Neidio i'r cynnwys

Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen XIII

Oddi ar Wicidestun
Pen XII Bywyd y Parch. Ebenezer Richard

gan Henry Richard


a Edward W Richard
Pen XIV

PEN. XIII.

Afiechyd trwm Mr. R. yn niwedd y flwyddyn 1832—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. Thomas Evans ar yr achlysur—Llythyr Mr. R. at ei fab hynaf-=Ei drydydd ymweliad i'r brif-ddinas—Llythyr at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr-lythyrau at ei feibion—Llythyr oddiwrth y Parch. H. Howells—Un arall oddiwrth y Parch. Henry Rees.

ODDEUTU diwedd y flwyddyn 1832, goddiweddwyd ef gan afiechyd trwm, yr hwn a'i caethiwodd am wythnosau lawer. Yr oedd arwyddion o'r anhwyldeb yma wedi dechreu ymddangos er ys amryw flynyddau, ac yn parhau o hyd i gynnyddu yn raddol, nes o'r diwedd iddo gyrhaedd y fath gryfder, fel y bu gorfod ar yr achlysur presennol i ddefnyddio y moddion mwyaf llym a chedyrn er achub ei fywyd. Ei glefyd ydoedd fath o hun-glwyf (lethargy) trwm, yr hwn a'i gorthrechai fel gwr arfog, fel nad oedd posibl ei wrthwynebu. Yr oedd yn barhaus yn peri iddo ofid dirfawr, trwy ei anhwylysu i raddau helaeth i gyflawni ei wahanol ddyledswyddau. Mor adwythig ydoedd ei glefyd wedi myned yn y pwl hon, fel y soddodd yn ddwfn mewn math o drymgwsg angerddol, o ba un nis gellir dywedyd iddo ddeffro yn iawn am amryw ddiwrnodau. Dygwyddodd trwy drefniad grasol rhagluniaeth (i grybwyll ei eiriau ei hun) fod fy anwyl Edward gartref ar yr amser, a bu o wasanaeth annrhaethol i mi yn llaw Duw, oblegid gwnaeth i mi bob peth angenrheidiol fel meddyg; a, thrwy fendith yr Arglwydd ar ei ymdrechiadau, dygwyd fi oddeutu unwaith eto, ac adferwyd fi yn rhyfeddol o'r teimladau trymaidd ac anghysurus â pha rai i'm gorthrymwyd am flynyddau. Bydded i'r Arglwydd fendithio fy machgen anwyl am ei ddyfalwch a'i garedigrwydd yn fy afiechyd a'm poen, a molianner enw'r Arglwydd am weinyddu bendith ar y moddion a ddefnyddiwyd. Yr wyf yn awr (meddai efe mewn llythyr at ei fab arall) yn gallu myned yn fy nghylch oddeutu Tregaron i bregethu a chynnal Cyfarfodydd Eglwysig, a gallaf fi ddywedyd gyda mwy o wirionedd na Samson gynt, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf.'

Y mae yn ddyledus arnom nodi yma fod ei ysbryd trwy y clefyd hwn mewn tymher hynod nefolaidd, a synai ei gyfeillion mor dawel y llwyr-ymroddai i ewyllys yr Arglwydd. Wrth ymweled âg ef, gofynent iddo pa fodd yr ydoedd yn ymdeimlo yn ngwyneb yr amgylchiad yr oedd ynddo, adroddai yntau yn barhaus y geiriau hyny, Os caf fi ffafr yn ngolwg yr Arglwydd, efe a'm dwg i eilwaith, ac a bar i mi ei gweled hi a'i babell. Ond os fel hyn y dywed efe, Nid wyf foddlon it'; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg, 2 Sam. xv. 25, 26.

Yn ystod y clefyd hwn, derbyniodd y llythyr canlynol oddiwrth ei gyfaill anwyl, y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Caerfyrddin, Hydref 26, 1832.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR,

Mae yr ychydig o'n cyfeillion yn y lle hwn (pa rai a gafodd y newydd) yn drallodus iawn oblegid iddynt glywed eich bod chwi yn glaf, ond nid oes genym sicrwydd hyd yn bresennol pa faint o wirionedd sydd yn hyny; gobeithiwn nad oes nemawr, os dim; ond os oes rhyw ychydig o anhwyl, hyderwn a gweddiwn na fyddo o faith barhad.

Hysbyswyd eich addewid am ddyfod atom ddydd Nadolig nesaf i'r ysgol dydd Sabbath wythnos i'r diweddaf, a pharodd y newydd iddynt agos lamu o lawenydd. Mae gan y plant bach bennod neu ddwy o'r Rhodd Mam' yn barod erbyn eich dyfodiad, ac mae ganddynt hefyd dônau newyddion i'w canu, o'r rhai mwyaf peraidd a bywiog a glywsoch â'ch clustiau, a gwyddom y bydd yn anhawdd i chwi beidio wylo wrth eu gwrando. Mae yr holl ysgol hefyd yn llafurus.

Gair yn ol gyda'r dygiedydd, os na chewch gyfleusdra buanach, am ansawdd eich iechyd, yn nghyd a sicrhad o'ch addewid am ddyfod atom ar y dydd a nodwyd uchod, a'n mawr foddlona. Mae ein cyfeillion sydd wedi clywed am eich cystudd, (ni hysbyswyd ond i ychydig, gan ein bod yn gobeithio nad yw yr hanes yn gywir,) yn dymuno cu cofio atoch chwi yn bersonol, yn nghyd ag at eich teulu hawddgar, yn y modd mwyaf serchog a charedig, dros ba rai, ac fel un o honynt, yr ydwyf yn ysgrifenu, ac yn aros gyda dyledus barch, eich annheilwng a'ch egwan gyfaill,

THOMAS EVANS.

Yn fuan wedi adferiad Mr. Richard o'r afiechyd rhag-grybwylledig, dychwelodd ei fab hynaf i'r brifddinas i orphen ei ddysgeidiaeth fel meddyg. Y mae y llythyr canlynol ato ef yn esbonio ei hun.

Tregaron, Chwefror 8fed, 1833.

FY ANWYL EDWARD,

Daeth yr eiddoch, a ddyddiwyd y 26ain o Ionawr, yn ddiogel i law, ac achosodd foddlonrwydd a gorfoledd difesur i deulu Prospect House, y rhai oeddynt cyn derbyn y newydd croesawus ac adfywiol ond ychydig gwell na theulu o hypochondriacs, gan ddysgwyl dyfodiad y cludydd (post) gyda phryder ac ofn. Nid oeddwn i gartref ar yr amser, a chafodd eich mam a'ch chwiorydd fwynhau yr hyfrydwch gryn ysbaid cyn i mi ddychwelyd i gael cyfranogi o hono; a phan ddaeth hyny i ben, prydnawn dydd Mercher diweddaf, yr oedd eich mam druan yn dymuno yn fawr i'm synu i â'r wybodaeth, ond nid oedd posibl rheoli Hannah fach; yr oedd mor llawn o hono fel nas gallasai ymattal rhag llefain, Y mae e' wedi passo,[1] datta bach.' Pan glywais yr hysbysiad hwn, gorchfygwyd fy meddwl â diolchgarwch a moliant i'm Duw cyfammodol. O pa beth a dalaf i'r Arglwydd am y prawf ychwanegol hwn o'i drugarowgrwydd i mi ac i'm heiddo? Bydded i'r ffafr newydd hon a gyfranwyd i ni fod yn foddion i'n darostwng yn y llwch o flaen ein Tad nefol. Ac yn awr, fy anwyl Edward, dywedaf wrthych yn ngeiriau'r Salmydd, Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda;' yna nid rhaid i'ch ofni. Nid yw yn briodol i ni ymddiried yn yr Arglwydd a gwneuthur drwg, cabledd yw hyny, ac ni ddylem ychwaith ymddiried yn yr Arglwydd a pheidio gwneuthur dim, oblegid rhyfyg yw hyny. Ond gobeithiwn yn yr Arglwydd a gwnawn dda, ac yna y mae ffydd a gweithredoedd yn myned law-yn-llaw.

Ydwyf, fy anwyl Edward,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yn y flwyddyn hon ymwelodd a Llundain am y drydedd waith, ar daer gais yr eglwys yn Jewin Crescent, ond tebygol yw na fuasai yn ufuddhau i'r alwad y tro hwn oni bai fod tyniad cryf i'w feddwl tyner a thadol ef tuag at y brif-ddinas, o herwydd fod ei ddau fab yn preswylio yno.[2] Fy mechgyn anwyl, medd efe mewn llythyr atynt ar ol penderfyniad y Cyfarfod Misol ar yr achos, nis gwn yn iawn pa beth i feddwl am fy nyfodiad i Lundain, oblegid byth er y Cyfarfod Misol yr ydwyf wedi cael yn gyson feddyliau am Lundain y dydd, a breuddwydion am Lundain y nos. Weithiau yr wyf yn eistedd yn ystafell Henry yn Highbury, ar y funud nesaf yr wyf yn mharlwr rhyw feddyg yn Chiswell Street; ac ar ol ei ddyfodiad, wrth weled cyflawniad y breuddwydion serchiadol hyn, y mae yn debyg iddo fwynhau rhai o'r oriau dedwyddaf yn ei fywyd; ac nid hawdd i neb ond rhai o'r un dymher hynod, gariadus, a gwresog, ddychymygu yr hyfrydwch dirfawr oedd yn ddarluniedig yn ei wedd pan yn eistedd yn un o'r ystafelloedd a gyfeiria atynt yn y llythyr uchod.

Arosodd y waith hon am oddeutu chwech wythnos yn y brif-ddinas, ond cyn ymadael, derbyniodd y newydd am farwolaeth ei hen gyfaill, Mr. David Jenkins, o Lanbedr; ar ba achos yr ysgrifenodd y llythyr canlynol at ei deulu. AT MR. A MRS. JONES, LLANBEDR.

Llundain, Ebrill 26, 1833.

FY NGHYFEILLION CARIADUS,
Yr oeddwn wedi llwyr fwriadu ysgrifenu atoch cyn ymadael a'r lle hwn, ond pan dderbyniais fy llythyr diweddaf oddicartref, a chael y newydd trwm ynddo am farwolaeth eich hanwyl a'ch hanrhydeddus dad[3], penderfynais nad oedwn ddim yn hwy.

Gallaf ddywedyd yn ddiweniaith fy mod yn teimlo gyda chwi oll, yn enwedigol eich hanwyl fam, ïe, collodd, do, gydmar ffyddlawn ei bywyd; y mae yn rhaid ei bod yn teimlo yn unig, ac yn anghysurus, ac athrist ar ei ol gellir dweud am danynt hwy ill dau, ‘Mai cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd,' ond yn eu marwolaeth gwahanwyd hwynt. Gwelsant lawer gauaf garw a llawer haf teg, cyd-ddringasant i ben llawer bryn, a disgynasant i lawer pant dwfn; buant am hir oes yn cyd-gario beichiau, yn cyd-fwynhau breintiau, ac yn cyd-ddefnyddio trugareddau; o'r diwedd tynwyd un yn rhydd o'r iau, a gadawyd y llall tani, Yna y bydd dau yn y maes; y naill a gymerir a'r llall a adewir.' Yr ydwyf yn teimlo drosoch chwithau eich dau, yn enwedig Mrs. Jones: collasoch dad tirion a gofalus, a'ch mawr hoffodd chwi, ac a fawr hoffwyd genych chwi. Ymaflodd yn eich llaw mewn plentyneidd-dra i'ch harwain, gwyliodd drosoch yn eich ieuenctyd, a bu yn gefn ac yn blaid i chwi hyd ddiwedd ei oes. Maddeuafi chwi am wylo peth, oblegid mae galar cymedrol yn rhinwedd, er bod galar anghymedrol yn drosedd: nis buoch erioed oddiwrtho yn cartrefu, nis gwelsoch y tŷ erioed heb eich tad; nid yn unig fe ganiatawyd iddo gael byw i orphen eich magu chwi, ond magwyd eich rhai bychain chwithau ar ei liniau ef hefyd, fel plant Machir ar liniau Joseph.

Collais inau hen gyfaill cywir, cyson, a ffyddlon. Yr ydwyf yn ei alw fy hen gyfaill, am ei fod yn un o'r rhai cyntaf a feddwn yn mlaen Sir Aberteifi; yr wyf yn ei alw yn gywir, am na chefais ef erioed yn anghywir; yr wyf yn ei alw yn gyfaill cyson, oblegid cefais ef bob amser lle y gadewais ef, yr hyn sydd yn ormod i mi ddywedyd am lawer a'u galwent eu hunain yn gyfeillion i mi; yr wyf yn ei alw yn gyfaill ffyddlon, am nas gwelais ef erioed yn hyd y pum-mlyneddar-hugain yn fwy siriol, caredig, a brawdol, na'r tro diweddaf. Ond och! collasom ef; coll'soch chwi briod a thad, a chollais inau gyfaill; eto na thristawn fel rhai heb obaith; cawsoch ef yn hir, yr oedd o gryfder yr wyf yn tybied wedi cyrhaedd pedwar ugain; cawsoch of hefyd yn hynod ddifethiant-mae lluaws mawr cyn ei oedran ef yn fyddar, yn ddall, yn gloff, ïe, yn orweddiog am flynyddau, a llaw drom iawn i gael ganddynt, ïe, llawer iawn o hen bobl dda a aethant cyn myned o'r byd agos yn gwbl ddisynwyr::-oddiwrth hyn oll i'ch gwaredodd yr Arglwydd chwi; nis gallasech ddysgwyl ei gael lawer yn hwy, a phe cawsech, nis gallasech ddysgwyl llawer o gysur, oblegid dyfodiad dyddiau blin arno. Yn awr, Mrs. Jenkins, ymdawelwch, a chlodforwch Dduw am eich bod er ys llawer blwyddyn bellach wedi adnabod Priod a ddaw gyda chwi, nid hyd angeu, ond efe a'ch tywys trwy angeu.

Ef yn arweinydd, Ef yn ben,
I'm ledio o'r byd i'r nefoedd wen.'

Ymofynwch lawer am i'r tro fod yn sancteiddiedig i chwi ac i minau; elwa trwy farw ein perthynasau a'n cyfeillion fyddai yn un esboniad ar y gair hwnw, 'a marw sydd elw.' Dymunaf le mawr yn eich gweddiau taeraf.

Cofiwch fi yn garedig at eich anwyl fam, heb anghofio Mary a David, at Enoch a John Price, ac atoch eich hunain.

Ydwyf, fy nghyfeillion cariadus,

Yr eiddoch byth,

E. RICHARD.

Tregaron, Meh. 16, 1833.

FY ANWYL HENRY,
. . . . . . Yr ydych yn abl o'r diwedd i roddi i ni hysbysiad neillduol o'r lle i'ch pennodwyd iddo dros y gwyliau y flwyddyn hon.[4] Yr wyf yn gobeithio y byddwch yn ddedwydd a chysurus yn eich sefyllfa bresennol, ac, uwchlaw'r cwbl, y byddwch ffyddlon a defnyddiol dros ogoniant Duw a lleshad eneidiau anfarwol. Y mae yn foddlonrwydd mawr i mi ganfod eich bod yn dechreu teimlo natur orchestol y gwaith sanctaidd yr ydych yn ymrwymedig âg ef. O, gyda'r fath deimlad dwys y chwanegodd eich anwyl fam a finau ein Hamen o'r galon pan y dywedech, 'Bydded i'r Arglwydd gyfranu i mi nerth a doethineb oddi uchod:' felly y byddo hi, fy anwyl Henry. Bydded i chwi gael y fath gyfran o ddoethineb a'ch dysgo pa fodd i ymddwyn yn gyfrinachol ac yn gyhoeddus, oblegid yr wyf yn ofni ei bod yn genedl anhawdd ei thrin. Bydded i chwi gyfranogi o'r ddoethineb a'ch dysgo pa fodd i lywodraethu eich hun. Rheol dda yw hono os gweithredir arni— clywed, a gweled, a bod yn fud, neu, fel y defnyddir hi yn iaith eich mam,

'Gwel, a chel, a chlyw,
Ti ga'i heddwch yn dy fyw;'

neu yn hytrach gwrandewch iaith berffaith ac awdurdodol yr ysbrydoliaeth ddwyfol ar y pwnc,- Pwy yw y gwr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau i weled daioni ? Cadw dy dafod rhag drwg, a'th wefusau rhag traethu twyll.' Ac nid yn unig doethincb, ond nerth hefyd i gyflawni dyledswyddau, i wrthsefyll temtasiynau, i ddyoddef erledigaethau, ac i ymgynnal tan drallodau. O bydded i chwi fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef yn y dyn oddimewn, a bydded i'r Arglwydd eich cefnogi trwy ddywedyd wrthych megis wrth Gibeon gynt, Dos yn dy rymusdra yma; oni ddanfonais i dydi?' a bydded i chwi gael ffafr yn ngolwg yr Arglwydd.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn un llythyr yn ychwanegol oddiwrth y Parch. H. Howells at y Gymdeithasiad, wedi ei gyflwyno i ofal Mr. Richard.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Trehil, Mawrth 27, 1834.

FY MHARCHEDIG FRODYR,
Yr ydwyf yn anturio i ddanfon hyn o linellau atoch un waith yn mhellach, i fynegu fod brawdgarwch eto yn para, er fy mod wedi fy ymddifadu o'r fraint o fod yn eich plith; mae'r frawdoliaeth wedi parhau dros driugain mlynedd, a gallaf ddywedyd ei bod mor gynes heddyw yn fy meddwl ag erioed. Yr ydwyf yn gwir ddymuno eich llwyddiant yn y gwaith o'm holl galon, ac yn cwbl gredu fod Arglwydd mawr y cynhauaf wedi eich gosod bob un ar ei rwn: ymwrolwch, ymarfogwch, cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pob peth sefyll, oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, ac yn erbyn awdurdodau, ac yn erbyn bydol-lywiawdwyr, tywyllwch y byd hwn, a drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. Byddwch yn lew ac yn hyderus, anwyl frodyr, mae perchen y maes ei hunan wedi addaw bod gyda chwi. Cydweithwyr Duw ydym ni; mae addewid fawr y nef ar eich rhan, fel y byddo y dydd y bydd eich nerth; cewch fodd i ddal yn mlaen dan bwys a gwres y dydd, nes dod i ben y tir; yno y cewch eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol. Yn nesaf yr wyf yn dymuno rhan yn eich gweddiau drosof, hen bechadur, y penaf hefyd, sydd ar lan yr afon bob dydd yn dysgwyl command i lanchio i'r dw'r. Fy unig obaith am fyned trosodd yn ddiangol yw cael cadw fy ngolwg ar y Brawd Hynaf, yr hwn sy'n abl fy nwyn yn ddiangol i'r tir lle na raid ofni mwy.

'Bydd pawb o'r brodyr yno'n un,
Heb neb yn tynu'n groes,
Yn moli'r duwdod yn y dyn,
A chofio'i angeu loes.'

O frodyr, gweddiwch drosof.

Yr wyf eich cydymaith mewn cystudd,

H. HOWELLS.

Tregaron, Chwef 28, 1834.

FY ANWYL HARRI,
Derbyniasom eich llythyr a'r swpyn (parcel) yn cynnwys y ddau draethodyn, y rhai yn garedig a ddanfonasoch i mi. Yr oeddwn er ys talm yn teimlo awydd cryf am weled y Case,[5] gan fy mod wedi darllen cynifer o bigion o hono o'r blaen. Mor bell ag yr ydwyf fi yn alluog i farnu, y mae yn ddernyn meistrolaidd, a dim ond ysgrifell meistr a allasai ei ffurfio, a diammau y caiff sylw teilwng gan bob darllenydd diragfarn. Mae cyfansoddiad Mr. Binney yn sicr yn un rhagorol, ond dywedasem ni, yn ein ffordd ni yn Nghymru, fod eisiau tori ei ewinedd, ac yna buasai yn blentyn hardd.

Tregaron, Meh. 20, 1834.

FY ANWYL HENRY, . . . . .Mewn perthynas i'ch ymweliad â chartref eleni, yr ydym yn erfyn arnoch ymdrechu, gan fod eich rhieni a'ch chwiorydd druain yn llawn o ddysgwyliadau, a chael croesawu ein hanwyl Harri adref y tymhor hwn a'i gwna yn haf yn wir. Yna y cân yr adar, yna y blodeua ein gardd, ie, bydd yr holl dref a'r gymmydogaeth yn edrych yn llawen, pan delo ein bachgen anwyl yno. Ond eto, fel yr ydych yn sylwi'. yn eich llythyr, rhaid i chwi ymfoddloni i ddysgwyl mewn amynedd am arwyddion rhagluniaeth. Yr ydym yn cydymdeimlo yn wirioneddol a diffuant â chwi yn eich amgylchiadau presennol, ac yn teimlo pryder mawr; ond eto yr wyf yn gobeithio nad yw ein pryder yn cyrhaedd i anghrediniaeth, a diffyg hyder yn y Duw hwnw sydd wedi dangos y fath ofal pennodol a nodedig tuag at eich rhieni a chwithau. Deuddeng mlynedd-ar-hugain i'r dydd heddyw y dechreuodd eich tad tlawd â'i yrfa weinidogaethol, ac O'r fath garedigrwydd a ddangoswyd tuag ato, trwy faddeu ei golledion, a chydymddwyn â'i wendidau! Cymeraf fy nghenad yn ngeiriau y Salmydd wrth ei enaid, gan erfyn am iddynt gael eu cymhwyso atoch chwi yn eich amgylchiadau presennol, Paham i'th ddarostyngir, fy enaid, a phaham y terfysgu ynof? Ymddiried yn Nuw: canys eto moliannaf ef, sef iechawdwriaeth fy wyneb a'm Duw.'

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.


Tregaron, Awst 22, 1834.

FY ANWYL HENRY,
Yr ydym yn ddiolchgar iawn i chwi am yr hanes gyflawn a chywir a roddasoch am danoch eich hun yn eich llythyr diweddaf. Wrth ei ddarllen, a'ch gweled yn fy nychymyg yn Ware; yn awr yn y parlwr, maes law yn y pulpid; weithiau yn eich ystafell, a phryd arall yn nhŷ'r Capel; yn awr yn parotoi eich pregethau, yn fuan ar ol hyny yn eu traddodi; weithiau yn eich ystafell yn ymdrechu gyda Duw, ac yn mhen ychydig drachefn yn y deml, yn cynghori, yn gwahodd, ac yn ymresymu â phechaduriaid, ac yn erfyn arnynt dros Grist, Cymmoder chwi â Duw.' Wrth feddwl am y pethau hyn, gallaf ddweud mewn gwirionedd, fel y dywedodd Elizeus gynt wrth Gehazi, ond mewn llawer gwell achos, Onid aeth fy nghalon gyda thi?' O mor fynych yr ydwyf wedi gofyn wrth edrych arnoch, yn un, neu yn mhob un, o'r lleoedd hyn, Ai hwn yw fy anwyl Harri, a fum gynifer gwaith yn ei ddawnsio ar fy nghlun, yn ei gofleidio yn fy mynwes, yr hwn y bum yn ei gusanu a'i faldodi gant o weithiau? ai posibl mae hwnw yw a ddysgais i i gerdded ac i siarad, sydd 'nawr yn cyfarch y cannoedd cynnulledig? O pa beth a dalaf i'r Arglwydd, yr hwn a osododd yr anrhydedd hwn arnaf, i gymeryd un o'm heiddo i'w wasanaeth, a'i awdurdodi i fod yn genadwr at fyd gwrthryfelgar? Mewn perthynas i'ch bywyd dyfodol, gellid gobeithio nad yw yr olygfa sydd o'ch blaen yn dywyll a digalon iawn yn bresennol, ond yr ydym yn byw mewn byd o gyfnewidiadau. Un funud geill ein terfyngylch ymddangos yn ddysclaer a digwmwl, ac mewn ychydig iawn o amser tywylla yr holl ffurfafen gan gymylau duon, yn rhagarwyddo storm ddychrynllyd. Ond yr wyf yn gobeithio ac yn hyderu fod eich barn gyda'r Arglwydd, a'ch gwaith gyda'ch Duw.' Yn eich holl ffyrdd cydnebyddwch ef, ac efe a hyffordda eich llwybrau. Treiglwch eich gweithredoedd ar yr Arglwydd, a'ch meddyliau a safant, ac aroswch yn ofn yr Arglwydd yn hyd y dydd.' O'r fath Amen naturiol ac o'r galon a dynodd y frawddeg hono yn eich llythyr oddiwrth eich hanwyl fam a minau,— O na chymerid fi dan ddysgeidiaeth yr Ysbryd Glan, fel y byddai i'r galon gael ei dysgyblu yn well, a meithriniad moesol ac ysbrydol i gael ei ddwyn yn mlaen; heb yr hyn bydd yn rhaid i bob cyrhaeddiadau fod yn annigonol.' Amen, amen. Ie, fy anwyl Henry, rhydd dysgeidiaeth yr Ysbryd Glan i chwi farn uniawn am bob peth sydd genych mewn llaw, ac a'ch tywys i bob gwirionedd. Y mae sylw a wneir gan yr enwog Dodridge yn dyfọd i'm cof yn fynych, sef, bod y frawddeg yn Matt. xxiii. 12, 'A phwy bynag a'i dyrchafo ei hun a ostyngir, a phwy bynag a'i gostyngo ei hun a ddyrchefir,' i'w chael o'r hyn leiaf ddeng waith yn yr efengylwyr, i ddangos mae yr unig ffordd ddiogel i ddyrchafiad yw trwy ddyffryn gostyngeiddrwydd; a da genyf ddeall wrth sain eich llythyr, nad oes genych ryw lawer o ymddiried yn y cnawd, ond eich bod yn teimlo eich diddymdra eich hun. Yr wyf yn cofio darllen hanesyn am weinidog yn Lloegr Newydd, enwog am ei ddoniau, yr hwn a gyfarchwyd ryw ddiwrnod gan un o’i wrandawyr, yr hwn a ganmolai yn uchel iawn un o'i bregethau, am ba un y barnai efe ei hun yn isel iawn. Ar ol gwrando arno yn amyneddgar am rai munudau, atebodd y gweinidog, Fy nghyfaill, nid yw y cwbl a ddywedasoch yn rhoddi dim gwell barn i mi am danaf fy hun nac oedd genyf o'r blaen, ond y mae'n rho'i i mi lawer gwaelach barn am danoch chwi.' Ond rhaid i mi adael heibio, am fy mod yn gorfod parotoi pregeth angladdol erbyn deg o'r gloch foru.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad,

EBENEZER RICHARD.


Mehefin, 1835.

FY ANWYL EDWARD,
Derbyniais eich llythyr yn Llanfair, ac yr oedd yn dda iawn genyf fi a'ch hanwyl ewythr ei gael. Yr oedd wedi ei ysgrifenu mewn dull caredig a serchiadol, ac y mae pobl o'n hoedran ni yn medru prisio caredigrwydd. Gwnaeth eich llythyr les i mi. Gan fy mod wedi crybwyll Llanfair, rhoddaf i chwi hanes byr o'n Cymdeithasiad Chwarterol yn y lle hwnw. Cyrhaeddodd eich ewythr a minau yno y prydnawn o'r blaen, a phennodwyd ni i bregethu yn nghyd y noswaith hono, ac felly llefarodd eich ewythr ychydig yn mlaenaf, a minau yn ganlynol, fel yr ydoedd weddus, gan mae myfi ydyw'r hynaf. Yna, ar ol enwi y gwahanol weinidogion a fuont yn ymddangos yn gyhoeddus, sylwa, Yr oedd yr hin yn ddymunol iawn, a'r Arglwydd yn dda, ond eto nid oedd dim symud yn mysg yr esgyrn sychion. O Arglwydd, pa hyd! Y mae yr hanesion a dderbyniasom am y Cyfarfodydd Blynyddol yn Mai, yn wir ryfeddol. Yr wyf yn bendithio ac yn clodfori Duw am yr ysbryd rhagorol oedd yn treiddio-trwyddynt. Yr oedd cynhwrf zel-bleidgarwch wedi ennill y fath oruchafiaeth dros nifer fawr o'n cyd-ddeiliaid yn y wlad, fel yr oedd pob peth pwysig a difrifol bron wedi cael eu halltudio o feddyliau a geiriau y rhan fwyaf o honynt. Rhyw dwymyn foesol boeth iawn ydoedd, ac yr oedd llawer o honynt yn ymddangos yn agos yn orphwyllog. Bydded i'r nefoedd ostwng a llonyddu rhyw raddau ar y clefyd dychrynllyd hwn.

Y mae ein cyfaill parchedig Mr. Evans, gynt o New Inn, wedi dymuno arnaf ei gofio yn garedig atoch eich dau, ond y mae yn ddrwg iawn genyf orfod dweud, fy mod wedi clywed yn ddiweddar fod ei hen anhwyldeb wedi gwneuthur ymosodiad tra llym arno drachefn; bydded i'r Arglwydd ei adferyd yn fuan, oblegid yr ydym yn teimlo ei absennoldeb yn fawr iawn, efe yw ein Daniel, wr anwyl.' Mewn perthynas i'ch cais diweddaf chwi, am ran yn fy ngweddiau i, na ato Duw i mi beidio a gweddio drosoch bob dydd a nos, boreu a hwyr. Gallaf sicrhau i chwi fod y rhan amlaf o'r gweinidogion sydd yn lletya yn ein bwthyn bychan ni, yn gwneuthur coffa am danoch chwi o flaen yr orsedd. Yr ydwyf fi yn eich dwyn yn wastad ar fy nghalon; ac os gallasai y frenhines waedlyd Mary ddweud y ceffid Calais yn ysgrifenedig ar ei chalon ar ol ei marwolaeth, gallaf fi ddweud gyda llawer mwy o briodoldeb y ceir enwau Edward a Henry yn gerfiedig ar fy nghalon i, ar ol fy marwolaeth; ac yr wyf yn ostyngedig obeithio na bydd i blant cynifer o ddagrau a gweddiau, i gael eu gwrthod yn y diwedd.

Wyf, fy anwyl Edward,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn lythyr a dderbyniodd Mr. Richard yn ystod y flwyddyn 1835, oddiwrth ei gyfaill hoff a hyawdl y Parch. Henry Rees.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Amwythig, Gorph. 29, 1835.

FY NGHYFAILL ANWYL A HOFF,
Yr ydwyf yn ofni fod fy ngwaith yn oedi ateb eich llythyr wedi hanner-fferu y cariad gwresog a weithiai mor nerthol yn eich mynwes pan oeddych yn ei ysgrifenu. Ond gallaf sicrhau i chwi nad oherwydd diffyg parch, cariad, a chyfeillgarwch y bum cyhyd heb ysgrifenu, ond methu penderfynu pa un a wnawn, ai dyfod i Langeitho ai peidio. Yr ydych yn peri i mi roi heibio bob rhesymau gweiniaid yn erbyn dyfod; wrth yr hyn yr wyf yn casglu y boddlonwch i mi beidio a dyfod ond rhoddi i chwi resymau cryfion am hyny. Yn awr, fy anwyl gyfaill, onid yw pellder y ffordd yn rheswm cryf? Onid yw y draul o ddyfod gyda y cerbyd yn rheswm cryf? Onid yw byrdra'r amser y gallaf aros yn y wlad ar ol myned i'r draul i'm cyrchu iddi, yn rheswm cryf i aros gartref? Onid yw'r ystyriaeth y bydd cyflawnder o frodyr i'r gwaith yn Llangeitho, a degau na bydd lle iddynt wneud dim, yn rheswm cryf i beidio myned i draul anarferol yn achos un brawd? Onid yw'r ystyriaeth fy mod yn hen ysglodyn sychlyd, heb na phregethau nac ysbryd i'w traddodi pe byddent genyf, yn rheswm cryf a digonol i beri i mi wrthod gadael i'm brodyr fy nghyrchu o bellder anarferol, trwy draul anarferol, a hyny i gyfarfod anarferol, lle o bosibl y gallaf fyned a lle rhyw frawd a fyddai yn fwy buddiol a chymhwys uwch ben y dorf? Ger bron fy Ngwneuthurwr, y mae y pethau hyn yn ymddangos yn rhesymau cryfion yn fy ngolwg i. Ond gan fod yr Arglwydd yn peri i mi beidio ymddiried i'm deall fy hun, a bod Paul wedi gweled gwr o'r fan yn deisyfu arnynt ddyfod trosodd i'w cymhorth hwy, wedi cwbl gredu alw o'r Arglwydd hwynt yno; minau, rhag ofn pechu, a ymdrechaf ddyfod i Langeitho. O na weddiech drosof! Os gofynwch am beth, mi ddywedaf wrthych, Am i mi gael y weledigaeth, yr argyhoeddiad, y cyffyrddiad, yr ymadawiad anwiredd, a'r glanhad oddiwrth bechod, a'r holl ymgeledd a ddesgrifir yn Esaia, chweched bennod. Yna y d'wedwn, Wele fi, anfon fi. O fe fyddai y flwyddyn hon yn flwyddyn ryfedd, nid yn unig ar gorph y Methodistiaid ac ar Langeitho, ond arnaf finau hefyd, pe cawn hyn. O yr ydwyf bron yn meddwl y caf hwy. Mae fy nychymyg yn rhedeg i Dregaron, mi a'ch gwelaf yn darllen fy llythyr, a'm cais dlawd yn dechreu cyffroi tannau brawdgarwch yn eich mynwes, y llygaid parod i wylo yn dechreu llenwi-mi a'ch gwelaf yn myned i fynu i'r study, yn troi at y chweched o Esaia, ac yn ei darllen mewn dagrau; mi a'ch gwelaf yn myned ar eich gliniau, a'r fynwes oedd yn gronfa o gymmysg deimladau yn ymarllwys mewn llefau cryfion a dagrau ar fy rhan. O mi a'u caf, mi a'u caf; fy mrawd ar y ddaear yn eu ceisio troswyf, a'm Brawd yn y nef yn cyflwyno ei gais, i'w Dad ef a'i Dad yntau, ei Dduw of a'i Dduw yntau. O fe ddaw y bendithion, a minau, os deuant, a ddeuaf yn llawn i Langeitho. Mae yn dda genyf ddyfod i WELED Y DIWEDD[6]; bron na ddysgwyliwn ryw beth mawr. Caf setlo y Sabbath ar ol dyfod.

Gyda yr un serchawgrwydd yr ydwyf fi a'm gwraig, Mr. a Mrs. G., yn cofio atoch chwi a'ch anwyl Mrs. Richard, a'ch hoffus blant.

Yr eiddoch yn Nghrist Iesu,

HENRY REES.

Tregaron, Awst 8, 1835.

FY ANWYL HARRI,
Ar ein dychweliad o'r cyfarfod gweddi misol neithiwr, derbyniasom y Patriot,' yn nghyd a'ch llythyr chwi, ac yn ebrwydd aeth eich mam, a minau, a'ch chwiorydd, o'r neilldu i'w ddarllen. Dechreuais inau ei ddarllen yn nghanol y dystawrwydd a'r pryder mwyaf difrifol, nes dyfod at y frawddeg hyfryd hono, 'A chytunwyd arno yn un llais.[7] Nis gallaswn fyned yn mlaen yn mhellach; torodd ein teimladau allan gyda'r fath rym nes cludo y cwbl o'i flaen mewn cenllif o ddagrau oddiwrth eich anwyl fam a'ch chwiorydd bach cariadus, nes oeddwn fy hun yn mron wedi fy nirymu; ac ar ol rhai munudau o ddiolchgarwch dystaw, ond diffuant, dywedodd eich anwyl chwaer Hannah, 'Datta, rhaid i chwi fyned i weddi yn union.' Yna darllenais inau y xlvi. Salm, ac ymostyngais gyda fy nheulu bychan; ac yr wyf yn gobeithio y gallaf ddywedyd yn ddiymffrost, mae amser o adfywiad ydoedd o olwg yr Arglwydd. O beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddaioni i mi? Phiol iechawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.' Ond nac anghofiwch, fy anwyl Henry, eich bod eto ar y môr, oblegid, er ein bod yn cael yr hyfrydwch o'ch cyfarch yn bresennol fel un sydd wedi eich dwyn yn ddiogel dros un don aruthrol, eto geill fod ugeiniau o rai eraill llawn mor ddychrynllyd a hono o'ch blaen, ond addewid ddiball ein Duw yw, Ni'th roddaf i fynu, ac ni'th lwyr adawaf chwaith,' ac wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.'

Yn awr, fy anwyl Henry, yr ydym yn cydlawenychu â chwi yn y modd gwresocaf a chywiraf ar yr alwad ddedwydd yr ydych wedi ei derbyn, nid oherwydd swm y gyflog, neu'r ganmoliaeth ddynol a gawsoch, ond yn benaf oherwydd y cyfleusdra a rydd hyn i chwi i fod yn ddefnyddiol gydag achos Duw, ac hefyd oherwydd fod eich meddwl wedi cael ei esmwythau o'r pryder gofidus cysylltiedig â sefyllfa o betrusder ac ansicrwydd. Yr ydym wedi bod ar ein gliniau lawer gwaith yn erfyn ar ein Duw cyfammodol i fod yn bob peth i chwi yn yr amgylchiad hwn-i fod yn lle rhieni, cyfeillion, a brodyr; ac nid wyf yn ammau na bydd felly, tu hwnt i ddim a allwn ni ei ofyn neu feddwl, yn ol cyflawnder ei gyfoeth yn Nghrist Iesu.

Mewn perthynas i'r gwahoddiad caredig a roddwch i'ch hanwyl fam a minau i fod yn bresennol ar amser eich hurddiad, yr ydym yn ei gymeryd yn dirion iawn oddiwrthych chwi, ac nid yw yn anmhosibl i hyny gymeryd lle. Ond am eich cais i mi gymeryd rhyw ran yn y gwasanaeth cyhoeddus ar yr achlysur, yr wyf yn gobeithio y gwelwch y priodoldeb o i mi wrthod y cynnyg, oblegid er y buasai ar lawer golygiad yr amgylchiad dedwyddaf yn fy holl fywyd i mi, eto i gyd yr wyf yn barnu y bydd yn fwy doeth i mi i'w ochelyd, oblegid yn 1af. Creai y fath bryder ar fy meddwl fy hun, ac efallai ar yr eiddoch chwithau a'ch anwyl frawd, ac a'n gwnai yn anesmwyth drwy yr holl wasanaeth. Yn 2il. Yr wyf yn ofni y byddai i̇'m teimladau fy ngorchfygu a'm anhwylysu i'r fath raddau, fel nas gallwn gyflawni yr hyn a allaswn mewn amgylchiadau eraill. Yn 3ydd. Yr wyf yn addaw i chwi na chaiff hyny fod yn un golled i chwi, oblegid chwi gewch yr oll ag sydd gan eich tad druan i ddweud ar y testun mewn ystafell-gynghor (parlour-charge) ac mewn llythyrau. Ond rhaid i mi addef y gweinyddai i mi yr hyfrydwch mwyaf i fod yn bresennol ar yr achlysur. Y gweinidogion a ddymunwn i i gymeryd rhan yn eich hurddiad chwi, ydyw y rhai mwyaf sanctaidd, profiadol, ac sydd yn sefyll yn uchel o ran cymeriad, oblegid nid oes dim a wna'r tro yn lle hyny. Mae'r galluoedd naturiol a chyrhaeddedig mwyaf ardderchog megis yn ddim mewn cydmariaeth a chymeriad.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Nodiadau

[golygu]
  1. Sef yr Examinations angenrheidiol i'w awdurdodi yn gyfreithlon i ymarfer â'i alwedigaeth.
  2. Y naill newydd ddechreu ymarfer â'i alwedigaeth fel meddyg, a'r llall yn parhau yn yr athrofa.
  3. Mr. David Jenkins, Llanbedr.
  4. Byddid arferol o anfon y gwyr ieuaine perthynol i'r athrofa i wasanaethu rhyw eglwys amddifad o weinidog, dros y gwyliau.
  5. The Case of the Dissenters. Traethodyn a ysgrifenwyd ar achos yr Ymneillduwyr, mewn dull o lythyr at Arglwydd Brougham, fel yr ydys yn barnu, gan y Parch. Dr. Andrew Read.
  6. Y mae yn gymhwys i ni hysbysu i'n darllenwyr, mae yr hyn y cyfeiria Mr. Rees ato yn y frawddeg uchod ydyw terfyniad y ganrif gyntaf, er sefydliad dechreuol y Trefnyddion Calfinaidd. Dechreuwyd sefydlu y corph hwn yn Nghymru yn y flwyddyn 1735. Gellir hefyd sylwi yma, mae y Gymdeithasiad hon, yn 1835, oedd yr olaf byth a welodd Mr. Richard yn Llangeitho.
  7. Cyfeiriad at yr hanes a roddasid yn y llythyr, am ba un y crybwylla o ddewisiad ei fab ieuangafi fod yn weinidog ar eglwys gerllaw Llundain.