Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Hir a Thoddaid—Yr Haf
Gwedd
← Hir a Thoddaid—Tawelwch | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Beth fydd y Bachgen hwn? → |
Hir a Thoddaid: "YR HAF."
A DEG hinon yw'r Haf gyda'i geinwedd,
Ennyd ddwg ini gnydau ddigonedd;
Swyn a gwir felus seiniau gorfoledd
Leinw y frodir sydd lawn hyfrydedd:
Mor a thir sydd yn mhyrth hedd—ca myrdd Ion,
Weled rhagorion Ei hael Drugaredd,