Caniadau'r Allt/Dafydd ap Gwilym i Forfudd
← Hen Fwynderau | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Belgium → |
DAFYDD AP GWILYM I FORFUDD.
I
Ofuned f'awen! Forfudd deg dy lun-
O'm cân a'm serch yn afrad gwnaethost fi,
Ac eiddof galon Dafydd; deliaist hi
Ym magl dy wallt o fanaur. O fy mun,
Nid tecach neb o'th ryw ond Mair ei hun :
Bid gennyt dostur bellach! na wahardd
Un wên, oleuloer f'enaid, er dy fard
A'th gâr mewn breuddwyd nos ac ar ddihun,-
Neu ynteu Duw faddeuo it dy fai,
Os Cynfrig gadd dy galon minnau'r groes
O'th golli, Morfudd, 'r ol dy garu cyd.
Boed fel y bo, dy fardd ni'th gâr yn llai
Wrth fynd yn hen, a gwybod er ei loes
Mai ffalsa'r galon po diriona'r pryd.
II
Chwaer wenlliw'r waneg! Forfudd deg dy ael,
Na omedd im, atolwg, olwg hedd;
I'th brydydd serchglaf, tegwch bro dy wedd,
A thlws dy wallt fel llwyn o lewych haul :
Cywyddais lawer it, ferch Ifor Hael,-
Ni wn a oes aderyn yn y fro
Na bu yn llatai atat ar ei dro-
Gwae fi, fy merch, os seithug fydd y draul!
Ond Dafydd a'th gâr hwyaf; ie hyd
Aeafnych henaint: tan y llwyni crin
Cywydd diwedda' i awen fydd i ti,
Ac enw'i Forfudd, er mewn erw fud,
A fydd yn amlaf, olaf, ar ei fin.