Caniadau Buddug/Beth yw cariad?
Gwedd
← Can y Jiwbili (1887) | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Brwydr Dirwest â Bacchus → |
BETH YW CARIAD?
Beth yw cariad? Gwlithyn hawddgar
Yn tyneru calon flin;
Beth yw cariad? Cawod hyfryd
Yn adfywio llysiau crin;
Beth yw cariad? Sugndyniad,
Myn ei wrthrych iddo'i hun,
Cwlwm ydyw sy'n cysylltu
Calon dau fel calon un.
Beth yw cariad? Rhosyn siriol,
Blanwyd ym mharadwys wen,
Ar lan afon bur y bywyd,
Geidw byth i fyny'i ben :
Beth yw cariad ? Bwa amryliw,
Yn awyrgylch Cristion gwan,
Sydd yn cynnal nerth yr eiddil,
Byth i fyny ymhob man.
Beth yw cariad? Byw wreichionen
O'r hen “Filam angerddol gref;"
Afon angau byth nis diffydd,
Mae'i gyflenwad yn y nef:
Beth yw cariad? Allor, Aberth,
Iachawdwriaeth i wael ddyn.
Beth yw cariad? Beth yw cariad ?
Cariad ydyw Duw ei hun.