Neidio i'r cynnwys

Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Bwthyn yn nghysgod y Bryn

Oddi ar Wicidestun
Awdl "Mam" Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Llinellau cyfarchiadol i R. Owen

Y BWTHYN YN NGHYSGOD Y BRYN.

'RWY'N cofio pan oeddwn yn blentyn
Am lanerch wrth odrau y coed;
Lle gwelais deg flodau y gwanwyn
Yn gwenu'r tro cyntaf erioed;
'Rwy'n cofio cerddoriaeth y ffrydiau
Ddisgynent hyd lethrau y glyn.
Mwy swynol i mi na'u per nodau,
"Yw'r bwthyn yn nghysgod y bryn.".

Eisteddais ar eithaf y dyffryn,
Myfyriais ar bethau a fu;
A llithrai adgofion diderfyn
I'm meddwl wrth edrych bob tu.
Ond acw i'r fangre lle'm ganwyd,
Fy llygaid a syllai yn syn;
Mewn hiraeth am weled hen aelwyd
"Y bwthyn yn nghysgod y bryn."

Ti ddyffryn lle treuliais fy mebyd,
Mae'th degwch yn aros o hyd;
Nid oes yr un cwmwd mor hyfryd
Pe chwiliwn holl wledydd y byd.

Fe welais, do, ganwaith dy ddarlun,
Yn nyfroedd tryloewon y llyn;
Rhagori ar bobpeth y dyffryn
"Wnai'r bwthyn yn nghysgod y bryn."

Distawodd y bywyd fu yno,
Mae'i gofio er hyn yn fwynhad;
A chanwn pe gallwn heb flino
I fwthyn fy mam a fy nhâd.
Ymglymu o amgylch ei furiau
Wna cadwyn fy serch yn fwy tyn;
Ond rhaid yw ffarwelio mewn dagrau
"A'r bwthyn yn nghysgod y bryn."


Nodiadau

[golygu]