Caniadau Buddug/Gwawr

Oddi ar Wicidestun
Mewn album (2) Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Cenhadwr y Morwyr

"GWAWR."

(Dyfyniad o Riangerdd)

GWAWR y bore ymagorodd,
Gwawr ar f'enaid innau dorrodd;
Gyda'r wawr y ganwyd imi
Eneth anwyl fel y lili.

Troaf tua'r Dwyrain beunydd,
Gyda diolchiadau newydd;
Swniaf fawl a'm seiniau goreu
I Greawdwr gwawr y boreu.

Fel y wawr y byddo'm geneth,
Adlewyrchu'n bur a difeth,
Gan wasgaru teg oleuni,
Fel y wawr ar ddydd ei geni.

O'r fath brydferth awgrymiadau
A gyflea y llythrennau,
Ac i gofio'r gwyn funudyn
Gwawr fydd enw'm hanwyl blentyn.