Neidio i'r cynnwys

Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Ddeilen (2)

Oddi ar Wicidestun
Y Dawelnos Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Dymuniad am yr Ysbryd Glan

Y DDEILEN.

Ddeilen yn arwydd a welaf—o
Fywyd wedi gauaf;
Ei gwerdd olwg arddelaf
Flaenredydd i hirddydd haf.

Lifrai'r pren a'i ganghenau,—bywiol led
Mhlith blodion a ffrwythau;
Ac yn eu mysg yn ymwau
Ni gawn hudol ganiadau.

Eiddil yw hon—arwyddlunia—fer oes
Farwol bywyd yma;
Fe gwymp i'r bedd ddiwedd ha'
Y Ddeilen lwydwedd ola'.


Nodiadau

[golygu]