Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Anerchiadau Barddonol
Gwedd
← Caniadau Barlwydon Llyfr 1 | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Cynwysiad → |
ANERCHIADAU BARDDONOL.
BARLWYDON; baril o hadau—iachus
Luchia dy GANIADAU;
Yma i ddolydd meddyliau
I dyfn ŷd i'w fwynhau.
Ydlan dawn yn llawn lluniaeth—saigabwyd
Leinw 'i 'sgubor helaeth;
Dewch i'w nol cewch fuddiol faeth
A cheirchen at eich archwaeth.
—ISALLT.
BRI leda i BARLWYDON—yn gnydiog
O'i Ganiadau tlysion;
Gwefrol hwyl ei gyfrol hon
Wna'r rhydlyd wên yn rhadlon.
—ALAFON.
TYRED, Ddarllenydd tirion,—yma cei
Emau cân BARLWYDON;
Er dy les, O! mor dlysion
Yw gemau 'r glir Gymraeg lon.
Hardd gyfrol o ddetholion—o feddwl
Foddia ben a chalon;
Addawaf i feirdd ëon
Fwnau o aur o fewn hon.
—DYFED.