Can newydd, o berthynas i'r rhyfel a'r terfysg sydd y pryd hyn tros ran fawr o'r byd

Oddi ar Wicidestun
Can newydd, o berthynas i'r rhyfel a'r terfysg sydd y pryd hyn tros ran fawr o'r byd

gan John Morgans

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Teitl



CAN NEWYDD,

&c. &c. &c.




CAN NEWYDD,

O. BERTHYNAS I'R

RHYFEL A'R TERFYSG.

SYDD Y PRYD HYN

TROS

RAN FAWR O'R BYD.



Gan JOHN MORGANS.



Mesur MARGARET FWYN.



LLUNDAIN:

ARGRAFFWYD, AC AR WERTH, GAN

VAUGHAN GRIFFITHS,

(No. 22,)

VERE-STREET, CLARE-MARKET, 1794.

Lle argraffir pob Iaith gyda Gofal neillduol.


CAN NEWYDD,
O BERTHYNAS I'R,
RHYFEL, &c.

PA beth yw'r terfysg sy' ar y llawr
Yn aflonyddu'r ddaear fawr,
Sôn am ryfelodd fydd yn awr,
Rhai creulon iawn y'mhell!
Byddino maent o hyd achlan,
Dan ennyn beunydd fwy o dân,
O hyll ddigllonedd giaidd gân,
Heb argoel grân fod gwell.

Cenfigen, afradlondeb, pyd,
Anghariad mawr a balchder byd,
A rhei'ny wedi d'od ynghyd,
Yn gwaeddu'n uchel iawn:
Amryw ddialedd ddaeth i lawr
I losgi a ffuro Ewrop fawr
Oddiwrth y sothach fydd yn awr;
Anmhuredd mawr yn llawn.


Mae uchelwyr byd a'r gwerin certh
Mewn hyll bechodau'n myn'd yn serth,
A gwrthod yr efengyl ferth,
'Sy'n gwaeddu'n uchel iawn:
O dowch a throwch, ynfydion rai,
A'r gwatwarwyr, rhag ofn trai,
Gadawed pob rhyw radd eu bai,
Cyn del dialedd llawn.

Rwy'n ofni bod rhyw gwyn, yn wir,
Rhwng yr Arglwydd Dduw a'n tir,
Ac y tery cyn bo hir
Drwm ergyd ar ein caer!
Am hynny, anwyl Israel, clyw,
Bydd barod iawn i gwrdd a'th Duw,
Efe ei hun dy frenin yw,
Gweddia arno'n daer.

Doed pob trigolion gwlad a thre
I difarhau fel Ninife;
Can's pwy a wyr na ddensyn ê
Ryw nodded etto i lawr:
Er dued yw'r cymylau draw,
A'r swn, a'r terfysg mawr, a'r braw,
Gobeithio bod y dydd ger llaw
Y tywyna'r nefol wawr.


Pabyddiaeth greulon 'n awr y sydd
Yn colli tir o ddydd i ddydd;
Pob Cristion byw na fydded brudd;
O gwel fath arwydd glân;
Canys mae'n rhaid i Babel fawr
Yn ddychrynedig gwympo i'r llawr;
Prysyred Duw y ddedwydd awr
Yr el hi lawr yn lân.

Pryd hyn llewyrcha'r hyfryd wawr
Y gorfoledda nef a llawr,
Wrth weled barnu'r buttain fawr,
A'i dial 'n awr yn bod.
Breninodd daear mawr eu bri,
Yn wylo wrth wel'd ei dial hi,
A'r seintiau'n gorfoleddu sy,
Ac ufudd roddi clôd.

Rhyw angel cryf a ddaeth o'r nef,
Dan grochfloeddio ag uchel lef;
Syrthioedd Babel fawr, medd ef,
Hli aeth yn dref i ddiawl.
Cadwriaeth Sattan tua ei was,
A ffob aderyn aflan cas,
A yfodd win ei goflyd flas. Wa
A droir i maes o'i hawl.


A chwithau'r dynion gafodd râd,
O dowch yn llwyr o honi yn gâd,
Rhag eich colli wrth brofi brad
A'i dial addas hi.
A ffoi fel y llofryddion gynt,
Yn mrig y coed mae fwn y gwynt,
I'r noddfa 'r elo pawb a'r hynt,
Fel hyn bo'n helynt ni.

I'r ddinas lân fy a'i muriau gyd
Yn ddiysgogiad er y llid,
Sy' gan elynol ryw trwy'r byd;
Hi bery o hyd yr un.
Mae pawb fy'n byw'n y ddinas hon
Yn anorchfygol oll o'u bron,
Mae ganddynt achos fod yn llon
Yn mhob helbylon blin.

Rhaid ydyw i ryfelodd fod,
A son am ryfel, garw nôd,
Cyn bo diwedd mawr y rhod,
A dydd gollyngdod mawr.
Er goddef galar dros brydnawn,
Fe'n gwneir ni oll yn foddlon iawn,
Rhyw amser gorfoleddus cawn,
A bore llawen wawr.


Yn awr, tra paro goleu'r dydd,
Gweddiwn oll a chalon brudd,
Am ini gael ein rhoddi'n rhydd,
Rhyw hyfryd ddydd a ddaw.
Mae melus fwn rhyw dyrfa fawr
Yn feinio yn fy nghluftiau 'n awr,
Ar fyr difgleiria'r hyfryd wawr,
Rhyw newydd mawr a ddaw.

Cenedlodd pell o eitha'r byd,
Iddewon hen a ddo'nt ynghyd,
Pob lliw, pob iaith, fydd o'r un fryd,
O barthau'r byd fy bell:
I addoli yr un Brenin mawr,
Cynnaliwr nefodd faith a'r llawr,
'Ddwy 'n disgwyl yma gael yn awr,
Un newydd mawr fo gwell.

Bod llwyddiant i'r Efengyl lân,
Dan orchfygu a myn'd achlan,
Er gwaethaf dwfr a ffoethder tan
Hi garia'n lan y dydd.
Y gareg aiff yn fynydd mawr,
Nes llenwi conglau daear fawr,
Maluria hi'r aur, dysgleiria ei gwawr,
Haiarn, arian, pres a ffridd.


Ac yno'r aiff cenedlodd byd,
I dy'r Arglwydd yn un fryd,
A llechant yn ei fonwes glyd,
A gwyn eu byd hwy'n awr.
Fe dorir y cleddyfau'n wir
I wneuthur fychau i rwygo'r tir,
A'r waew-ffon yn bladur hir,
I dorri'r gwair i lawr.

O Sion draw y rhua ef,
O Gaersalem y rhydd ei lef,
Y Nefodd fawr a'r ddaear gref,
A grynant oll o'u bron:
Ond ef, yr Arglwydd Dduw dilyth,
Fydd gobaith ei holl weision byth,
Ac ynddo ef, gadarnaf nyth,
Bydd meibion Israel lon.

Meddiannwch eich eneidiau glân,
Yn eich amynedd, fawr a mân,
Nag ofnwch derfysg dwfr na thân,
Nag unrhyw daran gref;
Ond rhedwn oll i hollti'r graig,
Can's ffyddlon iawn yw'r Oen i'r wraig,
Ni ad e'i drygu gan un ddraig;
Cadarnaf noddfa ef.


Yn y sefyllfa roddes Duw,
O fewn terfysglyd fyd in' fyw,
Byddwn gyfiawn o bob rhyw,
A ffyddlawn yn ein dydd.
Ymddarostynged pawb trwy'n gwlad,
I bob dynol ordinhâd,
A rhoddwn barch, bydd er llefhâd,
I'r llywodraeth fydd.

Mae Duw'n 'wyllysio is y rhod,
In' rodio'n addas er ei glod,
I ostegu'r terfysg fy yma'n bod,
Trwy anwybodaeth mawr;
In' barchu a rhoi pawb o'n blaen,
A charu y brawdoliaeth glân:
Ofnwch Dduw, rhowch barch ar gân,
I'r Pen fy' yma 'n awr.

Duw gadwo'n Brenin rhag pob brad,
Na chaffo dyn mewn tref na gwlad,
Wneuthur iddo ond lieshâd,
Ef tan ein Tad fo'n ben;
A'i gynhysgaethu â rhadau nef,
Y gaffo pawb o'i deulu ef,
Mi wedaf innau ag uchel lef,
AMEN, AMEN, AMEN.




DIWEDD.

Nodiadau[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.