Neidio i'r cynnwys

Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Dyfodiad y Gwanwyn

Oddi ar Wicidestun
Bedd-argraff Mr Thomas Jones Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Y Bay of Bisgay

DYFODIAD Y GWANWYN.

CYDGANU wnawn ag ysgafn fron,
Fe ddaeth y gwanwyn tyner llon,
Mae'r blodau'n gwenu'r fynyd hon.
O amgylch bŵth fy nhad.
Mae'r gwcw ar y pren yn canu, canu, canu.
A'r heulwen yn y nen yn gwenu, gwenu, gwenu,
Mae hyn yn wir fwynhad.

Ar lethr y bryn chwareua'r wyn,
Perora'r adar yn y twyn,
A llawn prydferthwch yw pob llwyn
Ar foreu'r gwanwyn gwyn.
Mae'r meillion ar y ddôl dan berlau, berlau byw,
A chor y goedwig werdd sy'n adsain ar ein clyw,
Ar ddyffryn dôl a bryn.

O swynol, swynol wanwyn hardd,
Prydferthu'r wyt bob bryn, a gardd,
Ac enyn wnei mewn ysbryd bardd
Lawenydd a mwynhad.
Cydunwn gyda hwyl i ganu, ganu, ganu,
Mae anian ar bob llaw yn gwenu, gwenu, gwenu,
Am ddoniau Duw yn rhad.


Nodiadau

[golygu]