Caed ffynnon o ddŵr ac o waed
Gwedd
← Calfaria fryn! mae f'enaid prudd | Caed ffynnon o ddŵr ac o waed gan Morris Davies, Bangor |
Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd → |
387[1] "Ffynnon i Bechod ac Aflendid."
88. 88. D.
1.CAED ffynnon o ddŵr ac o waed,
I olchi rhai duon eu lliw;
Ei ffrydiau a redodd yn rhad
I'r ardal lle'r oeddwn yn byw :
Er cymaint o rwystrau gadd hon,
Grym arfaeth a'i gyrrodd ymlaen,
I olchi tŷ Ddafydd o'r bron,
Jeriwsalem hefyd ddaw'n lân.
O gasgliad 1af Morris Davies, Bangor
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 387, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930