Caniadau Buddug/Fy nosbarth

Oddi ar Wicidestun
Hafod Lon Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Cysur i'r Parch Thomas Williams Gwalchmai

FY NOSBARTH

CHWITHAU, bellach, ewch a dysgwch,
Enw Iesu Grist i'r plant;
Dyna'r addysg oreu feddwch,
Os am roi anfarwol dant;
Tant a chwery pan y syrthio,
Ser y nen yn chwilfriw mân,
Gwyn eich byd os gellwch daro,
Cydsain yn y ddwyfol gân.

Gallaf edrych yn eich wyneb,
Gwenu arnoch yn ddifraw;
Ysgwyd dwylaw mewn anwyldeb
Yn y tragwyddolfyd draw:
Cofiwch fy nghyfarfod yno,
Pan y del eich awr i ben,
Bydd yn bwysig fod yn gryno
Yn y cartref hwnt i'r llen.