Neidio i'r cynnwys

Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Breuddwydion Ieuenctyd

Oddi ar Wicidestun
Dot (Ci bach y Bardd) Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Llinellau priodasol Griffith Owen a Maggie Evans

BREUDDWYDION IEUENCTYD.
(Y Gerddoriaeth gan Mr. Wilfrid Jones, R.A.M., Wrexham.)

COFIAF y bwthyn yn nghanol y coed,
A'r llethrau lle cerddais i gyntaf erioed;
Cofio'r chwareuon wnai i ddwndwr y byd
A'i chwerwon ofidiau ymgolli i gyd.

Cofio'r wyf hefyd gerddoriaeth y berth,
A rhuad diflino'r hen geunant du, serth;
Cofio y dolydd a'r bryniau bob un,
A'r miloedd adgofion sydd wrthynt yn nglyn.

Tegan'r ol tegan ollyngai fy llaw,
A theimlais fod amser pwysicach im' draw;
Teimlwn fy meddwl yn deffro o'i hün,
Proffwydais mod inau i ddyfod yn ddyn.

Gwelwn gyfandir yn agor o'm blaen,
Yn fyd o ddedwyddwch heb ynddo un draen;
Awyr ddigwmwl broffwydwn pryd hyn,
A heirdd lwybrau esmwyth heb groesi un glyn.

Ar gysgodleni dyfodol fy oes
'Roedd llwyddiant digymysg heb gystudd na chroes;
Cestyll godidog a welwn draw, draw,
Y man y cartrefwn ryw amser a ddaw.


Breuddwyd fu'r cyfan, yn groes bu pob cam,
Heddyw'rwy'n unig, heb dad ac heb fam:
Yn yr anialwch y crwydraf yn brudd,
Dagrau hiraethus a olchant fy ngrudd.

Er y blinderau'rwy'n llawn o fwynhad
Wrth geisio canu alawon fy ngwlad.


Nodiadau

[golygu]