Neidio i'r cynnwys

Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Alice

Oddi ar Wicidestun
Llinellau priodasol Griffith Owen a Maggie Evans Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Yr Aderyn Bach

ALICE.

ALICE anwyl a swyna—fy enaid;
Yn fynych fe 'i mola;
Ior doeth drwy gymeriad da
Uwch adwyth a'i gwarchoda.

Deuddeg oed! Ha, diddig awr—yw heddyw
Heb gystuddiol dymawr;
Drwy ei hoes caed yn drysawr
O ras mwyn yr Iesu mawr.

Eiddunaf am ddaioni—i Alice,
Heb helynt na chroesni;

Rhag cwyn a blinder cyni
Arbed Ior ei bywyd hi!

Drwy fy enaid erfyniaf—i rinwedd
Ei chlaerwynu'n dlysaf:
Iddi yn nerth, caed nawdd Nâf—yn helaeth,
A diwedd alaeth a fo 'i dydd olaf!


Nodiadau

[golygu]