Neidio i'r cynnwys

Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen XV

Oddi ar Wicidestun
Pen XIV Bywyd y Parch. Ebenezer Richard

gan Henry Richard


a Edward W Richard
Taflen llafur

PEN. XV.

Dychweliad Mr. R. i Gymru—Ei undeb â Chymdeithas Dirwest—Llythyr oddiwrth y Parch. Thomas Evans—Priodas ei ferch hynaf— Llythyrau at ei blant—Ei ddyddiau diweddaf—Ei afiechyd, a'i angeu —Portreiad o gymeriad Mr. Richard.

DYCHWELODD Mr. Richard i'r wlad a'i iechyd wedi ei adnewyddu yn rhyfeddol, fel yr oedd yn alluog i ymaflyd drachefn yn ei wahanol orchwylion pwysig a llafurus, gyda nerth a bywiogrwydd mwy na chyffredin. Dechreuodd ei gyfeillion ymgryfhau yn y gobaith y goddefid iddynt am gryn ysbaid yn ychwaneg fwynhau ei lafur a'i bresennoldeb yn eu plith. Ond ymddengys fod rhyw ragdybiaeth ddofn wedi ymaflyd yn ei feddwl ef ei hun, fod tymhor ei ymadawiad yn agoshau, ac yr oedd effeithiau y grediniaeth hon yn amlwg yn ei holl ymddygiad, ac yn enwedig yn hollol ymgyssegriad ei feddwl a'i fywyd i waith yr Arglwydd. Ofer ydoedd pob ymgais i'w ennill i laesu ei ymdrechiadau rhag niweidio ei iechyd, oblegid yr oedd yn gweithredu yn ysbryd y sylw a grybwyllai yn fynych mewn ateb i'r cyfryw gymhelliadau, Fod yn well ganddo dreulio allan na rhwdu allan. Yn ystod y flwyddyn hon dechreuodd ymgymeryd gyda ei egni arferol âg achos dirwest. Wrth ganfod effeithiau truenus meddwdod ar y wlad yn gyffredinol, teimlai fod rhyw ymdrech gorchestol yn angenrheidiol i wrthsefyll y llifeiriant dinystriol, ac yr oedd yn barnu fod y gymdeithas oedd newydd ymddangos yn Nghymru, yn meddu llawer o gymhwysder at gyflawni y gorchwyl hwn. Nid oedd yn ei ystyried yn beth gofynol, i'r dyben o brofi gwirionedd ei zel yn yr achos, i ddrwgdybio egwyddorion na chamddarlunio dybenion eraill, nas gallasent gydweled a chydfyned i'r un graddau ac efe ei hun ar y pwnc. Defnyddiai bob rheswm a chymhelliad moesol i ennill pawb i'r un grediniaeth, ond nid oedd foddlon gweled dim tebyg i erledigaeth neu chwerwder yn cael ei ddatguddio gan bleidwyr y gymdeithas tuag at eraill, gan farnu ond odid yr un peth a gweinidog enwog yn yr America, yr hwn a ddywedai ar y mater yma, Os na chaiff y cythraul un ffordd arall i ddystrywio achos da, fe dry yn goachman ei hunan, ac a’i gyr yn rhy chwyrn a chyflym. Eto, o'r ochr arall, dylid cofio na bu i un sefydliad daionus erioed gyrhaedd perffeithrwydd ar unwaith, a dideimlad a diddaioni yn wir yw y dyn na chanfyddo ac na chyfaddefo y daioni helaeth sydd er hyny eisoes wedi ei gyflawni trwy offerynoldeb y gymdeithas hon; ac os gellir ond ei sefydlu ar sylfeini cedyrn a diysgog, y mae y daioni sydd yn ystor ganddi i oesoedd dyfodol yn fwy nac y geill tafod ei draethu, yn fwy nac y geill dychymyg ei gynnwys. Diau i'w waith ef, yn nghyd a'i ddull ef yn cefnogi yr achos hwn, fod yn un o'r prif foddion i'w sefydlu yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd yn y Deheudir. Yma y canlyn lythyr a dderbyniodd Mr. Richard ar yr achos hwn oddiwrth ei anwyl gyfaill, y Parch. Thomas Evans.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Caerfyrddin, Mai 4, 1836.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR
Tair wythnos yn ol ysgrifenais atoch o'r blaen, i ddymuno arnoch yn y modd taeraf a fedrwn i ddyfod i gynnorthwyo Cymdeithas Cymedroldeb yn y dref hon; gan na chefais ateb, mae arnaf ofn fy mod yn troseddu ar eich amynedd, ond gan na chaf lonydd gan y committee, yr ydwyf unwaith eto yn arfer hyfdra tuag atoch i ddefnyddio geiriau Mr. Breese ei hun wrthyf neithiwr, ar ol i mi hysbysu na chefais un ateb oddiwrthych, Sgrifenwch eto gyda brys, a dywedwch wrth Mr. Richard fod yn rhaid iddo ddyfod i'n cymhorth, ac os na ddaw, bydd yr achos da hwn yn sicr o syrthio rhwng ein dwylaw, oblegid y mae tre a gwlad yn ein herbyn, ac maent eisoes wedi hen gynefino â'n storiau ni.' Gyda golwg ar yr achos ynddo ei hun, (oblegid yr un golygiadau a feddaf finau ar y mater hwn,) taer ddymuniad Mr. Breese, yn nghyd a'r caredigrwydd mawr a ddangosodd efe yn nghyd a'i gynnulleidfa i ni yn amser ein cymanfa, bydd yn hynod dda genyf i chwi ddyfod atom, a hyderaf na adewch ddim i eich rhwystro y waith hon os bydd bosibl.

Penderfyniad diweddar y committee yw i gyfarfodydd cyhoeddus y gymdeithas hon i gael eu cynnal yn y capeli ar gylch. Bu y diweddaf yn Nghapel Heol Awst; mae'r nesaf i fod yn Nghapel Heol Dw'r, ar y 27ain o'r mis hwn, sef nos Wener, am 7 o'r gloch; ond os bydd rhyw noswaith arall yn fwy cyfleus i chwi wrth ddychwelyd o Sir Benfro, mae'r cyfeillion yn foddlon cyfnewid er eich mwyn, ond yn unig cael gwybod gyda'r cyfleusdra cyntaf. Gan fy mod yn hyderus eich bod wedi derbyn fy llythyr diweddaf ar yr achos hwn, ni chwanegaf. Mae fy mhriod yn cyduno â mi i gofio atoch chwi, Mrs. R., yn nghyd a'ch teulu caredig oll. Wyf, barchedig ac anwyl Syr,

Eich egwan a'ch annheilwng gyfaill,

THOMAS EVANS.

O. Y. Gobeithiaf y gwnewch dreulio'r Sabbath canlynol i'r cyfarfod uchod yn ein plith. T.E.

Rhoddwn yma ychydig bigion o'r gwahanol lythyrau a dderbyniasom oddiwrtho ar ol ei ddychweliad i'r wlad y tro hwn.

FY ANWYL HENRY,
. . . . . . Yr hanes a roddwch yn eich llythyr diweddaf am yr argoelion cysurus o'ch blaen yn Marlborough Chapel, a'n dygodd ar ein gliniau i ddiolch i Roddwr pob rhodd ddaionus a phob rhodd berffaith,' oblegid heb ddylanwadau yr Ysbryd Glan byddai raid i ni lafurio yn ofer, a threulio ein nerth yn ofer ac am ddim. O bydded i chwi a minau gael ein cadw mewn ysbryd ymddibynol, yn dysgwyl am ei weithrediadau nerthol a graslawn ef i wneuthur y gair yn effeithiol, oblegid efe yn unig a eill roddi y cynnydd. A pha raddau bynag o lwyddiant a ganiateir i'ch hymdrechiadau, gochelwch, fy anwyl Henry, rhag logellu (pocketing) dim o arian eich Meistr. Wrth yr arian yr wyf yn golygu y clod a'r anrhydedd. Duw eiddigus ᎩᎳ ein Duw ni, yn eiddigus am ei foliant, oblegid efe a ddywedodd, Myfi yw yr Arglwydd, dyma fy enw, a'm gogoniant ni roddaf i arall, na'm mawl i ddelwau cerfiedig.' Ni oddef i neb i'w yspeilio, yn enwedig o'i ogoniant, am hyny byddwch ofalus i offrymu y clod iddo ef ar eich gliniau bob boreu a hwyr, gan gofio yn wastadol mae eiddo chwi yw y llafur, ac eiddo yntau y llwyddiant a'r clod. Ar ol rhai o'ch odfaon mwyaf cysurus a llwyddiannus, bydd y diafol yn barod i guro eich cefn, a dywedyd, Well done, Henry, pwy a wnaeth yn well na hyn erioed?' Ond yr ydwyf yn gobeithio ac yn gweddio y dysgir chwi fel na byddoch heb wybod ei ddichellion ef. Yr ydych yn ddiogel, fy anwyl blentyn, cyhyd ag y cynnalio Duw chwi, a dim yn hwy, oblegid 'dy holl saint ydynt yn dy law, a hwy a ymlynant wrth dy draed, pob un a dderbyn o'th eiriau.' Mewn perthynas i'r achos y gofynwch fy ngyngor i yn ei gylch, nid oes genyf ond dywedyd, bob tro y bu i mi fedyddio dynion mewn cyflawn oed, na cheisiais i gyffes gyhoeddus gan un o honynt, yr hyn a ystyriwn i yn afreidiol, oblegid rhaid fod yr eglwys wedi cael ei boddloni yn eu cylch cyn iddynt gael caniatâd i ddyfod yn mlaen, yr hyn a ddylech bob amser ei grybwyll ar y pryd. Yr ydwyf yn ei ystyried hefyd yn beth dideimlad, yn enwedig os benywaid fydd yn cynnyg eu hunain, i ofyn tystiolaeth yn gyhoeddus o'u ffydd, oblegid yn eu gwaith yn ymostwng i'r ordin- had y maent mewn effaith yn rhoddi y cyfryw dyst- iolaeth. Ond cyngorwn chwi i fỳnu gwybod pa beth yw arferiad gyffredin gweinidogion Llundain. Yn awr mi derfynaf, trwy wneuthur yr hyn yr wyf yn ei wneuthur yn gyson ar gareg yr aelwyd, Henry bach, a hyny yw eich cyflwyno chwi eich dau i Dduw sydd yn cadw cyfammod ac yn cyflawni ei addewid.

Ydwyf, fy anwyl Henry,
Eich tad cariadus,
EBENEZER RICHARD.'

Yr oeddwn yn teimlo yn ddedwydd ac yn ddiolchgar iawn i ddeall, fy anwyl Henry, i chwi gael eich galluogi i fyned trwy wasanaeth eich Sabbath gyda chymaint o gysur i chwi eich hun; a chan fy mod wedi cael rhyw gymaint o brofiad yn y pethau hyn am bumtheg-ar-hugain o flynyddau, efallai y goddefwch i mi wneuthur un sylw fel hyn, sef ein bod yn gyffredin yn teimlo mwy o foddlonrwydd i ni ein hunain, ac y mae yn debyg yn fwy bendithiol i eraill, wrth fyned trwy yr odfaon hyny ag ydynt wedi costio i ni fwyaf o bryder a gofid meddwl, a mwyaf o weddiau hefyd, na'r rhai hyny sydd wedi achosi llai o drallod. O'r fath briodoldeb sydd yn ngeiriau Hannah dduwiol, pan y dygodd ei hanwyl Samuel i Eli yn Siloh, i fod yn gyssegredig i'r Arglwydd,—‘Am y bachgen hwn y gweddiais, a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo! O na fyddai genym ninau fel gweinidogion fwy o'r plant gweddi yma, fel y gallem yn fynychach ddywedyd mewn gwirionedd, Am y bregeth hon y gweddiais; am yr ordinhad hon, am y gwasanaeth hwn, am y gorchwyl hwn y gweddiais!' Fy anwyl, anwyl Henry, bydded fod achos eich swydd yn sefyll goruwch pob gofal arall yn eich ystyriaeth, a bydded i orchwyl penaf eich galwedigaeth ddifrifol gael y blaenoriaeth o hyd, sef i ennill eneidiau; 'a'r neb a ennillo eneidiau sydd ddoeth.

Fy Anwyl Edward
Derbyniasom eich llythyr yr wythnos ddiweddaf, a llawenychodd ni yn fawr iawn ar amryw gyfrifon. Yr oedd yn hoff genym ganfod y pryder, y llawenydd, a'r diolchgarwch a ddangoswch wrth dderbyn y newydd am ein dyfodiad yn ddiogel adref. Mae yn sirioli calonau eich rhieni, ac yn gwneuthur lles iddynt, i weled fod y rhai ydym wedi eu magu a'u meithrin gyda chymaint o ofal a thiriondeb, yn cydymdeimlo â ni yn mhrydnawn ein dydd; bydded i'r nefoedd eich gwobrwyo lawer gwaith am eich holl garedigrwydd a ddangosasoch mor ddibaid tuag at eich tad a'ch mam tra yr oeddynt yn preswylio yn Llundain. Rhan arall o'ch llythyr ag ydoedd yn wir foddlonol i mi oedd eich bod wedi clywed eich hanwyl frawd y prydnawn Sabbath diweddaf, (yr wyf yn gobeithio y bydd bob amser ganddo ryw beth fel cenad oddiwrth Dduw at ddynion,) a'i fod yntau wedi ymweled a chwi drannoeth, oblegid Mwy llawenydd na hyn nid oes genyf, sef cael clywed fod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd,' cariad, a sancteiddrwydd; oherwydd os ydych am wybod fy arwydd-air i, dyma fe, Gwirionedd, heddwch, a sancteiddrwydd.'

Rhan arall o'ch llythyr a effeithiodd yn hyfryd ar deimladau eich rhieni, yw'r pryder a ddangoswch mewn perthynas i'n iechyd, yn nghyd a'r cyngorion a roddwch i mi. Credwch fi, fy anwyl Edward, y maent yn pwyso yn annrhaethol fwy gyda mi na phe deuent oddiwrth feddyg ei Fawrhydi, pwy bynag ydyw; a gellwch benderfynu y telir dyledus sylw i bob cyfarwyddyd oddiwrthych chwi perthynol i'm iechyd.

Y mae yn ddrwg genym ddywedyd wrthych fod eich hanwyl ewythr yn bur ganolig. Darllenais iddo yr hyn a grybwyllwch yn eich llythyr; yr oedd yn ddiolchgar iawn i chwi am eich cynnyg, ond yr oedd yn ymddangos yn bur llwfr ac anobeithiol. Yr wyf yn hyderu, os gellwch feddwl am unrhyw beth a ddichon weinyddu seibiant iddo, yr ysgrifenwch ato yn ddioed.

Fy anwyl blant, mi a barhaf i ymdrechu drosoch gyda Duw yn ddirgel ac yn gyhoedd, ddydd a nos, ac ni pheidiaf byth hyd awr fy marwolaeth.

Ydwyf, fy anwyl Edward,
Eich tad cariadus,
EBENEZER RICHARD.

Yn y flwyddyn hon priododd ei ferch hynaf â Mr. Samuel Morris, mab ieuangaf ei hen gyfaill a'i gydwas, y diweddar Barchedig Ebenezer Morris; ac yma y canlyn lythyr a anfonodd atynt ychydig fisoedd ar ol hyn, mewn ateb i un a ysgrifenasai ei ferch ato ef.

Tregaron, Rhagfyr 6, 1836.

FY ANWYL BLANT,
Derbyniasom gyda hoffder mawr eich llythyr, a dedwydd oedd genym ddeall fod eich iechyd a'ch amgylchiadau mor gysurus. Yr wyf yn gobeithio ac yn deisyf am i chwi gael eich gwneuthur yn fendith y naill i'r llall. Mynwch wybod dyledswyddau eich sefyllfaoedd eich hunain o air Duw, a gweddiwch yn feunyddiol am ras i'w cyflawni, oblegid nid oes dim dedwyddwch oddieithr bod dyledswyddau eich sefyllfa yn cael eu cwblhau yn ddyledus. ******* Wrth fy anwyl Mary, mewn ateb i'r hyn a ysgrifenodd yn nghylch sefyllfa ei meddwl mewn perthynas i bethau crefyddol, dywedaf, mae teimlad fy anwylyd yn arwydd o fywyd. Nid ydyw y marw yn teimlo dim. Mae'r teimladau mwyaf poenus yn well na chaledwch calon. Y peth mwyaf anobeithiol mewn perthynas i'r corph yw pan y byddo dyn a'i deimlad wedi ei ddiarbodi. Mae'n well clywed ei riddfanau a’i ocheneidiau, na chael ei fod yn glaf, ac eto heb wybod; felly, fy anwyl blentyn, yr wyf wedi dychwelyd diolch i Dduw ar eich rhan er pan ddarllenais eich llythyr. Bugail yw ein Harglwydd a'n Meistr anwyl ni, ac un o'r swyddau grasol y mae yn eu cyflawni, yw dwyn adref y darfedig. Ymddengys eich bod chwithau yn bresennol yn teimlo fel un darfedig, ond yr wyf yn hyderu y bydd iddo ef yn rasol eich dwyn yn ol drachefn, ac adferyd eich henaid. Yn awr, os yw cydwybod wedi ei deffro i ryw fesur, gofelwch wrando arni, oblegid llais Duw yw llais cydwybod; ac os na bydd i ni sylwi ar rybuddion cydwybod, bydd ef tan yr angenrheidrwydd o ddefnyddio moddion eraill, a'r rhai hyny efallai heb fod o'r natur dirionaf. Ond yr wyf yn gobeithio, fy anwyl blentyn, y galluogir chwi i ateb fel y plentyn Samuel, 'Llefara, Arglwydd, canys y mae dy law-forwyn yn clywed.' Yr wyf yn hyderu y dysgir chwi eich dau i wybod dirgelion dichellion Satan. Y mae yn awr efallai yn myned oddiamgylch i'ch temtio, trwy ddangos i chwi olud y byd a'i ogoniant, gan ddywedyd, Hyn oll a roddaf i chwi, os syrthiwch i lawr a'm haddoli.' Maes o law, efe a ddywed wrthych y gellwch esgeuluso pethau y byd hwn, a rhoddi eich hunain i fynu i grefydd, i'r dyben o ddwyn gwaradwydd ar achos Crist trwy eich hesgeulusdod; ond dysg gras Duw chwi i roddi eiddo Cæsar i Cæsar, ac eiddo Duw i Dduw; fe'ch dysg i roddi pob peth yn ei le priodol ei hun, i adael y byd i gael ei le,-os nid y penaf, eto gadewch iddo gael ei le priodol,―ond gofelwch am i grefydd fod yn mlaenaf ar bob achlysur, canys chwi a adwaenoch neb a ddywedodd, Fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf, a'm dirmygwyr a ddirmygaf.' Yr ydych yn gofyn am ran yn ein gweddiau, fy anwyl ferch, a chwi a gewch hyny ddydd a nos, ond yr wyf yn gobeithio na bydd i chwi byth attal gweddi ger bron Duw eich hun; gwybydded eich hystafell am eich hymdrechiadau gyda Duw.

Wyf, fy anwyl blant,
Eich tad,
EBENEZER RICHARD.



Tregaron, Chwefror 21, 1837

FY ANWYL NED,
Derbyniasom yr eiddoch a ddyddiwyd y 9fed, gyda llawer o hyfrydwch; yn y rhan flaenaf o ba un y dangoswch bryder canmoladwy mewn perthynas i iechyd eich rhieni. Diolch i Dduw, y gallwn ddweud am eich hanwyl fam,<ref>Cyfeirio y mae yma at ddamwain a ddygwyddodd i Mrs. Richard ychydig fisoedd cyn hyn, sef tori ei braich.
ei bod cystal ag erioed. Mewn perthynas i mi fy hun, er fy mod yn teimlo llawer iawn o gysgadrwydd ac iselder, eto yr wyf yn gallu dal i fynu yn rhyfeddol. Y mae eich cynnyg caredig i anfon ychydig draethodau (pamphlets) yn foddlonol iawn i mi. Nid rhaid i chwi ond cofio'r ddiareb, I'r newynog pob peth chwerw sydd felus.' Nid oes dim ond newyn i gael yn Tregaron am lyfrau. Byddai y briwsion oddiar fyrddau Llundain yn wledd yma. Dymunwn weled y Penny Pulpit,' os bydd yn bwysau da, tebyg i'r hyn sydd yn dyfod o Dŷ-pwys-y-brenin.<ref>Cyfeirio y mae yma at ddamwain a ddygwyddodd i Mrs. Richard ychydig fisoedd cyn hyn, sef tori ei braich.
Yr wyf yn gobeithio, fy anwyl blant, eich bod yn medru gwahaniaethu rhwng yr ûs a'r gwenith, oblegid beth yw yr ûs wrth y gwenith, medd yr Arglwydd. Yr ydwyf wedi methu yn hollol y flwyddyn hon a chael fy nghod-lyfr (pocket-book) bychan blynyddol, er fy mod yn canfod ei fod wedi ei gyhoeddi. Nid wyf wedi bod heb un o honynt yn gyson bob blwyddyn am ddeg-ar-hugain o flynyddau, ac y maent yn cynnwys cronicl ffyddlon o'm hymdrechiadau eiddil, a'm symudiadau araf i. Trwy y rhai hyn y gellwch olrhain holl deithiau a throelliadau fy mhererindod yn yr anialwch, wedi i mi gael fy ngosod i orwedd gyda'm tadau. Os gellwch gael unrhyw gyfleusdra i anfon i mi yn llogell rhyw gyfaill, naill ai'r Christian Lady's Diary, neu'r Evangelical Museum, byddai yn foddlonrwydd nid bychan.

Y mae eich bwriad i sefydlu y Gymdeithas Gristionogol Gymreig.[1] yn ddyfais ragorol, ac yn debyg o fod yn foddion i achub eneidiau. Yr wyf yn gweddio ar Dduw am iddi lwyddo. Yr oeddwn mewn gobaith i weled rhyw hanes o'r cyfarfod cyhoeddus, lle yr oeddych yn dysgwyl cynifer o wŷr enwog i fod yn bresennol i sefydlu eich cymdeithas, yn un o'r Patriots' diweddaf.

Yr wyf yn gobeithio na anghofiwch byth orsedd trugaredd a'ch Beibl. Byddwch wyliadwrus, byddwch ostyngedig, nid yn ddiog mewn diwydrwydd, yn wresog yn yr ysbryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn dyfal barhau mewn gweddi, yn enwedig dros eich tad penllwyd,

EBENEZER RICHARD.

Y mae yn deilwng o sylw, mae y llythyr hwn, yn mha un y cyfeiria mor neillduol at ddiwedd ei einioes, oedd yr olaf a dderbyniasom oddiwrtho byth; a'r llythyrau a ddanfonasom ninau mewn atebiad iddo, oedd y geiriau diweddaf yr edrychodd arnynt yn ei fywyd, oblegid darllen y rhai hyn oedd y peth olaf a wnaeth cyn myned i orphwys y noswaith o flaen ei farwolaeth.

Yr oedd iechyd Mr. Richard wedi bod yn llesghau yn raddol er dechreu y flwyddyn hon, ac y mae yn debyg nad oedd neb yn dychymygu ar y pryd y teimladau dyeithr yn erbyn pa rai yr oedd yn gorfod ymdrechu yn ystod y misoedd hyn. Mewn dydd-lyfr bychan a gadwai yr amser hwn, cawn yn wasgaredig yma a thraw amryw nodiadau byrion yn profi hyn yn amlwg, megis, Cefais lewyg trwm, Mewn dyfroedd dyfnion, dyfnion iawn, Eiddil a methedig i'r eithaf, O am nerth! Ac fel prawf ychwanegol o'r un peth, gellir crybwyll yr amgylchiad canlynol:—Yn Nghyfarfod Misol y Sir, y diweddaf yn mha un y bu yn bresennol, yr hwn a gynnaliwyd yn Lledrod, ar ol gorphen yr odfaon cyhoeddus collodd y cyfeillion olwg arno; ond wedi hir chwilio, canfyddodd ei gydymaith ffyddlon Edward Mason ef, yn eistedd wrtho ei hun yn y capel, o tan y pulpid; a phan amlygodd Mason ei syndod ar yr achlysur, atebai yntau, Yr wyf yn methu dyoddef y swn, mae yn myned trwy fy mhen yn lân.

Y mae yn amlwg fod rhyw rag-dyb gadarn wedi ymaflyd yn ei feddwl er ys misoedd, fod ei oes yn agosau at ei therfyn. Pan ydoedd yn Llundain, ychydig ddyddiau cyn ei ymadawiad, dywedai mewn cyfeiriad atom ni, Fy mechgyn bach i, ni chaf fi byth eu gweled mwy; nid oes gen' i ddim i'w wneud ond eu rhoddi yn llaw yr Arglwydd. A'r haf canlynol, pan ydoedd yn ei gyflawn iechyd yn Nghymanfa'r Bala, wrth gyfarch ei frodyr yn un o'u cyfarfodydd neillduol, gan eu hannog i ymweled â'r Deheudir erbyn Cymanfa Twrgwyn, tystiodd ei grediniaeth gref ei fod yn eu hannerch am y tro olaf byth yn y Bala. Nid oddiar rhyw ofergoeledd gwag, ebe efe, yr wyf yn dweud felly. Hon yw y flwyddyn yr wyf yn cyrhaedd yr oed yn mha un y bu fy mrodyr farw,[2] ac y mae genyf ryw dystiolaeth gref i mi fy hun mai hon yw'r olaf i minau hefyd. Ac wrth bregethu yn Tregaron ar ddydd Calan 1837, dewisodd fel ei destun y geiriau canlynol yn Jeremiah, xxviii. 16. O fewn y flwyddyn hon y byddi farw; ac yn ystod ei bregeth, sylwodd ei fod yn credu fod cyfaddasrwydd pennodol yn y geiriau hyn at ei achos ef ei hun. Yr oedd yn eithaf eglur i bawb fod ei ysbryd yn addfedu yn gyflym mewn cymhwysder i'r breswylfa nefol. Nid oedd un amser trwy ei fywyd yn talu llawer o sylw at bethau amgylchiadol y bywyd hwn, oblegid ystyriai ei hun fel peth cyssegredig i waith yr Arglwydd; ond y dyddiau diweddaf hyn yr oedd bron yn anmhosibl arwain ei feddwl i ystyried hyd yn nod pethau gwir angenrheidiol. Yr oedd agwedd gyffredinol crefydd yn Nghymru yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl; ac un arwydd galarus o adfeiliad byddai arferol o sylwi, oedd, fod cariad wedi oeri yn rhyfeddol -nad oedd dim o'r parch a'r hyfrydwch a ddatguddiai yr hen bobl wrth weled eu gweinidogion, i'w `ganfod yn bresennol, ond yn hytrach eu bod yn ystyried y derbyniad digon canolig a roddir iddynt, yn faich rhy drwm i'w ddwyn. Byddai yn arfer ymofyn gyda difrifwch mawr, i'r amrywiol weinidogion a'r cyfeillion crefyddol a gyfarfyddai gartref neu oddicartref, os oeddynt yn canfod rhyw arwyddion o adfywiad yn mhlith yr eglwysi yn un rhan o Gymru. Yr hyn oedd yn gofidio ei feddwl drymaf wrth weled amser ei ddatodiad yn nesau, oedd yr olwg a ganfyddai ar gyflwr moesol y byd; a byddai arferol o ddweud gydag ochenaid drom wrth ei wraig, A raid i fi adael y byd, Mary fach, heb weled unrhyw arwydd o wellhad arno?

Yn nechreu mis Mawrth (1837,) pennodwyd ef a Mr. John Morgan, Aber-y-ffrwd, i ymweled a'r eglwysi mewn dosparth o Sir Aberteifi, yn ol cynllun a fabwysiadwyd gan y Cyfarfod Misol. Cychwynodd oddicartref i Gyfarfod Misol Lledrod, yr hwn a gynnaliwyd ar y 1af a'r 2il o fis Mawrth; a thra yno, canfyddodd amryw o'r cyfeillion fod ei lesgedd wedi cynnyddu yn fawr; ac fel prawf ychwanegol o'i deimladau ef ei hun o'r un peth, crybwyllodd ei benderfyniad diysgog i roddi i fynu ei swydd fel Ysgrifenydd. Oddiyno aeth ef a'i gyfaill yn mlaen i'r manau appwyntiedig, hyd oni ddaethant y dydd Llun canlynol i Dwrgwyn, ac yno pregethodd am y tro olaf byth yn yr un pulpid lle y terfynodd ei gyfaill enwog y Parch. Ebenezer Morris ei weinidogaeth yntau. Ei destun oedd Act. xxiv. 16.

Cysgodd y noswaith hono yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, Mr. Samuel Morris, lle yr achwynai ei fod yn teimlo llesgedd anarferol. Aeth oddiyno dranoeth i Salem, lle y bu yn cynnal cymdeithas neillduol, gyda golwg ar ddyben ei daith. Dylasai, yn ol ei gyhoeddiad, fyned yn mlaen dydd Mercher i Blaen-annerch, at yr un gorchwyl, ond yr oedd ei natur wedi suddo i'r fath raddau, fel y barnodd y byddai yn fwy doeth iddo ddychwelyd adref, ac yn ol y penderfyniad hwn ymadawodd ef a Mr. Morgan, oddeutu deg o'r gloch boreu dydd Mercher, o Blaenwern, cartref ei ferch, a chyrhaeddasant Dregaron oddeutu saith o'r gloch yn y prydnawn. Er fod y daith hon yn agos i ddeg-ar-hugain o filldiroedd, daliodd yn siriol heb gysgu, ac ymddiddanai yr holl ffordd â Mr. Morgan. Ond rhywle ar y daith sylwodd, Y mae fy oes i yn mron terfynu. O nac ydyw, Mr. Richard bach, meddai Mr. M., ni a'ch cawn am flynyddau eto; nid wyf fi yn gweled pen neb yn dyfod i'r golwg i gymeryd eich lle.

Ar ol ei fynediad i'w dŷ, gofynodd Mrs. R. iddo os ydoedd yn sâl. Nac wyf, ebe yntau, ond fy mod yn teimlo yn llesg, a'r cwsg yn fy mlino, a thrwy hyny yn barnu bod yn well i fi ddychwelyd adref. Ar ol iddo gymeryd ychydig luniaeth, fel yr ydoedd ei ferch ieuangaf yn sefyll gerllaw iddo, dywedodd, Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith; a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon i'w ffordd.' Nid yw hyny ddim llawer o gamp, goelia' i.

Ar ol darllen dau lythyr oddiwrthym ni o Lundain, aeth i'w wely; a phan aeth ein mam i'r ystafell ar ei ol, yn mhen rhai oriau, yr oedd yn ymddangos yn cysgu yn esmwyth. Yn nghylch chwech o'r gloch boreu dranoeth, trwy lawer o lafur, llwyddodd ei wraig a'i ferch i'w ddeffro, i'r dyben o roddi iddo ryw foddion meddygol ag yr oedd ei fab hynaf wedi ei annog yn daer i'w cymeryd yn y llythyr a ddarllenasai y nos o'r blaen; ac wedi eu cymeryd, dywedodd wrth Mrs. Richard, Rho lymaid o ddw'r i fi i lyncu ar eu hol. Gofynodd hithau os mynai ychydig yn ychwaneg, atebodd yntau, Myna'; a byth mwy ni chlywyd un sill o'i enau anwyl. Pan gyfododd ein mam, gadawodd ef mewn cwsg trwm; ac wedi i'r teulu orphen eu boreufwyd, aeth ei ferch i'r ystafell i edrych os ydoedd wedi deffro, ond gwelodd yn fuan wrth sylwi ar ei wyneb fod rhyw gyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle, oblegid yr oedd gwedd ddyeithr arno. Galwodd ar ei mam i ddyfod i fynu yn ddioed, a thra yr oeddynt yn sefyll oddiamgylch ei wely, yn mhen oddeutu chwarter awr, darfyddodd anadlu.

He set as sets the morning star, which goes
Not down behind the darkened west, nor hides
Obscured among the tempests of the sky,
But melts away into the light of heaven.'


Dydd Mawrth canlynol (yn ol ei ddymuniad ei hun) cymerwyd ei gorph yn gyntaf i'r capel, lle y traddodwyd dwy bregeth ar yr achlysur gan y Parchedigion John Jones, Llanbedr, ac Evan Evans, Aber-y- ffrwd, oddiwrth 2 Sam. iii. 38, ac 2 Tim. i. 10; ac yna gosodwyd ef i orwedd yn mynwent Tregaron.


Y mae'n debyg y bydd rhai o'n darllenwyr yn dysgwyl ar ddiwedd yr hanes hon ryw ymgais i osod ger eu bron ychydig ddifyniad yn mhellach o'r priodoliaethau mwyaf nodedig yn nghymeriad Mr. Richard. Hwyrach y barna rhai fod yn anhawdd i ni gyflawni y gorchwyl hwn gyda'r didueddgarwch a'r cywirdeb gofynol, a diau y bydd eu barn i ryw raddau yn uniawn. Y mae cariad yn edrych ar ei wrthddrych trwy gyfrwng tebyg i wydr lliwiog, yr hwn a dafl ei wawr ysblenydd ei hun ar ba beth bynag a ganfyddir trwyddo. Ond eto y mae mantais fawr i gyrhaedd gwybodaeth fanol a gwirioneddol o gymeriad mwyaf tufewnol unrhyw berson gan y rhai sydd wedi bod yn byw mewn cyfrinach agos a mynwesol âg ef, ac wedi cael cyfle i sylwi arno yn yr oriau hyny pan y mae dynion yn arfer ymollwng eu hunain i'w hagweddau a'u tymherau mwyaf naturiol, yn mynwes eu teuluoedd eu hun. Ond os tybia neb ein bod wedi tynu darlun rhy deg a gwenieithus, yr ydym yn dra dilys yn ein cred y derbyniwn faddeuant parod oddiwrth bawb ag oeddynt yn adnabyddus o'r gofal, y tynerwch, a'r cariad difesur a didrai a ddangosai Mr. R. bob amser tuag at ei blant.

Y peth mwyaf nodadwy mewn perthynas i alluoedd meddyliol (intellectual faculties) Mr. Richard, oedd amrywiaeth rhyfeddol ei ddoniau. Nid mynych y gwelwyd dyn mor gyflawn, ac yn meddu y fath gymhwysderau i bob rhan o'r gwaith gweinidogaethol. Cymaint oedd cyflymdra a pharodrwydd ei feddwl, fel yr ydoedd yn gallu ymgymeryd â phob gorchwyl a ddeuai o'i flaen, gyda medrusrwydd ac effeithioldeb na ragorid arnynt yn fynych. Am ei gynneddfau fel pregethwr, nid rhaid i ni helaethu, oblegid y mae miloedd yn fyw yn mhob rhan o Gymru a allant dystio i effeithiau grymus ei weinidogaeth, yn addysgu'r deall, yn cynhyrfu'r gydwybod, ac yn enwedig yn agor ffynnonau serchiadol y galon, yn troi'r graig yn llyn dwfr, a'r gallestr yn ffynnon dyfroedd. Yn y cymdeithasau neillduol, pa un ai yn yr eglwysi ai yn mhlith ei frodyr, tywynai ei alluoedd gyda thanbeidrwydd nodedig, oblegid yr oedd i raddau hynod wedi ei gyfoethogi mewn pob ymadrodd, ac yn meddiannu yr hyn a elwir gan y Saeson, the faculty of extempore speaking, neu'r gallu i lefaru yn ddi-ragfyfyr, yn mron uwchlaw neb a adnabuom erioed. Cymaint oedd bywiogrwydd a ffrwythlondeb ei feddwl, fel y synai ei gyfeillion yn fynych, trwy draddodi areithiau hir a hyawdl ar ba destun bynag a gyfodai yn ddamweiniol yn y gwahanol gyfarfodydd.[3] Oddiar y gallu hwn i lefaru yn ddi-ragfyfyr, yr oedd hefyd ei ddawn hynod ac anarferol mewn gweddi yn tarddu. Mor rymus a diammheuol yn fynych ydoedd y dylanwadau a ddiscynent ar feddyliau dynion pan y byddai yn ymdrechu gyda Duw mewn gweddi, nes y byddai y bobl annuwiolaf yn y lle yn gorfod gwaeddi wrth fyned ymaith,

Yn wir, yr oedd Duw yn y lle hwn.

Mewn medrusrwydd at amrywiol achosion yr Ysgolion Sabbothol, ac yn enwedig, fel holydd cyhoeddus, mae'n ddilys yr addef pawb a'i hadwaenai na bu ei ail yn Nghymru,[4] ac i'w glywed ar un o'r achlysuron hyn oedd un o'r pethau mwyaf effeithiol ag y gallasai y meddwl dynol fod tano; a mynych pan y caffai rwyddineb yn y gorchwyl hwn, ymddangosai effeithiau treiddgar ac anorchfygol tu hwnt i ddychymyg. Ei galon ef a gyffroai, a chalon y bobl, megis y cynhyrfa prenau y coed o flaen y gwynt.

Ei ddeheurwydd fel trefnwr holl achosion amgylchiadol y corph, sydd deilwng o sylw pendant. Yr oedd cariad at reoleidd-dra yn rhan o'i natur. Yr oedd hyn yn ymddangos yn yr oll a wnai. Teimlai yn anned- wydd oddieithr fod pob peth yn ei le, ac yn ei amser priodol; ac yn ol y tueddiad hwn, pan y galwyd ef i'r swydd o Ysgrifenydd i'r Gymdeithasiad (Association) yn y Deheudir, dygodd yn fuan yr hyn oedd o'r blaen yn gymmysgedd annhrefnus, i fod yn gyfundraeth weddaidd a chyson; ac yr oedd yr holl beirianwaith yn gweithredu gyda'r tawelwch a'r rhwyddineb per- ffeithiaf, oherwydd y gofal a'r medrusrwydd diball oedd yn dirgel-lywyddu ei holl ranau a'i ysgogiadau tufewnol.[5] Achosai y swydd hon yn nghyd a'r gwahanol swyddau eraill a gyflawnai, lafur a phryder dirfawr a pharaus, ac nid ychydig o draul.

Yn y cyfarfodydd neillduol yr oedd ei bresennoldeb a'i gynnorthwy o werth dirfawr i'r gwahanol eglwysi y byddai arferol o ymweled â hwynt. Yr oedd y wybodaeth fanol a threiddgar oedd ganddo o'r natur ddynol, yn ei alluogi i ddeall cymeriadau dynion gyda'r fath gyflymdra, fel y canfyddai yn ddioed yr hyn oedd gymhwysiadol at y gwahanol amgylchiadau a osodid ger ei fron;` a lluosog yw yr hanesion digrif a adroddir gan ei gyfeillion mewn perthynas i'r dull cywrain yn mha un y byddai yn dyrysu, ac yn gorchfygu cecraeth rhyw wrthwynebwyr cyndyn. Os byddai rhyw ddyryswch neu anhawsdra yn mherthynas i weinyddiad y ddyscyblaeth neu drefniadau allanol yr achos yn cyfodi mewn unrhyw fan, cyfrifai ei frodyr mae eu doethineb penaf oedd ei gyrchu ef yno yn ddioed.[6] Nid mynych y methai efe trwy yr undeb medrus o wroldeb a llarieidd-dra a ymarferai i ddwyn yr achos i benderfyniad boddlonol i bawb. Yr oedd yn mhell o geisio traarglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond eto yr oedd efe yn llefaru megis un ag awdurdod ganddo.[7] Yr oedd efe bob amser yn caru ymddwyn at ddynion fel creaduriaid rhesymol, ac yr ydym yn cofio yn dda yr ymadrodd a ddefnyddiodd un tro pan fynegwyd iddo am ymddygiad traws a gormesol rhyw wr swyddol yn un o siroedd y Deheudir, O——'——," (gan grybwyll enw y person ddwy waith drosodd,) nid dyna fel y mae trin dynion. Y mae arnaf ofn os â yn mlaen fel hyn, y gyr ef y swch yn swmbwl. Yn hyn yma y mae'r Wesleyaid yn Lloegr wedi ei cholli, bwlian dynion,―y gweinidogion yn myned yn ormod o feistri. Ni chymer dynion ddim o'u trin fel hyny y dyddiau hyn.'

Wrth ymdrin â phrofiadau ysbrydol, dangosai dynerwch a deheurwydd mawr; fel meddyg medrus, cymhwysai y feddyginiaeth at amgylchiadau y claf. Yr oedd ei dduwioldeb personol ef ei hun[8] mor nodedig, fel yr oedd yn berffaith adnabyddus o holl ddirgelion y bywyd ysbrydol, a'r « Arglwydd Dduw a roddes iddo dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol.

Nid oedd un amser yn amcanu at gael yr enw o fod yn dduwinydd mawr, trwy gyfansoddi rhyw bregethau dyfnion a gorchestol iawn, y rhai a ofynent lafur mawr i'w hamgyffred. Y mae yn amlwg nad oedd hyn yn cyfodi oddiar ddiffyg gallu at y cyfryw orchwyl, oblegid byddai weithiau (ac y mae yn ddiau genym fod ar gof gan rai o'n darllenwyr y cyfryw achlysuron) yn dwyn allan gyfansoddiadau a brofent yn amlwg y medrai ymaflyd â braich cawr yn y pynciau mwyaf dyrys, a thrin mewn dull meistrolaidd ac eglur, ie, dyfnion bethau Duw hefyd. Y mae yn wir nad oedd cyfansoddiad naturiol ei feddwl yn ei ogwyddo i ymdwrio llawer i mewn i ddirgelion athrawiaethol crefydd, oblegid tueddiad greddfol ei feddwl ef oedd dianc o blith yr anhawsderau hyn, trwy gymeryd iddo adenydd dychymyg a serch ysbrydol, ac ehedeg ymaith megis eryr tua'r wybr, lle yr hoffai ymddigrifo yn mhelederau Haul y Cyfiawnder. Ond y mae yn ddiammau ei fod yn ymochel a'r dirgeledigaethau hyn oddiar y grediniaeth wreiddiol oedd yn ei feddwl, nad oedd y cyfryw weinidogaeth yn debyg o fod yn fuddiol i'r gwrandawyr, oherwydd nad oedd gymhwysiadol at raddau gwybodaeth a grym cynneddfau y cyffredinolrwydd o ddynion. Nid mynych y bu un erioed yn fwy parod i anghofio ei glod ei hun, yn ei awyddfryd i gadw mewn golwg ddyben mawr pregethu; a diau y gallasai, gyda golwg ar y pwnc hwn, fabwysiadu geiriau'r Apostol, Yn yr eglwys gwell genyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dyeithr;[9] ac fel canlyniad i hyn gellir sylwi, i'w weinidogaeth fod yn llwyddiannus anarferol; ac ychydig iawn o'i gydoeswyr a fuọnt yn offerynol i ddeffroi cynifer o'u gwrandawyr i ystyried eu diwedd.[10] Ond y mae yn ddiau mae yr hyn oedd yn hynodi cyfansoddiad meddyliol Mr. R. yn fwy na dim, ydoedd nerth a bywiogrwydd ei ddychymyg (imagination.) Oddiar ei feddiant o'r gynneddf hon i'r fath raddau, tarddai y deheurwydd hynod a feddai i gyfleu ei feddwl trwy gyfrwng cyffelybiaeth a dammeg. Ymddangosai ei ddychymyg fel rhyw ystordŷ cynnwysfawr, i ba un yr ydoedd wedi casglu holl gyfoeth y greedigaeth allanol, o'r nefoedd uchod, a'r ddaear isod, a'r dwfr tan y ddaear, i'r dyben o'u defnyddio fel cyfryngau i egluro dirgelion teyrnas Dduw. Ac yn ganlynol, wrth areithio ymddangosai fod y cydmariaethau (illustrations) mwyaf cyfaddas a chyffrous at ei law bob amser, yn barod i'w defnyddio, yn debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen. Y mae yn ddiau genym fod llawer o'n darllenwyr yn cofio yn dda y dull medrus ac effeithiol yn mha un y byddai yn arwain ei wrandawyr, un i'w faes ac arall i'w fasnach, i'r dyben o eglurhau iddynt, trwy y gwrthddrychau mwyaf cynefin i'w meddyliau, y (pethau a berthynent i'w heddwch. Trwy y gallu hwn, yn nghyd a dwysder angerddol ei deimladau, yr ydoedd yn meddu goruchafiaeth berffaith ar serchiadau ei wrandawyr.[11] Y mae yn ddiammau na bu un areithiwr galluog ac effeithiol erioed heb fod ei hun yn ddyn o nwydau bywiog a thanllyd, ac yn medru teimlo yn ddwfn yn gyntaf yr hyn a draddodai i eraill. Mor wir ydyw geiriau y bardd Rhufeinig, fod yn rhaid i'r sawl a fynont gyffroi eraill, i deimlo yn gyntaf y cyffroad eu hunain; ac nid mynych y gwelwyd dangosiad mwy eglur o eirwiredd y rheol a nodir ganddo, nag a eglurid yn araethyddiaeth Mr. R.[12]

Mewn perthynas i'w gymdeithas gyfrinachol, nid llawer a gawsant fantais i ffurfio barn gywir am dano, oherwydd yr oedd hyn o neillduolrwydd yn perthyn i'w dymher naturiol, ei fod yn hynod o ochelgar rhag ymddiried Hawer cyn adnabod cymeriadau y rhai yr ymddiddanai â hwy. Y mae'n debyg fod yr adnabyddiaeth oedd ganddo o ddyn, wedi dysgu iddo nas gallasai yn ddiogel wneuthur cyfaill mynwesol o bob cydymaith achlysurol a gyfarfyddai ag ef; ac yn enwedig y gweddai i ddyn cyhoeddus fod yn ofalus rhag agor ei feddwl yn rhy barod i bob dyhiryn eofn ag y byddai ysfa arno i ymlusgo i'w gydnabyddiaeth, i̇'r dyben o wneud adroddiad ymffrostgar drachefn o'i farnau a'i ddywediadau. Achosai hyn weithiau ymddangosiad o afrwydd-der ac anhynawsedd yn ei ymddygiad at ddyeithriaid, yn enwedig os byddent fel yn honni hawl i ryw beth mwy na'r moesgarwch cyffredinol a ymarferir rhwng dyeithriaid. Ond pan y byddai yn mhlith cyfeillion ag yr oedd ganddo gyflawn ymddiried ynddynt, ymollyngai i ymddygiadau rhydd a syml fel plentyn. Yr oedd ynddo lawer o'r digrifwch chwareugar hyny ag a ddangosir yn gyffredin gan y dynion o'r meddyliau cryfaf, pan y byddont yn ymollwng oddiwrth eu gorchwylion difrifol; ac ar rai achlysuron yr oedd hyn yn dyfod i'r golwg mewn modd hynod ddifyrus pan yn mhlith ei deulu ei hun. Ymddigrifai yn fawr yn nedwyddwch a llawenydd ei blant, a chyfranogai i'r eithaf yn mhob cellwair chwareugar a diniweid a gymerai le yn eu plith, gan ofalu bob amser i gefnogi y gwanaf a'r ieuangaf, ac, o byddai angenrheidrwydd, i'w gynnorthwyo hefyd i ennill y fuddugoliaeth.

Dylem nodi yn bendant y graddau uchel ydoedd wedi gyrhaedd mewn sancteiddrwydd personol. Yr oedd tymher gyffredin ei feddwl yn hynod o ysbrydol. Yr oedd yn amlwg fod myfyrdodau sanctaidd yn cartrefu yn ei feddwl, ac nid megis pererinion yn y tir, neu fel ymdeithydd, yn troi i letya dros noswaith; a mynych y clywid saeth-ymadroddion sobr yn murmur ar ei wefusau, fel pe buasai yn dal cynnadledd ddirgel â'r preswylwyr nefolaidd hyn oedd yn trigo yn ei fynwes. Yn wir y mae lle i gasglu na threuliai nemawr funudau (yn enwedig yn y rhanau olaf o'i ocs) na byddai ei ysbryd yn crwydro at y pethau ni welir, oblegid yr oedd ei ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd, ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. Ond nid oedd o'r un farn a'r dynion da hyny sydd yn ei theimlo yn ddyledswydd arnynt i anffurfio eu hwynebau, a chwyn-leisio â'u gyddfau, i'r dyben o brofi eu hysbrydolrwydd tumewnol; eithr yr oedd yn cyfrif fod duwioldeb gyda boddlonrwydd, a sirioldeb hefyd, yn elw mawr.

Yr oedd yn hynod wyliadwrus drwy ei holl fywyd am ddangos grym ei egwyddorion trwy fuchedd sanctaidd a dichlynaidd; ac yn ei ymarweddiad, cymaint oedd ei ofal i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd, fel y byddai ei fanylrwydd a'i eiddigedd drosto ei hun ar rai achlysuron yn ymddangos yn hollol annealladwy i blant y byd hwn, y rhai sydd yn ddoeth yn eu cenhedlaeth; ac yr oedd yn anmhosibl iddo ymadaw a'r byd â geiriau mwy cymhwys ar ei wefusau, na'r rhai a ddefnyddiodd fel ei destun diweddaf, Ac yn hyn yr ydwyf fi yn ymarfer fy hun, i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion yn wastadol.

Dylid sylwi mewn modd neillduol ar amrywiaeth a helaethrwydd ei lafur. Dros lawer o'i oes byddai yn teithio amryw filoedd o filldiroedd bob blwyddyn, mewn cysylltiad â gwahanol achosion crefyddol. Byddai yn gyffredin, tra pharhaodd yn ei gyflawn nerth a'i iechyd, yn arfer pregethu dair gwaith yn y dydd am amryw wythnosau yn ol-yn-ol, heblaw y gwahanol ddyledswyddau cysylltiedg â'r weinidogaeth, megis cynnal cyfarfodydd eglwysig, gweinyddu'r ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, holi yr ysgolion yn gyhoeddus, &c.

Pan gartref byddai ei ddwylaw yn llawn, oblegid, heblaw ei fod yn cael ei alw yn barhaus i weinyddu i'r eglwys gartrefol a'r eglwysi cymmydogaethol, yr oedd y gorchwylion oedd yn treiglo arno fel Ysgrifenydd y Gymdeithasiad, Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir, ac Ysgrifenydd y Sunday School Union dros y Deheudir, yn nghyd a swyddau eraill, a gynnaliai yn difrodi ei amser, ac yn treulio ei nerth, i raddau na ddichon neb ddychymyg ond y rhai sydd yn gynefin â'r cyfryw ymrwymiadau. Byddai llythyrau o bob math, ac oddiwrth bob math o bersonau, yn cael eu pentyru arno. Yr oedd yn ymddangos fel pe buasai pawb yn tybied fod ganddynt hawl i ollwng eu saethau papur ato ef fel rhyw nod cyhoeddus. Os byddai rhyw un wedi derbyn, neu yn dychymygu ei fod wedi derbyn, unrhyw ormes yn ngweinyddiad y ddyscyblaeth; os byddai rhyw fasnachwr wedi dyoddef anghyfiawnder oddiwrth un o aelodau y Trefnyddion Calfinaidd; os byddai gan ryw un feirniadaeth ddysgedig i'w wneuthur ar gymeriad personol gweinidog, neu gyfansoddiad cyffredinol y corph; os byddai gan neb gweryl yn erbyn neb, nid oedd dim i'w wneuthur ond anfon yn uniongyrchol i Dregaron, heb feddwl dim fod yr hyn oedd yn cyfoethogi trysordy'r brenin yn ardreth drom ar wrthddrych eu gohebiaeth. Rhoddir cyn diwedd y gwaith hwn daflen gywir o lafur a theithiau Mr. Richard, wedi ei chasglu o'r cof-lyfrau a gadwai efe trwy'r amrywiol flynyddau o'i weinidogaeth. Gallasem ychwanegu un dosparth arall yn y daflen, ond efallai ei fod yn ddoethach i ni yn bresennol ei gadw yn ol. Ond cymerwn yr hyfdra i sylwi na fuasai'r dosparth hwnw o honi yn un anrhydedd i eglwysi y Trefnyddion Calfinaidd. Yr ydym yn cwbl gredu nad oedd hyn yn cyfodi oddiar ddiffyg parch tuag ato, neu o herwydd nad oeddynt yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth, ond oddiar hen drefn ac arfer a ddylasent gael eu cyfnewid yn mhell cyn hyn. Nid oes dim yn fwy sicr, na bydd ond ofer i'r Trefnyddion Calfinaidd rhagllaw i ddysgwyl y bydd i ddynion o ddoniau a dysgeidiaeth aros yn eu plith, oni chanfyddant rwymedigaeth y ddeddf a sefydlwyd gan Ben mawr yr eglwys mewn perthynas i weinidogion y gair, Oblegid felly yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl, fyw wrth yr efengyl.

Efallai na chyfrifir ein gwaith yn gyflawn heb i ni nodi rhyw gymaint yn mherthynas i'w farnau fel duwinydd. Ni byddai hoff o gynniwair yn fynych tuag at yr ymylau peryglus hyny ag ydynt yn ffinio y wybodaeth eglur a roddwyd i ddynion yn nghylch dirgelion teyrnas nefoedd, oblegid yr oedd wedi canfod cymaint o ffolineb dynion yn ymgiprysu â'u gilydd yn y tywyllwch, mewn perthynas i bynciau nad oedd na'r naill na'r llall yn deall dim yn eu cylch. Yr oedd yn dal yr athrawiaeth a elwir yn gyffredin Calfiniaeth, ond nid yn yr ystyr hyny ag sydd yn arwain i Antinomiaeth; a chan ei fod yn gwybod yr anhawsderau o ddyfod i benderfyniad cadarn a hyderus mewn perthynas i lawer o fanwl-bynciau cysylltiedig â phob cyfundraeth, yr oedd yn medru ymarfer hynawsedd tuag at rai nad oeddynt yn gallu cydweled âg ef ar bob pwnc. Mewn gair, nid oedd dim a fynai ef âg athrawiaeth anffaeledigrwydd.

Nid oedd yn caru ymyraeth ond ychydig âg achosion gwladol, ond yr oedd ei farn yn eithaf penderfynol o blaid rhyddid, yn yr ystyr helaethaf o'r gair. Yr oedd gormes o bob math yn ei gynhyrfu yn ddirfawr, ac nid oedd dim a hoffai yn fwy na gweled gorthrymwyr, neu bleidwyr y cyfryw, yn cael eu fflangellu gan hyawdledd digllon cyfiawnder. Fel engraifft o'i deimladau ar y pynciau hyn, gellwn grybwyll yma yr ymddiddan canlynol a glywsom rhyngddo ef a gwr arall, yn ystod ei ymweliad diweddaf yn Llundain. Ryw ddiwrnod, wrth fyned trwy Smithfield gyda'i wraig a'r gwr rhag-grybwylledig mewn cerbyd, sylwodd Mr. R. wrth ei wraig, Dyma'r fan, Mary fach, lle y merthyrwyd llawer o'r hen dduwiolion. Ie, ebe'r gwr oedd gydag ef, ond y mae yn amser braf arnom ni yn awr. Ydyw, ebe yntau, y mae yn well yn ddiau, ond y mae llawer o erledigaeth eto. Beth mae dynion yn feddwl wrth y Toleration Act? Dim ond ein tolerato ni y maent hwy eto. O ffei! ffei! goddef dynion i addoli Duw yn ol eu cydwybod.

Nodiadau

[golygu]
  1. Cymdeithas a sefydlwyd ar yr 16 o fis Chwefror yn y flwyddyn hon (1837,) i'r dyben o ymweled ac ymgeleddu y miloedd o Gymry tlodion ac anystyriol sydd yn preswylio yn Llundain; a bydd yn llawenydd gan lawer o'n darllenwyr ddeall, fod y gymdeithas, yn ol dymuniad Mr. Richard, wedi bod eisoes yn dra llwyddiannus.
  2. Y Parchedigion Ebenezer Morris a David Evans.
  3. Fel engraifft o hyn, gellir cyfeirio at y cyfarchiadau cyhoeddus a fyddai arferol o draddodi yn y Cymdeithasiadau (Associations,) i'r dyben o gydnabod caredigrwydd a mwyneidd-dra trigolion y cymmydogaethau yn mha rai y cynnelid y cyfarfodydd hyn. Mor ddengar a boneddigaidd oedd ei areithyddiaeth ar yr achlysuron hyn, fel y byddai yn swyno serchiadau pob math o wrandawyr; ac fel y dywedwyd yn un o'r pregethau angladdol a draddodwyd ar ol ei farwolaeth, Dewisid ef yn wastad i dalu diolch i gyfeillion achos Duw am eu caredigrwydd yn lletya, &c., ac fe wnai hyny nes y byddai lluaws tref yn crychneidio o lawenydd.—Parch. William Morris.
  4. Collodd yr efengyl un o'r pregethwyr mwyaf hyawdl a melus ya yr oes. Profwyd hi o'r enau, nid fel gair dyn, ond fel gwir air Duw, ya aml. Collodd yr Ysgol Sabbothol yr holiedydd goreu ar dir Cymru i gyd: daeth llawer o'r nefoedd i waered i'r ddaear pan fyddai ef gyda'r gwaith hwn."-Pregeth Angladdol gan y Parch. J. Jones, Llanbedr, oddiwrth 2 Sam. iii. 38. Gwel Pregether, Cyl. II. tudal. 123.
  5. Pe buasai byw yn yr oesoedd gynt, cawsai ei gyfrif yn un o dadau yr eglwys. Pwy fel efe i drefnu achosion y gwaith mawr yn ein plith? ac fel cyflawnwr amryw orchwylion neillduol dros y corph ac ydoedd yn gwasanaethu iddo, ni chaed neb fel efe. Fel Ysgrifenydd y Gymdeithasiad, yr ydoedd heb ei fath. Yr ydoedd gan Dafydd frenin Jehosaphat yn gofiadur a Sadoc yn ysgrifenydd; ond mi feddyliwn nad oeddynt ill dau yn nghyd ddim cymaint a'n Ebenezer ni. Y pethau a drinid yn sathredig, efe a osodai bob aelod yn ei le, ac a ddarllenai y sylwadau yn y Gymdeithasiad nesaf, nes y byddai pawb wedi cael cyflawn daliad am eu trafferth i deithio i'r lle. Hyderaf y ceir y blwch, a'i osod yn yr argraff-wasg, nes y gwasgarer ei ber-aroglau dros holl derfynau yr iaith Gymraeg.—Pregeth Angladdol, gan y Parch. William Morris, Cilgerran, oddiwrth 2 Sam. iii. 38.
    Pa le y gallwn edrych am neb i lanw ei le yn ein Cymanfaoedd Chwarterol trwy holl Ddeheudir Cymru i gyd? Gwasanaethodd yno lawer o flynyddau yn ffyddlon, addfwyn, a doeth, yn hynod o ddiddolur i'w holl frodyr. Beth a wnawn am un tebyg iddo i lywyddu Cyfarfodydd Misol y Sir hon? Braw sydd arnom yr â y llestr yn erbyn y graig, wedi colli ein llywydd medrus a doeth yn y cwbl, pethau amgylchiadol ac ysbrydol y gwaith. Pa fodd bellach y gallwn gynnal cyfarfodydd blynyddol, a haner-blynyddol, a dau-fisol yr Ysgolion Sabbothol? Byddai efe yn gymhorth mawr i'r rhai hyn. Pwy a gawn i drin pethau dyrys ac anhawdd yn yr eglwysi?.... Er fod y diwygiad Methodistaidd, yr hwn a ledaenodd trwy holl Gymru, wedi dechreu cyn ei eni lawer o flynyddoedd, gwelodd yr Arglwydd fod yn dda wneud defnydd amlwg o hono i sefydlu a gosod llawer o bethau yn eu plith a fyddant mewn ymarferiad parchus ganddynt, fel y mae lle i obeithio a chredu, lawer o amser ar ol i ei gorph falurio yn y bedd. Gallaf ddywedyd iddo ragori yn fawr yn hyn ar bawb o'i gydoeswyr. Llawer o ol ei ddoethineb a'i fedrusrwydd sydd ar gymanfaoedd y corph, ac ar Gyfarfod Misol y Sir hon yn neillduol,-ar y teithiau Sabbothol, ac ar yr holl bethau perthynol i'r Ysgol Sabbothol. Nis gallwn edrych ar ddim bron perthynol i'r achos, nad oes ol ei lafur ef arno; a sicr y gallwn ddywedyd iddo gael doethineb a help gan yr Arglwydd i roddi cerbyd mawr yr achos ar ben llwybr da, a fu lwyddiannus hyd yn hyn.—Pregeth y Parch. John Jones.
  6. Byddem yn teimlo gwendid i fyned at un peth o bwys heb ei bresennoldeb ef gyda ni; carem gael ei feddwl am bob addoldy cyn ei adeiladu, derbyniad pobl ieuanc i'r weinidogaeth, a dewisiad holl swyddogion eraill yn yr eglwys.—Pregeth y Parch. John Jones.
  7. Edrychai ei frodyr arno, ac ymddygent tuag ato, fel llywydd doeth arnynt, a bugail ordeiniedig iddynt; ac fel y cyfryw yr oedd efe yn deall deddfau Zeion yn dda, a phob amser yn eu gweinyddu hwynt yn ysbryd yr efengyl. Yr oedd egwyddorion gorfodaeth gyda phethau crefydd yn hollol groes i'w olygiadau ef; barnai mai naturiol ffrwyth y cyfryw orfodaeth ydyw rhodres a rhagrith, yr hyn sydd ffiaidd gan yr Arglwydd. Pan fyddai rhyw achos tan sylw, a gwrthwynebwyr iddo gerllaw, ac yntau yn ystyried yn ddyledswydd arno i bleidio y peth, dygai fedrusrwydd anghyffredinol i'r maes i'w drin, a'i droi, a'i drosi, er ei osod allan yn y lliw goreu a thanbeidiaf.—Parch. J. Phillips, Treffynnon. Gwel Cronicl yr Oes, Ebrill 1, 1837.
  8. Pwy a gawn ar dir mor uchel mewn profiad o bethau ysbrydol a chymdeithas â Duw ac efe, yn alluog i alw ar ei frodyr, ' Dringwch i fynu yma?—Pregeth y Parch. John Jones.
  9. Yr ydym yn cofio clywed un gweinidog ieuanc yn adrodd gyda llawer o addfwynder a digrifwch yr awgrym (hint) a dderbyniodd unwaith ar y pwnc uchod oddiwrth Mr. Richard; yr hwn hefyd a ellir edrych arno fel engraifft o'r dull cynnil a chwareugar trwy ba un yr arwyddai yr hyn oedd yn ei farnu yn feius yn mhregethau ei gyfeillion ieuainc. Yr oedd y gwr y cyfeiriwn ato wedi bod yn pregethu yn Tregaron, ac mewn un rhan o'i bregeth wedi ymsuddo yn dra phell i rai o'r dyfnderau hyn. Wedi dychwelyd i'r ty, pan yr oedd pawb eraill wedi ymadael, Yr oeddwn i, meddai Mr. R., gan gyfarch ei wraig, yn hoffi yn fawr y sylwadau ymarferol yn niwedd y bregeth a glywsom heno, oblegid yr oeddwn inau yn deall y rhai hyny.
  10. Ei lwyddiant hefyd ydoedd yn fawr iawn. Mae yn gwestiwn a fu neb yn y blynyddoedd diweddaf hyn yn fwy yn llaw Duw i ddeffroi eneidiau nag efe. Byddant yn goron ac yn ogoniant iddo pan ymddangoso y Pen-bugail. Cafodd hwn eneidiau yn wobr am ei waith.—Parch. William Morris.
  11. Gellid meddwl wrth wrando arno, ei fod wedi astudio cyfansoddiad y greedigaeth resymol hyd at berffeithrwydd, a bod holl dannau y meddwl dynol wedi eu gosod tan lywodraeth ei fysedd ef, i'w chwareu a'u trin yn ol ei ewyllys ei hun, a'i fod wedi ei bennodi yn frenin ar deimladau meibion dynion.—Parch. John Phillips.
  12. Non satis est pulchra esse poemata: dulcia sunto:
    Et quocunque volent animum auditores agunto
    Ut ridentibus arrident, ita flentibus adflent
    Humani vultus. Si vis me flere, dolendum est
    Primum ipsi tibi.—Hor.