Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Llinellau bedd-argraffyddol am Scorpion
Gwedd
← Llinellau cyfarchiadol i R. Owen | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Anerchiad i Gymrodorion Blaenau Ffestiniog → |
LLINELLAU BEDDARGRAFFYDDOL,
Am y diweddar Barch. T. Roberts, (Scorpion), Llanrwst.
YMA yn isel rhoed cymwynasydd,
Wr a rodiai yn bur i'w Waredydd;
Diwyd gweithiasai, ymboenai beunydd;
Yn was bu ini—ddyfal esbonydd,
Ei enw'n ddifarw fydd;—a'i deithi—
Athraw o yni a doeth athronydd.