Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Gwlithyn
← Y Corwynt | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
John yn ffarwelio a'i Fam → |
Y "GWLITHYN."
(Buddugol.)
HA! Wlithyn gloew—deigryn nos
Dywalltodd hi am dad y dydd;
Dan foreu wên y wawrddydd dlos
Disgleirio megys perlyn bydd.
Os bychan yw yr huan mawr
Ymdrwsia yn ei loew ddrych,
A chyda 'i wres holl ddagrau'r llawr
Oddi ar ei gwlybion ruddiau sych.
Ar fryn a dôl—ar flodau'r ardd—
Ar ddail y coed disgleiria'r gem;
Mae'n ysbrydoli awen Bardd,
Tryloew iawn a hardd ei drem;—
Rhy hardd i aros yma'n hir,
Rhy lân i'r ddaear lychwin yw;
Y meusydd wna fel Hermon îr,
Heb hwn äi'r fro'n Gilboa wiw.
Tragwyddol ddeddf y cread mawr
A ddyry ffurf i'r Gwlithyn crwn,
A ffurf cyfangorff daear lawr
A'r bydoedd oll a geir yn hwn.
Ddiferyn bychan—hebddo ef
Ni byddai'n gyflawn gread Ior,
Fel Gwlithyn yn eangder nef
Cyll amser mewn tragwyddol for.
Fel pobpeth tlws, byrhoedlog iawn
Yw'r Gwlithyn bychan, gloew, glân,—
Diflanol megys gweoedd gwawn,
Ni ddeil tanbeidrwydd haul a'i dân.
Boed dylanwadau ysbryd Duw
I'r Eglwys yn ireiddiol wlith,—
Yn gwneuthur grasau'r saint yn fyw,
Fel Saron rộs yn heirdd ddi-rith.