Caniadau'r Allt/Fy Nhad

Oddi ar Wicidestun
Yn yr Ing Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

O wynfyd Serch, O ddolur Serch


FY NHAD.

Caewch ei lygaid ag ysgafn law,
Ofer yw disgwyl y wên ni ddaw :
Ni chwarddant mwyach, ni wylant chwaith,
Ond rhoddwn fy nhrysor pe gwnaent un waith:
Nid oedd eu mwynach gan neb trwy'r wlad,
'Roedd serch a ffraethineb yn llygaid 'nhad.

Croeswch ei ddwylo, mor oer, mor wyn,
Ni buont mor segur erioed â hyn:
Os ydynt yn eirwon, na welwch fai,—
Ni fynnwn fod arnynt un graith yn llai :
Gweithiwr oedd ef, ac nid perchen 'stad,
Cynefin â dolur oedd dwylo 'nhad.

Caewch ei ddeufin, fel deuros gwyw,
Gweddio a wnaethant ola'n fy nghlyw;
Carent weddio, a gwn pe caent,
Mai dyna yn gyntaf o ddim a wnaent:
Erioed ni roisant un gusan frad,
Gwefusau pur oedd gwefusau 'nhad.

Cuddiwch ei wyneb anfarwol dlws
A napcyn o sidan, cyn cau y drws;
Rhaid yw ei ado heno ei hun—
Nid oes dan yr amdo ond lle i un:
Ond na ddywedwch mai marw yw—
Os siomir fy serch, nid cariad yw Duw.

1902.

Nodiadau[golygu]