Caniadau Buddug/Coffa

Oddi ar Wicidestun
Neges John Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Sambo a'r bibell

COFFA.

Bu farw ynghanol y rhyfel,
Cyrhaeddodd hyd derfyn ei daith;
Cyflawnodd er hynny yn dawel
Ei neges a'i ran yn y gwaith;
Gorffwysed ei lwch yn ddigyffro,
A nofied ei enaid mewn hedd,
Daw angel ryw foreu i'w ddeffro,
Mae baner y Groes ar ei fedd.