Caniadau'r Allt/Cainc y Cysegr

Oddi ar Wicidestun
Cainc yr Hen Delynor Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Rhisiart Llwyd


CAINC Y CYSEGR.

Molwn Di, O Dduw ein tadau,
Uchel ŵyl o foliant yw;
Awn i mewn i'th byrth â diolch,
Ac offrymwn ebyrth byw:
Cofiwn waith Dy ddwylaw arnom,
A'th amddiffyn dros ein gwlad;
Tithau, o'th breswylfa sanctaidd,
Gwêl, a derbyn ein mawrhâd.

Ti â chariad Tad a'n ceraist
Yn yr oesoedd bore draw;
O dywyllwch i oleuni
Y'n tywysaist yn Dy law:
Cawsom Di ym mhob cenhedlaeth
Fel Dy enw'n gadarn Iôr;
Cysgod gwell na'r bryniau uchel,
Ac na chedyrn donnau'r môr.

Cudd ni eto dan dy adain,
A bydd inni 'n fur o dân;
Tywys Di ein tywysogion,
Megis cynt, â'th Ysbryd Glân:
Par i'n cenedl annwyl rodio
Yn Dy ofn o oes i oes;
Gyda 'i ffydd yng Ngair y Cymod,
Gyda'i hymffrost yn y Groes.

Nodiadau[golygu]