Caniadau'r Allt/Fel Doe

Oddi ar Wicidestun
Rhwng Dwy Ffair Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Hiraeth


FEL DOE.

Eisteddai ar fainc yr aelwyd,
A'i phwys ar ei cheinciog ffon;
A minnau yn sôn am famau
Hiraethus y ddaear hon.

"Nid yw ond fel doe," medd hithau,
Er pan oeddwn fam fy hun;
A'm plentyn fel hwn yn hoyw,
A swyn yn ei lais a'i lun."

"Dwy flynedd rhy fyr, rhy felys,
A gefais i siglo 'i grud:
Mae'i forthwyl, a'i bais fach sidan,
Dan glo yn y gist o hyd."

"Mi welais ei roi yn yr amdo,
A dydd Sul y Pasg oedd hi;
Mae trigain mlynedd er hynny,
Ond nid yw ymhell i mi."

Cusenais ei ddwylo gwynion,
A'i wefus fach oer, ddi wên—
A gofid ei chalon ieuanc
A leithiodd ei dwyrudd hen.

Nodiadau[golygu]