Neidio i'r cynnwys

Caniadau'r Allt/Yr Hufen Melyn

Oddi ar Wicidestun
Llys fy Mabandod Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Ymson Mam


YR HUFEN MELYN.

Er caru'r fun yn fwy nag un, ni fedrwn
Mo ddweud fy serch na gofyn am ei llaw;
At feudy'r coed ei stôl dri throed a ddygwn
Bob dydd, wrth nôl ei buchod oddidraw:
Ac fel y doent dan chwarae gylch ei chunnog,
Eu rhwymo wnawn yn ddwyres o dan do;
Dwyres dirion o forynion, duon, brithion, tecaf bro,
O borfa fras y weirglodd las feillionnog,
A Gwen yn godro'r deuddeg yn eu tro.

Ar fis o haf, pan o'wn yn glaf o gariad,
Mi glywn y gog yn canu yn y llwyn:
A daeth i'm bryd ei bod yn bryd im siarad
Am wneud fy nyth, fel pob aderyn mwyn:
Eisteddai Gwen gan fedrus, fedrus odro,
A chanu uwch ei stên yr hen Ben Rhaw;
Minnau'n gwrando, ac yn gwrido, a phetruso'n hir o draw,
Swyn serch ei hun oedd yn ei llun a'i hosgo,
A'r buchod wrth eu bodd o dan ei llaw.

Eu trin a wnaeth a hel y llaeth i'w phiser,
Cyn imi wybod sut i dorri gair;
O fewn fy mron mi deimlwn don o bryder,
A dim ond un diwrnod hyd y ffair:
Ond Gwen a droes, gan wrido fel fy hunan,
Ac uwch yr hufen melyn gwyn fy myd;
Cefais felys win ei gwefus, wedi ofnus oedi cyd,
A rhoes ei gair y cawn cyn ffair ŵyl Ifan
Roi'r fodrwy ar ei llaw, a newid byd.

Nodiadau

[golygu]