Caniadau'r Allt/Yr Alltud

Oddi ar Wicidestun
Belgium Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Dos


YR ALLTUD.

Mae beddrod bychan, unig,
Yn erw fud fy nhref;
A llanc o Lydaw bell a gwsg
O dan ei laswellt ef.

Ni thaenir blodau arno
Ond gan y ddraenen wen;
Ac ni bu mam na mun erioed
Yn wylo uwch ei ben.

Wrth gofio'r llanc penfelyn,
Daw dŵr i'm llygaid i—
Wrth gofio'r llanc, a chofio'r llong
Aeth hebddo dros y lli.

A yw ei gwsg mor felys
A phe'n ei henfro'i hun?
Ai ynte mud freuddwydio mae
Am serch ei fam a'i fun?

Un peth a wn, pe gwyddai
Fod calon Ffrainc yn ddwy,
A bod y gelyn yn ei thir,
Na hunai ddim yn hwy.

1915

Nodiadau[golygu]