Cân yr Hen Filwr
← Ar Drothwy Mileniwm Tri | Cân yr Hen Filwr gan Robin Llwyd ab Owain |
Olion Traed → |
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Bedol, Ionawr 2000. Y bardd oedd Cadeirydd Gwyl Glyn Dwr, Rhuthun, Medi 2000. Hefyd yn Golwg, Awst 9, 2001.
Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. |
(Wrth gofio ymosodiad Glyn Dwr ar Ruthun, 600 mlynedd yn ol ar 18 Medi 1400. A gweithredu mwy diweddar.)
Yn y gwddf mae lleuad gwyn,
Yn ei olau: hen elyn.
Mae ofn yn ffrind, mae ofn ffrae
Yn ddychryn rhag ei ddechrau,
Mae ofn yn crafu'i lofnod
 drain y bedd drwy ein bod.
Dwn i'm pam, ond dwi'n ama'
Mai ofn yw 'ngwallt gwyn, mae iâ
Ionawr yn brigo 'ngwyneb
Un fin nos, a fina'n neb.
Ofni'r cariad fflamadwy.
Ofni fi fy hun yn fwy...
Di-iaith fu'r cyfan, di-dân!
Ond mae meirch yng Nghoed Marchan.
Yn fy nghledd: diwedd pob dau,
Yn fy nghleddyf: angladdau!
Yn llaw Duw mae lleuad wer
Medi yn fflam o hyder!
Glyn Dwr y galon darian
Ar ei daith - a'r byd ar dân!
Yn ei law mae'r genedl hon!
Rhesi asur o Saeson
O'i flaen yn syrthio fel haidd
A'r bore mor farbaraidd.
Ogla mwg a wylo mam
Yn erlid pawb ar garlam,
Swn gwreichioni, swn crio
A'r cynfyd i gyd o'i go'
Yn un rhuthr ar Ruthun.
Yn y gwddf mae lleuad gwyn.
Ynom roedd Cymru, enyd,
Yn dan gwyllt, yn węn i gyd,
Yn senedd, gweddi a gwin,
Yn draeth o flodau'r eithin,
A mor o haul Cymru Rydd
Yn iau na lleuad newydd...
Un gwawn o ofn sydd gen i
Y gallwn rywdro golli
Hyn o haf. Daw gaeafau...
Yn y cof mae drws yn cau.
Yna dim ond niwlen dew,
Estron, lladron a llwydrew...
Un winc o haul sy'n y cof -
Un funud mor fyw ynof!
A Glyn Dwr y galon deg
Yn rhyddid ym mhob brawddeg
Siaradwn. Hwn oeddwn i.
Hwn a'i gannwyll yw'n geni.
Gwyliwch! Fe dreulia'r golofn.
Bum inau'n iau'n byw mewn ofn.
Heno, ofni fy hunan:
Y dim mwy, y tywod man...
Hyn yn gyfan dwi'n gofio...
A fflamau cudd ffilm y co'
Yn węn...
... ac roeddwn yno...