Caniadau Buddug/Ar dderbyniad Beibl

Oddi ar Wicidestun
Blodyn Eira Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Ar dderbyniad pwysi o lilac

AR DDERBYNIAD BEIBL.

BOED ei Awdwr yn arweinydd,
Trwy'r anialwch dyrus blin;
Ei gynwysiad baro imi,
Fynych, fynych blygu glin;
A phan ddelo awr ymfudo,
Boed ei addewidion per
Yn adenydd im ehedeg
At f' Anwylyd uwch y ser.