Caniadau'r Allt/Allt y Widdon

Oddi ar Wicidestun
Mab y Môr Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Y Tylwyth Teg


ALLT Y WIDDON.

Uwchben yr afon Ddwyfor,
Tan rwyllog fwa'r coed,
Ymgudd hen ogof wgus
Na ŵyr yr hyna'i hoed;
Ac yn yr ogof honno
Y nythai gwiddon gynt,
Pan oedd y derw mawr yn fes
Melynlliw yn y gwynt.

Ei gwallt oedd fel y muchudd,
Uwch cernau fel y cwyr;
A thân ym myw ei llygaid
Fel dreigiau yn yr hwyr:
Nid oedd mo'i bath am adrodd
Cyfrinion melys, mud;
Hi wyddai am ofergoel serch,
Ac am obrwyon brud.

Ac ati dôi cariadau
Liw nos, o lech i lwyn,
I brynu ei daroganau
A gwrando'i thesni mwyn;
O fwth a llys y deuent
Ag arian yn eu llaw;
Er ofni'r allt a rhithion nos,
Ni allent gadw draw.

A hithau'r widdon gyfrwys,
A throell ei thafod ffraeth,
A nyddai wrth ei mympwy
Eu ffawd, er gwell a gwaeth:

Hi welai'wŷr' yn dyfod
O bob rhyw liw ac oed;
A llawer morwyn' wisgi, wen,
Na aned moni erioed.

Ni wn am ba sawl blwyddyn,
Na pha sawl oes y bu
Yn dweud ei chelwydd goleu
Yng ngwyll ei hogof ddu;
Ond hysbys oedd ei henw
Ar lafar gwlad a thref;
Ac ofnai'r gwan ei melltith hi
Yn fwy na barnau'r nef.

Beth ddaeth o'r wrach felynddu
Ni ddywaid coel na lên;
Ond darfu'r sôn am dani,
Ac am ei gwg a'i gwên:
Ni wybu neb ei marw,
Ni chlybu neb ei chri;
Ond weithiau cwyd drychiolaeth hen
O'r llynclyn yn y lli.

}

Nodiadau[golygu]