Caed trefn i faddau pechod

Oddi ar Wicidestun
O! iechydwriaeth fawr Caed trefn i faddau pechod

gan William Williams (Gwilym Cyfeiliog)

O'r nef mi glywais newydd

297[1] Trefni faddau Pechod.
73. 73. 7773. 73.

1 CAED trefn i faddau pechod
Yn yr Iawn:
Mae iechydwriaeth barod
Yn yr Iawn:
Mae'r ddeddf o dan ei choron,
Cyfiawnder yn dweud, Digon!
A'r Tad yn gweiddi, Bodlon !
Yn yr Iawn;
A Diolch byth, medd Seion,
Am yr Iawn.

2 Yn awr hen deulu'r gollfarn,
Llawenhawn;
Mae'n cymorth ar Un cadarn,
Llawenhawn:
Mae galwad heddiw ato,
A bythol fywyd ynddo ;
Ni chollir neb a gredo,
Llawenhawn;
Gan lwyr ymroddi iddo,
Llawenhawn.


William Williams (Gwilym Cyfeiliog)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 297, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930