Caniadau Buddug/Ar dderbyniad darlun

Oddi ar Wicidestun
Cysur i'r Parch Thomas Williams Gwalchmai Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Pen blwydd Olwen

AR DDERBYNIAD DARLUN CYFEILLES


MILOEDD O adgofion melus
Ddeffry yn fy mron
Wrth fyfyrio yn ddifyrrus
Uwch dy ddarlun llon;
Gwisgi dy anwyldeb cyntaf,
A'th gynhennid wên,
Ac un argoel eto welaf
Iddynt fynd yn hen.

Methodd cystudd ag edwino
Y prydferthion hyn;
Angau er dy wneyd i wylo
Dagrau uwch y glyn,
Fethodd bylu yr hawddgarwch
Yn dy lygaid mwyn,
Purdeb cywir cyfeillgarwch
Sy'n eu denol swyn.