Caniadau Buddug/Alice ar ben ei blwydd

Oddi ar Wicidestun
Heddyw ac yfory Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Mewn Beibl

ALICE AR BEN EI BLWYDD

GWENED nefoedd ar dy flwyddi,
Gwened daear ar dy daith,
Cadwed Iesu’th lwybr drwyddi,
Mewn ffyddlondeb gyda'i waith;
Rhinwedd fyddo fyth yn ieuanc,
Er i'th ddyddiau dreulio'n hen,
Yna iti hoender didranc
Dan dywyniad nefol wên.