Calon lân

Oddi ar Wicidestun
Calon

Mae Calon lân yn un o emynau mwyaf cyfarwydd yr iaith Gymraeg. Fe'i hysgrifenwyd gan Daniel James (Gwyrosydd) (1848–1920). Mae'n emyn rhif 780 yn y llyfr emynau cyd-enwadol Caneuon Ffydd.

Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau man,
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân

Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos,
'Does ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos

Pe dymunwn olud bydol,
Chwim adenydd iddo sydd:
Golud calon lân rinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd

Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd can
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi imi galon lân.