Caniadau'r Allt/Cyfarch Dwyfor

Oddi ar Wicidestun
Cân y Gŵr Llwm Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Y Sipsiwn


CYFARCH DWYFOR.

O tyred, fy Nwyfor,
Ar redeg i'r oed,
Fel gynt yn ieuenctid
Ein serch dan y coed:
A'th si yn yr awel,
A'th liw fel y nef,
O tyred o'th fynydd,
Dof innau o'm tref.

Mi'th gerais, fy Nwyfor,
Ym more fy myd,
Wrth wrando dy dreigl
Ar raean y rhyd:
Aeth bwrlwm dy ddyfroedd
I'm henaid byth mwy,
Nes clywaf di 'n galw
Lle bynnag y bwy.

Pe bawn yn aderyn
A'm hadain yn hir,
A chennyf fy newis
O nentydd y tir,
Ar helyg dy dorlan
Y nyddwn fy nyth,
Ac nid awn o olwg
Dy ferwdon fyth.

Fy hoffedd yw dyfod
Ar redeg i'r oed,
Dan brennau dy elltydd
A hoffais erioed;

Ac eistedd ar bwys
Ambell hirfaen a phren,
A geidw fy enw
Mewn cof dan eu cen.

Hiraethaf am danat
O aeaf hyd haf,
Fel am un fo annwyl,
A'm calon yn glaf:
Gwyn fyd y ddau fychan
A gwsg[1] yn dy si—
Fy mrawd bach, a'm chwaer fach,
Nas gwelais i.

Nodiadau[golygu]

  1. Ym mynwent Llanystumdwy.