hunan, yn ei dreuliau personol. Fel enghraifft o lawer o bethau ereill, dywedir mai ei giniaw, hyd yn nod ar y Sabboth, fyddai gwerth ceiniog o gacenau, neu gingerbread; ac i gadw ei dreuliau yn y gwesty mor lleied ag a fyddai yn bosibl, arosai allan wedi amser oedfa y bore i'w bwyta yn y mynwentydd, yn mysg y beddau. Nid ystyriai fod aberth o unrhyw beth yn ormod, ïe, hyd yn nod o angenrheidiau cyffredin bywyd, os gallai drwy hyny gael capel yn Aberystwyth. Pan ofynwyd iddo mewn un man, a gymerai efe ychydig ymborth, dywedodd ei fod yn teimlo yn ddiolchgar am y cynyg, ond nas gallai gymeryd dim iddo ei hun, os na chai rywbeth at y capel yn gyntaf. Da was ffyddlon! Y meistr yn gyntaf—y gwas wedi'n. Yn ngwyneb llafur a hunanymwadiad mor fawr, mae yn ddiau genym mai nid ychydig ydoedd gorfoledd Shadrach pan oedd, rhyw ddeunaw mlynedd ar ol hyn, yn gallu ysgrifenu y geiriau hyn—"Ni bu neb o aelodau yr eglwys yn Aberystwyth yn atebol am un swllt o'r holl draul a aeth at adeiladu eu capel hardd, ac ni thalasant un geiniog o lôg arian." Yn ddiau "y tadau a lafuriasant," a dylai eu llafur a'u hunanymwadiad gael ei gofio genym gyda pharch. Parhaodd yr undeb rhwng Shadrach a'r eglwys hon hyd y flwyddyn 1835, pryd y rhoddodd ei gofal gweinidogaethol i fyny; eto pregethai yma yn achlysurol hyd nes yr aeth yn rhy analluog. Cafodd y pleser cyn ei fynediad ymaith o weled olynydd iddo yn ymsefydlu mewn tangnefedd yn y lle, a phrofion boddhaol y cai ei lafur ef ei hun ei berffeithio yn ei law. Wedi cael hamdden i ymddadrys yn raddol oddiwrth y weinidogaeth a'r byd, bu y gwas ffyddlon hwn farw Ion. 12fed, 1844, yn 69 mlwydd oed. Heddwch ac anrhydedd i'w lwch !

Wele ni, bellach, wedi ceisio gosod a threfnu prif ffeithiau a helyntion bywyd gweinidogaethol Azariah Shadrach o flaen y darllenydd. Mae yn ddiau fod yma lawer iawn o ddiffygion; ond ni a hyılerwn fod yr argraff gyffredinol yn gywir. Ni a wyddom fod llawer iawn o'r mân geryg sydd yn angenrheidiol er perffeithio yr adeilad, ac i gau pob twll o flaen beirniadaeth, yn eisieu; ond ni a hyderwn fod y prif feini sydd yn angenrheidiol er dangos ffurf a llun yr adeilad, wedi eu gosod mewn trefn. Mewn pennod ddyfodol, ni a geisiwn arwain y darllenydd, ar bwys y ffeithiau a osodasom ac a osodwn ger ei fron, i sylwi ar brif deithi ei gymeriad, fel dyn, Cristion, gweinidog, ac awdwr. Cyn ei adael y tro hwn, mae yn briodol i ni ddyweyd, fod marwolaeth Shadrach wedi bod yn deilwng o'i fywyd. Bu fyw mewn llafur, a bu farw mewn tangnefedd. Ar fin yr afon, yr oedd yn gallu dyweyd dau beth tra phwysig am dano ei fun, sef, na ddarfu iddo erioed dori cyhoeddiad; a bod ei enaid yn ddyogel er ys pum mlynedd a deugain. "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn; a bydded fy niwedd i fel yr eiddo yntau." Claddwyd ef yn mynwent Eglwys St. Michael, Aberystwyth, yn ymyl y rodfa; ac os digwydd i'r darllenydd byth fyned i Aberystwyth, mewn awydd i gael gweled y man y gorwedda, aed yn ei flaen yn unionsyth trwy'r fynwent i gyfeiriad yr hen gastell, ac oddeutu haner y ffordd, ar y llaw ddeheu, caiff weled ei fedd-adail olygus, a'r pennill canlynol yn argraffedig arni:

"Bu ei dafod a'i ysgrifell
Yn cyd-daenu efengyl Crist;
Perlau'r groes, ac aur Caersalem,
Gynygiai i dylodion trist;
Drych, a Cherbyd, a Goleuni,
Myfyrdodau lu ar g'oedd:
Un-ar-ugain rhif ei lyfrau,—
Bunyan Cymru'n ddiau oedd."


PENNOD III.

AMCANASOM hyd yn hyn osod prif ffeithiau a helyntion bywyd Shadrach, fel dyn a gweinidog, o flaen y darllenydd. Ein hamcan penaf yn awr yw edrych ar ei lafur awdurol: a. gallwn sicrhau y darllenydd yn mlaen llaw, os bu ei lafur fel gweinidog yn fawr, fod ei lafur fel awdwr yn llawn cymaint. Yn y ddau gymeriad, bu mewn llafur, o leiaf, yn helaethach na nemawr o neb yn ei oes. Gan nad beth am ei dalentau ef a'u talentau hwythau, y mae yn ddiau y gallai Shadrach gyfeirio, ar ddiwedd ei oes, at y rhan fwyaf o'i gydlafurwyr, a dyweyd am dano ei hun fel Paul, "Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll."

Heb feddwl am gysylltu ei lafur gweinidogaethol a'i lafur awdurol â'u gilydd, y mae yn ddiau genym fod y naill neu y llall yn fwy na digon i ddynion yn gyffredin: ac o dan y cyfan o'i lafur, nid llawer a allent ymgynal. Ni a obeithiwn y ceidw y darllenydd ei lafur fel gweinidog mewn cof, tra fyddom yn taflu cipolwg ar ei lafur fel awdwr. Y mae hyn yn angenrheidiol er gwneud cyfiawnder â Shadrach. A chyn myned yn mhellach, goddefer genym ddyweyd ein bod, drwy gryn lawer o lafur, ac ychydig o draul, wedi llwyddo i gael y rhan fwyaf o'i lyfrau at eu gilydd: ond er ysgrifenu o honom ddegau o lythyrau, at bob math o bersonau, cyhoedd ac annghyhoedd, yn Nghymru a Lloegr, eto, y mae yn ofidus genym feddwl fod rhai o honynt ar ol. Ac nis gallwn roddi adolygiad manwl o'r llyfrau sydd genym; ond ni a roddwn fras-gyfrif am danynt, fel y gallom drosglwyddo, hyd y gallom, o leiaf lechres o'u henwau i'r oes a ddel. Gan fod llawer o hynodrwydd yn perthyn i enwau llyfrau Shadrach, ni a'u gosodwn yn llawn o flaen y darllenydd. Y cyntaf ydyw,

"Allwedd Myfyrdod; neu arweinydd i'r meddwl segur: yn cynwys dwy ar bymtheg o bennodau, yn nghyd a hymnau yn canlyn pob un o honynt. Dat. ii. 5; 1 Cor. x. 12." Argraffwyd hwn gyntaf yn Machynlleth, oddeutu y flwyddyn 1801. Dywedir ganddo ef ei hun am y llyfr, "Er nad oedd fawr o beth, eto fe argraffwyd, ac fe werthwyd miloedd o hono; yr hyn a fu yn anogaeth i mi i gyhoeddi rhagor o'm myfyrdodau o dro i dro." Nid ydym yn gwybod pa sawl argraffiad a fu o hono, ond dywedai Shadrach ei hun, yn y flwyddyn 1810, ei fod wedi cael ei argraffu bedair gwaith mewn ysbaid wyth mlynedd; a diau fod argraffiadau diweddarach wedi eu cyhoeddi o hono. Cyhoeddwyd argraffiad hylaw o hono yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1849, gan M. Jones, Heol-y-prior. Yn y llyfr hwn y mae yr awdwr yn edrych ar wahanol wrthddrychau, a gweithrediadau natur, yn nghyd ag amryw weithredoedd dynion, ac yn eu defnyddio fel cynifer o hoelion wedi eu gosod mewn lle sicr, er mantais iddo ef i gael crogi swp o feddylddrychau ysbrydol wrthynt. Mewn gair, amcan y llyfr hwn yw gwneud "allweddau," neu agoriadau, o wahanol bethau, megys glan y môr, glan yr afon, y mynydd, yr ardd, y gwlaw, a'r gwlith, fel y gallai myfyrdod drwy eu cymhorth fyned at bethau ysbrydol a thragywyddol. Nid oes ynddo yr un ymgais at ysbrydoli pethau naturiol; ond yr ymgais yw ymgodi drwy gymhorth association of ideas, neu gysylltiad meddylddrychau, oddiwrth y gweledig a'r teimladwy, at yr anweledig a'r ysbrydol. Yn gyffredin y mae y byd materol, a gweledig, yn cuddio yr ysbrydol oddiwrth bobl; ond i feddwl Shadrach yr oedd pob peth perthynol i'r byd hwn fel mynegfys i gyfeirio ei sylw at bethau gwell ac uwch. Terfynir pob pennod â'r dymuniadau gweddigar a gyffröid yn ei feddwl gan y myfyrdod blaenorol; yn nghyd ag ychydig bennillion tarawiadol. Rhaid i ni addef ein bod yn caru y cynllun yn fawr. Y nesaf yw,

"Gweledigaeth y March Coch." Methasom yn dêg a chael golwg ar y llyfr hwn, ac felly nid oes genym ddim i fynegu am dano. Gallem feddwl iddo gael ei gyhoeddi oddeutu 1802-3. Y nesaf yw,

"Drws i'r meddwl segur i fyned i mewn i weithio i Winllan y Per Lysiau. Machynlleth: argraffwyd gan E. Pritchard, 1804." Llyfr yw hwn yn traethu yn syml am briodoleddau Duw. Gallem feddwl fod yr awdwr yn ystyried ei bod yn anmhosibl myned i Winllan y Per Lysiau i weithio, heb gael adnabyddiaeth y gywir o Dduw yn gyntaf. Y nesaf yw,

"A Looking Glass; neu Ddrych Cywir, i ganfod y gwrthgiliwr yn ei ymadawiad â Duw, ac yn ei holl lochesau dirgel, ac yn ei grwydriadau yn yr anialwch ac yn Babilon; ac hefyd yn ei ddychweliad adref at Dduw drachefn. Dat. ii. 5; 1 Cor. x. 12. Caerfyrddin: argraffwyd gan John Evans, yn Heol-y-prior." Cyhoeddwyd y llyfrau blaenorol, oddieithr y cyntaf, ganddo tra yn aros yn Llanrwst; ond yn nglyn â'r llyfr hwn, y mae yn galw ei hun-Azariah Shadrach, gweinidog yr efengyl yn Llanbadarnfawr. Gan fod y rhagymadrodd yn fyr ac yn nodweddiadol, ni a'i rhoddwn yn llawn:

"Gan nad wyf yn bwriadu galw neb ar y ddaear yn dad i mi, am hyny yr ydwyf yn cyflwyno hyn o LYFR bychan i dy ofal di, O ardderchocaf Dad TRAGYWYDDOLDEB, ac ARGLWYDD ESGOB CAERSALEM NEWYDD, gan ddymuno yn ostyngedig arnat ti i olygu drosto, a maddeu'r camsyniadau a'r ffaeleddau sydd ynddo, a gosod dy sêl wrtho, fel y byddo ef o fawr les a bendith i Dywysoges y Taleithiau, sef i Sion wan, sydd yn ceisio dyfod i fyny o'r anialwch a'i phwys ar ei Hanwylyd.
Hyn yw gweddi a dymuniad dy annheilwng was,
Penpontbren, Ebrill 21, 1807.
A. S.

Pwy byna' breintio'r Drych Gwrthgiliwr, Heb gael cenad gan ei awdwr, Fe gaiff boen a chosb yn sicir, Am iddo gynyg dwyn ei lafur.

Diau fod y darllenydd yn cydweled â ni fod y rhagymadrodd yna, a dweyd y lleiaf, yn ddigon gwreiddiol. A gallem gasglu oddiwrth y pennill fod Shadrach yn benderfynol o amddiffyn ei rights. Ond, a barnu oddiwrth ei gymeriad cyffredin, gallem feddwl nad yw y boen a'r gosb a fygythir yn ddim rhagor na phoen a chosb cydwybod.

Y mae natur a chynwysiad y llyfr hwn yn ddigon amlwg yn ei enw; ac yn mhob peth, y mae yn ymgeisio at lanw ei enw. Gallwn ddyweyd yn dra phriodol am y llyfr hwn, "fel y mae ei enw, fel hyny hefyd y mae yntau." Y mae yn meddu ar fwy o gyfanrwydd na llyfrau Shadrach yn gyffredin; ac ystyrir ef gyda'r goreu o honynt. Y mae y cyfanrwydd y cyfeiriasom ato yn rheswm dros y rhagoriaeth hwn; a dywedir fod yr awdwr ynddo yn darlunio ei deimlad a'i brofiad ei hun, yn yr anffawd alarus y bwriadwn gyfeirio ati eto; a diau fod hyny yn rheswm arall dros ei ragoriaeth. Ar y pethau a deimlasom, ac a brofasom ein hunain, y gallwn ysgrifenu oreu. Yn y llyfr hwn y mae yr awdwr yn dilyn gorchymyn ein Harglwydd i Petr, " Tithau pan y'th dröer, cadarnha dy frodyr." Argraffwyd hwn ddwy waith mewn ysbaid dwy flynedd o'i gy hoeddiad; ac erbyn 1845, dywedir fod cynifer ag 8000 wedi eu gwerthu, Gwelsom gopïau o argraffiad Caerfyrddin yn 1807; un eto yn 1820; eto, un arall yn 1829, gan Evan Jones, yr hwn sydd yn ein hysbysu ei fod ef wedi "prynu hawl idd y llyfr hwn;" yn nghyd a chopi o argraffiad arall nas gwyddom ei ddyddiad. Y mae yn dda genym hysbysu, hefyd, fod argraffiad glanwaith a hylaw o hono wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar yn y Bala, gan Griffith Jones.

Yn y flwyddyn 1845, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesonaeg o'r llyfr hwn, dan yr enw "The Backslider's Mirror: a popular Welsh Treatise, translated from the ancient British Language, by EDWARD S. BYAM, Esq., late of the Mauritius. Bath: Binns & Goodwin; London: Simpkin, Marshall, & Co." Cyflwynir y llyfr yn y cyfieithiad hwn i Sir Fowell Buxton, Bart. Bu y cyfieithydd am hir amser yn Chief Magistrate yn Mauritius; ac ymddengys ei fod yn bleidiwr ffyddlon i'r caethion yn erbyn gormes ereill. Byddai yn dda i'r dynion ieuainc hyny sydd yn diystyru ein llenyddiaeth, ddarllen rhagymadrodd y gŵr hwn i'r cyfieithiad. Wedi cyfeirio at ein hen lawysgrifau, yn y meddiant o'r rhai, medd efe, y mae y Cymry ar y blaen ar unrhyw bobl ereill yn Ewrop, o ran eu rhifedi a'u hamrywiaeth; ac wedi cyfeirio at derfynau cyfyng ein llenyddiaeth, drwy fod yr iaith Saesoneg a'i holl gyflawnder o gyfoeth yn gwasgu arnom, y mae yn sylwi, yn neillduol, y gallwn ymffrostio eto mewn un peth ar waethaf ein terfynau cyfyng; hyny yw, nad oes un llyfr afiach—un yn cynwys gwenwyn meddyliol—un y gallwch ei alw yn briodol yn "llyfr drwg," wedi cael, nac yn cael, ei gyhoeddi yn ein plith. A dywed yn mhellach am y llyfrau oeddynt y pryd hwnw wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar yn ein plith, "that they are of such a description as would do honour to the most vast, renowned, and polished nations of Europe;" a chyfeiria yn neillduol at Eiriadur Ysgrythyrol Charles o'r Bala, fel engraifft. Gosodasom ei uchel ganmoliaeth yn ei eiriau ei hun, fel na byddai neb o'r rhai sydd yn hoff o ddiystyru ein llenyddiaeth yn cael lle i ddyweyd ein bod wedi rhoddi ein geiriau ein hunain yn ei enau. Y nesaf ydyw,—

"Perlau Calfaria; neu Arian Gwaedlyd y Groes, wedi eu codi allan o Fanc Caersalem, a chwedi cael eu pwyso yn Nghlorianau y Cysegr; ac Aur efengylaidd, wedi cael ei gloddio allan o Fŵn-gloddiau'r Gyfraith Seremonïol; lle y dangosir sylwedd llawer o'r Types a'r Cysgodau, mewn difrifol Fyfyrdodau. Mat. xiii. 46; Preg. x. 19; Dat. iii. 18. Caerfyrddin: argraffwyd gan Jonathan Harries, yn Heol-y-Brenin, 1808." Y mae y llyfr hwn yn cynwys rhes o fyfyrdodau:-1. Ar fodolaeth Duw. II. Ei Briodoleddau, III. Ei Deitlau. IV. Ar y Gair. V. Ar Grist. 1. Ar Berson Crist. 2. Swyddau Cyfryngol Crist. 3. Darostyngiad Crist. VI. Myfyrdodau ar Grist fel Sylwedd y Cysgodau. VII. Ar Grist fel Sylwedd yr Aberthau, a phethau ereill. VIII. Ar Deitlau Crist. Crynodeb o brif athrawiaethiau crefydd yw hwn, yn nghyd a'r profion ysgrythyrol ar ba rai y gorphwysant; heb nemawr o ymgais at ymresymiad manwl. Dan y pen cyntaf, fodd bynag, yr ydym yn cael engraifft o ymresymiad da; a gobeithiwn y bydd yn foddhaol gan y darllenydd ei weled:—"Fe ymddengys yn eglur," meddai, "fod yn rhaid i'r greadigaeth fod er tragywyddoldeb, neu roddi bod iddi ei hun, neu gael ei bod gan rywun arall. Ond pe buasai y greadigaeth er tragywyddoldeb, yna, hi fuasai o angenrheidrwydd yn anfeidrol, yn ddiadfeiliol, yn annghyfnewidiol, ac uwchlaw. bod yn agored i gael ei dystrywio na'i niweidio gan ddim, Ac nis gallasai'r greadigaeth roddi bod iddi ei hun, canys rhaid i'r hyn a roddo fod i beth, i fod o. flaen yr hyn a gaffo ei fod ganddo; am hyny y mae yn rhaid fod y greadigaeth wedi derbyn ei bod oddiwrth rywun arall. Nid ydym yn meddwl y gall y darllenydd gael llawer gwell ymresymiad na hwn yn y Burnett Prize Essay. Gan fod rhagymadrodd y llyfr hwn eto mor nodweddiadol, ni a gymerwn ein cenad i roddi rhan o hono o flaen y darllenydd:

"Fy anwyl Gyfeillion a'm Cydwladwyr,—Yr ydwyf wedi eich anerch yn barod â Drychau i chwi ganfod eich gwynebau; yn bresenol yr ydwyf yn eich anerch â Pherlau i addurno a difyru eich meddyliau; ac hefyd yn eich anerch âg arian ddigon, o ddwys Egwyddorion; ac Aur Efengylaidd. Mewn cysgod y cawd sylwedd.

Gan fod llawer o honoch wedi dangos parodrwydd i dderbyn fy Nrychau mewn modd caredig, yr ydwyf yn hyderu na wnewch chwi ddim gwrthod y Perlau, y rhai sydd yn llawer mwy gwerthfawr a defnyddiol.

******

Hyn yw dymuniad eich annheilwng was yn yr efengyl,

Ebrill 23, 1808. ———————————— A. S.

Paid a blino yn ei ddechrau,
Rhag na chei di ddim o'r Perlau;
Dos, a darllen ef yn gyfan,
Ti gei gwrdd â'r Aur a'r Arian."

Yr argraffiad diweddaf a welsom o hwn, oedd un Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1829, E. Jones, Heol-y-prior. Y nesaf yw,

"Clorianau Aur, i Gristionogion gael pwyso eu profiadau a'u hwyliau crefyddol: lle y dangosir y gwahaniaeth sydd rhwng hwyliau a chynhyrfiadau neillduol yr Ysbryd Glân, a'r hwyliau sy'n tarddu oddiar dymherau naturiol. Mewn ffordd o ymddyddan rhwng Paul a Silas.

Waith i mi bwyso gormod ar fy nhymherau gwan,
'Rwy'n aml dan y tonau, ac weithiau ar y lan;
Cadernid y cyfamod, a choncwest Calfari,
Esgyniad ac eiriolaeth, yw sail fy ngobaith i.

Aberystwyth: argraffwyd gan James a Williams, 1809. Traethodyn dwy geiniog yw hwn, wedi ei gyflwyno i "Gristionogion o bob enw," gan obeithio y bydd i'r bendigedig Dduw ei fendithio, "i'ch gwasgu chwi yn gyffredin i chwilio yn fanwl pa beth sydd genych erbyn gwynebu'r sylweddolfyd mawr tragywyddol." Ymhola i bedwar peth:-1. Pa beth sydd yn profi fod yr Ysbryd Glân yn Dduw. II. Pa beth yw yr Ysbryd Glân i'w bobl. III. Pa beth yw y gwahaniaeth sydd rhwng yr hwyliau sydd yn tarddu oddiar dymherau naturiol yn unig, a'r hwyliau santeiddiedig sydd yn cael eu cynhyrfu, mewn modd neillduol, gan yr Ysbryd Glân. IV. Pa beth yw y gwahaniaeth sydd rhwng y gwir Gristion a'r rhagrithiwr. Yr ydym yn ystyried y llyfryn hwn yn un gwir dda: a chwenychem yn fawr ei weled yn llaw pob un tueddol i hwyliau, yn enwedig mewn adeg o ddiwygiad. Y nesaf yw,—

"Blodau Paradwys, yn llawn o fêl; neu ddifrifol fyfyrdodau ar amrywiol o'r enwau, a'r teitlau, a'r cyffelybiaethau rhyfeddol ag y mae y duwiolion ac Eglwys Dduw yn gael yn yr Ysgrythyrau Santaidd. Caerfyrddin: argraffwyd gan J. Evans, Heol-y-prior, 1810." Mewn cyfeiriad at deitl y llyfr hwn, y mae yr awdwr yn gobeithio y bydd ei "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," fel "gwenyn," yn ddiwyd i sugno mêl o gysuron i'w heneidiau o bob blodeuyn o honynt. Y mae y teitl yn gyflawn hysbysiad am gynwysiad y llyfr hwn. Ni welsom ond un argraffiad o hono. Y nesaf yw,

"Trysorau'r Groes, wedi cael eu cyflawn agor ar ddydd marchnad yr efengyl, ac yn cael eu cynyg yn rhad tra parhao'r farchnad i'r penaf o bechaduriaid; lle y dangosir rhagoriaeth y cyfamod gras ar y cyfamod o weithredoedd; gogoniant y gyfraith a gogoniant yr efengyl. Lle y dangosir hefyd beth yw ffynon y cyfamod gras, natur y cyfamod, trysorau y cyfamod, gwaed y cyfamod, cadernid y cyfamod, a'r modd ag y mae Duw yn gwneud ei hun drwodd i'w blant mewn cyfamod; yn nghyd. a nodau y bobl sydd yn y cyfamod yma. Mewn llafurus fyfyrdodau. 2 Sam. xxiii. 5.

Bendithion ar fendithion, trysorau angeu loes,
Grawnsypiau mawrion addfed yn hongian ar y groes,
Sydd yn cwmpasu'm henaid, rhinweddau mawr eu grym,
A minau yn y canol, heb allael d'wedyd dim.

Caerfyrddin: argraffwyd gán J. Evans. 1811." Y mae y llyfr hwn ar yr un cynllun a'i lyfrau ereill, ac yn dwyn yr un ddelw. Wedi'r fath wyneb-ddalen, oferedd fyddai ceisio manylu i osod allan gynwysiad y llyfr Ni a ymddigonwn ar roddi dyfyniad byr o'r rhagymadrodd. Pan yn anerch ei "Anwyl Gyfeillion a'i Gydwladwyr," dywed yr awdwr wrthynt:—

"Yr ydwyf yn ddiolchgar iawn i chwi am eich caredigrwydd, ac am y derbyniad a wnaethoch o'r hyn a ysgrifenais yn barod; ac yr ydwyf yn gobeithio y bydd i'r Arglwydd fendithio'r tudalenau canlynol i'ch cadarnhau yn egwyddorion iachusol y. Grefydd Gristionogol, ac i feithrin profiad efengylaidd yn eich cyflyrau; ac yr wyf yn gobeithio yn eich gwaith yn myfyrio ar y cyfamod gras, y dewch i weled fod genych ddigon o fodd i fyw yn wyneb marw, a bod genych ddigon o drysorau yn wyneb tlodi, ac y deuwch chwi i weled fod y cyfamod gras yn ddigon o ffon cynaliaeth i'ch eneidiau ar y rhiwiau, yn y nos, ac yn y tywydd garw ar eich profiad.
Hyn yw dymuniad eich annheilwng was, Rhagfyr 17, 1810.

A. SHADRACH.

Ni welsom ond un argraffiad o hono, Os ydyw teitl y llyfr hwn yn rhy hir i foddio chwaeth dda, y mae pobl, erbyn hyn, wedi myned yn rhy bell yr ochr arall. Os na ddylai teitl fod yn hirwyntog, eto dylai fod o hyd digonol i roddi awgrym am gynwysiad y llyfr. Dywed yr awdwr yn ei ragymadrodd, fod hwn y seithfed tro iddo anerch ei gydwladwyr âg ychydig linellau o'r argraffwasg; ond os cyfrifir y nifer blaenorol, ceir gweled fod hwn yr wythfed tro, ac nid y seithfed, fel y dywedir. Nis gwyddom pa fodd i gyfrif dros hyn. Ai tebyg fod ei lyfrau eisoes yn rhy aml i'r awdwr gadw cyfrif o honynt? Ddarllenydd anwyl! ni fynegwyd dim o'r baner eto. Ar ddiwedd y llyfr hwn, y mae'r awdwr yn ein hysbysu fod ganddo lyfr hymnau yn agos yn barod i'r argraffwasg. Y maent i fod ar destynau ysgrythyrol; ac fe fydd y testynau yn cael eu rhoddi i lawr ar frig y ddalen, a dwy neu dair llinell o sylwadau arnynt, o flaen yr hymnau." Y nesaf yw," —

Goleuni Caersalem; neu gyfeillachau'r dysgyblion yn Jerusalem; lle y traethir yn ddifrifol am amrywiol o bethau pwysfawr, ar ddull o ymddyddan rhwng yr apostolion, mewn deg ar ugain o gymdeithasau (societies) yn Jerusalem; lle y gwneir sylwadau ar ugeiniau o ysgrythyrau, a dangosir ugeiniau o nodau gwir dduwioldeb. Ac y mae hymnau ar ol pob un o'r pennodau, ar ddull yr apostolion yn canu ar ddiwedd eu cymdeithasau. Act. i. 15; ii. 42, 44. Caerfyrddin: argraffwyd gan E. Jones, Heol-y-prior." Tybiwn y bydd rhagymadrodd y llyfr hwn yn foddhaol yn ei grynswth:—

"AT EGLWYS DDUW.

Yr ydwyf yn cyflwyno hyn o lyfr bychan i dy ofal di, o ardderchocaf Dywysoges y Taleithiau, sef i ti, O anrhydeddusaf Briodasterch Tywysog Siloh, sef Mab y Brenin Alphia. Byddi di a'th briod, O odidocaf Bendefiges, yn teyrnasu ar fryniau gogoniant, a'ch coronau yn ddysglaer ar eich penau, pan y byddo coronau'r byd wedi diflanu, a phan y byddo holl deyrnasoedd ac ymherodraethau daear wedi colli eu llewyrch i gyd o'r bron.

Er mor deg yw dy draed mewn esgidiau, O Ferch Pendefig, ac er mai gemwaith aur yw dy wisg; ac er mor hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a'th wddf gan gadwyni; ac er dy fod wedi dy wisgo â'r haul, a'r lleuad dan dy draed, ac ar dy ben goron o ddeuddeg seren, yr wyf yn hyderu ar dy foneddigeiddrwydd, na wnei di ddiystyru hyn o wasanaeth bychan o law un o'th annheilwng weision. Fe fuasai yn dda genyf pe gallaswn dy wasanaethu yn well; ond mi a debygwn weithiau y byddwn yn foddlon i wylo dagrau o waed er dy fwyn, pe gallwn, a bod hyny o ryw les i ti.

O ardderchocaf, ac O wynfydedig Wraig yr Oen, yr ydwyf yn gadael hyn o lyfr bychan yn dy ofal; a pha beth bynag sydd ynddo yn rhy wael ac yn rhy annheilwng o'th fawrhydi, fel Tywysoges y Nefoedd, tafl dy fantell foneddigaidd o gariad drosto; a pha beth bynag ag sydd ynddo yn ol meddwl calon dy oruchel a'th ardderchog Briod, dyro ef i gadw yn ystafell dy galon; a phan y byddot ti yn ymddyddan â'th Briod yn ystafell- oedd gweddi a chymundeb, cofia finau, y gwaelaf o'th weision, wrtho

Hyn yw dymuniad dy annheilwng was,

A. S."

Y mae y wyneb-ddalen yn ddigon i ddangos cynllun y gwaith. Prif bynciau yr ymddyddanion ydynt—I. Mawredd trueni dyn trwy'r cwymp II. Llitiriadau galarus proffeswyr. III. Rhyfeddodau yr iachawdwriaeth. IV. Y pechodau sydd yn barod i'n hamgylchu. V. Yn nghylch pa bethau y dylem holi ein hunain. VI. Y gwahaniaeth sydd rhwng rhith a sylwedd. VII. Gogoniant yr eglwys yn y dyddiau diweddaf. Yr ydym yn caru'r cynllun yn fawr; a diamheu genym fod y llyfr hwn wedi bod yn "oleuni" mewn gwirionedd i lawer meddwl duwiol mewn awr gyfyng.

Erbyn hyn, yr ydym wedi cael allan mai yn Aberystwyth yr argraffwyd y llyfr hwn gyntaf, gan James a Williams. 1812. Ni ddywedir pa bryd y cyhoeddwyd ef yn Nghaerfyrddin; ni welsom ond y ddau argraffiad hyn o hono. Y nesaf ydyw,—

"Udgorn y Jubili, yn cyhoeddi rhyddid i'r Hottentotiaid; neu Hymnau newyddion, ar amryw destynau, ac yn neillduol ar lwyddiant yr efengyl. Esaiah. xxiv. 16. Caerfyrddin: argraffwyd gan John Evans, yn Heol-y-Farchnad isaf. 1818." Hysbysir ni ganddo na fu un o hymnau y llyfr hwn yn argraffedig o'r blaen. Gallem feddwl mai at y llyfr hwn y cyfeiriai Shadrach ar ddiwedd "Trysorau y Groes;" ond nid yw ei gynlluniad yn hollol gyfateb i'r hyn a ddywedwyd yno y byddai. Y mae yr hymnau ar destynau ysgrythyrol mae yn wir; ond nid yw "y ddwy neu dair llinell o sylwadau" yn eu blaenori, fel yr addawyd. Yr ydym yn credu fod yr hymnau a ddilynant y gwahanol bennodau yn ei lyfrau ereill, yn rhagori ar y rhai a gynwysir yn y llyfr hwn. Hawddach yw gwneud hymn dda pan fyddo myfyrdod blaenorol ar bwnc wedi rhoddi cynhyrfiad i ddyn, na phan fyddo yn eistedd, fe allai mewn gwaed oer, i gyfansoddi hymn yn unswydd. Tra fyddom yn myfyrio yr enynir tân; a rhaid fod tân ynom cyn y bydd tân yn y pennill gyfansoddir. Nid bob amser y mae ffigyrau Shadrach yn yr hymnau hyn yn hapus; ac yn anffodus, y mae yn dwyn enwau personau a lleoedd mor aml i'w hymnau, nes gwneud llawer o honynt yn anghyfaddas i'w defnyddio. Beth feddyliai y darlenydd am glywed y pennillion hyn, er enghraifft, yn cael eu rhoi allan a'u canu mewn cyfarfod cyhoeddus?

CAN ISRAEL YN CYCHWYN GYDA'R GOLOFN.

Ffarwel i fynydd Saphir, ffarwel i Harada,
Ffarwel i dir Maceloth, ffarwel i Tahath dda;
Ffarwel i tithau Taara, ffarwel i Mithca sych,
Ffarwel i dir Hasmona, lle bum yn wael fy nrych.

Ffarwel i dir Maseroth, mi af tua'r hyfryd wlad,
Ffarwel i Benejaacan, ffarwel Horhagidgad;
Ffarwel i dir Jotbatha, ffarwel Ebrona lân,
Farwel i Esion-gaber, mi deithiaf yn y bla'n.


Yn y modd hwn eir dros holl daith yr Israeliaid, nes y cawn ein hunain o'r diwedd yn rhoi

Ffarwel i rosydd Moab, a duwiau Sepharfaim,
A Dibon, Gad, a Nebo, ac Almon-Diblathaim.

Ond na feddylied y darllenydd mai rhywbeth fel yna yw cynwysiad y llyfr i gyd; na, y mae ynddo rai hymnau melusion. Wele enghraifft:

Cefais aml saeth wenwynig at fy mywyd lawer tro,
Nid aiff rhai o'r saethau gefais byth o'm meddwl, byth o'm co';
Er cael gwaetha'r saethau tanllyd, er cael clwyfau, eto'n fyw !
Mae fy mywyd wedi guddio gyda Iesu Grist yn Nuw.

Dirifedi yw ngelynion a'm trallodau yn y glyn,
Af er hyny trwy'r peryglon nes dod fry i Sion fryn;
Cês fy nghuro'n nhrigfa dreigiau ar fy siwrnai lawer gwaith,
Ond rwy'n canfod drwy'r cymylau beth o gyrau pen fy nhaith.

Y nesaf yw,—

"Rhosyn Saron, wedi blodeuo yn nghanol yr anialwch; lle dangosir trwy'r ysgrythyrau, mai dyben cyfryngdod a marwolaeth Crist oedd dwyn iachawdwriaeth gyflawn i holl wrthddrychau y tragywyddol gariad, a hyny mewn modd teilwng o Dduwdod; ac na bu ef ddim marw dros neb ag sydd wedi myned i uffern. Mewn byr fyfyrdodau. Esa. liii. 11. Aberystwyth: argraffwyd ac ar werth gan Samuel Williams, yn Heol-y-Bont. 1816." Argraffwyd ef hefyd yn Llanrwst, gan John Jones, dros William Jones, Trefriw. Ni welsom ond y ddau argraffiad hyn. Y mae y llyfryn hwn yn bur wahanol i'r lleill. Athrawol oeddynt hwy, ond dadleuol yw hwn; neu, fel y dywed y mawrion, ddarllenydd hynaws, yr oeddynt hwy yn didactic, ond dialectic yw hwn. Hysbyswyd ni iddo gael ei fwriadu i wrthweithio dylanwad y "system newydd " oedd ar y pryd yn ymledu yn ein talaeth. Ac y mae hyny yn cydsefyll yn dda â geiriau Shadrach ei hun yn y rhagymadrodd i'r llyfryn hwn:-"Nid ydwyf yn caru cecrus ymddadleu am bethau crefyddol, (medd efe), oblegyd y mae hyny yn tueddu i oeri cariad, i feithrin rhagfarn, ac i fagu ymrysoniadau, yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol; ond eto yr ydwyf yn barod i roi rheswm am y gobaith sydd ynof; ac yn y tudalenau canlynol, yr ydwyf yn dywedyd meddwl fy nghalon am ddyben cyfryngdod a marwolaeth Iesu Grist; ac 'na ato Duw i mi ymffrostio ond yn nghroes ein Harglwydd Iesu Grist.' "Gwaed Iesu Grist ei Fab Ef sydd yn glanhau oddiwrth bob pechod,' &c." Ond, fel y mae yn amlwg erbyn hyn, yr oedd Dr. Edward Williams, a'i esbonwyr Cymreig, yn rhy gryfion iddo. Rhaid i ni addef, fodd bynag, fod y llyfr hwn wedi ein harwain i goleddu syniadau llawer iawn uwch am Shadrach fel meddyliwr, nag a feddem o'r blaen. A chynghorem y bobl hyny sydd wedi bod yn siarad yn isel am yr awdwr, i geisio ysgrifenu llyfr llawer gwell na hwn ar ei ochr ef i'r pwnc. Cof gan y darllenydd, feallai, fod Shadrach, mewn cyfeiriad ato ei hun yn darllen gwaith Dr. Whitby, Tillotson, a Fuller, "a gwaith Dr. Williams, o Rotherham," yn "diolch byth" am fod gan bob dyn hawl i farnu drosto ei hun. Rhydd "Rhosyn Saron " gwbl esboniad ar y "diolch" hwn;—cyfodai oddiar wahaniaeth golygiadau. Galwai rhai o'r bobl mwyaf Arminaidd y llyfr hwn yn "Ysgellyn Saron." Ai tybed fod hyn yn profi eu bod yn teimlo oddiwrth ei bigiadau? Os felly, y mae y llysenw roddir ar y llyfr yn fwy o ganmoliaeth iddo na pheidio! Prawf hyn fod ynddo rywbeth. Y nesaf ydyw,

"Cerbyd Aur; neu daith y myfyrdod o'r Arfaeth i Eden, o Eden i Sinai, ac o Sinai i Bethlehem Judea, lle ganed sylwedd yr holl gysgodau, sef Crist yr Arglwydd; lle y gwneir sylwadau myfyrdodol ar ugeiniau o ysgrythyrau, a hymnau yn canlyn y pennodau. Salm xxxix. 12: lxxvii. 12. Caerfyrddin. 1820." Cyhoeddwyd tri argraffiad o'r llyfr hwn; y diweddaf, yr hwn sydd o'n blaen, ydyw un Caerfyrddin, 1857; argraffwyd ac ar werth gan M. Jones, Heol-y-prior. A ydyw y darllenydd yn dechreu blino wrth ein dylyn? Os felly, wele gerbyd aur at ein gwasanaeth 1-Rhoed ei law i ni, a dringed "i'r cerbyd yma." Er ei fod yn gerbyd aur, eto na wangaloned am dro; feallai mai dyma y tro diweddaf y gwahoddir ef i gerbyd fel hwn; ac y mae ganddo eto gryn lawer o ffordd i'w theithio. Yn ei ragymadrodd, dywed yr awdwr wrth ei "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," ei fod wedi dechreu ar ei daith fyfyrdodol bon er ys llawer o flynyddau; a gobeithia y bydd i'r hanes fer a roddir yma o'r "daith fyfyrdodol hon, i gychwyn llawer o honynt i deithio ar bererindod trwy feusydd eang ffrwythlon yr ysgrythyrau, yn lle teithio trwy feusydd gwagedd a gau bleserau y byd." Anerchir ei" gyfeillion a'i gydwladwyr" fel hyn, ganddo, o " Galltycrib," Mawrth 26ain, 1819. Yn y llyfr hwn, y mae yr awdwr yn personoli myfyrdod; a rhydd y ddosran agoriadol awgrym am gyfansoddiad y llyfr:

"I. MYFYRDOD AR YR ARFAETH DRAGYWYDDOL. Myfi, Myfyrdod, a gefais fy ngeni a'm magu yn mhalas Deall, ac yn 'stafell y Meddwl Dirgel; a chefais ychydig o ddysg yn ysgol 'Mofyngar; ond fe ddaeth yn fy meddwl yn foreu i fyned i deithio yma a thraw i edrych ar ryfeddodau Goruchel Lywiawdwr y byd; ond cyn i mi deithio nemawr, daethum at eisteddfod Jehofa, y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glân, pa rai sydd yn ogyfuwch mewn gallu a gogoniant, ac yn ogyd-dragywyddol; ac yn ymbleseru, yn llawenychu, ac yn tragywyddol ymddedwyddu y naill yn y llall, pryd nad oedd haul na lleuad, ser na phlanedau, pa dynion nac angylion; ac yn eistedd mewn cyngor unol i ddwyn rhyw bethau mawr oddiamgylch, ag y bydd canu am danynt pan byddo amser wedi darfod.

Y mae y llyfr hwn yn dechreu gyda'r arfaeth, ac yn talu sylw i brif ffeithiau yr Hen Destament. Cedwir ieithwedd y ddosran uchod o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd yr awdwr wedi bod yn hwy nag arferol cyn dod a'r llyfr hwn allan. Yr oedd pedair blynedd yn agos â phasio er pan gyhoeddwyd "Rhosyn Saron;" & gallem feddwl fod sychder dadleuaeth wedi diffrwytho ei feddwl, oni bai fod maint y llyfr hwn yn rhoddi esboniad arall. Y llyfr hwn yw y mwyaf o'i eiddo hyd yn hyn. Y mae yn cynwys 200 o dudalenau, yn yr argraffiad diweddaf, mewn llythyren go fân. Y nesaf ydyw,—

"Tabernacl Newydd, wedi cael ei agoryd ar fynydd Calfaria, yn nghyntedd pa un y gall yr Iuddewon a'r Cenedloedd gydganfod hawddgarwch a gogoniant Iesu Grist, yr hwn yn unfryd a groeshoeliasant ar Golgotha; sef myfyrdodau a sylwadau ar rai materion o bob pennod yn agos ag sydd yn y Testament Newydd: mewn dull o ymddyddanion rhwng Iuddewon a Chenedloedd, yn nghylch amrywiol o Destynau a Phregethau Efengylaidd. Hefyd, Hymnau, ar eu dull yn canu ar ddiwedd y cyfarfodydd, Heb. ix. 8. Caerfyrddin: argraffwyd gan Evan Jones, yn Heol-y-prior." Nid oes un dyddiad wrth yr argraffiad hwn; ond hysbysir ni ar argraffiad o Berlau Calfaria gyhoeddwyd yn 1829, fod "y llyfr rhagorol hwnw a elwir y Tabernacl Newydd," y pryd hwnw yn y wasg. Awgrymir drwy hyn fod y llyfr yn adnabyddus o'r blaen, ac y mae genym o'n blaen hen argraffiad o hono, sydd yn ymddangos yn rhy hen i'r flwyddyn 1829; ond yn anffodus, y mae ei wyneb-ddalen yn eisieu. Hwn yw y mwyaf o'i holl lyfrau; a chynwysa dros 300 o dudalenau yn yr argraffiad henaf a welsom, a 300 cywir yn yr ail. Y mae y llyfr hwn yn cynwys 229 o bregethau, mwy neu lai cyflawn, ar destynau o wahanol lyfrau y Testament Newydd. Yr ydym yn tybied mai hwn oedd ystordy mawr y pregethwyr gweiniaid hyny oeddynt yn delio mewn defnyddiau ail-law flynyddoedd yn ol. Ac fel llyfr yn cynwys skeletons pregethau, yr ydym yn meddwl fod y llyfr hwn yn sefyll yn anrhydeddus yn mhlith llu. Y mae yr awdwr wedi bod yn lled hapus yn y cynllun gymerodd i osod ei skeletons allan. Y mae yn dychymygu ei fod yn esgyn i fryn penodol; ac ar y bryn hwnw y mae yn gweled amryw ddynion yn gweithio yn ddiwyd wrth eu galwedigaeth, ac yn ymddyddan a'u gilydd yn siriol. Wedi dynesu atynt, y mae yn tybied, yn gyntaf oll, ei fod yn clywed un o'r enw Asaph yn gofyn yn gyfeillgar i Heber, " Pa. le y buoch chwi, fy anwyl gyfaill, yn treulio y Sabboth diweddaf?" Y mae hyny yn arwain Heber i ddyweyd ei fod wedi bod yn y Tabernacl, yn Bethesda, ac yn Bethlehem. Yna arweinir ef gan ei gyfaill i adrodd y pregethau a glywodd yn y lleoedd hyn, ac yna daw skeletons i mewn yn naturiol dros ben. Bydd y cyfeillion fel hyn yn myned y Sabboth i gyfarfodydd Sinai, a Bethel, a Horeb, a llu o leoedd ereill; ac weithiau i gymanfaoedd Hermon, a Saron, a Sardis, a'r cyffelyb; bryd arall, byddant wedi bod mewn cyfarfod misol yn Salem, neu gyfarfod chwarterol yn Tabor, &c., a mawr yw eu hyfrydwch tybiedig pan yn adrodd i'w gilydd y toraeth pregethau a wrandawsant. Yn sicr, y mae Shadrach wedi bod mor ddedwydd yn ei gynllun gyda'r llyfr hwn, fel nad ydym yn teimlo lawer gwaith mai "esgyrn" pregethau sydd genym. Y nesaf yw,

"Dyfroedd Siloam, yn cerdded yn araf, ac yn wynebu ar yr holl genedloedd; sef myfyrdodau a sylwadau ar y pethau canlynol:—1. Sylwadau ar, ac addysgiadau oddiwrth, amryw o enwau a geiriau ysgrythyrol. II. Sylwadau ar amrywiol o'r cyffelybiaethau ysgrythyrol. II Sylwadau ar hanesion ysgrythyrol. IV. Sylwadau ar wahanol droion Duw. yn ei ragluniaeth at ddynion yn y byd. V. Sylwadau ar gwymp Babilon fawr. VI. Sylwadau ar alwad yr Iuddewon. VII. Sylwadau ar ogoniant y Mil Blynyddoedd. VIII. Sylwadau ar ddirywiad yr eglwys yn y dyddiau diweddaf, a gwrthryfel Gog a Magog. A hymnau yn canlyn y myfyrdodau. Ezec. xlvii. 9. Aberystwyth: argraffwyd gan Esther Williams, 1827." Wedi'r fath wyneb-ddalen, nid oes eisieu i ni ddyweyd dim am gynwysiad y llyfr hwn. Yn ei ragymadrodd, y mae yr awdwr, fel arferol, yn anerch ei "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," a dywed wrthynt:—"Yr ydwyf yn eich anerch unwaith eto, â'r gyfran hon o'm Myfyrdodau. Chwi fuasech yn eu cael yn gynt, oni buasai llawer o drafferthion blin, a nychdod, a gwendid corfforol, a llesgedd yn y tŷ o bridd; ond yr wyf yn gobeithio y byddant o fendith i chwi eto, i'ch dwyn i fyfyrio llawer yn ngair y gwirionedd." Dyddir hwn Aberystwyth, Ebrill y 4ydd, 1827. Y mae y darllenydd yn gweled mai "araf" iawn yn wir y rhedodd y "Dyfroedd" hyn er cyhoeddiad y llyfr blaenorol; ond na thybier fod yr awdwr yn segur. Na, er cyhoeddiad y Cerbyd Aur, bu yr awdwr yn y drafferth fawr yn adeiladu capel Aberystwyth; ac yn y drafferth fwy fyth yn ceisio talu am dano. Ac heblaw hyny, ddarllenydd, y mae y llyfr hwn yn 300 o dudalenau. Ac i brofi diwydrwydd yr awdwr yn mhellach, gallwn ddyweyd wrth y darllenydd fod yr "Hysbysiad" canlynol i'w weled ar amlen y llyfr hwn:

"Y mae y llyfrau canlynol agos bod yn barod i'r argraffwasg, gan Azariah Shadrach:—1. Gwallt Samson yn cael ei dori. 2. Cerbyd o Goed Libanus. 3. Darn o Bomgranad. 4. Cangen o Rawn Camphir. 5. Myrr Dyferol. 6. Modrwyau Aur. 7. Tlysau Aur. 8. Boglynau o Arian. 9. Maes Boaz. 10. Gwisgoedd y Cysegr. 11. Blodau'r Figysbren. 12 Y Mor Tawdd.

D.S. Ni bydd un o honynt dros werth swllt."

Ddarllenydd anwyl! onid doeth y gwnaethom ddringo i'r Cerbyd Aur, gan fod pen ein gyrfa yn ymddangos eto mor bell! Y nesaf ydyw,

"Gwallt Samson yn cael ei dori, pan oedd yn cysgu ar liniau Dalilah: neu, y Cristion yn colli ei nerth a'i wroldeb mewn dyledswyddau crefyddol wrth gysgu mewn difaterwch; mewn deuddeg o fyfyrdodau ar y pethau canlynol:-1. Myfyrdod ar fywyd Samson. 2. Myfyrdod ar Samson fel cysgod o Grist. 3. Myfyrdod ar Samson yn cysgu ar liniau Dalilah. 4. Myfyrdod ar wallt Samson yn cael ei dori. 5. Myfyrdod ar y Cristion yn colli cymundeb â Duw. 6. Myfyrdod ar y Cristion yn colli heddwch cydwybod. 7. Myfyrdod ar y Cristion yn colli ysbryd gweddi. 8. Myfyrdod ar y Cristion yn colli hyder mabaidd. 9. Y Cristion yn colli ysbryd myfyrdod. 10. Myfyrdod ar y Cristion yn colli ysbryd gwyliadwriaeth. 11. Myfyrdod ar y Cristion yn colli ymddygiad santaidd. 12. Myfyrdod ar y ddyledswydd o hunanymholiad. Yn nghyd â Hymnau ar ol y myfyrdodau, ar ddull Samson yn canu ar ol enill ei fuddugoliaethau, mewn difrifol fyfyrdodau. 1 Tim. iv. 15. Caerfyrddin: argraffwyd yn Swyddfa Seren Gomer, gan W. Evans, 1831." Y mae rhediad y llyfr hwn yn hysbys i'r darllenydd oddiwrth y wyneb-ddalen gyflawn uchod. Y mae yn gynwysedig gan mwyaf o bregethau a hymnau. Cynwysa 180 o dudalenau. Y mae llawer o'r pregethau a'r hymnau hyn yn bur dda; ac, ar y cyfan, yr ydym yn meddwl fod Gwallt Samson yn cael ei ystyried yn deilwng o sefyll yn uchel yn mysg ei lyfrau ereill. Y nesaf ydyw,—

"Cangen o Rawn Camphir; neu Phiol y Fendith: sef sylwadau ar amrywiol ysgrythyrau, ac yn neillduol ar yr ordinhad santaidd o Swper yr Arglwydd: yn mha rai y gosodir allan fawredd cariad, darostyngiad, dyoddefiadau a marwolaeth Crist, wrth ddwyn oddiamgylch iachawdwriaeth dragywyddol i ferch yr hen Amoriad. Yn nghyd a Hymnau yn canlyn y sylwadau, i gynorthwyo Sion i hwylio ei thelynau wrth deithio adref i fryniau gogoniant; mewn byr fyfyrdodau. Can, i. 14; 1 Cor: X. 16; xi. 24. Caerfyrddin: argraffwyd gan W. Evans, Swyddfa Seren Gomer." Ysgrifenwyd rhagymadrodd y llyfr hwn yn Aberystwyth, Awst, 1832; ond ni ddywedir pa bryd y cyhoeddwyd ef. Y mae yr awdwr yn y gyfrol hon eto yn anerch ei "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," ac yn dywedyd wrthynt, "Yr ydwyf yn eich anerch â'r gyfran hon o'm myfyrdodau ar yr ordinhad santaidd o Swper yr Arglwydd, gan obeithio y bydd i'r. Jehofa ei bendithio i ddwyn llawer o'r newydd i roddi ufydd-dod i orchymyn Crist, trwy ymostwng i gadw coffadwriaeth barchus, o'i gariad mawr, a'i ddarostyngiad annghymarol, a'i ddyoddefiadau chwerwon, a'i farwolaeth boenus ar Galfaria yn lle bechaduriaid; ac hefyd i ddwyn y rhai sydd yn ymarfer â chymuno i ystyried pwys y gwaith, yn nghyd a'r angenrheidrwydd o ddifrifol hunanymholiad cyn iddynt agosau at fwrdd yr Arglwydd; ac i ystyried yr angenrheidrwydd o ffydd fywiol yn yr Arglwydd Iesu, â chariad gwresog ato, ac edifeirwch duwiol am eu holl bechodau, yn nghyd a'r rhwymau sydd arnoch i rodio yn addas i efengyl Crist yn mhob man ac yn mhob amgylchiad," &c. Y mae y llyfr hwn eto yn meddu ar fwy o gyfanrwydd na'i lyfrau yn gyffredin; ac y mae, oblegyd hyny, yn well. Gwneir ef i fyny o bregethau cyflawn, y rhai a ymganolant i gyd yn Swper yr Arglwydd. Y mae yn 155 o dudalenau. Ni welsom ond un argraffiad o hwn, nac o'r un blaenorol iddo. Yr ydym yn ystyried y llyfr hwn yn bur dda a defnyddiol; a gobeithiwn. na adawa ein cyhoeddwyr iddo farw. Y nesaf ydyw,—

"Myrr Dyferol; neu sylwadau ar amryw destynau ysgrythyrol, a ddangosant fod yr iachawdwriaeth fawr dragywyddol yn ddiamodol, i gyd o ras penarglwyddiaethol y Drindod Anfeidrol, ac anogaethau neillduol i ddyledswyddau Cristionogol; mewn dau ar ugain o fyfyrdodau difrifol. Yn nghyd a Hymnau yn canlyn y myfyrdodau, i gynorthwyo Sion i hwylio ei thanau: wrth deithio adref i'r nefol drigfanau, lle. na bydd neb yn galaru, nac yn wylo byth. Salm cxix. 27. Caerfyrddin: argraffwyd gan W. Evans, Swyddfa Seren Gomer, 1833." Ni welsom ond yr argraffiad hwn o hono. Y mae hwn yn 136 o dudalenau; ac yn groes i'r hysbysiad ar ddiwedd Dyfroedd Siloam, y mae. ei bris yn 1s. 6ch. Gallai y darllenydd feddwl oddiwrth deitl y llyfr hwn ei fod yn cynwys rhyw athrawiaethau hynod, gan fod yr awdwr yn ein hysbysu ei fod yn ymdrin âg "amryw destynau ysgrythyrol, a ddangosant fod yr iachawdwriaeth fawr dragywyddol yn ddiamodol." Na thybier, er hyny, nad oedd yr awdwr yn uniongred gyda golwg ar amod yr iachawdwriaeth. Rhaid i'r darllenydd ddal mewn cof fod y gair iachawdwriaeth yn cael ei ddefnyddio yn aml mewn dau ystyr gwahanol:-weithiau i osod allan gynllun Duw i achub mewn iawn; a phrydiau ereill achubiaeth neu gadwedigaeth weithredol y pechadur crediniol. Nis gall fod amheuaeth gan neb nad yw iachawdwriaeth yn yr ystyr flaenaf—yn yr ystyr o drefn achubol-yn gwbl ddiamodol. Nis gall neb, pwy bynag fyddont, wadu na ddygodd Duw y drefn achubol—YR IACHAWDWRIAETH-i fodolaeth yn gwbl annibynol ar amodau o du y dyn. Nid rhoddi ei Fab i farw wnaeth Duw os na wnai y byd fod yn gas wrtho, neu y cyffelyb: ond Efe a'i traddododd Ef drosom ni oll, ar waethaf ein hymddygiadau pechadurus. Y mae y bobl fwyaf Arminaidd, yn ddiau, yn cydweled â'r rhai mwyaf Calfinaidd ar y pwnc hwn. Ond os cymerwn y gair iachawdwriaeth yn yr ystyr arall yn yr ystyr o gadwedigaeth weithredol, yna, y mae yn ddiau ei bod yn amodol.-Hyny yw, nis gall neb, mewn oed a synwyr, gael eu cadw heb gredu. Y mae pawb, feddyliem, yn cydweled ar hyn eto,-y Calfiniaid yn gystal a'r Arminiaid. Gwir fod y Calfiniaid yn credu etholedigaeth ddiamodol, ond nid cadwedigaeth felly. Yn ol eu barn hwy, y mae etholedigaeth, nid yn cadw dyn ei hun, ond yn ei ddwyn i afael cadwedigaeth, drwy ei ddwyn i gredu yn gyntaf. Y mae credu yn amod cadwedigaeth, yn ol eu barn hwy, hyd yn nod i'r etholedigion. Y maent, felly, yn gosod cymaint o bwys ar amod cadwedigaeth â neb fodd bynag: a phe bai pawb yn dal hyn mewn cof, ni fyddai cymaint o ymddadleu o bosibl ag y sydd. Ymddengys i ni mai dyma hefyd oedd golygiadau Shadrach. Byddai yntau, hefyd, yn barod i ddweyd mai un peth yw fod etholedigaeth yn ddiamodol, ond mai peth arall, gwahanol iawn, yw fod iachawdwriaeth, yn yr ystyr o gadwedigaeth, felly. Credai Shadrach y blaenaf, ond ni chredai yr olaf; ac y mae yn amlwg oddiwrth deitl y llyfr hwn fod yr awdwr yn defnyddio y gair " diamodol" yma yn gyfystyr a'r frawddeg fod yr iachawdwriaeth "i gyd o ras penarglwyddiaethol y Drindod Anfeidrol." Ac yn ei ragymadrodd, y mae yr awdwr yn egluro ei feddwl yn well. Wedi cyfarch ei "anwyl gyfeillion a'i gyd-deithwyr tua'r byd mawr tragywyddol," dywed wrthynt fod y traethawd hwn "yn dangos fod yr iachawdwriaeth i gyd o ras penarglwyddiaethol y Jehofa, heb ddim teilyngdod yn y dyn." Oni bai mai dyma oedd meddwl yr awdwr wrth y gair "diamodol," byddai teitl y llyfr hwn yn wrthddywediadol; gan y dywedir ei fod yn cynwys anogaethau neillduol i ddyledswyddau Cristionogol." Addefwn fod Shadrach yn uchel-Galfinaidd, ond ni charem i neb feddwl, oddiwrth deitl y llyfr hwn, ei fod yn uwch nag oedd mewn gwirionedd. Diau fod y darllenydd wedi sylwi pa mor barod yw pleidiau gwrthwynebol i gymeryd mantais annheg ar eu gilydd. Gan fod un dosbarth yn dyweyd fod etholedigaeth yn ddiamodol, chwythir yr udgorn yn union, a chyhoeddir ar g'oedd gwlad eu bod yn dyweyd fod iachawdwriaeth (=cadwedigaeth) yn ddiamodol: fel pe bai etholedigaeth ac iachawdwriaeth yr un peth! Oblegyd y duedd anffodus hon, barnasom ei bod yn ddyledswydd arnom roddi ystyr Shadrach ei hun i'r gair "diamodol" yn y cysylltiad uchod. Y mae y llyfr hwn eto yn gynwysedig o ddwy ar ugain o bregethau cyflawn, a dilynir hwy gan bennillion gwell na'r cyffredin o'i eiddo. Erbyn hyn, fe wel y darllenydd fod y tri llyfr diweddaf hyn wedi dyfod allan mor aml a rheolaidd a'r rhai cyntaf gyhoeddid ganddo. Y mae dau reswm dros hyny. Erbyn hyn yr oedd Shadrach wedi dyfod o'i deithiau casglyddol; ac o Ionawr, 1830, hyd ddiwedd 1834, bu ei fab, y Parch. E. L. Shadrach, yn awr o Pembroke Dock, yn cydweinidogaethu âg ef. Y mae hyny, efallai, yn cyfrif dros y ffaith fod ei bregethau, neu, fel y geilw efe hwynt, ei "fyfyrdodau," yn cael eu hysgrifenu yn gyflawnach nag arferol. Y nesaf ydyw,—

"Meditations on Jewels and precious stones, suggested by walking on the Sea Shore at Aberystwyth. Zech. iii. 9. Aberystwyth: printed for the Author by J. Cox, 1833." Gallem feddwl mai ychydig feddyliodd y darllenydd gael cyfarfod â Shadrach ar faes llenyddiaeth Seisonig. Er hyny, yno y mae yn ein harwain yn awr: a rhydd hyny brawf arall i ni nad oes diwedd ar ryfeddodau! Amcan Shadrach yn y llyfryn hwn yw cymhell y rhai fyddo yn chwilio am cornelian stones ar hyd traeth Aberystwyth, i fyned i chwilio am yr hyn a gymherir i geryg gwerthfawr yn yr ysgrythyrau. Nis gallwn wneyd yn well, gyda golwg ar y llyfr hwn, na rhoddi o flaen y darllenydd anerchiad terfynol yr awdwr i'w ddarllenwyr:

"My dear friends,When you search diligently for cornelians and other stones on the sea shore of Aberystwyth, let me invite you to the sea shore of the everlasting gospel, that you may find pearls and jewels to enrich your souls to all eternity, and bathe yourselves in the blood of Christ, and in the fountain which was opened to the house of David, and to the inhabitants of Jerusalem. Amen.

Aberystwyth, June 25, 1821. AZARIAH SHADRACH.

Fel hyn yr oedd Shadrach yn ceisio gwneud defnydd o bob peth i arwain meddwl pobl at grefydd. Os gwir ddywed y Sais fod pregethau mewn ceryg, y mae mor wir a hyny fod Shadrach yn ceisio pregethu oddiarnynt. Gallem feddwl, oddiwrth y ddau ddyddiad, fod y llyfr hwn wedi ei gyhoeddi yn flaenorol, neu ei fod wedi cael ei ysgrifenu lawer o flynyddoedd cyn iddo gael ei argraffi. Y nesaf ydyw,

"Tlysau Aur, i addurno Tlodion Eden, neu fyfyrdodau a sylwadau ar amrywiol o destynau a gwirioneddau pwysig, cynwysedig yn yr ysgrythyrau santaidd, yn nghyd a Hymnau yn canlyn y Myfyrdodau, i gynorthwyo Sion i hwylio ei thelynau wrth deithio adref tua'r nefol drigfanau, ar faesydd purdeb yn ngwlad anfarwoldeb. 1 Tim. iv. 15, Abertawy: argraffwyd gan E. Griffiths, Heol-fawr, 1837." Yn ei anerchiad i'w "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," y mae yr awdwr yn dyweyd nad oes yn awr ond cam rhyngddo ag angeu: a bod llawer o'r hen weinidogion a fu yn cydweitho âg ef yn achos yr efengyl, ac yn cydymdrechu yn mhlaid y ffydd, wedi dyosg eu harfau, Ac yna ychwanega yr hyn a roddwn i lawr yn ei eiriau ei hun:

"Y mae dros ddeng mlynedd ar ugain er pan ddarfu i mi eich anerch gyntaf â chyfran o'm myfyrdodau; ond er cymaint o fyfyrdodau a gyhoeddais, y maent yn myned oddiwrthyf oll yn fuan; am hyny yr wyf yn gobeithio fod rhywrai yn cael hyfrydwch wrth eu darllen, fel y cefais inau wrth eu myfyrio. Gallaf dystio, yn ymyl y bedd, mal bywyd hyfryd iawn yw bywyd o fyfyrdod ar air Duw, ac ar bethau ysbrydol a thragywyddol; ac yr wyf yn gweddio yn ddifrifol am i hyn o fyfyrdodau, a phob addysgiadau buddiol, fod o les i'ch eneidiau anfarwol, i'ch addfedu i'r aneddle lonydd, ac i'r orphwysfa nefol.

Wyf, eich annheilwng was yn yr efengyl, Hydref 21, 1836.

AZARIAH SHADRACH.

Llyfr o bregethau cyflawn eto ydyw hwn, gyda'r hymnau "j gynorthwyo Sion i hwylio ei thelynau" wrth reswm. Mae testynau neu bynciau y pregethau oll yn bwysig; ond nid yw yn ymddangos i ni fod un canolbwynt i'r llyfr hwn er rhoddi cyfanrwydd iddo. Ceir ynddo ar 192 o dudalenau, ymdriniaeth syml ac ysgrythyrol ar brif bynciau crefydd. Ni welsom ond un argraffiad o'r Tlysau hyn, Y mae llyfrau yr awdwr yn y blynyddoedd hyn, ac o hyn yn mlaen hyd ddiwedd ei oes, yn llawer mwy mewn maint, ac yn well mewn golwg, nag yn mlynyddoedd cyntaf ei awduraeth. Pa un ai ynddo ef ei hun, ynte yn ei amgylchiadau, ynte yn ysbryd mwy darllengar yr. oes, y mae y rheswm dros hyn, nis gwyddom; efallai yn mhob ụn o'r tri, Y nesaf yw,—

"Blodau y Ffigysbren, neu Fyfyrdodau Difrifol ar amrywiol o bethau sobr, ag sydd yn dal perthynas dragywyddol â'r hil ddynol; sef Ardderchawgrwydd a Gwerthfawrogrwydd Gwir Grefydd; mai dyledswydd pob dyn yw cadw gwinllan ei galon ei hun, a gwylio ar ei enaid; am y gwahaniaeth sydd rhwng y gwir Gristion a'r rhagrithiwr, a rhwng y duwiol a'r annuwiol.

у Hefyd, am wagder y byd, dysgeidiaeth yr Ysbryd Glan, a ffyddlondeb Duw i'w holl addewidion a'i fygythion; yn nghyd a hymnau yn canlyn y myfyrdodau, i sirioli eneidiau y saint yn Bochim, gwlad y galarnadau, Hạb, üi. 17; Mat. xxiv. 32. Abertawy: argraffwyd gan E, Griffiths, Heol-fawr, 1837." Tudalenau, 144. Y mae y wyneb-ddalen yn cynwys prif bynciau y llyfr hwn. Y mae yn gywir ar yr un cynllun a'i lyfrau ereill; ac yn cyfranogi o ragoriaethau a ffaeleddau y lleill. Y mae yn cynwys ugain o bregethau cyflawn, oddieithr y ddiweddaf. Y mae y darllenydd yn sylwi fod yr awdwr, erbyn hyn, wedi taro wrth frawddeg newydd i amlygu amcan yr. hymnay. Y nesaf ydyw,—

"Cerbyd o Goed Libanus; neu Sylwadau a Myfyrdodau ar lawer o adnodau, ac ar amryw o faterion pwysig cynwysedig yn yr ysgrythyrau santaidd; sef,—I. Myfyrdod ar gerbyd Solomon. II. Ar sefyllfa druenus y cenedloedd ag sydd heb yr efengyl. III. Sylwadau ar lawer o ysgrythyrau sydd yn dangos y bydd i'r efengyl gael ei phregethu drwy yr holl fyd, ac y dychwelir y cenedloedd yn gyffredinol at yr Arglwydd. IV. Fod tyrfa fawr i ddyfod i Sion yn y man. V. Fod amser hyfryd ar wawrio ar y byd yn gyffredinol. VI. Am yr Achan sydd yn bresenol yn achos o aflwyddiant, a'r modd i gael gafael ynddo. VII. Am y gogoniant yn ymadael o Israel. VIII. Am yr angel yn codi ei law i'r nef, ac yn tyngu i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, na bydd amser mwyach. Yn nghyd a hymnau yn canlyn yr holl fyfyrdodau. At yr hyn yr ychwanegwyd hanes byr o fywyd yr awdwr. Act. viii. 29. Aberystwyth: argraffwyd gan D. Jenkins, Heol-Fawr. 1840." " Dos yn nes a glyn wrth y cerbyd yma," meddai yr awdwr wrthym drwy y motto a ddewiswyd ganddo ar y wyneb-ddalen. Dyna ddywedwn ninau wrth y darllenydd ar ei ol. Wedi gadael o honom y "Cerbyd Aur," aiff y cerbyd hwn â ni bellach i ben ein taith, er pelled yw. O ran dim a glywsom, dyma y cerbyd olaf a adeiladwyd gan Azariah Shadrach; ac aeth hwn ag ef i lan yr Iorddonen. Yno, daeth cerbyd tanllyd a meirch tanllyd byd arall i ymofyn am dano; a chipiwyd ef ganddynt o ymyl ei gyfeillion, gan y rhai nid oedd dim mwyach i'w wneud ond gwaeddi yn alarus, "Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i farchogion!" a dymuno am i ddau parth o'i ysbryd ffyddlon a gweithgar syrthio, nid yn unig arnynt hwy, ond hefyd ar bawb fyddent yn ymaflyd yn yr un gwaith ag ef. O gerbyd i gerbyd, aeth ef i ben ei daith o'r diwedd. Mwyach, dymunwn heddwch i'w lwch! Wrth derfynu ei anerchiad yn hwn i'w anwyl gyfeillion a chydwladwyr," y mae yr awdwr yn dyweyd.

"Yr ydwyf yn gobeithio y cewch chwi wrth ddarllen y myfyrdodau hyn eich llenwi o sel santaidd, danllyd, dros anfon yr efengyl i holl deuluoedd y ddaiar, a'ch tueddu i gyfranu yn helaeth o'ch trugareddau tymhorol at anfon Beiblau a chenadau hedd at y bobl sydd yn methu o eisieu gwybodaeth.

Hyn yw dyniuniad eich ufydd was yn yr efengyl, Aberystwyth, Awst, 1840.

A. SHADRACH."

Fel yr awgrymasom yn y bennod gyntaf ar Fywyd a Gweithiau ein hawdwr, yr ydym yn ddyledus i'r byr hanes a roddir ar ddiwedd y llyfr hwn am lawer o ffeithiau hanesyddol ei fywyd. Gresyn fod bywyd mor ddefnyddiol a llafurus wedi ei adael mor ddigoffadwriaeth cyhyd.

Yr ydym, erbyn hyn, wedi rhoddi bras-gyfrif o gynifer ag ugain llyfr wedi eu cyhoeddi ganddo; ond os gwna y darllenydd edrych eto ar hysbysiad amlen "Dyfroedd Siloam," caiff weled fod yno rai yn cael eu haddaw, nad oes genym yr un cyfrif am danynt; sef, Darn o Bomgranad, Modrwyau Aur, Boglynau o Arian, Maes Boaz, Gwisgoedd y Cysegr, a'r Mor Tawdd. Yr oedd y rhai hyn oll "agos a bod yn barod" yn y flwyddyn 1827; ond methasom yn deg a chael golwg ar gymaint ag un o honynt. Clywsom, fodd bynag, gyda sicrwydd, fod y Mor Tawdd a Maes Boaz, wedi eu cyhoeddi; a hysbyswyd ni gyda chryn hyder, fod y Boglynau o Arian wedi eu cyhoeddi hefyd. Ni wyddom ddim am y lleill. Heblaw y rhai hyn eto, gwelsom hysbysiad yn Seren Gomer, am ryw flwyddyn, y byddai llyfr hymnau bychan, dan yr enw Mer Awen, i wneud ei ymddangosiad; ond nid oes genym ddim i ddyweyd am hwn ychwaith. Fel hyn, ynte, y mae genym sicrwydd fod Azariah Shadrach wedi cyhoeddi cynifer a thri ar ugain o lyfrau o wahanol faintioli, a thybiaeth ei fod wedi cyhoeddi rhagor. Yn ddiau, yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth.

Ei ddawn broffwydol

Ond y mae genym olwg arall eto i'w chymeryd ar Shadrach. Mae genym brofion fod y ddawn broffwydol yn syrthio arno weithiau; gosodwn y profion gawsom o flaen y darllenydd, a chaiff ef gyfrif drostynt fel y byddo yn gweled oreu. Y mae yn ddiau fod y darllenydd wedi clywed yn aml, fod llawer o'r hen bobl yn cael eu hystyried yn broffwydi; felly y cyfrifid y Parch. Edmund Jones, o Bontypool; a'r Parch. Lewis Morris, hen weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, heb son am ereill. A chan nad sut i gyfrif am y peth, ymddengys eu bod yn bur gywir, fwy nag unwaith, yn eu rhagddywediadau. Caiff y darllenydd ddyweyd, os myn, mai synwyr cyffredin cryf oedd yn eu galluogi i weled rhediad, neu dueddiad pethau; neu, caiff ddyweyd, os myn, fod duwioldeb mawr yn dwyn teimladau a dymuniadau dyn i gyd-gordio, neu gydredeg â gweithredoedd Duw; a bod dyn duwiol iawn, gan hyny, drwy ymgynghori â'i: deimladau a'i ddymuniadau ei hun, yn gallu deall y dyfodol yn well nag ereill; neu, os myn eto, caiff ddyweyd fod "dirgelwch. yr Arglwydd," gyda golwg ar y dyfodol, "gyda'r rhai a'i hofnant ef," yn gystal a bod ei "gyfamod i'w cyfarwyddo hwynt." O'n rhan ni, caift y darllenydd gyfrif am y peth yn y ffordd a fyno; ein gwaith ni yw dangos Shadrach i'r darllenydd fel y dangosodd efe ei hun.

Ymddengys fod Shadrach yn arfer dyweyd, oddeutu deg mlynedd ar ugain yn ol, am gorff parchus y Methodistiaid Calfinaidd, fel hyn,—"Fe gewch chwi weled," meddai, "na fydd y Methodistiaid ddim fel y maent yn awr yn hir (yn teithio); pan fyddont oddeutu can mlwydd oed fel enwad, byddant yn ymofyn gweinidogaeth sefydlog.". Nid oes eisieu dyweyd dim am gywirdeb. y rhagfynegiad hwn.

Rhoddwyd yr hanesyn canlynol i ni, hefyd, o enau Shadrach ei hun, gan un o'i gyfeillion parchedig. Pan oedd Shadrach yn Llundain, yn casglu at gapel Aberystwyth, yr oedd dyn ieuanc i gael ei urddo yn weinidog ar eglwys benodol yn ngogledd neu ddeheudir Cymru, nid oes eisiau dyweyd yn awr pa le. Yr oedd Shadrach yn dygwydd bod dipyn yn gyfarwydd âg amgylchiadau yr eglwys hon; ac oblegyd rhyw resymau neu. gilydd yr oedd yn teimlo cryn ddyddordeb yn ei llwyddiant. Ac, yn anffodus, nid rhyw foddhaol iawn y teimlai wrth feddwl am yr urddiad bwriadedig. Pan ddaeth y dydd penodedig oddiamgylch, cymerodd Shadrach ei giniaw casglyddol yn ei logell fel arfer-sef ychydig o fara a chaws neu'r cyffelyb—a dechreuodd ar ei waith: ond erbyn deg o'r gloch, amser yr oedfa urddiadol, yr oedd wedi ymdynu at hen gladdfa glodfawr Bunhillfields. Aeth i mewn, ac eisteddodd ar feddfaen ei hen frawd, a'i ragflaenor urddasol, John Bunyan. Tra yn eistedd yma, bwytaodd ei damaid, ac arosodd yno hyd nes oedd yn barnu fod oedfa yr urddiad yn Nghymru drosodd. Ac wedi eistedd ar feddfaen arch-freuddwydiwr y byd am gymaint o amser, nid rhyfedd iddo yntau ddechreu breuddwydio. Cyfododd ar ei draed a dywedodd, "Wel," ebe fe, " dyna waith wedi ei wneud yno heddyw, na fydd ond byr iawn ei barhad, ond gofidus iawn ei ganlyniadau." Ac felly yn union y bu! Cyn pen deufis wedi diwrnod yr urddiad, yr oedd yr undeb gwelnidogaethol wedi ei dori, a charedigion crefydd yn gorfod yfed bustl a wermod. Y mae genym y dystiolaeth grefaf dros hyn oll.

Ond y pethau rhyfeddaf yw y pennillion canlynol. Ysgrifenwyd hwynt ganddo Mai 26, 1836, mewn lle o'r enw Cae'r Saer, yn ymyl Machynlleth, lle yr oedd wedi bod yn lletya noson; a rhoddwyd hwynt ganddo i'r diweddar Mr. Lewis, yn mysg papyrach yr hwn y cafwyd hwynt wedi ei farwolaeth, ryw bedair neu bum mlynedd yn ol. Ni fuont yn argraffedig o'r blaen; ac os addawa'r darllenydd fod yn dyner o'r farddoniaeth, ni a'u rhoddwn hwynt yma, i fod mewn cof a chadw, hyd oni chyflawner hwynt oll, " yn mhen oesoedd 'nol fy nghladdu," ys dywed yntau.

MYFYRDOD AR AFON DYFI.

Mai 26, 1836.

A. S.

Mae Creawdwr mawr y bydoedd,
'Rhwn a luniodd dir a moroedd,
Yn anfeidrol mewn doethineb,
Nerth, a gallu, a ffyddlondeb.

Fe a luniodd y mynyddoedd,
Yr afonydd, a'r holl foroedd
Ac fe drefnodd afon Dyfi,
I ddybenion mawr aneiri'.

Y mae Dyfi yn rhagori,
Braidd, ar holl afonydd Cymru;
Bydd yr afon hon yn hynod
Mewn rhyw oesoedd sydd i ddyfod.

Can's ni threfnodd y Mawrhydi,
Y fath un ag afon Dyfi,
Heb ei gwneud yn dra defnyddiol;
I fyrddiynau o'r hil ddynol.

Fe gulheir yr afon yma,
A hardd gloddiau o'r cadarna';
Bydd yn afon dda ragorol,
Ac yn borthladd tra dymunol.

Fe ddaw llongau'n ddirifedi,
Cyn bo hir i afon Dyfi,
Rhai o India, rhai o China,
A rhifedi mawr o Rwsia,

Fe ddaw llongau Philadelphia,
A rhai ereill o Jamaica,
Ac o dref Caerefrog Newy',
Ac o Quebec, i afon Dyfi.

Fe geir gafael mewn trysorau,
Mawr, aneiri', mewn mynyddau;
Ac fe'u cludir lawr i Dyfi,
I'r holl longau i gael llwythi.

Ac fe geir trysorau mawrion,
Yn Dylifau a Phumlumon;
Ac fe'u cludir mewn wagenau,
Lawr i Dyfi at y llongau.

Fe geir gafael mewn trysorau,
A fu'n ddirgel i'r hen dadau;
Plwm, a phres, a chopr lawer,
Efydd, haiarn, arian dysglaer.

Y mae yn mynyddau Meirion
Lawer o drysorau mawrion,
Ac fe'u cludir lawr i Dyfi,
Yn dunelli dirifedi.

Fe ddaw llu o ddynion medrus,
Cyn bo hir i Gadair Idris;
Ac a'i cloddiant hi i'r gwaelod,
A chânt ynddi drysor hynod.

Ac fe garir ei thrysorau,
Lawr i Dyfi at y llongau;
Ac fe'u cludir dros y moroedd,
Draw i blith yr holl genedloedd..

Mae yn mlaenau Ceredigion,
Lwythi o drysorau mawrion;
Ac fe'u carir lawr i Dyfi,
Cyn bo hir i gael eu gwerthu.

'Rwyf yn tystio i chwi'n bendant,
Fod trysor mawr wrth afon Llyfnant;
A cherllaw i'r Glasbwll hyfryd,
Y ceir llawer iawn o olud.

Uwchlaw'r Eglwysfach, a'r Gareg,
Fe geir trysor yn ddiatreg;
Ac fe'i cludir lawr i Dyfi,
I fyn'd i'r gwledydd pell i'w gwerthu.

Fe fydd dynion fel y milgwn,
Ar fynyddau sir Drefaldw'n,
Yn cael gafael mewn mawr drysor,
Ha'rn, a phlwm, a phres, a chopor.

Ac fe'u cludir yn dunelli,
Lawr i Dyfi at eu gwerthu;
Fe â Dyfi yn dra godidog,
Ac yn borthladd mawr ac enwog.

Mae'r mynyddau sy'n dra anial,
'Nawr uwchlaw i bentref Pennal,
Yn llawn trysor maes o'r golwg;
Cyn bo hir fe ddaw i'r amlwg.

Ac fe gludir meini llechau,
Lawr o Goris yn filiynau,
I lan Dyfi mewn llawenydd,
I'w trosglwyddo i'r holl wledydd.

Fe fydd trefydd ac eglwysi,
Cyn bo hir ar lanau Dyfi;
A hwy fyddant yn fwy hynod
Na hen drefydd Cantref-gwaelod.

Gwneir pont ha'rn dros afon Dyfi,
A bydd miloedd yn ei thramwy,
Wrth ddod lawr o Gadair Idris,
I'r dref hardd fydd ar Foelynys..

Bydd y bont yn ddigon uchel,
I'r llong fwyaf ddod yn ddyogel,
Dros y bar yn dra diangol,
Mewn i'r porthladd hardd dymunol.

Fe dueddir boneddigion,
Rhai o'r Cymry, rhai o'r Saeson,
I fyn'd ati a'u holl egni,
I brydferthu afon Dyfi.

Fe fydd Dyfi yn rhagori
Yn mhell âr holl borthladdoedd Cymru;
Bydd ei masnach yn rhyfeddod,
Yn yr oesoedd sydd yn dyfod.

Fe wneir camlas o lan Dyfi,
Neu ffordd haiarn i'r Drefnewy';
Ac fe gludir o'r mynyddau,
Lawr i Dyfi fawr drysorau.

Fe wneir camlas o lan Dyfi,
Cyn bo hir i Ddinasmawddy;
Ac fe gloddir y mynyddau,
Nes cael gafael mewn trysorau.

Fe geir miloedd o dunelli
Yn mynyddoedd Dinasmawddy,
O drysorau mawr, ardderchog;
'Nawr bydd Dyfi yn dra enwog.

Bellach, Gymry, 'rwyn terfynu
Hyn o broffwydoliaeth i chwi;
Fe'i cyflawnir oll am Dyfi,
Yn mhen oesoedd 'nol fy nghladdu.

Ond cewch weled rhyw arwyddion,
Cyn bo hir 'r hyd glan yr afon,
Mai gwirionedd wyf yn draethu,
Am enwogrwydd afon Dyfi.

Bellach, beth feddylia'r darllenydd am y broffwydoliseth hon? Na ddechreued feirniadu ar y cyfansoddiad o ran iaith a threfn; ond gadawed i ni ystyried y rhagfynegiadau mewn cysylltiad â ffeithiau y dyddiau presenol. Dywedir ganddo yn y pumed pennill, y caiff yr afon hon ei chulhau "a hardd gloddiau o'r cadarna'." Erbyn hyn, y mae cwmni wedi cael ei ffurfio, ac act seneddol wedi ei phasio, dan yr enw Dovey Land Reclamation Act, er awdurdodi y cwmni hwnw i gyflawni y rhagfynegiad hwn yn llythyrenol—i gulhau, ac mewn canlyniad, i ddyfnhau yr afon, i sychu Cors Fochno, o enwogrwydd hanesyddol, ac i godi cloddiau priodol rhag gorlifiad y môr. Gyda golwg ar y "llongau," yn y chweched a'r seithfed pennill, y mae pawb yn gwybod fod Aberdyfi eisoes yn borthladd pwysig; ac y mae arwyddion y daw yn bwysicach fyth, pan unir ef â chanol y wlad drwy y railways sydd yn awr ar droed. Gyda golwg ar y trysorau y rhagfynegir am danynt yn yr wythfed, nawfed, a'r degfed pennill, digon yw dyweyd fod y Dylifau eisoes yn glodfawr gyda golwg ar ei blwm, ei arian, a'i gopr. Un o'i berchenogion yw John Bright, Ysw., A.S.; ac y mae godrëon Pumlumon yn frith gan weithiau plwm. Cafwyd copr hefyd yn nghylch y broffwydoliaeth hon, heblaw ar y Dylifau. Am drysor hynod Cadair Idris, yn y deuddegfed pennill, y mae y cyhoedd yn gwybod eisoes, gan fod cyflawnder o fwn haiarn rhagorol wedi ei ddarganfod yno yn ddiweddar; ac y mae y cyhoedd yn gwybod yn dda am yr aur a godir yn y cymydogaethau cyfagos; ac yr ydys yn awr wrth y gorchwyl o wneud tramway i gymydogaeth y Gadair o un tu, a railway o'r tu arall; a bydd y naill a'r llall yn gyfleus i gario ei thrysorau i afon Dyfi. Erbyn hyn y mae survey wedi cael ei gwneud i droi y rhan fwyaf o'r tramway uchod yn rheilffordd, i redeg o Fachynlleth drwy Goris ac Aberllefenni, heibio i gymydogaeth Cadair Idris, lle y mae y ceryg haiarn, i gyfarfod â llinell y Bala a Dolgellau.—Bwriedir cael act yr eisteddiad hwn (1863). Am y trysorau mawrion y sonir am danynt o'r pedwerydd pennill ar ddeg hyd y pedwerydd ar bymtheg, gellir dyweyd fod trigolion y gymydogaeth yn gwybod erbyn hyn am lawer o honynt, er eu cysur a'u gorfoledd; a gobeithia pobl Pennal, ar sail dda, fod yr olaf yn wir am eu mynyddau anial hwythau. Am "lechau Coris," nid oes dim yn eisieu ond dyweyd fod gwerth miloedd lawer o honynt yn cael eu cludo oddiyno ac o Aberllefenni bob blwyddyn, "i lan Dyfi mewn llawenydd." Am drefydd ac eglwysi pennill yr unfed ar ugain, ni a adawn i bobl yr oesoedd sydd i ddyfod i siarad. Ond y mae y pennill nesaf-yr ail ar ugain, yn teilyngu sylw neillduol. Hysbysir ni ynddo y bydd pont ha'rn" dros afon Dyfi, yn arwain "i'r dref hardd fydd Car Foelynys." Yn awr, y mae y Foelynys yn sir Aberteifi, gyferbyn ag Aberdyfi, ac ar lan yr afon a'r mor, Ar lawn llanw, y mae lled yr afon yn y man hwn, ddywedir, oddeutu dwy filldir; ac yr oedd meddwl am "bont ha'rn" yma o gwbl yn dra beiddgar; ond erbyn hyn, ddarllenydd, y mae y "bont ha'rn " wedi ei dechreu gan y Welsh Coast Railway Company, —a gobeithiant y gallant ei gorphen rywbryd! Bwriedir iddi gynwys dwy fynedfa—-un uwchlaw y llall: yr isaf i wyr traed, marchogion, a cherbydwyr cyffredin, a'r un oddiarni i'r trains. Ac er na fwriedir i'r bont hon fod yn ddigon uchel i'r "llong fwyaf" fyned yn ddyogel odditani, (er y bydd yn rhaid iddi fod yn uchel iawn,) eto, gan y bydd rhan o honi yn fath o draw-bridge, bydd amcan y broffwydoliaeth gyda golwg ar y "llong fwyaf" yn cael ei gyrhaedd. Heblaw hyn eto, y mae Mr. Savin, contractor y railway hon, erbyn hyn wedi prynu cyffiniau'r Foelynys, am saith mil o bunoedd; a chan y bydd yno railway junction bwysig, heblaw ymdrochle hyfryd, teimlir yn lled sicr y bydd yno" dref hardd" yn fuan. Fel hyn y mae yr ail ar ugain, y trydydd ar ugain, a'r pedwerydd ar ugain, wedi eu cyflawni yn mron yn llythyrenol. Y mae y chweched ar ugain eto yn deilwng o sylw. Dywedir yma y bydd "camlas," neu " ffordd haiarn," o lan Dyfi i'r Drefnewydd. Erbyn hyn, y mae ffordd haiarn wedi ei hagor o'r Drefnewydd i Fachynlleth; ac y mae prysurdeb mawr yn cael ei ddangos i'w hestyn o Fachynlleth i'r Borth, ar lan y mor. Y mae y pennill hwn, ynte, wedi ei gyflawni yn llythyrenol. Am y camlas, &c., i Ddinasmawddy, nid oes genym ddim i'w ddyweyd: tebyg fod y dernyn hwn i gael ei gyflawni "yn mhen oesoedd 'nol fy nghladdu!" Gallwn ddyweyd, fodd bynag, fod genym, nid "arwyddion," ond profion cryf yn ffeithiau y dyddiau presenol, fod Shadrach, hyd yn hyn, wedi bod yn lled hapus fel rhagfynegydd. Ni a obeithiwn na chyll ei gymeriad yn y dyfodol.

Buom yn bur bryderus, ddarllenydd hynaws, pa un a roddem y broffwydoliaeth hon i'w hargraffu ai peidio. Yr oedd arnom ofn y byddai rhai yn tybied nad oedd yn ddigon "clasurol " a dyfnddysg. Erbyn hyn, fodd bynag, penderfynasom wneud; yn un peth, fel y gallo'r darllenydd beirniadol gael tipyn o psychological exercise, i gyfrif pa fodd y gallodd Shadrach, saith mlynedd ar ugain yn ol, ragfynegu cynifer o ffeithiau y dyddiau presenol mor gywir.

"Gwawdio'i weithiau yw arferiad rhai doctoriaid yn ein mysg;
Doethwyr mawrion, coeth, clasurol, fynent gadw'r byd drwy ddysg!
Pe cyflawnai un o honynt chwarter ei orchestion ef,
Byddai beth yn haws i'm clustiau oddef eu hasynaidd fref!

Bu ei lyfrau yn fendithiol, do, i filoedd yn eu dydd,
Er cyffroi eneidiau cysglyd, a chysuro teulu'r ffydd;
Do, bu llawer un yn derbyn uchel glod mewn gwlad a thref,
Wrth ailadrodd ei bregethau; tynu dwfr o'i bydew ef."


PENNOD IV

Buom, hyd yn hyn, yn edrych yn hanesyddol ar Shadrach, yn ei lafur gweinidogaethol ac awdurol. Oddiar y ffeithiau a. gofnodasom, ac ereill y cawn eu cofnodi eto, ni a geisiwn, yn y bennod hon, dynu math o ddarlun o hono yn ei wahanol gymeriadau. Gan nad oes genym gof ddarfod i ni ei weled yn bersonol, yr ydym yn teimlo ein bod dan anfantais i'w arddangos yn briodol o ran y dyn oddiallan. Ond, er iddo farw, y mae efe eto yn fyw, o ran ei gymeriad moesol a gweinidogaethol, yn nghof a chydwybodau y sawl y bu yn dylanwadu arnynt. Y mae pob dyn yn byw felly, yn ol nerth y dylanwad a arferodd, a'r amser y bu yn dylanwadu: ac y mae gweinidogion yr efengyl felly yn neillduol. Hyd yn hyn, hefyd, y mae yn fyw o ran ei gymeriad awdurol, yn y llyfrau lluosog y cyfeiriasom atynt. Ceisiwn ninau ei ddangos, yn awr, i'r darllenydd, fel y mae yntau yn dangos ei hun yn y naill ffordd a'r llall.

Yn ffodus iawn, darfu i ni, yn ein hymchwiliadau, ddyfod o hyd i ddarlun bychan tlws o hono o ran ei berson, wedi ei dynu gan awen chwaethus a chelfydd Mr. Robert Jones, Aberystwyth. Gan ei bod yn anhawdd cael ei well, gosodwn ef yma o flaen y darllenydd:—


"Hoff fydd gan olafiaid wybod ffurf a llun ein harwr hyf,
Bychan ydoedd o gorffolaeth, eto lluniaidd, llym, a chryf;
Talcen uchel, llygad treiddgar, trwyn eryraidd, gwefus laes,
A grymusawl lais, gyrhaeddai'r crwydryn pellaf ar y maes."


Y mae'r darlun yn gelfydd, onid yw, ddarllenydd? Ydyw, a mwy na hyny, y mae yn gywir. Gall ei hen gyfoedion sydd eto yn weddill, a'i gydnabyddion lawer, ei adnabod ynddo rhag blaen. Nid oes eisieu i'r rhai hyn gael enw Shadrach odditano; er ei adnabod, fel y dywedir fod yr enw dyn, ceffyl, aderyn, &c., dan ddarluniau gan rai painters, fel na byddai neb mewn amryfusedd yn cymeryd y naill ddarlun yn lle y llall. Dangosir ef yn y darlun hwn fel un bychan o gorffolaeth; ond gan ei fod yn iach ac yn gryf, nid ydym yn sicr nad oedd y bychander hwn yn fantais iddo, pan feddyliom am lafur ac eangder maes ei weinidogaeth. Anhawdd fyddai i ddyn mawr a thrwm ateb i holl alwadau maes fel Talybont, ar ei draed ei hun, fel y gwnai Shadrach. Ond y mae pob mantais yn y byd hwn yn flinio âg anfantais; a chlywsom fod bychander ei dŷ oddiallan wedi bod yn gryn brofedigaeth iddo unwaith. Dywedir ei fod ef, a chyfaill iddo, sydd eto yn fyw, ar daith bregethwrol yn y Gogledd. Ar nos Sadwrn, daethant i ardal wledig yn Meirion, lle yr oeddynt i bregethu y bore dilynol. Dranoeth, codasant yn foreu, ac aethant i edrych ar drefniadau mewnol yr addoldy. Gan fod y ddau yn fychain o gorffolaeth, a'r pulpud yn ymddangos yn lled ddwfn, aethant i fyny er mesur eu hunain wrtho; ac er eu trallod, cawsant allan mai prin iawn y gallent, yn enwedig Shadrach, weled nemawr o'r gwrandawyr dros ei ymylon. Gwybydded y darllenydd ieuanc fod yr hen areithfaoedd yn llawer tebycach i ffauau anifeiliaid gwylltion, nag i safleoedd cenadon hedd. Melldith ar goffadwriaeth y pethau lledchwith! lladdasant lawer o bregethau da; ie, ac o bregethwyr da, erioed. Ond tuedd eithafion yw cynyrchu rhai cyferbyniol iddynt eu hunain; ac erbyn hyn, y mae pobl yn rhedeg i'r eithafion cyferbyniol i'r hen bulpudau—y stage. Os oedd yr hen bulpudau yn cuddio görmod ar y pregethwr, y mae y stage yn rhoddi mantais ragorol iddo ddangos ei hun o leiaf, gan nad beth arall a ddangosir ganddo. Yn mhell y byddo y stages eto! Hawyr, ai tybed nad oes man canol rhwng y cage a'r stage? Ond i ddychwelyd. Aeth Shadrach a'i gyfaill allan, a dygasant i mewn ddwy neu dair o geryg golygus, a gwnaethant safle cymhwys ar waelod y pulpud; ac yna dychwelasant i'w lletty yn llawen. Daeth amser yr oedfa, a llanwyd y tŷ o wrandawyr; ond och! pan esgynodd y pregethwyr i'r areithfa, mawr oedd eu gofid wrth ganfod fod rhyw law angharedig wedi tynu eu hadeilad i lawr, a chario y defnyddiau i ffwrdd; a mwy fyth oedd eu profedigaeth, pan glywsant un o'r hen frodyr yn hysbysu y gynulleidfa, fod rhyw ddyhiryn neu ddyhirod wedi bod yn euog o'r fath waith halogedig a thaflu ceryg mawrion i'r pulpud; a dymunai ar bawb wneud eu goreu i gael allan y troseddwr! Dywedir yn y darlun uchod, hefyd, fod gan Shadrach "lais grymusawl;" ac fel enghraifft o hyny, gallwn nodi fod Mr. Morgan, yn Hanes Ymneillduaeth, yn dyweyd ei fod unwaith yn pregethu mewn lle o'r enw Tynewydd, yn Sir Gaernarfon. Pan yn pregethu, dygwyddodd fod morwyn i offeiriad erlidgar yn y gymydogaeth yn sefyll ar fryn, oddeutu dwy filldir o'r lle; clywai y ferch hon ef, hyd yn nod o'r pellder hwn, a deallodd amryw ranau o'i bregeth. Dychwelodd y forwyn i'r tŷ, ac adroddodd y rhanau a glywsai o'r bregeth wrth ei meistres. Er ei llawenydd, atebwyd hi gan ei meistres, "Ni rwystraf fi mo honoch chwi byth yn rhagor; ond gochelwch rhag i'ch meistr wybod eich bod yn myned yno." Pwy a ddywed nad oes daioni mewn gwaeddi, ynte!

Cawn weled ei gymeriad moesol, fel dyn a Christion, yn ei gymeriad fel gweinidog. Er nad yw pob dyn yn weinidog, eto gall gweinidogion ddyweyd, "Dynion ydym ninau hefyd;" ac fel y byddo'r dyn, fel hyny hefyd y bydd y gweinidog wneir o hono. Llawrwaith i gymeriad y gweinidog yw ei gymeriad fel dyn. Ac oblegyd hyn nis gallwch ddysgwyl gweinidog da os na fydd genych ond dyn gwael. Os llawrwaith pwdr fydd genych, nis gallwch ddysgwyl i'r goruwchadeilad fod yn gryf. Nid yw y "marwol" yn y dyn yn cael ei lyncu yn yr hyn sydd "fywyd" yn y gweinidog. Na, gellir ei chymeryd yn seilwir, fod y dyn yn dangos ei hun bob amser yn y gweinidog, gan nad pa un ai drwg ynte da fyddo. Ac y mae o bwys dirfawr i'r eglwysi gofio hyn pan yn cymhell dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Dalier mewn cof yn wastadol, nas gellir gwneud dim o ddyn o feddwl gwan, a masw, ac o gymeriad gwael, ond gweinidog o'r un nodwedd. Y mae o bwys annhraethol i'n heglwysi fod cymeriad y weinidogaeth, gyda golwg ar feddwl a moesau, uwchlaw amheuaeth. Du iawn fyddai'r diwrnod, pe bai raid i gorff ein haelodau edrych lawr ar eu hathrawon; ac ofnadwy yw sefyllfa yr eglwys hono sydd a'i gweinidog yn byw ar oddefiad, am ei fod yn rhy wan fel dysgawdwr a blaenorydd, i hawlio edmygedd a pharch. Y mae difiandod neu ffrwydriad yn sicr o gymeryd lle yn yr eglwys hono; ac, o'r ddau, gallai fod ffrwydriad yn well. Gwaith anhawdd yw cyfanu ar ol ffrwydriad; ond gwaith anhawddach, feddyliem, na hyny yw rhoi bywyd i'r hyn fyddo wedi marweiddio. Unwaith eto y dywedwn ynte, na foed i'n heglwysi gymhell neb i'r weinidogaeth, os nad yw eu nodweddion, o ran meddwl a bywyd, o leiaf, yn rhoddi boddlonrwydd iddynt. A ydyw eglwysi yn gofyn, pa le y gallwn gael digon o rai teilwng? Mae'r ateb yn barod–Ewch at yr Arglwydd i ymofyn am danynt yn gyntaf: wedi hyny edrychwch yn fanwl am danynt yn mysg eich pobl ieuainc; a phan weloch arwyddion boddhaol fod rhai wedi eu cymhwyso gan Dduw, byddwch yn gydweithwyr â Duw er eu codi i'r man lle dylent fod.

Nodweddid Shadrach gan dduwioldeb diamheuol. Y mae pawb yn unfarn gyda golwg ar hyn. Er clustfeinio o honom lawer, ni chlywsom sibrwd o amheuaeth ar y pwnc hwn; ac nid ydym yn meddwl y gall dim ond duwioldeb amlwg a diamheuol gynyrchu unoliaeth mor berffaith, lle mae'r barnwyr mor lluosog ac amrywiol. Ac os gwna y darllenydd alw i gof y llafur diflino, a'r helyntion blin y darfu i ni eisoes gyfeirio atynt, y mae yn ddiau genym y bydd ei farn yntau yn sefydlog a ffafriol ar y pen hwn. Diau fod cymaint o lafur, mewn amgylchiadau mor anffafriol, yn profi bodolaeth cariad at Grist fel egwyddor gymhellol; a diau mai yn hyn yr oedd cuddiad ei gryfder. Er nas gall duwioldeb diamheuol wneud y tro i weinidog yn lle cymhwysderau ereill, eto y mae duwioldeb felly rywfodd yn angerddoli pob peth arall. Aiff dwy dalent y dyn diamheuol dda yn mhellach na deg talent dyn arall. Y mae dau reswm dros hyny:-Dylanwad duwioldeb o'r fath ar y dyn ei hun ydyw un rheswm; a'i ddylanwad ar bobl ereill fyddo yn credu yn ei bodolaeth yw y llall. Iechyd enaid yw duwioldeb; a diau y gall yr enaid, fel y corff, weithio llawer iawn mwy, ac yn llawer iawn gwell, pan fyddo yn iach nag fel arall, gan nad faint fyddo ei alluoedd cynhenid. Gellir cael esgyrn a gwythi mawrion a godidog i enaid, yn gystal ag i'r corff; ond ychydig wneir wedi'r cwbl, os na fydd yno iechyd. Rydd duwioldeb ddim mwy o ddeall i'r dyn nag o'r blaen; ond bydd yn oleuni yn y deall. Yn yr ystyr o wir wybodaeth hefyd, gellir dyweyd, mai "dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd." Rydd duwioldeb ddim mwy o galon nac ewyllys i'r dyn chwaith; ond rhydd y fath wres yn y galon, a'r fath hyblygrwydd at dda, a'r fath anhyblygrwydd oddiwrth dda, yn yr ewyllys, nes eu gwneud gyda golwg ar eu gwaith yn gwbl wahanol i'r hyn oeddynt o'r blaen. A galw duwioldeb dan yr enw gras, fel yr arferai yr hen bobl mwyaf grasol wneud, y mae yn ddiau genym y gallai Shadrach ddyweyd mewn cyfeiriad ati, gyda golwg arno ei hun fel gweinidog, " Trwy ras yr ydwyf yr hyn ydwyf." A'r foment y daw dynion ereill i gredu yn nuwioldeb diamheuol dyn, byddant drwy rinwedd y grediniaeth hono yn fwy at ei law i gwblhau ei amcanion arnynt. Os dywedwn mai y gwirionedd a bregethir yw yr hoel, ac mai talentau a duwioldeb y pregethwr yw y morthwyl sydd i'w gyru i dref, yna gallwn ychwanegu, fod crediniaeth y gwrandawyr yn ngwir dduwioldeb y pregethwr, yn gwasanaethu i dyllu y galon er ei derbyn. Gorchest i ddyn yw gwneud daioni i bobl, os na fyddant yn credu ei fod yn ddyn da ei hun.

Nodwedd arall ynddo ydoedd cydwybodolrwydd. Diau genym fod duwioldeb, a hi yn berffaith, yn cynwys cydwybodolrwydd. Yn y beau ideal o honi, neu os myni, Gymro mwyn, yn y perffeithrwydd o honi, y mae gwir grefydd fel y mor yn ei lawn lanw, i lenwi holl gyneddfau a chilfachau yr enaid. Ac os myn y darllenydd, addefwn yn rhwydd nad ydyw cydwybodolrwydd ond y gydwybod dan reolaeth crefydd—y gydwybod wedi ei llanw â duwioldeb. Ond, hyd yn nod er addef fod cydwybodolrwydd, ac efallai y nodweddion ereill y bwriadwn eu nodi, yn gynwysedig mewn duwioldeb yn ei pherffeithrwydd, eto y mae yn briodol iawn, ar fwy nag un golwg, i sylwi arnynt yn un ac un. Nid yn ei pherffeithrwydd yr ydym yn gweled duwioldeb yn y byd hwn: ac mewn canlyniad, yr ydym yn gweled llawer dyn duwiol yn bur amddifad o gydwybodolrwydd: ac yr ydym i edrych ar ddynion mewn cyferbyniad i'w gilydd. Y mae cydwybodolrwydd hefyd yn beth mor bwysig, fel y mae yn deilwng o gael ei nodi ar ei ben ei hun. Y mae diwydrwydd dibaid Shadrach yn ddigon o brawf dros ei gydwybodolrwydd; ond nid dyna yr unig brawf. Dywedir wrthym ddarfod iddo, yn nechreu ei weinidogaeth, syrthio i bechod sydd yn llawer iawn o achos cywilydd a galar i Gymru. Ond mor bell ag y deallwn ei amgylchiadau, y mae yn ddiau y gallai, gydag ychydig o bres yn ei wyneb, a dideimladrwydd yn ei gydwybod, osgoi barn condemniad oddiwrth ddynion gyda golwg ar y pechod hwn. Ond dyfarnwyd ef yn euog gan ei gydwybod ei hun. Ar ryw fore Sabboth, gan hyny, ar ol y bregeth, er dirfawr syndod i'r gynulleidfa, am nad oeddynt eto yn gwybod dim am yr helynt, diarddelwyd Shadrach o aelodaeth eglwysig ganddo ef ei hun! Ysgrifenodd hefyd, y cyfleusdra cyntaf a gafodd, i gynadledd o'i frodyr yn y weinidogaeth, i hysbysu iddynt yr amgylchiadau. Cymerwyd hwynt gan syndod at yr hyn a ddygwyddasai; a dywedir fod Dr. Lewis, Llanuwchlyn, yn ystyried ei waith yn diarddel ei hun yn gymaint o bechod a'r llall. Teimlodd yn aruthr am y peth. Fel y dygwyddodd hi, y Dr. oedd yn derbyn Shadrach yn ol i gyfeillach yr eglwys; ac oblegyd pob peth, dywedir ei fod yn bur lawdrwm. Wedi gwrando ar Shadrach yn adrodd ei deimlad galarus, gofynai'r Dr. iddo, " Ie, Shadrach, a ydyw eich calon chwi fel y mae eich genau chwi yn dyweyd?" "Dr. Lewis," meddai yntau, "all fy ngenau i byth ddyweyd sut y mae fy nghalon." Wrth reswm, nis gellid bod yn galed wrtho mwyach. Derbyniwyd ef yn ol yn y man y syrthiodd; derbyniwyd ef hefyd fel pechadur edifeiriol, ac nid fel un yn taeru ei fod wedi cael cam, gan feio pawb a phob peth-ond ei hun. Rhaid i ni adef ein bod yn dra amheus, am dro hir, yn nghylch y priodoldeb o gyfeirio at hyn o gwbl; ond y mae llawer o resymau wedi troi y glorian dros wneud; ac nid ydym yn meddwl fod cymeriad Shadrach yn waeth am ddarfod i ni wneud. Nid anfynych y mae cwymp pobl dduwiol yn gwasanaethu i ddangos eu duwioldeb yn eglurach. Os oedd gwaith Petr yn tynu'r cledd i daro gelynion ei Feistr, yn dangos pybyrwch ei galon drosto, yr oedd ei waith yn wylo yn chwerwdost yn dangos ei edifeirwch am ddrwg. Ni a nodwn brawf arall o gydwybodolrwydd Shadrach. Efallai na fydd pawb yn cydweled am ddoethineb yr hyn y cyfeiriwn ato; ond nis gall neb amheu y cydwybodolrwydd a arddangosir. Er fod gweinidogaeth Shadrach pan yn Nhalybont yn neillduol wasgaredig a llafurus; ac er ei fod dan orfodaeth i gychwyn yn bur foreu y Sabboth, mewn trefn iddo, fel gwr traed, allu cyrhaedd lle ei gyhoeddiad mewn pryd; eto, ni adawai ei dŷ un bore Sabboth heb ddarllen a gweddio gyda'i deulu yn gyntaf. A phryd bynag y dychwelai y nos, a chan nad faint fyddai ei flinder a'i ludded, ni adawai y ddyledswydd deuluaidd ar ol. Ei reswm dros y manylwch hwn oedd, nad oedd yn gweled ei bod yn iawn i'r naill ddyledswydd gael cilgwthio y llall—i waith crefydd yn y capel gael gwasgu ar waith crefydd yn y teulu. Gan nad beth feddylir am werth ei reswm, y mae yn ddiau fod yma brawf o gydwybodolrwydd; ac y mae cydwybodolrwydd yn berl, er y dichon iddo fod yn llaid ffolineb. Y mae y ffaith hefyd na thorodd yr un cyhoeddiad erioed, gan nad beth fyddai yr amgylchiadau, yn profi cydwybodolrwydd neillduol.

Nodwedd arall ynddo ydoedd, hollol ymgyflwyniad i'r weinidogaeth. Bod yn weinidog da i Iesu Grist oedd amcan mawr ei fywyd; ac yr oedd pob peth arall yn gorfod gwasanaethu i hyn, Nid oedd yn rhedeg fel un yn curo yr awyr, ond fel un am gyrhaedd nôd. Gwir ei fod yn nechreu ei yrfa bregethwrol yn cadw ysgol; er hyny, pregethu oedd y peth blaenaf; a'r rheswm dros yr ysgol yw yr un tra boddhaol hwnw,—nas gellir pregethu heb fwyd. Nid oedd pregethu yn rhoddi bara i nemawr y pryd hwnw; ac yn neillduol i rai yn dechreu; ac felly, mewn trefn i bregethu, yr oedd yn rhaid i ddyn gynllunio sut i gael bara. Ofer fyddai i un llibyn diegwyddor, a dienaid, y pryd hwnw droi at Ymneillduaeth a dyweyd, "Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara:" bara'r bywyd yn unig gawsid y pryd hwnw yn sicr gyda hi. Yr un rheswm oedd ganddo dros rwymo ychydig lyfrau bryd arall, Mewn gair, nid yw pobl dduwiol yn eu cwymp, mwy nag yn eu bywyd, yr un fath a phobl ereill. Dywedir mai y profiad gafodd Shadrach o wrthgiliad yn yr amgylchiad hwn, sydd wedi gwneud Drych y Gwrthgiliwr yr hyn ydyw. neu ysgrifenu llyfr ei hun: mewn gair, nid oedd ef yn pregethu er mwyn byw, ond yn byw er mwyn pregethu. Pob peth er mwyn yr efengyl oedd rheol ei fywyd ef. A phriodol iawn y canodd Mr. Robert Jones gyda golwg arno:

"Son wna'r byd am wneud aberthau, deued, gweled engraifft lwyr,
Dyn yn treulio ac ymdreulio er mwyn ereill foreu a hwyr;
Cadw ysgol am geiniogach, gwneud a gwerthu llyfr er byw,
A rhoi oes, a nerth, a thalent, dros ei wlad ar allor Duw."

Dymunol, onide, ddarllenydd, yw gweled un fyddo yn dwyn yr enw o weinidog yr efengyl, yn gwneud y weinidogaeth yn brif amcan. Nid ydym yn meddwl mai gyda dyledswyddau uniongyrchol y weinidogaeth y dylai fod o hyd: ond credwn y dylai y weinidogaeth fod yn ganolbwynt i bob peth arall ganddo. Fel y mae adenydd yr olwyn i gyd yn ymdynu i'r fộth, fel hyny hefyd y dylai fod pob peth yr ymwnâ gweinidog yr efengyl â hwynt, yn ymdynu at y weinidogaeth. Byddai cyfanrwydd yn ei fywyd felly: ac y mae cyfanrwydd bywyd yn elfen anhebgorol yn ei lwyddiant. Byddai hyd yn nod belydrau yr haul yn rhy wan i losgi pylor, heb iddynt gael eu dwyn i'r un man. Godidog yw hi pan fyddo pob gweinidog yn teimlo mai er amddiffyn yr efengyl y gosodwyd ef; fod angenrhaid arno i bregethu yr efengyl; ac mai gwae fydd iddo os na phregetha hi. Fel y gwnaeth Shadrach, fel hyny hefyd y bydd hwn yn debyg o wneud tipyn o waith yn ei oes.

Y peth arall a nodwn yw dyfalbarhad. Y mae yn ddiau fod dau beth yn peri fod Shadrach yn ddyfalbarhaus. Gallwn gasglu ei fod yn gyfansoddiadol benderfynol: ac ni fyn dyn o benderfyniad cryf adael yn fuan yr hyn a gymer mewn llaw. Meddyliai rhai fod Shadrach yn fwy na phenderfynol yn gyndyn. Er enghraifft, dywed Mr. Morgan am dano yn Hanes Ymneillduaeth, nad "oedd ef heb lawer o wendidau;" ac yn mysg pethau ereill, nodir "cildynrwydd diblygu ei ysbryd" fel gwendid ganddo. Ni charem ddyweyd dim yn groes i Mr. Morgan ar y pwnc hwn; ond goddefer genym ddyweyd fod ereill oeddynt yn dra chyfarwydd â Shadrach yn amheus o gywirdeb y cyhuddiad hwn. Cildynrwydd yw anmharodrwydd i roddi ffordd yn ngwyneb rheswm digonol: ond clywsom awdurdodau go dda yn gwadu fod Shadrach felly. A chan fod Mr. Morgan yn addef nad oedd Shadrach ac yntau yn gallu cydweled gyda golwg ar yr amgylchiadau neillduol a nodir ganddo, y mae yn hawdd genym feddwl ei fod wedi cymeryd amlygiad o benderfyniad cryf fel cildynrwydd. Y mae penderfyniad cryf yn ddiau yn ymddangos yn gildynrwydd i'r rhai sydd yn tynu yn ei erbyn. Ond diau fod gan grefydd law yn ei ddyfalbarhad. Gan nad pa mor gryf y byddo gewynau naturiol y meddwl, y maent yn sicr o roddi ffordd yn aml os na fydd crefydd yn perffeithio ei nerth yn eu gwendid. Nid oes dim fel crefydd i ategu'r galon. Os bydd crefydd yn "ddeddf Duw yn y galon," ni lithra y camrau. Os bydd dyn dan ddylanwad crefydd yn gosod "yr Arglwydd bob amser ger ei fron," yna, "am ei fod ar ei ddeheulaw," ni ysgogir ef. Y mae teimlad mewnol o rwymedigaeth yn grymusu dyn yn effeithiol yn erbyn rhwystrau allanol; ac y mae yn ddiamheuol na ragorai Shadrach byth yn swm y gwaith a gyflawnodd, oni bai fod ynddo benderfyniad cryf yn cael ei nerthu yn fwy gan grefydd. Gall fod genych long o ddefnyddiau ac adeiladiad rhagorol, ond os na fydd yn meddu ar lyw a ballast, gwna bob peth ond yr hyn a ddylai; cyffelyb yw dyn heb benderfyniad ynddo.

Nodweddid ef hefyd fel gweinidog gan dynerwch a gofal. Clywsom ei fod yn neillduol ofalus am bobl ieuainc yr eglwys; a diau fod gofalu am yr ŵyn yn anhebgorol angenrheidiol er llwyddiant a chysur. Os byddir yn ddiofal am fabanod yr eglwys, nid yn unig byddant mewn perygl o farw allan o honi, ond hefyd, os bydd rhai o honynt yn ddigon ffodus a gweled dyddiau gwŷr gyda chrefydd, bydd y diffyg gofal a ddangoswyd tuag atynt yn gwneud ei hun yn amlwg iawn yn eu heiddilwch a'u llibyndod. Os na thelir sylw priodol i blant yr eglwys gan y dynion fyddo ynddi, yn dra buan, plant fydd y rhai a ddylent fod yn ddynion yn yr eglwys hono.

Yn mhob peth, nodweddid ef gan ddiwydrwydd diflino. Gwaith oedd ei fywyd o'r dechreu i'r diwedd. Nid oedd byth yn segur. Yr oedd naill ai yn teithio, yn pregethu, neu yn ysgrifenu, o hyd. Yr oedd llawer iawn o amser yn ofynol i deithio mewn gweinidogaeth mor eang, yn ngwyneb galwadau mor aml. Ac yr ydym wedi gweled eisoes pa mor ddiwyd yr. oedd mewn pregethu. Ac os ychwanegwn at hyn yr holl lyfrau a ysgrifenwyd ganddo, y mae yn ddiau y bydd ei ddiwydrwydd yn eglur i bawb. Gan nad oedd ei lawysgrif yn ystwyth iawn, y mae yn amlwg mai nid gorchwyl bach ydoedd ysgrifenu y fath nifer o lyfrau. A gorchwyl cymaint a hyny oedd eu gwerthu. Nid peth hawdd iawn yn awr ydyw gwerthu. nwyddau llenyddol, er pob diwygiad sydd wedi cymeryd lle er y pryd hwnw. Ac y mae meddwl fod Shadrach wedi gallu gwerthu cynifer o lyfrau, a rhai o honynt ddwywaith neu dair, neu ragor, drosodd, yn ein synu llawn cymaint a'i fod wedi ey cyfansoddi. Ond beth na wna diwydrwydd? Nid yn unig yr oedd Shadrach yn estyn y dydd i'r nos, drwy fyned yn hwyr i gysgu, ond dywedir hefyd ei fod yn codi yn ddisymwth, weithiau yn nghanol y. nos, er dirfawr aflonyddwch i'r teulu, er sicrhau ar bapyr, erbyn tranoeth, ryw ddrychfeddwl neu gilydd fyddai wedi ymgynyg iddo. Ac nid anturiaeth ysgafn mo honi oedd codi i gyneu canwyll y pryd hwnw, pan nad oedd y fath bethau a lucifer matches wedi dyfod i ddiorseddu crafion y cradell pobi, neu'r tinder box. Ac eto nid Shadrach yn unig oedd yn meddu ar ddigon o wroldeb i wneud hyny, er mwyn sicrhau drychfeddwl. Clywsom fod Williams o Bantycelyn, yn mysg ereill, yn arferol o wneud hyn. Ac, ar un amgylchiad, dywedir fod pennill neillduol wedi rhedeg i'w feddwl yn nyfnder y nos: ac er ei sicrhau, dechreuodd alw ar ryw forwyn anffodus neu gilydd i gyfodi i pleuo y ganwyll iddo. Ond, er galw, nid oedd dim llwyddiant. Yn wirioneddol, neu yn ffugiol, yr oedd hono yn cysgu yn drwm. Ond os na chyfodai hi i roddi tân ar y ganwyll, bu ei syrthni yn foddion i danio awen y bardd; a dechreuodd ddywedyd, yn y man a'r lle, dan ddylanwad y. cynhyrfiad:—

"'Rwy'n awr yn gweld yn eglur,
'Tai clychau mawr y llan,
A rhod y felin bapyr,
A gyrdd y felin bân,
A'r badell bres a'r crochan,
Yn twmblo dros y tŷ,
A'r gwely'n tori tani,-
Mai cysgu wnelai hi."


Nid rhyfedd chwaith, chwareu teg iddi! Nid pob un sydd wedi gallu darostwng digon ar y corff, i wasanaethu ar alwadau y meddwl bob amser o'r nos. Ac nid ydym yn sicr, chwaith, na fyddai yn well iddo yntau, fel pawb ereill, gysgu yn amser cysgu. Nid ydym yn meddwl y byddai neb yn golledwyr o hyn yn y pen draw. Y mae amser i bob peth, meddai Solomon, a doethineb yw gwneud pob peth yn ei amser ei hun. Felly, yn y pen draw, y gwneir mwyaf o waith; a gwneir ef lawer yn well. Ond, gan nad beth a ddywedwn yn erbyn yr arferiad hon, o eiddo Shadrach ac ereill, y mae ei ddiwydrwydd, er hyny, yn amlwg. A chan iddo ef allu gwneud cymaint o waith, drwy ymroddiad a diwydrwydd, pa faint ellid ei wneud gan ereill sydd wedi eu bendithio â chryfach galluoedd, a rhagorach manteision!

Yr oedd Shadrach, fel pregethwr, yn sefyll yn bur uchel. Ystyrid ef, yn gyffredin, yn un o bregethwyr poblogaidd ei ddydd: yn gymaint felly fel y gwahoddid ef yn aml i bregethu mewn cymanfaoedd. Ac ni chawsom un lle i feddwl fod ei boblogrwydd yn gorphwys ar seiliau amheus, ychwaith. Nid bob amser y gellir dyweyd hyny am boblogrwydd. Y mae poblogrwydd gwirioneddol, yn ddiau, yn un o'r talentau gwerthfawrocaf: ac y mae gan y rhai a'i meddant fantais annghyffredin i wneud llawer o ddaioni. Ac, os yw hi yn gyfreithlon i ni ddeisyf y doniau goreu, diau y dylem ddeisyf y ddawn o boblogrwydd. Ac heblaw ei cheisio, dylai pob dyn cyhoeddus wneud ei oreu i'w sicrhau. Nid yw poblogrwydd gwirioneddol ond rhagor o nerth i ddylanwadu ar ein cyd-ddynion. Er hyny, nid pob math o boblogrwydd sydd yn dda; am nad ydyw yr hyn a elwir felly yn fynych yn cydweddu â'r efengyl, nac, yn y pen draw, ychwaith, â'r natur ddynol. Yn ein byw nis gallwn lai na meddwl fod hyd yn nod poblogrwydd yn costio gormod i rai. Os rhaid i ni aberthu y gonestrwydd a'r difrifoldeb; y symlrwydd, ac eto'r mawredd; y parchusrwydd a'r awdurdod; y tynerwch, ac eto'r llymder, a nodweddent ein Harglwydd a'i apostolion, mewn trefn i fod yn boblogaidd, yna, yr Arglwydd a'n gwaredo ni rhagddo. Y mae poblogrwydd, ar y telerau hyn, yn llawer rhy ddrud; am fod rhaid digio Duw er cael cymeradwyaeth dynion. Y mae yn ddyledswydd arnom wneud ein hunain yn bobpeth fel yr enillom rai; ond rhaid i'r pobpeth hyn gydsefyll ag ysbryd a chenadwri yr efengyl. Heb hyn, bydd yr hyn a elwir yn boblogrwydd yn rhwystr i'r gwirionedd. Ac nid ydym yn sicr nad yw llawer o'r hyn a elwir yn boblogrwydd, yn y dyddiau presenol, yn sarhad ar yr efengyl a bregethir. Ymostyngir, weithiau, o leiaf mor isel a'r bobl, mewn materion o chwaeth, tybir fod hyny yn cymeryd. Nid teilwng o'r areithfa ydyw hyn. Dylai y rhai sydd i godi ereill fod o hyd mewn cyfleusdra i ddyweyd wrth bob cynulleidfa y byddont yn gweini iddi,—dring i fyny yma.' Y mae yn ddiau nad yw y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu, ddim yn anngharuaidd, yn farw, nac yn oer; ac y mae mor sicr a hyny na ddylai y pregethiad o hono fod felly. Ond os yw y gwirionedd yn hardd ac yn garuaidd, ynddo ei hun, na cheisier ei ysnodenau â dyfeisiau dychymyg dynol, ond dangoser ef fel y mae. Ac os yw y gwirionedd yn fywiol, yna, ymddibyner mwy ar y bywioldeb hwn, dan ddylanwad yr Ysbryd, nag ar un math o drydan o gynyrchiad dyn. Ac os yw y gwirionedd yn gynhes, yna gofaler mai y cynhesrwydd hwn sydd yn elfen yn ein poblogrwydd, ac nid un math o dân dyeithr a gynyrchir trwy ysgrechian a dulio.

Nid oedd Shadrach yn cael ei nodweddu gan bwys ei feddyliau na manyldeb ei ymresymiad. Nid rhyw lawer o ymresymiad oedd yn ei feddwl. Ond, a barnu oddiwrth ei bregethau argraffedig, yr oedd yn hynod ar gyfrif cyfiawnder ei fater. Nid ymddengys ei fod byth mewn cyfyngder am beth i'w ddyweyd. Yr oedd wedi ymgydnabyddu yn drwyadl â phrif dduwinyddion y dyddiau hyny; ac yr oedd ganddo gyflawnder o'u duwinyddiaeth at ei law. A phan fyddai ereill yn cymeryd amser i ymresymu gosodiad penodol allan, prysurai Shadrach yn y blaen, gan ychwanegu gosodiad at osodiad, ac apelio, yn benaf at ffydd y gwrandawyr, yn hytrach nag at eu gallu ymresymiadol. Ac os gallai ddyweyd—"Fel hyn y dywed yr Arglwydd," nid ewyllysiai apelio at ddim arall ar y pwnc hwnw.

Y mae hyn yn ein harwain i sylwi ei fod yn hynod, fel pregethwr, ar gyfrif y defnydd a wnai o'r Beibl. Fel y cyfeiriasom, yn y dechreu, yr oedd yn un o'r ysgrythyrwyr goreu yn ei oes, Nid ydym yn cyfeirio, yn gymaint, at gywirdeb ei esboniadau ag at ei hyddysgrwydd yn nghynwysiad y Beibl. Ymdrechai brofi pob gosodiad o'i eiddo âg un adnod, o leiaf, ac, yn fynych, pentyrai luaws o adnodau i brofi yr un pwnc, gan nodi, yn fanwl, y llyfr, y bennod, a'r adnod. Ac yn hyn y mae yn deilwng o efelychiad. Nid ydym yn meddwl nad oes gan ymresymiad le yn yr areithfa: gwyddom fel arall. Ond os bydd y Beibl yn profi gosodiad penodol, y mae synwyr cyffredin yn galw arnom i wneud defnydd o hyny, yn hytrach na dim arall. Nid ydym yn meddwl y dylid pentyru adnodau ar bob pwnc fel y gwnai Shadrach; na, yn hytrach dangoser fod rhyw un neu ddwy o adnodau a ddifynir yn profi y pwnc, mewn gwirionedd. Gellir ymddiried fod un neu ddwy o adnodau priodol yn ddigon i wneud pob gosodiad yn gadarn. Ac os mynir, dangoser wedi hyn fod dysgeidiaeth y Beibl ar y pwnc yn hollol gydunol â rheswm. Ond na foed i'r Beibl, er neb na dim, gael ei annghofio, i roddi lle i rywbeth arall. Nis gellir byth roddi gormod o bwys ar y gwirionedd mai y Beibl yw text-book yr areithfa.

Yr oedd Shadrach hefyd yn bur eglur. Er ei fod yn siarad ar bob math o bynciau duwinyddol, eto, yn gyffredin, yr oedd yn bur ddealladwy. Y mae hyny i'w briodoli, mewn rhan, yn ddiau, i'w ddull gosodiadol o bregethu. Anfynych y mae pobl gyffredin yn gallu deall ymresymiad caeth, hyd yn nod mewn traethawd. Er y gall yr ymresymiad fod mor eglur ag y gellir yn rhesymol ddysgwyl iddo fod, a chofio mai ymresymiad yw, eto, y mae yn lled debyg y bydd llawer o'r rhai na wyddant nemawr am ymresymu, o ddiffyg tueddfryd naturiol, neu, efallai, o ddysgyblaeth feddyliol, yn hyf-gyhoeddi fod y cyfan yn dywyll ac annealladwy. Y mae yn eithaf tebyg, hefyd, ei fod yn dywyll iddynt hwy; er nad yw hyny yn un prawf ei fod yn dywyll ynddo ei hun, fel ymresymiad. Yn ei ffordd ef, y mae yn ddian nad oes lyfr mwy eglur, dealladwy, a boddhaol nag ydyw Euclid; ond, atolwg, beth feddyliai y rhai hyn am dano! Y fath dryblith a charnedd ddidrefn ganfyddent yn y Pons Asinorum! Er hyny, adeilad godidog yw y "bont," gan nad beth am y bodau hir-glust a geisiant, ond a fethant, fyned drosti. Nid hawdd iawn, ychwaith, y gellir ei gwneud yn fwy dealladwy nag ydyw. Er hyny, na feier y bobl hyn am deimlo, y tywyllwch; ond beier hwynt am gyhoeddi fod rhywbeth yn dywyll ynddo ei hun, am ei fod yn dywyll iddynt hwy. Ond diau fod deall ymresymiad caeth yn anhawddach mewn pregeth nag ydyw mewn traethawd, am nad oes amser i aros uwchben gwahanol bethau, a dilyn y pregethwr, yr un pryd. Yn y dull gosodiadol o bregethu, nid oes ond gwirioneddau ar eu penau eu hunain yn galw am ein sylw: ond yn y dull ymresymiadol, yr ydym yn edrych ar wirioneddau, nid yn unig ar eu penau eu hunain, ond hefyd mewn cysylltiad â'u gilydd; ac yn olrhain pa fodd y mae un gwirionedd yn dilyn oddiwrth y llall. Os oedd dim yn gwneud Shadrach yn dywyll i neb, ei arferiad mynych o eiriau celfol duwinyddiaeth (technical terms) megys, Cynnrychiolwr, Penarglwyddiaeth, &c., oedd yn ei wneud felly. Ond y mae pob un sydd wedi cael ychydig o brofiad ar bregethu athrawiaethau crefydd, yn gwybod yn dda mai nid hawdd iawn y gellir gwneud hebddynt.

A nodweddid ef, yn neillduol, gan ei lais cwpasog. Er nad oedd ond dyn bychan, fel y gwelsom, eto yr oedd ei lais yn nodedig. Ac yr oedd y llais hwn yn gwbl at ei law: a phan ddynesai, fel y ceisiai wneud o bob man, at Grist a'i groes, yr oedd ei floeddiadau yn wefreiddiol. A diau mai nid yr elfen wanaf yn ei boblogrwydd oedd hon. Dyweder a fyner, y mae rhywbeth mewn sŵn; ac yn y llais dynol yn enwedig. Os bydd pobl yn dra choethedig, y mae yn debyg y gosodant fwy o bwys ar ansawdd y llais nag ar ei swm: ond, fynychaf, y swm yw hi gyda'r bobl gyffredin. Gyda golwg arnynt hwy, gellir dyweyd yn gyffredin:

"Gwaedd, gwaedd, O am waedd,
Peth melus dros ben ydyw ambell i waedd."

Yr oedd yn ymddangos yn bur hoff o gymhariaethau'r Beibl. Ac y mae yn ymddangos yn bur gelfydd, yn fynych, wrth geisio cael y meddwl allan o honynt. Ymddengys i ni, fodd bynag, ei fod weithiau yn myned yn rhy bell y ffordd hon; ac mewn canlyniad, yn ceisio tynu gwirioneddau o gymhariaethau y Beibl, na fwriadodd yr Ysbryd Glân erioed, feddyliem ni, iddynt fod yno. Mae yn ddiau fod fancy Shadrach yn cael gormod o ffrwyn ganddo: a dyna paham y mae yn dewis llawer testyn nad yw mewn un modd yn gymhwys i gynal y bregeth a sylfaenir arno. Y mae fancy yn odidog wasanaethgar i addurno, ond nid i adeiladu. Nid ydym yn sicr nad hyn sydd yn peri fod llawer yn meddwl mor ddiystyr o hono.

Yr oedd yn gosod ei olygiadau duwinyddol allan, yn ei bregethau a'i lyfrau, yn agored a di-len. Fel y mae yn hysbys ddigon, yr oedd ganddo ei olygiadau penodol: ac y mae hyny yn fwy nas gellir ei ddyweyd am lawer. Y mae rhai yn dysgu bob amser; ac yn ymddangos, bob amser, heb ddyfod i adnabyddiaeth o'r gwirionedd. Ni roddant un lle i dybied eu bod erioed wedi meddwl am ddim o gynwysiad y Beibl, yn ddifrifol, drostynt eu hunain. Y maent, o hyd, o'r un farn a'r awdwr diweddaf a ddarllenasant. Ond nid un o'r teulu hwn ydoedd Shadrach. Yr oedd ef yn sefydlog yn ei farn; ac yn un o'r rhai a elwir, erbyn hyn, yn uchel-Galfiniaid. Yn ol ei farn ef, yr oedd yr iawn, yn gystal a'r eiriolaeth, o'r un hyd a lled, yn gywir, ag etholedigaeth. "Yr oedd yr arch a'r drugareddfa," medd efe, "yr un hyd ac yr un lled a'u gilydd; felly y mae prynedigaeth ac eiriolaeth Crist." Oblegyd hyn, daeth i wrthdarawiad â'r rhai a alwent, ac a 'alwant, eu hunain yn Galfiniaid diweddar, neu gymedrol. Daliai y rhai hyn fod yr iawn yn gyffredinol i bawb; neu, mewn geiriau eraill, fod marwolaeth Crist yn gwneud cadwedigaeth y teulu dynol, i gyd oll, yn bosibl. Ac er eu bod hwythau, fel Shadrach, yn credu fod etholedigaeth yn bersonol, ac anamodol, eto, yr oeddynt, yn groes iddo ef, yn credu, gan fod yr iawn yn gyffredinol, fod ffordd cadwedigaeth yn agored i bawb; ac y gallai pwy bynag a fynai, gan hyny, fod yn gadwedig, gan nad pa un a fyddai yn etholedig ai peidio. Mewn gair, yr oeddynt hwy yn credu mai amcan etholedigaeth oedd dwyn pechadur i gofleidio yr iachawdwriaeth; ac mewn cysondeb â'u daliadau, credent y byddai etholedigaeth yn ddiangenrhaid pe bai y pechadur yn cofleidio yr iachawdwriaeth o hono ei hun. Credent mai yn y rhagolwg ar gyndynrwydd pechadur, yn benaf, yr oedd anfeidrol gariad yn ymgymeryd âg ethol: a chredent, mewn canlyniad, mai ar y dy biaeth fod y pechadur yn anmhlygadwy gydyn o hono ei hun, yn unig, ŷ gellir dyweyd fod etholedigaeth yn hanfodol er iachawdwriaeth, Nis gallai Duw achub y pechadur, pe yn edifarhau, heb iawn, gan fod cysylltiad rhwng ei drosedd â'r llywodraeth: ond, pe yn edifarhau, o hono ei hun, gallai Duw, o ran ei gysylltiad â'r llywodraeth, ei achub o'r goreu heb etholedigaeth. Credai y Calfiniaid diweddar, ynte, a chredant eto, fod yr iawn yn hanfodol angenrheidiol er iachawdwriaeth, neu gadwedigaeth, mewn ystyr bur wahanol i'r hyn y gellir dyweyd fod etholedigaeth felly. Ac yn ol eu golygiadau hwy, gan fod yr iawn yr hyn ydyw, y mae pob mantais i'r anetholedig am ei fywyd, os myn.

Yn y dyddiau cynhyrfus hyny ar athrawiaethau, llawer ymosodiad a wnaed ar Shadrach a'i olygiadau, gan bob math o ddynion. Yn gyffredin, modd bynag, fel yr awgrymir ganddo yn rhagymadrodd Rhosyn Saron, nid oedd yn hoff o ymddadleu. Pan fyddai hwn ac arall, gan hyny, yn ymosod arno, taflai yntau y naill goes dros y llall, tra yn eistedd wrth y tân, neu rywle arall, ac wedi i'r wefl laes' a'i nodweddai ymsiglo am dipyn, torai allan i ateb—"Dywedwch a fynoch chwi, Israel a glyw." Ac yn ol pob golygiad, yr oedd yn bur sicr o fod yn gywir.—Yroedd yn gywir yn ol golygiadau Shadrach a'i gyfeillion; oblegyd, fel y barnent hwy, ni wrandawai neb ar wahoddiadau yr efengyl ond yr Israel etholedig. Ac yr oedd hyn yn wir, hefyd, yn ol barn yr Arminiaid, oblegyd, fel y credant hwythau, bydd pob un a glywo yn Israeliad etholedig. Nid oedd Shadrach yn gweled llai, feddyliem, nad oedd y dywediad uchod o'i eiddo yn derfynol ar bob dadl.

Amcanai, fel awdwr, at ddefnyddioldeb a symledd. Yr hyn a bregethasid ganddo yn flaenorol, oedd yr hyn, gan mwyaf, a argraffai. Y mae hyny yn cyfrif dros grefyddoldeb ac unrhywiaeth ei gyfansoddiadau. Diau fod hyn, hefyd, yn cyfrif dros fod rhai o honynt mor fasw. Nid bob amser y mae arddull yr areithfa yn gymhwys i'r wasg. Ac yr ydym yn meddwl fod y llyfrau a gyfansoddwyd ganddo yn unswydd i'r wasg, megys, Drych y Gwrthgiliwr, Rhosyn Saron, &c., yn rhagori ar y lleill. Yn mhob un o honynt, fodd bynag, y mae ei ieithwedd a'i gystrawen yn Gymreig a phur. Yr oedd ei gyfansoddiadau, yn gyffredin, yn ystwyth a darllenadwy iawn, ar waethaf ei gyfeiriadau ysgrythyrol aml; ac er na fynem awgrymu ei fod yn Gymreigydd galluog, eto rhaid ini addef mai nid bob dydd y ceir ysgrifenydd llawer mwy cyfarwydd â phriod-ddulliau'r Gymraeg nag ydoedd ef. Y mae yn dda genym weled fod rhai o'n prif ysgrifenwyr yn cydsynio â ni yn y peth hwn.

Yn awr, dyna y cyfan sydd genym i'w ddywedyd am Azariah Shadrach-ei fywyd a'i weithiau. Ac o ddifrif, ddarllenydd, onid dyn hynod ydoedd? Ai teg oedd iddo gael ei annghofio cyhyd? Nage: nid teg. Afresymol hefyd yw ymddygiad y bobl sydd wedi bod yn siarad yn ddiystyrllyd am đano. Gwir fod teitlau rhai o'i lyfrau yn troseddu yn erbyn chwaeth dda, er eu bod yn swynol i ddarllenwyr ei oes ef; gwir hefyd ddarfod iddo ysgrifenu llawer gormod o lyfrau iddynt i gyd allu bod yn dda; a gwir yn mhellach fod ei olygiadau ar rai pynciau yn rhy uchel-Galfinaidd o lawer i fod yn dderbyniol yn ngwyneb safon fwy cymedrol yr oes hon; er hyn i gyd, y mae yn deilwng o gael ei gofio yn barchus genym. Heblaw ei lafur gweinidogaethol, gallwn feddwl, a barnu yn o gymedrol, ddarfod iddo werthu yn ei ddydd, o leiaf ryw driugain mil o gopïau o'i lyfrau: ac y mae llawer o honynt eto yn parhau yn farchnadol. Diau gan hyny ei fod wedi dylanwadu, yn ei gylch priodol ef, yn o fawr ar ei oes. Ie, "y mae efe wedi marw yn llefaru eto." Barned y darllenydd, ynte, ai priodol oedd gadael i goffadwriaeth Azariah Shadrach gael ei annghofio.

"Shadrach ffyddlawn, mae dy goron
Heddyw'n ogoneddus fawr;
Ac ni thynir perl o honi
Gan fân feirniaid cul y llawr:
Gŵyr dy Feistr werth dy lafur,
Nododd ef dy daith bob darn:
A cheir gweld dy ddefnyddioldeb
Fil mwy amlwg ddydd y farn.


"GALAR-GAN[4]
I'R
DIWEDDAR BARCH. AZARIAH SHADRACH,
GAN
MR. ROBERT JONES, ABERYSTWYTH.

"Da, was da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."—Crist.

Hoff ieuenctyd Capel Sion,
Plant y dydd a'r breintiau mawr;
Coelbren nef a drefnodd i chwi
Etifeddiaeth deg yn awr:
Cael magwraeth eglwys Iesu,
Seigiau'r saint o'ch blaen o hyd;
A manteision addysg ddynol,—
Pethau goreu y ddau fyd.

Nid fel hyn gwladychai'r tadau,
Garwach oedd eu tymor hwy,
Fel y prawf croniclau'r oesoedd,
Hanes canrif fach neu ddwy:
Caddug tew o anwybodaeth,
Ofergoeledd, a drwg foes,
Cymru'n fro â сhysgod angau,
Welsant hwy o oes i oes.

Ond ymdorodd gwawr o'r diwedd,
Ar ymylau'r ddunos brudd;
Ac yn raddol ymledaenodd,
Nes bod hyfryd oleu ddydd:
Codi'n uwch wnai haul cyfiawnder,
Gwenai gwyneb yr holl wlad;
Ninau heddyw sy'n ymloni
Yn ei belydr dysglaer mad.

Nid mewn dydd bu'r cyfnewidiad,
Gorchwyl blwyddi meithion yw;
Gorchwyl wnaed er gwaethaf uffern,
Gorchest dynion dewraf Duw:
Poen a llafur, llid, colledion,
Gwawd ac erlid, eithaf gwae,
Brofodd ein hynafiaid duwiol,
Cyn cael Cymru fel y mae.

Dyma'r cwmwl tystion dysglaer,
Gwir wladgarwyr yn eu hoes,
Cymwynaswyr goreu'r genedl,
Dewrlu dan fanerau'r groes;
Mae eu henwau'n gysegredig
Yn nghynteddau Duw drwy'r tir;
Daw yr awen a chelfyddyd
I'w dyrchafu'n uwch cyn hir.

Nid y gwaelaf chwaith na'r olaf
Ar gofrestrau teulu'r ffydd,
Ydoedd Azariah Shadrach,
Gwrthddrych ein Galargan brudd
O! ei ffyddlawn ymdrechiadau
Geir mewn llawer parth o'r wlad,
Ac nid 'chydig o'n heglwysi
A'i haddefant ef yn Dad.

Ardal Abergwaun, yn Mhenfro,
Fagai'r plentyn llawn o hoen;
Hithau'r eglwys yn Nhrewyddel
Fagai'r dysgybl bach i'r Oen;
Ond y saint yn Rhosycaerau
Ganfu ynddo genad hedd;
A chywirdeb eu syniadau
Brofodd yntau hyd ei fedd.

Ni bu coleg nac athrofa
Yn caboli mo'no ef;
Trodd i'r prif-ffyrdd bywnt a'r caeau,
Dan rinweddol urdd y nef:
Ar ben 'stol yn nghysgod coeden,
Ac ar gareg farch y llan,
Galw wnai ar ol y werin,
Dweyd ei neges yn mhob man.

Mochnant, a phentrefi Maldwyn,
Pennal Meirion, Derwenlas,
Gawsant brofi blaenffrwyth peraidd
Doniau'r efengylaidd was:
Pa sawl calon a ddwysbigwyd,
Faint gadd eu bendithio'n llwyr,
Drwyddo, yn y bröydd hyny,
Nid oes ond y nef a ŵyr!

Nid amseroedd i orphwyso
Ydoedd ei amserau ef;
Planu a mwynhau y ffrwythau,
Eithriad oedd i weision nef:
Gwedi traethu gair y bywyd
Mewn ffyddlondeb yn un man,
Myn'd oedd raid i ddinas arall,—
Llafur cyson oedd eu rhan,

Yn nghyffiniau eitha'r Gogledd,
Yntau'n fuan wed'yn gawn ;
Deffro mae Llanrwst a Threfriw,
Dan ei nerthol danllyd ddawn:
Mân bentrefi tywyll Arfon,
A godrëon Dinbych, sydd
Yn adseinio'i lais taranllyd
Wrth bregethu'r farn a fydd.

Gwawd, a gwg, ac erlidigaeth,
Yma'n fynych brofodd ef;
Eto llosgi yn ei esgyrn
Yr oedd geiriau pur y nef:—
Hauodd had fel hyn mewn dagrau,
Gesglir yn ysgubau llawn;
Llawer eglwys gref geir heddyw,
Lle bu e'n ddigalon iawn.

Eilwaith wele lais rhagluniaeth
Yn ei alw'n ol i'r De;
A phan fyddo hi yn galw,
Ceir fod pobpeth yn ei le;—
Talybont, yn Ngheredigion,
A Llanbadarnfawr, a Paith,
Clarach, Salem, a'u hamgylchoedd,
Ydoedd ei esgobaeth faith.

Pymtheg mlynedd o'i ddwys lafur
Gafodd yr ardaloedd hyn,
Fel mae'i enw'n hoff a hysbys
Heddyw yn mhob bro a bryn:
Shadrach anwyl! medd hynafgwyr,
Shadrach enwog! medd y plant ;
Ac o oes i oes fe berchir
Coffadwriaeth yr hen sant.

Profodd yma adfywiadau
Nerthol, droion, gyda'r gwaith
Nes dychwelyd pechaduriaid,
Lloni Sion ar ei thaith:
Adeiladwyd yr eglwysi,
Gwreiddiai'r achos drwy y wlad;
Ac mae llu o'r plant a fagodd
Wedi ei gwrdd yn nhŷ eu Tad.

Annibynwyr Aberystwyth,
Chwi gymhellodd hyn o gân,
Rhaid fod parch i gof ein gwron
Yn eich plith, gan fawr a mân:
Mae ei enw yn glymedig
Wrth eich achos yn mhob gwedd;
Gyda chwi y treuliodd allan,
Yn eich daear chwi mae'i fedd.

Trwy ei lafur y sefydlwyd
Annibyniaeth yn eich tref;
Ac os ydyw'n hafaidd heddyw,
Blin amserau welodd ef;
Gorphwys bu yr arch flynyddau
Mewn tai annedd gwael cyn hyn;
Yntau'n gweithio drwy bob rhwystrau,
Nes ei dwyn i Sion fryn.

Syllwch, ie'nctyd, ar eich Capel,
A chanfyddwch ar bob maen
Ol ei ben, ei law, a'i galon,
Saif ei ddelw yna o'ch blaen :
Dodai wŷr i adeiladu,
Teithiai yntau i "hela'r draul,"
Nes o'r diwedd fod addoldy
Hardd, diddyled, wedi ei gael!

Ond pa beth a wnaf yn ceisio
Rhifo ei orchestion oll;
Os rhy gyfyng yw'r Alareb,
Maent ar lyfrau'r nef heb goll
Ie, mil o ymdrechiadau,
Llafur, poen, nas gwybu dyn,
Digalondid, angen, gofid,
Nas gŵyr ond y nef ei hun!'

Hoff fydd gan olafiaid wybod
Ffurf a llun ein harwr hyf,
Bychan ydoedd o gorffolaeth,
Eto lluniaidd, llym, a chryf;
Talcen uchel, llygad treiddgar,
Trwyn eryraidd, gwefus laes,
A grymusawl lais gyrhaeddai'r
Crwydryn pellaf ar y maes.

Am ei gred, Calfiniad ydoedd,
Egwyddorol yn y ffydd,
Fanwl fagwyd wrth draed tadau:
Athrawiaethus bore'i ddydd:
Medrai'r Bibl ar ei dafod,
Dyma oedd ei arfdy llawn;
A dymchwelai gyfeiliornad,
Drwy y gair, yn fedrus iawn..

Nid oedd uchel ddysg colegau,
Nac athroniaeth gywrain dyn,
Byth yn blino'i feddwl puraidd,
Hedai heibio i bob un:
Grasol drefn yr iachawdwriaeth,
Cynghor bore, arfaeth nef,
Angau'r Meichiau ar y croesbren,
Dyna'i hyfryd bynciau ef.

Chwilio wnai ddyfnderau'r codwm,
Olrhain camrau cariad rhad;
Dwyn ysgrythyr ar ysgrythyr,
Er mwyn prawf ac eglurhad
Gwedi cyrhaedd copa'r mynydd,
Cwrdd â'r groes, a'r Prynwr glân,
Allan torai'r floedd wefreiddiol,
"Diolch!" nes bai'r dorf yn dân.

Er mai Efengylwr ydoedd,
Tawel, tirion, yn ei ddydd,
Meddai ddawn Apostol hefyd,
Er amddiffyn banau'r ffydd:
Cadd Sosiniaeth, cadd Arminiaeth,
A Throchyddiaeth yn ei thro,
Deimlo llymder eitha'i saethau,
Nes cynhyrfu ambell fro.

Bugail ffyddlawn yn yr eglwys,
A gwyliedydd effro oedd;
Porthai'r praidd yn fwyn a diwyd,—
Pan fa'i perygl, rhoddai floedd;
Tyner iawn i'r gwan a'r ieuanc,
Tirion wrth y claf a'r tlawd;
Nid oedd rhyw, nac oed na chyflwr,
Na chaent ef yn Dad, yn Frawd.

Teithiodd filoedd o filldiroedd,
Gydag achos Duw erioed;
Bu drwy Wynedd a Deheubarth,
Pan yn un-ar-bymtheg oed:—
Oddi cartref mae eleni,
Yn y cymanfaoedd mawr;
Flwyddyn arall, taith i gasglu,
Dros rhyw achos llwyd ei wawr.

Beth atolwg, fu ei wobrwy,
Am ei lafur caled, maith?—
Gwrida'r awen wrth ei grybwyll,
Ofna rhag parddüo'r iaith :
Tra'r oedd llawer athraw segur
Yn pentyru iddo'i hun,
Wele ŵr wnaeth fil mwy gorchwyl,
Am lai tâl na chyflog-ddyn!

Son wna'r byd am wneud aberthau,
Deued, gweled engraifft lwyr,
Dyn yn treulio ac ymdreulio,
Er mwyn ereill, fore a hwyr:
Cadw ysgol am geiniogach,
Gwneud a gwerthu llyfr, er byw
A rhoi oes, a nerth, a thalent,
Dros ei wlad ar allor Duw !

Ac ni gawn, wrth gofio'i lyfrau,
Olwg arall arno ef;
Nid fel dwfn athronydd natur,
Ond lladmerydd goleu'r nef:
Myfyrdodau tarawiadol,
Oll o fer y gair yn llawn;
A'u rhifedi'n brawf o'i lafur,
Ac o'i fywiog, ddifyr ddawn.

Gwawdio'i weithiau yw arferiad
Rhai doctoriaid yn ein mysg;
Doethwyr mawrion, coeth, clasurol,
Fynent gadw'r byd drwy ddysg!—
Pe cyflawnai un o honynt
Chwarter ei orchestion ef,
Byddai beth yn haws i'm clustiau
Oddef eu hasynaidd fref!

Bu ei lyfrau yn fendithiol,
Do, i filoedd yn eu dydd,
Er deffroi eneidiau cysglyd,
A chysuro teulu'r ffydd:
Do, bu llawer un yn derbyn
Uchel glod mewn gwlad a thref,
Wrth ail-adrodd ei bregethau,
Tynu dwfr o'i bydew ef!

Shadrach ffyddlawn, mae dy goron
Heddyw'n ogoneddus fawr;
Ac ni thynir perl o honi
Gan fan feirniaid cul y llawr:
Gŵyr dy Feistr werth dy lafur,
Nododd ef dy daith bob darn;
A cheir gwel'd dy ddefnyddioldeb
Fil mwy amlwg ddydd y farn.

Hola ambell Pharisead
Am y beiau ynddo oedd;—
Nid yw'r awen am eu gwadu,
Chwaith nis myn eu dwyn ar g'oedd:
Goleu mawr yr haul a guddia
Bob rhyw frychau arno sydd;
Felly ei wendidau yntau
Gollir yn ei ddysglaer ddydd.

Ffrwythai'n beraidd yn ei henaint,
Addfed oedd i'r palas fry;
A heirdd ddoniau'r Dwyfol Ysbryd
Oll yn gorphwys arno'n gu:
Swn y nefoedd yn ei eiriau,
Llonder angel yn ei wedd;
Teimlai dano Graig yr oesoedd,
Ac nid ofnai byrth y bedd.

Canmol Crist, a chymhell crefydd,
Wnai hyd derfyn eitha'i daith;
Teml oedd ei 'stafell wely,
Yntau'n gweini yn y gwaith:—
Pan fel hyn—daeth cerbyd tanllyd,
A gosgorddlu'r nefol wlad;
Ac yn nghanol y dysgleirdeb,
Colli wnaethom ein hoff Dad!

Yn mhriddellau oer St. Michael,
Huno mae ei lwch mewn hedd;
Chwäon heillt o'r môr chwareuant
Uwch ei gysegredig fedd:
Rhodia llu, o bell ac agos,
Heibio'r llanerch, ol a blaen;
Darllen wnant y pennill isod,
Sy'n gerfiedig ar y maen.

"Bu ei dafod a'i ysgrifell
Yn cyd-daenu efengyl Crist;
Perlau'r groes, ac aur Caersalem,
Gynygiai i dylodion trist;
Drych, a Cherbyd, a Goleuni,
Myfyrdodau lu ar g'oedd:
Un-ar-ugain rhif ei lyfrau,—
Bunyan Cymru'n ddiau oedd."

Ffarwel, Shadrach, ni chaiff Sïon
Weld na chlywed mo'not mwy,
A'th daranllais yn cyhoeddi
Gwerth y gwaed, rhin marwol glwy:
Syllu'r wyt ar dy Iachawdwr,
Treiddio'r drefn, a chwyddo'r gân;
Saint ac engyl yw'th gymdeithion,
Nef y nef dy breswyl lân!

ATTODIAD

TERFYNIR y cofiant hwn â dau ddifyniad, er rhoddi cyfleusdra i'r darllenydd weled drosto ei hun, nad oedd Shadrach ddim yn gwbl mor eiddil fel meddyliwr ag y myn rhai i ni gredu ei fod. Y mae y difyniad cyntaf yn cynwys pennod gyfan agos o'r llyfr a elwir Goleuni Caersalem, ar Y modd y daeth pechod i'r byd; a barned y darllenydd os nad yw ein hawdwr yn llawn mor foddhaol a rhywun arall ar y pwnc hwn.

"Y MODD Y DAETH PECHOD I'R BYD.

Marc. Pa beth yw pechod?

Ioan Annghyfraith yw pechod.

Iago. Pa fodd y daeth pechod i greadur glân? neu pa beth yw ffynonell wreiddiol gyntaf pechod? neu oddiar beth y tarddodd?

Ioan. Nid Duw, mewn arfaeth yn trefnu, nac yn caniatau, nac mewn un ystyr, yn fwy nag y mae yr haul yn achos o oerfel, neu y goleuni yn achos o dywyllwch. 2. Nid ewyllys rydd, fel yr achos cyntaf a blaenaf. Y mae yn sicr fod Duw wedi creu dyn yn greadur cyfrifol, sef yn meddiannu ar gynneddfau addas i fwynhau y daioni penaf, a moddion addas at ei fwynhau, a'i ewyllys yn rhydd i ddewis yr hyn a fyddo yn ymddangos yn ddaioni penaf iddo ef: y mae yn sicr mai nid fel y drwg gwaethaf y dewisodd Adda fwyta o'r ffrwyth gwaharddedig; ond fel y daioni penaf: felly nid ewyllys rydd fel yr achos blaenaf a ddaeth a phechod i'r byd: Duw a greodd ddyn a'i ewyllys yn rhydd; heb hyn ni buasai yn greadur cyfrifol: ond yr ydwyf yn addef fod gan ewyllys rydd law ynddo fel ail achos. 3. Nid oddiar un angenrheidrwydd anianaethol, neu ddiffyg pwerau moesol i garu Duw, y tarddodd pechod: ond yr ydwyf yn meddwl ei fod wedi tarddu oddiar hanfodol ddiffygolrwydd natur greuedig.

Iago. Pa beth oedd diffygolrwydd y natur greuedig?

Ioan. Bod heb fod yn ymddibynol arno ei hun; ond yn ymddibynol ar un arall. Nid oes un creadur yn hunan-ymddi bynol; am hyny y mae pob creadur yn rhwym (yn sicr?] i ddadfeilio, a myned i sefyllfa îs, os na bydd yn parhaus dderbyn o law un arall, sef o law ei Greawdwr.

Iago. Paham na buasai Duw yn creu dyn yn hunan-ymddibynol; ac yna fe fuasai yn sefyll?

Ioan. Nid oedd hyn yn tarddu oddiar natur Duw, nac oddiar ei ewyllys, na'i ben-arglwyddiaeth, nac oddiar un gosodiad o eiddo Duw; ond yr oedd yn tarddu oddiar angenrheidrwydd hanfodol natur pethau. Ni allasai Duw greu creadur yn hunan-ymddibynol; canys y mae yr hyn sydd yn hunan-ymddibynol yn anfeidrol, yn ganlynol yn Dduw: yn ganlynol ni buasai lle i ddau Fod anfeidrol; fe fuasai un Bod anfeidrol yn rhwym i ddistrywio'r llall.

Iago. Onid Duw oedd awdwr y creadur ag oedd a diffygolrwydd ynddo?

Ioan. Ie, yn sicr; ond nid Duw oedd awdwr ei ddiffygolrwydd; ni allasai Duw ei wneud yn hunan-ymddibynol; pe buasai yn hunan-ymddibynol, ni buasai yn greadur; canys y mae pob creadur yn ymddibynu ar y Creawdwr: ond y penderfyniad yw, gan fod hanfodol ddiffygolrwydd yn perthyn i bob creadur, sef ei fod heb fod yn hunan-ddibynol arno ei hun, ond yn ymddibynol ar un arall; a chan i Dduw mewn ffordd uniawn a chyfiawn ei roi a'i adael i sefyll arno ei hun, a pheidio ymddwyn tuag ato mewn un ffordd ond yn llwybr uniondeb a chyfiawnder, a pheidio rhoi dim iddo ond yr hyn oedd yn ei haeddu, fe syrthiodd yn y fan; a phe na buasai yn syrthio, buasai yn ogyfuwch â Duw, yn hunan-ymddibynol -- yn medru cynal ei hun. Felly ni a welwn fod pechod wedi dyfod i mewn oddiar hanfodol ddiffygolrwydd natur greuedig, a Duw yn ymddwyn tuag ato yn llwybr cyfiawnder, ac heb ymrwymo i'w gynal yn llwybr gras penarglwyddiaethol. Yn wyneb hyn ni a welwn fod pob daioni o Dduw, a phob anmherffeithrwydd o'r creadur.

Iago. A allasai Duw ddim cadw y creadur rhag pechu?

Ioan. Gallasai, oddiar ei benarglwyddiaeth, yn llwybr gras, trwy roddi iddo fwy nag oedd yn ei haeddu: ond nid yn llwybr gras y gwelodd Duw fod yn dda i ymddwyn at ddyn mewn diniweidrwydd, ond yn llwybr cyfiawnder.

Iago. Oni safodd rhai o'r angylion heb syrthio?

Ioan. Do; ond Duw o'i ewyllys da penarglwyddiaethol a'u 'diogelodd.

Iago. Oni saif y saint byth mewn gogoniant?

Ioan. Gwnant yn sicr, trwy fod Duw yn ffordd ei ras penarglwyddiaethol wedi ymrwymo i'w diogelu: ond pe tynai Duw ei law gynaliol oddiwrth eu bod, hwy a syrthient i'w diddymdra cyntaf: pe tynai efe ei law yn ol oddiwrth eu cyneddfau moesol, hwy a syrthient i bechod yn y fan. Ond y mae'r saint wedi cael eu diogelu yn bresenol mewn cyfryngwr, am hyny ni syrthiant byth.

Iago. Pa le y mae mawr ddrwg pechod yn ymddangos?

Pedr. 1. Y mae yn ymddangos yn wrthwynebiad i'r daioni penaf: y mae yn groes i bob peth sydd yn y Jehofah. 2. Yn yr annhrefn y mae wedi ei wneud yn y greadigaeth: pechod yw yr achos o bob gofid a marwolaeth. 3. Yn y niwed ag y mae wedi ei wneud i enaid; sef ei yspeilio, ei halogi, ei gaethiwo, ei dwyllo, ei ddallu, ei glwyfo, ei starvo, ei feichio, ac hefyd y mae yn ei boeni. 4. Y mae yn ymddangos yn ddrwg mawr. wrth ei gymharu â phethau drwg ereill; y mae yn waeth na chystudd, gwaeth nag angeu, a gwaeth nag uffern. 5. Y mae mawr ddrwg pechod yn ymddangos yn nyoddefiadau y Machnïydd. 6. Yn nghosp y damnedigion.

—————————————


Cymerwn ein hạil ddifyniad o'r llyfr a elwir Rhosyn Saron. Arddangosir Shadrach yn hwn fel gwrthwynebydd y "system, newydd," fel y gelwid hi.—Cofied y darllenydd mai golygiadau Shadrach sydd ganddo, ac nid ein golygiadau ni.

"Ymadroddion anysgrythyrol yw dywedyd 'Fod Crist wedi, marw, fel y gallai Duw, yn unol â'i santeiddrwydd, a'i gyfiawnder, a'i gyfraith, i achub pawb, pe ewyllysiai.' Ond cymerwch y sylwadau canlynol o dan eich ystyriaethau:

"1. Os gall Duw, yn wyneb aberth Crist, yn unol â'i natur, i achub pawb, yna fe all, yn unol â'i natur, i beidio a damnio neb; ac yna y mae cosp y damniaid yn tarddu oddiar benarglwyddiaeth Duw, ac nid oddiar ei natur; ac y mae yn sicr mai dyna fel y mae yn bod, os darfu Crist ddiogelu anrhydedd llywodraeth foesol ar eu rhan, fel y gallasent, yn unol â gogoniant Duw, i gael eu hachub: ond yr ydwyf yn meddwl mai nid oddiar ei benarglwyddiaeth y mae Duw yn cospi y damnedigion: ond yr ydwyf yn meddwl fod cyfiawnder a santeiddrwydd Duw yn ei rwymo i'w cadw yn y carchar hyd nes talont y ffyrling eithaf. Mat. v. 26.

"2. Os gall Duw achub pawb yn bresenol yn unol â'i natur, yn wyneb aberth Crist, fe all, yn unol â'i natur, eu hachub eto o'r fflamiau yn mhen miliwn o flynyddau, pe ewyllysiai; oblegyd yr un fydd Duw, o ran ei natur, y pryd hwnw ag yn awr; a'r un fydd pechod o ran ei natur, a'r un fydd rhinwedd aberth Crist. Nid hir ystod o bechod, na lliosogrwydd o bechodau, yn unig, sydd yn damnio; ond natur pechod ynddo ei hun. Diau: fod y plentyn pan yr anadlo gyntaf, yn ddamniol yn wyneb y gyfraith, yn gystal a'r pechadur can' mlwydd; oblegyd y mae y ddeddf yn gofyn natur berffaith yn gystal ac ymddygiad perffaith.

"3. Os gall Duw gospi rhai o'r bobl ag y darfu Crist roi iawn digonol drostynt, fel y gallasai Duw unwaith, yn unol â'i natur, eu cadw, yna fe all ddamnio'r etholedigion cyn iddynt gael eu sancteiddio, er i Grist roi iawn digonol drostynt; yna fe ymddengys nad yw iawn Crist o ddim gwerth y'ngolwg Duw; ac fe ymddengys y'ngoleu'r athrawiaeth newydd sydd am godi ei phen yn ein gwlad, mai ewyllys Duw a ffydd dyn sydd yn diogelu anrhydedd y llywodraeth foesol, ac nid iawn Crist; yn ganlynol, fe allai Duw i achub, pe ewyllysiai, heb iawn Crist. Mae yn sicr os gall Duw yn unol â'i natur, i ddamnio dynion wedi cael iawn digonol drostynt, y gall ef, yn unol â'i natur, i achub dynion heb gael un iawn drostynt; ni a welwn, yn ganlynol, mai tuedd yr athrawiaeth o fod Crist wedi marw dros bawb, yw gwadu'r angenrheidrwydd o iawn am bechod, a dal fod adferiad i'r damnedigion o boenau uffern; ac y mae yn sicr fod yr athrawiaeth gyfeiliornus ag sydd am ymddangos yn ein gwlad, mewn dillad newydd, yn llawn o wenwyn ofnadwy, ac yn sicr o derfynu mewn Sosiniaeth, ac yn sicr o feithrin ffurfioldeb, caledwch, ac annuwioldeb, yn ein hardaloedd; am hyny, y mae'n llawn bryd i ni ddeffro yn ei herbyn, a gwylio rhagddi.

*****

"5. Ni allasai Adda ddwyn marwolaeth i neb, ond i ddeiliaid y cyfammod, i'r hwn yr oedd efe yn ben iddo: Adda oedd pen y cyfammod o weithredoedd; ac yr oedd ei holl hâd naturiol yn cael eu golygu ynddo fel aelodau; a phan ddarfu ef syrthio, fe syrthiodd pawb ynddo: a "thrwy un dyn y daeth pechod i'r. byd, a marwolaeth trwy bechod; ac fe aeth marwolaeth ar bob dyn yn gymaint a phechu o bawb:' felly Crist yw pen y cyfammod gras, ac y mae'r holl etholedigion yn cael eu cyfrif ynddo fel ei hâd a'i aelodau; ac fe ddywedir eu bod yn cael eu croeshoelio gydag ef, yn marw gydag ef, ac yn adgyfodi gydag ef. Cyfryngwr i ddeiliaid y cyfammod hwn yw Crist; Meichiau i ddeiliaid dirgeledig y cyfammod hwn yw Crist; gwaed y cyfammod hwn yw gwaed Crist; ac fel meichiau yn y cyfammod hwn yn unig y bu Crist farw; am hyny ni roddodd Crist ddim iawn dros neb, ond dros y rhai a gafodd eu golygu gan Dduw, i y fod yn ddeiliaid o'r cyfammod hwn: yn ganlynol, ni all Duw yn unol â'i natur, i achub neb ond y rhai'n, oblegyd na chafodd ef ddim iawn drostynt: yn ganlynol, fe fydd yn rhwym oddiar angenrheidrwydd natur i gospi y rhai a fydd marw o dan y cyfammod o weithredoedd, am nad oes un cyfrngwr yn y cyf ammod hwnw: nid natur angylion a gymerodd Crist, ac nid had Adda, na had y Ddraig yw Crist, ond had y wraig ydyw ef. Ni bu Crist ddim marw mewn un berthynas gyfryngol â'r rhai fydd yn golledig: am hyny nis gallai Duw eu hachub, yn unol â'i natur, yn y drefn a sefydlwyd yn y cyfammod tragwyddol.

"6. Yr wyf yn addef, pe buasai Duw yn ordeinio ac yn ap- pwyntio ei Fab i fod yn ben cyfammod i holl ddynol-ryw, a'i ordeinio ef yn Gyfryngwr i bawb, a Christ fel Cyfryngwr wedi marw dros bawb, yn y berthynas hono i roddi iawn digonol drostynt, yna fe allai Duw, yn unol â'i natur i achub pawb; ond ni allai, yn unol â'i gyfiawnder, i ddamnio neb wedi cael iawn digonol dros eu holl bechodau : ond y mae yn ddigon eglur, oddiwrth yr holl ysgrythyrau, mai dyben marwolaeth Crist oedd dwyn iachawdwriaeth gyflawn, mewn modd teilwng o Dduwè dod, i bawb ag oedd ef yn eu cynnrychioli fel pen y cyfamod newydd.

"7. Ni a welwn yn eglur oddiwrth yr holl ysgrythyrau, mai nid marw a wnaeth i brynu swn efengyl i ddynion, a'u gadael yn amddifaid o ras yr efengyl. Nid marw a wnaeth Crist i brynu pethau daearol i ddynion, a'u gadael yn amddifaid o fendithion ysbrydol; yr oedd gwaed Crist yn rhy werthfawr i'w dywallt am bethau mor wael a phethau'r byd. Nid marw a wnaeth Crist i drymhau cosp dynion, nac i egluro cyfiawnder Duw yn eu dinystr; 'ond hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef trwy faddeuant y pechodau a wnaethpwyd o'r blaen trwy ddyoddefgarwch Duw, i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai Duw yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu,' Rhuf. iii. 25, 26. * * * * Mae yn sicr na fu Crist farw dros bechodau neb, ond dros y pechodau a gyfrifwyd arno; ac y mae yn sicr y cyfrifir cyfiawnder Crist i bawb o'r bobl ag y cyfrifwyd eu pechod hwy arno ef."

PRIS SWLLT.

"Y BEIRNIAD:"

CYHOEDDIAD TRIMISOL

ER EGLURO GWYDDONIAETH, GWLADYDDIAETH,

A CHREFYDD.

Amcana y Beirniad gyfleu ysgrifau pwyllgor. ymchwilgar ac addfed, o flaen ei ddarllenwyr, ar brif bynciau yr oes. Sicrheir gwasanaeth ysgrifenwyr blaenaf Cymru, a thelir hwy am eu llafur, er sicrhau bod eu hysgrifan yu werth i'r darllenwyr i'w prynu a'u darllen. Er cadw ein hieuenctyd rhag myned yn fasaidd ac arwynebol, dylai y Beirniad gael derbyniad i bob teulu.

Pob archebion am dano i'w gyru at REV. J. B. JONES, B.A.,

Bridgend, Glamorganshire.



Yn awr yn barod, pris Swllt, (post free),

TRAETHODAU GWLADOL A MOESOL

ARGLWYDD BACON.

GYDA HANES BYWYD YR AWDWR A NODIADAU,

GAN RICHARD WILLIAMS,

Cyfreithiwr, Trallwin.

"Y mae yn anhawdd enwi llyfr o gyfansoddiad dynol sydd yn cael ei gan- mol yn uwch na'r gyfrol fechan o Dracthodau a gyhoeddodd Bacon. Nis gallwn lai na meddwl ein bod yn cyfoethogi y gwaith hwu wrth roddi ychydig o ddifyniadau o honynt, gan fod pob brawddeg yn mron yn berl ac yn werth ei drysori yn y cof."-Y GWYDDONIA DUR. "Cynghorem ddarllenwyr ieuainc y Tracthodydd sydd yn ymgais at hunan-ddiwylliant, ac yn digwydd bod yn ddieithr i'r Traethodau hyn, i'w mynu yn ddioed, ac i'w darllen a'u hastudio yn drwyadl."-TRAETHODYDD.

MACHYNLLETH: EVAN JONES.



Pris Swllt, (post free),

Y FASCEDAID FLODAU :

NEU

DDUWIOLDEB A GEIRWIREDD YN ORFOLEDDUS.

CHWEDL I IEUENCTID.

CYFIEITHEDIG GAN RHYDDERCHFAB.

"Dyma un o'r ffug-hanesion mwyaf tarawiadol a ddarllenasom, erioed..... Y mae y cyfieithiad yn llawer mwy ystwyth nag aml i lyfr a gyfansoddwyd neu a ysgrifenwyd yn Gymraeg."-BANER Y TEULU.

"Yr ydys yn ddyledus i'r cyfieithydd am roddi gwisg mor brydferth i lyfr mor dyddorol.-YR HERALD CYMRAEG.

GWRECSAM: HUGHES A'I FAB.



Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 

Nodiadau

[golygu]
  1. Yr ydym erbyn hyn wedi clywed mai nid o ddygwyddiad, ond o fwriad, oedd Shadrach a'i gyfaill yn Abergwaun. Aethent yno, fel lluoedd ereill, geisio gwrthwynebu y Ffrancod.
  2. Heblaw y rhai hyn, dylid nodi fod y Parch. Griffith Griffiths yn gweinidogaethu yn Llechryd y pryd hwn. Ond nid oedd yr eglwys hon yn addefedig Annibynol, nac uniongred, hyd y flwyddyn 1828, pan gymerwyd ei gofal gan y Parch. Daniel Davies, Aberteifi.
  3. Erbyn hyn y mae hithau wedi marw. Oblegyd hyn, byddai yn anhawdd gwneud llawer darn o'r cofiant hwn yr hyn ydyw, pe gohiriasid ei ysgrifenu ychydig yn hwy
  4. Cyfansoddwyd yr Alar-gan hon gyferbyn â thrydedd Gylchwyl Gwyr Ieuainc Capel Sion, Aberystwyth.-Beirniad, y Parch. W. Ambrose. Drwy ganiatad yr awdwr argreffir hi yma, gan dybied y bydd yn dra derbyniol gan y darllenydd. Teimlir yn ddiolchgar i'r awdwr am ei hynawsedd yn caniatau hyny.