Neidio i'r cynnwys

Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Yr Eneth gerais gynta' 'rioed

Oddi ar Wicidestun
Daeth yr awr Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Y Llusern

CAN:

"Yr Eneth gerais gynta' 'rioed."

YR eneth gerais gynta' 'rioed!
Am dani mae adgofion fyrdd;
'Rwy'n caru'r llanerch lle bu 'i throed
Sydd eto ar ei hol yn wyrdd.
Pan welais gynta'r wylaidd fûn
Nid ydoedd hi ond deunaw oed;
Mi hoffwn eilwaith weled llun
Yr eneth gerais gynta' 'rioed.

'Rwy'n cofio gwel'd yr eneth dlôs
A'i gwen fel gwawr y boreu gwyn,
A'i gruddiau tlysion fel y rhôs
Pan gwrddais hi ar lethr y bryn.
Ei llais oedd yn felusber iawn
Fel llais yr eos yn y coed:
Mor bur a'r awel ydoedd dawn
Yr eneth gerais gynta' 'rioed.

Ar dant fy nhelyn canaf gân
I'r eneth hon mewn nodau pur
Enillodd hi fy serch yn lân,
Nes llwyr anghofiwn boen a chur.
Mi garwn weled mebyd llon,
A chael bod eto'n ddeunaw oed
Er mwyn cael cwmni anwyl hon—
Yr eneth gerais gynta' 'rioed.


Nodiadau

[golygu]